Canllawiau

Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (SD14): Agwedd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus tuag at daliadau gofal teulu (fersiwn y we)

Diweddarwyd 29 January 2024

Crynodeb

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn nodi safbwynt y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar daliadau gofal y mae dirprwyon yn eu gwneud i aelodau o’r teulu sy’n darparu gofal i rywun sydd heb alluedd meddyliol (y cyfeirir ato fel “P”).

Pwrpas a chwmpas

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn diffinio beth a olygir wrth daliad gofal teulu, a elwir weithiau’n daliad ‘gofal am ddim’. Mae’n nodi’r fframwaith cyfreithiol, awdurdod y dirprwy i wneud taliadau a barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar bethau i’w hystyried wrth gytuno ar y taliadau hyn a’u cyfrifo. Mae’n esbonio pryd y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddirprwyon geisio cymeradwyaeth i daliadau gan y Llys Gwarchod (‘y llys’) a phryd y bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried gwneud cais i’r llys ynglŷn â thaliadau heb eu hawdurdodi.

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiwygio’r nodyn hwn ar unrhyw adeg ac yn benodol er mwyn cadw’n unol â dyfarniadau newydd y Llys Gwarchod.

Mae’r canllawiau ond yn berthnasol i ddirprwyon a benodir gan y llys dan orchymyn cyllid ac eiddo. Efallai y bydd yr adran Ffactorau i’w hystyried yn ddefnyddiol i atwrneiod a benodir gan atwrneiaeth arhosol wrth gynllunio taliadau gofal.

Beth yw gofal teulu?

Mae aelodau’r teulu a ffrindiau yn aml yn darparu rhywfaint o ofal anffurfiol i P – coginio prydau, helpu gyda hylendid, goruchwylio neu fod yn gwmni, er enghraifft. Gall hyn amrywio o fod yn achlysurol a’r hyn y byddai’r aelod o’r teulu yn ei weld fel rhan o fod yn berthynas i P, i ofal rheolaidd amser llawn sy’n cynnwys sgiliau nyrsio a ffisiotherapi. Mewn llawer o achosion, mae’n well i aelod o’r teulu ofalu am P (yn achos plant, gan eu rhieni) ac mae llawer o berthnasau’n gwneud hynny heb ddisgwyl unrhyw daliad. Mewn achosion eraill, gall taliad leddfu sefyllfa ariannol y gofalwr ei hun a’i alluogi i barhau yn ei rôl gofalu.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn y gall taliadau i alluogi gofal o’r fath fod er lles pennaf P, ar yr amod bod y ffactorau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn cael eu hystyried. Pan gaiff ei reoli’n iawn, mae’n aml yn well i bawb os yw P yn cael cyfuniad o ofal proffesiynol a gofal gan aelod o’r teulu, gan wella ansawdd bywyd y teulu ar yr un pryd â darparu seibiant i’r aelod o’r teulu.

Mae’r mathau o drefniadau gofal a allai gyfiawnhau taliad gofal teulu yn cynnwys pan:

  • nad oes perthynas gytundebol rhwng P a’r aelod o’r teulu dan sylw

  • mae’r aelod o’r teulu yn darparu’r gofal oherwydd eu cariad a’u hoffter naturiol o P

  • mae’r gofal yn anffurfiol ei natur ac nid drwy ddisgrifiad swydd

  • nad oes gan yr aelod(au) o’r teulu oriau, egwyliau na gwyliau y cytunwyd arnynt yn ffurfiol

  • nid oes fawr ddim diffiniad o’r gwaith rhwng aelodau o’r teulu, neu ddim o gwbl, ac nid oes unrhyw un yn gyfrifol am sicrhau telerau cytundebol neu ddarparu gwasanaeth*

*Er enghraifft, rheolwr achos (ni waeth am unrhyw drefniadau ffurfiol sydd ar waith ar gyfer gofal proffesiynol neu ofal wedi’i reoleiddio).

Mae trefniadau mwy ffurfiol na’r rhai uchod yn awgrymu bod yr aelod o’r teulu’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol fel gofalwr, gyda hawliau cyflogaeth a chytundebol. Nid yw’r canllawiau hyn yn cynnwys trefniadau o’r fath.

Fframwaith cyfreithiol

Mae’r rhan fwyaf o orchmynion sy’n penodi dirprwy ar gyfer eiddo a materion ariannol yn rhoi awdurdod cyffredinol i reoli materion ariannol P. Fodd bynnag, cyn gwneud unrhyw daliadau teulu, rhaid i’r dirprwy ystyried dau beth:

  • A yw’r taliad sy’n cael ei awgrymu er lles pennaf P

  • A yw’r penderfyniad i wneud taliad yn gwrthdaro â dyletswydd y dirprwy i beidio â manteisio ar ei safle

Mae Adrannau 1 i 4 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi, os nad oes gan berson alluedd i wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol, yna rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad y mae rhywun arall yn ei wneud ar ran y person hwnnw gael ei wneud neu ei wneud er ei les pennaf.

Ceir rhestr wirio yn adran 4 y Ddeddf Galluedd Meddyliol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddirprwy ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol wrth benderfynu beth sydd er lles pennaf P a rhaid iddo gymryd y camau y mae’r adran honno’n cyfeirio atynt. Mae’r rhain yn cynnwys ystyried a oes gan y person alluedd i wneud neu gymryd rhan yn y penderfyniad; peidio â gwneud y penderfyniad ar sail oedran neu ymddangosiad y person yn unig; ystyried dymuniadau, teimladau a chredoau’r person yn y gorffennol a’r presennol; ac ymgynghori ag eraill lle bo hynny’n briodol, er enghraifft, y rhai sy’n ymwneud â gofalu am y person neu sydd â diddordeb yn ei les.

Mae adran 19(6) o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn datgan bod dirprwy i’w drin fel “asiant” P pan fydd yn gweithredu ar ran P. Mae bod yn asiant yn golygu bod gan y dirprwy ddyletswyddau cyfreithiol i’r sawl y mae’n ei gynrychioli. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys y dirprwy yn peidio â manteisio ar ei swydd neu

rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae eu buddiannau personol yn gwrthdaro â’u dyletswyddau. Gelwir hyn yn ‘ddyletswydd ymddiriedol’. Gall dirprwy sy’n gwneud taliadau gofal teulu iddo’i hun dorri’r ddyletswydd hon os nad oes ganddo awdurdod penodol gan y Llys Gwarchod i wneud taliadau o’r fath.

Mae’r llys wedi cyhoeddi dyfarniadau sy’n rhoi syniad o’i ddull o ymdrin â thaliadau gofal teulu, ond mae’n bwysig peidio â’u dilyn yn rhy llythrennol, gan fod pob achos yn ddibynnol ar ei amgylchiadau ei hun. Dyma’r dyfarniadau:

HC, Re [2015] EWCOP 29 (23 Ebrill 2015) (yn y Saesneg)

Yn y penderfyniad hwn, ymdriniodd uwch farnwr y Llys Gwarchod â thaliadau am ofal yn yr un ffordd ag y byddai llys yn ei wneud wrth wrando hawliad anaf personol – drwy ganiatáu cyfradd

fasnachol, gyda disgownt o 20% gan nad yw’r taliad yn drethadwy. Darparodd hefyd ar gyfer codiadau blynyddol yn unol â’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 6145 – gofalwyr a gofalwyr cartref.

A, Re [2015] EWCOP 46 (7 Gorffennaf 2015) (yn y Saesneg)

Yn y penderfyniad hwn, roedd yr uwch farnwr wedi ystyried barn dirprwy proffesiynol ac wedi canfod bod y dirprwy wedi mynd drwy’r rhestr wirio o faterion i’w hystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniad er lles pennaf.

HNL, Re [2015] EWCOP 77 (19 Tachwedd 2015) (yn y Saesneg)

Yn y penderfyniad hwn, gorchmynnodd yr uwch farnwr fod adroddiad arbenigol yn cael ei ddarparu gan reolwr achos proffesiynol ar gyfer anafiadau i’r ymennydd er mwyn gwerthuso a mesur y gofal a’r gwasanaethau rheoli achos yr oedd y dirprwy yn eu darparu i’w chwaer. Nododd hefyd nad oedd angen adolygu taliadau ymhellach tan 2022 neu tan y cyfryw amser ag y bu newid mewn amgylchiadau. Roedd hynny oherwydd y bwlch rhwng gwerth masnachol y gwasanaethau a ddarparwyd gan y dirprwy a’r taliad gwirioneddol a gafodd y dirprwy.

Gellir darllen y dyfarniadau llawn ar gronfa ddata Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon yn:

Pa un a oes angen awdurdod y Llys Gwarchod

Dirprwyon proffesiynol (y telir ffi iddynt)

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn bod dirprwyon proffesiynol, y telir ffi iddynt am eu gwasanaethau, yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch taliadau gofal teulu o dan eu gorchymyn llys. Disgwylir iddynt ddilyn yr egwyddorion a’r canllawiau yn y nodyn ymarfer hwn.

Cyhyd â bod y dirprwy proffesiynol yn gallu darparu tystiolaeth o wneud penderfyniadau er lles pennaf, ni fydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud cais i’r llys am gymeradwyo taliadau. Fodd bynnag, mewn achosion lle na ellir dod i gytundeb ynghylch swm y taliad, neu lle mae posibilrwydd o herio gan aelodau eraill o’r teulu, efallai y bydd y dirprwy proffesiynol yn dymuno gwneud cais i’r llys ei hun am gymeradwyaeth benodol i’r taliadau.

Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i’r llys am gyfarwyddiadau os yw o’r farn nad yw’r taliadau’n dilyn y canllawiau hyn ac nad ydynt er lles pennaf P. Mewn achosion eithafol, gall wneud cais i’r llys am ddiswyddo’r dirprwy.

Dirprwyon lleyg

Pan fydd dirprwy lleyg yn darparu gofal ac yn derbyn taliad, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynghori’r dirprwy i geisio cymeradwyaeth y llys i osgoi torri ei ddyletswydd ymddiriedol.

Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd ei gwneud yn ofynnol i ddirprwy lleyg geisio cymeradwyaeth y llys os yw’n talu rhywun y mae ganddo gysylltiad agos ag ef – er enghraifft priod neu blentyn – lle gallai’r berthynas agos ddylanwadu ar y penderfyniad i dalu yn hytrach na’i fod yn cael ei wneud yn wrthrychol er lles pennaf P.

Ffactorau i’w hystyried

Wrth benderfynu a yw taliadau gofal teulu er lles pennaf P, dylai dirprwyon ystyried y ffactorau canlynol:

Rhaid i’r gofal fod yn rhesymol ofynnol i ddiwallu anghenion P a bod o safon dda. Os nad yw’n siŵr, efallai y bydd angen i’r dirprwy geisio asesiad gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol. Os bu unrhyw hawliad ymgyfreitha am iawndal, dylai’r dirprwy ystyried lefel y gofal a argymhellir gan arbenigwyr yn ystod yr hawliad ymgyfreitha

Fforddiadwyedd: rhaid i’r taliadau fod yn fforddiadwy o ystyried adnoddau, oed a disgwyliad oes P. Os na ellir talu’r taliadau o incwm P, rhaid i ddirprwyon ystyried yr effaith ar gyfalaf, gan ystyried anghenion gofal P yn y dyfodol.

Rhaid i daliadau adlewyrchu’n briodol gyfraniad y teulu/gofalwr. Dylid cael tystiolaeth o sut mae’r taliad gofal wedi cael ei gyfrifo mewn perthynas â faint o ofal sy’n cael ei ddarparu. Os yw P yn blentyn ifanc iawn, dylai dirprwyon ystyried a yw’r gofal yn ychwanegol at yr hyn y byddai rhiant fel arfer yn ei roi

Rhaid darparu’r gofal mewn gwirionedd. Os nad oes angen darparu gofal dros dro, er enghraifft os yw P yn yr ysbyty, nid yw hynny’n golygu bod angen atal y taliadau, ond rhaid ystyried newidiadau tymor hir i drefniadau byw P sy’n effeithio ar faint o ofal sy’n cael ei ddarparu – er enghraifft, symud yn barhaol i gartref gofal neu drefniant byw â chymorth

Deputies should consider payments alongside the level of professional care in place, i.e., they should be necessary to supplement professional care. Payments should represent a saving on the cost of professional care.

Dylai dirprwyon ystyried taliadau ochr yn ochr â lefel y gofal proffesiynol sydd ar waith, h.y. dylai fod yn angenrheidiol ychwanegu at y gofal proffesiynol. Dylai taliadau gynrychioli arbediad o’u cymharu â chost gofal proffesiynol.

Dylai taliadau ystyried unrhyw gyfraniadau eraill y mae P yn eu gwneud tuag at redeg yr aelwyd neu dalu biliau. Efallai y bydd angen addasu’r taliadau i lawr os yw’r gofalwr yn byw yn eiddo P yn ddi-rent neu os yw’n cael incwm arall.

Dylai taliadau ystyried sefyllfa gyffredinol y teulu, er enghraifft, a oes unrhyw un mewn gwaith cyflogedig. Os oes dau riant yn darparu gofal, beth yw cyfraniad y naill a’r llall? Os oes angen dau berson ar P ar unrhyw adeg i reoli eu hanghenion, efallai y bydd angen cynyddu’r taliadau i adlewyrchu hyn

Dylid cytuno ar y taliadau drwy ymgynghori â’r gofalwr ac aelodau eraill o’r teulu, lle bo hynny’n bosibl. Mae’n arfer da ymgynghori ag eraill sydd â buddiant ym materion P er mwyn osgoi sefyllfaoedd o wrthdaro.

Cyfrifo lefel y taliad

Mae 3 cham ar gyfer cyfrifo’r taliad.

Un: Mae’r dirprwy yn ystyried a oes angen lwfans

Os yw ystâd P yn ddigonol a bod y teulu’n darparu’r rhan fwyaf o ofal, gall y dirprwy ofyn pa lwfans fyddai ei angen. Os yw’r swm yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn rhesymol o ystyried faint o ofal a ddarperir, yna gellir talu.

Dau: Mae’r dirprwy yn cyfrifo’r lwfans

Os yw ystâd P yn ddigonol a bod cryn lawer o ofal proffesiynol yn cael ei ddarparu, yna efallai y bydd y dirprwy’n dymuno cyfrifo’r lwfans gan gyfeirio at y dull gweithredu a argymhellwyd gan yr Uwch Farnwr Lush yn achos Re HC [2015] EWCOP 29. Mae hynny’n golygu cyfrifo gofal teulu drwy gymryd cost fasnachol gofal a’i leihau 20%. Mae hyn, yn ei dro, yn dilyn y dull a fabwysiadwyd gan Adran Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys i fesur penawdau iawndal mewn achosion ymgyfreitha yn ymwneud ag anafiadau personol.

Yn gyffredinol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfeirio at y cyflog fesul awr cymedrig (llai 20%) ar gyfer gofalwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) (Tabl 26.5a) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel meincnod ar gyfer cost fasnachol gofal.

Tri: Pennir y lwfans gan ystâd P

Pan fo ystâd P yn gyfyngedig, yna ni ddylai’r taliad ond adlewyrchu’r hyn y gall P ei fforddio’n rhesymol.

Wrth ystyried fforddiadwyedd, os oes taliad cyfnodol blynyddol y mae P yn ei gael fel rhan o hawliad ymgyfreitha, yna mae taliad o’r fath fel arfer ar gyfer gofal a rheoli’r achos. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cyfeirio at gyngor cwnsler ynghylch setlo hawliad am iawndal. Mae hyn yn helpu i gael gafael ar gyllideb gyffredinol ar gyfer gofal teulu pan fydd unrhyw gostau gofal proffesiynol a chostau rheoli’r achos yn cael eu dileu o’r hafaliad.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai fod y gofalwr wedi rhoi’r gorau i swydd sy’n talu’n dda i ofalu am P. Ym mhob achos heblaw’r amgylchiadau mwyaf eithriadol, barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw na fwriedir i daliadau gofal teulu gymryd lle cyflogau.

Cynnydd mewn taliadau

Yn achos re HC, a grybwyllwyd uchod, awgrymodd yr uwch farnwr fod taliadau’n cael eu cysylltu â’r mynegai, er mwyn osgoi’r angen i wneud cais dro ar ôl tro i’r llys i ail-gyfrifo lwfans gofal. Pan ystyrir bod angen cynyddu lwfans, gellir cysylltu taliadau â gwir gost gofal, fel y nodir yn yr ASHE. Mae tabl 26.5a ASHE yn cynnwys y cyfraddau fesul awr ar gyfer yr holl weithwyr gofal.

Rhaid i ddirprwyon gofio, wrth gymhwyso’r gwahanol ffactorau yn y canllawiau hyn, ac yn enwedig wrth ystyried fforddiadwyedd, y gall taliadau amrywio’n fawr. Mae’n bosibl, er enghraifft, y gallai dau ofalwr sy’n darparu’r un faint o ofal gael taliadau gofal teulu gwahanol. Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn ymddangos yn annheg, ond mae’n adlewyrchu’r ffaith bod yn rhaid ystyried sefyllfaoedd gofalwyr yn gyffredinol yn hytrach na defnyddio dull fformiwla syml.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd o dan ASHE wedi bod yn fach, ac mewn rhai achosion mae wedi gostwng. Efallai y bydd angen i ofalwyr fod yn ymwybodol felly nad ydynt yn debygol o weld cynnydd blynyddol mawr mewn taliadau am ofal o ganlyniad i’r mynegeio hwn.

Pa mor aml y gwneir taliad

Nid oes unrhyw reolau pendant ynghylch amlder taliadau; mae dirprwyon yn cytuno arnynt gyda’r gofalwr ac ni ddylid eu cyfrifo ar lefel enillion blaenorol y gofalwr.

Gall gofalwyr gael eu talu’n fisol, yn wythnosol neu fel taliad unswm blynyddol.

Cadw cofnodion ac adolygiadau

Er mwyn dangos bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er lles pennaf, mae’n arfer da i ddirprwyon gadw cofnod o’r ffactorau y maent wedi’u hystyried wrth wneud penderfyniad am daliadau gofal teulu. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i bob dirprwy ddarparu tystiolaeth o’r broses a ddilynwyd wrth benderfynu ar swm y taliad. Dylai dirprwyon hefyd gofnodi’r taliadau yn eu hadroddiad blynyddol a darparu dadansoddiad o bwy sy’n darparu’r gofal, faint o oriau o ofal a ddarparwyd ac ar ba gyfradd.

Dylai dirprwyon adolygu taliadau’n rheolaidd, i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn briodol ac yn fforddiadwy. Bydd pa mor aml y cynhelir adolygiadau’n dibynnu ar yr achos, ond dylid eu cynnal o leiaf pan fydd amgylchiadau’n newid, er enghraifft, oherwydd bod trefniadau byw y cleient yn newid neu oherwydd bod yr anghenion gofal yn cynyddu neu’n lleihau.

Dyma amgylchiadau eraill a allai ysgogi newid neu ddirwyn taliadau i ben:

  • hawl i gyllid gofal iechyd parhaus
  • amgylchiadau’r gofalwr yn newid
  • unrhyw newidiadau yn sefyllfa ariannol y cleient

Atebolrwydd treth ar daliadau gofal teulu

Mae Cyllid a Thollau EF yn ystyried bod taliadau i aelodau teulu yn daliadau gwirfoddol sydd wedi’u heithrio o dreth ac yswiriant gwladol (Llawlyfr Statws Cyflogaeth – ESM 4016) ac am y rheswm hwn maent yn aml yn cael eu galw’n daliadau ‘teulu’.

Bydd Cyllid a Thollau EF yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu a yw taliadau wedi’u heithrio rhag treth.

Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus roi cyngor ar faterion treth a bydd angen i ddirprwyon ddatrys unrhyw faterion sy’n ymwneud â thrin taliadau’n uniongyrchol gyda CThEF.

Os na ellir cael caniatâd Cyllid a Thollau EF, efallai y bydd angen i aelodau’r teulu gael eu cyflogi’n uniongyrchol fel gofalwyr ochr yn ochr â gofalwyr proffesiynol a thalu treth ac yswiriant gwladol ar eu taliadau.

Am ragor o gyngor:

Swyddfa’ r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Ffôn 0300 456 0300 www.gov.uk/opg