Ffurflen

Cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs): cofrestru fel busnes sy'n eu gosod ar y farchnad

Os ydych chi'n mewnforio, cynhyrchu, prosesu, dosbarthu neu werthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) at ddibenion proffesiynol ym Mhrydain Fawr, cofrestrwch i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Ffurflen i gofrestru fel busnes sy'n gosod PPPau proffesiynol ar y farchnad

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ffurflen i gofrestru fel busnes sy'n gosod PPPau proffesiynol ar y farchnad

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych chi’n gwmni sy’n gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs), eu cynhwysion neu adjiwfantau at ddibenion proffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), yn ôl y gyfraith mae’n rhaid ichi gofrestru o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 (yn Saesneg). Darllenwch ragor yn y datganiad polisi.

Rhaid i fusnesau ym Mhrydain Fawr gofrestru drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Mae ffurflenni ar wahân ar gael i:

Pryd i gofrestru

Mae’n rhaid ichi gofrestru o fewn 3 mis ar ôl dechrau busnes.

Os nad ydych wedi cofrestru eto a bod eich sefydliad neu’ch busnes yn gosod PPPs ar y farchnad ers mwy na 3 mis, rhaid ichi gofrestru cyn gynted â phosibl.

Cydymffurfio a gorfodi

Drwy lenwi ac anfon y ffurflen hon, rydych yn hysbysu’ch awdurdod cymwys, sef:

  • Gweinidogion Cymru yng Nghymru
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr
  • Gweinidogion yr Alban yn yr Alban

Bydd Defra yn casglu gwybodaeth o’r ffurflen hon ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fydd yn gorfodi’r rheoliadau. Byddant yn mynd ati’n rhagweithiol i ymweld â busnesau ac asesu cydymffurfiaeth. Bydd y dull hwn sy’n seiliedig ar risg yn ystyried:

  • natur a graddfa busnesau
  • cofnodion cydymffurfio yn y gorffennol
  • y gweithgareddau o dan eu rheolaeth
  • dibynadwyedd a chanlyniadau’r rheolaethau a gyflawnwyd ar y gweithredwr

PPPs ac adjiwfantau

Defnyddir PPPs i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • pryfladdwyr
  • ffyngladdwyr
  • chwynladdwyr
  • molysgladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion

Gall PPPs fodoli ar lawer ffurf, megis gronynnau solet, powdrau neu hylifau. Maent yn cynnwys un neu fwy o sylweddau gweithredol, sy’n cael eu cydfformiwleiddio â deunyddiau eraill.

Gall PPPs gael eu defnyddio gydag adjiwfantau, sef sylwedd sy’n gwella effeithiolrwydd PPPs neu sydd wedi’i fwriadu i’w wella. Does gan adjiwfant ddim priodweddau plaleiddiol arwyddocaol ond mae’n dal yn dod o dan reolaeth y rheoliadau.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 September 2022 + show all updates
  1. We’ve updated our policy statement and made improvements to the guidance in response to user feedback.

  2. Updated the section 'Who your data will be shared with' in the Official Controls Regulation 2020 privacy notice.

  3. We've added a link to a different form for sellers of amateur PPPs.

  4. Added translation

  5. Added translation