Ffurflen

Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs): cofrestru fel defnyddiwr proffesiynol

Os ydych chi’n fusnes, sefydliad neu unig fasnachwr sy’n defnyddio PPPs ac adjiwfantau yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr, cofrestrwch i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Cofrestru fel defnyddiwr proffesiynol cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) a'u hadjiwfantau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cofrestru fel defnyddiwr proffesiynol cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) a'u hadjiwfantau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) ac unrhyw adjiwfantau yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 (yn Saesneg). Darllenwch ragor yn y datganiad polisi.

Bernir eich bod yn ddefnyddiwr proffesiynol os ydych yn defnyddio PPPs yn eich gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithredwyr, technegwyr, cyflogwyr a phobl hunangyflogedig, ym mhob sector.

Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Mae yna ffurflen wahanol i gofrestru fel busnes sy’n gosod PPPs, eu cynhwysion neu adjiwfantau ar y farchnad at ddibenion proffesiynol.

Pryd i gofrestru

Mae’n rhaid ichi gofrestru o fewn 3 mis ar ôl dechrau busnes.

Os nad ydych wedi cofrestru eto a bod eich sefydliad neu’ch busnes yn defnyddio PPPs ers mwy na 3 mis, rhaid ichi gofrestru cyn gynted â phosibl.

Cydymffurfio a gorfodi

Drwy lenwi ac anfon y ffurflen hon, rydych yn hysbysu eich awdurdod cymwys, sef:

  • Gweinidogion Cymru yng Nghymru
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr
  • Gweinidogion yr Alban yn yr Alban

Bydd Defra yn casglu gwybodaeth o’r ffurflen hon ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Bydd y rheoleiddwyr yn arddel dull rhagweithiol, sy’n seiliedig ar risg. Bydd y dull hwn yn ystyried:

  • natur a graddfa busnesau
  • cofnodion cydymffurfio yn y gorffennol
  • y gweithgareddau o dan eu rheolaeth
  • dibynadwyedd a chanlyniadau’r rheolaethau a gyflawnwyd ar y gweithredwr

PPPs ac adjiwfantau

Defnyddir PPPs i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • pryfladdwyr
  • ffwngladdwyr
  • chwynladdwyr
  • molwsgladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion

Gall PPPs fodoli ar lawer ffurf, megis gronynnau solet, powdrau neu hylifau. Maent yn cynnwys un neu fwy o sylweddau gweithredol, sy’n cael eu cydfformiwleiddio â deunyddiau eraill.

Gall PPPs gael eu defnyddio gydag adjiwfantau, sef sylwedd sy’n gwella effeithiolrwydd PPP neu sydd wedi’i fwriadu i’w wella. Does gan adjiwfant ddim priodweddau plaleiddiol arwyddocaol ond mae’n dal yn dod o dan reolaeth y rheoliadau.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 September 2022 + show all updates
  1. We’ve updated our policy statement and made improvements to the registration forms and guidance in response to user feedback. We’ve also updated information about when you must register.

  2. The registration deadline was 22 June 2022, but we are currently still accepting registrations.

  3. Updated the section 'Who your data will be shared with' in the Official Controls Regulation 2020 privacy notice.

  4. We've updated the registration form to include an additional question about assurance schemes that cover PPP use.

  5. We have clarified that you do not need to register addresses where you store or apply PPPs for clients on their land. We’ve also explained how seeds treated with PPPs should be considered when calculating the quantity of PPPs used in a typical year.

  6. We've removed the need to register if you rent out land where your tenant applies plant protection products and any adjuvants as part of their work.

  7. Added translation