Ffurflen

Cynhyrchion diogelu planhigion amatur (PPPs): cofrestru fel gwerthwr

Os yw eich busnes yn gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur ym Mhrydain Fawr, cofrestrwch i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Ffurflen i gofrestru fel gwerthwr cynnyrch amddiffyn planhigion amatur ym Mhrydain Fawr

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ffurflen i gofrestru fel gwerthwr cynnyrch amddiffyn planhigion amatur ym Mhrydain Fawr

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), yn ôl y gyfraith rhaid ichi gofrestru o dan y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 (yn Saesneg). Darllenwch ragor yn y datganiad polisi.

Nid yw PPPs amatur wedi’u bwriadu at ddibenion proffesiynol a does dim angen ardystiad ar ddefnyddwyr amatur i’w taenu.

Rhaid i werthwyr PPPs amatur ym Mhrydain Fawr gofrestru drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Os yw eich busnes yn gwerthu PPPs proffesiynol ac amatur, dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru. Defnyddiwch y ffurflen gofrestru ar gyfer gwerthwyr PPPs proffesiynol.

Pryd i gofrestru

Mae’n rhaid ichi gofrestru o fewn 3 mis ar ôl dechrau busnes.

Os nad ydych wedi cofrestru eto a bod eich sefydliad neu’ch busnes yn gosod PPPs ar y farchnad ers mwy na 3 mis, rhaid ichi gofrestru cyn gynted â phosibl.

Cydymffurfio a gorfodi

Drwy lenwi ac anfon y ffurflen hon, rydych yn hysbysu’ch awdurdod cymwys, sef:

  • Gweinidogion Cymru yng Nghymru
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr
  • Gweinidogion yr Alban yn yr Alban

Bydd Defra yn casglu gwybodaeth o’r ffurflen hon ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Yr awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau. Bydd Defra yn gweithio gyda’r awdurdodau rheoleiddio hyn i ddatblygu’r dull gweithredu a fydd yn cael ei arddel ar gyfer ymweliadau arolygu.

PPPs

Defnyddir PPPs i reoli plâu, chwyn a chlefydau.

Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • Gwenwyn lladd chwyn (chwynladdwyr)
  • pelenni lladd gwlithod (molysgladdwyr)
  • chwistrelli i ladd ffwng
  • powdrau gwreiddio hormonaidd
  • pryfladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion

Gall PPPs fodoli ar lawer ffurf, megis gronynnau solet, powdrau neu hylifau. Maent yn cynnwys un neu fwy o sylweddau gweithredol, sy’n cael eu cydfformiwleiddio â deunyddiau eraill.

Os ydych chi’n gwerthu’r canlynol yn unig, does dim angen ichi gofrestru:

  • bioladdwyr, megis gwenwyn llygod a chynhyrchion i reoli algâu mewn pyllau dŵr
  • biosymbylyddion, megis gwymon ac echdynion o blanhigion, ac elfennau hybrin

Os ydych chi’n gwerthu bioladdwyr a biosymbylyddion yn ogystal â PPPs amatur, does dim angen ichi nodi faint o bioladdwyr a biosymbylyddion rydych chi’n eu gwerthu pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 13 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 September 2022 + show all updates
  1. We’ve updated our policy statement and made improvements to the guidance in response to user feedback. We’ve also updated information about when you must register.

  2. The registration deadline was 22 June 2022, but we are currently still accepting registrations.

  3. Added Welsh translation of the Official Controls Regulation 2020 privacy notice.

  4. Added translation