Guidance

Prevent duty toolkit for local authorities (Welsh accessible version)

Updated 12 February 2024

Applies to England and Wales

Cyflwyniad

Nod Prevent yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Dan adran 29 DeddfGwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 (‘CTSA 2015’), mae gofyn i awdurdodau penodedig gadw mewn cof yr angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. Mae awdurdodau lleol yn awdurdodau penodedig a restrir yn Atodlen 6 CTSA 2015.

Felly, mae rhan greiddiol gan awdurdodau lleol a’u partneriaid i chwarae o ran gwrthweithio terfysgaeth ar lefel leol a sicrhau y cefnogir pobl sy’n derbyngar i gael eu radicaleiddio.

Radicaleiddio yw’r broses o gael rhywun i gyfreithloni cefnogi neu ddefnyddio trais terfysgol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cyflawni troseddau terfysgol yn gwneud hynny ar eu liwt eu hunain ac oherwydd ymlyniad at achos ideolegol. Nid un math o lwybr yn unig sydd at gael eich radicaleiddio. Mae llawer o ffactorau, naill ai’n unigol neu ynghyd, a all arwain rhywun i gydfynd ag ideoleg eithafol, ac o hynny, gefnogi neu gyflawni terfysgaeth.

I gydymffurfio â dyletswydd Prevent, rhaid i awdurdodau penodedig gadw mewn cof y canllaw a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yng nghyswllt y ddyletswydd. Y fersiwn fwyaf diweddar o’r canllaw hwnnw i Gymru a Lloegr yw Canllaw dyletswydd Prevent.[footnote 1]

Pwrpas

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cefnogi cyflwyno dyletswydd Prevent gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr trwy roi gwybodaeth ymarferol ac awgrymiadau i awdurdodau lleol i atal pobl rhag troi’n derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae’n cynnwys enghreifftiau o’r arferion da a gorau i roi canllawiau’r ddyletswydd Prevent ar waith.

Nid yw’r pecyn cymorth hwn yn ganllaw statudol y mae’n rhaid i awdurdodau penodedig ei gadw mewn cof dan CTSA 2015. Nid yw’n cymryd lle nac fel arall yn effeithio ar ganllaw’r ddyletswydd Prevent; y cyfan a wna yw darlunio a rhoi enghreifftiau o sut i weithredu canllaw’r ddyletswydd Prevent. Ni ddylid darllen y pecyn cymorth hwn ar wahân i ganllaw’r ddyletswydd Prevent.

Mae mwy o adnoddau a gwybodaeth am Prevent wedi eu rhestru ar ddiwedd y pecyn cymorth hwn, tudalen 37, yn dilyn dolenni i ganllaw’r ddyletswydd Prevent a chanllaw dyletswydd Channel.

Mae wyth rhan i’r pecyn cymorth hwn:

  • grŵp partneriaeth amlasiantaethol
  • proses leol o asesu risg
  • cynllun partneriaeth
  • llwybr cyfeirio
  • panel Channel
  • rhaglen hyfforddi
  • lleihau amgylcheddau goddefol
  • cyfathrebu ac ymwneud

Mae pob adran yn ailadrodd gwybodaeth allweddol sydd yng nghanllaw dyletswydd Prevent ac yn dangos sut y gall awdurdodau lleol ei roi ar waith yn ymarferol wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent.

Mae’r meincnodau yn y pecyn cymorth hwn yn crynhoi’r modelau gweithredu a ddisgwylir fel rheol gan awdurdodau lleol wrth gyflwyno Prevent yng nghyswllt canllaw’r ddyletswydd Prevent. Ehangir ymhellach arnynt gydag engrhreifftiau o arferion da a gorau, ac awgrymiadau.

Nid yw’r meincnodau na’r enghreifftiau hyn yn ofynion cyfreithiol ac nid yw peidio â chwrdd â meincnod ynddo’i hun yn golygu y methwyd â chyflawni’r ddyletswydd Prevent. Mae’r pecyn cymorth hwn yn dangos sut beth yw gweithredu’r ddyletswydd Prevent yn effeithiol fel arfer, ac fe all symbylu ystyried meysydd i wella neu fod yn fwy effeithlon.

Mae’r Swyddfa Gartref yn denfyddio’r meincnodau fel rhan o’i rhaglen sicrwydd flynyddol i fonitro cyflawni Prevent. Gelwir hyn weithiau yn ‘broses feincnodi’.

Adran 1: Grŵp partneriaeth amlasiantaethol

Meincnod Mae grŵp partneriaeth amlasiantaethol effeithiol (a elwir hefyd yn fwrdd) ar gael i fonitro a gwerthuso effaith cyflwyno Prevent a darparu llywodraethiant strategol.
Deilliant Mae gweithio cryf mewn partneriaeth gyda llywodraethiant effeithiol.
Arfer da Mae grŵp partneriaeth amlasiantaethol ar gael sy’n goruchwylio cyflwyno Prevent yn yr ardal.
Arfer da Y grŵp partneriaeth amlasiantaethol sy’n llywodraethu ac yn goruchwylio cyflwyno Prevent yn statudol ac y mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor. Mae’r grŵp yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond o leiaf yn chwarterol lle mae’r risg a’r bygythiad yn uwch.
Arfer da Mae’r awdurdodau penodedig sy’n mynychu’r grŵp partneriaeth amlasiantaethol yn cynnwys fel isafswm:
- awdurdod lleol
- heddlu
- addysg
- iechyd
- y gwasanaeth prawf
- carchar (lle mae un yn yr ardal)
- unrhyw awdurdodau penodedig eraill a enwir mewn cyfoesiadau pellach i’r CTSA 2015
Arfer da Mae penderfyniadau a gweithgareddau’r grŵp yn cael eu llywio gan Wiriad Bygythiad i Ddiogelwch.
Arfer da Nid yw cadeirydd y grŵp partneriaeth amlasiantaethol hefyd yn gadeirydd panel Channel.
Gweithgaredd arfer gorau Mae’r awdurdod lleol yn ceisio ac yn cael cyfleoedd am bartneriaeth – gan weithio gydag awdurdodau penodedig eraill ac awdurdodau lleol.
Gweithgaredd arfer gorau Mae swyddog strategol gydag awdurdod uwch yn mynd ati i ymwneud a pholisi Prevent –gosod, cyflwyno a chyfathrebu, ac yn rhoi trosolwg strategol.
Gweithgaredd arfer gorau Mae gan y grŵp ddeialog effeithiol ac mae’n cydgordio gyda mundiadau yn y gymuned.

Mae gweithio amlasiantaethol mewn partneriaeth yn hanfodol i gyflwyno dyletswydd Prevent yn effeithiol. Bydd sefydlu grŵp partneriaeth Prevent ystyrlon, neu neilltuo cyfrifoldeb i grwp effeithiol sy’n bodoli eisoes, yn galluogi ardaloedd i lywodraethu a goruchwylio cyflwyno Prevent yn effeithiol.

Dylai awdurdodau lleol arwain gyda gyrru’r bartneriaeth a rhoi cyfle i’r partneriaid iawn gymryd rhan.

Pwy sy’n rhan?

Gwahoddir partneriaid a enwir fel rhai y mae arnynt ddyletswydd Prevent yn atodlen 6 CTSA 2015 i fynychu’r grŵp. Mater o ddewis lleol yw lefel y gynrychiolaeth; er enghraifft, gall addysg mewn ardal gael ei gynrychioli ar y cyd. Gellir gwahodd partneriaid eraill yn unol â’r tirwedd lleol.

Cyfrifoldebau’r grŵp partneriaeth

Mae’r grŵp yn deall risgiau ynghylch pobl yn cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, ac yn cymryd camau i’w rheoli, fel:

  • goruchwylio holl weithgaredd statudol cyflwyno Prevent gan gynnwys llwybrau cyfeirio a Channel
  • cytuno ar asesiadau risg a’u cyfoesi
  • datblygu a chytuno ar y cynllun partneriaeth
  • hwyluso rhannu gwybodaeth ymysg partneriaid
  • monitro ac adolygu perfformiad

Strwythur y bartneriaeth

Gellir defnyddio grwp partneriaeth sy’n bodoli eisoes, megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, i oruchwylio cyflwyno Prevent lle mae cynrychioliaeth briodol gan bartneriaid a goruchwyliaeth a llywodraethiant priodol o gyflwyno Prevent gan y grŵp.

Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achsion, cyflwynir gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol arunig, a dyma a ystyrir yw’r arfer gorau. Er na ddisgwylir i aelod etholedig gyda chyfrifoldeb am Prevent fynychu’r grŵp partneriaeth, y mae’n cael newyddion rheolaidd am gyflwyno a gweithgaredd Prevent.

Rôl swyddogion strategol

Mae’n arfer da i swyddog ymwneud ar lefel strategol, megis cyfarwyddwr diogelwch cymunedol neu debyg, fod yn rhan weithredol o osod polisi Prevent, cyflwyno a chyfathrebu. Gallant roi arweiniad strategol i grŵp Prevent ac annog aelodau eraill a swyddogion ledled y mudiad i hyrwyddo amcanion Prevent.

Gall swyddog strategol sicrhau yr adlewyrchir amcanion Prevent yng ngwaith yr awdurdod lleol ac ar draws partneriaethau a chynlluniau lleol, gan wreiddio ystyriaeth o Prevent fel ‘llinyn aur’. Gallant hefyd fod yn gyswllt at fwrdd strategol CONTEST, gan sicrhau bod argymhellion a gwneud penderfyniadau yn dod ynghyd, gan roi arweiniad a chyfeiriad i’r grŵp partneriaeth amlasiantaethol.

Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch

Er mwyn sicrhau bod gweithgareddau a phenderfyniadau yn cael eu llywio gan y bygythiad, anogir grwpiau amlasiantaethol Prevent i gynnal Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch, sy’n golygu ystyried y cwestiynau isod:

  • A yw’r cam hwn yn ystyried y darlun lleol cyfredol o ran bygythiad terfysgaeth ac eithafiaeth? Er enghraifft, mae’n ystyried proffiliau gwrth-derfysgaeth lleol ac asesiad o risgiau sefyllfaoedd, yn ogystal â gwybodaeth arall sy’n dod i’r amlwg.
  • A yw’r cam hwn yn gymesur o’i osod yn erbyn y darlun o fygythiad lleol o derfysgaeth ac eithafiaeth?
  • A yw’r cam hwn yn debygol o ostwng y bygythiad o derfysgaeth neu naratifau sy’n ymwneud â therfysgaeth?

Rhannu gwybodaeth

Mae’n hanfodol rhannu gwybodaeth i wrthweithio terfysgaeth. Bydd partneriaid lleol yn rhannu data fel rhan o’u cyfrifoldebau diogelu statudol ac efallai y bydd ganddynt brotocolau yn eu lle i rannu gwybodaeth lle mae angen gwneud hynny.

Er mwyn sicrhau y gwarchodir hawliau pobl yn llawn, mae’n arfer da gosod cytundebau rhannu gwybodaeth ar waith ar lefel leol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i awdurdod lleol rannu data personol fel y gellir cynnig cefnogaeth briodol i rywun sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio (er enghraifft, trwy Channel) a rhaid i ddata o’r fath gael ei rannu yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Partneriaeth ar draws ffiniau

Gall partneriaethau trawsffiniol helpu gyda rhannu gwybodaeth, yr arferion gorau a gwersi, a gall ganiatau defnydd mwy effeithiol o adnoddau. Gall awdurdodau lleol felly ystyried cyfleoedd i gryfhau rhwydweithiau anffurfiol sy’n bodoli eisoes rhwng ardaloedd lleol, ymuno â phartneriaethau ffurfiol, a sefydlu rhai newydd.

Mewn ardaloedd dwy-haen, gall cynghorau sir a dosbarth gytuno ar drefniadau partneriaeth i gymryd i ystyriaeth batrymau risg ar draws yr ardal, fel sy’n gymesur ag anghenion yr ardal. Mewn rhai mannau, bydd yn briodol i’r sir arwain, gyda dosbarthiadau yn bwydo i mewn i strwythur partneriaeth a chynllun partneriaeth sirol. Mewn mannau eraill, efallai y bydd yn fwy priodol i ddosbarth gael eu partneriaeth eu hunain, er y dylai ddal i fod yn rhan o sefydlu agwedd ehangach y sir. Er hynny, byddai grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent sirol yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithgareddau allweddol yn digwydd ym mhob ardal.

Gall awdurdodau lleol ystyried creu rhwydweithiau Prevent rhanbarthol gyda’r hedldu lleol ac awdurdodau penodedig eraill i rannu arferion da, gwybodaeth, a chyfleoedd hyfforddi a helpu i gydgordio model cyflwyno cydlynus i Prevent ledled yr ardal. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i bartneriaid sydd mewn rhabarth ehangach nag ardal un awdurdod lleol, a gall uno gyda mathau gwahanol o awdurdodau lleol (sir, dosbarth ac unedol).

Sut mae dweud os yw hyn yn dda?

Mae grŵp partneriaeth effeithiol ar waith, dan gadeiryddiaeth person uwch priodol, heb i’r cadeirydd fod hefyd yn gadeirydd Channel. Mae gan y grŵp gylch gorchwyl clir ac y mae’r holl awdurdodau penodedig yn mynychu. Mae wedi gwreiddio’n dda yn strwythur llywodraethiant yr awdurdod lleol ac y mae’n cwrdd bob chwarter. Mae’r grŵp yn gyrru cyflwyno Prevent yn erbyn y cynllun partneriaeth, gyda llywodraethiant cryf dros holl ddarpariaeth am cyflwyno statudol Prevent, wedi’i lywio gan Wiriad Bygythiad i Ddiogelwch. Mae effaith cyflwyno Prevent yn cael ei fonitro’n effeithiol ac y mae gwaith partneriaeth yn digwydd gydag awdurdodau lleol eraill ar draws y rhanbarth lle mae arweinyddion Prevent yn rhannu arferion da a gwybodaeth berthnasol er mwyn cyflwyno.

Adran 2: Proses leol o asesu risg

Meincnod Mae’r awdurdod lleol yn cynhyrchu asesiad risg a adolygir yn erbyn y proffil gwrth-derfysgaeth lleol (PGDLl) a ffynonellau data eraill, gan gynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth leol o’r ardal.
Deilliant Mae’r asesiad risg yn arwain at ddealltwriaeth o risgiau radicaleiddio i bobl, yn ogystal â’r risgiau o ddylanwadau radicaleiddio. Mae’n galluogi awdurdodau lleol i dargedui gweithgaredd yn effeithiol i atal terfysgaeth, tarfu ar ddylanwadau radicaleidido ac adeiladu gwytnwch.
Arfer da Mae’r asesiad risg yn integreiddio’n glir yr holl risgiau lleol gan gynnwys dylanwadau radicaleiddio, a risgiau corfforaethol, yn unol â chanllaw’r ddyletswydd Prevent. Mae partneriaid lleol perthnasol o safleoedd uwch priodol yn ymwybodol o’r risgiau hyn, ac fe’u trafodir yn rheolaidd i sicrhau dealltwriaeth glir o’r darlun o fygythiadau ledled y bartneriaeth. Mae’r risgiau yn cael eu lliniaru’n effeithiol. Cyfoesir yr asesiad risg o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Arfer da Mae’r broses o asesu risg yn cynnwys ‘sefyllfa’[footnote 2] Risgiau sy’n deillio o’r PGDLl a gwybodaeth leol arall, ynghyd a risgiau ‘corfforaethol’, i ddangos dealltwriaeth fod peidio â chwrdd â’r ddyletswydd yn risg i’r awdurdod.
Gweithgaredd arfer gorau Partneriaid awdurdodau lleol yn ymwneud a’r hedldu i ddatblygu a chyfrannu at y PGDLl.
Gweithgaredd arfer gorau Caiff yr asesiad risg ei gyfoesi bob chwarter.
Gweithgaredd arfer gorau Mae’r asesiad risg yn gyrru gweithgaredd yn y cynllun partneriaeth.

Mae defnyddio’r PGDLl yn sail i asesiad cadarn o risgiau radicaleiddio i bobl (yn enwedig o ddylanwadau radicaleiddio yn eu hardal) ac yn galluogi awdurdod lleol i gynhyrchu cynllun partneriaeth Prevent cymesur.

Cyfrannu i’r PGDLl

Gall rhannu gwybodaeth helpu i adnabod a deall bygythiadau a risgiau lleol, gan gynnwys dylanwadau radicaleiddio, a gwneud y PGDLl mor effeithiol ag sydd modd. Felly, tra bod y PGDLl yn cael ei gynhyrchu gan yr heddlu, mae awdurdodau lleol a’u partneriaid yn gyfrannwyr hanfodol iddo.

Mae gwybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol a’u partneriaid yn fuddiol i dynnu sylw at unrhyw temâu cyfredol a rhai sy’n ymddangos ac sy’n gysylltiedig â radicaleiddio i derfysgaeth. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan ganolog i gydgordio er mwyn sicrhau y gall partneriaid lleol gyfrannu gwybodaeth a data perthnasol i’r PGDLl.

Asesu risg

Mae’r PGDLl yn ddogfen Swyddogol Sensitif. Yr isafswm cliriad diogelwch sydd ei angen i gyrchu gwybodaeth Swyddogol Sensitif neu Gyfyngedig yw Safon Gwaelodlin Personel Diogelwch. Dylai’r PGDLl gynnwys sbardunau a chwestiynau am weithgaredd yn erbyn risgiau, y dylid eu rhannu gyda’r holl bartneriaid priodol.

Mae’r argymhellion hyn yn bwydo i mewn i’r canlynol:

1. Proses leol o asesu risg

Ymysg y prosesau mae:

  • asesiad o fygythiad dylanwadau radicaleiddio mewn ardal, gan gynnwys yr ideolegau, naratifau grŵp, methodoleg (megis lleoliadau a ddefnyddir) a thargedau posib i’w hecsploetio
  • asesiad o’r risg, gan gynnwys y gall radicaleiddio ddigwydd a’r niwed y gall achosi
  • asesiad o risg gorfforaethol peidio â chwrdd â dyletswydd Prevent a bod hynny’n cael ei ystyried yn y broses sicrhau flynyddol a gynhelir gan y Swyddfa Gartref

Bydd asesiad risg da yn gwneud y canlynol:

  • disgrifio’r risg o derfysgaeth neu radicaleiddio a’r ideoleg sy’n eu gyrru
  • ystyried bodolaeth amgylcheddau goddefol i drais a bod yn agored i ddylanwadau radicaleiddio, arlein ac oddi ar lein
  • cael ei adolygu’n rheolaidd yn erbyn gwybodaeth genedlaethol a lleol a ddaw i’r amlwg, dadansoddiadau a chyfoesiadau PGDLl
  • rhoi gwybodaeth briodol i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys aelodau etholedig gyda chyfrifoldeb am Prevent

2. Camau neu gynllun cyflwyno’r bartneriaeth strategol

Mae mwy o wybodaeth yn adran 3.

Dosbarthau canfyddiadau PGDLl

Cynnyrch yw PGDLl, a gynhyrchir o leiaf yn flynyddol, seiliedig ar gyfnewid gwybodaeth berthnasol yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys dal gwybodaeth gan randdeiliaid i gyfrannu at ddatblygu’r PGDLl a dosbarthu’r cynnyrch yn eu sefydliadau.

Mae’n hanfodol, er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol, fod gwybodaeth yn y PGDLl yn cael ei rannu rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Bydd grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent (neu’r hyn sy’n cyfateb) yn derbyn gwybodaeth gan dimau Prevent gwrth- derfysgaeth yr heddlu neu awdurdodau lleol ar elfennau allweddol y PGDLl, yn benodol y sbardunau a’r cwestiynau lleol mae’n godi.

Mewn rhai ardaloedd, mae Swyddogol Sensitif a PGDLl Swyddogol. I gefnogi’r bartneriaeth ehangach, gellir defnyddio’r ddogfen lefel Swyddogol i gefnogi briffio rhanddeiliaid ac eraill fel sy’n briodol. Felly, gall awdurdodau lleol geisio gweithio gyda heddlu gwrth-derfysgaeth i ganfod dull o roi gwybodaeth i set ehangach o randdeiliaid ar lefel Swyddogol, gydag elfennau arbennig o sensitif wedi eu tynnu allan o’r briffio.

Sut mae dweud os yw hyn yn dda?

Mae ‘llinyn aur’ yn rhedeg trwy reoli risg a bygythiadau, cynllunio gweithredu a llywodraethiant. Mae’r model isod (ffigwr 1) yn dangos sut mae’r elfennau hyn yn asio ynghyd, gan nodi risgiau lleol (sefyllfa) a risgiau corfforaethol yng nghyswllt cyflwyno dyletswydd Prevent. Mae’r rhain yn sail i gynllun partneriaeth Prevent sy’n gyrru gweithgaredd Prevent ar lefel leol. Mae’n bwysig fod y llywodraethiant cywir (adran 1) trwy’r grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent neu debyg yn monitro cyflwyno a chynnydd y cynllun partneriaeth Prevent hwnnw.

Ffigwr 1

Asesiad risg sefyllfa

PGDLI, Tueddiadau sy’n ymddangos, Setiau data lleol, Gwybodaeth gan bartneriaid

Asesiad risg corfforaethol

Cyflwyno dyletswydd Prevent

Cynllun partneriaeth Prevent

Rheoli bygythiadau a risg, Pensaerniaeth cyflwyno

Gyrru gweithgaredd Prevent

Grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent, Adrodd i’r bwrdd strategol

Adran 3: Cynllun partneriaeth

Meincnod Mae gan yr ardal gynllun partneriaeth Prevent y cytunwyd arno.
Deilliant Mae risgiau Prevent yn cael eu rheoli yn gymesur ac effeithiol.
Arfer da Mae’r cynllun partneriaeth Prevent wedi ei deilwrio i’r amgylchiadau lleol ac wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio asesiadau risg lleol gan gynnwys y PGDLl ac asesiadau risg sefyllfa a chorfforaethol.
Arfer da Mae’r cynllun partneriaeth Prevent yn amlinellu rôl pob partner lleol (awdurdod penodedig neu aelod arall o grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent ) o ran cyflwyno Prevent.
Arfer da Mae’r cynllun partneriaeth Prevent wedi ei dargedu’n dda. Mae camau yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent.
Arfer da Mae’r holl bartneriaid perthnasol yn cael eu henwi ac yn rhan o ddatblygu’r cynllun partneriaeth Prevent.
Arfer da Mae camau yn cael eu cysylltu’n glir â’r asesiad risg, mae amserlenni pendant, ac ym mherchenogaeth partneriaid penodol. Mae’r cynllun yn ystyried sut i fynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodir, gan gynnwys risgiau radicaleiddio pobl ac o ddylanwadau radicaleiddio yn eu hardal. Adolygir camau yn holl gyfarfodydd grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent a chânt eu cyfoesi yn ôl yr angen.
Arfer da Lle mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid prosiect Prevent, mae’r cynllun partneriaeth Prevent yn helpu i gyfeirio prosiectau gydag amcanion clir i herio ideoleg eithafol a therfysgol.
Arfer da Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch.
Gweithgaredd arfer da Cyferirir at gynllun partneriaeth Prevent mewn strategaethau, cynlluniau a pholisiau corfforaethol a gwasanaethau perthnasol.
Gweithgaredd arfer da Caiff camau a gwblheir eu gwerthuso o ran eu heffaith a’u defnyddio i osod cyfeiriad at y dyfodol.

Unwaith i asesiad risg gael ei gynnal, datblygir cynllun partneriaeth Prevent i osod allan y camau lliniaru.

Mae cynlluniau partneriaeth Prevent yn:

  • amlinellu rôl pob partner lleol (awdurdod penodedig neu aelod arall o grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent) o ran cyflwyno amcanion Prevent
  • gosod allan sut y bydd y camau a gynlluniwyd yn lleihau’r risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg lleol
  • rhoi manylion yn erbyn pob amcan, gan gynnwys amserlenni a pherchenogion y camau
  • rhoi manylion camau a gymerwyd a mesurau cynnydd yn erbyn pob amcan
  • crynhoi trefniadau llywodraethiant lleol
  • gosod allan gamau posib o ran dylanwadau radicaleiddio

Mae’n arfer da i gyfeirio at gynlluniau partneriaeth Prevent mewn strategaethau, cynlluniau a pholisiau corfforaethol a gwasanaethau perthnasol.

Perchenogaeth

Mae cynlluniau partneriaeth Prevent yn cael eu perchenogi gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent (neu’r hyn sy’n cyfateb), sydd yn rhoi atebolrwydd er mwyn sicrhau bod camau yn cael eu cwblhau.

Gall cynlluniau gael eu dyfeisio gan awdurdod lleol unigol a’i bartneriaid neu ar draws sawl awdurdod lleol. Mewn ardal dwy-haen, gallant gael eu datblygu gan awdurdod arweiniol i gynnwys anghenion pob awdurdod yn yr ardal.

Er fod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am nodi a chyflawni eu gweithredoedd eu hunain, gall fod yn briodol i awdurdodau lloel cyfagos fod â chynllun partneriaeth Prevent ar y cyd (er enghraifft, un y cytunir arno ar y cyd ar draws rhanbarth neu sir mewn ardal dwy-haen).

Dylai aelodau etholedig oruchwylio yn ffurfiol y cynllun partneriaeth Prevent am ardal yr awdurdod lleol. Gall hyn gynnwys cadarnhau ar lefel cabinet neu bwyllgor, neu Gyngor Llawn.

Lliniaru risg

Mae cynllun partneriaeth Prevent da yn cydnabod y risgiau a nodwyd yn y PGDLl a’r asesiadau risg ac yn neilltuo camau i fynd i’r afael ag argymhellion.

Dylai camau cynlluniau partneriaeth Prevent fod yn gymesur ac wedi eu teilwrio i’r risg.

Gallant amrywio o hyfforddiant sylfaenol i staff lle bernir fod y risg yn isel, i raglenni cadarn a manwl sy’n ymdrin â holl amcanion strategaeth Prevent lle mae’r risg yn uwch neu yn fwy penodol.

Mae lefelau risgiau a bygythiadau lleol yn gallu newid. Bydd gan raglen weithredu effeithiol fecanweithiau i ganiatau ail-asesu’r risgiau yn rheolaidd yn erbyn gwybodaeth leol a chenedlaethol sy’n dod i’r amlwg, fel y gellir ail-alinio’r rhaglen weithredu yn ôl y galw.

Sut mae dweud os yw hyn yn dda?

Mae Adran 2 yn disgrifio’r ‘llinyn aur’ sy’n rhedeg trwy reoli risg a bygythiadau, cynllunio gweithredu a llywodraethiant. Mae’n disgrifio sut y mae cynllun partneriaeth Prevent yn gyrru gweithgaredd Prevent ar lefel leol.

Mae cynlluniau partneriaeth Prevent dan yn nodi, blaenoriaethu a hwyluso gweithgareddau yn gynhwysfawr i leihau’r risg y bydd pobl yn dod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth ac y maent yn benodol i’r rhanbarth. Mae’r cynllun yn ystyried agweddau i drafu ar ddylanwadau radicaleiddio. Mae camau wedi eu cysylltu’n glir â’r broses asesu risg a hefyd yn cynnwys bygythiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae cynlluniau yn dangos gweithgaredd lliniaru gyda pherchenogaeth gan bartneriaid perthnasol y dylid eu ‘dal i gyfrif’ gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent. Seilir penderfyniadau ar Wiriad Bygythiad i Ddiogelwch ac y mae camau a gwblheir yn cael eu gwerthuso o ran eu heffaith a’u defnyddio i osod cyfeiriad at y dyfodol. Cyferirir at gynllun partneriaeth Prevent mewn strategaethau, cynlluniau a pholisiau corfforaethol a gwasanaethau perthnasol. Mae’r cynllun yn cael ei gyfoesi’n chwarterol yn unol â’r asesiad risg a grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent.

Adran 4: Llwybr cyfeirio

Meincnod Mae llwybr ar gael wedi ei gytuno i gyfeirio’r sawl a nodwyd fel rhai derbyngar i radicaleiddio i derfysgaeth neu gefnogi terfysgaeth.
Deilliant Mae llwybr cyfeirio clir ar gael, gyda’r staff perthnasol wedi eu hyfforddi i ddeall y llwybr hwn. Cynigir cefnogaeth wedi ei deilwrio i bobl sy’n derbyngar i radicaleiddio. Deellir rôl y partneriaid yn y llwybr.
Arfer da Mae llwybr cyfeirio clir i’r sawl a nodwyd fel rhai fyddai’n derbyngar i’w radicaleiddio, a chytunwyd ar y llwybr gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent.
Arfer da Mae’r bartneriaeth yn nodi staff perthnasol trwy strategaeth hyfforddi Prevent. Cânt eu hyfforddi i ddeall arwyddion radicaleiddio a chodi pryderon trwy’r llwybr cyfeirio y cytunwyd arno.
Arfer da Mae rôl partneriaid perthnasol yn y llwybr cyfeirio y cytunwyd arno wedi ei amlinellu’n glir gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent fel rhan o unrhyw gynlluniau partneriaeth Prevent.
Gweithgaredd arfer da Mae’r llwybr cyfeirio yn defnyddio ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent.
Gweithgaredd arfer gorau Mae llwybr cyfeirio deuol ar gael i anfon cyfeiriadau at yr heddlu gwrth-derfysgaeth a gwasanaethau diogelu plant ac oedolion ar yr un pryd.

Nid oes un ffordd benodol o nodi pwy sy’n derbyngar i radicaleiddio. Mae proses radicaleiddio yn wahanol i bawb. Gall ddigwydd dros gyfnod maith, neu yn sydyn iawn.

Gall pa mor dderbyngar y mae rhywun i’w radicaleiddio fod yn gysylltiedig â bod yn fregus. Gall person fod yn fregus os yw angen gofal arbennig, cefnogaeth neu warchodaeth oherwydd ei oedran, anabledd, risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Fodd bynnag, efallai na fydd bregusrwydd yn berthnasol neu’n bresennol bob amser, a gall unigolyn nad yw’n fregus ddal i fod yn dderbyngar i’w radicaleiddio[footnote 3].

Mae cyfeiriadau at Prevent yn debygol o gael eu gwneud i ddechrau gan bobl sy’n dod i gysylltiad â’r sawl sydd a risg o gael eu radicaleiddio. Bydd gan bob ardal lwybr cyfeirio clir i nodi pobl sy’n derbyngar i’w radicaleiddio neu gefnogi terfysgaeth.

Bydd cynllun hyfforddi Prevent lleol, y cytunir arno gan grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent, yn nodi’n glir unrhyw staff a phartneriaid perthnasol sydd angen hyfforddiant i ddeall y llwybr cyfeirio.

Bydd y llwybr cyfeirio yn amrywio yn ôl ardal, ond lle nodir pryder, dywed y canllaw i ddyletswydd Prevent y dylid cymhwyso’r drefn ‘sylwi, gwirio, rhannu’. Yn aml, caiff y pryder ei anfon yn uwch at arweinydd diogelu dynodedig neu arweinydd Prevent y mudiad neu’r sefydliad. Os oes pryder am radicaleiddio posib neu reswm dros gredu fod rhywun yn derbyngar i’w radicaleiddio, mae’n arfer da defnyddio ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent i gyfeirio at yr heddlu iddyn nhw asesu a oes angen cefnogaeth neu beidio, onid oes rheswm da a chlir dros beidio â denfyddio’r ffurflen.

Mae ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent yn helpu i gael cysondeb deilliant mewn awdurdodau lleol ac ar eu traws wrth wneud cyfeiriadau Prevent. Oherwydd hyn, dywed canllaw dyletswydd Prevent y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent.

Sylwi Sylwi ar rywbeth sy’n peri pryder.
Gwirio Trafodwch eich pryder gyda’ch arweinydd diogelu dynodedig neu arweinydd Prevent.
Rhannu Rhannwch eich pryderon gyda’r heddlu gan ddefnyddio ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent.

Mae canllawiau pellach ar gyfeirio a sut i gymhwyso’r drefn ‘sylwi, gwirio, rhannu’ ar gael trwy gwblhau hyfforddiant dyletswydd Prevent ar GOV.UK.[footnote 4]

Er y gall awdurdod lleol fod â phroses gyfeirio ddeuol at yr heddlu a diogelu plant neu oedolion, nid yr awdurdod lleol sy’n pennu lefel y risg. O’r herwydd, ni ddylai’r awdurdod lleol frysbennu cyfeiriadau, a bydd pob cyfeiriad yn cael ei rannu gyda’r heddlu lle gall y person fod yn derbyngar i radicaleiddio.

Os amheuir fod person wedi cyflawni trosedd derfysgol neu’n ymwneud â chynllunio gweithgaredd terfysgol, rhaid hysbysu’r heddlu waeth beth fo unrhyw broses gyfeirio leol.

Diogelu

Nid oes angen cwrdd â throthwyau diogelu i wneud cyfeiriad Prevent, ond fe fydd adegau pan fydd yr asesu a’r gefnogaeth a roddir i atal pobl rhag bod yn derbyngar i radicaleiddio yn mynd ochr yn ochr â phrosesau diogelu.

Lle bo hyn yn digwydd, dylai partneriaethau awdurdodau lleol gyfeirio at y canllaw statudol, ‘Gweithio ynghyd i ddiogelu plant’ (2018), yn ogystal â’r canllaw statudol am ddiogelu oedolion dan Ddeddf Gofal 2014.

Ideoleg

Bwriad Prevent yw delio â phob math o fygythiad terfysgol i’r DU. Mae bygythiad terfysgaeth yn dod yn fwy amrywiol, ond ar hyn o bryd, terfysgaeth Islamyddol yw’r prif fygythiad a’r un mwyaf marwol.

Gobaith eithafwyr Islamyddol yw hyrwyddo nod crefyddol-wleidyddol o sefydlu eu dehongliad hwy o gymdeithas Islamyddol. Mae ideoleg Islamyddol yn cefnogi ac yn cyfiawnhau trais ac fe’i hysbrydolir yn aml gan grwpiau terfysgol Islamyddol sefydledig. Mae eithafwyr Islamyddol yn lledaenu rhaniadau a chasineb, gan ddefnyddio naratif cwynion i greu amgylchedd oddefol i drais.

Ideoleg Aden-dde Eithafol yw cefnogaeth weithredol neu lafar i ideolegau sy’n hyrwyddo camwahaniaethu neu drais yn erbyn grwpiau lleiafrifol. Nid oes modd diffinio’r Aden-dde Eithafol trwy un ideoleg neu naratif unigol.

Mae ynddo lawer o grwpiau a phobl gyda gwahanol ideolegau amrywiol.

Mae amlygrwydd pobl neu grwpiau bychain sy’n gweithredu heb gyfeiriad na chefnogaeth sylweddol gan grwp terfysgol trefnedig, amrywiaeth gynyddol grwpiau terfysgol o dramor, ac effaith newid technolegol ar gymdeithas, oll yn achosion pryder.

Fe alla adegau godi pan nad yw’r union sbardun ideolegol yn glir. Ac eto, fel unrhyw broses gyfeirio, mae’n well o lawer derbyn cyfeiriadau sy’n troi allan i beidio â bod yn bryder na cholli rhywun sydd wir angen cefnogaeth.

Mae gwybodaeth a dadansoddiad o eithafiaeth ac ideolegau terfysgol ar gael o’r Comisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth[footnote 5] Hefyd, bydd hyfforddiant ar ideoleg ar gael i bob awdurdod lleol a’u staff trwy lwyfan hyfforddi wyneb-yn-wyneb Prevent.

Trothwyon

Mae’n hollbwysig fod y sawl sy’n gweithio gyda phobl a all fod yn derbyngar i’w radicaleiddio yn ystyried yr holl ffactorau fel na chollir rigiau posib. Wrth ystyried a ddylid cyfeirio, rhaid cymhwyso trothwy cyson. Mae hyn yn cynnwys gofalu nad oes gwahaniaeth yn y trothwy ar gyfer cyfeirio sy’n gysylltiedig ag ideoleg benodol. Dylid ystyried hefyd a all y person fod yn fwy addas ar gyfer math gwahanol o gefnogaeth neu gyfeirio o ran diogelu. Nid yw bod yn fregus fel y’i disgrifir uchod yn rhag-amod o fod yn derbyngar i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth.

Mae mwy o wybodaeth am y trothwyau wedi ei gynnwys fel rhan o lwyfan hyfforddi Prevent.

Sut mae dweud os yw hyn yn dda?

Cytunodd grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent ar lwybr i gyfeirio’r sawl sy’n derbyngar i’w radicaleiddio. Mae’r llwybr cyfeirio yn defnyddio’r agwedd ‘sylwi, gwirio, rhannu’ a chyfeirir trwy ddefnyddio ffurflen gyfeirio genedlaethol Prevent. Mae’r strategaeth yn amlinellu pa lefel o hyfforddiant sydd ei angen ar weithwyr proffesiynol a, lle bo hynny’n berthnasol, byddwn yn dysgu sgiliau i weithwyr proffesiynol am y llwybr cyfeirio a’u rôl hwythau.

Adran 5: Panel Channel

Mae gwybodaeth am banel Channel yn y Canllaw dyletswydd Channel: Amddiffyn pobl fregus rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth[footnote 6]

Adran 6: Rhaglen hyfforddi

Meincnod Mae gan staff rheng-flaen ar draws awdurdodau lleol, gan gynnwys eu contractwyr, ddealltwriaeth dda o Prevent, ac y maent wedi eu hyfforddi i adnabod pryd y gall person fod yn derbyngar i gael ei radicaleiddio i derfysgaeth, ac y maent yn ymwybodol o’r rhaglenni cefnogi sydd ar gael. Mae arweinyddion diogelu dynodedig a’r sawl sydd â chyfrifoldebau Prevent wedi cael hyfforddiant mwy trylwyr.
Deilliant Adnabod a rheoli risg radicaleiddio yn effeithiol.
Arfer da Mae staff perthnasol yn yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau a gomisiynir ganddynt yn ymwybodol o arwyddion radicaleiddio ac yn deall sut i leisio pryderon.
Arfer da Mae’r holl staff perthnasol yn yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau a gomisiynir ganddynt yn deall pryd a sut i wneud cyfeiriadau Prevent a lle i gael cyngor a chefnogaeth ychwanegol.
Arfer da Mae gan y staff perthnasol ddealltwriaeth resymol o ideolegau eithafol sy’n cefnogi terfysgaeth neu a ddefnyddir i radicaleiddio eraill i derfysgaeth.
Arfer da Mae gan y sefydliad gynllun hyfforddi sy’n mesur ac yn ystyried lefelau’r angen am hyfforddiant ar draws gwahanol dimau a sectorau (gan gynnwys hyfforddiant mwy arbenigol lle bo hynny’n briodol ar sail yr asesiad risg).
Gweithgaredd arfer gorau Mae’r rhai gyda chyfrifoldebau penodol i Prevent yn cael hyfforddiant gloywi o leiaf bob dwy flynedd.
Gweithgaredd arfer gorau Mae’r rhai gyda chyfrifoldebau penodol i Prevent yn cefnogi eraill ar faterion Prevent ac yn eu cyfoesi am faterion perthnasol. Gall hyn gynnwys y tueddiadau yn yr ystadegau cyfeirio Prevent a gyhoeddir bob blwyddyn, materion sy’n dod i’r wyneb, digwyddiadau lleol neu ranbarthol perthnasol, a dylanwadau radicaleiddio, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 7]
Gweithgaredd arfer gorau Mae gwybodaeth glir a hygyrch a deunydd cyhoeddusrwydd am Prevent ar gael yn helaeth i staff yn y sefydliad.
Gweithgaredd arfer gorau Mae proses hyfforddi neu gynefino ar gael i swyddogion newydd sy’n gyfrifol am gyflwyno Prevent yn yr ardal. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth gan ymgynghorydd Prevent y rhanbarth.
Gweithgaredd arfer gorau Mae swyddogion sy’n gyfrifol am gyflwyno Prevent (gan gynnwys aelodau panel Channel) yn yr ardal yn cael cynnig rhaglen o ddatblygu proffesiynol parhaus.
Gweithgaredd arfer gorau Mae rhaglen sy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau addysgol yn yr ardal, i hyfforddi aelodau staff i adnabod plant sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddo.

Dylai staff rheng-flaen awdurdodau lleol sy’n ymwneud â’r cyhoedd, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau a gomisiynir a chontractwyr, ddeall ystyr radicaleiddio, pam y gall pobl fod yn derbyngar iddo, a chanlyniadau posib radicaleiddio. Mae angen i staff wybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryder, beth yw eu rôl o ran atal pobl sy’n derbyngar i radicaleiddio, a sut i herio yn ddiogel ideolegau eithafol cysylltiedig â therfysgaeth.

Mathau o hyfforddiant

Hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent

Mae cyrsiau hyfforddi GOV.UK yn rhoi cyflwyniad i Prevent, yn cefnogi defnyddwyr i sylwi ar bryderon a all wneud pobl yn derbyngar i radicaleiddio, esbonio sut beth yw ymateb cymesur, a rhoi hyder a gallu i ddefnyddwyr leisio pryderon pan all rhywun fod mewn perygl.

Mae’r cyrsiau hyfforddi i bobl sy’n gweithio mewn sectorau sy’n dod dan ddyletswydd Prevent, gan gynnwys:

  • addysg
  • iechyd
  • awdurdodau lleol
  • heddlu
  • carchardai
  • gwasanaeth prawf
  • cyfiawnder ieuenctid

Gall sectorau eraill nad ydynt yn dod dan ddyletswydd Prevent hefyd gwblhau’r hyfforddiant hwn.

Yn y cyrsiau hyfforddi hyn, bydd y cyfranogwyr yn dysgu am

  • ddyletswydd Prevent
  • gwahanol ideolegaueithafol a all arwain at derfysgaeth
  • risg radicaleiddio a’ch rôl chi i gefnogi
  • gwneud cyfeiriad Prevent ar sail o wybodaeth a chyda bwriad da
  • yr ymyriadau a’r gefnogaeth sydd ar gael

Mae gwasanaeth hyfforddi dyletswydd Prevent i’w weld yn GOV.UK.[footnote 8]

Hefyd, mae’r Swyddfa Gartref yn datblygu mwy o gynhyrchion hyfforddi wyneb-yn-wyneb sydd i’w rhyddhau yng ngwanwyn 2024. Dylai’r rhain roi hyblygrwydd i hwyluswyr i gynnwys gwybodaeth am y cyd-destun lleol a darparu gweithgareddau a thrafodaethau i gefnogi dysgu. Hefyd, bydd hyfforddiant ideoleg gan y Comisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth ar gael i awdurdodau lleol trwy lwyfan hyfforddiant wyneb-yn-wyneb Prevent.

Dylid cyfeirio ymholiadau am hyfforddiant y Swyddfa Gartref yn y ddyletswydd Prevent at: prevent.training@homeoffice.gov.uk.

Lefelau hyfforddiant

Gall cynllun neu strategaeth hyfforddi gymryd agwedd haenog, gan roi gwahanol lefelau o hyfforddiant ar draws gwahanol dimau a rolau. Mae’n arfer da cadw cofnodion hyfforddi fel y gall y sefydliad fonitro gweithredu’r cynllun hyfforddi.

Bydd lefel a math yr hyfforddiant fydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar gyfrifoldebau’r cyfranogwyr: gweithredol, rheoli neu strategol Byddai natur ac amlder cyswllt y staff gyda pobl allai fod yn derbyngar hefyd yn ffactor bwysig. I rai staff, bydd hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn ddigon. Gall fod ar eraill angen hyfforddiant neu friffio wedi ei hwyluso. Weithiau, bydd angen pecyn hyfforddiant mwy holistig.

Mewn awdurdod lleol

  • mae staff sy’n gweithio mewn diogleu (oedolion a phlant) yn flaenoriaeth am hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys hyfforddiant wyneb-yn-wyneb lle bo modd. Mae hyn yn cynnwys y sawl sy’n gyfrifol am gyflwyno neu gydgordio gweithgaredd Prevent lleol, megis staff Prevent arbenigol ac ymarferwyr diogelwch cymunedol. Dylai hyfforddiant gynnwys manylion sy’n gwella dealltwriaeth o ideolegau eithafol a therfysgol.
  • Eraill sy’n bwysig o ran nodi pryderon Prevent yw staff sy’n debygol o ddod ar draws pobl sy’n derbyngar i radicaleiddio yn ystod eu gwaith, megis swyddogion tai neu ddarparwyr addysg oedolion yr awdurdod lleol. Dylent fod â gwybodaeth am beth i’w wneud pan fydd ganddynt le i bryderu. Mae staff unrhyw gontractwyr neu fudiadau cymdeithas sifil hefyd yn debyg o ddod i gysylltiad rheolaidd â phobl fregus, e.e., y sawl sy’n daraparu gwasanaethau i bobl sy’n gaeth i gyffuriau a sylweddau eraill neu sy’n ddigartref.
  • Dylai aelodau etholedig allu mynd at hyfforddiant arlein, ond fe allant elwa o agwedd fwy strategol. Bydd aelodau etholedig yn aml ar ‘reng flaen’ ymwneud â Prevent o du eu hetholwyr. Mae’n hanfodol eu bod yn deall egwyddorion allweddol Prevent.
  • Bob tro, dylai awdurdodau lleol ystyried anghenion y staff yn eu gwahanol swyddogaethau. Mae’r agwedd haenog hon tuag at hyfforddiant yr un fath â fframwaith hyfforddiant a medrau Prevent y GIG ar GOV.UK.[footnote 9]

Hyfforddiant ychwanegol

  • Mae’n arfer da cael rhaglen addysg sy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau addysgol yn yr ardal i hyfforddi aelodau staff i nodi plant sydd mewn perygl o radicaleiddio, ac i adeiladu gwytnwch mewn disgyblion. Dylid cymryd camau i ddeall amrywiaeth y gweithgareddau a lleoliadau ysgolion ategol a darpariaeth tu allan i’r ysgol i bobl ifanc, a dylid ystyried sicrhau fod plant sy’n mynychu lleoliadau o’r fath yn cael eu diogelu’n briodol, yn rhannol trwy gynnig hyfforddiant addysg unswydd.
  • Dylai grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent geisio sicrwydd gan bartneriaid eu bod yn cynnal hyfforddiant ar lefelau priodol yn eu sefydliadau eu hunain.

Hyfforddiant ar y cyd

Gellid ystyried y posibilrwydd o hyfforddiant ar y cyd gyda phartneriaid, yn enwedig partneriaid statudol sy’n cyflwyno yn lleol megis yr heddlu, arweinyddion iechyd a’r gwasanaeth prawf. Gallai hyfforddiant ar y cyd sicrhau pwrpas unffurf a chysondeb agwedd ymysg partneriaid a lleihau posibilrwydd negeseuon cymysg.

Hygyrchedd hyfforddiant

Dylai gwybodaeth glir a hygyrch a deunydd cyhoeddusrwydd ar hyfforddiant Prevent a chanllawiau ysgrifenedig i staff awdurdodau lleol am eu cyfrifoldebau am hyfforddiant Prevent fod ar gael yn helaeth yn y sefydliad – ar fewnrwyd y sefydliad, er enghraifft.

Dylid cynnig rhaglen gyflwyno a chynefino i swyddogion newydd sy’n gyfrifol am gyflwyno Prevent yn yr ardal, ynghyd â rhaglen o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Sut mae gwybod fod hyn yn dda?

Mae gan yr awdurdod lleol strategaeth neu gynllun hyfforddi sy’n rhoi manylion am bwy sydd angen hyfforddiant ac ar ba lefel y dylai hyn fod. Mae grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent yn ceisio sicrwydd gan fudiadau sy’n bartneriaid am lefel yr hyfforddiant a phwy sy’n ei ddilyn. Mae’r hyfforddiant lleol a gynigir yn cynnwys hyfforddiant codi ymwybyddiaeth arlein, hyfforddiant wyneb-yn-wyneb, a chyfraniadau arbenigol ar gyfer rolau penodol, megis cadeirydd ac is-gadeirydd panel Channel. Mae grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent yn sicrhau bod rhaglen hyfforddi benodol i ysgolion, sefydliadau addysg a mudiadau plant neu bobl ifanc eraill yn yr ardal leol.

Adran 7: Lleihau amgylcheddau goddefol

Meincnod Mae fforwm amlasiantaethol wedi ei sefydlu (gan ddefnyddio strwythurau sy’n bodoli eisoes os yn briodol) i nodi, cytuno a gweithredu (lle bo angen) camau cyfreithlon a phriodol i leihau gofodau goddefol a ddefnyddir gan y sawl sy’n radicaleiddio pobl i gymryd rhan mewn terfysgaeth neu ei gefnogi. Mae hyn yn cynnwys sicrhau na ddefnyddir lleoliadau neu gyfarpar TG gan siaradwyr a grwpiau sy’n lledaenu naratifau eithafol y gellid yn rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth.
Deilliant Mae partneriaid amlasiantaethol yn cydweithio i leihau amgylcheddau goddefol a’r risg y bydd pobl yn dod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth.
Arfer da Mae grŵp amlasiantaethol ffurfiol a rheolaidd ar gael ar lefel leol neu ranbarthol i nodi, trafod a tharfu ar ddylanwadau radicaleiddio a’r dulliau a ddefnyddir i dynnu pobl i mewn i derfysgaeth. Lle bo angen, mae grŵp amlasiantaethol yn cael ei gynnull yn unswydd i drin problem sy’n codi.
Arfer da Mae cadeirydd a dirprwy wedi eu henwebu, a all gynnull fforwm amlasianatethol berthnasol i drafod camau ac agweddau i darfu.
Arfer da Mae gan y grŵp amlasiantaethol ddealltwriaeth glir o’r dylanwadau radicaleiddio, gan gynnwys dylanwadau eithafol treisgar ac eithafiaeth y gellid yn rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth, yn eu hardal. Mae prosesau ar gael y gellir eu harchwilio, er mwyn olrhain penderfyniadau a gymerwyd a rhannu deilliannau mewn proses adborth gydnabyddedig.
Arfer da Mae polisi llogi lleoliadau’r sector cyhoeddus ar gael sy’n sicrhau y cymerir mesurau i atal lleoliadau’r awdurdod lleol rhag cael eu defnyddio gan radicaleiddwyr i ledaenu neu gefnogi ideolegau terfysgol a’r naratifau eithafol a ddefnyddir i’w cefnogi.
Arfer da Mae polisi TG gan yr awdurdod lleol, a adolygir yn rheolaidd, sy’n atal mynediad at ddeunyddiau sy’n niweidio neu yn dylanwadu ar bobl derbyngar i radicaleiddio.
Gweithgaredd arfer gorau Mae aelodau grŵp partneriaeth amlasiantaethol Prevent yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am faterion lleol, grwpiau a phobl a all achosi pryder ac a all geisio radicaleiddio eraill, neu sy’n creu ac yn manteisio ar amgylcheddau goddefol er mwyn radicaleiddio, trwy’r PGDLl a briffio llafar gan y Swyddfa Gartref.
Gweithgaredd arfer gorau Gall staff llogi lleoliadau gyrchu hyfforddiant ar ddiwydrwydd dylwadwy, gan gynnwys i staff y sector cyhoeddus sy’n delio â llogi lleoliadau.

Mae Prevent yn ceisio mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth trwy drin cyfleoedd i fod yn derbyngar i naratifau radicaleiddio. Gellir gwneud hyn trwy greu amgylchedd lle mae ideolegau radicaleiddio yn cael eu herio ac na chaniateir iddynt ffynnu.

Dylai awdurdodau lleol ystyried pa bolisiau a phrosesau sydd eu hangen. Byddai’n arfer da cymryd agwedd bartneriaeth i gyfyngu ar niwed a dylanwad posib radicaleiddwyr ac effaith naratifau eithafol a’r cynnwys maent yn ddefnyddio i dynnu pobl i mewn i derfysgaeth. Trwy sicrhau nad yw amgylcheddau lleol, arlein a heb fod arlein, yn creu gofodau goddefol i radicaleiddio, gall awdurdodau lleol a phartneriaid wneud mwy i atal pobl fregus rhag cefnogi terfysgaeth neu ddod yn derfysgwyr.

Efallai y dyumuna awdurdodau lleol gyflwyno’r agwedd bartneriaeth hon at leihau amgylcheddau goddefol trwy drefnu fforwm amlasiantaethol. Gall y fforwm hon ddefnyddio strwythurau sy’n bod eisoes megis grŵp partrneriaeth amlasiantaethol Prevent.

Byddai aelodaeth fforwm neu grŵp o’r fath yn cynnwys yr heddlu, cynrychiolwyr awdurdodau penodedig eraill dan ddyletswydd Prevent, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Byddai’r grŵp yn sefydlu prosesau i rannu gwybodaeth, asesu risg a datblygu cynlluniau gweithredol i darfu ar ddylanwadau a narataifau radicaleiddio sy’n creu neu’n manteisio ar amgylcheddau goddefol yn y gymuned.

Byddai’r grŵp yn nodi ac yn ystyried cyfleoedd cyfreithlon priodol i darfu ar y sawl sydd am radicaleiddio eraill i ddod yn derfysgwyr neu i gefnogi terfysgaeth, neu sy’n hyrwyddo ideolegau eithafol cysylltiedig â therfysgaeth. Gall hyn olygu nid yn unigo gael y polisiau priodol a sicrhau na ddefnyddir cyfleusterau a lleoliadau yn amhriodol, ond hefyd ceisio herio syniadau eithafol (treisgar a di-drais) sy’n gysylltiedig â therfysgaeth neu gyfreithloni ideoleg derfysgol.

Dylai’r grŵp ddeall naratifau a dulliau sy’n cael eu defnyddio i dynnu pobl i mewn i derfysgaeth. Dylai staff perthnasol yr awdurdodau lleol gael cyfle i fynychu briffiadau neu hyfforddiant i ddod i wybod am faterion yn y gymuned a all greu amgylchedd oddefol ar gyfer radicaleiddio.

Lle mae’n hysbys fod bygythiad a risg yn bodoli ar draws sawl awdurdod lleol, gellir ystyried cydgordio’r gweithgareddau hyn yn rhanbarthol gyda phartneriaid allweddol i nodi a tharfu’n effeithiol ar y dylanwadau radicaleiddio hynny a lledaeniad naratifau eithafol a fwriadwyd i gyfreithloni a chefnogi terfysgaeth, neu dynnu pobl i mewn iddo.

Polisi llogi lleoliadau a diwydrwydd dyladwy

Mae’n arfer da i awdurdodau lleol sicrhau bod system gadarn ar gael am archebion newydd a bod y staff sy’n gyfrifol amdanynt wedi eu hyfforddi i wybod beth i’w wneud os ydynt yn amau fod archeb yn peri risg o gefnogi mudiad terfysgol neu radicaleiddio. Gallai hyn olygu ystyried y wybodaeth sy’n hysbys am yr unigolyn neu’r grŵp sy’n archebu – a gall hyn gynnwys yr hyn a ganfuwyd trwy chwiliad ‘ffynhonnell derbyngar’ – ac, wrth brosesu unrhyw ddata personol, rhaid cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Holwch Beth a gynlluniwyd a phwy sy’n ei gynllunio?
Gwiriwch Adolygu pa wybodaeth a gyhoeddwyd am y digwyddiad a beth sydd ar gael yn gyhoeddus am y sawl sy’n cynnal, o ran risgiau yng nghyswllt gweithgaredd eithafol cysylltiedig â therfysgaeth.
Penderfynwch Defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd fel sail i’ch penderfyniad.

Mae’n arfer da i swyddogion sy’n gyfrifol am gymeradwyo llogi eiddo’r awdurdod lleol neu drefnu digwyddiadau dderbyn hyfforddiant am sut i gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ac asesiadau risg, ac i gysylltu â’r heddlu neu’r awdurdod lleol am bobl neu fudiadau sydd am logi lleoliadau neu drefnu digwyddiadau lle mae risg o radicaleiddio neu dynnu pobl i mewn fel arall i derfysgaeth.

Eiddo nad yw’r awdurdod lleol yn berchen arno

O ran eiddo nad yw’r awdurdod lleol yn berchen arno, efallai y bydd perchenogion y lleoliad eisiau gwybod a oes pryderon am y sawl sy’n cynnal neu rywun arall cysylltiedig â’r digwyddiad y gwyddys sy’n radicaleiddio eraill i derfysgaeth neu ledaenu naratifau sy’n cyfreithloni trefysgaeth neu fudiadau terfysgol.

Gall awdurdodau lleol roi canllawiau a chefnogaeth i fudiadau eraill yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau nad ydynt yn ddiarwybod yn rhoi llwyfan i ddylanwadau eithafol y gellir yn rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth.

Polisi TG

Mae canlllaw dyletwydd Prevent yn dweud y dylai awdurdodau penodedig sy’n dod dan ddyletswydd Prevent sicrhau fod gan adnoddau sydd ym mherchenogaeth y cyhoedd bolisiau priodol yng nghyswllt eu cyfarpar a’u rhwydweithiau TG. Dylai polisiau o’r fath fel arfer gyfeirio yn benodol at ddyletswydd Prevent.

Fel y gosodir allan yng nganlllaw dyletwydd Prevent, dylai awdurdodau lleol sicrhau nad yw adnoddau ym mherchenogaeth y cyhoedd yn rhoi llwyfan i radicaleiddio ac nad ydynt yn cael eu defnyddio i ledaenu barn dreisgar eithafol a ddefnyddir i gyfreithloni, cefnogi nac annog gweithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys ystyried a ddylai TG ddefnyddio systemau hidlo sy’n cyfyngu ar fynediad at ddeunydd y gellid yn rhesymol ei gysylltu â therfysgaeth.

Mae’n arfer da i awdurdodau lleol wirio gyda’u darparwr i weld a yw eu cynnyrch hidlo yn cyfeirio at neu yn defnyddio’r rhestr a aseswyd gan yr heddlu o gynnwys terfysgol anghyfreithlon. Cynhyrchir y rhestr honno ar ran y Swyddfa Gartref gan yr Uned Gyfeirio Rhyngrwyd Gwrth-derfysgaeth.

Contractwyr

Mae’n bwysig hefyd nad yw arian Prevent yn mynd i fudiadau neu bobl sydd â barn sy’n cyfreithloni, annog neu gefnogi gweithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth. Dylai awdurdodau lleol ystyried a oes risgiau o’r fath yn gysylltiedig â’u gwaith gyda grwpiau penodol neu bobl, a dylent ystyried yn ofalus i bwy y maent yn rhoi arian neu gontractau Prevent a sicrhau bod diwydrwydd dylwadwy priodol yn cael ei gynnal.

Mae disgwyl i awdurdodau lleol sicrhau nad yw mudiadau sy’n gweithio gyda hwy ar Prevent yn ymwneud â gweithgaredd eithafol cysylltiedig â therfysgaeth, gan gynnwys lledaenu ideolegau eithafol a ddefnyddir i radicaleiddio eraill i weithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth.

Lle mae’n briodol, mae’n arfer da i awdurdodau lleol sicrhau fod egwyddorion dyletswydd Prevent wedi eu hysgrifennu yng nghontractau cyflwyno eu gwasanaethau ar ffurf addas.

Sut mae gwybod bod hyn yn dda?

Mae’r bartneriaeth yn deall yn glir ddylanwadau eithafol a gysylltir yn rhesymol a therfysgaeth yn yr ardal. Mae fforwm amlasiantaethol yn cwrdd yn rheolaidd i nodi a chytuno ar gamau priodol i darfu ar weithgareddau sy’n creu gofod goddefol i radicaleiddio i derfysgaeth. Gwneir penderfyniadau cadarn seiliedig ar dystiolaeth pan gymerir camau o’r fath neu pan nas cymerir. Mae polisi effeithiol o ran llogi lleoliadau ar gyfer pob adeilad ym meddiant yr awdurdod lleol, sy’n sicrhau y cymerir mesurau i atal lleoliadau’r awdurdod lleol rhag cael eu defnyddio i ledaenu barn sy’n sy’n cyfreithloni, annog neu gefnogi gweithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth. Mae’r staff sy’n llogi lleoliadau yn derbyn hyfforddiant i ddeall y risg o ddylanwadau radicaleiddio o’r fath yn eu hardal ac i gynnal prosesau diwydrwydd dyladwy. Mae arferion da o ran proses llogi lleoliadau yn cael eu rhannu gyda’r bartneriaeth yn ehangach ac eiddo heb fod ym meddiant yr awdurdod lleol. Y mae polisi TG ar waith i atal mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir i greu gofod goddefol i radicaleiddio, a chaiff ei adolygu’n rheolaidd.

Adran 8: Cyfathrebu ac ymwneud

Meincnod Mae cynllun cyfathrebu ac ymwneud yn cael ei gyflwyno er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl am Prevent, codi ymwybyddiaeth o nod Prevent, a gwneud yn sicr eu bod yn gwybod lle i fynd os oes ganddynt bryderon am rywun sy’n derbyngar i’w radicaleiddio. Mae’r cynllun yn cynnwys cyfathrebu’n rhagweithiol â’r cyhoedd ar Prevent, ac ymwneud ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol a mudiadau cymdeithas sifil, gan annog deialog derbyngar am Prevent a magu hyder y cyhoedd.
Deilliant Mae pobl yn deall yn well sut mae Prevent yn cael ei gyflwyno’n lleol ac yn gwybod lle i fynd am gefnoageth gyda phryderon am radicaleiddio. Mae grwpiau lleol yn wybodus ac yn cefnogi agwedd tîm lleol Prevent.
Arfer da Mae cyfathrebu rhagweithiol yn digwydd am waith tîm Prevent a gall pobl fynd yn hawdd at wybodaeth am y rhaglen.
Arfer da Mae ymwneud yn digwydd gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth a thrafod sut y gweithredir Prevent i gefnogi cymunedau.
Gweithgaredd arfer gorau Mae cyfathrebu ac ymwneud wedi ei deilwrio i ymateb yn uniongyrchol i risgiau a phroblemau lleol, a rhoddir blaenoriaeth i weithgaredd ac i gynulleidfaoedd yn unol â hynny.
Gweithgaredd arfer gorau Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda mudiadau cymdeithas sifil i gyflwyno mentrau lleol sy’n adeiladu gwytnwch rhag radicaleiddio.
Gweithgaredd arfer gorau Mae mecanweithiau ar gael i ganiatau i aelodau o’r gymuned ymgynghori ar gyflwyno Prevent yn lleol, a’i gefnogi.
Gweithgaredd arfer gorau Mae gweithgareddau cyfathrebu ac ymwneud wedi eu teilwrio at wahanol sectorau – er enghraifft, cynhyrchion penodol i arweinyddion diogelu dynodedig.

Mae cyfathrebu ac ymwneud yn chwarae rhan arwyddocaol i gefnogi cyflwyno Prevent trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a magu hyder yn y rhaglen. Bydd cyfathrebu effeithiol a hygyrch yn sicrhau y gŵyr pobl sydd â phryderon â phwy i gysylltu a byddant yn teimlo’n ddigon hyderus i gyfeirio neu i gael cefnogaeth Prevent. Gall sefydlu a gwell ymwneud y gymuned â Prevent hefyd gefnogi cyflwyno trwy gynhyrchu eiriolaeth ac ymddiriedaeth yn y rhaglen, gan greu cyfle am drafodaeth i wella mentrau lleol, ac adeiladu gwytnwch yn erbyn radicaleiddio.

Cynlluniau cyfathrebu ac ymwneud

Dylai cynlluniau cyfathrebu ac ymwneud gael eu cyflwyno mewn ffordd sydd wedi ei dargedu at asesu’r risg leol o radicaleiddio, a bod yn gymesur â hynny. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle’r asesir bod mwy o fygythiad o radicaleiddio, gall awdurdodau lleol roi mwy o bwyslais ar gyfathrebu ac ymwneud er mwyn sicrhau fod pobl yn ymwybodol o’r risgiau ac o’r gefnogaeth sydd ar gael trwy Prevent. Hefyd, dylai cyfathrebu ac ymwneud ganolbwyntio ar y bygythiadau mwyaf arwyddocaol yn yr ardal (gan gynnwys ideoleg) a lleihau rhwystrau gweithredol i gyflwyno yn effeithiol yn lleol.

I roi blaenoriaeth i’r gweithgaredd hwn, efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried datblygu stratregaeth lle maent yn nodi amcanion allweddol, cynulleidfaoedd, a sianeli i’w gweithgareddau cyfathrebu ac ymwneud Prevent. Gall y strategaeth fod yn arunig, neu ffurfio rhan o gynllun ehagach partneriaeth Prevent neu gynlluniau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Wrth ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymwneud, bydd yn arfer da esbonio model cyflwyno Prevent, gan amlygu effaith gadarnhaol mentrau lleol, gan ymdrin ag unrhyw wybodaeth anghywir am Prevent, ac ymgynghori â chymunedau i wella’r ffordd mae Prevent yn gweithredu yn lleol. Wrth wneud hyn, bydd gweithgaredd yn cael ei fapio yn erbyn deilliannau clir, gyda thystiolaeth lle bo modd.

Cyfathrebu

Mae awdurdodau lleol ar flaen y gad o ran cyflwyno Prevent. Mae’n hanfodol eu bod yn rhoi gwybodaeth glir a hygyrch i bobl am y rhaglen a lle i fynd os oes ganddynt bryderon am radicaleiddio. Gall hyn gynnwys:

  • adran unswydd i Prevent ar wefan yr awdurdod lleol, gyda manylion am y sawl i gysylltu â hwy os ydynt am drafod pryder
  • crybwyll Prevent yn llythyrau newyddion yr awdurdod lleol, neu lythyrau newyddion Prevent, i roi’r newyddion diweddaraf am weithgaredd Prevent neu hyfforddiant i bartneriaid y sector am y ddyletswydd
  • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu ffeithiau am gyflwyno Prevent
  • ysgrifennu blogiau neu gynnwys hwy arall i roi esboniad mwy manwl o fentrau lleol Prevent neu dynnu sylw at lwyddiannau

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu pecyn cymorth cyfathrebu Prevent ar wahân y gall timau awdurdodau lleol ei ddenfyddio i gyfathrebu’n effeithiol am Prevent. Mae hyn yn cynnwys deunydd cyfathrebu ac asedau y gellir eu dosbarthu’n lleol.

Cyfryngau newyddion

Mae’r cyfryngau lleol a chenedlaethol yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang gyda gwybodaeth am gyflwyno Prevent yn lleol, creu dealltwriaeth, rhoi trylowyder, a dangos gwaith y tîm lleol a mentrau sifil. Gallai hyn gynnwys gwahodd gohebydd i ddigwyddiad neu fenter leol, a chynnig cynrychiolwyr i gael eu cyfweld neu i gael trafodaeth am y cefndir. Dylid ymgynghori â thimau cyfathrebu’r awdurdod lleol cyn ymwneud â’r cyfryngau, neu gallant arwain ar hyn. Argymhellir yn gryf y dylai awdurdodau lleol ymwneud hefyd â’u cyswllt yn y Swyddfa Gartref cyn ymwneud â’r cyfryngau, i drafod addasrwydd unrhyw geisiadau, yn enwedig rhai lle mae astudiaethau achos dan sylw.

Ymwneud

Mae Prevent ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyflwyno mewn partneriaeth â chymunedau. Gall adeiladu eiriolaeth a chefnogaeth leol i amcanion y rhaglen hwyluso gwell gwell darpariaeth, a gall adeiladu gwytnwch y gymuned yn erbyn radicaleiddio a lleihau’r bygythiad lleol. Byddai gweithgaredd ymwneud cryf yn ceisio ennydd hyder cymunedau, ehangu dealltwriaeth o realiti Prevent, ac ymwneud ag unrhyw amheuwyr yn gadarnhaol. Mae nifer o ffyrdd y gall awdurdodau lleol ymwneud â chymunedau ar Prevent, megis:

  • dwyn i mewn aelodau etholedig, gan ofalu fod ganddynt yr holl wybodaeth am y rhaglen, a rhoi’r arfogaeth iddynt eiriol yn gadarnhaol dros fentrau lleol Prevent
  • cynnwys trafodaethau am Prevent mewn unrhyw ymwneud strwythuredig cyson gyda ffigyrau allweddol y gymuned, fel llywodraethwyr ysgolion, arweinyddion ffydd a mudiadau cymdeithas sifil
  • comisiynu partner uchel ei barch o gymdeithas sifil i arwain rhaglen o ymwneud ynghylch radicaleiddio
  • Cynnal rhywdwaith o bobl i gysylltu â hwy yn y gymuned y gellir mynd ar eu gofyn i drafod risgiau sy’n ymddangos ac a fedr hyrwyddo negeseuon cadarnhaol i dawelu meddyliau pan fo tyndra yn y gymuned yn uchel neu yn dilyn digwyddiad
  • ymgynghori â phobl yn y gymuned i drafod gweithgaredd Prevent lleol, gwrando ar unrhyw bryderon, a chael adborth er mwyn gwella cyflwyno
  • gweithio mewn partneriaeth a phobl gyfatebol yn y rhanbarth, cydweithwyr o’r heddlu a’r Swyddfa Gartref i ddatblygu mentrau ymwneud ar y cyd neu gynnal digwyddiadau

Mae mwy o gefnogaeth am weithgareddau ynwneud â’r gymuned yn llawlyfr ymwneud â’r gymuned a llawlyfr yr aelodau etholedig.

Sut mae gwybod fod hyn yn dda?

Mae strategaeth gyfathrebu ac ymwneud ar gael, gydag amcanion clir sy’n cysylltu â’r risgiau a nodwyd yn PGDLl yr ardal. Rhoddir blaenoriaeth i weithgareddau ac adnoddau yn yr ardaloedd lle mae’r risg uchaf neu sy’n ceisio ymdrin ag unrhyw rwystrau a ddaw i ran y tîm lleol.

Mae adnoddau cyfathrebu wedi eu teilwrio i ystyried bygythiadau lleol a rhoi manylion am fentrau lleol, gan gynnwys manylion cyswllt y tîm Prevent lleol. Caiff cynnwys ei gyfoesi’n rheolaidd ac y mae’n rhoi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gynulleidfa y’i bwriedir ar eu cyfer. Er enghraifft, datblygir llythyr newyddion i arweinyddion diogelu sydd yn talu sylw i hyfforddiant neu ganllawiau swyddogol newydd.

Mae tîm Prevent yn ymwneud yn rheolaidd â grwpiau cymunedol i adeiladu perthynas gadarnhaol ac ystyried unrhyw bryderon am fentrau gwrth-radicaleiddio lleol. Gall y tîm hefyd hwyluso cyfleoedd i aelodau dylanwadol o’r gymuned dderbyn gwybodaeth am gyflwyno Prevent neu gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhanbarthol.

Canllaw allweddol:

Canllaw dyletswydd Prevent i Gymru a Lloegr

Canllaw dyletswydd Channel: Amddiffyn pobl fregus rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth

Mwy o wybodaeth ac adnoddau:

CONTEST: Strategaeth y Dyrnas Unedig i wrthweithio terfysgaeth

Hyfforddiant am ddyletswydd Prevent

Dyletswydd Prevent: Diogelu dysgwyr sy’n derbyngar i radicaleiddio

Addysg yn Erbyn Casineb

NHS England: Canllaw i wasanaethau iechyd meddwl o ran cyflawni dyletswyddau i ddiogelu pobl rhag risg radicaleiddio

Fframwaith hyfforddi a medrau Prevent NHS England