Canllawiau

Sancsiynau Sifil APHA am ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd planhigion

Cyhoeddwyd 7 Ebrill 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

1. Cwmpas y canllawiau

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â’r defnydd o sancsiynau sifil mewn perthynas ag Atodlen 4A i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Lloegr) 2019 ac Atodlen 4A i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2020, y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “y ddeddfwriaeth”). Mater datganoledig yw iechyd planhigion ac mae’r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Caiff y troseddau sy’n ddarostyngedig i sancsiynau sifil eu rhestru yn Rhan 11 o’r ddeddfwriaeth. Nid yw’r canllawiau hyn yn gymwys i unrhyw beth a gaiff ei reoleiddio gan y Comisiwn Coedwigaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon. Ceir rhagor o wybodaeth am reoleiddio iechyd planhigion er mwyn cefnogi bioamrywiaeth yn strategaeth Bioddiogelwch planhigion Prydain Fawr sydd wedi’i chynnwys yn adran adnoddau pellach y canllawiau hyn.

Defnyddir ‘unigolyn neu fusnes’ drwy gydol y canllawiau hyn i olygu corff o unrhyw fath, neu berson naturiol, gan gynnwys partneriaid partneriaeth. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn darparu ar gyfer gweithgarwch gorfodi mewn perthynas â swyddog corff corfforedig neu gymdeithas anghorfforedig neu bartner partneriaeth mewn perthynas â thoriad neu fethiant gan y corff a ddigwyddodd gyda chaniatâd neu ymoddefiad y swyddog. 

Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i unrhyw un yr ystyrir ei fod yn ‘weithredwr proffesiynol’[troednodyn 1] sy’n golygu unrhyw berson sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol sy’n gysylltiedig â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sy’n gyfrifol yn gyfreithiol amdanynt:

  • Plannu
  • Bridio
  • Cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal,
  • Cyflwyno i Gymru a Lloegr a symud o fewn y gwledydd hynny ac allan ohonynt
  • Cyflwyno ar y farchnad (gan gynnwys ar-lein)
  • Storio, casglu, dosbarthu a phrosesu.

Ceir rhagor o arweiniad i’ch helpu i benderfynu a ydych chi’n weithredwr proffesiynol yn Atodiad 1. Ceir diffiniadau eraill yn yr adran adnoddau pellach ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru oni bai eich bod yn hobïwr, sy’n tyfu planhigion at ddefnydd personol yn unig neu eich bod ond yn gwerthu symiau bach o blanhigion yn achlysurol.   

2. Egwyddorion gorfodi

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cydweithio i ddiogelu bioddiogelwch, iechyd planhigion a’r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.  At ddibenion y ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, APHA yw’r rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am reolaethau diogelu iechyd planhigion, ac eithrio’r rhai hynny a gaiff eu rheoleiddio gan y Comisiwn Coedwigaeth neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Dim ond sancsiwn sifil y gall APHA ei roi yng Nghymru a Lloegr.

Os bydd achos o dorri’r rheoliadau y gellir ei unioni’n hawdd, gall APHA roi cyngor ar y gofynion cyfreithiol a sut i gydymffurfio yn hytrach na gosod sancsiynau sifil neu erlyn. Er enghraifft, os gwnaed gwall gweinyddol unigol. Mae cyngor ac arweiniad yn gam cyntaf pwysig o hyd a gall gweithredwyr proffesiynol geisio cyngor gan APHA gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir yn ‘Adnoddau Pellach’.

Nid yw hyn yn golygu na ellir cymhwyso sancsiynau sifil at weithredwr proffesiynol yn y dyfodol am doriadau parhaus lle na chawsant eu hunioni gan ddilyn y cyngor a roddwyd neu mewn achosion lle bydd tystiolaeth ddiweddarach yn dangos bod yr achos o dorri’r rheoliadau yn fwy difrifol na’r hyn a gredwyd yn wreiddiol.

Dim ond at ddibenion dangosol y dylid ystyried yr enghreifftiau a ddarperir yn y canllawiau  hyn; maent yn disgrifio’r ffordd y gall APHA ddefnyddio’r sancsiwn sifil sydd ar gael, ond ymdrinnir â phob achos ar sail unigol.

Caiff sancsiynau sifil eu gorfodi’n unol â Pholisi rheoleiddiol a chydymffurfiaeth APHA. Mae’r Datganiad Polisi yn amlinellu’r egwyddorion arweiniol ar gymesuredd, cysondeb, tryloywder a thargedu.

Nod y defnydd o sancsiynau sifil o dan y ddeddfwriaeth yw atal anghyfreithlondeb a rheoli achosion o ddiffyg cydymffurfio er mwyn diogelu bioddiogelwch a sicrhau tegwch i’r rhai sy’n cydymffurfio. Drwy gymryd camau cymesur ac amserol yn erbyn y rhai hynny sy’n gyfrifol am achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd planhigion, caiff busnesau sy’n cydymffurfio, masnach a’r amgylchedd eu hamddiffyn.

Bydd y sancsiwn sifil a gaiff ei gyflwyno yn dibynnu ar ddifrifoldeb, amgylchiadau, natur (math, bwriad a graddfa) ac effaith yr achos o ddiffyg cydymffurfio a beth y gellir ei wneud i’w unioni.

Bydd y math o sancsiwn sifil yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys:

  • unrhyw risgiau bioddiogelwch a nodwyd
  • a yw’r achos o ddiffyg cydymffurfio yn ymwneud ag unigolyn neu fusnes
  • hanes cydymffurfio a throseddau mynych
  • unrhyw fwriad i dwyllo neu anwybyddu rheolaethau
  • yr angen i atal achosion pellach o ddiffyg cydymffurfio
  • effaith ehangach yr achos o ddiffyg cydymffurfio ar yr amgylchedd

Mae sancsiwn sifil yn gosb nad yw’n un droseddol a ddefnyddir i annog unigolyn neu fusnes i unioni neu wella ei ymddygiad, tra bod erlyn troseddol yn achos llys ffurfiol a all arwain at gofnod troseddol a chosbau llymach.

3. Sancsiynau Sifil

Mae sancsiynau sifil yn cynnig amrywiaeth o adnoddau gorfodi y gellir eu defnyddio pan na fydd gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio â rheoliadau. Mae pob un yn cynnig dull gorfodi gwahanol gyda phroses a chosb wahanol fel y nodir yn Atodlen 4A i’r Ddeddfwriaeth.

Bydd sancsiynau sifil yn gymesur â’r drosedd a bwriedir iddynt ymdrin ag achosion o ddiffyg cydymffurfio. Cânt eu defnyddio i atal achosion yn y dyfodol.

Safon y prawf sydd ei hangen ar gyfer cyflwyno sancsiwn sifil yw “yn ôl pwysau tebygolrwydd”. Mae hyn yn golygu y byddai angen i APHA, fel y rheoleiddiwr, fod yn fodlon yn ôl y dystiolaeth sydd ar gael ei bod hi’n fwy tebygol na pheidio bod yr achos o ddiffyg cydymffurfio wedi digwydd. Mae’r sancsiynau sifil sydd ar gael o dan y ddeddfwriaeth yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol amrywiadwy
  • Hysbysiad stop
  • Ymgymeriad gorfodi (gan gynnwys ymgymeriad trydydd parti)

Rhoddir senarios enghreifftiol yn dilyn pob disgrifiad o sancsiwn. Ceir rhestr lawn o droseddau y gellir rhoi sancsiwn sifil ar eu cyfer yn Rhan 11 o’r ddeddfwriaeth y ceir dolen iddi yn yr adnoddau pellach.

Bydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno sancsiwn yn gymesur, ac yn ystyried ffactorau lliniarol neu waethygol gan gynnwys, ymhlith eraill, y canlynol:

  • effaith y drosedd honedig, gan gynnwys unrhyw effeithiau gwirioneddol neu’r potensial i achosi niwed
  • osgoi rheolaethau yn fwriadol
  • unrhyw fudd economaidd yn deillio o’r achos o ddiffyg cydymffurfio
  • hanes cydymffurfio
  • methiant i gydymffurfio â hysbysiad statudol
  • cyflenwi gwybodaeth/ cofnodion ffug neu dwyllodrus
  • atal arolygwyr

3.1 Hysbysiad Cydymffurfio

Mae hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i unigolyn neu fusnes gymryd camau penodol, o fewn amserlen ddiffiniedig, i sicrhau na fydd trosedd yn parhau ac i gydymffurfio â’r Rheoliadau.

Gellir cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio am y rhesymau canlynol. Nid yw’r rhestr hon mewn trefn blaenoriaeth ac nid yw’n hollgynhwysfawr:

  • Ni chaiff cyngor ac arweiniad gan yr awdurdod priodol ei ddilyn neu ni fanteisir ar gyfleoedd i hunan-gywiro
  • Mae tebygolrwydd y bydd y gweithgarwch yn parhau, ac na fydd cyngor ac arweiniad ar eu pen eu hunain yn ddigon i sicrhau cydymffurfiaeth

Gall APHA gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio ar y cyd â chosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad adfer, mewn perthynas â’r un drosedd, er mwyn dylanwadu ar ymddygiad y troseddwr ac adfer yr amgylchedd.

Nid yw hysbysiad cydymffurfio yn debygol o gael ei gyhoeddi o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • lle bydd y troseddwr eisoes wedi cywiro ei weithgarwch yn dilyn cyngor anffurfiol

Ni all APHA gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio lle bydd cosb ariannol benodedig ar gyfer yr un drosedd eisoes wedi’i gosod neu fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un drosedd.

Gall methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio arwain at erlyniad troseddol.

Enghraifft

Mae planhigfa yn mewnforio planhigion yn rheolaidd heb y tystysgrifau ffytoiechydol cywir. Er gwaethaf y ffaith bod camau rheoleiddio wedi’u cymryd mewn perthynas â llwythi unigol, parhaodd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio. Cyflwynir hysbysiad cydymffurfio, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r busnes wella prosesau er mwyn gwrthod planhigion heb y ddogfennaeth gywir a gwella hyfforddiant y staff. Rhaid darparu tystiolaeth o’r broses newydd a’r hyfforddiant i APHA o fewn yr amserlen a bennwyd.

3.2 Hysbysiad adfer

Mae hysbysiad adfer yn ei gwneud yn ofynnol i unigolyn neu fusnes unioni canlyniadau trosedd benodol, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl. Caiff y mesurau a’r amserlen angenrheidiol eu nodi gan APHA yn yr hysbysiad.

Bydd hysbysiad adfer yn fwyaf tebygol o gael ei gyhoeddi pan fydd difrod amgylcheddol wedi’i achosi, a bod angen camau gweithredu i’w adfer. Os na fydd unrhyw beth i’w adfer neu os nad yw’n ymarferol ei adfer, mae’n annhebygol y caiff hysbysiad adfer ei gyhoeddi.

Gall APHA gyhoeddi hysbysiad adfer ar y cyd â chosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio. Ni fydd APHA yn cyhoeddi hysbysiad adfer lle bydd cosb ariannol benodedig ar gyfer yr un drosedd eisoes wedi’i rhoi neu fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un drosedd.

Gall methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer arwain at erlyniad troseddol.

Enghraifft

Mae busnes tirlunio wedi defnyddio planhigyn fel rhan o arddangosiad a gafodd ei fewnforio’n anghywir. O ganlyniad, caiff hysbysiad iechyd planhigion statudol ei gyflwyno yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael gwared ar y planhigyn a’i ddinistrio. Yn dilyn hynny, caiff hysbysiad adfer ei gyflwyno yn ei gwneud yn ofynnol iddo adfer y plot i’w gyflwr gwreiddiol.

3.3 Cosb ariannol benodedig

Cosb ariannol benodedig yw cosb ariannol benodol o £250 i unigolion a £2000 i gyrff corfforedig, partneriaethau, neu gymdeithasau anghorfforedig.

Gellir codi cosb ariannol benodedig am y rhesymau canlynol. Nid yw’r rhestr hon mewn trefn blaenoriaeth ac nid yw’n hollgynhwysfawr:

  • Mae cyngor ac arweiniad, neu weithgarwch gorfodi blaenorol, wedi methu â sicrhau cydymffurfiaeth
  • Nid yw opsiynau gorfodi eraill fel tynnu awdurdodiad (er enghraifft, ar gyfer pasbortau planhigion) yn ôl dros dro yn briodol neu nad ydynt yn addas i’w defnyddio ar eu pen eu hunain

Mae amgylchiadau lle mae’n annhebygol y caiff cosb ariannol benodedig ei gosod yn cynnwys:

  • Trosedd gyntaf lle gwnaed ymdrechion i ymgysylltu ag APHA, ac y cafodd y drosedd ei hunioni
  • Lle mae’r drosedd yn ddifrifol neu lle mae’r troseddwr yn cael budd ariannol sylweddol o’r drosedd

Ni all APHA osod cosb ariannol benodedig lle bydd y canlynol wedi digwydd mewn perthynas â’r un drosedd:

  • Cafodd hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop ei gyflwyno
  • Cafodd cosb ariannol amrywiadwy ei chyflwyno
  • Mae APHA wedi derbyn ymgymeriad trydydd parti neu ymgymeriad gorfodi

Enghraifft

Mae busnes yn methu’n gyson â darparu rhag-hysbysiad (lle bo angen) am nwyddau sy’n cyrraedd yn y DU drwy safle rheoli ffiniau. Er gwaethaf cael cyngor ac arweiniad ar sut i gydymffurfio sawl gwaith, mae’r unigolyn neu’r busnes yn methu â chydymffurfio o hyd. Caiff cosb ariannol benodedig ei gosod yn erbyn y busnes gan ei fod wedi methu â chydymffurfio’n barhaus.

Gall unigolyn neu fusnes gael ei ryddhau rhag y rhwymedigaeth i dalu cosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad o fwriad, neu o fewn 28 diwrnod i ganlyniad apêl aflwyddiannus.

Bydd methu â thalu’n llawn o fewn y cyfnod talu rhagnodedig yn arwain at gynnydd o 50% yn swm y gosb.

3.4 Cosb ariannol amrywiadwy

Mae cosb ariannol amrywiadwy (VMP) yn galluogi APHA i bennu lefel y gosb ariannol mewn achosion mwy cymhleth i adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac i wrthbwyso unrhyw fudd ariannol a gafwyd drwy beidio â chydymffurfio. Ni fydd cosb ariannol amrywiadwy yn fwy na £250,000 a gellir ei chodi ar y cyd â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop.

Gellir codi cosb ariannol amrywiadwy am y rhesymau canlynol. Nid yw’r rhestr hon mewn trefn blaenoriaeth ac nid yw’n hollgynhwysfawr:

  • ceir tystiolaeth o esgeulustod neu gamreolaeth
  • gwnaed difrod i fioddiogelwch, megis rhyddhau pla cwarantin
  • er mwyn dileu budd ariannol amlwg yn deillio o’r drosedd
  • lle gellir osgoi erlyniad troseddol er mwyn sicrhau’r canlyniad mwyaf priodol

Nid yw cosb ariannol amrywiadwy yn debygol o gael ei chodi ar gyfer:

  • trosedd gyntaf lle penderfynwyd bod y toriad yn ddibwys
  • lle mae’r trosedd mor ddifrifol fel yr ystyrir mai erlyniad troseddol yw’r cam gweithredu mwyaf priodol

Ni all APHA osod cosb ariannol amrywiadwy fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un drosedd.

Gweler Atodiad 2 ar gyfer y ffactorau y byddwn yn eu hystyried wrth gyfrifo cosb ariannol amrywiadwy.

Enghraifft

Mae busnes sy’n mewnforio nifer uchel o blanhigion â risg bioddiogelwch sylweddol wedi osgoi safle rheoli ffiniau (BCP) droeon heb stopio am archwiliad. Er bod y busnes wedi cael cyngor ac arweiniad ysgrifenedig a llafar ar y gofynion cyfreithiol, mae’n osgoi’r safle rheoli ffiniau yn fwriadol o hyd, gan osgoi cael archwiliad. Caiff cosb ariannol amrywiadwy ei rhoi yn erbyn y busnes gan ei fod wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion yn barhaus.

3.5 Hysbysiad stop

Mae hysbysiad stop yn hysbysiad ffurfiol sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi’r gorau i weithgarwch ar unwaith. Mae’n parhau mewn grym hyd nes y bydd y camau gweithredu gofynnol a nodir yn yr hysbysiad wedi’u cwblhau.

Mae hysbysiad stop yn golygu bod yn rhaid i’r gweithgarwch a nodwyd ddirwyn i ben ar unwaith a bydd yr hysbysiad yn cynnwys y camau y mae’n rhaid i unigolyn neu fusnes eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mae APHA yn ei gwneud yn ofynnol i dystiolaeth ddigonol gael ei chyflwyno i ddangos bod amodau’r hysbysiad stop wedi’u bodloni yn ystod yr amserlen benodedig. Bydd APHA yn cyhoeddi tystysgrif gwblhau pan fydd yn fodlon y cydymffurfiwyd â’r hysbysiad stop yn llawn.

Caiff hysbysiad stop ei ystyried pan fydd achos o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth wedi’i nodi a bod y troseddu yn parhau.

Mae hysbysiad stop yn cynnwys:

  • sail dros gyflwyno’r hysbysiad
  • manylion y gweithgarwch sydd wedi’i wahardd
  • y camau y mae’n rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r camau
  • manylion am yr hawl i apelio
  • canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Gall methu â chydymffurfio ag amodau hysbysiad stop arwain at erlyniad troseddol.

Ni chaiff hysbysiad stop ei gyflwyno o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • lle bydd y troseddwr eisoes wedi rhoi’r gorau i’r gweithgarwch neu wedi ei ddiwygio yn dilyn cyngor anffurfiol

Gall unigolyn neu fusnes fod yn gymwys i gael iawndal gan APHA os bydd yn dioddef colled yn sgil cyhoeddi hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os cafodd yr hysbysiad stop ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol, neu fod cam a ddynodwyd yn yr hysbysiad yn afresymol
  • Os oedd APHA yn gweithredu’n groes i rwymedigaethau statudol
  • Os bydd y person yn cyflwyno apêl lwyddiannus, a bod Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn datgan fod y penderfyniad i gyhoeddi’r hysbysiad, neu i wrthod tystysgrif gwblhau, yn afresymol

Enghraifft

Canfyddir bod canolfan arddio nad yw wedi’i chofrestru ag APHA fel gweithredwr proffesiynol yn gwerthu planhigion. Er gwaethaf cael cyngor ac arweiniad, mae’r ganolfan arddio yn parhau i fasnachu. Cyhoeddir hysbysiad stop i atal masnach hyd nes y bydd y busnes wedi’i gofrestru ac yn cydymffurfio â’r gofynion o ran iechyd planhigion.

3.6 Ymgymeriadau gorfodi

Mae Ymgymeriad Gorfodi yn gynnig gwirfoddol gan unigolyn neu fusnes i unioni effeithiau ei droseddu o fewn cyfnod penodol o amser. Er mwyn i APHA dderbyn cynnig, rhaid bod sail resymol dros amau bod yr unigolyn neu’r busnes wedi cyflawni trosedd.

Rhaid i ymgymeriad gorfodi ddynodi’r canlynol:

  • y camau gweithredu i’w cymryd gan yr unigolyn neu’r busnes i sicrhau na fydd y drosedd yn parhau neu’n digwydd eto
  • y camau gweithredu i’w cymryd gan yr unigolyn neu’r busnes i adfer y sefyllfa, cyhyd ag y bo’n bosibl, i’r sefyllfa a fyddai wedi bodoli pe na chyflawnwyd y drosedd
  • y camau gweithredu i’w cymryd gan yr unigolyn neu’r busnes er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y drosedd
  • y terfynau amser erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd camau

Os bydd APHA yn derbyn y cynnig, daw’n gytundeb cyfrwymol rhwng APHA a’r unigolyn neu’r busnes sy’n gwneud y cynnig. Ar yr amod bod yr unigolyn neu’r busnes yn cydymffurfio â thelerau’r ymgymeriad, yna:

  • ni fydd APHA yn erlyn ar gyfer y drosedd wreiddiol mewn perthynas â’r weithred neu’r hepgoriad y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi/ag ef
  • ni chaiff APHA gyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, hysbysiad stop, na gosod cosb ariannol benodedig nac amrywiadwy mewn perthynas â’r weithred honno neu’r hepgoriad hwnnw.

Lle nad yw’n bosibl adfer bioddiogelwch yr amgylchedd yn llawn, mae’n bosibl y bydd angen i’r cynnig gynnwys rhyw fath o fudd neu welliant amgylcheddol, fel iawndal am ddifrod i gyfalaf naturiol, er enghraifft cyllid ar gyfer prosiect creu cynefin neu brosiect ymchwil i blâu planhigion.

Rhaid i’r unigolyn neu’r busnes sy’n gwneud y cynnig nodi pa gamau gweithredu y bydd yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth yn y dyfodol.

Mae APHA yn fwy tebygol o dderbyn cynigion a gaiff eu cyflwyno mewn ffordd ragweithiol cyn gynted â phosibl.

Bydd APHA yn ystyried derbyn cynnig am ymgymeriad gorfodi o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • lle gellir cydymffurfio â’r gwaith adnewyddu neu adfer ymarferol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r ymgymeriad gorfodi cyn gynted â phosibl
  • lle bydd y cynnig yn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu’n digwydd eto ac yn cynnwys camau gweithredu i adfer y sefyllfa (cyn belled ag y bo’n bosibl), neu gamau gweithredu er budd trydydd parti yr effeithiwyd arno gan y drosedd
  • lle nad yw’r cynnig yn cynnwys cyfyngiadau ar sut y gall APHA gyhoeddi ei fod yn derbyn y cynnig mewn achosion sy’n ymwneud â chanfod neu atal plâu a chlefydau rheoleiddiedig

Fel arfer, ni fydd APHA yn derbyn cynnig:

  • lle roedd y drosedd yn fwriadol neu lle cafodd yr effaith fwyaf difrifol
  • lle mae’r cynnig yn cynnwys cymal sy’n gwadu atebolrwydd
  • lle mae’r cynnig yn cynnwys unrhyw gymal sy’n nodi amddiffyniadau ar gyfer achos posibl o dorri ymgymeriad gorfodi
  • lle penderfynwyd eisoes bod erlyniad yn briodol er budd y cyhoedd
  • lle mae achos cyfreithiol eisoes wedi dechrau

Gellir amrywio ymgymeriad gorfodi, neu gellir ymestyn y cyfnod ar gyfer cwblhau’r camau gweithredu, os bydd APHA a’r unigolyn neu’r busnes a gynigiodd yr ymgymeriad yn cytuno’n ysgrifenedig i hynny. Os canfyddir bod unigolyn neu fusnes wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol, ystyrir bod hynny’n achos o ddiffyg cydymffurfio. Os bydd unigolyn neu fusnes yn methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad, gall APHA osod sancsiwn sifil amgen neu ddechrau achos troseddol.

Pan fydd unigolyn neu fusnes yn fodlon ei fod wedi bodloni telerau’r ymgymeriad gorfodi, gall wneud cais am dystysgrif ryddhau. Gellir gwneud cais am dystysgrif ryddhau ar unrhyw adeg. Bydd APHA yn adolygu’r cais ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad o fewn 14 diwrnod.

Pan gaiff tystysgrif ryddhau ei chyhoeddi, ni fydd yr ymgymeriad gorfodi yn weithredol mwyach. Fodd bynnag, gall APHA, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ddiddymu tystysgrif ryddhau os canfyddir yn ddiweddarach ei bod wedi’i chyhoeddi ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

3.7 Ymgymeriadau trydydd parti

Mae ymgymeriad trydydd parti yn debyg i ymgymeriad gorfodi ond dim ond pan fydd unigolyn neu fusnes eisoes wedi cael hysbysiad o fwriad i gyflwyno un o’r canlynol y gellir ei gynnig:

  • hysbysiad cydymffurfio
  • hysbysiad adfer
  • cosb ariannol amrywiadwy

Dim ond i wneud cynnig i dalu iawndal i rywun y mae’r drosedd wedi effeithio arno y gellir defnyddio ymgymeriad trydydd parti.

Caiff unrhyw ymgymeriad trydydd parti ei ystyried wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, ac os caiff hysbysiad terfynol ei gyflwyno ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy, swm y gosb.

3.8 Cosbau diffyg cydymffurfio

Gall APHA gyflwyno hysbysiad cosb am achos o ddiffyg cydymffurfio os bydd unigolyn neu fusnes yn methu â chydymffurfio â’r canlynol:

  • hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti, p’un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd ai peidio; neu
  • ymgymeriad gorfodi

Fel arfer, bydd APHA yn pennu swm y gosb hon drwy asesu’r canlynol:

  • beth y bydd yn ei gostio i gyflawni’r gofynion sy’n weddill o’r hysbysiad cydymffurfio neu’r hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi
  • a wnaeth unigolyn neu fusnes roi gwybod o’i wirfodd am yr achos o ddiffyg cydymffurfio ac a oedd unrhyw ffactorau lliniarol neu amgylchiadau gwaethygol fel y’u nodir yn Rhan 3 o’r canllawiau hyn

Nid oes unrhyw gap ar lefel cosb am ddiffyg cydymffurfio. Ni fydd y gosb yn daladwy mwyach os caiff gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi gwreiddiol eu cyflawni cyn diwedd y cyfnod talu a bennwyd gan APHA.

4. Sylwadau ac apeliadau

4.1 Sylwadau

Pan fydd APHA yn penderfynu gosod hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, bydd APHA yn:

  • cyflwyno hysbysiad o fwriad yn nodi manylion y camau gweithredu arfaethedig
  • cynnig cyfle i unigolyn neu fusnes gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y caiff yr hysbysiad o fwriad ei gyflwyno
  • ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau a ddaw i law, ac unrhyw gynnig o ymgymeriad trydydd parti neu ymgymeriad gorfodi cyn gwneud penderfyniad terfynol o ran a ddylid cyflwyno’r hysbysiad terfynol neu addasu lefel cosb ariannol amrywiadwy
  • hysbysu’r unigolyn neu’r busnes am ein penderfyniad terfynol a’n rhesymeg
  • os bydd y sylw neu’r gwrthwynebiad yn llwyddiannus, bydd APHA yn rhyddhau’r unigolyn neu’r busnes rhag unrhyw rwymedigaeth dros y drosedd
  • os na fydd y sylw neu’r gwrthwynebiad yn llwyddiannus, bydd APHA yn cyhoeddi hysbysiad terfynol

Bydd APHA yn cyhoeddi hysbysiadau gan ddefnyddio’r dull mwyaf priodol a allai fod yn llythyr neu drwy e-bost ond byddant bob amser yn ysgrifenedig. Cânt eu cyhoeddi i’r gweithredwr proffesiynol sy’n gyfrif am yr achos o ddiffyg cydymffurfio.

Os caiff hysbysiad terfynol ei gyhoeddi, bydd APHA yn hysbysu’r unigolyn neu’r busnes o’u hawl i apelio.

4.2 Apeliadau

Lle caiff sancsiwn sifil ei osod, bydd hysbysiadau APHA yn amlinellu’r hawl i apelio. Rhaid cyflwyno pob apêl sy’n ymwneud â sancsiynau sifil i dribiwnlys yr haen gyntaf.

Gallwch apelio yn erbyn y canlynol:

  • hysbysiad terfynol ar gyfer hysbysiad cydymffurfio
  • hysbysiad terfynol ar gyfer hysbysiad adfer
  • hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig
  • hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy
  • hysbysiad stop 
  • gwrthodiad i gyhoeddi tystysgrif gwblhau ar gyfer hysbysiad stop
  • gwrthodiad i ddyfarnu iawndal am osod hysbysiad stop
  • swm yr iawndal a gynigiwyd am osod hysbysiad stop
  • gwrthodiad i gyhoeddi tystysgrif ryddhau ar gyfer ymgymeriad gorfodi
  • cosb diffyg cydymffurfio 
  • hysbysiad adennill costau

Ceir manylion am y sail dros apelio ar gyfer pob math o sancsiwn yn Atodiad 3.

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad o fwriad ond gallwch anfon gwrthwynebiad neu sylw neu gynnig ymgymeriad gorfodi fel y nodir yn 4.1.

5. Adennill costau

Mae gan APHA yr hawl i adennill costau sy’n gysylltiedig â pharatoi a chyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad stop. Gall hyn gynnwys costau unrhyw ymchwiliad cysylltiedig neu gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

Byddwn yn gwneud hyn drwy anfon hysbysiad adennill costau a fydd yn nodi’r manylion canlynol:

  • y swm i’w dalu
  • y cyfnod talu gofynnol (o leiaf 28 diwrnod) 
  • sut y dylid talu
  • canlyniadau methu â thalu
  • hawliau apelio.

Ar ôl i’r cyfnod talu dynodedig ddod i ben, gall APHA adennill costau fel petaent yn daladwy o dan orchymyn llys. Bydd y costau hyn yn ychwanegol at unrhyw gosbau ariannol a roddwyd eisoes.

6. Cyhoeddi data ar sancsiynau sifil

Mae’n ofyniad cyfreithiol i APHA gyhoeddi data blynyddol ar gyfer yr achosion lle gosodwyd sancsiynau sifil a’r achosion lle derbyniwyd ymgymeriad gorfodi. Ni fydd hyn yn cynnwys achosion a gafodd eu gwrthdroi ar apêl.

Gan ddilyn arferion gorau ac yn ddarostyngedig i ddeddfau Diogelu Data, bydd APHA yn cyhoeddi:

  • yr achosion lle gosodwyd sancsiynau sifil;
  • lle mai hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy yw’r sancsiwn sifil, yr achosion lle derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti;
  • yr achosion lle derbyniwyd ymgymeriad gorfodi.

Ceidw APHA yr hawl i beidio â chyhoeddi achos lle yr ystyrir y byddai hynny’n amhriodol.

7. Adnoddau pellach

Strategaeth bioddiogelwch planhigion Prydain Fawr (2023 to 2028) - GOV.UK 

Rheoliad (UE) 2016/2031 Senedd Ewrop y Cyngor 

Register to become a plant health professional operator 

Cyrff rheoleiddio eraill: 

Polisi Gorfodi’r Comisiwn Coedwigaeth 

Cyfoeth Naturiol Cymru Polisi gorfodi a sancsiynau 

Rhestr o droseddau: 

Lloegr:  Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Lloegr) 2019 

Cymru: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2020 

Deddfwriaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon: 

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Rheolaethau Swyddogol a Darpariaethau Amrywiol) (yr Alban) 2019 

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Rheolaethau Swyddogol a Darpariaethau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon) 2020 

Tribiwnlys yr Haen Gyntaf ar gyfer apeliadau: 

Tribiwnlys yr Haen Gyntaf 

Gwybodaeth gyswllt APHA

8. Atodiad 1: Ydw i’n weithredwr proffesiynol?

Rydych yn debygol o fod yn weithredwr proffesiynol:

  • os ydych yn gwerthu planhigion neu gynhyrchion planhigion yn rheolaidd er mwyn gwneud elw neu ennill comisiwn o werthu planhigion neu gynhyrchion planhigion ar ran pobl eraill neu;
  • os yw eich planhigion neu’ch cynhyrchion planhigion wedi’u hysbysebu’n glir i’w gwerthu i weithredwyr proffesiynol neu;
  • os ydych yn tyfu neu’n cynhyrchu planhigion neu gynhyrchion planhigion i’w gwerthu’n rheolaidd er mwyn gwneud elw neu;
  • os ydych yn cael eich talu am wasanaeth (e.e. gwaith tirlunio) a ddarperir gennych sy’n ymwneud â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion.

Efallai yr ystyrir eich bod yn gwerthu’n rheolaidd er mwyn gwneud elw:

  • os oes gennych wefan neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol yn benodol ar gyfer masnachu mewn planhigion neu gynhyrchion planhigion neu;
  • os oes gennych restr brisiau ar gyfer planhigion neu gynhyrchion planhigion rydych yn eu gwerthu neu;
  • os ydych yn hysbysebu planhigion i’w gwerthu yn rheolaidd.

Gall hyn fod yn gymwys i gymdeithasau penodol, mewn achosion o’r fath y gymdeithas a ddylai fod wedi’i chofrestru, nid aelodau unigol. Byddai angen i aelodau unigol fod wedi’u cofrestru petaent yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf a ddisgrifiwyd uchod.

Nid ystyrir eich bod yn weithredwr proffesiynol os ydych yn tyfu planhigion at eich defnydd personol yn unig ond eich bod yn canfod bod gennych ormod o blanhigion nad oes eu hangen arnoch a’ch bod am eu rhoi i ffwrdd am ddim. Yn yr un modd, ni fyddwch yn weithredwr proffesiynol os ydych yn tyfu planhigion fel hobi yn unig a’ch bod yn rhoi planhigion dros ben nad oes eu hangen arnoch at eich defnydd personol i ffwrdd.

Ceir rhagor o wybodaeth gan eich arolygydd iechyd planhigion lleol.

9. Atodiad 2: Cyfrifo Cosbau Ariannol Amrywiadwy

Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r camau a’r ffactorau sy’n gysylltiedig â chyfrifo cosb ariannol amrywiadwy.

Amcan cosbau ariannol amrywiadwy yw atal achosion o ddiffyg cydymffurfio drwy ddileu unrhyw fudd sy’n deillio o’r troseddu. Gall cosb ariannol amrywiadwy hefyd adlewyrchu difrifoldeb unrhyw effeithiau.

Yr uchafswm cosb y gellir ei gosod yw £250,000. Ni ellir gosod cosb ariannol amrywiadwy fwy nag unwaith ar gyfer yr un weithred neu hepgoriad. Cyn cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, gall APHA ofyn am wybodaeth ychwanegol i’w helpu i gyfrifo’r gosb.

Cyflwynir hysbysiad o fwriad cyn cyhoeddi cosb ariannol amrywiadwy. Mae hyn yn caniatáu i’r derbynnydd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn nodi pam na ddylid cyhoeddi’r gosb ariannol amrywiadwy neu pam y dylid addasu’r gwerth o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad o fwriad. Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, gall APHA benderfynu tynnu’r hysbysiad o fwriad yn ôl neu fwrw ati i gyhoeddi’r hysbysiad terfynol a all gynnwys gwerth diwygiedig er mwyn ystyried unrhyw sylwadau.

Caiff lefel y gosb ei hasesu gan ystyried y ffactorau canlynol:

  • budd ariannol: bydd hyn yn ystyried unrhyw fantais o ran elw ariannol neu achos lle bydd colled wedi’i lleihau, neu gostau a gafodd eu hosgoi o ganlyniad i’r drosedd.
  • risg i fioddiogelwch: bydd hyn yn ystyried lefel y risg i fioddiogelwch a berir gan ddiffyg cydymffurfio gan gynnwys ystyried unrhyw bla planhigion dan sylw fel y nodir yn y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol.
  • ymddygiad a chyd-destun: bydd hyn yn asesu ymddygiad y troseddwr a ffactorau ehangach fel bwriad, rhagweladwyedd, a roddwyd gwybod am yr achos yn wirfoddol, y camau a gymerwyd, hanes cydymffurfio a chydweithrediad ag ymchwiliadau.

Caiff manylion sut y gwnaed y cyfrifiad eu nodi yn yr hysbysiad o fwriad a’r hysbysiad terfynol.

Bydd unrhyw arian yn daladwy i gronfa gyfunol y llywodraeth: ni fydd yn mynd i APHA.

10. Atodiad 3: Apeliadau

Ymdrinnir â phob apêl sy’n ymwneud â sancsiynau sifil gan dribiwnlys yr haen gyntaf i ddechrau.

10.1 Hysbysiad Cydymffurfio, Hysbysiad Adfer, Cosb Ariannol Benodedig, Cosb Ariannol Amrywiadwy

Gall unigolyn neu fusnes apelio yn erbyn yr hysbysiad terfynol ar un neu fwy o’r seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Yn achos cosb ariannol amrywiadwy, mae swm y gosb yn afresymol.
  4. Yn achos gofyniad sy’n gysylltiedig â chosb anariannol, mae natur y gofyniad yn afresymol.
  5. Roedd y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.
  6. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

10.2 Hysbysiad Stop

Gall unigolyn neu fusnes apelio os bydd wedi cael hysbysiad stop ar un neu fwy o’r seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Roedd y penderfyniad yn afresymol.
  4. Mae unrhyw gam a ddynodir yn yr hysbysiad yn afresymol.
  5. Nid yw unigolyn neu fusnes wedi cyflawni’r drosedd ac ni fyddai wedi cyflawni’r drosedd honno pe na fyddai’r hysbysiad stop wedi cael ei gyflwyno.
  6. Ni fyddai unigolyn neu fusnes, yn ôl unrhyw amddiffyniad, caniatâd neu drwydded, wedi bod yn atebol i gael ei euogfarnu o’r drosedd pa na fyddai’r hysbysiad stop wedi cael ei gyflwyno.
  7. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

10.3 Gwrthodiad i gyhoeddi Tystysgrif Gwblhau ar gyfer Hysbysiad Stop

Gall unigolyn neu fusnes apelio yn erbyn gwrthodiad i gyhoeddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Roedd y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
  4. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

10.4 Iawndal am osod Hysbysiad Stop

Gall unigolyn neu fusnes apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu iawndal, neu apelio yn erbyn swm yr iawndal a gynigiwyd, ar y seiliau canlynol:

  1. Roedd penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol.
  2. Roedd y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir.
  3. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

10.5 Ymgymeriad Gorfodi

Gall unigolyn neu fusnes apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chyhoeddi tystysgrif ryddhau ar gyfer ymgymeriad gorfodi ar y seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Roedd y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
  4. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

10.6 Cosbau Diffyg Cydymffurfio

Gall unigolyn neu fusnes apelio os bydd wedi cael cosb diffyg cydymffurfio ar y seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Roedd y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm.
  4. Mae swm y gosb yn afresymol.
  5. Roedd y penderfyniad yn anghywir am reswm arall.

10.7 Adennill Costau

Gall unigolyn neu fusnes apelio yn erbyn hysbysiad adennill costau ar y seiliau canlynol:

  1. Roedd y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol.
  2. Roedd y penderfyniad yn anghywir o safbwynt cyfreithiol.
  3. Roedd y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm.
  4. Roedd swm y gosb yn afresymol.
  5. Roedd y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.