Sancsiynau Sifil APHA am ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd planhigion
Y dull rheoleiddio a'r defnydd o sancsiynau sifil am ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd planhigion gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghymru a Lloegr.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r canllawiau yn nodi sut y bydd APHA yn defnyddio sancsiynau sifil yng Nghymru a Lloegr er mwyn mynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd planhigion ac at bwy y bydd yn cymhwyso hyn.
Mae’n esbonio’r gwahanol fathau o sancsiwn sifil y gellid eu defnyddio ac yn rhoi enghreifftiau. Mae’n cynnwys manylion am sut a phryd y gall derbynwyr gyflwyno sylwadau neu apelio yn erbyn penderfyniadau ac yn rhoi rhestr ddefnyddiol o adnoddau pellach.
Diben y canllawiau yw sicrhau tryloywder o ran defnydd APHA o’r opsiwn gorfodi hwn.
Ni fydd APHA yn rhoi sancsiynau sifil ar waith tan fis Hydref 2026 er mwyn rhoi chwe mis i’r diwydiant ddeall y canllawiau a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio nad ymdriniwyd â nhw eto.