Policy paper

Strategaeth bioddiogelwch planhigion Prydain Fawr (2023 i 2028)

Published 9 January 2023

Applies to England, Scotland and Wales

Rhagair ar y cyd gan y Gweinidogion

Mae planhigion yn rhan hanfodol bwysig o’n heconomi, o gynhyrchu amaethyddol a garddwriaethol i bren, meddyginiaethau a chyd-fuddion ehangach gan gynnwys er lles y cyhoedd. Gan hynny, mae iechyd ein planhigion a’n cynnyrch planhigion yn holl-bwysig ond mae’n wynebu mwyfwy o fygythiad o du plâu a chlefydau.

Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd ymwybyddiaeth fyd-eang gynyddol o blâu a chlefydau planhigion a’u heffeithiau ar iechyd planhigion. Dynododd y Cenhedloedd Unedig 2020 fel Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion ac maen nhw hefyd wedi dynodi Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Planhigion blynyddol (12 Mai).

Nid yw plâu a chlefydau planhigion yn cydnabod unrhyw ffiniau. Wrth i’r fasnach fyd-eang mewn planhigion a chynhyrchion planhigion barhau i dyfu, mae’n coedwigoedd a’n planhigion yn wynebu risg ar draws pob sector gan gynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth. (Ffynhonnell: Hulme. ‘Trade, transport and trouble: managing invasive species pathways in an era of globalization’ Journal of Applied Ecology, 2009)

Mae colledion bioamrywiaeth hefyd yn cyflymu oherwydd newid hinsawdd, fel yr amlygwyd yn Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 yn Glasgow. Y Deyrnas Unedig yw’r economi mawr cyntaf yn y byd i ymrwymo i gyrraedd allyriadau Sero Net yn gyffredinol erbyn 2050. Bydd iechyd ein coedwigoedd a’n planhigion yn rhan annatod o hyn, fel ateb sy’n seiliedig ar natur ar gyfer ein hadferiad amgylcheddol a’r newid i ddyfodol gwyrdd a chynaliadwy.

Mae bioddiogelwch yn cael ei gydnabod yn gynyddol nid yn unig fel arf pwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd o ran lleihau tlodi a newyn a hybu datblygiad economaidd. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i amddiffyn iechyd planhigion. Dyna pam y datblygwyd y strategaeth hon mewn partneriaeth â diwydiant, tirfeddianwyr, sefydliadau anllywodraethol, y gymuned wyddonol a’r cyhoedd yn ehangach. Mae’n nodi ymrwymiadau ar y cyd ar sut rydym yn cydweithio i warchod bioddiogelwch planhigion ym Mhrydain Fawr.

Mae’r strategaeth hon yn codi o gydweithrediad helaeth rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Comisiwn Coedwigaeth. Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth y strategaethau perthynol ar gyfer yr amgylchedd, coed, coetir a choedwigaeth a fabwysiadwyd gan ein priod lywodraethau. Er bod iechyd planhigion yn dal yn fater datganoledig, mae’r strategaeth wedi’i seilio ar ymrwymiad i gydlynu’n hymagwedd at fioddiogelwch planhigion ac i gydnabod ein cyfrifoldeb cyfunol i ymateb i’r heriau hyn a diogelu’n planhigion a’n coed. Mae’n gynllun uchelgeisiol o weithredu ar y raddfa angenrheidiol i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol hwn. Diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu at y strategaeth hon ac edrychwn ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.

Yr Arglwydd Richard Benyon, Y Gweinidog Bioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig, Llywodraeth y DU

Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol a Bioamrywiaeth, Llywodraeth yr Alban

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Llywodraeth Cymru

Crynodeb gweithredol

Mae’r strategaeth bioddiogelwch planhigion hon yn codi o gydweithredu helaeth rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, gan gydnabod nad yw plâu a chlefydau yn parchu ffiniau cenedlaethol, a’n hymrwymiad ar y cyd i gydlynu’n hymagwedd at fioddiogelwch planhigion. Mae’r strategaeth hefyd wedi’i datblygu’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol.

Cyfeirir at y termau ‘ni’ ac ‘ein’ drwy’r strategaeth i gyd. Ym mhob achos bron, mae’n cyfeirio at Defra, y Comisiwn Coedwigaeth, Llywodraeth Cymru a/neu Lywodraeth yr Alban a’u hasiantaethau.

Mae rhychwant y strategaeth wedi’i chyfyngu i fioddiogelwch planhigion (gan gynnwys coed) a chynhyrchion planhigion (er enghraifft, llysiau, ffrwythau yn yr ystyr fotanegol, deunydd pacio pren, blodau wedi’u torri). Er bod y strategaeth yn gysylltiedig â gwaith ehangach ar iechyd planhigion (er enghraifft, iechyd pridd), bioddiogelwch anifeiliaid, ac atal mewnlifiad rhywogaethau ymledol, nid yw’r meysydd hyn yn ganolbwynt i’r strategaeth hon.

Mae planhigion a choed yn hanfodol i’n goroesiad yn y dyfodol, ac mae’r bygythiad i fioddiogelwch yn cynyddu. Er ein bod wedi gwneud cynnydd enfawr yn ein nodau ers cyhoeddi’r ‘Strategaeth flaenorol ynglŷn â Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr’ yn 2014, rhaid inni barhau i gydweithio i gynnal arferion bioddiogelwch da.

Drwy gyfrwng ein hymrwymiadau sydd wedi’u rhestru yn y Cynllun Gweithredu (Atodiad A) rydym wedi nodi sut y byddwn yn cydweithio i wireddu’n gweledigaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf o fioddiogelwch planhigion ym Mhrydain Fawr, sef:

Diogelu planhigion Prydain Fawr trwy bartneriaeth gref rhwng llywodraeth, diwydiant, a’r cyhoedd, yn gweithio gyda’i gilydd i leihau a rheoli risgiau a achosir gan blâu a phathogenau planhigion, a hwyluso masnach ddiogel.

Ategir y weledigaeth hon gan bedwar canlyniad allweddol:

Canlyniad 1: trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i deilwra a chryfhau ein hymateb i atal a rheoli plâu a phathogenau sy’n fygythiad i iechyd planhigion Prydain Fawr rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu.

Canlyniad 2: cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach

Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd planhigion a choed iach ac annog pobl i fabwysiadu ymddygiad cyfrifol ar draws cymdeithas.

Canlyniad 3: Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel

Y llywodraeth a diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel.

Canlyniad 4: gallu technegol gwell

Meithrin galluogrwydd ar sail iechyd planhigion a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg bresennol ac arloesol i ddal i fyny â bygythiadau sy’n newid a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.

Pennod 1: Rhagymadrodd

1.1 Pam mae arnon ni angen strategaeth bioddiogelwch planhigion?

Mae’r gair ‘bioddiogelwch’ yn cyfeirio at set o ragofalon sy’n ceisio atal organebau niweidiol rhag cael eu cyflwyno a lledaenu. Mae’r rhain yn cynnwys plâu anfrodorol, megis pryfed, ac organebau o’r enw pathogenau sy’n achosi clefydau, megis rhai feirysau, bacteria a ffyngau. Mae’r plâu a’r pathogenau hyn yn bygwth iechyd ein planhigion a’n coed yn yr un ffordd ag y mae mathau o organebau o’r fath yn bygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.

Yn 2012, cafodd y pathogen ffwngaidd sy’n achosi clefyd coed ynn ei ganfod am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Cyrhaeddodd y pathogen hwn, sy’n aml yn angheuol i’n coed ynn brodorol, yn naturiol ar ffurf sborau wedi’u chwythu gan y gwynt yn ogystal â thrwy fewnforio coed ynn heintiedig. Roedd darganfod y pathogen dinistriol hwn ar ein glannau yn foment nodedig, gan sbarduno newid sylweddol yn ymwybyddiaeth y cyhoedd. Hyn a arweiniodd at gyhoeddi’n strategaeth bioddiogelwch planhigion wreiddiol ar gyfer Prydain Fawr yn 2014.

Er ein bod wedi gwneud cynnydd arwyddocaol o ran cyflawni’r strategaeth honno, dim ond un o nifer cynyddol o fygythiadau i iechyd planhigion yw clefyd coed ynn. Mae Ffigur 1 yn dangos y cynnydd cronnol yn y plâu a’r clefydau coed newydd sydd wedi’u canfod, o ganfod Clefyd Llwyfen yr Isalmaen am y tro cyntaf ym 1971, i Phytophthora pluvialis a ganfuwyd yn 2021. Cafwyd pum mewnlifiad yn y cyfnod o 30 mlynedd hyd at 2000, o’i gymharu â 19 yn y blynyddoedd wedyn.

Gan fod y Deyrnas Unedig wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar 31 Rhagfyr 2020, nawr yw’r amser i adolygu ac adnewyddu’n hymagwedd, gan ganolbwyntio’n gynyddol ar risgiau i fioddiogelwch planhigion Prydain Fawr.

Graff llinell yn dangos y cynnydd cronnol yn nifer yr achosion o blâu a chlefydau newydd ers 1970. Mae amlder yr achosion wedi cynyddu'n arwyddocaol ers 2002.

Ffigur 1: Graff yn dangos y cynnydd cronnol yn nifer yr achosion o blâu a chlefydau newydd (echelin y) yn effeithio ar goed ers 1971 (echelin x). Mae amlder yr achosion wedi cynyddu'n arwyddocaol ers 2002 (ffynhonnell: y Comisiwn Coedwigaeth)

Blwyddyn (ers 1971) Achosion o blâu a chlefydau newydd
1971 Clefyd llwyfen yr Isalmaen
1983 Chwilen fawr rhisgl y sbriws
1984 Phytophthora alni
1995 Gwyfyn igam-ogam
1997 Malltod nodwyddau dothistroma
2002 Phytophthora ramorum
2002 Turiwr dail castanwydden y meirch
2003 Phytophthora kernoviae
2005 Cancr diferol castanwydden y meirch
2006 Gwyfyn ymdeithiwr y derw
2006 Phytophthora pseudosyringae
2007 Gwyfyn llabedog y binwydden
2010 Dirywiad acíwt y derw
2010 Phytophthora lateralis
2012 Clefyd coed ynn
2012 Chwilen hirgorn Asia
2012 Malltod castanwydd pêr
2012 Phytophthora austrocedri
2014 Phytophthora sikiyouensis
2014 Sirococcus tsugae
2015 Cacynen ddwyreiniol chwyddi’r gastanwydden
2017 Llifbryf igam-ogam y llwyfen
2018 Chwilen wythddant rhisgl y sbriws
2021 Phytophthora pluvialis

1.2 Gwerth planhigion

Mae’n planhigion a’n coed yn gyfalaf naturiol hanfodol. Rydym wedi amcangyfrif bod cyfanswm eu gwerth blynyddol i’r Deyrnas Unedig yn £15.7 biliwn y flwyddyn, sy’n cynnwys y buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y mae’n planhigion a’n coedluniau’n eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys y rôl bwysig y mae’n planhigion yn ei chwarae wrth atafaelu nwyon tŷ gwydr niweidiol, sydd fel arall yn cael ei adnabod fel dal a storio carbon. Amcangyfrifir bod hyn yn werth £4.2 biliwn y flwyddyn a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni uchelgais y llywodraeth o sicrhau allyriadau Sero Net cyffredinol erbyn 2050.

Mae budd economaidd ein planhigion a’n coed yn cynnwys gwerth ein cnydau amaethyddol, garddwriaeth, blodau a ffrwythau a llysiau. Amcangyfrifir bod hyn yn cyfrannu £4.1 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn, tra bo’r diwydiant coedwigaeth fasnachol yn cyfrannu £0.7 biliwn.

Mae’n coetiroedd hefyd yn cynnig manteision cymdeithasol pwysig rydyn ni wedi’u cynnwys yn ein dadansoddiad, gan gynnwys manteision hamdden, buddion o ran bioamrywiaeth a mwynder tirwedd. Gyda’i gilydd, amcangyfrifir bod hyn yn £3.1 biliwn bob blwyddyn. Rydym hefyd wedi ymestyn ein hamcangyfrifon o fuddion cymdeithasol i gynnwys, am y tro cyntaf, fanteision iechyd meddwl a lles coetiroedd y Deyrnas Unedig, sef £0.2 biliwn y flwyddyn.

Gan ddefnyddio’n hamcangyfrifon o werth blynyddol planhigion, gallwn hefyd roi syniad o werth coed fel asedau. Mae gwerth coed fel asedau yn amcangyfrif gwerth y buddion y mae’n coed yn eu darparu dros eu hoes. Mae’n dadansoddiad ni’n creu gwerth asedau o ryw £350 biliwn drwy amcanestyn y gwerthoedd perthnasol sy’n gysylltiedig â choed yn ein hamcangyfrif blynyddol o blanhigion dros gyfnod o 100 mlynedd.

Mae’r dadansoddiad rydyn ni wedi’i lunio wedi defnyddio cyfuniad o werthoedd y farchnad lle bo’r rheiny ar gael a thechnegau gwahanol i amcangyfrif gwerthoedd nad ydynt yn rhan o’r farchnad i fynegi gwasanaethau ecosystemau planhigion mewn termau ariannol. Rydym hefyd wedi ehangu’n dadansoddiad i gynnwys gwerth coed nad ydynt yn goetir, yr amcangyfrifir ei fod yn £1.4 biliwn, lle roedd y dadansoddiadau blaenorol yn cynnwys coetiroedd yn unig. Er hynny, mae yna nifer o fuddion o hyd sy’n anodd eu moneteiddio, gan gynnwys gwerth diwylliannol ac addysgol planhigion, gwerth planhigion gwyllt ac agweddau eraill ar fuddion cymdeithasol planhigion. Ein nod yw ehangu’n dealltwriaeth o’r meysydd hyn drwy ymchwil yn y dyfodol. Bydd hyn yn bwydo diweddariadau dilynol i’r amcangyfrifon o werth planhigion ac yn debygol o gynyddu gryn dipyn ar yr amcangyfrif cyffredinol o’u gwerth.

Gan hynny, dylid trin yr holl amcangyfrifon hyn o werth fel syniad rhannol yn unig o faint y gwerth pwysig y mae’n planhigion yn ei roi, yn hytrach na’r union werthoedd. O’u trin felly, gall y gwerthoedd pwysig hyn fod yn bwerus wrth helpu i fwydo penderfyniadau allweddol a blaenoriaethau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u moneteiddio yn Atodiad B.

Pwysigrwydd planhigion [footnote 1]:

Planhigion sy’n cynhyrchu 98% o’r ocsigen rydyn ni’n ei anadlu

Mae 1.3 biliwn kg o lygryddion aer yn cael eu tynnu gan blanhigion yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn

Planhigion sy’n darparu 80% o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta

Mewn coedwigoedd y mae 80% o rywogaethau daearol y byd o anifeiliaid, planhigion a phryfed yn byw

Bernir bod dros draean o’r 454 o rywogaethau brodorol o goed yn Ewrop dan fygythiad

Gellid osgoi hyd at 74% o gostau cymdeithasol allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy gael deiet wyrddach wedi’i seilio ar blanhigion

Mae hanner poblogaeth y byd yn dibynnu ar feddyginiaethau naturiol yn bennaf ar gyfer eu gofal iechyd.

Gall 15,000 litr o ddŵr gael ei ryng-gipio gan goeden fytholwyrdd aeddfed bob blwyddyn, gan liniaru perygl llifogydd

Gwerth y fasnach

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, cafwyd cynnydd arwyddocaol yn symudiad byd-eang nwyddau, gyda chymorth y cerbydau cludo cyflymach a mwy sydd wedi’u cyflwyno, fel awyrennau, cynwysyddion, rhwydweithiau trenau cyflym, yn ogystal â gwerthu ar y rhyngrwyd.

Yn 2021, cafodd tua 21.5 miliwn tunnell o blanhigion a chynhyrchion planhigion, gwerth £15.8 biliwn, eu mewnforio a’u hallforio rhwng y Deyrnas Unedig a gweddill y byd. Roedd 18.6 miliwn tunnell (£14.5 biliwn) yn fewnforion i’r Deyrnas Unedig, ac roedd 2.9 miliwn tunnell (£1.3 biliwn) yn allforion o’r Deyrnas Unedig. Darllenwch yr ystadegau a gyhoeddwyd gan Defra yn Plant Health – international trade and controlled consignments, 2017-2021 (GOV.UK).

1.3 Bygythiadau cynyddol i iechyd planhigion

Mae mwy o fygythiadau i iechyd planhigion wedi’u priodoli i sawl ffactor, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn masnachu a theithio byd-eang, sy’n creu mwy o lwybrau i blâu a chlefydau ddod i mewn. Mae’r enghreifftiau o achosion diweddar yn cynnwys Phytophthora pluvialis a ganfuwyd ym Mhrydain Fawr yn 2021 (y canfyddiad cyntaf yn Ewrop a hynny ar blanhigyn cynhaliol oedd heb ei gyhoeddi o’r blaen, sef cegid y Gorllewin) a feirws ffrwythau crychlyd brown tomatos, feirws sy’n effeithio ar blanhigion tomatos a phuprynnau yn bennaf.

Amrywiaeth plâu a phathogenau planhigion

Mae nifer aruthrol o blâu a chlefydau planhigion posibl. Mae Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig wedi asesu mwy na 1,200 o blâu a phathogenau ac wedi nodi mwy na 700 naill ai ar gyfer rhagor o ymchwil neu fel bygythiad posibl i’r Deyrnas Unedig (gweler yr enghreifftiau yn Ffigur 3).

Mae gan gronfa ddata fyd-eang Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a’r Môr Canoldir (EPPO) dros 90,000 o rywogaethau sydd o ddiddordeb i amaethyddiaeth, coedwigaeth, a diogelu planhigion. Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys pryfed, bacteria, ffyngau, feirysau, a nematodau, ac eto i gyd mae nifer arwyddocaol o rywogaethau sydd heb gael eu cynnwys.

Bydd ffactorau fel newid hinsawdd a globaleiddio masnach yn dylanwadu ar nifer ac amrywiaeth y plâu y mae planhigion ym Mhrydain Fawr yn agored iddynt, yn ogystal ag esblygiad a chroes-fridio organebau. Mae hyn yn tanlinellu mor bwysig yw’r Gofrestr Risg fel offeryn deinamig.

Bygythiadau pla posibl sy’n cael eu sgrinio drwy Gofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig

Cnwd perllan

85 o blâu sy’n ymosod ar afalau yn y Deyrnas Unedig

Un o’r rhain yw’r pryfed cynrhon afal (Rhagoletis pomonella), sy’n fygythiad arwyddocaol i ddiwydiant afalau’r Deyrnas Unedig. Mae’n frodor o Ogledd America ac fe allai ddod yma ar ffrwythau neu ar blanhigion i’w plannu.

Cnwd tŷ gwydr

Mae 160 o blâu yn bygwth cynhyrchiant tomatos yn y Deyrnas Unedig

Er enghraifft, feirws ffrwythau crychlyd brown tomatos sydd hefyd yn difetha cynnyrch puprynnau. Gallai gael ei gyflwyno drwy gyfrwng planhigion i’w plannu neu hadau.

Cnwd addurnol

Mae 130 o blâu yn peryglu diwydiant rhosod y Deyrnas Unedig

Mae feirws rhoséd rhosod yn un o’r plâu hyn. Er y credir ei bod yn absennol o’r Deyrnas Unedig, mae’n bresennol mewn llawer o Ogledd America ac India, ac fe allai ledaenu trwy blanhigion ar gyfer plannu neu fodau wedi’u torri. Cynghorir garddwyr i fod yn wyliadwrus.

Coedwigaeth

Gall 90 o blâu ymosod ar goed derw

Mae’r plâu hyn yn cynnwys Xylella fastidiosa, pathogen bacterol niweidiol iawn sy’n effeithio ar dros 560 o rywogaethau o blanhigion a choed. Gallai ddod i’r Deyrnas Unedig drwy symud planhigion i’w plannu.

Cnwd maes

Mae 165 o blâu yn bygwth y maes tyfu tatws yn y Deyrnas Unedig

Er enghraifft, gall chwilod naid tatws (Epitrix spp.) achosi effaith fawr ar werth masnachol y cnwd. Yn y gorffennol, mae wedi cael ei ryng-gipio ar datws i’r bwrdd wrth ffin y Deyrnas Unedig.

Llwybrau risg niferus

Gall plâu a phathogenau planhigion ledaenu rhwng gwledydd neu o gwmpas gwledydd mewn llawer ffordd, gan gynnwys symud y canlynol:

  • planhigion byw neu gynhyrchion planhigion yn y fasnach neu ym magiau teithwyr o wledydd dramor

  • pren a deunydd pacio pren, fel paledi

  • offer budr fel llifiau cadwyn, offer, peiriannau, a cherbydau

  • pridd a deiliach marw

Mae bioddaearyddiaeth Ynysoedd Prydain hefyd yn golygu bod llawer o blâu a phathogenau’r awyr yn gallu croesi’r Sianel yn naturiol a lledaenu o gyfandir Ewrop. Mae’r enghreifftiau diweddar yn cynnwys clefyd coed ynn a chwilen wythddant rhisgl y sbriws.

Masnach fyd-eang gynyddol

Mae cynnydd mewn masnach fyd-eang yn golygu bod rhyw 18.6 miliwn tunnell o blanhigion a deunydd planhigion yn cael eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn, sy’n ffactor o bwys mawr yn lledaeniad plâu a chlefydau. (Ffynhonnell: ‘Plant Health – international trade and controlled consignments, 2017-2021’ GOV.UK). Er gwaethaf camau parhaus i gryfhau’n gofynion ynglŷn â mewnforio, rydym yn dal i ganfod plâu a chlefydau a reolir ar amrywiaeth o nwyddau gwahanol wrth y ffin. Mae rhyw 100 o achosion y flwyddyn (gan gynnwys rhyng-gipiadau mewndirol ar safleoedd ynysig) yn digwydd ym Mhrydain Fawr o’r llwybrau hyn. O’r rhain, mae rhyw bump yn gyffredinol yn peri mwy o bryder.

Efallai fod gwaharddiad llwyr ar fasnach yn ymddangos fel ateb syml, ond ar hyn o bryd nid yw’r hyn a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig yn ateb y galw ac mae masnach mewn planhigion a deunydd planhigion yn hanfodol am lawer o resymau, gan gynnwys diogelwch bwyd a gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd. Rhaid inni daro cydbwysedd rhwng llif masnach a diogelu’n safonau uchel o fioddiogelwch planhigion. Mae gan y Deyrnas Unedig gyfundrefn reoleiddio, sy’n seiliedig ar risg, i ateb rhwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd ac ystod gynhwysfawr o fesurau llywodraeth i gynnal arferion bioddiogel, sy’n cael eu hamlinellu ymhellach ym Mhennod 3.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r fasnach mewn planhigion a chynhyrchion planhigion ar y we wedi cynyddu’n sylweddol wrth i bobl geisio canfod ffyrdd mwy cyfleus o gael planhigion o wledydd tramor. Er bod hwn yn gyfrwng cymharol newydd ar gyfer prynu planhigion, ac er bod gwerthu ar-lein yn dod o dan yr un gwiriadau a gofynion â mewnforion eraill, mae’n faes y byddwn yn parhau i’w fonitro’n agos yn y dyfodol.

Newid hinsawdd

Disgwylir i’r newid yn yr hinsawdd gael effaith arwyddocaol ar ein hamgylchedd, gyda thywydd eithafol yn digwydd yn amlach, lefelau môr uwch a thymheredd cynhesach. Yn 2021, cyhoeddodd y Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) adolygiad gwyddonol o effaith newid hinsawdd ar iechyd planhigion, a ddaeth i’r casgliad bod newid hinsawdd eisoes wedi ehangu ystod y planhigion cynhaliol i rai plâu a’u dosbarthiad daearyddol ac y gallai gynyddu’r risg o gyflwyno plâu i ardaloedd newydd ymhellach.

Er bod hanner yr holl blâu a chlefydau planhigion sy’n dod i’r amlwg yn cael eu lledaenu drwy gyfrwng teithio a masnachu’n fyd-eang, sydd wedi treblu o ran ei faint dros y degawd diwethaf, y tywydd yw’r ail ffactor pwysicaf. Er enghraifft, gall un gaeaf anarferol o gynnes fod yn ddigon i helpu pla ymledol i ymsefydlu. Mae adolygiad yr FAO yn galw am fwy o gydweithio rhyngwladol, datblygu strategaethau diogelu planhigion wedi’u cysoni a mwy o ymchwil.

1.4 Llywodraethu

Trefniadau domestig

Mae Gwasanaeth Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig (PHS) yn cynnwys Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Daera (Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon) a’r Comisiwn Coedwigaeth. Cefnogir y PHS gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a chyrff cyflenwi ehangach (er enghraifft, Fera Science Ltd a Forest Research).

Mae gwaith PHS y Deyrnas Unedig wedi’i nodi yn y fframwaith iechyd planhigion dros dro, sy’n ceisio sicrhau bod rheolau cyffredin ar iechyd planhigion ar draws Prydain Fawr a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gael eu mabwysiadu. Mae’n gwneud hyn tra’n parchu’r potensial i wneud pethau’n wahanol, a rheoli’r gallu i un weinyddiaeth arddel agwedd wahanol lle mae modd cyfiawnhau hynny’n dechnegol.

Mae’r fframwaith yn ffurfioli prosesau gwneud penderfyniadau a phrosesau datrys anghydfodau er mwyn i’r swyddogion drafod cynlluniau polisi ynghylch bioddiogelwch y Deyrnas Unedig, ac yn galluogi’r canlynol hefyd:

  • gwaith marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, gan gydnabod gwahaniaethau polisi yr un pryd

  • cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol

  • gallu’r Deyrnas Unedig i negodi a gwneud cytundebau masnach a chytuniadau rhyngwladol newydd a’u rhoi ar waith

  • rheoli adnoddau cyffredin

Gan gydnabod bod iechyd planhigion yn fater sydd wedi’i ddatganoli, mae’r fframwaith yn ddatganiad o fwriad i gydweithio ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae ei rychwant yn canolbwyntio ar ddiogelu iechyd planhigion a hwyluso masnach mewn deunydd planhigion a reoleiddir.

Yn Lloegr, Defra sy’n gyfrifol am oruchwyliaeth strategol, datblygu polisi, deddfwriaeth ac am sicrhau bod strwythurau ac adnoddau llywodraethu priodol ar waith i fod yn sail i’r fframwaith, megis cydlynu asesiadau risg a datblygiadau polisi ledled y Deyrnas Unedig. APHA sy’n gyfrifol am weithrediadau mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth.

Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am faterion iechyd planhigion ac sy’n darparu cyngor polisi strategol, yn datblygu deddfwriaeth, yn gweithredu rheolaethau swyddogol ar iechyd planhigion a choed, ac yn ardystio planhigion a hadau. APHA sy’n gyfrifol am weithrediadau mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth. Mae swyddogaethau iechyd planhigion (coedwigaeth) yn cael eu cyflawni gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth.

Yn yr Alban, Scottish Forestry sy’n gyfrifol am bolisi a gweithrediadau mewn coedwigoedd, ac mae rhai swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ran Llywodraeth yr Alban. NatureScot sy’n gyfrifol am yr amgylchedd naturiol a SASA, sy’n adran o Gyfarwyddiaeth Amaethyddiaeth ac Economi Wledig Llywodraeth yr Alban (ARE), sy’n gyfrifol am amaethyddiaeth a garddwriaeth.

Y Comisiwn Coedwigaeth sy’n gyfrifol am faterion iechyd planhigion (coedwigaeth) a deunyddiau atgenhedlu coedwigoedd yn Lloegr. Penderfynir y polisi coedwigaeth a choetiroedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chanllawiau gan swyddogion Defra, gyda chefnogaeth agos gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd yn darparu swyddogaethau iechyd planhigion trawsffiniol (coedwigaeth) ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn unol â’r manylion yn Atodlen 3 i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer darparu Swyddogaethau Coedwigaeth a Chyflawni Ymchwil ar draws ffiniau. Forest Research, sy’n asiantaeth i’r Comisiwn Coedwigaeth, sy’n darparu Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesedd mewn Coedwigaeth ym Mhrydain Farw ar ran y tair gwlad.

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig Brif Swyddog Iechyd Planhigion yr un, sy’n darparu arweinyddiaeth ar lefel uwch ar draws materion iechyd planhigion, a’r ymateb gweithredol os ceir pla neu glefyd. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn yr UE a fforymau rhyngwladol.

Trefniadau rhyngwladol

Confensiwn Rhyngwladol Diogelu Planhigion (IPPC)

Mae’r IPPC yn gytuniad rhyngwladol o dan Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig. Mae’n ceisio diogelu adnoddau’r byd ar ffurf planhigion (gan gynnwys coed) naturiol ac wedi’u trin rhag i blâu planhigion gael eu cyflwyno a’u lledaenu, gan leihau ymyrraeth â symudiad rhyngwladol nwyddau a phobl yr un pryd. Fel y mae hi yn 2022, mae i’r confensiwn 184 o bartïon contractio.

Mae’r Deyrnas Unedig yn chwarae rhan weithredol mewn llawer o weithgorau ac is-gyrff yr IPPC, gyda’r cyfranogwyr fel arfer yn cynrychioli Rhanbarth Ewropeaidd cyfan yr FAO.

Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a’r Môr Canoldir (EPPO)

Mae’r EPPO yn sefydliad rhynglywodraethol sy’n gyfrifol am gydweithredu rhyngwladol wrth ddiogelu planhigion yn rhanbarth Ewrop a’r Môr Canoldir. Cydnabyddir yr EPPO gan yr IPPC fel y Sefydliad Diogelu Planhigion Rhanbarthol ar gyfer Ewrop. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys 52 o aelod-lywodraethau, gan gynnwys bron pob gwlad yng ngorllewin a dwyrain Ewrop a rhanbarth Môr y Canoldir.

Roedd y Deyrnas Unedig yn un o’r gwledydd a sefydlodd yr EPPO ac mae’n chwarae rhan weithredol yn holl baneli a gweithgorau perthnasol yr EPPO drwy gynrychioli’r Deyrnas Unedig neu drwy fod yn bresennol fel arbenigwyr annibynnol ar bynciau.

Sefydliad Cenedlaethol Diogelu Planhigion (NPPO)

O dan yr IPPC, mae’n ofynnol i’r Deyrnas Unedig sefydlu Sefydliad Cenedlaethol Diogelu Planhigion (NPPO), sy’n gyfrifol am ystod o weithgareddau, gan gynnwys ardystiad ffytoiechydol, gwyliadwriaeth, dadansoddi risg plâu, a rheoli risg. Defra sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig fel yr NPPO mewn fforymau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig, y llywodraethau datganoledig a’r Comisiwn Coedwigaeth yn cynnal cyfarfodydd swyddogol rheolaidd drwy’r NPPO i gydlynu polisïau a rheoliadau.

Mae’r NPPO yn darparu trosolwg strategol o faterion iechyd planhigion ar lefel ddomestig a rhyngwladol. Mae’n cymryd penderfyniadau polisi ar faterion iechyd planhigion sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan ac yn cyfarwyddo a goruchwylio gwaith Grŵp Risg Iechyd Planhigion (PHRG) y Deyrnas Unedig, Bwrdd Parodrwydd Brigiadau Iechyd Planhigion (PHORB) y Deyrnas Unedig a’r Grŵp Tystiolaeth a Chydlynu Iechyd Planhigion (PHECG).

Mae’r PHRG yn cynghori NPPO y Deyrnas Unedig am fygythiadau newydd i iechyd planhigion a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg gydag argymhellion ar gyfer gweithredu. Mae hefyd yn defnyddio ac yn cynnal Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig ac yn llywio’r gwaith o ddatblygu polisi ar draws y Deyrnas Unedig drwy roi cyngor a dadansoddiad technegol a gwyddonol.

Mae’r PHORB yn cydlynu gweithgareddau i sicrhau parodrwydd ar gyfer brigiadau ac yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig wedi’i pharatoi’n dda ar gyfer brigiadau o blâu planhigion, gan gynnwys plâu sydd â blaenoriaeth, megis Xylella fastidiosa ac Agrilus planipennis (Tyllwr emrallt yr onnen).

Mae’r PHECG yn helpu i sicrhau bod Rhaglenni Ymchwilio a Datblygu Iechyd Planhigion llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb i’r dystiolaeth ac anghenion gwerthuso NPPO y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai a nodwyd gan y PHRG a’r PHORB, mewn modd cydlynol.

1.5 Y cyflawniadau allweddol ers 2014

Nododd strategaeth bioddiogelwch planhigion 2014 nifer o nodau pwysig, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni’r rhain. Mae rhestr o’r ymrwymiadau i’w gweld yn y ddogfen strategaeth wreiddiol. Er hynny, rhestrir isod rai o’r canlyniadau allweddol rydyn ni wedi’u cyflawni ers cyhoeddi’r strategaeth flaenorol a strategaethau perthynol megis y Strategaeth Gwydnwch Iechyd Coed (2018).

Gwneud penderfyniadau ar sail risg

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • penodi Prif Swyddogion Iechyd Planhigion i Gymru, Lloegr a’r Alban i roi arweinyddiaeth a mwy o atebolrwydd

  • creu Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys dros 1,200 o risgiau ar ffurf plâu a chlefydau a phroses systematig ar gyfer adolygu risgiau bob mis gyda’r gweinidogion

  • datblygu a chyhoeddi Strategaeth Iechyd Planhigion gyntaf yr Alban yn 2016

  • cyhoeddi Cynllun Wrth Gefn Generig ar gyfer Iechyd Planhigion yn 2017 sy’n disgrifio sut y bydd y gwasanaeth iechyd planhigion yn Lloegr yn rheoli brigiadau o blâu planhigion, a ddiwygiwyd wedyn yn 2022, a 35 o gynlluniau ymateb i frigiadau penodol plâu gan gynnwys y rhai ar gyfer Xylella fastidiosa ac Agrilus planipennis (tyllwr emrallt yr onnen)

  • gweithredu Bwrdd Parodrwydd Brigiadau Iechyd Planhigion newydd i’r Deyrnas Unedig, sy’n cydlynu gweithgareddau parodrwydd ar gyfer brigiadau ac adolygiadau o lefelau parodrwydd ar gyfer y plâu sydd â blaenoriaeth

Codi ymwybyddiaeth a chyfranogiad

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • lansio ymgyrchoedd mawr i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus mewn cydweithrediad â nifer o sefydliadau ar gyfer Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion yn 2020

  • dynodi Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion flynyddol, gan ddechrau yn 2020, sy’n cynnwys Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Planhigion blynyddol ar 12 Mai

  • lansio ymgyrchoedd bioddiogelwch cydweithredol gyda’n partneriaid cyflenwi, gan gynnwys ymgyrch ‘Don’t Risk It’ APHA ar y ffin, ac ymgyrch ‘Keep it Clean’ y Comisiwn Coedwigaeth a Scottish Forestry i ddiogelu coed, coetiroedd, a choedwigoedd

  • ehangu rhwydwaith gwyddoniaeth dinasyddion Observatree i dros 200 o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi ar draws Prydain Fawr

  • cydweithio a lansio prosiect safleoedd sentinel Llywodraeth Cymru ac APHA yn 2019

  • datblygu’r Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion i roi mynediad at wybodaeth am blâu planhigion yn 2017

Gweithgarwch cyn y ffin

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • gweithredu trefn fewnforio newydd ym mis Ionawr 2021 a aeth i’r afael â risgiau iechyd planhigion a achosir i Brydain Fawr (yn hytrach na’r rhai a wynebir gan yr UE), gyda diweddariadau cyson yn cael eu gwneud mewn ymateb i wybodaeth newydd a dadansoddiad newydd o risgiau

  • cydlynu Rhwydwaith Rhyngwladol Planhigion Sentinel o 74 o gerddi ac arboreta partner ledled y byd, sy’n ceisio darparu system rybuddio gynnar ar gyfer risgiau ar ffurf plâu a phathogenau newydd sy’n dod i’r amlwg

Rydym wedi cryfhau’n trefn fewnforio drwy gyfres o ddeddfau newydd, gan gynnwys gweithredu deddfwriaeth Rheolau Doethach ar gyfer Iechyd Planhigion Bwyd Mwy Diogel o 2016 i 2019, a chyflwyno deddfwriaeth a gweithrediadau’r cyfnod ymadael â’r UE a’r cyfnod ar ôl pontio o 2020 i 2022. Mae hyn wedi dod â newidiadau mawr, gan gynnwys:

  • gwaharddiad ar fewnforio’r coed uchaf eu risg ac ardystiad ffytoiechydol i’r holl blanhigion i’w plannu y caniateir eu mewnforio

  • rhag-hysbysu’r holl blanhigion a phren wedi’u rheoleiddio sy’n cael eu mewnforio i’r llywodraeth er mwyn caniatáu archwiliadau a gwyliadwriaeth swyddogol

  • cyflwyno gofynion mewnforio pwrpasol, sy’n adlewyrchu risgiau penodol i fioddiogelwch Prydain Fawr, gan gynnwys camau brys mewn ymateb i fygythiadau uwch (er enghraifft, Xylella fastidiosa a gwyfyn ymdeithiwr y pinwydd)

Gweithgarwch ar y ffin

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • recriwtio dros 200 o arolygwyr ffiniau newydd

  • dynodi seilwaith ffiniau pwrpasol yn 2019 at gyflawni rheolaethau mewnforio (Safleoedd Rheoli Ffiniau a Phwyntiau Rheoli) – mae mwy na 100 o’r cyfleusterau hyn yn cael eu defnyddio ledled y Deyrnas Unedig, bob un yn bodloni safonau gofynnol gorfodol i ganiatáu gwiriadau diogel a dibynadwy

  • bron dyblu gallu diagnostig y Deyrnas Unedig ar gyfer profi samplau sy’n cael eu cymryd yn ystod archwiliadau mewnforio

Gweithgareddau mewndirol

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • cyflwyno pwerau newydd i weithredu trefn Sancsiynau Sifil yn neddfwriaeth Cymru a Lloegr yn 2020, ac ymgynghori ar fanylion y drefn yn 2021

  • cyflwyno trefn pasbortio planhigion newydd ar gyfer pob symudiad planhigion a phren wedi’u rheoleiddio at ddibenion masnachol o fewn Prydain Fawr

  • datblygu proses i hwyluso gwaith APHA a’r Comisiwn Coedwigaeth i gynnal archwiliadau coed ar rywogaethau uchel eu risg a fewnforiwyd yn eu lleoliadau plannu terfynol, gan ein galluogi i ganfod plâu a phathogenau a allai fod yn niweidiol ac a allai fynd heb i neb sylwi arnyn nhw wrth y ffin

  • buddsoddiad o £10 miliwn ym meithrinfeydd Prydain Fawr yn ystod 2021 i 2022, trwy’r Gronfa Natur dros Hinsawdd, i ategu agenda Grown in Britain a chynyddu cynhyrchiant domestig deunydd plannu coed amrywiol, bioddiogel, o ansawdd uchel

  • sefydlu Cynghrair Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig, mewn cydweithrediad â’r diwydiant, a chyhoeddi safon bioddiogelwch newydd ar sail yr arferion gorau, sef Safon Rheoli Iechyd Planhigion, a’r cynllun ardystio Planhigion Iach annibynnol perthynol, gyda mwy na 26 o feithrinfeydd mawr bellach wedi’u hardystio a mwy na 10 ar y gweill

  • lansio peilot 12 mis o ofyniad caffael bioddiogel newydd i gyflenwyr planhigion a choed o dan gynllun grant Creu Coetir y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a chynlluniau grant ailstocio Iechyd Coed Health

  • cyhoeddi canllawiau a phecynnau cymorth newydd i helpu tirfeddianwyr i reoli plâu a chlefydau, gan gynnwys pecynnau cymorth newydd ar gyfer clefyd coed ynn a gwyfyn ymdeithiwr y derw a ddatblygwyd ar y cyd â’r Cyngor Coed, Comisiwn Coedwigaeth a Scottish Forestry

  • ar yr ystâd goedwigoedd gyhoeddus, mae 100% o’r coed sy’n cael eu plannu wedi’u tyfu yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn ac wedi bod felly ers y tair blynedd diwethaf

Rydym wedi lansio cyfres o gynlluniau grant a chynlluniau peilot mawr newydd i roi cymorth ariannol i dirfeddianwyr a’r diwydiant, gan gynnwys:

  • Cronfa Coedluniau’r Awdurdodau Lleol i helpu i adfer tir sydd wedi diraddio’n ecolegol, gan gynnwys diraddio yn sgil plâu a chlefydau

  • y Gronfa Arloesi Cynhyrchu Coed i wella ansawdd, maint ac amrywiaeth y cyflenwad hadau coed

  • pum cynllun peilot newydd ym maes iechyd coed sy’n ehangu ar arlwy presennol Stiwardiaeth Cefn Gwlad drwy ddarparu cymorth ar gyfer ystod ehangach o glefydau a choed y tu allan i goetir

Ymchwil a sgiliau

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • bod llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn ymchwilio a datblygu ym maes iechyd planhigion, gan gynnwys lansio’r Rhaglen Pathogenau Planhigion Bacterol sy’n werth £19 miliwn a’r Rhaglen Dyfodol Coedluniau y Deyrnas Unedig sy’n werth£14.5 miliwn

  • datblygu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ar y fasnach ryngwladol mewn planhigion a chynhyrchion planhigion gan ddefnyddio data gan CThEF, APHA a’r Comisiwn Coedwigaeth

  • creu Action Oak, menter arloesol sy’n dod â mwy na 30 o bartneriaid ynghyd ac sydd wedi helpu i gefnogi 13 PhD i ddiogelu’n derw brodorol

  • creu canolfan newydd, Canolfan Arbenigedd Iechyd Planhigion yr Alban

  • cyhoeddi Strategaeth Ymchwil Ynn a phlannu 3000 o goed sy’n oddefgar i glefyd coed ynn yn archif gyntaf y Deyrnas Unedig

  • cymeradwyaeth i ryddhau am y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr y gacynen barasitoid Torymus sinensis, sef asiant bioreoli naturiol i helpu i leihau lledaeniad cacynen ddwyreiniol chwyddi’r gastanwydden a diogelu iechyd coed castan pêr

  • cynnwys clefydau planhigion yng nghwricwlwm Bioleg TGAU a Safon Uwch Lloegr fel rhan o glefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys problemau iechyd planhigion sy’n dod i’r amlwg megis clefyd coed ynn

  • creu’r Cynllun Israddedig Iechyd Planhigion (PHUGS) sy’n cynnig interniaethau a phrosiectau mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol (RSB), Cymdeithas Patholeg Planhigion Prydain (BSPP), Sefydliad David Colegrave, Gatsby Plants a Chymdeithas y Biolegwyr Cymhwysol

  • creu gradd Meistr mewn Patholeg Planhigion a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Iechyd Planhigion mewn partneriaeth â Phrifysgol Harper Adams

  • creu Cofrestr Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Planhigion mewn partneriaeth â’r RSB

Pennod 2: Ein gweledigaeth ar gyfer bioddiogelwch planhigion ym Mhrydain Fawr

2.1 Ein gweledigaeth

Rydym wedi datblygu gweledigaeth newydd ar gyfer bioddiogelwch planhigion am y pum mlynedd nesaf. Fe’i crëwyd ar y cyd â’r rhanddeiliaid allweddol ac mae wedi’i seilio ar adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Ein gweledigaeth newydd yw:

Diogelu planhigion Prydain Fawr trwy bartneriaeth gref rhwng llywodraeth, diwydiant a’r cyhoedd, i leihau a rheoli’r risgiau a achosir gan blâu a phathogenau planhigion a hwyluso masnach ddiogel.

Yn sail i’r weledigaeth hon, rydym wedi datblygu pedwar canlyniad allweddol, sydd i gyd yn elfennau hanfodol i gyflawni’n gweledigaeth. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn parhau i adeiladu ar ein cyflawniadau blaenorol, yn ogystal â’r camau yr anelwn at eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf wedi’u nodi ym Mhennod 3.

Canlyniad 1: trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i deilwra a chryfhau ein hymateb i atal a rheoli plâu a phathogenau sy’n fygythiad i iechyd planhigion Prydain Fawr rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu.

Canlyniad 2: cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach

Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd planhigion a choed iach ac annog pobl i fabwysiadu ymddygiad cyfrifol ar draws cymdeithas.

Canlyniad 3: Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel

Y llywodraeth a diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi cadwyn gyflenwi planhigion bioddiogel.

Canlyniad 4: gallu technegol gwell

Meithrin galluogrwydd ar sail iechyd planhigion a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg bresennol ac arloesol i ddal i fyny â bygythiadau sy’n newid a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.

2.2 Datblygu a rhychwant

Mae’r strategaeth hon yn nodi ymagwedd gyfunol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban at fioddiogelwch planhigion, gan ganolbwyntio ar atal cyflwyno a lledaenu plâu a chlefydau sy’n bygwth ein cnydau, ein coed, ein gerddi, a’n cefn gwlad. Mae hefyd yn nodi ymrwymiadau gan sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd â ni yn y sector planhigion.

Diogelu iechyd planhigion yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Nid yw plâu a chlefydau yn parchu ffiniau cenedlaethol, felly mae’r strategaeth hon wedi’i chytuno ar sail Prydain Fawr gyfan ac mae wedi’i seilio ar ymrwymiad i gydlynu’n hymagwedd at fioddiogelwch planhigion. Fel y nodir yn y fframwaith cyffredin iechyd planhigion, mae iechyd planhigion yn fater datganoledig a gall awdurdodau cenedlaethol arddel agwedd wahanol at bla neu bathogen penodol lle bo’n briodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Daera i sicrhau’r amddiffyniad gorau posibl i’r Deyrnas Unedig gyfan, ac ar yr un pryd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio’n agos â Gweriniaeth Iwerddon i gryfhau bioddiogelwch yr ynys.

Mae rhychwant y strategaeth hon wedi’i chyfyngu i fioddiogelwch planhigion (gan gynnwys coed) a chynhyrchion planhigion (er enghraifft, llysiau, ffrwythau yn yr ystyr fotanegol, deunydd pacio pren, blodau wedi’u torri), sy’n dod o dan ystod o reoliadau iechyd planhigion yn y ddeddfwriaeth genedlaethol ac yng nghyfraith yr UE a gadwyd[footnote 2]. Er bod y strategaeth hon yn cysylltu â gwaith ehangach ar iechyd planhigion (er enghraifft, iechyd pridd, bioddiogelwch anifeiliaid, ac atal mewnlifiad rhywogaethau ymledol), nid yw’r meysydd hyn, sy’n cael eu cynnwys o dan ddeddfwriaeth genedlaethol wahanol, wedi’u cynnwys yn y strategaeth hon.

Mae’r strategaeth hon hefyd yn cymryd nifer o fframweithiau a strategaethau parhaus i ystyriaeth, gan gynnwys:

Mae Strategaeth Garddwriaeth i Loegr yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac mae Strategaeth Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Prydain Fawr 2015 wedi’i chyhoeddi ochr yn ochr â’r strategaeth hon. O gofio’r cysylltiadau polisi agos mae’r strategaeth hon wedi cymryd y ddwy ddogfen i ystyriaeth.

2.3 Partneriaethau

Gan gydnabod na all y llywodraeth weithredu ar ei phen ei hun, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb cyfunol i fabwysiadu ymddygiad bioddiogelwch da a chydweithio i gadw planhigion ein gwlad yn ddiogel rhag plâu a chlefydau. Hoffem ddiolch i’r holl bartneriaid sydd wedi helpu i ddatblygu’r strategaeth hon, gan gynnwys asiantaethau’r llywodraeth, sefydliadau anllywodraethol, y gymuned wyddonol, ac aelodau o’r fasnach, ymhlith llawer o bobl eraill. Gyda’n gilydd rydym wedi gweithio i lunio polisi’r llywodraeth a datblygu’n hymrwymiadau am y pum mlynedd nesaf, a thrwy gydweithio rydym yn gobeithio sicrhau llawer mwy o effaith a chyrhaeddiad.

I gael rhagor o fanylion am ein hymrwymiadau ar y cyd am y pum mlynedd nesaf, gweler y Cynllun Gweithredu yn Atodiad A. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith partneriaid penodol, ewch i’w gwefannau perthnasol.

2.4 Ymgynghori

Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Defra, Llywodraethau Cymru, Llywodraeth yr Alban, y Comisiwn Coedwigaeth, a’n hasiantaethau a’n partneriaid cyflenwi, i fwydo’n hymagwedd at fioddiogelwch planhigion dros y pum mlynedd nesaf.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 21 Medi 2021 a bu’n rhedeg am 10 wythnos tan 30 Tachwedd 2021. Daeth 1,192 o ymatebion i law, gan gynnwys 139 o ymatebion i’r holiadur ymgynghori ar Citizen Space (offeryn ymgynghori ar-lein), chwe ymateb unigol drwy’r ebost a 1,047 o ymatebion drwy gyfrwng ymgyrch ysgrifennu llythyrau.

Cafodd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2022, gan gynnwys adroddiad technegol llawn yn cynnwys dadansoddiad o bob cwestiwn.

Pennod 3: Strategaeth bioddiogelwch planhigion i Brydain Fawr

3.1 Canlyniad 1: Trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf

Yn yr adran hon, rydym yn nodi sut rydym yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i deilwra a chryfhau ein hymateb i atal a rheoli plâu a phathogenau sy’n fygythiad i iechyd planhigion Prydain Fawr rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu.

Trosolwg: Trefn reoleiddio fioddiogel

Mae cost dileu plâu a chlefydau planhigion ar ôl iddyn nhw ddod i Brydain Fawr yn llawer mwy na chost eu hatal. Mae brigiadau blaenorol yn dangos y gall costau amrywio unrhyw le o £2 filiwn am ddileu brigiad bach o Chwilen Hirgorn Asia, i reoli’r clefyd coed ynn yr amcangyfrifir y bydd yn costio £15 biliwn i Brydain Fawr dros y degawdau nesaf[footnote 3].

Un o’n cyfrifoldebau allweddol fel yr NPPO yw diogelu adnoddau planhigion a hwyluso masnach ryngwladol ddiogel mewn nwyddau planhigion drwy sefydlu a gweithredu mesurau ffytoiechydol. Drwy’r mesurau hyn, mae’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan flaenllaw ym maes iechyd planhigion rhyngwladol, yn ogystal â chael ein cynrychioli ar lawer o gyrff rhyngwladol i hybu gwell arferion mewn bioddiogelwch planhigion ledled y byd.

Mae’n trefn reoleiddio yn gwahardd neu’n rheoli mewnforio planhigion, deunyddiau plannu eraill, cynhyrchion planhigion, pren a chynhyrchion pren (gan gynnwys coed tân) sy’n uchel eu risg. Ers inni ymadael â’r UE, mae nifer y planhigion a’r cynhyrchion planhigion sy’n dod i Brydain Fawr ac y mae angen eu harchwilio wedi cynyddu’n sylweddol, yn ogystal â nifer y nwyddau y mae angen ardystiad er mwyn eu hallforio o Brydain Fawr i’r UE. Mae archwiliadau’n helpu i gadarnhau y cydymffurfiwyd â’r gofynion rhagnodedig ond hefyd yn rhoi gwybodaeth am faterion newydd posibl a rhai sy’n dod i’r amlwg. Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol parhau i gynnal archwiliadau wedi’u targedu ar blanhigion a mewnforion pren a reolir neu fel arall. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal dros 70,000 o wiriadau corfforol ar blanhigion a choed wedi’u mewnforio bob blwyddyn.

Arolygydd yn gwirio llwyth o bren sy’n cael ei gludo o fewn cynhwysydd, fel rhan o archwiliad ehangach o fewnforion pren wrth y ffin.

Ffigur 2: Archwilio mewnforion pren wrth y ffin (ffynhonnell: y Comisiwn Coedwigaeth)

Er bod gwiriadau corfforol yn bwysig, gall plâu a chlefydau hefyd gael eu cario a’u gwasgaru ar y gwynt neu groesi’r ffin trwy gael eu cludo mewn deunydd pacio pren neu mewn pridd sy’n gysylltiedig â mewnforion eraill. Hefyd, mae rhai arwyddion o blâu a phathogenau yn cymryd amser i ddod i’r amlwg ac efallai na fydd modd eu canfod ar y ffin. Gan hynny, mae’n bwysig cynnal archwiliadau sy’n seiliedig ar risg ar safleoedd meithrinfeydd a chynnal gwyliadwriaeth ehangach mewn amgylcheddau trefol a gwledig i ganfod problemau cudd mor gynnar â phosibl ac ymateb yn gyflym.

Er enghraifft, mae APHA yn cynnal dros 5,000 o archwiliadau bob blwyddyn mewn meithrinfeydd, ac mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn arolygu dros 40,000 o goed unigol yn ogystal â chynnal gwyliadwriaeth o’r awyr ar fwy na miliwn o hectarau o goedwig bob blwyddyn, yn chwilio am blâu a chlefydau sydd â blaenoriaeth fel Phytophthora ramorum, chwilod rhisgl a malltod castanwydd pêr. Mae rhaglen gwyliadwriaeth awyr Scottish Forestry yn cwmpasu 1.2 miliwn hectar o goed a choedwigoedd ar draws yr Alban bob blwyddyn, ac yn gyffredinol mae angen dros 1,000 o archwiliadau dilynol lle mae coed dan straen wedi’u gweld.

Gwyliadwriaeth o'r awyr gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae dau berson yn hedfan mewn hofrennydd, yn edrych allan o’r ffenest ar y tir islaw ac yn defnyddio camerâu i dynnu lluniau.

Ffigur 3: Gwyliadwriaeth o'r awyr gan y Comisiwn Coedwigaeth (ffynhonnell: y Comisiwn Coedwigaeth)

Adnabod bygythiadau newydd ac asesu risg

Gallwn baratoi’n well ar gyfer dyfodiad plâu a phathogenau drwy ein dull sganio gorwelion. Mae ein Grŵp Risg Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig yn gwerthuso ac yn monitro bygythiadau gan ddefnyddio Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig i olrhain risgiau iechyd planhigion ac mae’n eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw fygythiadau sy’n dod i’r amlwg i fioddiogelwch y Deyrnas Unedig. Mae’r Gofrestr Risgiau wedi asesu dros 1,400 o blâu a phathogenau planhigion ac wedi nodi dros 700 naill ai ar gyfer rhagor o ymchwil neu fel bygythiad posibl i’r Deyrnas Unedig. Mae arbenigwyr o bob rhan o Brydain Fawr yn monitro adroddiadau a datblygiadau gwyddonol ledled y byd, ac yn archwilio gwybodaeth yn systematig i ddod o hyd i fygythiadau posibl. O ganlyniad, caiff rhyw bedwar pla eu hadnabod a’u hasesu bob mis i’w hychwanegu at y Gofrestr Risgiau. Maent yn asesu nodweddion biolegol plâu a phathogenau, pa mor debygol yw plâu o ddod i mewn, ymsefydlu ac achosi effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, ac yn gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau ymyrraeth. Caiff risgiau eu hadolygu’n rheolaidd a’u blaenoriaethu ar gyfer gweithredu i sicrhau bod ein dull yn dal i fod wedi’i dargedu ac yn gost-effeithiol.

Rydyn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth yn rhyngwladol drwy gydweithio ar ddadansoddi risg ac rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau gwybodaeth o’r fasnach. Mae’r Deyrnas Unedig yn cymryd rôl flaenllaw wrth yrru safonau rhyngwladol sydd hyd yn oed yn uwch, gan ddylanwadu ar reoliadau yn Ewrop a’r tu hwnt, i sicrhau bod pwyslais ar ddulliau sydd wedi’u seilio ar risg ac wedi’u harwain gan dystiolaeth. Yn 2017 lansiwyd y Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion fel canolbwynt ar-lein lle mae gwybodaeth am blâu planhigion a’r canllawiau diweddaraf i’w cael.

Newidiadau ers inni ymadael â’r UE

Ers i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE ar 31 Rhagfyr 2020, mae mesurau iechyd planhigion wedi’u hadolygu a’u hailrychwantu er mwyn canolbwyntio ar y risg i fioddiogelwch Prydain Fawr.

Rydym wedi cyflwyno gofyniad bod rhaid cynnal archwiliadau iechyd planhigion ar nwyddau a reoleiddir sy’n cael eu mewnforio o’r UE i Brydain Fawr, ac i archwilio a rhoi tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer allforio nwyddau i’r UE. Rydym wedi cynyddu nifer yr arolygwyr iechyd planhigion i ymdopi â’r gofynion newydd ac i sicrhau bod busnesau’n gallu parhau i fasnachu’n ddidrafferth gyda’r UE.

I helpu busnesau i fabwysiadu gofynion newydd EU-Prydain Fawr, fe gyflwynon ni’r mesurau newydd ynglŷn â mewnforio o’r UE fesul cam:

  • cam 1 (o 1 Ionawr 2021 ymlaen) – ar gyfer nwyddau â blaenoriaeth uchel o’r UE, hynny yw’r rhai sy’n creu’r risg bosibl fwyaf i fioddiogelwch y Deyrnas Unedig, roedd angen tystysgrif ffytoiechydol, rhag-hysbysiad a gwiriadau ar sail risg mewn Cyrchfan gofrestredig

  • cam 2 (o 1 Ionawr 2022 ymlaen) – roedd yn ofynnol i rychwant ehangach o nwyddau’r UE gael eu hysbysu ymlaen llaw er mwyn cael eu mewnforio i Brydain Fawr

Does dim bwriad i unrhyw reolaethau pellach ar nwyddau’r UE sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr gael eu cyflwyno yn ystod 2022. Byddwn ni’n cyhoeddi manylion trefn fewnforio ddiwygiedig ar gyfer Prydain Fawr yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y drefn newydd yn syml, effeithlon, effeithiol, ac yn addas iawn i’n hanghenion ni’n hunain. Byddwn yn harneisio manteision digidoli, yn gwneud y defnydd gorau o ddata ac yn mabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau ein bod yn cynnal a gwella’n safonau bioddiogelwch o’r radd flaenaf. Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid masnachu, gan eu hannog i wneud yr un fath, fel y gall allforwyr o’r Deyrnas Unedig fwynhau’r un buddion.

Mae dulliau rheoli mewnforion personol o’r UE ac ar deithwyr sy’n cyrraedd o’r UE yn cael eu cyflwyno’n raddol er mwyn bod yn gyson â’r rheolaethau ar nwyddau masnachol. Mae hyn yn cynnwys nwyddau sy’n dod i Brydain Fawr ym magiau teithwyr, yn y post neu drwy negesydd. O 1 Ionawr 2022 ymlaen, mae mewnforion personol o’r holl blanhigion â blaenoriaeth uchel (sy’n cynnwys yr holl blanhigion ar gyfer plannu) a chynhyrchion planhigion sy’n cyrraedd o’r UE angen tystysgrif ffytoiechydol a gall fod angen iddyn nhw fynd drwy wiriadau sy’n seiliedig ar risg.

Rheoleiddio masnach fewndirol

Os bydd bygythiadau posibl yn cyrraedd Prydain Fawr, rydym am sicrhau eu bod yn cael eu canfod mor gynnar â phosibl, a bod mesurau’n cael eu rhoi ar waith i atal unrhyw ledaeniad pellach i ardaloedd sydd heb eu heffeithio. Rydym hefyd am sicrhau nad yw plâu a phathogenau sefydledig yn bresennol ar lefelau annerbyniol ar ddeunydd plannu sy’n cael ei fasnachu o fewn Prydain Fawr.

Mae’r system pasbortau planhigion yn system gadarn lle mae planhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir sy’n symud o fewn Prydain Fawr yn cael eu monitro, a darperir sicrwydd am eu statws iechyd. Rhaid i unrhyw blanhigion i’w plannu, pren a rhai hadau a fwriedir at ddefnydd masnachol gael pasbort planhigion, wedi’i roi gan fusnes sydd wedi’i awdurdodi’n swyddogol, gan ddarparu cadarnhad bod gofynion rhagnodedig ynglŷn â phlâu a chlefydau wedi’u bodloni. Mae pasbortau planhigion yn wahanol i dystysgrifau ffytoiechydol (sy’n llywodraethu symudiadau rhwng trydydd gwledydd ac sy’n cael eu rhoi gan yr awdurdod iechyd planhigion).

Mae’r system hon yn sicrhau bod modd olrhain y planhigion os ceir brigiad neu os oes unrhyw faterion eraill yn codi o fewn y gadwyn gyflenwi. Yn 2021, lansiwyd gweithredwyr hyfforddiant ar-lein ym Mhrydain Fawr, a oedd yn cynnwys gofynion bod rhaid rhoi pasbortau planhigion ac a oedd yn anelu at godi ymwybyddiaeth trwy gylchlythyrau rheolaidd.

Paratoi at frigiadau

Mae gan Defra hefyd strwythur parodrwydd brigiadau, sy’n cynnwys y Bwrdd Parodrwydd Brigiadau Iechyd Planhigion (PHORB) a phum gweithgor, i fonitro’r anghenion o ran ymateb i frigiadau a llenwi unrhyw fylchau mewn parodrwydd. Er bod y PHORB yn ymdrin â Lloegr yn bennaf, mae’r llywodraethau datganoledig hefyd yn cymryd rhan ar y bwrdd i rannu’r arferion gorau a hybu cydweithio a chysoni lle bo modd.

Rydyn ni wedi paratoi, neu rydyn ni wrthi’n datblygu, cynlluniau wrth gefn generig ar gyfer iechyd planhigion, yn amlinellu sut i ymateb i frigiadau o bla planhigion, sy’n cael eu diweddaru o dro i dro. Mae cynlluniau wrth gefn penodol ar gyfer plâu hefyd wedi’u paratoi ar gyfer rhai plâu risg uchel, gan gynnwys mesurau ychwanegol i’r hyn sy’n ofynnol yn y cynllun wrth gefn generig. Mae’r cynllun wrth gefn generig a’r cynlluniau penodol, fel y rhai ar gyfer tyllwr emrallt yr onnen a Xylella, yn sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol os ceir brigiad.

I wella’r amddiffyniadau yn erbyn plâu penodol, rydym wedi cyflwyno ystod o ddeddfwriaeth genedlaethol frys, i leihau’r risg y bydd y rhain yn lledaenu ym Mhrydain Fawr gan gynnwys, er enghraifft, brigiad y chwilen rhisgl wythddant sbriws (Ips typographus).

Ochr yn ochr â chefnogaeth a hyfforddiant i’r diwydiant, mae yna gefnogaeth hefyd i reolwyr tir sydd ar gael ar gyfer pryd mae brigiadau’n digwydd. Mae hyn yn cynnwys cyngor, canllawiau a chyllid grant mewn achosion penodol i’w helpu i gyfyngu a lleihau lledaeniad brigiadau plâu a chlefydau.

Astudiaeth achos: diwrnod ym mywyd arolygydd iechyd planhigion

Mae gan arolygwyr iechyd planhigion rôl hanfodol wrth ddiogelu iechyd planhigion ar draws y sector bwyd-amaeth, garddwriaeth, a’r amgylchedd. Mewn lleoliadau ar y ffin ac yn fewndirol mae eu gwaith yn amddiffyn bioddiogelwch ein gwlad trwy atal unrhyw blâu a chlefydau planhigion anfrodorol rhag cael eu cyflwyno a lledaenu, a allai fod yn niweidiol, ynghyd â sicrhau nad yw ansawdd ein bwyd yn cael ei pheryglu.

Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn fedrus, yn gofyn am ddatblygu proffesiynol parhaus, gan gynnwys hyfforddiant a ategir gan asesiadau a phrofion cymhwysedd. Ar ddiwrnod arferol, gallai arolygydd wirio planhigion wedi’u mewnforio, cynhyrchion ffres, a chynhyrchion planhigion i sicrhau eu bod yn rhydd rhag plâu cwarantîn a bod yr holl ddogfennau’n cydymffurfio â rheoliadau mewnforio’r Deyrnas Unedig. Gyda masnach allforio ffyniannus y Deyrnas Unedig, mae angen archwilio planhigion sy’n cael eu hallforio a rhoi tystysgrifau ffytoiechydol i ateb gofynion y wlad a gyrchir. Mae arolygwyr iechyd planhigion hefyd yn gweithio i ddiogelu ansawdd ein bwyd a diogelwch bwyd drwy archwilio ac ardystio hadau a rhai cnydau amaethyddol sy’n tyfu yn ein meysydd fel tatws hadau a grawnfwydydd i sicrhau eu bod yn driw i’r amrywiaeth a nodir ac yn rhydd rhag plâu niweidiol.

Andrew Gaunt, Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau:

“Mae iechyd planhigion yn waith boddhaus, gan nad ydych chi byth yn cael yr un diwrnod ddwywaith wrth ddiogelu’r ynys yma rhag plâu a chlefydau cwarantîn, fel Xylella fastidiosa. Mae hanner y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael ei fewnforio ac felly rydyn ni’n gweithio’n agos gyda thimau iechyd planhigion ar draws y byd i ddiogelu’n bwyd a’n hecosystemau. Hefyd, mae newid hinsawdd yn newid risgiau’n ddeinamig ac felly mae’n rhaid inni fod yn wybodus, yn gyfoes ac yn gyflym i ymateb yn y byd yma sy’n newid yn gyflym. Mae’r gwaith dwi’n ei wneud yn bwydo i’r amddiffyniad byd-eang yma, ac rydych chi’n teimlo eich bod chi’n gwneud rhywbeth gwerth chweil i’r genhedlaeth yma ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae Andrew, sy’n Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau, yn penlinio mewn tŷ gwydr mawr sy'n llawn planhigion. Mae'n archwilio planhigion sy’n cael eu mewnforio.

Ffigur 4: Andrew Gaunt, Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau, wrthi’n archwilio planhigion sy’n cael eu mewnforio (ffynhonnell: APHA)

Pauline M.A. Jordan, Yr Arolygiaeth Garddwriaeth a Marchnata (HMI) ac Arolygydd Iechyd a Hadau Planhigion:

“Mae’n sefyllfaoedd presennol mewn masnach economaidd a rhyngwladol yn dangos bod angen gwasanaeth effeithlon i ddiogelu’n bioddiogelwch. Yn ddiweddar mae fy swydd i wedi newid i rôl gyfunol, gan uno dwy swydd hanfodol mewn iechyd planhigion a marchnata garddwriaethol yn un. Rwy wedi gweld mantais y rôl ddeuol yn y porthladdoedd yn strategol, gan brosesu mewnforion trydydd gwledydd a chasglu samplau er mwyn profi gweddillion tatws o gyfanwerthwyr i enwi dim ond rhai. Rwy’n gweld fy swydd yn gyffrous, heriol a boddhaus gan fy mod i’n gwybod bod fy swydd yn gwneud gwahaniaeth.

“Erbyn hyn mae gen i well dealltwriaeth o safonau HMI ac rwy ar dir i ddefnyddio fy ngwybodaeth a fy sgiliau bob dydd yn y rôl gyfunol newydd yma o fewn yr arolygiaeth.”

Mae Pauline, sy’n Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau, wrthi’n archwilio tomatos mewn bocsys sy’n cael eu mewnforio.

Ffigur 5: Pauline Jordan, Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau, wrthi’n archwilio tomatos sy’n cael eu mewnforio (ffynhonnell: APHA)

Y canolbwynt yn y dyfodol

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn parhau i adeiladu trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf drwy bedwar maes ffocws: gwella’r gwaith o sganio risgiau a gorwelion, cryfhau’n trefn reoleiddio, sicrhau parodrwydd ar gyfer brigiadau, a chydweithio’n rhyngwladol.

1. Sganio risgiau a gorwelion

Byddwn ni’n parhau i wella’n dull o sganio risgiau a gorwelion, drwy adolygu risgiau posibl yn rheolaidd, er mwyn blaenoriaethu a thargedu’r plâu a’r clefydau sy’n peri lefel uchel o risg i Brydain Fawr. Byddwn ni’n datblygu Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig ymhellach i wella’n dealltwriaeth o risgiau cymhleth a chronnol. Bydd y PHRG yn gweithio i sicrhau bod risgiau sy’n deillio o bob tarddle yn cael sylw drwy gyflwyno camau wedi’u targedu, megis cryfhau’r canllawiau ar roi gwybod am blâu a phathogenau planhigion hysbysadwy, gan gynnwys hybu mwy ar system TreeAlert, a diweddaru gofynion rheoleiddio.

Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda Botanic Gardens Conservation International i ychwanegu at y Rhwydwaith Rhyngwladol Planhigion Sentinel, gan edrych ar gyfleoedd i gynnwys gwledydd yn Asia, monitro mwy o rywogaethau’r Deyrnas Unedig mewn gerddi yn Ewrop a gwella rhwydweithiau thematig a thacsonomig.

2. Y drefn reoleiddio

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddiweddaru ac addasu’n trefn reoleiddio, a sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r wybodaeth ddiweddaraf am fygythiadau newydd.

Mae hyn yn cynnwys gorffen rhoi trefn fewnforio ddiwygiedig i Brydain Fawr ar waith, megis e-ardystio ‘digidol yn ddiofyn’ (neu ‘e-Phyto’) ar gyfer planhigion i sicrhau bod modd eu holrhain a bod y data yn ddiogel, yn ogystal â hybu cydymffurfiaeth drwy ddefnyddio sancsiynau sifil newydd. Byddwn ni hefyd yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen archwilio ffytoiechydol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer trydydd gwledydd ac yn cyflwyno polisi newydd ar fewnforion personol. Byddwn ni hefyd yn edrych ar y cyfleoedd yn sgil egwyddorion Ennill Cydnabyddiaeth a Masnachwr Dibynadwy.

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar gyfer y strategaeth hon, gofynnwyd am adborth ar fesurau bioddiogelwch ychwanegol ar gyfer coed risg uchel. Mae dadansoddiad cychwynnol o’r ymatebion yn dangos cefnogaeth eang i weithredu ymhellach yn y maes hwn. Mae’n annhebygol y bydd cadw coed sy’n cael eu masnachu’n eang mewn cyfleusterau cwarantin absoliwt yn ddull ymarferol, ond byddwn yn ystyried dull sy’n seiliedig ar risg ac sy’n gyfuniad o waharddiadau pellach, archwiliadau gwell a dal y coed yn orfodol am gyfnodau rhagnodedig (ar wahân neu ar safleoedd meithrin) yn achos mewnforion coed sy’n uchel eu risg. Bydd dadansoddiad trylwyrach o’r dystiolaeth yn cael ei wneud, gan gynnwys ymgynghori â’r diwydiant ac ystyried y gofynion o ran gofod tir a chostau gweithredu.

3. Parodrwydd ar gyfer brigiadau

Byddwn yn parhau i gydlynu gweithgareddau parodrwydd brigiadau ac yn monitro’n parodrwydd ar gyfer ein plâu blaenoriaeth trwy’r PHORB. Byddwn yn adolygu’n cynlluniau wrth gefn presennol yn barhaus, ac yn datblygu ymhellach ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer plâu penodol. Bydd y rhain yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gynlluniau ar gyfer Anoplophora chinensis (chwilod hirgorn sitrws), Ips amitinus, Ips duplicatus, feirws dail cyrliog betys, a Rhynchophorus ferrugineus (gwiddonyn coch y balmwydden). Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu cynllun wrth gefn generig sy’n benodol i Gymru.

I sicrhau y gallwn ymateb yn fwy effeithiol i frigiadau, byddwn yn datblygu rhaglen hyfforddi ac ymarfer Gwasanaeth Iechyd Planhigion ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer ymatebwyr achosion. Byddwn ni hefyd yn cynnwys brigiadau iechyd planhigion ar yr Asesiad Cenedlaethol o Risgiau i Ddiogelwch a’r Gofrestr Risgiau Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o fygythiadau ac effeithiau.

Bydd sicrhau bod y diwydiant, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn cael eu cefnogi i weithredu a’u cadw’n hyddysg yn ystod brigiadau hefyd yn flaenoriaeth a byddwn yn datblygu cynllun cyfathrebu brigiadau generig i’w ddefnyddio gan y swyddogion. Byddwn ni hefyd yn datblygu nifer o systemau TG Iechyd Planhigion i ateb anghenion parodrwydd brigiadau, ymateb brys a rhannu gwybodaeth.

4. Uchelgais rhyngwladol

Gan gydnabod bod gweithgareddau a chynrychiolaeth ryngwladol yn hanfodol i’n gallu i fonitro ac asesu risg, cadw llygad ar ledaeniad plâu, a’n parodrwydd ar gyfer brigiadau, mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ymagwedd ryngwladol gydweithredol.

Byddwn yn parhau i gydlynu gweithgareddau a chynrychiolaeth ryngwladol drwy grŵp yr NPPO. Hefyd, bydd Cynllun Gweithredu Rhyngwladol Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig yn cael ei ddatblygu i roi’n huchelgais rhyngwladol ar waith rhwng 2022 a 2025. Mae hyn yn cynnwys adeiladu gallu tramor drwy ddarparu cymorth technegol, hyfforddiant, cyfleoedd cyfnewid a rhaglenni adeiladu capasiti i wledydd eraill. Bydd hefyd yn helpu i weithredu Fframwaith Strategol y Confensiwn Diogelu Planhigion Rhyngwladol (2020 i 2030) sy’n hybu masnach ddiogel ac yn atal plâu a chlefydau planhigion rhag lledaenu. Byddwn hefyd yn ychwanegu iechyd planhigion i’r Rhagolwg Peryglon Rhyngwladol, sef offeryn traws-lywodraethol a ddefnyddir i olrhain sefyllfa esblygol peryglon naturiol dros y môr. Byddwn yn helpu i ddatblygu safonau a chanllawiau rhyngwladol drwy gymryd rhan yn yr EPPO, yr IPPC a phaneli a grwpiau rhyngwladol eraill.

Ym mis Medi 2022, cyd-gynhaliodd y Deyrnas Unedig Gynhadledd Iechyd Planhigion Ryngwladol, gydag Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Planhigion i drafod yr heriau byd-eang sy’n wynebu cyfundrefnau iechyd planhigion heddiw. Edrychodd y gynhadledd 3-diwrnod ar faterion gwyddonol, technegol a rheoleiddiol iechyd planhigion gyda chynulleidfa a oedd yn cynnwys gwyddonwyr, academyddion, gwneuthurwyr polisi, ymarferwyr a’r cyhoedd yn ehangach, er mwyn helpu i lywio’r dull gweithredu ar iechyd planhigion yn rhyngwladol yn y dyfodol.

3.2 Canlyniad 2: Cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach

Yn yr adran hon rydyn ni’n nodi sut rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd planhigion a choed iach ac yn annog pobl i fabwysiadu ymddygiad cyfrifol ar draws cymdeithas.

Trosolwg: ymwybyddiaeth y cyhoedd

Mae pawb yn y Deyrnas Unedig yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn iechyd ein planhigion a’n coed. Mae mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus am gamau a all amddiffyn iechyd planhigion yn cael effaith amlwg ar atal plâu rhag cael eu cyflwyno ac atal plâu a chlefydau rhag lledaenu. Gall hyn olygu bod pobl yn cymryd gofal ychwanegol wrth brynu planhigion, yn cydymffurfio â rheoliadau wrth ddod â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion yn ôl o wlad dramor, neu’n golchi eu hesgidiau ar ôl ymweld â choetir er mwyn peidio â mentro lledaenu clefydau ymhellach.

Hoffem greu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion a choed iach, yn deall bod y gwerthoedd hyn dan fygythiad, yn gwneud dewisiadau cadarnhaol, ac yn cymryd camau i ddiogelu’r gwerthoedd hynny. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn sicrhau bod pawb:

  • yn cydnabod gwerth planhigion iach yn eu bywyd bob dydd

  • yn deall bod y gwerthoedd hyn dan fygythiad

  • yn glir ynghylch y cysylltiadau rhwng eu gweithredoedd a’u dewisiadau a’r risgiau i’r amgylchedd, ac yn cael eu grymuso i fabwysiadu newid ymddygiad cadarnhaol

  • yn deall eu cyfrifoldeb i weithredu

  • yn teimlo’n rhan o ddiwylliant bioddiogelwch cenedlaethol lle mae unigolion yn gwybod eu rôl a lle mae ymddygiad peryglus yn cael ei ystyried yn gymdeithasol annerbyniol

Dros y 10 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd planhigion a bioddiogelwch. Mae’r rhain wedi’u targedu ar y cyhoedd a chynulleidfaoedd allweddol eraill.

Yn 2020, lansiwyd ymgyrch yn y Deyrnas Unedig i roi cyhoeddusrwydd i Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion, mewn cydweithrediad â mwy na 15 o sefydliadau. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Wythnos Iechyd Planhigion Genedlaethol y Deyrnas Unedig a chreu llyfr gweithgareddau plant sydd ar gael yn rhad ac am ddim o’r enw ‘Anni yr Archwilydd’. Cafodd gwefan i’r cyhoedd, ‘Plant Health Action’, lle gall y cyhoedd gael gwybodaeth ac adnoddau am ymddygiad da ynglŷn â bioddiogelwch planhigion, ei defnyddio hefyd i dynnu sylw at yr wythnos a hybu digwyddiadau a gynhaliwyd gan y partneriaid.

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, rhyddhaodd Canolfan Iechyd Planhigion yr Alban set o bum egwyddor allweddol yn amlinellu camau pwysig i ddiogelu adnoddau planhigion yr Alban. Cynhaliodd y Ganolfan Gynhadledd Iechyd Planhigion flynyddol ym mis Mehefin 2022, a gafodd ei thargedu ar randdeiliaid o’r sectorau garddwriaeth, tirlunio, coedwigaeth ac amaethyddiaeth a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’r sectorau hynny, gan anelu at godi ymwybyddiaeth y rhanddeiliaid o fioddiogelwch planhigion a materion presennol ym maes iechyd planhigion a choed.

Lansiodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag APHA, Rwydwaith Safleoedd Sentinel Iechyd Planhigion Cymru yn 2019, sef rhaglen monitro iechyd planhigion a choed y mae ei haelodau’n cynnwys parciau a gerddi ledled Cymru.

Mewn partneriaeth â llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, cefnogodd APHA Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a’r Môr Canoldir trwy lansio fersiwn y Deyrnas Unedig o ymgyrch ‘Don’t Risk It’. Mae’r negeseuon yn gofyn i’r cyhoedd sy’n teithio beidio â dod â phlanhigion, blodau, ffrwythau neu lysiau i’r Deyrnas Unedig o’u teithiau dros y môr. Enillodd arddangosiad APHA a seiliwyd ar yr ymgyrch hon fedal aur yn Sioe Flodau Chelsea y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn 2022.

Lansiodd y Comisiwn Coedwigaeth a Scottish Forestry ymgyrch ‘Keep it Clean’, gan ddarparu cyngor syml, ymarferol i goedwigwyr, coedyddwyr a thirlunwyr ac aelodau o’r cyhoedd ynghylch mesurau y gallant eu cymryd i helpu i gyfyngu ar ledaeniad plâu a chlefydau.

Map wedi’i argraffu ar ffrâm bren o Rwydwaith Safleoedd Sentinel Cymru. Mae’r rhain yn safleoedd monitro pwysig sy'n gweithredu fel system rhybuddio cynnar ar gyfer plâu a chlefydau planhigion, gan ffurfio rhwydwaith gwyliadwriaeth.

Ffigur 6: Un o safleoedd Rhwydwaith Sentinel Cymru (Bodelwyddan) (ffynhonnell: Llywodraeth Cymru)

Gwyddoniaeth dinasyddion

Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn cyfeirio at unrhyw brosiect gwyddonol lle mae gwirfoddolwyr yn cyflawni tasgau sy’n gysylltiedig ag ymchwil megis arsylwi neu fesur. Dyma rai o’r ffyrdd y gall prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion helpu i ddiogelu iechyd planhigion:

  • canfod, gwylio a rhoi rhybudd cynnar ynghylch pla neu glefyd

  • cefnogi gwyliadwriaeth a rheolaeth brigiadau swyddogol

  • cefnogi ymchwil i blâu a chlefydau penodol

  • mapio plâu a chlefydau penodol

  • disgrifio gwerthoedd ein planhigion gan gynnwys gwasanaethau ecosystem planhigion iach, asesu’r gwerth sy’n cael ei golli oherwydd pla ac afiechyd penodol, a rhoi tystiolaeth i adeiladu’r achos dros ymyrraeth

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig wedi gweithio gyda phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus ac elusennol i ddarparu Observatree, system rybuddio cynnar ynglŷn ag iechyd coed sydd wedi’i seilio ar wyddoniaeth dinasyddion ac sy’n ategu gwyliadwriaeth swyddogol ar iechyd coed. Mae’r prosiect partneriaeth hwn yn cynnwys Forest Research, Fera Science Ltd, Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r llywodraeth. Mae’r prosiect wedi datblygu rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi i arolygu coed ac i roi gwybod am bresenoldeb 22 o blâu sydd â blaenoriaeth uchel. Mae gwirfoddolwyr Observatree wedi cwblhau bron i 14,000 o arolygon mewn chwe blynedd, gan gynnwys 2,489 o adroddiadau o blâu a chlefydau blaenoriaeth, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i ategu penderfyniadau polisi a phenderfyniadau gweithredol. Rhan ganolog o lwyddiant Observatree oedd datblygu TreeAlert, offeryn i roi gwybod am iechyd coed sy’n cael ei redeg gan Forest Research sy’n bwydo system wyliadwriaeth y llywodraeth.

Cafodd Forest Research y nifer uchaf erioed o adroddiadau am blâu ac afiechydon drwy TreeAlert yn y flwyddyn ddiwethaf rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022. Cynyddodd nifer gyffredinol yr ymholiadau am yr ail flwyddyn yn olynol, gan godi bron 25% o 3,063 yn 2020 i 2021, i 3,790 yn 2021 i 2022. Y plâu a’r clefydau mwyaf cyffredin y rhoddwyd gwybod amdanynt oedd gwyfyn ymdeithiwr y derw a chlefyd coed ynn, yn y drefn honno.

Addysg a hyfforddiant

O oedran cynnar, rydyn ni’n dysgu egwyddorion bioddiogelwch da, o olchi’n dwylo a sychu’n traed, i frwsio’n dannedd, i warchod ein hiechyd ni ac iechyd ein teulu a’n ffrindiau. Wrth ddechrau’r ysgol, rydyn ni’n cael ein dysgu am yr amgylchedd naturiol a pham mae planhigion yn bwysig wrth ddarparu’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta a’r amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo. Yn ddiarwybod, dechreuwn feithrin dealltwriaeth o fioddiogelwch drwy ddysgu am bynciau sy’n agos at ein cartref ac sy’n bwysig inni.

Wrth symud ymlaen drwy’r ysgol gynradd ac uwchradd, rydym yn dechrau ymchwilio, holi, a deall y wyddoniaeth y tu ôl i blanhigion a’u pwysigrwydd o ran materion byd-eang fel newid hinsawdd. Ar ôl gadael addysg ffurfiol fe all ein diddordeb mewn gwyddoniaeth arwain at yrfa yn gweithio gyda phlanhigion lle rydym yn dal i adeiladu’n cymhwysedd mewn bioddiogelwch trwy addysg bellach neu hyfforddiant yn y swydd.

Mae’r llywodraeth a phartneriaid allweddol wedi cymryd ystod o gamau i wella addysg a hyfforddiant ar iechyd planhigion a mynd i’r afael â’r lefelau amrywiol o wybodaeth a sgiliau ar draws gwahanol gynulleidfaoedd.

Addysg

Erbyn hyn mae clefydau planhigion wedi’u cynnwys yng nghwricwlwm TGAU a Safon Uwch Lloegr fel rhan o glefydau trosglwyddadwy gan gynnwys problemau iechyd planhigion sy’n dod i’r amlwg, fel clefyd coed ynn.

Mae Fera Science Ltd wedi bod yn ymwneud â gweithio gyda athrawon ysgol uwchradd a chynorthwywyr labordy mewn technegau ymarferol ar gyfer patholeg planhigion, yn ogystal â gwaith gyda’r cynllun Gwyddoniaeth a Phlanhigion ar gyfer Ysgolion sy’n cael ei ariannu gan Gatsby. Rydym wedi creu gradd Meistr mewn Patholeg Planhigion a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Iechyd Planhigion a Bioddiogelwch mewn partneriaeth â Phrifysgol Harper Adams.

Rydym wedi ariannu Cynllun Efrydiaethau Israddedig Iechyd Planhigion a gydlynir gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, sy’n darparu interniaethau haf gyda thâl ers y tair blynedd diwethaf. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i drosoli rhagor o efrydiaethau gan gymdeithasau hyddysg, megis Cymdeithas Patholeg Planhigion Prydain, gan adeiladu portffolio o 10 o efrydiaethau y flwyddyn.

Rydym wedi cefnogi Ysgol Haf Gwyddorau Planhigion Gatsby yn llwyddiannus gan ymgysylltu â mwy na 1,000 o fyfyrwyr israddedig ac athrawon yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Hyfforddiant

Rydym wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol i ddatblygu fframwaith cymhwysedd Iechyd Planhigion a Bioddiogelwch Cenedlaethol newydd a Chofrestr Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Planhigion, gyda thros 80 o weithwyr proffesiynol bellach wedi’u cofrestru, i gydnabod a datblygu cymhwysedd.

Mae Observatree wedi llunio cyfres o ddeunyddiau hyfforddi i helpu gwirfoddolwyr i adnabod plâu a phathogenau.

Mae’r Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew, wedi cynllunio Endeavour, adnodd hyfforddi i athrawon i gyflwyno gwersi ysbrydoledig am wyddoniaeth planhigion a’r amgylchedd.

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi llunio modiwlau e-Ddysgu, sydd ar gael yn eang i reolwyr tir ynghylch y bygythiadau i goed, gan gynnwys sut i reoli coetiroedd bioddiogel. Bydd sawl un o’r cynlluniau peilot Rheoli Tir Amgylcheddol yn talu rheolwyr tir i gwblhau’r hyfforddiant hwn.

Astudiaeth achos: Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion

Mae un rhan o waddol Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion 2020, sef Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, yn wythnos ddynodedig flynyddol o weithredu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad ar sut i gadw’n planhigion yn iach. Mae’n gyfle cyffrous i ddathlu’n planhigion a chyfrannu at fod y genhedlaeth gyntaf i adael yr amgylchedd mewn cyflwr gwell nag y daethom o hyd iddo ynddo.

Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion yn ymdrech gydweithredol gan dros 20 o sefydliadau, gan gynnwys y llywodraeth, y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Chymdeithas y Crefftau Garddwriaethol. Gyda phwyslais ar gydweithio, gall y cyfranogwyr gyrraedd cynulleidfa fwy a chyfathrebu’n fwy effeithiol a chwyddo negeseuon hanfodol sy’n ymwneud ag iechyd planhigion.

Mae’r wythnos yn canolbwyntio ar un thema allweddol bob dydd, i fynd i’r afael â phynciau pwysig fydd o fudd i blanhigion ac yn annog y gymdeithas i fwynhau a diogelu’r planhigion o’u cwmpas. Mae’r themâu hyn yn aml yn cynnwys ‘sut i ddod o hyd i’ch planhigion yn ddiogel’ a ‘sut i gymryd rhan fel gwyddonydd o ddinesydd’ sydd wedi cynnwys gofyn i’r cyhoedd ‘Gwirio Castanwydden Bêr’ i chwilio am arwyddion o gacynen ddwyreiniol chwyddi’r gastanwydden. Mae canolbwyntio ar un neges allweddol bob dydd yn caniatáu inni gyfleu camau pwysig y gallwn ni i gyd eu cymryd i arfer bioddiogelwch da a hybu dyfodol iach i’n planhigion.

Mae’r uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • bod cyflwynydd Gardeners’ World, Adam Frost, wedi cefnogi Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion drwy gymryd rhan mewn podlediad iechyd coed ar gyfer Gardeners’ World Magazine

  • bod y gantores a’r ddarlledwraig Cerys Matthews MBE wedi rhoi darlleniad o farddoniaeth ar blanhigion a choed i gefnogi’r wythnos

  • bod APHA wedi lansio llyfr gweithgareddau gwyddoniaeth i blant o’r enw ‘Anni yr Archwilydd’. Hyd yn hyn mae 5,000 o lyfrau gweithgareddau ‘Anni yr Archwilydd’ wedi cyrraedd ysgolion a rhaglenni addysgol

  • ein bod ni wedi cydariannu rhaglen ‘Plant Defenders’ sy’n ennyn diddordeb plant yn y mudiad Girl Guiding am bwysigrwydd patholeg planhigion a’r camau y gallant eu cymryd i gadw’n planhigion yn iach

Mae'r Brenin Charles y Trydydd yn gwenu ac yn cael ei gyflwyno i rywun mewn arddangosfa iechyd planhigion yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion.

Ffigur 7: Y Brenin Charles III yn edrych ar arddangosfa iechyd planhigion yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion (ffynhonnell: APHA)

Y canolbwynt yn y dyfodol

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn parhau i adeiladu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion drwy bedwar maes ffocws: codi ymwybyddiaeth, addysg, hyfforddiant a gwyddoniaeth dinasyddion.

1. Codi ymwybyddiaeth a hybu newid ymddygiad i ddiogelu iechyd planhigion

Bydd cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o iechyd planhigion a bioddiogelwch yn bwysicach nag erioed a byddwn yn parhau i gydweithio i godi ymwybyddiaeth gyffredinol y cyhoedd o werth planhigion iach ac i hybu newid ymddygiad cadarnhaol.

Rydyn ni wedi datblygu cytundeb newydd, Cytundeb Ymgysylltu â’r Cyhoedd mewn Iechyd Planhigion, a gyhoeddwyd gennym yn Sioe Flodau’r RHS yn Chelsea yn 2022. Mae’r cytundeb, sydd wedi’i lofnodi gan dros 30 o sefydliadau, yn arwydd o’n hymrwymiad ar y cyd i gydweithio ar godi ymwybyddiaeth o iechyd planhigion a hybu ymddygiad cadarnhaol. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys datganiadau gan y llofnodwyr sy’n nodi’r camau penodol y byddant yn eu cymryd i ymgysylltu â’r cyhoedd ac i hybu camau cadarnhaol i ddiogelu iechyd planhigion. I gael rhagor o fanylion am y cytundeb, gweler y Cynllun Gweithredu yn Atodiad C. Byddwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd drwy’r prosiect ‘Sgwrs Genedlaethol am Iechyd Planhigion’, a fydd yn bwydo sut rydyn ni’n cynllunio’n hymgyrchoedd at y dyfodol i godi ymwybyddiaeth o fygythiadau a risgiau iechyd planhigion allweddol a’r camau y dylai pobl eu cymryd i helpu i’w lleihau.

Bydd ein Hwythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, sy’n cynnwys Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Planhigion ar 12 Mai, yn parhau’n flynyddol.

2. Addysg

Mae addysg ym mhob oedran yn hanfodol er mwyn i bobl feithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd planhigion iach a’r angen am arferion bioddiogelwch da. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol a Chanolfan Genedlaethol Dysgu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) i ymgorffori bioddiogelwch yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, datblygu ymwybyddiaeth ymysg athrawon a datblygu rhwydwaith o lysgenhadon STEM mewn iechyd planhigion. Byddwn yn darparu adnoddau ar thema iechyd planhigion a bioddiogelwch ar-lein i ysgolion cynradd sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac y gellir eu hymgorffori mewn cynlluniau gwersi, er enghraifft ‘Anni yr Archwilydd’.

Drwy’r Ganolfan Diogelu Coedwigoedd newydd, dan arweiniad Forest Research a Gerddi Botanegol Brenhinol Kew a fydd yn ganolfan i ymchwil y Deyrnas Unedig ac ymchwil ryngwladol ar blâu a chlefydau coed, byddwn yn dylunio ac yn cyflwyno gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc) newydd mewn Diogelu Coedwigoedd ac yn edrych ar ragor o gyfleoedd i hybu iechyd a bioddiogelwch planhigion ar lefel addysg uwch.

3. Hyfforddiant

Byddwn yn parhau i ddatblygu a darparu hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sectorau sy’n gysylltiedig ag iechyd planhigion. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynyddu gallu a’r stoc wybodaeth am faterion iechyd planhigion ac arferion bioddiogelwch da ymysg y diwydiant, yn enwedig y rhai sy’n masnachu planhigion. Mae rhagor o fanylion y gwaith hwn i’w gweld o dan Canlyniad 3.

Byddwn ni’n ehangu Cofrestr Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Planhigion y Gymdeithas Fioleg Frenhinol i hybu mwy o gyfranogiad ar draws sectorau. Gan weithio mewn partneriaeth byddwn hefyd yn datblygu modiwlau e-ddysgu diddorol i arddwyr amatur, ac yn helpu eraill i ddatblygu modiwlau ac adnoddau hyfforddiant pwrpasol mewn bioddiogelwch, er enghraifft, modiwlau bioddiogelwch y Sefydliad Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, llwyfan dysgu ar-lein Endeavour Gerddi Botanegol Brenhinol Kew, cymwysterau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol mewn Bioddiogelwch ac Iechyd Planhigion, Pecynnau Cymorth y Cyngor Coed i’r Awdurdodau Lleol a hyfforddiant Cymdeithas Diwydiannau Tirlunio Prydain i dirlunwyr.

Bydd Rhwydwaith Safleoedd Sentinel Cymru hefyd yn parhau i esblygu a thyfu, gan gynnwys cynnal digwyddiadau hyfforddi a gweithgareddau cyfathrebu newydd.

4. Prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion

Mae’r llywodraeth a’i phartneriaid wedi ymrwymo i ddarparu cyllid a chefnogaeth dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer Cam 3 prosiect Observatree. Bydd buddsoddiadau’r dyfodol yn caniatáu gwelliannau mewn adroddiadau, adborth a defnyddio data. Byddwn ni hefyd yn gweithio i ymestyn cyrhaeddiad y prosiect drwy barhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rôl y prif wirfoddolwr a’u rhwydweithiau lleol yn ogystal â thrwy bartneriaethau a chydweithrediadau newydd, yn fwyaf arbennig gyda’r Cyngor Coed.

Byddwn yn buddsoddi mewn gwaith pellach i ddatblygu offeryn adrodd TreeAlert ac yn ei gefnogi, i wella’r broses o gyflwyno adroddiadau ac i ddatblygu’r gweithdrefnau fel bod modd rhoi gwybod yn rhwydd i’r sector a gweithredu ar yr adroddiadau hynny. Byddwn yn parhau i roi adborth rheolaidd ar adroddiadau TreeAlert ac yn creu cymuned o ddefnyddwyr ar gyfer adroddiadau ar iechyd coed i lywio’r camau ar lawr gwlad. Bydd Llywodraeth yr Alban yn cefnogi menter Dandelion School Growing (a gomisiynwyd gan Visit Scotland ac a ariennir gan Lywodraeth yr Alban), sef prosiect gwyddoniaeth dinasyddion i blant ysgol, yr arbrawf tyfu mwyaf dan arweiniad y gymuned sy’n cymharu technegau ffermio’r dyfodol â dulliau tyfu traddodiadol.

Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws rhwydwaith iechyd coed Gwyddoniaeth Dinasyddion i gyhoeddi llwybr dysgu er mwyn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion a chefnogi ymdrechion i ddiogelu coed y genedl.

3.3 Canlyniad 3: Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel

Yn yr adran hon rydym yn amlinellu sut mae’r llywodraeth a’r diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel a sut mae creu cadwyn cyflenwi bioddiogel yn hanfodol er mwyn diogelu iechyd ein planhigion.

Trosolwg: Y gadwyn cyflenwi planhigion

Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel yw un lle mae pawb sy’n ymwneud â masnachu neu symud planhigion yn cymryd cyfrifoldeb cyfunol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at yr offer, yr adnoddau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus ar fioddiogelwch planhigion. Mae hyn yn cynnwys pawb o fewnforwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr hadau, i dirlunwyr, manwerthwyr, defnyddwyr a’r llywodraeth. Mae cadwyn mor gryf â’r ddolen wannaf ynddi, ac mae’n hanfodol bod pob pwynt ar hyd y gadwyn gyflenwi yn cymryd y camau angenrheidiol i arfer bioddiogelwch da.

Mae’r gadwyn gyflenwi planhigion yn dechrau â deunydd planhigion, i ddosbarthwyr, tyfwyr a masnachwyr, i fanwerthwyr, archebion ar-lein, tirlunwyr a dylunwyr gerddi. Mae’n gorffen naill ai â man gwyrdd i ddefnyddwyr (fel gerddi) neu’r amgylchedd ehangach (mannau gwledig neu drefol).

Mae planhigion a deunydd planhigion yn cael eu cynhyrchu neu eu mewnforio gan ddosbarthwyr, tyfwyr, a masnachwyr. Yna mae’r planhigion yn symud i naill ai tirlunwyr, tirlunwyr domestig, neu ddylunwyr gerddi, cyflenwyr archebion ar-lein neu bost, neu fanwerthwyr a chanolfannau garddio. Oddi yno mae’r planhigion naill ai’n cael eu plannu yn yr amgylchedd ehangach (mannau gwyrdd) neu fannau gwyrdd defnyddwyr (er enghraifft, gerddi neu randiroedd).

Mae’r fasnach fyd-eang mewn planhigion a nwyddau planhigion yn bwysig er mwyn cynnal lefel y dewis y mae defnyddwyr yn ei fynnu ac i ganiatáu’r opsiwn o dyfu planhigion sy’n fwy addas ar gyfer amodau hinsawdd yn y dyfodol. Er hynny, mae’r fasnach hon yn dod â risg uwch y daw plâu a phathogenau ymledol i’r wlad. Mae mwy o blanhigion a chynhyrchion planhigion wedi’u mewnforio, gan gynnwys gwerthu ar-lein, yn creu rhagor o heriau o ran monitro a rheoleiddio er mwyn hwyluso masnach ddiogel.

Er hynny, nid mewnforion yw’r unig broblem, gan fod nifer o blâu a phathogenau niweidiol eisoes yn bresennol yn ein hamgylchedd ehangach, er enghraifft, gwyfyn ymdeithiwr y derw a Phytophthora ramorum. Mae angen inni leihau’r risg y bydd y rhain yn lledaenu ymhellach. Mae hyn yn golygu bod angen safonau da o fioddiogelwch ni waeth a yw’r planhigion yn cael eu mewnforio ynteu eu tyfu yn y Deyrnas Unedig. Gan hynny, mae’n hanfodol bod pob planhigyn yn dod o gyflenwyr ag enw da sy’n adeiladu arferion bioddiogelwch cadarn i mewn i bob cam o’u cadwyn gyflenwi.

Cryfhau bioddiogelwch ar hyd y gadwyn gyflenwi

Rydym yn gweithio gyda’r holl wahanol sectorau planhigion, gan gynnwys tyfwyr, masnachwyr, tirlunwyr, manwerthwyr, coedwigwyr a choedyddwyr, i gefnogi a hybu’r arferion gorau ar hyd pob un o’u cadwyni cyflenwi. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o risgiau bioddiogelwch a rhoi cymorth ar gyfer hyfforddiant proffesiynol ac addysg i feithrin gallu. Ategir y gwaith hwn drwy ymgysylltu’n helaeth â grwpiau rhanddeiliaid megis Fforwm Cynghori Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig, Grŵp Bwrdd Crwn Garddwriaeth Addurnol, a Chynghrair Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni hefyd yn gwneud llawer o waith ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gydnabod y rôl bwysig sydd gan y cyhoedd wrth helpu i greu galw yn y farchnad am blanhigion a gynhyrchir o dan safonau uchel o reoli iechyd planhigion.

Mae’r metrau y mae’r llywodraeth yn ymwneud â nhw yn cynnwys:

  • hybu Cynllun Ardystio Plant Healthy ar draws y sectorau planhigion i annog pobl i fanteisio ar y cynllun, gan weithio ochr yn ochr â’r Cynghrair Iechyd Planhigion

  • datblygu adnoddau hyfforddi ar-lein newydd ynghylch iechyd planhigion a bioddiogelwch, gan weithio gyda Fera Science Ltd, i gefnogi Cynllun Ardystio Plant Healthy

  • lansio peilot 12 mis o ofyniad newydd ynglŷn â chaffael bioddiogel i gyflenwyr planhigion a choed o dan gynllun grant y Comisiwn Coedwigaeth, Creu Coetir Lloegr, a chynllun grant ailstocio Iechyd Coed, ym mis Mehefin 2022

  • rhoi Uned Masnachu Rhyngrwyd APHA ar waith, sy’n monitro gwefannau a safleoedd yn y cyfryngau cymdeithasol sy’n masnachu planhigion, gan ganolbwyntio i ddechrau ar feysydd fel nwyddau sydd wedi’u gwahardd rhag dod i’r Deyrnas Unedig, a llwythi sy’n cael eu hystyried yn risg uchel penodol

  • datblygu rhaglen ymgysylltu Uned Masnachu Rhyngrwyd APHA i hysbysu pobl o ofynion bioddiogelwch y Deyrnas Unedig a delio ag ymholiadau ynglŷn â gwerthu ar-lein ac o bell gan fusnesau a’r cyhoedd

  • ymgysylltu’n rheolaidd â’r sectorau masnach a choedwigaeth, gan gynnwys darparu deunyddiau hyfforddi megis modiwlau e-ddysgu ar-lein ar basbortau planhigion, fideos a sesiynau gwybodaeth, ac arddangos a siarad mewn cynadleddau a sioeau masnach

Cynlluniau sicrwydd

Mae cynlluniau sicrwydd yn ffordd wirfoddol i aelodau’r fasnach blanhigion ddangos eu bod yn bodloni safonau penodol o gynhyrchu planhigion neu i ardystio tarddle eu stoc. Er bod llawer yn ymgorffori rhai elfennau o fioddiogelwch, mae eraill, megis Cynllun Ardystio Plant Healthy, yn canolbwyntio’n llwyr ar godi safonau bioddiogelwch a rheoli iechyd planhigion. Nod y cyfan yw annog pobl sy’n tyfu neu’n trin planhigion yn broffesiynol i ymddwyn yn gyfrifol.

Mae’r enghreifftiau o gynlluniau sicrwydd yn cynnwys:

  • Cynllun Ardystio ‘Plant Healthy’ y Cynghrair Iechyd Planhigion, sy’n ardystio bod pob busnes neu sefydliad sy’n tyfu, masnachu a thrin planhigion a deunydd planhigion yn gwneud hynny’n gyfrifol ac yn ddiogel

  • cynllun Coed Cadw, ‘Cafwyd a thyfwyd yn y DU ac Iwerddon’, ac ardystio bod coed wedi’u codi o hadau sy’n dod o ffynonellau ac wedi’u tyfu o fewn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn unig gydol eu oes

  • Safon Tyfwyr ‘Cynllun Sicrhau Garddwriaeth Addurnol’ (OHAS) Cymdeithas y Crefftau Garddwriaethol, sy’n cynnwys rhychwant eang o weithrediadau sy’n berthnasol i’r sector addurnol megis iechyd a diogelwch, cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ac arferion gorau

  • mae Cynllun Ardystio Safe Haven yn gynllun sicrwydd fferm sydd â’r nod o wneud gwaith atal ymarferol yn erbyn pydredd cylch tatws a diogelu dyfodol diwydiant tatws Prydain

Mae Cynllun Ardystio Plant Healthy wedi bod yn boblogaidd ers ei lansio ym mis Chwefror 2020, gyda dros 26 o feithrinfeydd wedi’u hardystio, a llawer mwy ar y gweill. Mae aelodau presennol y cynllun a’r ymgeiswyr yn cwmpasu ystod eang o sectorau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth addurnol, cyflenwyr ar-lein, manwerthwyr, a gerddi cyhoeddus.

Erbyn hyn, mae Safon Tyfwyr OHAS wedi’i chysoni â gofynion y Safon Rheoli Iechyd Planhigion. Mae hyn yn darparu proses symlach i dyfwyr sy’n dymuno dod yn aelodau o’r OHAS a Chynllun Ardystio Plant Healthy.

Cynyddu cynhyrchiant domestig

Er bod ganddi amodau tyfu tebyg i wledydd fel yr Iseldiroedd, sy’n galluogi cynhyrchiant domestig mewn ystod eang o blanhigion a deunyddiau plannu, mae’r Deyrnas Unedig yn dal yn fewnforiwr net o blanhigion. Yn 2019, mewnforiodd y Deyrnas Unedig werth tua £1.2 biliwn o nwyddau garddwriaethol addurnol.

Bydd cynyddu’n cynhyrchiant domestig yn gwneud cyfraniad pwysig at leihau’r risg o fewnforio plâu a phathogenau niweidiol, a hynny drwy ostwng y ddibyniaeth ar fewnforion. Bydd hefyd yn darparu manteision sylweddol i economïau lleol, diogelu’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y llywodraeth yn dal i fuddsoddi yn ein meithrinfeydd gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth dyfu’r planhigion o safon y mae arnon ni eu hangen nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.

Drwy’r Gronfa Natur ar gyfer Hinsawdd, mae Defra yn helpu’r sector cynhyrchu coed i gynyddu maint, ansawdd ac amrywiaeth ein cyflenwad domestig o hadau a choed ifanc, er mwyn osgoi dibynnu ar fewnforion a gwella bioddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys lansio Cronfa Arloesi Cynhyrchu Coed newydd sydd wedi cefnogi ystod eang o brosiectau sydd wedi’u cynllunio i oresgyn rhwystrau sy’n atal meithrin coedwigoedd, drwy gynyddu cyfraddau egino ac ymsefydlu, awtomeiddio prosesau llafur-ddwys, a datblygu atebion cynaliadwy i reoli chwyn. Mae’r Grant Sicrhau Hadau newydd yn helpu’r gwaith o gynhyrchu hadau yn y Deyrnas Unedig ac mae cyllid pellach wedi’i roi mewn grantiau cyfalaf i wella bioddiogelwch ac ehangu capasiti meithrin domestig yn gyflym.

Mae cyfleusterau meithrin a chyfleusterau meithrin hadau Forestry England hefyd yn cael eu moderneiddio a’u hehangu. Mae’r holl goed a blennir gan Forestry England mewn lleoliad coedwigaeth yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig ac mae’r sefyllfa hon wedi’i chadarnhau ers y tair blynedd diwethaf. Yn yr un modd, yn yr Alban, mae pob coeden a blannwyd gan Forestry and Land Scotland ar y stad gyhoeddus yn cael ei hau a’i thyfu yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu cyllid i helpu i gynyddu cynhyrchiant coed domestig, er enghraifft, buddsoddiad o £20 miliwn yn 2021 i helpu Forestry and Land Scotland i gynyddu maint a chapasiti’r meithrinfeydd. Mae Scottish Forestry yn darparu arian i helpu i greu coetiroedd cynaliadwy ar draws yr Alban. Drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Coed a Chynllun Adfer Diwydiant Coedwigoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi buddsoddiad mewn meithrinfeydd Cymreig i gynyddu eu capasiti.

Mae Cynllun Gweithredu Bwrdd Crwn y Grŵp Garddwriaeth Addurnol, ‘Datgloi Twf Gwyrdd’, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021 hefyd yn nodi ffyrdd i ddatgloi rhwystrau sy’n atal twf y diwydiant garddwriaeth a thirlunio yn y Deyrnas Unedig drwy ddull cydweithredol rhwng y llywodraeth a diwydiant.

Astudiaeth achos: Plant Healthy ym Meithrinfeydd Wyevale

Ymunodd meithrinfeydd Wyevale â Chynllun Ardystio Plant Healthy ym mis Ebrill 2020 i ddangos arweinyddiaeth ym maes bioddiogelwch ac iechyd planhigion yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cynllun Plant Healthy yn cael ei redeg gan y Cynghrair Iechyd Planhigion gyda’r nod o godi safonau rheoli iechyd planhigion yn y Deyrnas Unedig drwy ei gwneud hi’n hawdd adnabod busnesau neu sefydliadau sy’n masnachu a thyfu planhigion yn unol â safonau uchel ym maes iechyd planhigion a bioddiogelwch. Trwy sicrhau planhigion o feithrinfeydd Plant Healthy, mae’r risg o gyflwyno neu ledaenu plâu a phathogenau dinistriol yn cael ei lleihau, gan ddiogelu cadwyni cyflenwi.

Dyma Kyle Ross, Rheolwr Cynhyrchu Wyevale, yn siarad am ei brofiad yntau o gynllun Plant Healthy:

“Roedd gan ein meithrinfa brotocolau ar waith yn barod ond mae ardystiad Plant Healthy yn rhoi cyfle inni weiddi go iawn am y gwaith da rydyn ni’n ei wneud.

“Mae defnyddio cynllun fel hyn lle mae nid yn unig cynhyrchwyr planhigion a chnydau, ond unrhyw un sy’n gweithio mewn planhigion (fel tirlunwyr, canolfannau garddio, manwerthwyr) yn gallu ymuno yn fantais enfawr i arddwriaeth y Deyrnas Unedig, ac mae wir yn dangos ffrynt unedig yn erbyn bygythiadau plâu a chlefydau.

“Roedd y broses o sicrhau ardystiad yn drylwyr ac effeithlon, gyda chanllawiau clir ar beth mae meini prawf y cynllun yn ei olygu a sut i sicrhau eich bod yn cydymffurfio. Mae’r tîm tu ôl i Plant Healthy wedi bod yn barod iawn eu cymwynas, mae’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan yn glir ac yn hawdd i’w defnyddio, ac mae rhaglenni hyfforddi gwych ar gael.

“Mae sicrhau ardystiad yn rhoi hyder i’n cwsmeriaid bod y planhigion sy’n cael eu prynu gan ein busnes ni yn cydymffurfio â phob rheoliad ar fioddiogelwch ac iechyd planhigion, a’n bod ni wedi cymryd camau rhagweithiol i sicrhau ein busnes, gan gynnwys archwiliadau trylwyr ar blanhigion, hyfforddiant i’r staff mewn rheoli plâu a chlefydau a chyflwyno parthau cwarantin pwrpasol os bydd eu hangen.

“Rhoddodd arweinydd y cynllun, Alistair Yeomans, a minnau weminar yn ddiweddar i Gymdeithas Pobl Ifanc mewn Garddwriaeth am Plant Healthy er mwyn lledaenu’r gair am y cynllun. Cyfathrebu ymysg cyfoedion am y fenter newydd hon yw’r union fath o beth sydd ei angen ar y diwydiant garddwriaeth, gan y bydd cael cymaint o fusnesau â phosib wedi’u hardystio ar draws y Deyrnas Unedig yn arwain at gadwyn gyflenwi fwy diogel i bawb.”

Tarian werdd yw logo Plant Healthy. O fewn y darian mae siâp calon, ac o fewn y galon mae siâp planhigyn ifanc.

Ffigur 9: Logo Plant Healthy (hawlfraint Plant Healthy Ltd). Dyma logo swyddogol cynllun sicrwydd Plant Healthy

Y canolbwynt yn y dyfodol

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn parhau i gefnogi cadwyn gyflenwi bioddiogel trwy dri maes ffocws: deallusrwydd a monitro, sicrhau cadwyni cyflenwi a chynhyrchu domestig.

1. Deallusrwydd a monitro

Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i wella’r deallusrwydd ynglŷn â chadwyni cyflenwi garddwriaeth a choed, eu gwydnwch a’u tagfeydd. Byddwn yn cyhoeddi’r ystadegau swyddogol ar y fasnach iechyd planhigion ac yn archwilio arferion rhannu data newydd i wella cynlluniau cyflenwad a galw. Byddwn ni hefyd yn gwella Uned Masnachu Rhyngrwyd APHA i gynyddu’r gwaith monitro ar safleoedd masnachu ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol gan godi ymwybyddiaeth o ofynion bioddiogelwch ar y llwyfannau hyn.

2. Sicrhau cadwyni cyflenwi

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Cynghrair Iechyd Planhigion ar hybu’r cynllun ardystio Plant Healthy, sy’n anelu at godi safonau rheoli iechyd planhigion ar draws pob sector a’u cadwyni cyflenwi. Bydd y Cynghrair Iechyd Planhigion, fel perchennog Safon Rheoli Iechyd Planhigion a’r cynllun Plant Healthy perthynol, yn cyhoeddi map ffordd 5-mlynedd, gan nodi’r nodau a’r weledigaeth allweddol ar gyfer datblygu’r cynllun yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i weithredu rhaglen newydd o archwiliadau ôl-blannu ar fewnforion coed sydd â risg uwch, er mwyn helpu i ganfod plâu a chlefydau cudd.

Bydd Defra’n graddol gyflwyno gofyniad ynglŷn â chaffael bioddiogel ar draws grantiau a chontractau’r llywodraeth, fel y bydd angen i gyflenwyr planhigion a choed ddangos yr arferion gorau drwy fodloni gofynion y Safon Rheoli Iechyd Planhigion a gyhoeddwyd.

Bydd Defra yn darparu gwobrwyon a chymhellion ar gyfer arferion bioddiogelwch da drwy gynllun Rheolaeth Tir Amgylcheddol a chynlluniau eraill Future Farming. Wrth inni bontio o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE tuag at ymagwedd gwbl newydd ar gyfer y diwydiant amaethyddol a rheoli’r amgylchedd, bydd ffermwyr a rheolwyr tir yn cael eu gwobrwyo am gymryd camau i wella’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cyngor, canllawiau, a grantiau i hybu arferion bioddiogel ar gyfer creu a rheoli coedluniau, lleihau lledaeniad mewnol plâu a chlefydau (er enghraifft, ar offer halogedig).

Byddwn yn helpu’r sector i godi safonau bioddiogelwch a dangos yr arferion gorau. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • datblygu safonau caffael gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, a’r rheiny’n canolbwyntio ar fioddiogelwch, ac ymrwymiad i fod yn fioddiogelwch niwtral erbyn 2025

  • ymrwymiad y Rhwydwaith Planhigion Sentinel Rhyngwladol (sy’n cael ei redeg gan BGCI) ar gyfnewid hadau bioddiogel rhwng gerddi botaneg

  • ymrwymiad Cymdeithas Diwydiannau Tirwedd Prydain i greu diwylliant o ymwybyddiaeth o fioddiogelwch ymysg ei haelodaeth tirlunio

3. Cynhyrchiant domestig

Ym Mhapur Gwyn y Strategaeth Fwyd, cyhoeddwyd y bydd Strategaeth Garddwriaeth i Loegr yn cael ei datblygu, a honno’n edrych ar rolau amrywiol modelau tyfu bach, mawr a rhai sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector bwytadwy a’r sector addurnol, gan anelu at sbarduno garddwriaeth sy’n defnyddio technoleg uwch mewn amgylchedd dan reolaeth, er mwyn cynyddu’r cynhyrchiant domestig.

Byddwn yn gweithio gyda’r Grŵp Bwrdd Crwn Garddwriaeth Addurnol i ystyried y cyfleoedd a nodwyd yn eu cynllun gweithredu ‘Datgloi Twf Gwyrdd’ i gyflymu twf y sector.

Byddwn yn buddsoddi yn ansawdd, maint ac amrywiaeth y cyflenwad coed, hadau a choed ifanc domestig. Bydd Prosiect Capasiti’r Sector o dan y Gronfa Natur ar gyfer Hinsawdd yn darparu hyd at £14.8 miliwn tan 2025. Bydd hyn yn cynnwys parhau i ddarparu grantiau cyfalaf a grantiau arloesedd i feithrinfeydd coed. Bydd y Gronfa Arloesi Cynhyrchu Coed yn darparu hyd at £4.8 miliwn i ddatblygu a gweithredu technolegau newydd a bydd o leiaf £4.8 miliwn ar gael ar ffurf buddsoddiadau cyfalaf trwy’r Grant Cyfalaf Cynhyrchu Coed newydd. Hefyd, bydd y Grant Sicrhau Hadau yn darparu hyd at £1.2m i ehangu a gwella’n ffynonellau hadau domestig.

3.4 Canlyniad 4: gallu technegol gwell

Meithrin galluogrwydd ar sail iechyd planhigion a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg bresennol ac arloesol i ddal i fyny â bygythiadau sy’n newid a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.

Trosolwg

Ers cyhoeddi’r strategaeth bioddiogelwch planhigion ddiwethaf yn 2014, rydym wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn ymchwilio a datblygu ym maes iechyd planhigion (gan gynnwys buddsoddiadau mewn ymchwil gan UKRI a chyrff llywodraeth ledled Cymru, Lloegr a’r Alban). Ond bydd gwella’n gallu technegol a gwella’n trefn iechyd planhigion hyd yn oed ymhellach yn gofyn am fuddsoddiad parhaus. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ddatblygu cynhyrchion, prosesau, a gwybodaeth newydd er mwyn cydredeg bob amser â’r newidiadau mewn bygythiadau a gwaith lliniaru posibl, gan sicrhau ein bod yn barod at y dyfodol. Bydd gosod arloesedd wrth wraidd ein dull gweithredu a buddsoddi mewn gwybodaeth, cynhyrchion a thechnolegau o’r radd flaenaf nid yn unig yn helpu i ddiogelu iechyd planhigion ond hefyd yn sbarduno twf gwyddonol ac yn creu swyddi medrus ar gyfer ein sector.

Ymchwilio a datblygu

Mae gweithgareddau ymchwilio a datblygu yn cynyddu’n stoc wybodaeth, a gall defnyddio’r wybodaeth hon helpu i ganfod atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n caniatáu inni ddarganfod, asesu a rhannu data a gwybodaeth am fygythiadau newydd, diagnosio a monitro plâu a phathogenau sy’n fygythiad neu sy’n lledaenu, a nodi’r arferion rheoli gorau er mwyn amddiffyn gwahanol blanhigion cynhaliol.

Mae hefyd yn fodd inni ystyried sut y gall tirweddau planhigion fod yn fwy gwydn yn erbyn straen gan gynnwys newid hinsawdd a phlâu a chlefydau. Mae hyn yn cynnwys deall a defnyddio’r sail enetig ar gyfer goddefgarwch ac addasu i straen. Mae’n dull rhyngddisgyblaethol yn cynnwys gweithgareddau mewn gwyddor gymdeithasol a naturiol, ac yn rhychwantu ymchwil sylfaenol, ymchwil gymhwysol a datblygiadau arbrofol.

Mae’r anghenion allweddol mewn ymchwil yn cynnwys:

  • asesu risg a sganio’r gorwel – deall bioleg plâu a phathogenau, ffactorau risg a llwybrau, modelu hinsoddol a bregusrwydd planhigion cynhaliol

  • arolygiadau, diagnosteg a gwyliadwriaeth – modelu dosbarthiad a lledaeniad plâu a phathogenau, a datblygu ac optimeiddio dulliau o gadw gwyliadwriaeth, offer canfod ac offer diagnostig

  • rheoli plâu a chlefydau allweddol – gan gynnwys datblygu atebion sy’n seiliedig ar natur fel rheoli biolegol, a chanllawiau a phecynnau cymorth i dirfeddianwyr ac offer rheoli data

  • gwydnwch ac ymaddasu – sicrhau amrywiaeth, iechyd a chyflwr sylfaenol er mwyn darparu tirweddau gwydn a deall amrywiadau genetig a sail enetig goddefgarwch planhigion i blâu a chlefydau, i’n galluogi i wneud tirweddau’n fwy gwydn

  • ymddygiadau iechyd planhigion – deall beth sy’n ysgogi ac yn cyfyngu unigolion a grwpiau i gyflawni canlyniadau iechyd planhigion, goresgyn y bwlch rhwng gwybodaeth a gweithredu a mesur gwerthoedd cymdeithasol a diwylliannol coed a choedwigoedd

  • gwerthuso – datblygu fframweithiau gwerthuso, dangosyddion a metrigau i’n helpu i fesur llwyddiant ein polisïau ynglŷn ag iechyd planhigion

Harneisio technoleg sy’n dod i’r amlwg

Drwy gyfrwng ein dulliau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol, gallwn nodi cyfleoedd i wneud defnydd o wyddoniaeth flaengar a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg a’u cymhwyso at heriau ym maes iechyd planhigion.

Er enghraifft, mae datblygiadau diweddar mewn genomeg wedi chwyldroi gwyddor iechyd planhigion, gyda dilyniannau genom bellach wedi’u sefydlu ar gyfer llawer o blanhigion cynhaliol, plâu a phathogenau. Mae diagnosteg DNA yn datblygu’n gyflym, gyda’r gallu i ganfod ffactorau mileindra pathogen mewn samplau o ddeunydd planhigion, adnabod ynysigau unigol a deall epidemioleg brigiadau plâu a chlefydau. Gall technoleg ddilyniannu’r drydedd genhedlaeth alluogi cyfraddau canfod cyflymach byth, ac mae treialon diagnosteg cyflym ar y safle yn y man lle mae’r planhigion yn dod i mewn ar y gweill. Mae’r technolegau hyn hefyd yn ein galluogi i adnabod rhywogaethau feirol a bacterol sy’n anodd eu canfod yn weledol, yn yr amgylchedd ehangach ac mewn llwythi masnachol wrth y mannau archwilio. Er hynny, mae heriau a chyfleoedd i ymgorffori technolegau o’r fath o fewn ein cyfundrefn bioddiogelwch yn parhau. Rydym yn dal i weithio gyda phartneriaid ymchwil, fel Fera Science Ltd, i ysgogi gwelliannau mewn datblygiadau arloesol o’r fath, ac i asesu dichonoldeb eu rhoi ar waith mewn cyd-destun gweithredol arferol.

Erbyn hyn mae gennyn ni well dealltwriaeth o amrywiaeth genetig llawer o rywogaethau planhigion a sut y gallai hyn fod yn gysylltiedig â nodweddion sydd o ddiddordeb megis goddefgarwch i straen, gan gynnwys plâu a chlefydau. Er enghraifft, mae Gerddi Botanegol Brenhinol Kew yn gweithio i nodi marcwyr goddefgarwch i blâu a chlefydau coed mewn ynn a derw a allai ein helpu i ddeall sut i sicrhau bod planhigion cynhaliol yn addasu cystal ag y bo modd i’w hamgylchedd lleol a i fygythiadau biotig, ac i dargedu rhaglenni bridio a chyrchu hadau yn y dyfodol. Fel rhan o raglen ymchwil strategol gwerth £48 miliwn y flwyddyn ar gyfer yr amgylchedd, adnoddau naturiol ac amaethyddiaeth, mae Llywodraeth yr Alban yn cefnogi ymchwil enetig arloesol er mwyn galluogi’r diwydiant i dyfu tatws, grawnfwyd a ffrwythau meddal mwy gwydn.

Cydweithio ar draws Prydain Fawr

Mae consensws eang bod angen cysoni a chydlynu blaenoriaethau a rhaglenni ymchwil iechyd planhigion ar draws Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y Deyrnas Unedig a Grŵp Cydlynu Tystiolaeth Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â’r rôl hon. Mae’r olaf yn elfen graidd o Wasanaeth Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig, sy’n cydlynu gweithgareddau ymchwil i lywio’r strategaethau swyddogol ar asesiadau risg, ymateb i achosion a gwyliadwriaeth. Yn ychwanegol, mae ymchwil ar iechyd coed hefyd yn thema flaenoriaeth ar gyfer Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi Coedwigaeth Prydain Fawr ac mae’n cael ei chydlynu gan y tair gwlad o dan gytundebau datganoli.

I gyflawni’n huchelgais ar gyfer iechyd planhigion yn y dyfodol, fe fydd angen dull cwbl gydweithredol o hyd ar draws cyllidwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid a defnyddwyr, gan gynnwys cyd-ddylunio prosiectau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth drwy gydol oes y prosiectau. Bydd hyn yn sicrhau bod problemau’n cael eu deall yn llawn a bod atebion priodol yn cael eu datblygu, eu rhannu a’u gweithredu i sicrhau’r effaith fwyaf posibl.

Ar draws Prydain Fawr, cynhelir gweithgareddau ymchwil a datblygu gan ystod eang o ddarparwyr cyhoeddus, masnachol a dielw gydag arbenigedd sy’n rhychwantu’r sectorau coedwigaeth, garddwriaeth, amaethyddiaeth ac amgylchedd. Mae adrannau’r llywodraeth yn buddsoddi mewn sefydliadau ymchwil i greu tystiolaeth sy’n bwydo rhwymedigaethau statudol a pholisïau iechyd planhigion. Er enghraifft, mae Fera Science Ltd yn fenter ar y cyd rhwng y llywodraeth a Capita a sefydlwyd yn 2015 ac sy’n darparu gwasanaethau i’r llywodraeth. Yn ddiweddar mae Defra wedi ariannu adeiladu Labordy Cwarantin Holt newydd gwerth £5 miliwn yn Forest Research yn Surrey. Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu’r Ganolfan Iechyd Planhigion ac yn dal i fuddsoddi yn SASA, sydd, fel Fera Science Ltd yn Lloegr, yn darparu Labordy Cyfeirio Cenedlaethol Iechyd Planhigion ar gyfer yr Alban a chefnogaeth dechnegol ar ffurf diagnosis labordy o blâu a chlefydau, cyngor gwyddonol, hyfforddiant, a datblygu dulliau a thechnolegau newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i Athrofa newydd Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Cymru. Mae’r wyddoniaeth a wneir gan y sefydliadau hyn yn cynnwys rhaglenni hirdymor o ymchwil strategol ac ymchwil fwy cymhwysol, ymatebol i ateb anghenion y llywodraeth.

Mae’r llywodraeth hefyd yn cefnogi cydweithio ehangach mewn ymchwilio a datblygu ym maes iechyd planhigion. Er enghraifft, lansiodd Llywodraeth Cymru Rwydwaith Safleoedd Sentinel Iechyd Planhigion Cymru yn 2019, mewn cydweithrediad ag APHA a 22 o barciau a gerddi ledled Cymru. Mae Action Oak yn fenter i ddiogelu’n coed derw sy’n dod â mwy na 30 o bartneriaid gwahanol at ei gilydd gan gynnwys llywodraethau, cyrff anllywodraethol ac asiantaethau ymchwil. Mae’r bartneriaeth yn trosoli ac yn ariannu ymchwil i wella dealltwriaeth o’r bygythiadau i’n coed derw a bwydo arferion rheoli, gan weithio’n uniongyrchol hefyd gyda pherchnogion a rheolwyr i amddiffyn y rhywogaeth. Ar hyn o bryd mae’r bartneriaeth yn goruchwylio 13 o PhDs a phrosiectau ymchwil ar bynciau sy’n ymwneud ag iechyd derw.

Mae UKRI yn buddsoddi mewn arloesedd ac ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol, gan gynnwys rhaglenni ymchwil strategol at y tymor hir. Yn ddiweddar, cyd-ariannodd Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Defra a Llywodraeth yr Alban y Rhaglen Clefydau Planhigion Bacterol sy’n werth £19 miliwn. Y cam cyntaf oedd prosiect ymchwil BRIGIT a oedd yn werth £5 miliwn, ac a adeiladodd allu’r Deyrnas Unedig i ymateb i achosion o Xylella. Amlinellir rhagor o fanylion am y prosiect hwn yn yr astudiaeth achos isod. Mae’r ail gam yn cynnwys wyth prosiect ymchwil i fynd i’r afael ag amryw o fygythiadau o du pathogenau planhigion bacterol. Dechreuodd Rhaglen Coedluniau Dyfodol y Deyrnas Unedig yn 2021 ac mae’n darparu £14.5 miliwn ar gyfer prosiectau i fwydo’r broses o wneud penderfyniadau ar ehangu coedluniau presennol ac yn y dyfodol, a gwydnwch y coedluniau hyn. Fe’i cyd-ariennir gan Defra, Llywodraethau Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr AHRC a’r ESRC.

Mae’r BBSRC hefyd yn ariannu gwaith ehangach ar iechyd planhigion, gan gynnwys trwy gefnogaeth strategol y BBSRC ar gyfer Canolfan John Innes, Rothamstead Research, Sefydliad Earlham a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Yn ogystal, mae Rhaglen Strategol y Sefydliad Iechyd Planhigion, yn fenter traws-sefydliad rhwng Canolfan John Innes a Labordy Sainsbury, sy’n canolbwyntio ar ymchwil i ddeall mecanweithiau heintio planhigion gan bathogenau, gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio i sbarduno datblygiad cnydau sy’n gwrthsefyll clefydau yn well.

Yn yr un modd, mae UKRI yn cefnogi Crop Health and Protection Ltd (CHAP), un o bedair Canolfan Technoleg-Amaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Arloesedd Amaethyddol a ariennir gan Innovate UK. Mae CHAP yn dod ag ymchwilwyr, y diwydiant a’r llywodraeth at ei gilydd i gyflymu gwaith i adnabod, datblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer cnydau. Mae CHAP wedi partneru â naw canolfan ragoriaeth, gan greu cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf.

Rydym hefyd yn buddsoddi yng ngallu technegol y Deyrnas Unedig drwy fynd ati i guradu casgliadau o sbesimenau ffisegol a data. Er enghraifft, mae Gerddi Botaneg Brenhinol Kew yn gartref i’r casgliadau botanegol a mycolegol mwyaf amrywiol yn y byd. Mae’r 8.5 miliwn o eitemau a gedwir yn eu casgliadau yn cynrychioli tua 95% o genera planhigion fasgwlaidd a 60% o’r genera ffwngaidd sy’n hysbys. Mae Arolwg Pryfed Rothamsted wedi bod ar waith ledled y Deyrnas Unedig ers 1964, a Forest Research sydd â’r ystod fwyaf cynhwysfawr, dwfn a hirhoedlog o setiau data coedwigaeth yn y Deyrnas Unedig, gyda data ar goed, coedwigoedd a fforestydd yn dyddio’n ôl i’r 1920au a’r nifer fwyaf o arbrofion sy’n seiliedig ar fforestydd yn y Deyrnas Unedig, gydag ychydig o dan 2,000 o safleoedd arbrofol.

Y tu hwnt i’r llywodraeth, mae ystod eang o weithgareddau’n cael eu cefnogi gan sefydliadau masnachol ac nid-er-elw. Fel un enghraifft, mae Coed Cadw yn buddsoddi mewn ymchwil i ategu eu penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys gwaith mewnol fel eu hadroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd a Choed, a chefnogaeth i grantiau ymchwil a PhDs.

Cydweithio rhyngwladol

Mae gwyddonwyr iechyd planhigion hefyd yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd rhyngwladol er budd pawb. Mae cydweithrediadau byd-eang yn arwain at uwchsgilio byd-eang o ran gallu ac yn sicrhau bod gallu technegol ar gyfer iechyd planhigion yn cael ei rannu’n gyflym ar lawer ochr. Mae deall plâu ac ymddygiadau pathogenau mewn gwledydd eraill yn helpu gwyddonwyr ac ymarferwyr o Brydain i ddeall lle mae modd dysgu gwersi i gryfhau’n bioddiogelwch ni’n hunain a’n hymateb brys. Ar y llaw arall, mae sefydliadau ymchwil Prydain hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau i wella gallu technegol gwledydd eraill, ac felly’n cyfrannu at drefn bioddiogelwch planhigion cryfach yn fyd-eang.

Mae ein cyfranogiad mewn rhwydweithiau rhyngwladol ffurfiol yn ein galluogi i gydariannu a chydweithio â gwledydd eraill ar ymchwil iechyd planhigion, yn ogystal â monitro a rhannu data ar blâu a phathogenau penodol. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnwys:

  • Euphresco, rhwydwaith o ryw 70 o sefydliadau o 50 o wledydd i helpu i gydlynu a chydweithio mewn ymchwil ffytoiechydol

  • paneli’r EPPO a gweithgorau arbenigol yr IPPC, lle mae’n cynrychiolwyr yn sicrhau bod protocolau diagnostig rhanbarthol a rhyngwladol yn gyfredol ac yn addas i’w diben

  • y Rhwydwaith Planhigion Sentinel Rhyngwladol, dan arweiniad Botanic Gardens Conservation International – mae’r rhwydwaith hwn o erddi ac arboreta yn gweithredu fel system rhybuddio cynnar trwy rannu gwybodaeth am ddosbarthiad byd-eang plâu a chlefydau ar wahanol blanhigion cynhaliol ledled y byd

Rydyn ni hefyd yn cydweithio â’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu a thimau eraill ar Fenter Gilbert. Nod y fenter hon yw adeiladu systemau bwyd gwydn drwy fonitro a rheoli plâu planhigion a phlâu anifeiliaid sy’n dod i’r amlwg ac sy’n endemig. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddatblygu a chyflwyno technoleg a systemau newydd ar rybuddio cynnar, parodrwydd ac ymateb, a chryfhau’r capasiti i sicrhau bod y technolegau a’r systemau hyn yn gynaliadwy.

Llif sgiliau

Rhan bwysig o wella gallu yw sicrhau llif sgiliau a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr iechyd planhigion. Yn 2020, cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Iechyd Planhigion gyntaf ar gyfer Arweinwyr y Dyfodol gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. Ymgysylltodd y gynhadledd ag ystod amrywiol o gyfranogwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i ddeall y cyfleoedd a’r heriau o fewn iechyd planhigion a mecanweithiau i chwilio am newid.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r llywodraeth wedi cefnogi astudiaethau ôl-radd a chyfleoedd hyfforddi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Rhaglenni Prentisiaethau Iechyd Planhigion

  • astudiaethau PhD unigol

  • partneru gyda chynlluniau Doethuriaethau a Chymrodoriaethau sydd wedi ennill eu plwyf gan gynnwys cyfleoedd dan arweiniad UKRI a chynlluniau dan arweiniad sefydliadau eraill

  • gweithio gyda Fera Science Ltd a Phrifysgol Harper Adams i ddatblygu cwrs Meistr ôl-raddedig cyntaf y Deyrnas Unedig mewn iechyd planhigion a bioddiogelwch

Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n rhan o’r mentrau hyn bellach wedi dechrau gyrfaoedd gwyddonol llwyddiannus mewn sefydliadau iechyd planhigion ledled y Deyrnas Unedig.

Astudiaeth achos: Rhaglen Clefydau Bacterol Planhigion

Mae’r rhaglen ymchwil £19 miliwn, Clefydau Bacterol Planhigion (BPD) yn gasgliad o brosiectau sydd â’r nod o ddeall a mynd i’r afael â chlefydau mewn cnydau a choed yn y Deyrnas Unedig. Mae clefydau fel y clwy du mewn tatws, a chancr mewn ceirios, yn golygu colledion ariannol i ffermwyr, ac yn lleihau faint o fwyd sy’n cyrraedd ein byrddau. Mae clefydau fel dirywiad acíwt derw yn bygwth y coed sy’n gartref i lawer iawn o fioamrywiaeth. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu ar y cyd gan BBSRC, Defra a Llywodraeth yr Alban i fynd i’r afael â’r clefydau hyn, a chynyddu nifer yr ymchwilwyr sy’n gweithio ar glefydau bacterol planhigion.

Roedd prosiect mwyaf y rhaglen, BRIGIT, yn canolbwyntio ar y bygythiad a achosir gan Xylella fastidiosa. Mae Xylella yn effeithio ar ystod eang o blanhigion ac mae wedi difetha llwyni olewydd yn Puglia, yr Eidal.

Arweiniwyd prosiect BRIGIT gan Ganolfan John Innes ac roedd yn gonsortiwm o 12 sefydliad ar draws entomoleg, patholeg planhigion, ecoleg, epidemioleg, genomeg, bioleg foleciwlaidd a gwyddorau cymdeithas. Roedd y partneriaid yn cynnwys prifysgolion a gwyddonwyr o asiantaethau’r llywodraeth a labordai oedd yn gyfrifol am iechyd planhigion. Roedd gan wyddonwyr y prosiect gysylltiadau agos ag arbenigwyr o gyfandir Ewrop a Gogledd America a olygai bod ganddyn nhw wybodaeth dda am y datblygiadau gwyddonol presennol.

Roedd allbynnau’r prosiect yn cynnwys datblygiadau yn ein dealltwriaeth o fioleg y fectorau yng ngogledd Ewrop a gwell galluoedd diagnostig mewn labordai iechyd planhigion dros y môr. Datblygodd entomolegwyr ganllawiau ar gyfer adnabod fectorau Xylella yma ym Mhrydain Fawr, gan harneisio cymorth y cyhoedd mewn arolwg ar gyfer fectorau llyffant y gwair. Archwiliodd gwyddonwyr cymdeithasol sut roedd rhanddeiliaid fel perchnogion meithrin yn gweld y risgiau i’r fasnach mewn planhigion cynhaliol a sut roedden nhw’n rheoli’r risgiau hyn.

Roedd gan y prosiect gysylltiadau agos â gwyddonwyr iechyd planhigion, arolygwyr iechyd planhigion a swyddogion polisi oedd yn golygu bod yr allbynnau wedi’u optimeiddio i ateb heriau cyfredol mewn arferion a pholisi.

Mae ymchwilydd wrthi’n ysgrifennu enw sampl sydd wedi'i gosod mewn cynhwysydd wrth ddal ac adnabod llyffaint y gwair ym mhrosiect BRIGIT.

Ffigur 10: Dal ac adnabod llyffaint y gwair ym mhrosiect BRIGIT (hawlfraint Canolfan John Innes)

Y canolbwynt yn y dyfodol

Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr, a gwneuthurwyr polisi i nodi’r anghenion o ran tystiolaeth, ac yn ariannu ymchwil a gweithgareddau eraill i wella gallu technegol.

1. Cynnal y gallu craidd

Bydd y Grŵp Tystiolaeth a Chydlynu Iechyd Planhigion, sef is-grŵp o NPPO y Deyrnas Unedig sydd newydd ei sefydlu, yn cael ei ddefnyddio i gysoni blaenoriaethau ymchwil strategol a rhaglenni Ymchwilio a Datblygu craidd Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Gan fod cyfrifoldebau iechyd planhigion wedi’u datganoli, bydd pob cenedl yn dal i ariannu ei rhaglen strategol ei hun o ran ymchwil ac adolygu blaenoriaethau yn rheolaidd. Mae Is-adran Gwyddoniaeth a Gwasanaethau Dadansoddol Gwledig a’r Amgylchedd Llywodraeth yr Alban (RESAS) yn ariannu rhaglen ymchwil strategol dreigl dros bum mlynedd i ategu’r angen am dystiolaeth wledig ac amgylcheddol gan gynnwys buddsoddiad blynyddol o £4.6 miliwn ar iechyd planhigion a gwella cnydau, gyda’r cylch nesaf yn dechrau yn 2022.

I gefnogi gofynion sy’n newid, ar ôl ymadael â’r UE, byddwn yn ehangu’r gwasanaethau diagnostig craidd a ddarperir gan SASA a Fera Science Ltd, gan gynyddu nifer y diagnostegwyr hyfforddedig a helpu i greu cyfleusterau diagnostig newydd i ymateb i broffiliau masnach sy’n newid. Bydd dyfodol y cytundeb fframwaith gyda Fera Science Ltd. yn cael ei adolygu cyn dyddiad gorffen y fframwaith cyfredol yn 2025.

Bydd Canolfan Iechyd Planhigion yr Alban yn parhau i ddod â’r sectorau coedwigaeth, garddwriaeth, amgylchedd, ac amaethyddiaeth ynghyd i gydlynu gwybodaeth, sgiliau, anghenion a gweithgareddau iechyd planhigion ar draws yr Alban.

Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i ariannu ymchwil ar blâu a phathogenau. Mae hyn yn cynnwys datblygu Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Cymru a fydd yn fodd i blâu a sborau gael eu dal a’u dadansoddi, gan ein galluogi i gasglu tystiolaeth am blâu a phathogenau yng Nghymru ac ymateb yn rhagweithiol iddi.

Bydd darparwyr ymchwil, megis Fera Science Ltd, y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew yn parhau i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu eu strategaethau ymchwil eu hunain ar gyfer iechyd planhigion, yn gysylltiedig â blaenoriaethau’r llywodraeth a chan bwysleisio’u hymrwymiad i ymchwilio i iechyd planhigion yn y dyfodol.

Byddwn yn helpu Forest Research i ddarparu’r elfennau iechyd coed a bioddiogelwch yn y Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi pum mlynedd ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain Fawr. Bydd Defra yn parhau i ddatblygu’r Ganolfan Diogelu Coedwigoedd (CFP) newydd, dan arweiniad Forest Research a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew a fydd yn ganolfan ar gyfer ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar blâu a chlefydau coed. Rhwng 2022 a 2025 bydd Defra yn cefnogi rhaglen y CFP sy’n cynnwys 14 o brosiectau ymchwil ac addysg, hyfforddiant, cyfnewid gwybodaeth a gweithgareddau allgymorth perthynol.

Bydd UKRI yn dal i gefnogi seilwaith a rhaglenni strategol mewn sefydliadau sy’n darparu gallu hirdymor mewn ymchwil ar iechyd planhigion, er enghraifft, Canolfan John Innes (JIC), Rothamsted Research, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UK CEH) a chanolfannau Technoleg Amaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Arloesi Amaethyddol. Mae’r sefydliadau hyn i gyd yn gweithio ar y cyd â’r diwydiant a rhwydweithiau rhyngwladol.

2. Cydweithio ac arloesi i wella gallu

Byddwn yn adolygu argymhellion Gweithgor y BBSRC mewn Iechyd Planhigion 2021, gyda’r nod o gefnogi cymuned ymchwil gydgysylltiedig, fywiog ac arloesol a all ddatblygu’r wybodaeth a’r offer i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol a byd-eang ym maes iechyd planhigion.

Byddwn yn hybu cydweithio ar draws darparwyr a sectorau ymchwil, er mwyn manteisio ar y datblygiadau diweddaraf ym maes gwyddoniaeth a’i gwneud yn hawdd i dechnolegau newydd gael eu mabwysiad. Er enghraifft, gallai gwyddonwyr sy’n gweithio ar draws gwahanol heriau ymysg anifeiliaid, planhigion a phobl helpu i gymhwyso datblygiadau mewn genomeg er mwyn cyflawni amcanion iechyd planhigion.

Byddwn yn hybu modelau ariannu arloesol a chydweithredol fel partneriaeth ymchwil Action Oak y Deyrnas Unedig, sy’n ceisio trosoli arian ar gyfer cyfnewid ymchwil a gwybodaeth am y bygythiadau i iechyd coed derw.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddatblygu sgiliau, data sylfaenol, casgliadau, a chyfleusterau ymchwil ym maes iechyd planhigion y tu hwnt i’r llywodraeth. Er enghraifft, mae’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol wedi buddsoddi yn y Ganolfan Naturiol dros Wyddoniaeth a Dysgu Garddwriaethol sy’n dod â chyfleusterau ymchwil, casgliadau, mannau dysgu a gerddi ynghyd i helpu i oresgyn prinder sgiliau mewn garddwriaeth a rhannu gwybodaeth wyddonol.

Byddwn yn gweithio gyda UKRI a phartneriaid eraill i chwilio am ragor o gyfleoedd i gefnogi ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol, yn enwedig o ran datblygu gyrfaoedd cynnar.

3. Rhyngwladol

Bydd y Deyrnas Unedig yn dal yn aelod o Euphresco, rhwydwaith ymchwil ffytoiechydol o dros 50 o wledydd, a byddwn yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i’n gwyddonwyr gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol eraill sy’n berthnasol i iechyd planhigion.

Er enghraifft, bydd nifer o sefydliadau ymchwil ledled Prydain yn cymryd rhan yn Horizon Europe a hefyd yn gweithio ar Raglen One-CGIAR ar Iechyd Planhigion ac Ymateb Cyflym i Ddiogelu Bwyd a Sicrhau Diogelwch 2022 i 2024, sy’n ceisio datblygu dulliau a fframweithiau i nodi, nodweddu, rhagfynegi a rheoli risgiau i iechyd planhigion mewn 20 o wledydd ledled Affrica, Asia ac America Ladin.

Pennod 4: monitro a gwerthuso

Mae’r strategaeth pum mlynedd hon wedi’i chynllunio a’i datblygu ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd â llawer o randdeiliaid yn y sector planhigion. Byddwn yn cydweithio i ddylunio fframwaith monitro a gwerthuso cadarn i asesu cynnydd y strategaeth.

I sicrhau bod y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion yn gredadwy, yn gadarn ac yn cael ei chyflawni’n llawn, mae’n hanfodol bod systemau newydd yn cael eu rhoi ar waith i asesu sut rydym yn symud ymlaen yn erbyn y weledigaeth, y canlyniadau a’r ymrwymiadau a nodir yn y strategaeth, ac i olrhain, mesur, a gwerthuso’r strategaeth yn llawn dros ei hoes.

Byddwn yn datblygu fframwaith gwerthuso ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd ar ôl tair blynedd, ac yna gwerthusiad terfynol ymhen pum mlynedd.

Atodiad A: Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion (2023 i 2028)

Canlyniad 1: trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf

Sganio risgiau a gorwelion

1.1 Datblygu Cofrestr Risgiau Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig ymhellach er mwyn gwella’n dealltwriaeth o risgiau cymhleth a chronnol.

1.2 Gweithio i sicrhau bod risgiau o bob tarddiad yn cael sylw drwy gamau wedi’u targedu, megis cryfhau’r canllawiau ar roi gwybod am blâu a phathogenau planhigion hysbysadwy, gan gynnwys hybu mwy ar system TreeAlert.

1.3 Gweithio gyda Botanic Gardens Conservation International i ychwanegu at y Rhwydwaith Rhyngwladol Planhigion Sentinel, gan ystyried cyfleoedd i gynnwys gwledydd yn Asia, monitro mwy o rywogaethau’r Deyrnas Unedig mewn gerddi yn Ewrop a gwella rhwydweithiau thematig a thacsonomig.

Y drefn reoleiddio

1.4 Gorffen cyflwyno trefn fewnforio ddiwygiedig yn raddol, gan gynnwys e-ardystiad ‘Digidol yn ddiofyn’ i wella gwaith olrhain, ansawdd, a diogelwch data.

1.5 Hybu gwell cydymffurfiaeth gan ddefnyddio sancsiynau sifil newydd.

1.6 Datblygu a chyflwyno rhaglen o archwiliadau ffytoiechydol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Trydydd Gwledydd.

1.7 Cyflwyno polisi newydd ar fewnforion personol.

1.8 Archwilio’r cyfleoedd sy’n codi o egwyddorion Ennill Cydnabyddiaeth a Masnachwr Dibynadwy.

1.9 Ystyried mesurau bioddiogelwch newydd ar goed risg uchel.

Parodrwydd ar gyfer brigiadau

1.10 Parhau i adolygu’r cynlluniau wrth gefn presennol a datblygu cynlluniau wrth gefn pellach ynglŷn â phlâu penodol. Datblygu Cynllun wrth Gefn Iechyd Planhigion generig i Gymru.

1.11 Datblygu rhaglen hyfforddi ac ymarfer ledled y Deyrnas Unedig i’r rhai sy’n ymateb i frigiadau iechyd planhigion.

1.12 Cynnwys brigiadau iechyd planhigion ar yr Asesiad Risg Diogelwch Cenedlaethol a’r Gofrestr Risgiau Cenedlaethol er mwyn codi ymwybyddiaeth o fygythiadau a’u heffeithiau.

1.13 Datblygu cynllun cyfathrebu brigiadau generig i sicrhau bod y diwydiant, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn cael gwybodaeth ddigonol am frigiadau.

1.14 Datblygu nifer o Systemau TG Iechyd Planhigion i ategu’r angen i god yn barod ar gyfer brigiadau, ymateb ar fryd a rhannu gwybodaeth.

Uchelgais rhyngwladol

1.15 Datblygu Cynllun Gweithredu Rhyngwladol Iechyd Planhigion i’r Deyrnas Unedig rhwng 2022 a 2025.

1.16 Adeiladu gallu tramor drwy ddarparu cymorth technegol, hyfforddiant, cyfleoedd cyfnewid a rhaglenni adeiladu capasiti i wledydd eraill.

1.17 Gweithredu Fframwaith Strategol y Confensiwn Diogelu Planhigion Rhyngwladol 2020 i 2030, i hybu masnach ddiogel a helpu i atal plâu a chlefydau rhag lledaenu.

1.18 Ychwanegu iechyd planhigion at y Rhagolwg Peryglon Rhyngwladol, sef offeryn traws-lywodraethol a ddefnyddir i olrhain sefyllfa peryglon naturiol dramor sydd wrthi’n esblygu.

1.19 Helpu i ddatblygu safonau a chanllawiau rhyngwladol drwy gymryd rhan ar baneli’r EPPO, yr IPPC a grwpiau rhyngwladol eraill.

Canlyniad 2: cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach

Codi ymwybyddiaeth

2.1 Gweithio gyda llofnodwyr y Cytundeb Ymgysylltu Cyhoeddus newydd mewn Iechyd Planhigion i godi ymwybyddiaeth o iechyd planhigion ar draws Prydain Fawr.

2.2. Ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr yn y prosiect ‘Sgwrs Genedlaethol am Iechyd Planhigion’ am ymddygiad ym maes bioddiogelwch planhigion.

2.3 Parhau i gynnal Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion flynyddol, gan gynnwys diwrnod newydd ar thema gwyddoniaeth dinasyddion.

Addysg

2.4 Gweithio gyda’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol a’r Ganolfan Dysgu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) Genedlaethol i ymgorffori bioddiogelwch yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, datblygu ymwybyddiaeth ymysg athrawon a datblygu rhwydwaith o lysgenhadon STEM ym maes iechyd planhigion.

2.5 Darparu adnoddau ar thema bioddiogelwch ar-lein i ysgolion cynradd, a’r rheiny’n gallu cael eu cynnwys mewn cynlluniau gwersi, er enghraifft, ‘Anni yr Archwilydd’.

2.6 Cyflwyno gradd Meistr Gwyddoniaeth newydd (MSc) mewn Diogelu Coedwigoedd fel rhan o’r Ganolfan Amddiffyn Coedwigoedd newydd.

2.7 Archwilio cyfleoedd pellach i hybu iechyd a bioddiogelwch planhigion ar lefel addysg uwch.

Hyfforddiant

2.8 Ehangu cofrestr Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Planhigion y Gymdeithas Fioleg Frenhinol er mwyn hybu mwy o gyfranogiad ar draws sectorau.

2.9 Datblygu modiwl e-ddysgu iechyd planhigion deniadol ar gyfer garddwyr amatur.

2.10 Helpu sefydliadau eraill i ddatblygu modiwlau ac adnoddau hyfforddi pwrpasol mewn bioddiogelwch, er enghraifft, modiwlau bioddiogelwch y Sefydliad Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, llwyfan dysgu ar-lein Endeavour Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, cymwysterau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol mewn Bioddiogelwch ac Iechyd Planhigion, Pecynnau Cymorth y Cyngor Coed i’r Awdurdodau Lleol a hyfforddiant Cymdeithas Diwydiannau Tirwedd Prydain (BALI) ar gyfer tirlunwyr.

2.11 Parhau i ddatblygu Rhwydwaith Safleoedd Sentinel Cymru gan gynnwys digwyddiadau hyfforddi a gweithgareddau cyfathrebu.

Gwyddoniaeth dinasyddion

2.12 Buddsoddi yn offeryn adrodd TreeAlert a helpu i’w ddatblygu ymhellach.

2.13 Darparu mwy o gyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion, gan gynnwys ehangu rhwydweithiau presennol fel Observatree, codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwirfoddol, a chefnogi mentrau mewn ysgolion a grwpiau cymunedol, er enghraifft, menter Dandelion School Growing yr Alban.

2.14 Gweithio gyda phartneriaid ar draws Rhwydwaith Gwyddoniaeth Dinasyddion Iechyd Coed i gyhoeddi llwybr dysgu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ym maes gwyddoniaeth dinasyddion.

Canlyniad 3: cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel

Deallusrwydd a monitro

3.1 Gweithio gyda’r diwydiant i wella deallusrwydd ar gadwyni cyflenwi mewn garddwriaeth a choed, eu gwydnwch a’r tagfeydd ynddynt.

3.2 Cyhoeddi ystadegau swyddogol ar y fasnach iechyd planhigion ac archwilio arferion rhannu data newydd i wella cynlluniau cyflenwad a galw.

3.3 Gwella Uned Masnachu Rhyngrwyd APHA i gynyddu’r gwaith monitro ar safleoedd masnachu ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth o ofynion bioddiogelwch ar y llwyfannau hyn.

Cadwyni cyflenwi

3.4 Gweithio gyda Chynghrair Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig i ddatblygu map ffordd newydd pum mlynedd ar gyfer cynllun ardystio Plant Healthy.

3.5 Parhau i weithredu rhaglen newydd o archwiliadau ôl-blannu ar gyfer mewnforion coed sydd â risg uwch er mwyn helpu i ganfod plâu a chlefydau cudd.

3.6 Bydd Defra yn cyflwyno gofyniad caffael bioddiogel yn raddol ar draws grantiau a chontractau’r llywodraeth, sy’n golygu y bydd angen i gyflenwyr planhigion a choed ddangos yr arferion gorau drwy fodloni gofynion y Safon Rheoli Iechyd Planhigion a gyhoeddwyd.

3.7 Cymell arferion bioddiogel wrth blannu a rheoli coed a choetir drwy’r cynllun Rheolaeth Tir Amgylcheddol a chynlluniau eraill Ffermio yn y Dyfodol, gan leihau lledaeniad mewnol plâu a chlefydau drwy gyngor, canllawiau a chymorth grant i reolwyr tir.

3.8 Helpu’r sector i godi safonau bioddiogelwch ac arddangos yr arferion gorau, er enghraifft, gwaith y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol i ddatblygu safonau caffael sy’n canolbwyntio ar fioddiogelwch ac ymrwymiad i fod yn fioddiogelwch niwtral erbyn 2025, ymrwymiad Rhwydwaith Rhyngwladol Planhigion Sentinel y BGCI ar gyfnewid hadau bioddiogel rhwng gerddi botaneg, ac ymrwymiad Cymdeithas Diwydiannau Tirwedd Prydain i greu diwylliant o ymwybyddiaeth o fioddiogelwch ymhlith eu haelodaeth tirlunio.

Cynhyrchiant domestig

3.9 Datblygu Strategaeth Garddwriaeth i Loegr, yn edrych ar rolau amrywiol modelau tyfu bach, mawr a rhai sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector bwytadwy a’r sector addurnol, er mwyn adnabod a chefnogi’r potensial ar gyfer twf yn ein sectorau domestig.

3.10 Gweithio gyda Grŵp Bwrdd Crwn Garddwriaeth Addurnol i archwilio’r camau a nodwyd yng nghynllun gweithredu’r diwydiant “Datgloi Twf Gwyrdd” y gall y llywodraeth a’r diwydiant eu cymryd.

3.11 Buddsoddi yn ansawdd, maint ac amrywiaeth y cyflenwad domestig o hadau a choed ifanc, gan gynnwys parhau i ddarparu grantiau cyfalaf a grantiau arloesi i feithrinfeydd coed. Mae hyn yn cynnwys prosiect gallu’r sector, Cronfa Natur ar gyfer Hinsawdd a’r Grant Cyfalaf Cynhyrchu Coed newydd.

Canlyniad 4: gallu technegol gwell

Y gallu craidd

4.1 Cryfhau a gwella’r rhaglenni ymchwil a gwyliadwriaeth craidd ar gyfer iechyd planhigion, gan gynnwys buddsoddi’n barhaus yn y gallu critigol sydd i’w gael, er enghraifft, o fewn SASA, y Comisiwn Coedwigaeth, Fera Science Ltd a Forest Research.

4.2 Bydd Defra yn cyhoeddi dogfen flaenoriaethau newydd ar ymchwil mewn iechyd planhigion yn 2023.

4.3 Cynnal Canolfan Iechyd Planhigion yr Alban, sy’n dod ag arbenigedd gwyddonol ynghyd ar draws amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth a’r amgylchedd naturiol.

4.4 Cynllunio a darparu rhwydwaith gwyliadwriaeth iechyd planhigion newydd i Gymru.

4.5 Helpu i ddarparu strategaethau gwyddoniaeth perthynol y llywodraeth, yn enwedig yr elfennau Iechyd Coed a Bioddiogelwch yn y Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain Fawr.

4.6 Darparu’r Ganolfan Diogelu Coedwigoedd newydd, gwerth £4.5 miliwn, dan arweiniad Forestry Research a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, a fydd yn ganolfan ar gyfer ymchwil ar blâu a chlefydau coed, gan gynnwys 14 o brosiectau ymchwil a rhaglen addysgu, hyfforddi a chyfnewid gwybodaeth.

4.7 Bydd UKRI yn dal i gefnogi seilwaith a rhaglenni strategol mewn sefydliadau sy’n darparu gallu hirdymor mewn ymchwil ar iechyd planhigion, er enghraifft, Canolfan John Innes, Rothamsted Research, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a chanolfannau Technoleg Amaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Arloesi Amaethyddol.

Cydweithio ac arloesi i wella gallu

4.8 Adolygu rôl Partneriaeth Gwyddor Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y Deyrnas Unedig ac argymhellion gweithgor y BBSRC yn Iechyd Planhigion 2021, gyda’r nod o gefnogi cymuned ymchwil gyfunol, fywiog ac arloesol yn y Deyrnas Unedig a all ddatblygu’r wybodaeth a’r offer i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol a byd-eang ym maes iechyd planhigion.

4.9 Hybu cydweithio ar draws darparwyr a sectorau ymchwil i fanteisio ar y datblygiadau diweddaraf yn yr ymateb i wyddoniaeth a thechnoleg.

4.10 Hybu modelau ymchwil arloesol a chydweithredol fel partneriaeth Action Oak y Deyrnas Unedig, sy’n ceisio trosoli arian ar gyfer cyfnewid ymchwil a gwybodaeth ar iechyd coed derw.

4.11 Gweithio gyda chyllidwyr a darparwyr ymchwil eraill, megis UKRI a’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer interniaethau, PhDs a Chymrodoriaethau ym maes iechyd planhigion.

4.12 Gweithio gyda UKRI i ystyried cyfleoedd pellach i fuddsoddi ar y cyd mewn gwyddoniaeth planhigion sylfaenol a chymhwysol, datblygu technolegau, yn ogystal â deall llwybrau masnach ac ymddygiad defnyddwyr.

Rhyngwladol

4.13 Parhau i gefnogi cyfranogiad gweithredol Prydain Fawr yn rhwydwaith ymchwil Euphresco, gan ganiatáu mynediad at rwydwaith o ymchwilwyr iechyd planhigion ar draws mwy na 50 o wledydd.

4.14 Nodi cyfleoedd i ymchwilwyr o Brydain gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil rhyngwladol sy’n berthnasol i iechyd planhigion a bioddiogelwch.

Atodiad B: Gwerthoedd economaidd planhigion

Crynodeb

Mae’n hasesiad ni o werth blynyddol planhigion yn defnyddio cyfuniad o werthoedd y farchnad a gwerthoedd eraill i fynegi gwerth gwahanol wasanaethau ecosystemau planhigion a choed mewn termau ariannol. Mae hyn yn cynnwys gwerthoedd marchnad ar gyfer coedwigaeth a charbon (gwerthoedd pren a gwerthoedd carbon BEIS) a nifer o dechnegau gwahanol i foneteiddio gwasanaethau ecosystemau megis hamdden a thirwedd lle nad oes gwerth marchnad yn bodoli. Mae’n hasesiad ni hefyd yn cynnwys am y tro cyntaf werth coed sydd ddim yn goetir. Gellir mynegi elfennau eraill o werth mewn ffordd ansoddol yn unig gan gynnwys iechyd corfforol, symbolaeth ddiwylliannol a buddion addysgol a chadwraeth coetir.

Amcangyfrifir bod gwerth blynyddol y planhigion yn gyfanswm o £15.7 biliwn y flwyddyn. Mae’r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu’r amcangyfrifon o’r llif blynyddol o fuddion rydym yn eu cael o stociau cyfredol ein planhigion a’n coedluniau ac mae’n bur wahanol i asesu gwerth y seilwaith a ddarperir gan yr holl stoc goed fel asedau, a fyddai’n gofyn am asesiad ecolegol cymhleth.

Gan hynny, dylid trin yr holl amcangyfrifon hyn o werth fel syniad rhannol yn unig o faint y gwerth pwysig y mae’n coedwigoedd a’r coed yn ei roi, yn hytrach na’r union werthoedd.

Gallwn roi syniad hefyd o’r gwerth fel asedau, drwy amcangyfrif beth fyddai’r gwerth blynyddol hwn dros gyfnod o 100 mlynedd. Amcangyfrifir hyn trwy gymryd llif y buddion blynyddol dros 100 mlynedd, a’i addasu wedyn gyda nifer o ragdybiaethau (i adlewyrchu twf poblogaeth ac incwm) i amcanestyn y gwerthoedd hyn yn y dyfodol ac yna eu disgowntio’n ôl i delerau heddiw. Mae amcangyfrif cychwynnol yn dangos bod gwerth yr asedau oddeutu £350 biliwn. (Nid yw pob elfen o’r gwerth blynyddol wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad gwerth asedau. Dim ond y gwerthoedd perthnasol sy’n gysylltiedig â choed, coetiroedd a thir heblaw coetiroedd sydd wedi’u cynnwys.)

amcangyfrif bod planhigion yn werth cyfanswm o £15.7 biliwn

Mae gwerth blynyddol planhigion yn cynnwys y canlynol:

Coedwigaeth fasnachol

Mae’r diwydiant coedwigaeth masnachol yn cyfrannu £0.7 biliwn o Werth Ychwanegol Gros (GVA) y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

(Ffynhonnell: Forestry Statistics 2021, Pennod 8 Finance & Prices, Tabl 8.2)

Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddiwydiannau eilaidd, megis melinau llifio neu gynhyrchu papur. Er y bydd y diwydiannau eilaidd hyn o leiaf yn defnyddio pren a dyfir yn rhannol yn y Deyrnas Unedig, mae’n gyfnewidiol i ryw raddau â mewnforion. Gan hynny, rydym yn cyfrif GVA coedwigaeth fel gwerth uniongyrchol o blanhigion y Deyrnas Unedig yn unig, gan fod rhaid i’r gwaith prosesu wrth gwympo coed yn y Deyrnas Unedig ddibynnu ar goed o’r Deyrnas Unedig.

Hidlo aer

Mae hidlo gronynnau peryglus o’r aer gan goedwigoedd a choed eraill yn darparu £1 biliwn y flwyddyn o ran osgoi costau gofal iechyd a blynyddoedd o fywyd a enillir drwy osgoi clefydau.

Amcangyfrifir gwerth hidlo aer mewn coetiroedd drwy gyfrifo’r costau gofal iechyd a osgoir ar ffurf llai o ymweliadau â’r ysbyty ac osgoi colli blynyddoedd o fywyd (sy’n cael ei luosi â chyfraniad economaidd cyfartalog). Gweler Natural Capital Accounts yr SYG (2021) ar gyfer cyfanswm hidlo aer, a Woodland Natural Capital Accounts ar gyfer hidlo aer mewn coetiroedd, sy’n wahanol oherwydd gwerth yr hidlo gan lystyfiant heblaw coetir.

Mae hidlo gronynnau peryglus o’r aer gan lystyfiant ar dir fferm, glaswelltiroedd, rhosydd a gwlyptiroedd yn darparu £0.4 biliwn y flwyddyn o ran osgoi costau gofal iechyd a blynyddoedd o fywyd a enillir drwy osgoi clefydau. Darperir yr amcangyfrif hwn gan Natural Capital Accounts yr SYG. Darllenwch sut mae hyn yn cael ei fesur yn yr UK natural capital accounts methodology guide (SYG).

Atafaelu carbon

Amcangyfrifir bod gwerth blynyddol y gwasanaeth o atafaelu carbon gan goedwigoedd a choetiroedd oddeutu £4.0 biliwn.

Cofnodir faint o garbon sy’n cael ei atafaelu fesul math o dir gan yr UKNAEI, sydd wedyn yn cael ei luosi â’r pris carbon di-farchnad ganolog a osodir gan BEIS. (Ffynhonnell: UK Greenhouse Gas Inventory 2021, tudalen 125, ffigur 2.21)

Amcangyfrifir bod gwerth blynyddol y gwasanaeth o atafaelu carbon drwy lystyfiant mewn glaswelltir oddeutu £0.2 biliwn. Mae’r UK Greenhouse Gas Inventory 2021 hefyd yn amcangyfrif gwerthoedd atafaelu carbon ar gyfer cnydau a glaswelltir. Sylwch fod tir cnydau yn allyrrydd carbon net, yn bennaf oherwydd allyriadau o’r bridd yn sgil defnydd tir, gyda llystyfiant ar dir cnydau yn dal i atafaelu CO2.

Coed trefol

Mae llystyfiant yn gweithredu fel clustog yn erbyn llygredd sŵn, ac mae coed yn gwneud gwaith oeri mewn ardaloedd trefol yn ogystal ag atal llifogydd. Amcangyfrifir bod y gwasanaethau hyn yn werth £0.5 biliwn bob blwyddyn.

Mae manteision lleihau llygredd sŵn ffordd yn cael eu moneteiddio yn ôl nifer y blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALYs) sy’n gysylltiedig ag afiechyd oherwydd sŵn. Mewn adroddiad Eftec yn 2018 (Tabl A3) amcangyfrifir bod hyn yn werth £15 miliwn.

Mae’r gwaith oeri a wneir gan goed trefol yn cael ei foneteiddio yn ôl costau aerdymheru a osgoir a mwy o gynhyrchiant. Gwerth y swm hwn yw £ 249 miliwn (wedi’i addasu o £229 miliwn i brisiau 2021). (Ffynhonnell: Woodland natural capital accounts, UK – y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Modelodd Forest Research faint o ddŵr llifogydd sy’n cael ei gipio gan goetir, sy’n cael ei foneteiddio drwy gymharu hyn â senario amgen lle byddai angen adeiladu cronfeydd dŵr i ddal y dŵr hwn. Amcangyfrifir bod hyn yn £237 miliwn (wedi’i addasu o £218 miliwn i brisiau 2021). (Ffynhonnell: Tabl 9, Woodland Natural Capital Accounts)

Planhigion

Y manteision cymdeithasol ac amgylcheddol blynyddol sy’n deillio o blanhigion yw gwerth hamdden (£2.0 biliwn), tirweddau (£0.2 biliwn) a bioamrywiaeth (£0.9 biliwn).

Ffynhonnell hamdden: Mae’r gwerth am hamdden wedi’i gymryd o adroddiad ORVal 2021. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r model Prisio Hamdden Awyr Agored (ORVal) (sy’n defnyddio data MENE) i edrych ar nifer yr ymweliadau a’r gwerthoedd mewn coetiroedd ar draws Cymru a Lloegr. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar werth safleoedd cyfan a’r ymweliadau ychwanegol ymylol i amcangyfrif y gwerth hamdden a gâi ei golli pe bai pob coetir yn cau mewn un tro neu pe bai pob coetir yn cau fesul un.

Ffynhonnell tirwedd: Mae’r Social and Environmental Benefits of Forests in Great Britain (2003) yn rhoi manylion arbrawf dewisiadau gyda phrisiau i gymharu golygfeydd coetir, gydag amcangyfrif o barodrwydd-i-dalu (WTP) yn cael ei gymhwyso at weddill y boblogaeth (tudalen 4).

Ffynhonnell bioamrywiaeth: Mae’r Social and Environmental Benefits of Forests in Great Britain (2003) yn creu amcan o’r dewisiadau ar gyfer gwahanol fathau o goetir, ond amcangyfrif rhannol yn unig yw’r dewisiadau hyn o wir werth bioamrywiaeth, gan fod planhigion amrywiol a gwydn yn gweithredu fel yswiriant rhag lledaeniad clefydau, yn ogystal a gwerth cynnal ecosystemau cyfan, ond nid yw llawer o ymatebwyr yn ystyried hyn. Mae’r gwerth yn cael ei ddiwygio i fyny wedyn yn y Strategaeth Gwydnwch Coed (Atodiad a, Ffigur 1).

Cnydau amaethyddol

Mae cnydau amaethyddol yn cyfrannu £4.1 biliwn i GVA y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Nid yw’r amcangyfrif hwn yn cynnwys diwydiannau cynhyrchu bwyd a diod eilaidd.

Rydyn ni wedi amcangyfrif GVA Amaethyddol cnydau drwy ddefnyddio’r cyhoeddiad Agriculture in the UK (2020) sy’n cynnwys garddwriaeth a blodau yn ogystal â phob cnwd masnachol arall.

Rhandai

Amcangyfrifir bod gwerth net yr allbwn o randiroedd yn £0.03 biliwn y flwyddyn.

Gwerth cyfanswm yr allbwn o randiroedd yw’r gwerth hwn, llai unrhyw gostau (amser ac adnoddau). Sylwch y gallai gwerth rhandiroedd fod yn uwch mewn gwirionedd, gan fod amser a dreulir ar randiroedd yn debygol o ddarparu manteision hamdden ac felly nid yw o reidrwydd yn gost yn yr ystyr draddodiadol. O Urban Capital Accounts yr SYG (2019).

Coedwigoedd a choetiroedd

Amcangyfrifir bod y manteision blynyddol ar gyfer iechyd meddwl sy’n gysylltiedig ag ymweliadau â choetiroedd y Deyrnas Unedig yn werth £0.2 biliwn.

Mae adroddiad y Comisiwn Coedwigaeth (2020) yn amcangyfrif y manteision blynyddol ar gyfer iechyd meddwl sy’n gysylltiedig ag ymweliadau â choetiroedd y Deyrnas Unedig ar sail tystiolaeth o’r ffaith bod llai o iselder a phryder yn sgil ymweliadau cyson â byd natur. Fel brasamcan, mae’r costau a osgoir wedi’u seilio ar y costau blynyddol cyfartalog i’r gymdeithas yn sgil byw gydag iselder neu bryder gan gynnwys costau sy’n gysylltiedig â thriniaeth a chostau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.

Amcangyfrifir mai £1.4 biliwn y flwyddyn yw gwerth blynyddol coed nad ydynt yn rhan o goetir (ffynhonnell: Valuing Non-Woodland Trees, Forest Research a Defra, 2021).

Mae’r methodolegau trosglwyddo buddion mewn Cyfrifydda Cyfalaf Naturiol Coetir (NCA) yn cynnwys cymhwyso gwerthoedd cyfartalog (gwerthoedd ‘uned’) o gyfrifon Cyfalaf Naturiol Coed yr SYG i goed nad ydynt yn rhan o goetir. Mae’r amcangyfrifon o werth coed nad ydynt yn rhan o goetir y Deyrnas Unedig yn amrywio o £1.39 biliwn y flwyddyn (dull Trosglwyddo Buddion yr NCA) i £3.83 biliwn y flwyddyn (i-Tree Canopy) yn ôl prisiau 2020.

Pob coeden

Gwerth diwylliannol, symbolaidd, ysbrydol, addysgol a datblygiad cymdeithasol profi coedwigoedd a choetiroedd gan gynnwys coed hynafol (gwerth nad oes modd ei moneteiddio), a gwerth cadwraeth coetir (gwerth ‘di-ddefnydd cymdeithasol’) cadw coed at y dyfodol.

Mae gwerth asedol coed yn amcangyfrif llif blynyddol y buddion o’r stociau presennol o goedwigoedd, coetiroedd a choed dros gyfnod o 100 mlynedd ac amcangyfrifir ei fod yn £350 biliwn.

Cyfrifir y gwerth asedol drwy gymryd llif y buddion blynyddol dros 100 mlynedd, wedi’i addasu ar gyfer nifer o ragdybiaethau (i adlewyrchu twf poblogaeth ac incwm etc) i amcanestyn y gwerthoedd hyn yn y dyfodol ac yna eu disgowntio’n ôl i delerau heddiw.

Cyfanswm yr amcangyfrif

Drwyddi draw, amcangyfrifir bod y gwerth blynyddol ar draws elfennau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ein planhigion a’n coedluniau y gellir eu moneteiddio’n benodol yn £15.7 biliwn y flwyddyn. Fel rhan o raglen waith ar y cyd gyda Defra, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu amcangyfrifon o werth blynyddol coetiroedd y Deyrnas Unedig yn ogystal ag amcangyfrifon ar gyfer agweddau eraill gan gynnwys amaethyddiaeth, llystyfiant a glaswelltir.

Mae rhai o’r amcangyfrifon uchod yn wahanol, er enghraifft rydym yn cynnwys gwerth bioamrywiaeth nad yw’n cael ei ddefnyddio ond y mae unigolion yn elwa ohono mewn coedwigoedd, lle mae’r gwerth economaidd yn adlewyrchu’r Gwerth Ychwanegol Gros). Mae rhai gwahaniaethau methodolegol pellach, er enghraifft mae gwerth hamdden yma yn uwch yn sgil defnyddio amcangyfrif uwch o ‘barodrwydd i dalu’ neu sylw ehangach ar deithiau hamdden. Mae Cyfrifon Cyfalaf Naturiol yr SYG yn rhan o raglen hirdymor o waith ar y cyd â Defra i ddatblygu cyfrifon cyfalaf naturiol blynyddol ar gyfer y Deyrnas Unedig, yn gorfforol ac yn ariannol, sef cyfrifon llif a stoc. Mae’r cyfrifon hyn yn cael eu gwella bob blwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael a gellir eu hymgorffori mewn unrhyw fersiynau o’r dadansoddiad hwn yn y dyfodol lle bo’n briodol.

Er hynny, mae’n werth nodi hefyd y gall coed leihau gwerth gwasanaethau hefyd, er enghraifft drwy ddifrod gan wreiddiau coed neu drwy rwystro golygfeydd. Gan hynny, dylid ystyried llawer o ffactorau (gan gynnwys lleoliad a’r cymysgedd rhywogaethau) yn ofalus wrth ddylunio polisïau, er mwyn lliniaru gwerth negyddol a gwneud y mwyaf o werth cadarnhaol.

Bylchau yn y dystiolaeth

Mae yna fylchau o hyd yn ein dealltwriaeth o werth llawn ein planhigion a’n coedluniau a fyddai’n cynyddu gwerth ein hamcangyfrifon. Mae’r prif feysydd rydyn ni wedi’u nodi ar gyfer rhagor o ymchwil yn cynnwys:

  • bioamrywiaeth (i wella’n dealltwriaeth a’n hamcangyfrifon o fioamrywiaeth)

  • ansawdd dŵr

  • cadwraeth planhigion a choedluniau

  • lles corfforol a buddion iechyd

  • manteision diwylliannol ac addysgol

  • tirwedd coed trefol

  • tirweddau o amgylch trefi (er enghraifft, ar lwybrau trafnidiaeth)

  • rhywogaethau allweddol o goed

  • planhigion gwyllt

  • gerddi botanegol a gerddi preifat

Yn olaf, mae yna achos cysyniadol dros briodoli o leiaf rhan o’r gwerth y mae rhai diwydiannau eilaidd yn ei gael drwy sicrhau planhigion iach yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw’r gwerth hwn wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad.

Atodiad C: Cytundeb Ymgysylltu â’r Cyhoedd mewn Iechyd Planhigion

Datganiad y cytundeb

Mae 30 o sefydliadau o bob cwr o’r wlad wedi dod at ei gilydd at ddibenion cyffredin i ddiogelu iechyd planhigion a choed ein gwlad. Rydyn ni’n credu y gall pawb chwarae rhan wrth warchod ein planhigion a’n coed rhag bygythiad plâu a chlefydau.

Rydym yn cydweithio i hybu newid ymddygiad cadarnhaol i ddiogelu iechyd ein planhigion a’n coed a’r buddion maen nhw’n eu darparu ar gyfer y gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi. Rydyn ni’n credu y dylai ystyried iechyd planhigion ac arferion bioddiogelwch da fod yn arferol i unrhyw un sy’n prynu planhigion ac yn gofalu amdanyn nhw, wrth deithio neu dreulio amser ym myd natur, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Pam mae angen inni weithredu

Mae dirfawr angen ymgysylltu â’r cyhoedd i’n helpu i fynd i’r afael â nifer o fygythiadau allweddol i iechyd planhigion. Mae’r bygythiadau hyn yn codi oherwydd:

  • mae globaleiddio masnach wedi cynyddu nifer a maint daearyddol y tarddleoedd ar gyfer planhigion a deunydd planhigion, gan ganiatáu i blâu a chlefydau newydd deithio’r byd

  • mae nifer fawr o bobl yn dal i deithio gyda phlanhigion / deunydd planhigion o wledydd tramor yn ystod busnes a hamdden / twristiaeth (ddomestig a rhyngwladol) sy’n gallu dod â phlâu a chlefydau yma

  • mae hinsawdd sy’n newid yn golygu bod plâu a chlefydau ‘egsotig’ yn debycach o allu ymsefydlu

  • mae’n planhigion a’n coed presennol dan fwy o straen oherwydd tywydd mwy eithafol fel sychder, sy’n eu gwneud yn fwy agored i blâu a chlefydau

  • mae lefel isel o ddealltwriaeth o fioddiogelwch a sut mae ymddygiadau bioddiogelwch yn ymwneud ag iechyd planhigion

  • mae ymchwil wedi datgelu lefelau isel o ddealltwriaeth o beth i’w wneud / beth i beidio â’i wneud i gynnal iechyd planhigion

Cydymrwymiad i weithredu

Mae llofnodwyr a phartneriaid y cytundeb hwn yn credu y dylai pawb ymgysylltu ag iechyd a bioddiogelwch planhigion a gwneud cyfraniad at ddiogelu iechyd ein planhigion a’n coed. Gorau po fwyaf o bobl sy’n gweithredu i amddiffyn yn erbyn y bygythiadau i iechyd planhigion. Mae angen i bob un ohonom ddeall ein cyfrifoldebau a chymryd camau cadarnhaol. Drwy’r Cytundeb, byddwn yn cydweithio i ddatblygu newid diwylliannol hirhoedlog o gyfrifoldeb cyffredin dros iechyd da planhigion ledled y wlad. Byddwn yn cydweithio i wneud y canlynol:

  • helpu pawb i ddod yn ddinesydd iechyd planhigion cyfrifol sy’n deall risg plâu a chlefydau planhigion a’r angen i amddiffyn iechyd ein planhigion a’n coed

  • helpu pobl i ddeall tarddiad y planhigion, y coed a’r hadau ac arferion iechyd planhigion a manylion adnabod gwerthwyr / cyflenwyr

  • lleihau’r risg y bydd teithio rhyngwladol yn dod â phlanhigion, coed, ffrwythau a hadau o wledydd tramor adref

  • cyfathrebu sut y gall gweithredoedd pawb hwyluso symudiadau plâu a chlefydau

  • sicrhau bod pawb yn gwybod sut i roi gwybod pan welan nhw blâu a chlefydau sy’n bygwth iechyd ein planhigion a’n coed

Gweledigaeth hirdymor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad

Ein gweledigaeth hirdymor gyffredin yw y bydd pawb yn gwerthfawrogi gwerth planhigion a choed iach, yn deall bygythiadau i iechyd planhigion, ac yn ymddwyn yn gyfrifol am fod ganddyn nhw’r wybodaeth i wneud y dewisiadau cywir.

Yr hyn a wnawn ni

Fe fyddwn ni:

  • yn parhau i rannu gwybodaeth, arferion da a chyfrannu syniadau ac adnoddau ynglŷn ag iechyd planhigion

  • yn cyfleu canfyddiadau ymchwil yn effeithiol gan sicrhau bod ymyriadau iechyd planhigion yn y dyfodol yn cael eu harwain gan dystiolaeth er mwyn hybu newid ymddygiad

  • yn cydweithio i ddatblygu partneriaethau newydd ac arloesol a fydd o fudd i iechyd ein planhigion a’n coed

Yr egwyddorion arweiniol

Mae llofnodwyr a phartneriaid y Cytundeb hwn yn cydnabod gwerth enfawr planhigion a choed iach i’r gymdeithas, iechyd pobl a’r amgylchedd, bod y gwerthoedd hyn dan fygythiad, a bod angen gweithredu i’w diogelu.

Rydym yn cydnabod mor bwysig yw dull cynhwysol a pharchus o ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd. Dim ond os byddwn ni’n gweithio gyda’r cynulleidfaoedd, ac yn gwrando arnyn nhw, y daw newid ymddygiad ystyrlon. Rydym yn ceisio ymgysylltu ac ymateb i’w hanghenion.

Rydym yn deall yr angen i addasu’n hymgysylltiad er mwyn adlewyrchu amrywiaeth y cyd-destunau a’r sefyllfaoedd cymdeithasol, diwylliannol a daearyddol sy’n bwydo credoau, agweddau, dewisiadau a gweithredoedd pobl.

Er bod gennyn ni weledigaeth ar y cyd, rydym yn cydnabod nad oes un ateb sy’n addas i bawb. Rhaid i’r llofnodwyr a’r partneriaid gael y rhyddid i deilwra dyluniad a chyflwyniad yr ymyriadau i ateb gofynion cynulleidfaoedd gwahanol.

Rydym yn cydnabod gwerth sylfaenol tystiolaeth wyddonol fel sail i ymyriad llwyddiannus. Gan fod adnoddau’n brin, rydym yn ymrwymo i rannu’r mewnwelediadau o waith ymchwil a gwerthuso, er budd pob llofnodwr a phartner.

Llofnodwyd gan:

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

  • Comisiwn Coedwigaeth

  • Forest Research

  • Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol

  • Cymdeithas y Fasnach Arddwriaethol

  • Llywodraeth yr Alban

  • Llywodraeth Cymru

  • Cymdeithas Goedwigaeth Frenhinol

  • Cymdeithas Patholeg Planhigion Prydain

  • Fera Science Ltd

  • Gerddi Botaneg Brenhinol Kew

  • Rhaglen Clefydau Bacterol Planhigion

  • Grown in Britain

  • Action Oak

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

  • Cymdeithas y Coedyddwyr

  • Cymdeithas Linnaeus

  • Observatree

  • Cymdeithas Diwydiannau Tirwedd Prydain

  • Cymdeithas Pobl Ifanc mewn Garddwriaeth

  • Y Cyngor Coed

  • Cynghrair Iechyd Planhigion (Plant Healthy)

  • Confor

  • Historic Houses

  • Scottish Forestry

  • Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr

  • Canolfan Iechyd Planhigion yr Alban

  • Coed Cadw

I ategu’r Cytundeb Ymgysylltu â’r Cyhoedd mewn Iechyd Planhigion, rydym yn cyflwyno cyfres o Ddatganiadau Gweithredu gan y sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Cytundeb sy’n amlinellu eu safiad a’u gweithgareddau penodol (yn y gorffennol ac yn yr arfaeth) a’u canlyniadau arfaethedig.

Mae datganiadau gweithredu’n dangos ymrwymiad pob sefydliad i’r angen i feithrin cysylltiad â’r cyhoedd, i godi ymwybyddiaeth a hybu newid ymddygiad cadarnhaol er mwyn diogelu iechyd ein planhigion.

Datganiad Gweithredu Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr

Datganiad y sefydliad ar y materion allweddol

Mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn cydnabod gwerth arwyddocaol planhigion iach i’r gymdeithas. Mae planhigion iach yn rhoi nifer o wasanaethau hanfodol i’r gymdeithas – maen nhw’n darparu’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta i ni, yr ocsigen rydyn ni’n ei anadlu, maen nhw’n tynnu llygryddion o’n aer a’n dŵr, maen nhw’n helpu i leihau risg llifogydd, maen nhw’n ein helpu i fyw bywydau hapus ac iach, maen nhw’n cynnal amrywiaeth helaeth o fywyd anifeiliaid a phlanhigion, ac maen nhw’n hanfodol i’n heconomi. Mae planhigion iach yn hanfodol i’n gallu i ymateb i heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf dybryd ein hoes, gan gynnwys newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, diogelwch bwyd, lefelau cynyddol o straen seicolegol a ffisiolegol, a’r angen i lasu’n heconomi.

Mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd ein planhigion a’n coed rhag plâu a chlefydau niweidiol er mwyn diogelu eu gwerth. Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yw’r awdurdodau cymwys sy’n delio ag iechyd planhigion ar gyfer eu priod wledydd ond maen nhw’n dod at ei gilydd o dan ymbarél Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr i fynd i’r afael â phlâu a chlefydau gan y gwyddom i gyd nad ydynt yn parchu ffiniau.

Yn achos Cymru a Lloegr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy’n gyfrifol am ddarparu ystod o wasanaethau iechyd planhigion i atal organebau niweidiol sy’n bygwth ein planhigion rhag cael eu cyflwyno, ymsefydlu a lledaenu; mae’r Uned Garddwriaeth a Marchnata yn cyflawni rôl debyg yn yr Alban. Gall y gwasanaethau a’r swyddogaethau hyn wneud llawer i leihau a rheoli bygythiadau i iechyd planhigion, ond mae ganddynt eu cyfyngiadau, ac nid ydynt yn gynhwysfawr. Yn y pen draw, bydd dewisiadau a gweithredoedd unigolion a sefydliadau ar draws y gymdeithas yn cael mwy o ddylanwad dros ganlyniadau iechyd planhigion na gweithredoedd y llywodraeth. Mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn bendant yn gweld iechyd planhigion fel her y mae’n rhaid i’r gymdeithas ei hateb hefyd.

Gan hynny, mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn cydnabod pwysigrwydd galluogi, hybu a meithrin cefnogaeth y cyhoedd i iechyd planhigion. Ni fydd hyn yn dasg hawdd. Mae ymchwil yn dangos bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o faterion iechyd planhigion yn isel ac, yn holl-bwysig felly, bod cydnabyddiaeth pobl o’u cyfrifoldeb a’u heffaith eu hunain hefyd yn isel. Bydd galluogi, hybu a meithrin cefnogaeth y cyhoedd i iechyd planhigion yn gofyn am ymroddiad, penderfyniad ac adnoddau i godi ymwybyddiaeth a sicrhau newid ymddygiad cadarnhaol.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr wedi arwain nifer o weithgareddau ac ymgyrchoedd ymgysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o iechyd planhigion a hybu newid ymddygiad. Mae’r rhain yn cynnwys:

Ymgysylltu â’r cyhoedd: Ymgyrch gyfathrebu flynyddol i adeiladu ar Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion 2020, gan gynnwys Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig, gerddi ac arddangosiadau Sioe Flodau Chelsea yr RHS, Sioe Frenhinol Cymru, llyfr gweithgareddau plant Anni yr Archwilydd (wedi’i gyfieithu o’r fersiwn Saesneg “Izzy the Inspector”), ymgyrch Don’t Risk it!. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth a Scottish Forestry hefyd wedi datblygu ymgyrch Keep it Clean. Gwefan gweithredu Iechyd Planhigion newydd i’r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag APHA, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth drwy Rwydwaith Safleoedd Sentinel Iechyd Planhigion Cymru y mae ei aelodau’n cynnwys parciau a gerddi ledled Cymru.

Rydyn ni’n anelu at gydweithio ac mae nifer o’r gweithgareddau a ddisgrifir uchod yn cael mewnbwn a chefnogaeth sylweddol gan y rhanddeiliaid, er enghraifft y Grŵp Cyfathrebu Iechyd Planhigion sy’n arwain ar ddatblygu fframwaith Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig.

Gwyddoniaeth dinasyddion: Mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr wedi rhoi cymorth i Observatree a systemau perthynol, fel TreeAlert sydd wedi darparu system rhybuddio cynnar ynglŷn ag iechyd coed ar sail gwyddoniaeth dinasyddion. Mae’r mentrau hyn wedi ategu rhwydwaith o wirfoddolwyr hyfforddedig ac wedi annog y cyhoedd i arolygu a rhoi gwybod am faterion iechyd coed.

Ymchwil: Mae Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr wedi cyflwyno rhaglen ymchwil gynyddol i ddeall cyfleoedd a rhwystrau i newid ymddygiad cadarnhaol, yn fwyaf arbennig drwy brosiect y ‘Sgwrs Genedlaethol ar Iechyd Planhigion’.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud

Bydd Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn parhau i ariannu ymchwil ar fewnwelediadau ymddygiadol a fydd yn bwydo’r broses o ddylunio a darparu gwaith cyfathrebu ac ymyriadau eraill i hybu newid ymddygiad cadarnhaol. Yn y dyfodol, bydd yr ymchwil hon yn canolbwyntio’n gynyddol ar yr ‘ymddygiadau risg’ sydd â blaenoriaeth a byddwn yn cydweithio’n agos â phartneriaid i rannu’r mewnwelediadau o’r ymchwil hon i sicrhau dull cydgysylltiedig. Bydd Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn dal i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cael eu bwydo gan ymchwil.

Bydd Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr yn gweithio i ymestyn ‘cyrhaeddiad’ mentrau gwyddoniaeth dinasyddion ac ystyried sut y gellid gwella’r rhain i ymgysylltu â mwy o bobl a’u hannog i fonitro a rhoi gwybod am faterion iechyd planhigion.

Y canlyniadau arfaethedig yn y 5 mlynedd nesaf

Creu tîm iechyd planhigion cenedlaethol – mae pawb yn gwerthfawrogi gwerth planhigion iach, yn deall y bygythiadau i iechyd planhigion, pa gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw, a sut mae eu dewisiadau a’u gweithredoedd yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Mae bod yn ddinesydd da o ran iechyd planhigion yn dod yn ‘norm cymdeithasol’, fel nad yw gweithredoedd sy’n peri risg i iechyd planhigion yn cael eu hannog a bod camau cadarnhaol yn cael eu gwerthfawrogi a’u hannog.

Mae iechyd planhigion a bioddiogelwch yn dod yn ‘ystyriaeth atgyrch’ wrth brynu planhigion, teithio, ac ymgysylltu â byd natur.

Datganiad Gweithredu’r RHS

Datganiad y sefydliad ar y materion allweddol

Mae’n planed a’r byd naturiol yn wynebu nifer o argyfyngau, o’r argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth yn ddramatig ac ymlediad rhywogaethau sy’n bygwth ein fflora a’n ffawna, gan leihau gwasanaethau ecosystemau llesol y planhigion sy’n cael eu trin, i lygredd plastig. Trwy gydweithio â’r 30 miliwn o arddwyr ym Mhrydain gallwn gael mwy o effaith i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i dargedau cynaliadwyedd ymestynnol yn ein gwaith ni’n hunain a’r rheiny’n rhoi budd i natur ac i bobl, ac mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i fod yn fioddiogelwch niwtral erbyn 2025.

Dros y degawd diwethaf, mae dyfodiad plâu a chlefydau newydd i’r Deyrnas Unedig, yn enwedig ar goed, wedi cael effeithiau mawr ar ein gerddi a’n tirluniau. Gall newidiadau yn yr hinsawdd, yn enwedig gaeafau cynhesach, hefyd alluogi mwy o blâu a chlefydau i ennill eu plwyf yn ein gerddi. Nod yr RHS yw gwella gwyliadwriaeth a rheoli plâu a chlefydau planhigion yn ei gerddi a helpu garddwyr y Deyrnas Unedig ac eraill i fod yn iach o safbwynt eu planhigion.

Mae cynnal gerddi a phlanhigion iach yn sicrhau bod y gwasanaethau hinsawdd, bioamrywiaeth a budd iechyd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. A ninnau’n elusen, un o’r effeithiau mwyaf y gallwn ei chreu yw gwireddu Ymgyrch Garddio Planed-Gyfeillgar yr RHS i alluogi 30 miliwn+ o arddwyr Prydain ac eraill i gymryd camau dros iechyd planhigion a bioddiogelwch yn eu cymuned, eu hysgolion, eu gweithleoedd a’u cartrefi.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud

Rydyn ni wedi canolbwyntio ar weithredu’n chwe egwyddor iechyd planhigion ar draws ein gerddi, ein sioeau a’n gwaith manwerthu. Hefyd, rydym yn dal i ddiogelu’n gerddi a’n Casgliadau Planhigion Cenedlaethol, yn darparu hyfforddiant mewn iechyd planhigion a bioddiogelwch, yn gwneud gwaith ymchwilio a datblygu ar reoli plâu a chlefydau mewn modd cynaliadwy gan gynnwys sut i’w hatal rhag lledaenu.

Mae’n tîm gwyddor Iechyd Planhigion, sydd wedi’i leoli yn RHS Hilltop – Cartref Gwyddor Garddio – ac yng ngardd yr RHS yn Harlow Carr, yn cydweithio ag ymchwilwyr y Deyrnas Unedig, partneriaid yn y diwydiant a garddwyr i ddarparu ymchwil a chyngor gwyddonol cymhwysol sy’n arwain at atebion ym maes iechyd planhigion sy’n diogelu bioddiogelwch planhigion.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud a’r canlyniadau arfaethedig (y pum mlynedd nesaf)

Mae’n strategaeth 5-mlynedd (2021 i 2025) yn cynnwys yr uchelgais o ysgogi bioddiogelwch a chynyddu gweithredu iach ymysg y cyhoedd. I gyflawni hyn, rydym wedi nodi camau allweddol y gallwn eu rheoli’n uniongyrchol yn ein gwaith ein hunain, a sut y gallwn ddylanwadu ar y diwydiant garddwriaeth, y llywodraeth a garddwyr.

Mae gan yr RHS reolaeth uniongyrchol er mwyn:

  • mabwysiadu arferion ar draws gweithgareddau’r RHS sy’n lleihau’r risg i iechyd planhigion drwy weithredu chwe egwyddor iechyd planhigion yr RHS

  • peilota’r cynllun Ardystio Plant Healthy yng ngardd yr RHS yn Harlow Carr ac, os yw hynny’n llwyddiannus, ei ddefnyddio yn yr holl weithrediadau erbyn 2025

  • datblygu polisi casglu sy’n cynnwys mwy o luosogi mewnol, cyrchu a chaffael yn ddiogel a deall natur agored planhigion/casgliadau i blâu, clefydau a phlanhigion ymledol

  • cynyddu’n parodrwydd ar gyfer plâu a chlefydau a allai fod yn niweidiol gan gynnwys nodi risgiau posibl, datblygu cynlluniau i gyfyngu eu lledaeniad a pharatoi ymatebion i sefyllfaoedd brys

  • gwneud ymchwil ar strategaethau rheoli a rheoli cynaliadwy ar gyfer plâu a chlefydau cyffredin nad ydynt eto yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cynhyrchion nad ydynt yn gemegol i ddiogelu planhigion a llinellau planhigion newydd sy’n gwrthsefyll clefydau, ac annog garddwyr i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o reoli plâu

  • buddsoddi yng nghyfleusterau a gwasanaethau Derbyn Iechyd Planhigion yr RHS a gwella’r cyfleusterau hynny

Gall yr RHS ddylanwadu ar y diwydiant garddwriaethol a’r llywodraeth a’r cyhoedd sy’n garddio drwy wneud y canlynol:

  • cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd planhigion a bioddiogelwch ar draws y 30 miliwn a mwy o arddwyr Prydain ac eraill i hybu bioddiogelwch da a chyflawni gerddi a phlanhigion ffyniannus sy’n darparu’r manteision mwyaf ar gyfer dal carbon, peillwyr a bywyd gwyllt, yr amgylchedd ac iechyd pobl

  • rhoi canllawiau i arddwyr a’r diwydiant ar faterion iechyd planhigion er mwyn diogelu cynaliadwyedd gerddi a garddwriaeth yn y Deyrnas Unedig

  • cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth i helpu garddwyr a garddwriaeth y Deyrnas Unedig i reoli risgiau iechyd planhigion yn gynaliadwy

  • cydweithio â sefydliadau allanol a’n cyflenwyr i helpu i reoli risgiau iechyd planhigion yn y Deyrnas Unedig a datblygu’r sgiliau y mae eu hangen i reoli’r risgiau hynny

  • gweithio gyda’r Grŵp Bwrdd Crwn Garddwriaeth Addurnol (diwydiant a llywodraeth), Cynghrair Iechyd Planhigion, y llywodraeth ac eraill tuag at gwireddu Prydain sydd â phlanhigion iach ac sy’n fioddiogel

Datganiad Gweithredu Coed Cadw

Datganiad y sefydliad ar y materion allweddol ynglŷn ag ymgysylltu ag iechyd planhigion

Mae manteision niferus coed yn ein tirweddau yn cael eu cydnabod yn eang, o ddal carbon, gwella bioamrywiaeth a lleddfu risg llifogydd, i ddarparu cysgod a lloches, amddiffyn ein priddoedd bregus a rhoi hwb i iechyd a lles pobl. Ar adeg pan fo’r galw am goedwigoedd a choed newydd yn tyfu, rhaid inni beidio ag anwybyddu’r pwysau presennol ar ein coedydd a’n coed presennol. Mae Cynllun Gweithredu Coetir Lloegr yn amlinellu pwysigrwydd “ehangu” a “diogelu” coetiroedd; y ddau yn egwyddorion craidd ar gyfer uchelgais Coed Cadw. Plâu a chlefydau coed yw un o’r bygythiadau mwyaf i oroesiad ein coetiroedd brodorol yn y dyfodol. Pan fydd plâu a chlefydau yn cael eu cyflwyno’n anfwriadol i ardal y tu allan i’w hystod naturiol, gall y bygythiad a achosir fod yn arwyddocaol ac yn hirdymor. Mae coed a phlanhigion eraill, ffyngau, pryfed a rhywogaethau bacterol yn goroesi mewn cydbwysedd ecolegol sensitif o fewn coetiroedd, a gall dyfodiad plâu a chlefydau anfrodorol darfu ar y cydbwysedd hwn. Gall hyn weithiau gael effaith eithriadol o ddifrifol a pheryglu goroesiad rhywogaeth gyfan yn y dyfodol, fel yr ydym wedi’i weld gyda chlefyd coed ynn.

Mae Coed Cadw, fel yr elusen cadwraeth coetir fwyaf, yn dal i weithio’n ddiflino i sicrhau diogelwch ein coedlannau a’n coed rhag bygythiadau plâu a chlefydau, ynghyd â llawer o fygythiadau eraill. Rydyn ni’n credu bod yr her a achosir gan blâu a chlefydau newydd yn faes blaenoriaeth sy’n gofyn am sylw brys er mwyn diogelu’n coed nawr ac yn y dyfodol a bydd yn hanfodol i’n hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r holl goed y mae Coed Cadw’n eu plannu a’u gwerthu, yn dod o ffynonellau ac yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKISG) sy’n golygu nad yw’r hadau neu’r coed ifanc wedi’u mewnforio ar unrhyw bwynt yn y gadwyn gyflenwi, gan leihau’r risg o gyflwyno plâu neu glefydau yn anfwriadol o wledydd tramor. Mae’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn elwa o fantais ddaearyddol gref yn rhinwedd eu statws fel ynysoedd a dyma’r diogelwch mwyaf effeithiol y gallwn ei ddefnyddio i leihau’r risg o fewnforio plâu neu glefydau ymledol newydd.

Fel rhan o’n hymdrechion rydym yn cydweithio ag eraill ac yn ceisio ymgysylltu ac ysbrydoli eraill i chwarae eu rhan hefyd – sefydliadau preifat, cyhoeddus a chymunedol/trydydd sector yn ogystal â’n haelodau a’n cefnogwyr a’r cyhoedd ehangach.  Mae’n coed a’n coedydd yn drysor cyffredin ac mae angen gweithredu ar draws y wlad, mewn gerddi, mewn parciau ac yng nghefn gwlad. Isel ar hyn o bryd yw’r ddealltwriaeth o pam mae bioddiogelwch planhigion yn bwysig, ac mae’n rhaid i sefydliadau fel ni ochr yn ochr â’r llywodraeth weithio i wyrdroi hyn. Felly, un agwedd sylfaenol ar iechyd coed yw addysg ehangach ar pam mae iechyd cod mor bwysig yng ngoleuni’r argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi canllawiau clir i’r gynulleidfa broffesiynol a’r gynulleidfa o gefnogwr ymroddgar ynghylch y rhan sylfaenol y gallan nhw ei chwarae i amddiffyn ein planhigion i’r dyfodol, o ymddygiad wrth brynu i’r arferion gorau wrth fwynhau cefn gwlad: mae cymaint o gamau bach y gellir eu cymryd ar lefel unigol a fydd, ar y cyd, yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch ein coed. Yn Coed Cadw rydym wedi ymrwymo i barhau i gyfleu pam mae tarddiad hadau a choed ifanc a phrynu’r rheiny mewn modd cyfrifol yn bwysig i’r cyhoedd ac i reolwyr tir pan fyddwn yn gwneud gwaith allgymorth.  Hoffem weithio i gynyddu’r ddealltwriaeth, y gefnogaeth a’r galw am gynhyrchion planhigion sy dod o ffynonellau ac yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ac a dyfir gartref, drwy’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r cynulleidfaoedd proffesiynol a’r cefnogwyr sy’n ymwneud â ni. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i weithio ar y cyd, gan anelu at gymryd camau eang drwy arferion bioddiogel.

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd i gynyddu ymgysylltiad ac adeiladu cefnogaeth ar gyfer iechyd planhigion

Rydym wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn gweithgarwch cyfathrebu dan arweiniad y llywodraeth, sydd wedi golygu dros y blynyddoedd ein bod wedi cyfrannu at fentrau fel ymgyrch Don’t Risk it! ac ymgyrch Keep it Clean y Comisiwn Coedwigaeth. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn Wythnos Iechyd Planhigion ac yn defnyddio honno fel cyfle i roi gwybodaeth i’n cefnogwr a’n cynulleidfaoedd proffesiynol ar iechyd planhigion, gan ganolbwyntio ar goed.

Rydym yn bartner ym mhrosiect Observatree, gan gyfrannu’n arwyddocaol fel rheolwr gwirfoddolwyr a rheolwr gwefan y prosiect. Mae Coed Cadw yn cyfleu ymwybyddiaeth o blâu a chlefydau yn gyson drwy hybu adnoddau’r prosiect. Mae partneriaeth Observatree yn datblygu adnoddau addysgol a all gael eu defnyddio gan gynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwirfoddoli’n uniongyrchol, gan ymestyn cyrhaeddiad y negeseuon.

Yn aml, ni yw’r lle cyntaf y bydd y wasg yn troi ato ynglŷn ag ymholiadau ar glefydau a phlâu coed. Rydym yn cymryd rhan yn y gwaith hwn a all fod yn brint, radio neu deledu sydd i gyd yn helpu i roi gwybodaeth i’r cyhoedd yn ehangach.

Rydyn ni wedi datblygu safon gaffael lwyddiannus ar ffurf ein cynllun sy’n sicrhau bod coed yn dod o ffynonellau ac yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKISG). Mae hyn yn cynnig hyder inni yn ein gwaith plannu ein hunain ond hefyd yn ein gwaith allgymorth er enghraifft i dirfeddianwyr a ffermwyr ac i aelodau o’r cyhoedd sy’n prynu trwy siop Coed Cadw.

Rydym yn cefnogi ymchwil ar iechyd coed, fel cyllidwyr, rhanddeiliaid, a rheolwyr tir. Rydym yn cyhoeddi’n safbwyntiau a’n dulliau rheoli ni’n hunain ar gyfer clefydau megis clefyd coed ynn er mwyn rhannu arferion da.

Rydyn ni hefyd yn rhan o Action Oak, sy’n gydweithrediad pwysig sy’n ceisio helpu i gefnogi ymchwil a hybu pwysigrwydd coed derw i gynulleidfa eang.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud

Rydyn ni’n bwriadu parhau i ddarparu’r holl weithgareddau uchod. Byddwn ni hefyd yn adeiladu ar yr uchod, er enghraifft drwy weithio i gyflawni mwy o gyrhaeddiad yn Wythnos Iechyd Planhigion yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar sail tystiolaeth ac yn gymesur yn y modd rydyn ni’n mynd i’r afael â phryderon bioddiogelwch ac iechyd coed, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i ariannu ymchwil i fynd i’r afael â bylchau allweddol mewn tystiolaeth. Rydym hefyd yn ymwneud ag ymchwil i ddeall yn well sut i gyfathrebu materion bioddiogelwch ac iechyd coed.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid, presennol a dyfodol (er enghraifft, partneriaid i’r Cytundeb) i barhau i helpu i gyfathrebu iechyd planhigion a chyflawni’r amcanion a amlinellir yn y papur hwn.

Ein canlyniadau arfaethedig mewn pum mlynedd

Gobeithio y byddwn ni wedi cyfrannu at roi gwybodaeth i’r gymdeithas ac ennyn diddordeb y gymdeithas mewn gofalu am blanhigion a choed iach. Bydd llwyddiant yn cael ei amlygu gan y canlynol:

  • mwy o ymwybyddiaeth o fioddiogelwch a chamau unigol sydd, ar y cyd, yn cael effaith arwyddocaol ymysg ein cefnogwyr a’r cynulleidfaoedd proffesiynol ymroddgar

  • bod canllawiau clir, cynhwysfawr ar gael i gynulleidfaoedd proffesiynol, cefnogwyr a’r cyhoedd ar yr arferion gorau wrth brynu planhigion newydd, teithio dros y môr neu fwynhau cefn gwlad fel y mae’n ymwneud ag iechyd planhigion a bioddiogelwch

  • mwy o alw am goed UKISG (neu ddulliau caffael tebyg) sy’n sicrhau cynhyrchu domestig o hadau i goed ifanc

  • parhau i gyfleu cyfranogiad Coed Cadw mewn ymchwil ar Iechyd Coed

Datganiad Gweithredu Forest Research

Datganiad y sefydliad ar y materion allweddol

Forest Research (FR) yw’r prif sefydliad ar gyfer ymchwil coedwigaeth a choed yn y Deyrnas Unedig.  Mae FR yn cydnabod nad yw’r bygythiad a achosir gan blâu a chlefydau i goed yn y Deyrnas Unedig erioed wedi bod yn fwy, gydag achosion niweidiol iawn, tystiolaeth o fwy o ledaeniad ac effaith, organebau newydd yn cael eu cyflwyno ar hyd llwybrau masnach, a bygythiadau o du plâu a chlefydau sydd wedi ymsefydlu wedi’u gwaethygu gan newidiadau yn yr hinsawdd ac argaeledd planhigion cynhaliol. Rydym yn ymateb i’r heriau hyn, trwy ystod eang o ymchwil yn y gwyddorau naturiol a chymdeithasol, gan ddatblygu technegau i atal plâu a chlefydau rhag cael eu cyflwyno, galluogi canfod a dileu yn gynnar, rheoli problemau sefydledig, ac arwain gwydnwch amgylcheddol o’r lefel leol i’r lefel genedlaethol. Mae’n rhaglenni craidd yn ymateb i’r angen am dystiolaeth ar draws gwledydd Prydain, gan ddarparu cysylltiadau rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, a chydweithio gyda sefydliadau ymchwil eraill fel Canolfan Iechyd Planhigion yr Alban, y Ganolfan Amddiffyn Coedwigoedd newydd a ariennir gan Defra mewn cydweithrediad â Kew, ac yn rhyngwladol gydag ymchwilwyr trwy rwydweithiau megis IUFRO.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud

Rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn yr ymdrechion i gryfhau iechyd planhigion a choed a bioddiogelwch, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein darpariaeth ar gyfer tystiolaeth ym maes iechyd planhigion a choed, cyngor, a diagnosteg. Mae FR yn darparu adnoddau gwe sydd ar gael i’r cyhoedd ar iechyd coed gan gynnwys ar 25 o glefydau allweddol a 23 o rywogaethau o bryfed, gan drefnu bod gwybodaeth sydd wedi’i chronni dros ddegawdau o ymchwil ar gael. Mae gwaith monitro ac adrodd ar iechyd coed yn cael ei wneud drwy borth TreeAlert a phrosiect gwyddoniaeth dinasyddion Observatree.  Mae pob un yn caniatáu i’r cyhoedd (fel gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn achos Observatree) chwarae rhan allweddol wrth ganfod problemau iechyd coed. Mae ymchwil gydweithredol (e.e. Phyto-Threats) wedi llywio datblygiad safonau “Plant Healthy” ac wedi datblygu arferion da eraill.  Mae’r ymchwil gyfredol yn y gwyddorau cymdeithasol yn y maes cyhoeddus yn cynnwys prosiectau a ariennir gan Defra ar ddangosyddion ar gyfer mesur y gwerthoedd cymdeithasol sydd mewn perygl yn sgil plâu a chlefydau (Gwerthoedd Cymdeithasol a Diwylliannol yr FPPH), ac ar ragfynegwyr cyfranogiad cyhoeddus mewn bioddiogelwch ac iechyd planhigion y Deyrnas Unedig a’r rhwystrau sy’n atal y cyfranogiad hwnnw (Sgwrs Genedlaethol yr FPPH). Mae’n rhaglenni ymchwil craidd (sy’n rhedeg 2021-2026) yn cynnwys astudiaethau ymddygiadol ar y camau y mae’r cyhoedd yn eu cymryd o ran iechyd planhigion wrth ymweld â safleoedd coetir. Mae’r prosiectau hyn yn helpu i ddarparu’r dystiolaeth y mae ei hangen i ddenu’r cyhoedd i weithio gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gynyddu bioddiogelwch ac iechyd planhigion yn y Deyrnas Unedig.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud / canlyniadau arfaethedig yn y pum mlynedd nesaf

Parhau i gynhyrchu adnoddau o safon ynghylch plâu a chlefydau, a threfnu eu bod ar gael yn uniongyrchol i’r cyhoedd, a thrwy wybodaeth i’w defnyddio gan randdeiliaid polisi a rheolwyr tir.

Cynnal a datblygu porth TreeAlert fel y gall adroddiadau’r cyhoeddus eu bod wedi gweld plâu a chlefydau gyfrannu at rybuddion cynnar am broblemau posibl.

Cyflawni ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ar werthoedd ac ymddygiadau’r cyhoedd, yn gysylltiedig ag iechyd coed a phlanhigion, gyda’r nod o helpu’r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i adeiladu diwylliant bioddiogelwch ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Cynnal ac adeiladu’n sgiliau a’n harbenigedd fel rhan o allu cenedlaethol mewn iechyd planhigion a bioddiogelwch.  Cynnal cysylltiadau cryf ag ymchwilwyr mewn sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, yn ogystal â rhanddeiliaid (e.e. diwydiant, llywodraeth, NGO), i ddarparu’r gronfa dystiolaeth i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn mentrau iechyd planhigion a choed.

Datganiad Gweithredu Gerddi Botaneg Brenhinol Kew

Mae gan Erddi Kew un o’r casgliadau mwyaf amrywiol a gwerthfawr o blanhigion byw yn y byd. Mae diogelu’r casgliadau hyn rhag bygythiadau cynyddol plâu a chlefydau yn gofyn am fioddiogelwch eithriadol a gwyliadwriaeth gyson. Gyda mwy na dwy filiwn o ymwelwyr y flwyddyn a phroffil rhyngwladol oherwydd eu gwaith ym maes gwyddoniaeth planhigion, mae Gerddi Kew hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gyfleu ac egluro materion amserol yn ymwneud â phlanhigion.

Erbyn diwedd 2023 bydd Gerddi Kew yn gwella mesurau i reoli risgiau i iechyd planhigion drwy gyflwyno a gweithredu Safon Iechyd Planhigion. Bydd hyn yn cynnwys symudiadau mewnol ac allanol planhigion yn ogystal â rheoli plâu a chlefydau o fewn y gerddi. Byddwn ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i ddatblygu a mabwysiadu’r safon hon i aelodau ac ymwelwyr Kew er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r angen am arferion dal ym maes iechyd planhigion ym mhob gardd.  Byddwn hefyd yn ystyried achrediad drwy gynllun Plant Healthy.

Er mwyn deall a chofnodi’n well y plâu a’r clefydau sy’n digwydd yn yr ardd, byddwn yn cynyddu’r wyliadwriaeth a’r arolygu gan gynnwys trwy well gwybodaeth i’r staff a mentrau gwyddoniaeth dinasyddion gan gynnwys Observatree.

Byddwn yn defnyddio’n proffil cyhoeddus a’n cyfryngau cyfathrebu amrywiol i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus ac ymwybyddiaeth ymwelwyr o’r bygythiadau i iechyd planhigion a phwysigrwydd bioddiogelwch. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau ymarferol ar sut y gall pobl gyfrannu at reoli plâu a chlefydau planhigion. Bydd Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion yn ffocws ar gyfer y mentrau hyn ond bydd negeseuon am iechyd planhigion hefyd yn dod yn thema fynych yn ein rhaglenni dehongli ac ymgysylltu i ymwelwyr. Mae’r rhain yn cynnwys ein rhaglen ysgolion ar y safle, llwyfan dysgu ar-lein Endeavour a’r Rhaglen Esboniwr Ifanc.

Byddwn yn cydweithio â Defra ac NGOs wrth ddatblygu ymatebion sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i blâu planhigion a chlefydau gan gynnwys gwyfyn ymdeithiwr derw, malltod bocsen a chacynen ddwyreiniol chwyddi’r castanwydd. Byddwn yn rhannu’n gwybodaeth a’n profiad gydag eraill trwy PlantNetwork a rhwydweithiau garddwriaethol eraill i helpu i godi lefel bioddiogelwch ac arferion iechyd planhigion yn sector gerddi’r Deyrnas Unedig. Bydd ein Safon Iechyd Planhigion yn enghraifft o ddull ymarferol ac effeithiol.

Datganiad Gweithredu Observatree

Datganiad y sefydliad ar y materion allweddol

Mae Prydain wedi gweld yr effaith ddinistriol a gafodd clwy llwyfen yr Isalmaen ar ein tirwedd, gan ddileu’r rhan fwyaf o lwyfenni aeddfed o bobman bron. Yn y deng mlynedd diwethaf, aeth clefyd coed ynn i ddwyrain Lloegr ac mae wedi symud ymlaen yn araf i’r gorllewin trwy Gymru ac i’r gogledd i’r Alban. Gyda mwy o fasnach fyd-eang a newid amodau hinsoddol, mae mwy o blâu a chlefydau coed yn dod i’r amlwg mewn rhannau newydd o’r byd, ymhell o’u cynefin naturiol. Ar ôl cyrraedd lleoliad newydd, efallai na fydd gan y coed sy’n bresennol yno mo’r mecanweithiau naturiol i oddef neu wrthsefyll y rhywogaethau newydd. Ar ôl ymsefydlu, gall y plâu neu’r clefydau newydd hyn gael effaith negyddol arwyddocaol ar y rhywogaethau coed sy’n cynnal y plâu neu’r clefydau, gan leihau eu gallu i gefnogi bioamrywiaeth berthynol a manteision eraill i’r gymdeithas.

Mae amryw o fesurau y gellir eu defnyddio i leihau’r risgiau hyn ac mae canfod yn gynnar ac adrodd yn gyflym yn fuddiol i reoli’r ymsefydlu neu i arafu’r ymledu. Cyntaf yn y byd y gellir canfod rhywogaeth newydd a lleiaf yn y byd yw’r ardal sy’n cael ei heffeithio, hawsaf yn y byd yw ei rheoli. A lle mae plâu neu glefydau coed ymledol wedi ymsefydlu, efallai y bydd modd arafu eu cyfraddau ymledu, gan ganiatáu amser i fesurau rheoli gael eu hymchwilio, neu i ymwrthedd naturiol y rhywogaethau coed sy’n cynnal y pla esblygu. Mae dealltwriaeth o sut mae plâu neu glefydau sefydledig yn lledaenu ac adnabod rhannau o Brydain nad ydynt yn gallu symud iddynt yn bwysig o ran eu rheoli. Mwyaf yn y byd y mae aelodau unigol o’r gymdeithas yn ymwybodol o’r bygythiadau posibl i’n coed a sut i roi gwybod am statws y coed yn eu hardal leol, gorau yn y byd fydd ein sefyllfa ni i’w gwarchod.

I arfogi aelodau o’r gymdeithas â’r adnoddau angenrheidiol i gefnogi iechyd ein coed, mae angen codi ymwybyddiaeth o’r materion, darparu addysg a hyfforddiant ar beth i chwilio amdano a’r offer i gyflwyno canfyddiadau. Er mwyn hwyluso’r gwaith grymuso hwn y cafodd prosiect Observatree ei sefydlu.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud

Mae Observatree yn brosiect â nifer o bartneriaid, gan ddod ag amryw o sefydliadau ynghyd mewn ymdrech gydweithredol i gynyddu’r gwaith o fonitro iechyd coed, adrodd a chefnogi gwaith gweithwyr iechyd proffesiynol coed a phlanhigion. O dan arweiniad Forest Research, mae Observatree yn dod â phrofiad, sgiliau ac adnoddau’r Comisiwn Coedwigaeth, Scottish Forestry, Llywodraeth Cymru, Defra, APHA, Fera Science Ltd., yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Coed Cadw at ei gilydd.

Cafodd y prosiect ei sefydlu fel prawf o gysyniad yn 2013, ac mae’n gweithredu rhwydwaith o hyd at 200 o wirfoddolwyr sy’n arolygu i chwilio am nifer dethol o blâu a chlefydau coed sy’n peri pryder arbennig. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn cael eu hyfforddi ar sut i adnabod y rhywogaethau o ddiddordeb yn gywir, sut i arolygu ar eu cyfer heb eu gwasgaru’n anfwriadol a sut i’w hadrodd. Mae nifer o’r gwirfoddolwyr hyn wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’n dealltwriaeth o ddosbarthiad plâu a chlefydau coed ar draws Prydain a nhw yw sylfaen y prosiect o hyd.

Cefnogir ein gwirfoddolwyr ag ystod o adnoddau addysg a hyfforddiant hygyrch o safon. Er mwyn ehangu cyrhaeddiad y prosiect, mae llawer o’r rhain ar gael yn rhwydd i unrhyw un eu gweld ar wefan Observatree. Mae’r adnoddau hyn, ynghyd ag e-gylchlythyrau a blogiau cyson ar y wefan yn ein helpu i ymestyn cyrhaeddiad y prosiect ac i rannu pwysigrwydd pryderon iechyd coed i gynulleidfaoedd ehangach.

Mae allgymorth yn rhan arwyddocaol o’r prosiect ac rydym yn codi ymwybyddiaeth o blâu a chlefydau coed i gynulleidfaoedd amrywiol drwy fynd i ddigwyddiadau a defnyddio sianeli mewn detholiad o gyfryngau. Yn ddiweddar rydym wedi lansio gwefan ddiwygiedig a gwell i rannu’n gwybodaeth. Yn ogystal â chydweithio a phartneriaid Observatree i godi ymwybyddiaeth o iechyd coed, rydym wedi creu cytundebau â nifer o grwpiau a sefydliadau eraill i helpu i rannu’n negeseuon. Yn yr un modd, mae Observatree yn cydweithio â Rhwydwaith Gwyddoniaeth Dinasyddion Iechyd Coed i rannu’r arferion gorau a chefnogi prosiectau ehangach ym maes iechyd coed.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud

Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant prosiect Observatree ac ymdrechion ein gwirfoddolwyr. Byddwn yn cynnal rhwydwaith rhagweithiol ac ymroddgar o wirfoddolwyr ac yn dal i’w harfogi a’u cefnogi, gan eu galluogi i gyflawni eu rolau’n effeithiol. Byddwn yn cefnogi Gwirfoddolwyr Arweiniol Observatree wrth ymgysylltu ag eraill yn eu rhanbarthau i gryfhau rhwydweithiau lleol gwyliadwriaeth iechyd coed.

Cynyddu’r defnydd o’r data sy’n cael ei gasglu gan y gwirfoddolwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r data a sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar ei werth. Trwy roi adborth am y gweithgareddau hyn i’r gwirfoddolwyr, bydd hyn yn helpu i ddangos gwerth eu hymdrechion a gwella’u hymdeimlad o werthfawrogiad a boddhad ymhellach yn y tasgau arolygu.

Byddwn yn parhau i ehangu’n rhwydweithiau, gan greu mwy o gydweithio i godi ymwybyddiaeth o iechyd coed ac annog pobl i roi gwybod am blâu a chlefydau. Byddwn yn hybu adnoddau addysgol Observatree ynghylch plâu a chlefydau drwy’r cydweithrediadau newydd hyn ac i randdeiliaid eraill drwy’r amryw o sianeli cyfathrebu sydd ar gael i’r prosiect.

Y canlyniadau arfaethedig yn y pum mlynedd nesaf

Lefelau uwch o roi gwybod am iechyd coed gan wirfoddolwyr Observatree (a grwpiau eraill).

Rhwydwaith a gynhelir o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi ac yn brofiadol, a’r rheiny’n gallu cael eu galw i gefnogi gweithgareddau arolygu swyddogol os oes angen.

Adolygu’n rhestr o rywogaethau plâu a chlefydau sydd a blaenoriaeth sy’n cael ei monitro gan y prosiect i sicrhau eu bod yn berthnasol i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd planhigion.

Gwella gwerth data a boddhad gwirfoddol – Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid Observatree i wella’r systemau adrodd i’r gwirfoddolwyr, systemau defnyddio a rhannu data er mwyn tynnu sylw at werth data Gwyddoniaeth Dinasyddion, rhoi mwy o adborth i’r rhai sy’n cyflwyno data, a thrwy hynny gynyddu lefelau gwerthfawrogiad a boddhad. Mae’r data a gyflwynir yn cael ei werthfawrogi a gall helpu i wneud gwahaniaeth.

Gweithio gyda’r Cyngor Coed i dreialu gwaith i hybu iechyd coed trwy brosiect peilot bach o fewn eu rhwydwaith o Wardeniaid Coed. Yna bydd y potensial ar gyfer cyflwyno hyn ar draws y rhwydwaith Wardeniaid Coed ehangach yn cael ei ystyried. Byddwn yn ceisio adnabod cyfleoedd tebyg i gydweithio â grwpiau a sefydliadau eraill.

Rhannu’r arferion gorau mewn gwyddoniaeth dinasyddion iechyd coed drwy’r THCSN a chyda grwpiau eraill fel y bo’n briodol.

Gwella hygyrchedd hyfforddiant mewn iechyd coed – Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan Diogelu Coedwigoedd ac eraill i hybu a rhannu adnoddau addysgol a hyfforddiant lle bo’n ymarferol.

Datganiad Gweithredu’r Comisiwn Coedwigaeth

Y Comisiwn Coedwigaeth yw’r adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelu, ehangu, a hybu rheolaeth coetiroedd mewn modd cynaliadwy. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau a swyddogaethau sy’n ceisio atal plâu a chlefydau coed dinistriol rhag cael eu cyflwyno, ymsefydlu a lledaenu. Mae cyhoedd sy’n deall ac yn ymgysylltu ag iechyd planhigion yn hanfodol er mwyn galluogi’r gwasanaethau a’r swyddogaethau rydym yn eu darparu i lwyddo.

Cafwyd 296 miliwn o ymweliadau a choedwigoedd y wlad rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Mae Cynllun Gweithredu Coed Lloegr (ETAP) yn addo cysylltu mwy o bobl â choed a choetiroedd, ac rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â choedwigoedd. Rydym yn cydnabod bod y pwysau hyn o du ymwelwyr yn peri risg i iechyd planhigion oherwydd y tebygolrwydd cynyddol y bydd plâu a chlefydau yn lledaenu ac yn cael eu cyflwyno gyda chymorth pobl. Ar y llaw arall, mae hyn hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd planhigion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau pobl wrth ymweld â choedwigoedd.

Er mwyn cyrraedd targedau’r llywodraeth bresennol ar blannu coed, fel y’u nodir yn yr ETAP, bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn helpu i dreblu faint o goed sy’n cael eu plannu ar draws Lloegr rhwng 2020 a 2025. Rydym hefyd yn gweithio i wella’r coetir presennol gan sicrhau bod gennyn ni goed mwy gwydn, amrywiol, ac iach, sy’n cael eu diogelu a’u rheoli’n weithredol fel eu bod yn y cyflwr ecolegol gorau ac yn gallu darparu mwy o nwyddau cyhoeddus.

Mae’r Strategaeth Gwydnwch Iechyd Coed a Chanllaw Arferion Safonol Coedwigaeth y Deyrnas Unedig ‘Adapting forest and woodland management to the changing climate’ yn disgrifio’r camau rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau y bydd ein coedwigoedd sefydledig, a’r coed a blannwn ni heddiw, yn gallu gwrthsefyll yn well ansicrwydd ein hinsawdd sy’n newid a bygythiadau yn sgil plâu a chlefydau yn y dyfodol. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, ymgysylltu, a chefnogaeth i’r maes hanfodol hwn, sef iechyd planhigion, yn sicrhau bod y manteision hirdymor a ddarperir gan goed coetiroedd a choedwigoedd iach, gwydn, yn cael eu diogelu i’r gymdeithas nawr ac i’r dyfodol.

Mae’n hymgyrch ymwybyddiaeth iechyd coed a bioddiogelwch ‘Keep it Clean’ wedi llwyddo i helpu i sbarduno newid ymddygiad cadarnhaol tuag at arferion bioddiogelwch da a dealltwriaeth o bryderon iechyd planhigion. Rydym wedi cyflawni hyn trwy fod yn bresennol mewn llawer o sioeau a digwyddiadau cyhoeddus, gan ddarparu dehongliad sy’n canolbwyntio ar iechyd a gwydnwch planhigion ar draws coedwigoedd y genedl a thrwy ddatblygu canllawiau bioddiogelwch i’r cyhoedd.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd mewn iechyd planhigion

Bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn parhau i gyflawni a chryfhau’n hymgyrch ‘Keep it Clean’ gan ganolbwyntio’n fawr ar ymgysylltu â’r cyhoedd dros y pum mlynedd nesaf. Byddwn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel arf allweddol i gynyddu’n cyrhaeddiad o ran cynulleidfa gyhoeddus. Rydym yn bwriadu datblygu strategaeth benodol ar ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch iechyd planhigion, gan anelu at dynnu sylw at bryder uniongyrchol amlhau plâu a chlefydau ond hefyd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y tymor hirach, a dangos hefyd y camau y gall pobl eu cymryd i helpu i ategu nodau bioddiogelwch. Byddwn hefyd yn codi proffil y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu a gwella gwydnwch ein coedluniau gyda’r cyhoedd.

Rydym yn cydnabod bod materion iechyd planhigion yn bryder ar y cyd sy’n gofyn am ddull cydweithredol. Byddwn yn parhau i roi cymorth i dirfeddianwyr a’r cyhoedd trwy ddatblygu mentrau peilot, canllawiau perthnasol ac integreiddio negeseuon allweddol mewn ystod amrywiol o ymgyrchoedd cyfathrebu, i helpu i fynd i’r afael â materion iechyd planhigion gyda’i gilydd. Byddwn yn parhau i roi adnoddau i swyddi gydag elfen sy’n wynebu’r cyhoedd fel y gallant barhau â’r gefnogaeth y maen nhw’n ei roi i’n partneriaid, gan atgyfnerthu’n hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod ymwybyddiaeth o faterion iechyd planhigion yn cael eu codi gyda’n holl gynulleidfaoedd cyhoeddus.

Fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Mynediad Coetir, ein bwriad yw cynyddu mynediad cyhoeddus i goetiroedd. Byddwn yn ymgorffori ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd planhigion, a phrosesau adrodd yn y cynllun er mwyn ysbrydoli carfan newydd o wyddonwyr o ddinasyddion. Bydd y cynllun hwn yn diogelu mynediad parhaus i goetiroedd a choedwigoedd fel y gellir gwerthfawrogi llif y buddion a’r gwasanaethau ecosystemau sy’n deillio o goed, coetiroedd a choedwigoedd iach nawr ac i’r dyfodol.

Bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn ymdrechu i godi proffil iechyd planhigion ymysg y cyhoedd, gan eu hannog i wneud y canlynol:

Meddwl: Deall a gwerthfawrogi manteision economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol hirdymor coed, coetiroedd a choedwigoedd iach, gwydn.

Teimlo: Brys yr uchelgais genedlaethol i wella gwydnwch coetir a choedwigoedd, a theimlo eu bod nhw wedi’u grymuso, yn wybodus, yn frwd, ac yn barod i weithredu i atal plâu a chlefydau coed rhag lledaenu.

Gwneud: Helpu i gynnal coed a phlanhigion iach drwy adeiladu bioddiogelwch yn eu bywydau bob dydd, ategu a chwyddo negeseuon ymgyrchoedd y Comisiwn Coedwigaeth a rhoi gwybod pan welan nhw blâu a chlefydau blaenoriaeth sy’n bygwth iechyd ein planhigion a’n coed.

Datganiad Gweithredu’r Cynghrair Iechyd Planhigion

Bydd y Cynghrair Iechyd Planhigion yn parhau i ddatblygu’r Safon Rheoli Iechyd Planhigion wirfoddol, gyda’r bwriad o gyflwyno’r Cynllun Ardystio Plant Healthy. Y prif ffocws yw gwella bioddiogelwch planhigion ar draws cadwyni cyflenwi planhigion byw, a all fod yn llwybr risg uchel ar gyfer lledaenu plâu a chlefydau planhigion. Wrth wneud hynny, bydd y Cynghrair yn darparu nod sicrwydd ansawdd i brynwyr proffesiynol ac amatur a hwnnw’n eu tywys at fusnesau a sefydliadau sydd wedi rhoi rhagofalon trylwyr ar waith ynglŷn â bioddiogelwch planhigion i helpu i ddiogelu’n gerddi a’n cefn gwlad. Mae gan y Cynghrair gynllun hyrwyddo pedair blynedd ar waith sy’n ceisio codi proffil y cynllun ymhellach i bawb sy’n prynu planhigion ac yn mwynhau ymweld â gerddi cyhoeddus. Bydd maes ffocws allweddol yn hybu Cynllun Ardystio Plant Healthy yn ystod Wythnos Iechyd Planhigion bob blwyddyn.

Datganiad Gweithredu’r Cyngor Coed

Mae’r Cyngor Coed yn dathlu’r gwerth enfawr y mae planhigion iach ac yn enwedig coed a gwrychoedd iach yn ei roi i’n cymdeithas. Mae’r coed iach hyn yn darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol o’r ocsigen rydyn ni’n ei anadlu, i fwyd fel afalau, eirin a gellyg. Maen nhw hefyd yn cael gwared ar lygryddion o’r aer a’r dŵr o’n cwmpas ac yn gallu lleihau’r risg o lifogydd. Mae coed iach yn gwella bywydau pobl, yn ogystal â darparu bwyd a lloches i ystod eang o rywogaethau eraill sy’n byw o’u cwmpas ac o’u mewn.

Mae’r Cyngor Coed wedi ymrwymo i ddiogelu coed y genedl rhag plâu a chlefydau niweidiol er mwyn diogelu eu hiechyd a’u gwerth. Rydym yn gefnogol i’r Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion sydd newydd ei chyhoeddi gan Defra a’i phedwar canlyniad: trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf, cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach, cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel a gallu technegol gwell ym maes iechyd planhigion.

Fel y sefydliad ymbarél ar gyfer coed, mae’r Cyngor Coed yn hybu’r arferion gorau sy’n gysylltiedig ag iechyd coed a gwrychoedd, gan ddefnyddio gwyddoniaeth ac ymchwil yn sail i’r wybodaeth a ddarparwn. Rydym yn cydnabod ei bod yn hanfodol i bawb chwarae eu rhan er mwyn sicrhau bioddiogelwch da ac iechyd planhigion. Mae hyn wedi’n harwain i ddatblygu pecynnau cymorth arloesol i helpu rheolwyr coed, yn enwedig mewn awdurdodau lleol, i ddelio â phlâu a chlefydau mewn partneriaeth â Defra, Fera a Forest Research.

Rydym yn canolbwyntio’n hymdrechion ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd coed a bioddiogelwch drwy ein hymgyrchoedd tymhorol, ac ymgyrchoedd eraill wedi’u targedu. Un o’n cynulleidfaoedd allweddol yw ein rhwydwaith cenedlaethol o Wardeiniaid Coed gwirfoddol sy’n hybu coed yn eu cymunedau lleol. Ers dros 30 mlynedd, rydym yn darparu adnoddau i’r Wardeiniaid Coed i’w helpu i adnabod plâu a chlefydau coed a rhoi gwybod am y rhain, yn ogystal â deall pwysigrwydd arferion bioddiogelwch cadarn. Mae hyn wedi’u galluogi i weithredu’n uniongyrchol, gan gynnwys mai un ohonyn nhw oedd y cyntaf i roi gwybod am glefyd coed ynn yng nghoedwigoedd Norfolk.

Mae dyfodol ein coedluniau a’u hiechyd da yn nwylo pobl ifanc ac mae Rhaglen Ysgolion Genedlaethol y Cyngor Coed hefyd yn hybu iechyd coed i’w rhwydwaith cenedlaethol o athrawon a disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac AAAA. Rydym yn darparu adnoddau deniadol ac ymarferol ar iechyd cod i athrawon ar ffurf cynlluniau gwersi a gweithdai, hyfforddiant athrawon a chanllawiau printiedig. Rydym hefyd yn annog Wardeiniaid Coed i gysylltu ag ysgolion lleol ar ein rhwydwaith i’w helpu i arolygu iechyd eu coed.

Er hynny, i’r Cyngor Coed, mae hyn yn fwy na phlâu a chlefydau yn unig, ond hefyd gofal coed ehangach, o blannu ac ôl-ofal coed sydd newydd eu plannu, i reoli’n gwrychoedd, a’n treftadaeth bwysig o goed hynafol. Mae pob coeden yn cyfrif a dylai pob coeden gael cyfle i fod mor iach â phosibl.

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor Coed wedi gwneud y canlynol:

  • codi ymwybyddiaeth o blâu a chlefydau gyda’n 6,000 o Wardeiniaid Coed a 150 o aelod-sefydliadau ar bob cyfle a oedd ar gael drwy’n cylchlythyrau, ein cynadleddau a’n gweithdai rheolaidd a’n fforymau rhanbarthol

  • gweithio gyda Fera a Phrifysgol Newcastle i dreialu technegau newydd cofnodi iechyd coed gyda’n rhwydwaith o Wardeniaid Coed yn Norfolk mewn Rhaglen Coed Sentinel

  • cynnal digwyddiadau ar-lein blynyddol ar thema iechyd coed i’n gwirfoddolwyr a’n haelodau yn ystod Wythnos Iechyd Planhigion

  • defnyddio’n Hymgyrch Gofal Coed flynyddol i hybu pwysigrwydd gofal coed da ar gyfer iechyd coed

  • gweithio gyda Defra i ddosbarthu copïau o’r llawlyfr ‘Anni yr Archwilydd’ neu ‘Izzy the Inspector’ i ysgolion cynradd ledled y DU

  • datblygu gweithdai ymarferol ar iechyd coed i athrawon eu cyflwyno mewn ysgolion

Ymchwil:

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r Cyngor Coed wedi bod wrth galon gwaith helaeth ar glefyd coed ynn a gwyfyn ymdeithiwr coed derw, gan gynhyrchu pecynnau cymorth arloesol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i helpu rheolwyr coed i fynd i’r afael â’r problemau ymarferol sy’n eu hwynebu. Mae’r pecynnau cymorth, yn seiliedig ar brofion helaeth gyda channoedd o Swyddogion Coed sy’n ymarfer, wedi cael eu croesawu’n gynnes, a chafodd Pecyn Cymorth Clefyd Coed Ynn ei lawrlwytho dros 2,000 o weithiau gan weithwyr proffesiynol yr awdurdodau lleol. Mae hyn wedi arwain at gydlynu camau lleol ledled y wlad i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf arwyddocaol i iechyd coed y mae’r DU wedi’i wynebu erioed.

Yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud:

  • parhau â’n hymchwil ynglŷn â materion iechyd coed a sicrhau bod gan reolwyr coed a’r gymuned ehangach fynediad at adnoddau ymarferol

  • rhannu mewnwelediadau ar yr arferion gorau sydd ar gael ar hyn o bryd

  • gweithio gyda phartneriaeth Observatree i ddatblygu cynllun newydd ‘Hyrwyddwyr Iechyd Coed’ sy’n cynnwys Wardeiniaid Coed yn rhoi gwybod am blâu a chlefydau i Tree Alert

  • datblygu rhestr wirio ‘Prynwyr Coed’ i’r cyhoedd er mwyn sicrhau bod coed yn cael eu prynu ar sail dealltwriaeth lawn o faterion bioddiogelwch

  • ehangu’r elfen Iechyd Coed ein pedair Ymgyrch Dymhorol e.e. Wythnos Genedlaethol Coed, er mwyn adeiladu canllaw ‘beth i’w weld’ drwy gydol y flwyddyn – byddwn yn hybu hyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill i sicrhau bod iechyd coed bob amser ar flaen meddyliau pobl

  • parhau i hybu pwysigrwydd iechyd coed i’n rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion drwy gynhyrchu a rhannu adnoddau ymarferol i athrawon ysgol cynradd, uwchradd ac AAAA

  • parhau i gefnogi Wythnos Iechyd Planhigion a chroesi negeseuon gan sefydliadau eraill i gynulleidfaoedd Cyngor Coed

  • cyhoeddi ‘Canllaw tyfwyr Coed’ ac ‘Arweiniad i Wrychoedd Da’ dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys cyngor ar fioddiogelwch wrth sefydlu meithrinfeydd cymunedol neu wrychoedd newydd

Canlyniadau arfaethedig yn y pum mlynedd nesaf:

  • sicrhau bod pawb sy’n ymwneud yn broffesiynol â choed yn gwybod pam mae angen i goed fod yn iach a’u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyflawni a diogelu coedlun iach – gan helpu’n enwedig i gyflawni Canlyniad 2 (cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach)

  • datblygu’r arferion gorau ac adnoddau newydd sy’n wynebu’r cyhoedd ar gyfer coed iach, er mwyn cynnwys Wardeiniaid Coed, ysgolion (gan gynnwys athrawon a disgyblion) a’r cyhoedd yn ehangach wrth ddeall, gwerthfawrogi a diogelu’n coedlun iach

  1. Ffynonellau ar gyfer pwysigrwydd planhigion:

  2. Mae’r ddeddfwriaeth ar gyfer y strategaeth hon yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir: Rheoliad (UE) 2016/2031 ar fesurau amddiffynnol yn erbyn plâu planhigion (y ‘Rheoliad Iechyd Planhigion’ neu’r ‘PHR’), Rheoliad (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir er mwyn sicrhau bod cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael ei chymhwyso, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (y ‘Rheoliad Rheolaethau Swyddogol’ neu’r ‘OCR’).

    Deddfwriaeth genedlaethol Chymru, Lloegr a’r Alban: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organebau wedi’u Haddasu’n Enetig) (Lloegr) 2019, Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organebau wedi’u Haddasu’n Enetig) (Cymru) 2020, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Rheolaethau Swyddogol a Diwygiadau Amrywiol) (Yr Alban) 2019, Iechyd Planhigion etc (Ffioedd) (Lloegr) 2018, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Lloegr a’r Alban) 2015, Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Yr Alban) 2014, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Ardystiad Allforio) (Yr Alban) 2018 a’r Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Porthiant a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc) Rheoliadau 2019, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Brexit) (Yr Alban) (Diwygio) (Rhif 2) 2021. 

  3. Ffynonellau: