Canllawiau

Risg a diogelwch: newidiadau i gyfraith PIP o 21 Awst 2020

Diweddarwyd 22 May 2024

Cefndir

Wrth wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i ymolchi a chael bath.

Newid i gyfraith PIP

Yn dilyn dyfarniad tribiwnlys, o 21 Awst 2020, bu newid yn y ffordd yr ydym yn ystyried a all rhywun ymolchi neu chael bath yn ddiogel, fel rhan o’r asesiad PIP.

Os nad yw hawlydd sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw yn gallu clywed larwm tân safonol wrth ymolchi neu chael bath, er bod y risg o dân yn isel, rydym nawr yn ystyried a oes angen larwm gweledol (cymorth neu declyn), neu oruchwyliaeth os ni fyddai larwm gweledol yn briodol, er mwyn golchi neu chael bath yn ddiogel.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Rydym nawr yn edrych ar hawliadau PIP gan bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw a allai gael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae hyn yn cynnwys adolygu rhai hawliadau y gwnaethom benderfynu arnynt ar neu ar ôl 21 Awst 2020, gan gynnwys rhai lle na wnaethom ddyfarnu PIP. Nid ydym yn bwriadu gofyn i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth bellach na’ch gwahodd am asesiad fel rhan o’r adolygiad hwn. Byddwn yn edrych ar wybodaeth sydd gennym eisoes am eich nam ar y clyw o’ch cais PIP.

Ni fyddwn yn edrych eto ar eich cais os:

  • gwnaethom ddyfarnu’r gyfradd uwch y rhan bywyd bod dydd o PIP i chi yn barhaus ers 21 Awst 2020
  • mae Tribiwnlys wedi gwneud penderfyniad ar eich hawliad ers 21 Awst 2020
  • gwnaethom benderfynu peidio â dyfarnu PIP i chi cyn 21 Awst 2020

Os byddwn yn adolygu eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch ac nid oes angen i chi gysylltu â ni. Efallai y bydd yn cymryd ychydig amser i chi gael y llythyr hwn.

Os byddwn yn penderfynu y dylech gael mwy o PIP, yna fel arfer bydd eich dyfarniad yn cael ei ôl-ddyddio i 21 Awst 2020. Os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 21 Awst 2020, bydd fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael PIP.

Gallwch wneud cais am PIP eto os credwch y gallech fod yn gymwys nawr. Bydd y newid i gyfraith PIP yn berthnasol i bob cais newydd.

Mae wedi’i gymhwyso i bob penderfyniad PIP ers 17 Mai 2021.

Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu’r Ganolfan Gyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.