Guidance

Welsh: Credyd Pensiwn: gwybodaeth ychwanegol

Updated 22 August 2019

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am Gredyd Pensiwn.

A allai gael Credyd Pensiwn?

Os ydych yn sengl, gallwch gael Credyd Pensiwn os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Darganfyddwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes gennych bartner, gallwch gael Credyd Pensiwn os ydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gall y naill un neu’r llall ohonoch wneud cais, ond dim ond un ohonoch sy’n gallu cael Credyd Pensiwn ar unrhyw adeg. Mae’n cael ei dalu ar ran y ddau ohonoch. Gallwn eich helpu i benderfynu pwy ddylai gwneud cais.

Mae partner yn golygu:

  • person rydych yn byw gyda nhw sy’n ŵr, gwraig neu bartner sifil i chi, neu
  • person rydych yn byw gyda nhw fel petaech yn gwpl priod

O 15 Mai 2019, os oes gennych bartner a dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer ni fyddwch yn gallu dechrau cael Credyd Pensiwn. Ewch i Newidiadau i Gredyd Pensiwn ar gyfer cyplau o 15 Mai 2019 i gael rhagor o wybodaeth am y newid hwn, gan gynnwys pan nad yw’n gymwys.

Gallech gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os ydych:

  • yn byw gyda’ch teulu sydd wedi tyfu fyny
  • yn berchen ar gartref chi eich hun, neu
  • mewn ysbyty neu gartref gofal.

Faint y gallaf ei gael?

Mae’r swm Credyd Pensiwn a gewch yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn bob wythnos, a faint sydd gennych wedi’i gynilo neu ei fuddsoddi. Os oes gennych bartner, byddwn yn ychwanegu eich incwm a chyfalaf chi ac incwm a chyfalaf eich partner at ei gilydd wrth gyfrifo eich Credyd Pensiwn.

Mae gan Gredyd Pensiwn 2 ran:

  • Credyd Gwarantedig, sy’n ychwanegu at eich incwm wythnosol hyd at leiafswm penodol
  • Credyd Cynilo, sy’n daladwy mewn rhai amgylchiadau lle mae rhywun wedi cynilo ychydig o arian tuag at eu hymddeoliad, fel ail bensiwn neu gynilion

Gallech gael y naill ran neu’r ddau.

Cafodd y rhan Credyd Cynilo o Gredyd Pensiwn ei gau i bobl roedd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar, neu ar ôl, 6 Ebrill 2016.

Os oeddech chi a’ch partner (os oes gennych un), wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, gallwch barhau i gael Credyd Cynilo, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, waeth pryd rydych yn gwneud cais. Os ydych yn gwpl ac mae un person wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a’r llall ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2016, gallwch dim ond cael Credyd Cynilo os oes un ohonoch:

  • eisoes yn ei gael yn union cyn 6 Ebrill 2016, ac
  • wedi bod â hawl iddo trwy’r adeg ers 6 Ebrill 2016

Efallai y gallech hefyd gael mwy o Gredyd Pensiwn os ydych chi neu’ch partner:

  • ag anabledd difrifol
  • yn ofalwr
  • gyda chyfrifoldeb am blentyn neu berson ifanc cymwys
  • gyda chostau tai penodol

Newidiadau i Gredyd Pensiwn ar gyfer pobl sydd â phlant o 1 Chwefror 2019

O Chwefror 2019, mae Credyd Pensiwn yn cynnwys swm ychwanegol i’r rhai sy’n gyfrifol am blant. Gallech fod yn gymwys i’r swm ychwanegol hwn fel rhan o’ch Credyd Gwarantedig os:

  • oes gennych brif gyfrifoldeb dros blentyn o dan 16 oed neu berson ifanc cymwys, ac
  • mae’r plentyn neu’r person ifanc cymwys fel arfer yn byw gyda chi

Mae person ifanc cymwys yn golygu person rhwng 16 a 19 oed ac mewn addysg lawn amser neu hyfforddiant cymeradwy.

Mae’n rhaid i chi beidio â bod yn hawlio credydau treth yn y flwyddyn flaenorol. Os ydych yn hawlio am gymorth i blant trwy Gredyd Treth Plant, bydd hwn yn parhau ac nid oes yn rhaid i chi gysylltu â ni. Os ydych wedi gwneud cais am gredydau treth yn y flwyddyn flaenorol mae’n rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM (HMRC) i weld a ydynt yn gallu parhau gyda’ch cymorth.

Newidiadau i Gredyd Pensiwn i gyplau o 15 Mai 2019

Cyn 15 Mai 2019, gallai unigolyn dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda phartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. O 15 Mai 2019, fel arfer bydd angen i’r ddau bartner fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth er mwyn gallu dechrau cael Credyd Pensiwn.

Os dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch dim ond yn gallu dechrau cael Credyd Pensiwn os, ar y diwrnod y mae eich hawl yn dechrau, mae gennych hawl (fel cwpl) i Fudd-dal Tai ar gyfer pobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai.

Gall y naill bartner fod y person sy’n hawlio Budd-dal Tai i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth:

  • wedi ei gyrraedd cyn 15 Mai 2019
  • fod yr un sy’n gwneud y cais am Gredyd Pensiwn

Mae’r newidiadau hyn hefyd yn berthnasol i Fudd-dal Tai i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn golygu os dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch dim ond yn cael Budd-dal Tai (fel cwpl) i bobl sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth os naill ai:

  • dechreuodd y cais am Fudd-dal Tai cyn 15 Mai 2019, neu
  • dechreuodd y cais am Fudd-dal Tai o ddyddiad ar neu ar ôl 15 Mai 2019 pan roeddech hefyd yn gymwys i Gredyd Pensiwn fel rhan o’r un cwpl

Mae fy mhartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond fe gyrhaeddais oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai. Nid wyf yn cael Credyd Pensiwn ar hyn o bryd – a allai dal wneud cais?

Efallai y gallech gael Credyd Pensiwn (neu ei ddechrau cael eto) os ydych chi a’ch partner â hawl i Fudd-dal Tai i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar y diwrnod rydych am ddechrau hawlio Credyd Pensiwn. Gallwch ôl-ddyddio cais am Gredyd Pensiwn (a Budd-dal Tai) hyd at 3 mis, ar yr amod y byddwch wedi bod yn gymwys ar ddyddiad cynharach.

Rwyf yn cael Credyd Pensiwn yn barod i fi fy hun a’m partner, ond nid yw fy mhartner wedi cyrraedd yr oedran gymhwyso – a fydd y newidiadau o 15 Mai 2019 yn effeithio arnom?

Os oes gennych hawl i Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd, byddwch yn parhau i’w gael cyhyd â’ch bod yn parhau i fod yn gymwys iddo, heb seibiant.

Os ydych yn stopio bod yn gymwys amdano ar neu ar ôl 15 Mai 2019 am unrhyw reswm, ni fyddwch fel arfer yn gallu dechrau ei gael eto i chi neu’ch partner cyn y bydd eich partner yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Yr eithriad i hwn yw os rydych chi a’ch partner hefyd yn gymwys i Fudd-dal Tai i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar yr adeg y mae eich Credyd Pensiwn yn stopio, ac rydych dal yn gymwys iddo (fel rhan o’r un cwpl) pan rydych yn gwneud eich cais am Gredyd Pensiwn.

A fydd fy Nghredyd Pensiwn yn cael ei effeithio os wyf yn dechrau byw gyda phartner sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

O 15 Mai 2019, os ydych yn dechrau byw gyda phartner sydd dal i fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd eich Credyd Pensiwn yn stopio. Os rydych hefyd yn cael Budd-dal Tai, bydd hwn hefyd yn stopio.

Mae hyn oherwydd bod rheolau newydd yn gymwys o’r dyddiad hwnnw sy’n golygu bod yn rhaid i’r ddau bartner fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn i gwpl allu cael Credyd Pensiwn. Mae’r rheolau hyn hefyd yn gymwys i Fudd-dal Tai i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Pa fudd-daliadau eraill efallai y gallaf eu cael ar ôl i mi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os na allaf gael Credyd Pensiwn oherwydd bod fy mhartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

Efallai gallwch chi a’ch partner gael Credyd Cynhwysol yn ei le. Os rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais gyda’ch gilydd, ond unwaith rydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn cael unrhyw amodau sy’n seiliedig ar waith wedi’u cymhwyso i chi.

Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Efallai gallech chi a’ch partner cael budd-dal arall yn lle gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Efallai y gallech wneud hwn os yw unrhyw rhai o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol i chi.

1. Ar hyn o bryd rydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Fudd-dal Tai ar gyfer pobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar eich cyfer chi a’ch partner ac rydych yn gymwys i Bremiwm Anabledd Difrifol fel rhan o’r budd-dal hwnnw. Lle mae hyn yn digwydd, ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol ond:

  • pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae rheolau newydd yn caniatáu i’ch budd-dal presennol barhau er eich bod dros yr oedran arferol o allu ei hawlio, cyhyd â’ch bod yn parhau’n gymwys ar gyfer y Premiwm Anabledd Difrifol a bodloni amodau hawl eraill

  • os ydych dim ond yn hawlio Budd-dal Tai, efallai gallwch wneud cais newydd am un o’r budd-daliadau eraill os oes angen help ariannol ychwanegol arnoch, hyd yn oed pan rydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

2. Mae eich partner ar hyn o bryd yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ar ran y ddau ohonoch. Lle mae hyn yn digwydd, pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall eich partner parhau i hawlio eu budd-dal presennol, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau hawlio arferol.

3. Rydych chi a’ch partner ar hyn o bryd yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm fel cais cwpl ar y cyd. Lle mae hyn yn digwydd, pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall eich partner parhau i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, gyda’ch partner yn cymryd cyfrifoldeb am y cais ar gyfer y ddau ohonoch, cyhyd â’u bod yn parhau i fodloni’r amodau hawlio arferol.

4. Rydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan rydych yn dechrau byw gyda’ch partner ac maent eisoes yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm. Lle mae hyn yn digwydd, fel arfer bydd eich partner yn gallu hawlio ar ran y ddau ohonoch trwy eich ychwanegu chi at eu cais nhw, cyhyd a’i bod yn parhau i fodloni’r amodau arferol i’w budd-dal presennol (ni fydd hwn yn gymwys, er enghraifft, mae eich partner yn hawlio Cymhorthdal Incwm fel rhiant sengl - yn y sefyllfa hon, os ydych yn dechrau byw gyda’ch gilydd fel cwpl, bydd eu Cymhorthdal Incwm yn stopio a bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol).

Gall eich hawl chi, neu hawl eich partner, i unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn neu fudd-daliadau eraill stopio ar ôl i chi gyrraedd Pensiwn y Wladwriaeth os bydd eich amgylchiadau’n newid yn hwyrach ymlaen. Os yw eich partner dal i fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fydd hyn yn digwydd, efallai gallech gael Credyd Cynhwysol.

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os oedd y budd-dal roeddech chi neu’ch partner yn ei gael yn cynnwys y Premiwm Anabledd Difrifol, ac mae’r ddau beth canlynol yn gymwys:

  • nid oes mwy na mis wedi mynd heibio ers i’r cais blaenorol ddod i be
  • mae’r person roedd yn hawlio’r budd-dal wedi parhau i fodloni’r amodau arferol i hawl ar gyfer y Premiwm Anabledd Difrifol

Yn y sefyllfa hon, efallai y gallech ail wneud cais am y budd-dal roeddech eisoes yn ei gael yn lle.

Bydd staff eich Canolfan Gwaith lleol yn gallu rhoi cyngor i chi am ba fudd-dal i wneud cais amdano.

A allaf wneud cais am Gredyd Pensiwn os wyf yn dod o du allan i Brydain Fawr?

Pan rydych yn gwneud cais, mae’n rhaid eich bod yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae’n rhaid i chi beidio â bod yn ‘destun i reolaeth mewnfudo’; mae hyn yn golygu rhaid bod dim cyfyngiadau byddai’n eich stopio rhag cael help ariannol gan y wladwriaeth. Bydd hefyd angen i chi fodloni’r Prawf Hawl i Breswylio. Mae rhai eithriadau i’r rheolau hyn.

Os oes rhywbeth nad ydych yn siŵr amdano, gofynnwch i ni.

A allaf adael Prydain Fawr a pharhau i gael Credyd Pensiwn?

Efallai y byddwn yn talu Credyd Pensiwn am hyd at 4 wythnos tra rydych i ffwrdd o Brydain Fawr dros dro ac efallai y byddwn yn talu hyd at 8 wythnos os yw’r absenoldeb mewn perthynas â marwolaeth.

Os yw’r absenoldeb mewn perthynas â thriniaeth feddygol neu wellhad wedi’i gymeradwyo gan feddyg yn unig, efallai byddwn yn talu Credyd Pensiwn am hyd at 26 wythnos.

Ond dylech ddweud wrthym cyn eich bod yn gadael Prydain Fawr am unrhyw reswm o gwbl, hyd yn oed os byddwch ond i ffwrdd am gyfnod byr yn unig. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn mynd i Ogledd Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.

Ni chefais Gredyd Pensiwn ar ôl gwneud cais o’r blaen. A allai wneud cais eto?

Gallwch, os yw eich amgylchiadau personol neu’r cyfraddau budd-dal wedi newid, efallai byddwch yn cael Credyd Pensiwn nawr. Os ydych yn credu gallech fod yn gymwys, peidiwch ag oedi i wneud cais.

Cyfnodau Asesu Incwm (AIPs)

Mae Cyfnod Asesu Incwm (AIP) yn gyfnod pan nad oes yn rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau yn eich pensiynau, cynilion neu fuddsoddiadau. Mae eich llythyr dyfarniad Credyd Pensiwn yn dweud wrthych os oes gennych un.

O 6 Ebrill 2016, nid oes unrhyw AIP newydd wedi cael eu gosod.

Os oedd gennych AIP a oedd yn mynd i ddod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, byddai wedi dod i ben ar neu cyn 28 Mawrth 2019 ac ni fyddai wedi cael ei adnewyddu.

Os rydych dros 75 oed ac yn cael AIP heb ddyddiad gorffen, bydd yn parhau mewn lle hyd nes i amgylchiadau eich cartref newid, er enghraifft os ydych yn symud i mewn i gartref gofal neu rydych yn dod yn rhan o gwpl.

Pan fydd eich AIP yn gorffen, bydd angen i chi ddweud wrthym am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, gan gynnwys pensiynau.

Oes angen i mi ddweud wrthych os bydd fy amgylchiadau’n newid?

Os nad oes gennych AIP, dylech ddweud wrthym am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i’ch incwm neu eich cynilion.

Hyd yn oed os oes AIP gennych, dylech ddweud wrthym ar unwaith am newidiadau heb law am sut rydych yn ariannu eich ymddeoliad.