Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith: pecyn cais ymgeiswyr
Mae'r pecyn hwn yn egluro Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith, sut i wneud cais am gyllid grant, ac a yw'n addas ar gyfer eich sefydliad.
Dogfennau
Manylion
Bydd Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith yn buddsoddi hyd at £60 miliwn dros gyfnod o 2 flynedd ar ffurf grantiau i brofi syniadau newydd sy’n cefnogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor i symud tuag at waith, dechrau gweithio, aros a symud ymlaen yn eu gwaith. Rydym yn chwilio am syniadau a dulliau gweithredu newydd, gan gynnwys defnyddiau newydd o dechnoleg. Mae’r Gronfa ar agor i geisiadau am grantiau gan sefydliadau ledled y DU, gan gynnwys:
- sefydliadau sector cyhoeddus
- busnesau
- sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
- partneriaethau a chonsortia
Mae gennym ddiddordeb mewn syniadau a all wella canlyniadau cyflogaeth a chynhyrchu gwersi gwerthfawr.
Canllawiau ymgeiswyr
Mae’r dudalen hon yn cynnwys y canlynol ar gyfer Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith:
- Pecyn cais i ymgeiswyr
- Cwestiynau Cyffredin (CC)
- Ffurflen gais
- Templedi ategol
Fformatau hygyrch
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r fformatau hygyrch canlynol ar y dudalen hon:
- Saesneg
-
Print bras
-
Hawdd ei Ddarllen – nodwch efallai na fydd y fersiwn hon yn addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin. Cysylltwch â ni i ofyn am fersiwn arall.
- testun hygyrch
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- sain
Os oes angen fersiwn Braille o’r pecyn cais neu’r Cwestiynau Cyffredin arnoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post a nodir ar waelod y dudalen hon.
Dogfennau cais
Mae’r holl ddogfennau sydd eu hangen i baratoi eich cais ar gael isod.
Yn gynnar ym mis Hydref 2026, byddwn yn lansio porth ceisiadau ar-lein; yn y rhan fwyaf o achosion, dyma fydd y ffordd orau o wneud cais. Fodd bynnag, yn y cyfamser, gallwch lawrlwytho ffurflen gais a’i chyflwyno drwy’r post neu drwy e-bost os dymunwch.
Yn ogystal â’ch ffurflen gais, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol hefyd:
- Templed cerrig milltir a chyflawni – rhowch drosolwg cryno o sut y caiff y cynnig ei gyflawni, y cerrig milltir pwysig i’w cyflawni, a sut y caiff y gwaith cyflawni ei fonitro drwy gydol y prosiect.
- Templed cyllideb – rhowch ddadansoddiad clir o’r cyllid y gofynnir amdano a sut y caiff ei ddefnyddio i brofi, datblygu, gweithredu neu werthuso’r arloesedd.
Ffurflen bartneriaeth
Rydym yn gwybod efallai y bydd rhai sefydliadau neu unigolion yn dymuno archwilio’r posibilrwydd o ffurfio partneriaeth i baratoi a chyflwyno cais. Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn cyhoeddi cyfeiriadur partneriaethau erbyn 5 Hydref 2026 i helpu sefydliadau ac unigolion i gysylltu â phartneriaid posibl cyn cyflwyno ceisiadau.
Os hoffech i’ch sefydliad, eich syniad neu eich prosiect gael ei gynnwys yn y cyfeiriadur partneriaethau, llenwch y Ffurflen Diddordeb mewn Partneriaeth. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi ar-lein fel y gall pobl sydd â diddordeb mewn gweithio gyda chi wneud cyswllt. Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post isod.
Manylion cyswllt
E-bost: dwp.pathwaystoworkinnovationfund@dwp.gov.uk
Cyfeiriad post:
Pathways to Work Innovation Fund
Ernst & Young
1 More London Place
Llundain
SE1 2AF