Skip to main content
Canllawiau

Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd 16 Hydref 2026

1. Cwestiynau am Ymgeiswyr Cymwys

A allaf wneud cais fel unigolyn?

Na. Ni all unigolion wneud cais ar eu pen eu hunain.

Os oes gennych syniad, gallwch weithio gyda sefydliad a gwneud cais gyda’ch gilydd.

Os hoffech gymorth i ddod o hyd i sefydliad i gyd-weithio â nhw, cwblhewch y ffurflen hon: [Dolen i’r ffurflen]

A all sefydliadau’r sector cyhoeddus wneud cais?

Gallant. Gall sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau strategol, wneud cais.

Ni all adrannau Llywodraeth Ganolog y DU wneud cais.

A all sefydliadau ffurfio partneriaethau neu gonsortia?

Gallant. Mae partneriaethau a chonsortia yn gymwys am y cynllun hwn.

Mae’n rhaid i un sefydliad weithredu fel arweinydd y cais a delio â gohebiaeth drwy’r porth cyllid.

Os hoffech gymorth i ddod o hyd i sefydliad y gallech gyd-weithio â nhw, cwblhewch y ffurflen hon. [Dolen i’r ffurflen]

A oes angen i bob partner fodloni’r gofynion cymhwysedd?

Oes, mae’n rhaid i bob partner fodloni’r rheolau cymhwysedd yn y Pecyn Cynnig Ymgeisydd. Yr unig eithriad yw unigolion, sy’n gallu gwneud cais fel rhan o bartneriaeth yn unig ac nid ar eu pennau eu hunain.

Pa wiriadau diwydrwydd dyladwy a gynhelir ar sefydliadau?

Bydd gweinyddwyr y grant yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar eich sefydliad ar ôl i chi wneud cais.

Bydd hyn yn cynnwys gwiriad Spotlight.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bellach drwy’r porth cyllid er mwyn i ni allu cwblhau’r gwiriadau hyn.

2. Cwestiynau am Brosiectau Cymwys

A gaf i wneud cais os ydw i eisoes wedi cael cyllid arall gan DWP?

Gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych eisoes wedi cael cyllid o gynllun arall gan DWP.

A oes angen profiad blaenorol ar fy sefydliad ym maes cymorth cyflogaeth?

Na. Nid oes angen profiad blaenorol ym maes cymorth cyflogaeth ar eich sefydliad i wneud cais.

Mae Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith ar agor i sefydliadau sydd â syniadau arloesol a allai helpu pobl i symud tuag at waith, dechrau gweithio, aros mewn gwaith a symud ymlaen yn eu gyrfa. Rydym yn croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o sefydliadau, waeth beth fo’u lefel o brofiad yn y maes hwn.

Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu egluro’n glir beth yw eich syniad, y broblem y mae’n ceisio ei datrys, a sut y gallai wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

A allaf i wneud cais gyda phrosiect sydd eisoes yn cael ei gyflwyno o fewn “Llwybrau at Waith”?

Os yw rhan o’ch prosiect yn cynnwys profi dull newydd neu well a allai arwain at ganlyniadau gwell neu greu gwersi defnyddiol, gallai fod yn addas ar gyfer y gronfa o hyd. Dylech egluro’n glir pa rannau o’ch prosiect sy’n arloesol a beth rydych yn gobeithio ei ddysgu ohonynt.

A oes angen tystiolaeth arnaf i brofi bod fy syniad eisoes yn gweithio?

Na. Nid oes angen i chi brofi bod eich syniad eisoes yn gweithio cyn i chi wneud cais.

Cronfa ar gyfer arloesi yw hon, sy’n golygu ei bod wedi’i chynllunio i brofi syniadau newydd a darganfod beth sy’n gweithio. Rydym yn gwybod y bydd rhai syniadau yn dal i fod yn eu cyfnodau cynnar, ac mae hynny’n iawn.

Rydym yn chwilio am brosiectau sydd â syniad clir, sy’n deall y broblem maent yn ceisio ei datrys, ac sy’n gallu egluro sut y gallent wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydym yn credu y gall profi dulliau newydd ac arloesol ein helpu i ddysgu beth sy’n gweithio orau a chreu canlyniadau gwell i bobl.

Bydd angen taliad ymlaen llaw arnaf i gwblhau fy mhrosiect. A allaf wneud cais o hyd?

Gallwch. Os oes angen arian arnoch i helpu i ddechrau eich prosiect, gallwch ofyn am daliad paratoi yn eich cais.

Caiff ceisiadau am daliadau paratoi eu hystyried yn unigol ac ni chânt eu rhoi ond mewn amgylchiadau eithriadol. Gwneir y rhan fwyaf o daliadau drwy’r gronfa hon ar ôl i gostau’r prosiect gael eu hysgwyddo a’u hawlio.

A yw gwneud cais am daliad paratoi yn effeithio ar fy nghyfle o gael cyllid?

Na. Mae Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith wedi’i chynllunio i gefnogi syniadau arloesol, ac ni fydd gofyn am daliad paratoi yn eich rhoi dan anfantais yn ystod y broses asesu.

Mae taliadau paratoi ar gael i helpu sefydliadau i ddechrau a chyflawni eu prosiectau. Rydym yn deall y gallai rhai sefydliadau fod angen cyllid ar ddechrau prosiect er mwyn rhoi eu cynlluniau ar waith.

A gaf i wneud cais gyda phrosiect sydd eisoes wedi sicrhau cyllid o ffynhonnell arall?

Gallwch, gall eich prosiect gael cyllid o fwy nag un ffynhonnell. Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio cyllid o’r cynllun hwn i ddisodli cyllid sydd eisoes wedi’i addo i’ch prosiect.

3. Cwestiynau am Arloesi

Beth yw diffiniad ‘arloesedd’ yn y cynllun hwn?

Ar gyfer y cynllun hwn, mae arloesi yn golygu gwneud rhywbeth newydd, gwahanol neu’n sylweddol well, a allai arwain at ganlyniadau cyflogaeth well i bobl sydd ag anabledd a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Gall arloesi gynnwys:

  • Gwasanaeth, ymyriad neu fodel cyflwyno newydd

  • Partneriaeth neu ffordd newydd o weithio

  • Defnydd newydd o dechnoleg

  • Defnyddio dull presennol mewn lleoliad, lle neu grŵp targed newydd

  • Ehangu neu addasu syniad llwyddiannus mewn ffordd sy’n arwain at ddysgu newydd sylweddol

  • Creu dysgu a allai gefnogi mabwysiadu ehangach yn y dyfodol

Mae’n annhebygol y bydd arloesedd yn cynnwys:

  • Darparu gwasanaeth presennol heb newid ystyrlon

  • Gweithgaredd arferol a fyddai’n digwydd beth bynnag

  • Dyblygu cymorth presennol heb fudd clir na chyfle i ddysgu

Gallai hyn fod yn wasanaeth newydd, yn ffordd newydd o weithio, yn bartneriaeth newydd, neu’n ffordd newydd o ddefnyddio dull presennol. Rydym yn cydnabod na fydd pob syniad yn llwyddo, ond dylai pob prosiect ein helpu i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gweithio.

A oes angen i arloesedd fod yn seiliedig ar dechnoleg?

Na. Nid oes angen i arloesi gynnwys technoleg.

Rydym yn croesawu ystod eang o syniadau arloesol, gan gynnwys gwasanaethau newydd, ffyrdd newydd o ddarparu cymorth, partneriaethau newydd, neu welliannau i ddulliau presennol. Yr hyn sy’n bwysig yw sut y gallai’r syniad wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

A all arloesedd gael ei ffocysu ar le neu gymuned benodol?

Gall. Gall arloesedd ffocysu ar le, cymuned neu grŵp penodol o bobl.

Mae gennym ddiddordeb mewn syniadau sy’n ein helpu i wella canlyniadau i bobl sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Nid oes angen cyflawni eich prosiect ar draws y DU cyfan er mwyn iddo gael ei ystyried yn arloesol.

A oes angen i arloesedd fod yn hollol newydd i’r DU?

Na. Nid oes angen i syniad fod yn gwbl newydd i’r DU.

Gallai arloesi olygu defnyddio dull presennol mewn cyd-destun newydd neu ei ddefnyddio gyda grŵp gwahanol o bobl. Y peth pwysig yw dangos sut mae eich dull yn newydd neu wedi’i wella yn eich cyd-destun chi.

A allaf wneud cais os mai dim ond rhan o fy mhrosiect sy’n arloesol?

Gallwch. Nid oes angen i’ch prosiect fod yn gwbl newydd.

Os yw rhan o’ch prosiect yn cynnwys profi dull newydd neu well a allai arwain at ganlyniadau gwell neu greu gwersi defnyddiol, gallai fod yn addas ar gyfer y gronfa o hyd. Dylech egluro’n glir pa rannau o’ch prosiect sy’n arloesol a beth rydych yn gobeithio ei ddysgu ohonynt.

Sut y bydd y Gronfa hon yn ceisio mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth i Bobl Anabl?

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i leihau’r bwlch cyflogaeth i bobl anabl ac i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl. Drwy Gronfa Arloesi ‘Llwybrau at Waith’, rydym yn chwilio am syniadau arloesol a allai gyfrannu at yr uchelgais hwn drwy gefnogi pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i symud nes at waith, dechrau gwaith, aros mewn gwaith neu symud ymlaen yn eu gwaith.

4. Cwestiynau am Gyflwyno Cais

Pryd y gallaf gyflwyno fy nghais?

Gallwch gyflwyno eich cais rhwng 28 Medi 2026 a 26 Hydref 2026.

Rydym yn eich annog i ddechrau paratoi eich cais cyn i’r porth cyllid agor. Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau yn y canllaw hwn i ddrafftio’ch atebion.

Pa mor hir ddylai fy nghais ei gymryd i’w gwblhau?

Bydd yr amser sydd ei angen i gwblhau eich cais yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich prosiect.

Mae cwestiynau’r cais wedi’u cynnwys yn y Pecyn Cynnig Ymgeisydd, felly gallwch ddechrau drafftio’ch atebion a chasglu gwybodaeth cyn i’r porth cyllid agor. Rydym yn eich annog i ddechrau paratoi’n gynnar a gadael digon o amser i adolygu eich cais cyn ei gyflwyno.

A gaf i drafod fy syniad gyda DWP cyn ei gyflwyno?

Na. Er mwyn sicrhau bod y broses ymgeisio yn deg i bawb, ni all DWP drafod syniadau prosiect unigol gydag ymgeiswyr cyn cyflwyno cais.

Caiff pob cais ei asesu drwy ddefnyddio’r un meini prawf, a bydd ymgeiswyr yn cael yr un wybodaeth drwy’r dogfennau canllaw, y cwestiynau a ofynnir yn aml a chyfathrebiadau eraill y Gronfa.

Ar ôl cyflwyno ceisiadau, gellir gwahodd ymgeiswyr i gymryd rhan mewn Sesiynau Mireinio Cais. Mae’r gweithdai hyn yn rhoi cyfle i archwilio a datblygu syniadau prosiect ymhellach fel rhan o’r broses arloesi.

A gaf i gadw fy nghais a dychwelyd ato yn ddiweddarach yn y porth cyllid?

Gallwch. Gallwch arbed eich cais a dychwelyd ato’n ddiweddarach cyn ei gyflwyno.

I gael mynediad at eich cais wedi’i arbed, y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi i’r porth cyllid drwy ddefnyddio’r un manylion cyfrif a ddefnyddiwyd gennych pan ddechreuoch y cais. Bydd eich gwybodaeth wedi’i harbed dal yno i chi allu parhau i weithio arni.

Rydym yn eich annog i arbed eich gwaith yn rheolaidd a gadael digon o amser i adolygu eich cais cyn y dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno.

A gaf i wneud newidiadau i fy nghais ar ôl ei gyflwyno?

Na. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, ni allwch wneud unrhyw newidiadau iddo yn y porth cyllid, hyd yn oed os yw’r cyfnod gwneud cais dal ar agor.

Os caiff eich cais ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y cam mireinio ceisiadau, cewch gyfle i’w wella a’i ddiweddaru drwy ddefnyddio’r cymorth a ddarperir yn y cam hwnnw.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn methu’r dyddiad cau ar gyfer y cais?

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich cais. Unwaith y bydd y cyfnod gwneud cais yn cau, ni fydd y porth cyllid yn derbyn ceisiadau mwyach.

Rydym yn eich annog i baratoi eich cais yn gynnar a’i gyflwyno cyn y dyddiad cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

Os oes angen fersiwn hygyrch o’r cais arnoch, neu os ydych wedi gofyn am addasiadau rhesymol, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y broses gwneud cais.

A all sefydliad gyflwyno sawl syniad yn ystod y cyfnod ariannu hwn?

Gall, gallwch wneud cais gyda sawl syniad. Bydd angen i chi gwblhau cais llawn ar gyfer pob un. Nid yw gwneud cais gydag un syniad yn golygu y bydd eich syniadau eraill yn cael cyllid hefyd.

A yw dogfennau ategol yn orfodol?

Ydynt. Mae dwy ddogfen ategol y mae’n rhaid eu cwblhau a’u cyflwyno gyda’ch cais:

  • Y Templed Cyllid

  • Y Cynllun Cyflawni a’r Templed Cerrig Milltiroedd

Mae’r dogfennau hyn yn ein helpu i ddeall eich prosiect, sut rydych yn bwriadu ei gyflawni, a sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio.

Gallwch hefyd uwchlwytho hyd at dri atodiad ychwanegol os credwch y byddant yn helpu i egluro eich cais. Er enghraifft, efallai yr hoffech ddarparu ymchwil, tystiolaeth, llythyrau cefnogaeth neu wybodaeth berthnasol arall.

Mae’r atodiadau ychwanegol hyn yn ddewisol ac nid oes eu hangen er mwyn i’ch cais gael ei ystyried.

A yw Sesiynau Mireinio Cais yn orfodol?

Na. Nid yw cymryd rhan mewn Sesiynau Mireinio Cais yn orfodol. Fodd bynnag, rydym yn annog ymgeiswyr i gymryd rhan, gan y gall y gweithdai helpu i gryfhau a mireinio cynigion prosiect.

Cynhelir y gweithdai hyn ar ôl i’r ceisiadau gael eu cyflwyno. Fe’u cynlluniwyd i’n helpu i archwilio a datblygu syniadau ymhellach gyda’r ymgeiswyr fel rhan o’r broses arloesi, gan ddefnyddio ein panel arbenigol a’u profiad.

Bydd y prif themâu a’r hyn a ddysgwyd yn y gweithdai yn cael eu rhannu gyda’r holl ymgeiswyr fel bod pawb yn cael mynediad at yr un wybodaeth.

Bydd opsiynau i fynychu’n bersonol neu ar-lein, gan eich galluogi i ddewis y fformat sy’n gweithio orau i chi.

5. Cwestiynau am Gostau Cymwys

Faint y gallaf wneud cais amdano drwy’r Gronfa hon?

Nid oes uchafswm y gallwch wneud cais amdano.

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau o wahanol feintiau.

Rydym eisiau ariannu amrywiaeth o brosiectau, felly rydym yn eich annog i wneud cais am y swm sydd ei angen arnoch i gyflwyno eich syniad.

Pa fathau o weithgareddau a chostau y gellir eu hariannu?

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n eich helpu i ddatblygu, profi a chyflawni eich syniad.

Gallai hyn gynnwys costau staff, costau cyflawni’r prosiect, ymchwil, profi, gwerthuso, technoleg, offer, cymorth arbenigol a gweithio gyda phartneriaid.

Mae’n rhaid i bob cost fod yn gysylltiedig â’ch prosiect, cynnig gwerth da am arian, a digwydd yn ystod cyfnod y prosiect a ariennir. Dylech egluro’r holl gostau yn glir yn eich cais.

A allaf gynnwys costau staff?

Gallwch. Gallwch gynnwys costau staff os ydynt yn uniongysylltiedig â chyflawni eich prosiect. Dylech egluro’n glir rôl y staff a sut y bydd eu gwaith yn cefnogi’r prosiect.

A ellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau presennol?

Dylid defnyddio cyllid ar gyfer gweithgareddau newydd neu ychwanegol sy’n helpu i ddatblygu, profi neu gyflwyno eich syniad arloesol. Dylech esbonio sut y bydd y cyllid yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i waith arferol eich sefydliad.

A allaf ariannu offer?

Gallwch. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer offer, technoleg neu gymorth arbenigol os oes eu hangen i gyflawni eich prosiect. Rhaid esbonio’r holl gostau’n glir a sicrhau eu bod yn cynrychioli gwerth da am arian.

A allaf ddefnyddio cyllid ar gyfer gweithgareddau gwerthuso?

Gallwch. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau monitro, gwerthuso a dysgu. Rydym yn annog ymgeiswyr i ymgorffori gwerthusiad yn eu prosiectau fel y gallant ddeall beth a weithiodd, beth na weithiodd, a pham.

6. Cwestiynau am yr Asesiad

Ar ba gategorïau y caiff fy nghais ei asesu?

Caiff eich cais ei asesu yn erbyn chwe phrif faes:

  • Her ac Angen – y broblem rydych am ei datrys.

  • Arloesedd a Dysgu – beth sy’n newydd neu’n wahanol am eich syniad a beth ellir ei ddysgu ohono.

  • Canlyniadau ac Effaith – y gwahaniaeth y gallai eich prosiect ei wneud.

  • Hygyrchedd, Cynhwysiant ac Anghenion Defnyddwyr – sut mae eich prosiect yn diwallu anghenion y bobl y mae wedi’i gynllunio i’w helpu.

  • Cyflawni, Partneriaethau a Photensial ar gyfer y Dyfodol - sut y byddwch yn cyflawni eich prosiect ac yn gweithio gydag eraill.

  • Gwerth am Arian – sut mae’r costau’n cymharu â’r manteision a’r gwersi y gallai eich prosiect eu darparu.

Rydym yn eich annog i ddarllen holl gwestiynau’r cais yn ofalus ac egluro sut mae eich prosiect yn bodloni pob un o’r meysydd hyn.

Sut caiff ceisiadau eu sgorio?

Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y chwe maes asesu a nodir yn y canllawiau ac uchod. Rhoddir sgôr i bob maes ar raddfa o 1 i 5, gyda sgoriau uwch yn cael eu rhoi i geisiadau sy’n darparu tystiolaeth gryfach ac yn bodloni’r meini prawf asesu yn gliriach.

Yna defnyddir y sgoriau o’r holl feysydd asesu chwech i helpu i lywio penderfyniadau ariannu.

A fydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan fwy nag un asesydd?

Ie, bydd mwy nag un person yn adolygu pob cais. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y broses yn deg a bod y penderfyniadau o safon dda.

7. Cwestiynau am Ddyfarnu

Pwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol am y dyfarniadau?

Gwneir y penderfyniad terfynol am ddyfarniadau gan DWP yn dilyn argymhellion gan aseswyr a phanel cynghori arbenigol.

Pryd y caf wybod a ydw i wedi cael dyfarniad?

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus yn cael gwybod am y penderfyniad ynghylch cyllid o fis Ionawr 2027 ymlaen.

Os bydd yr ymgeisydd yn llwyddiannus, bydd cytundeb cyllid grant pwrpasol ar gael i’w lofnodi er mwyn cadarnhau’r cyllid.

A fydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael adborth?

Bydd. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael adborth yn egluro pam na chafodd ei ddewis ar gyfer cyllid.

Bydd yr adborth yn amlygu’r prif resymau dros y penderfyniad ac yn gallu nodi meysydd y gellid eu cryfhau yn y dyfodol.

Gobeithiwn y bydd yr adborth hwn yn helpu ymgeiswyr i ddeall canlyniad eu cais ac yn cefnogi datblygu syniadau yn y dyfodol.

A allai fy nghais gael ei gymeradwyo gyda llai o gyllid na’r swm gwreiddiol fy nghais?

Gall DWP gynnig llai o gyllid na wnaethoch ofyn amdano. Gallai hyn fod oherwydd bod llawer o brosiectau i’w cefnogi, neu oherwydd bod y costau yn eich cais yn cael eu hystyried yn uwch nag sy’n angenrheidiol neu nad ydynt yn cynrychioli’r gwerth disgwyliedig am arian.

Pryd gall fy mhrosiect ddechrau?

Dim ond ar ôl llofnodi’r Cytundeb Cyllid Grant y gall eich prosiect ddechrau.

Ni chaiff unrhyw weithgareddau a ariennir drwy’r grant ddigwydd cyn bod y cytundeb yn ei le. Dylech gynllunio amserlen eich prosiect gan ystyried hyn wrth gwblhau eich cais.

Pa mor hir sydd gen i i wario’r cyllid?

Bydd amserlenni eich prosiect yn cael eu nodi yn eich Cytundeb Cyllid Grant.

Yn gyffredinol, rhaid cwblhau prosiectau a ariennir drwy Gronfa Arloesi ‘Llwybrau at Waith’ o fewn 12 mis. Dylai eich cais egluro’n glir sut y byddwch yn cyflawni eich prosiect o fewn yr amserlen hon.

8. Cwestiynau am Gytundeb Cyllid Grant

A ellir trafod amodau’r Cytundeb Cyllid Grant?

Na. Fel arfer, nid yw telerau’r Cytundeb Cyllid Grant yn agored i drafodaeth.

Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid ar ôl i mi wneud cais?

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi gyflwyno eich cais, dylech roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn llwyddiannus, cyhoeddir cytundebau cyllido cyn i’r prosiect ddechrau. Ni ellir trafod telerau’r cytundebau hyn, felly mae’n bwysig codi unrhyw newidiadau cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

Bydd cyfathrebu’n gynnar yn ein helpu i ddeall a allai’r newid effeithio ar eich cais neu ar eich gallu i gyflawni’r prosiect.

Mewn partneriaeth, a yw’r prif sefydliad yn cael yr holl gyllid?

Ydy, bydd y sefydliad arweiniol yn darparu ei fanylion talu drwy’r porth ar-lein. Caiff yr arian ei dalu iddynt hwy yn gyntaf. Yna, gallant rannu’r arian gyda’r partneriaid eraill y dylai’r arian fynd atynt.

9. Cwestiynau am Fonitro

Pa mor aml y gofynnir i mi adrodd ar fy mhrosiect?

O dan eich Cytundeb Cyllid Grant, bydd angen i chi ddarparu diweddariad misol ar eich prosiect. Bydd angen i chi hefyd gyflwyno adroddiad chwarterol mwy manwl sy’n ymdrin â gwariant, risgiau a chamau allweddol y prosiect. Fel arfer, mae’n rhaid gwneud cais am gyllid ar ôl i’r gwariant ddigwydd, ac eithrio unrhyw daliad paratoi y cytunwyd arno. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol gyda phob cais.

Pryd y gwneir y taliadau?

Caiff taliadau nad ydynt yn ymwneud â pharatoi eu cysylltu â’r cerrig milltir prosiect rydych yn eu cynnwys yn eich cais, a’u talu ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Gellir gweld cwestiynau am daliadau paratoi yn adran 1.

Bydd angen i chi nodi’r cerrig milltir arfaethedig a’r swm o gyllid sy’n gysylltiedig â phob un ohonynt. Gallwch gynnwys hyd at un garreg filltir y gellir talu amdani bob mis yn ystod eich prosiect.

Er mwyn cael taliad, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais a darparu’r dystiolaeth ofynnol bod y garreg filltir wedi’i chwblhau. Bydd ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau misol yn cael eu hystyried ar gyfer rownd daliadau’r mis hwnnw.

Os ydych yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau, neu os yw’r dystiolaeth yn anghyflawn, bydd y taliad yn symud i’r cylch talu misol nesaf.

Beth os bydd fy mhrosiect yn cymryd mwy o amser na’r amserlenni y cytunwyd arnynt?

Mae’n ofynnol cwblhau pob gweithgaredd o fewn yr amserlenni cytunedig a nodir yn y Cytundeb Cyllid. Os oes risg na fydd hyn yn bosibl, dylech gysylltu â dwp.pathwaystoworkinnovationfund@dwp.gov.uk ar unwaith.

A all cynlluniau prosiect newid yn ystod y cyfnod cyflawni?

Gallant. Rydym yn deall y gall prosiectau newid wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg yn ystod y cyfnod cyflawni.

Os oes angen i chi wneud newidiadau i’ch prosiect, dylech eu trafod gyda ni cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid cytuno ar unrhyw newidiadau cyn eu rhoi ar waith.

Gan ei fod yn Gronfa Arloesi, rydym yn cydnabod y gall profi syniadau newydd arwain at newidiadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae’n rhaid i brosiectau barhau i fodloni’r nodau a nodir yn y Cytundeb Cyllid Grant.

A oes unrhyw gymorth ar gael gan DWP yn ystod cyfnod y grant gweithredol?

Oes. Gall sefydliadau a ariennir hefyd gysylltu am gymorth yn ystod eu prosiectau drwy’r porth cyllid neu dwp.pathwaystoworkinnovationfund@dwp.gov.uk.

A ellir adennill fy grant oddi arnaf?

Gall. Mewn rhai amgylchiadau, gallai cyllid gael ei leihau, ei atal dros dro neu ei adennill.

Gallai hyn ddigwydd os nad yw’r prosiect yn cael ei gyflawni yn unol â’r hyn a gytunwyd, os na chydymffurfir â thelerau’r Cytundeb Cyllid Grant, neu os yw’r prosiect yn methu’n gyson â chyflawni’r canlyniadau arfaethedig.

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau sy’n cael cyllid i helpu prosiectau i lwyddo, ond mae’n rhaid i sefydliadau gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn eu Cytundeb Cyllid Grant.

Pwy sy’n berchen ar y dysgu a gynhyrchir yn ystod y ddarpariaeth?

Bydd DWP yn adolygu’r prosiectau a ariennir drwy’r Gronfa Arloesi i weld beth a weithiodd yn dda a beth ellir ei ddysgu. Bydd canlyniadau’r adolygiad hwn yn eiddo i DWP.

A fydd fy nghais yn cael ei gyhoeddi ar unrhyw gam?

Na, nid yw DWP yn bwriadu cyhoeddi unrhyw geisiadau.

10. Cwestiynau am Hygyrchedd

Mae gennyf anghenion hygyrchedd. Sut gallaf gysylltu â’r tîm i gael cymorth?

Rydym am i’r Cronfa Arloesi Llwybrau at Waith fod yn hygyrch i bawb.

Os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i’ch cefnogi yn y broses gwneud cais, mae fformatau hygyrch o ddogfennaeth allweddol y cynllun ar gael ar GOV.UK.

Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, cysylltwch â dwp.pathwaystoworkinnovationfund@dwp.gov.uk.

Pa fformatau hygyrch fydd ar gael?

Mae’r ddogfen hon a Phecyn Cynnig Ymgeisydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal ag yn y fformatau canlynol:

  • Braille

  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

  • Sain

  • Print Bras

  • Hawdd i’w Ddarllen

Mae ein gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys y porth cyllid, wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch yn ddigidol ac yn gydnaws â’r rhan fwyaf o ddarllenwyr sgrin.