Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: beth mae’r ap yn ei wneud

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Canllawiau COVID-19 Lloegr ar nhs.uk
Canllawiau COVID-19 Cymru ar LLYW.CYMRU

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

pam mae’r ap wedi cau
am eich data ap a phreifatrwydd

Mae’r ap yn cynnwys nifer o nodweddion i helpu eich diogelu chi ac eraill, gan gynnwys:

  • cael rhybuddion sy’n rhoi gwybod os gallech bod mewn perygl o coronafeirws (COVID-19)
  • gwiriwr symptomau
  • y cyngor diweddaraf yn seiliedig ar eich amgylchiadau
  • gwybodaeth gyffredinol am COVID-19
  • cofnodi canlyniad positif (o brawf y GIG neu y gwnaethoch dalu amdani) i hysbysu eraill os ydynt mewn perygl

Rhybuddion

Bydd ap COVID-19 y GIG yn anfon rhybuddion yn y sefyllfaoedd canlynol.

  1. Rydych chi wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi rhoi gwybod ei fod wedi cael canlyniad positif am COVID-19.
  2. Mae’r polisi cenedlaethol wedi newid.
  3. Mae gwybodaeth am eich ardal leol wedi newid.
  4. Rydych chi wedi atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau ac wedi gosod nodyn atgoffa i’w roi ar waith eto.
  5. Mae ein canllawiau ar eich cyfer chi wedi newid. Er enghraifft, mae eich amserydd wedi dod i ben.
  6. Fe’ch cynghorir i ddiweddaru’r ap i’r fersiwn diweddaraf.
  7. Ni ddewisoch ‘Rhoi gwybod i eraill’ neu ‘Peidiwch â rhoi gwybod i eraill’ ac mae mwy na 24 awr wedi mynd heibio ers rhoi canlyniad prawf positif.

Rhybuddion cysylltiad agos

Bydd eich ffôn yn dweud wrthych pan fyddwch wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 yn ddiweddarach.

Bydd y rhybudd yn dweud:

Hysbysiad cysylltiad agos. Rydych chi wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â COVID-19. Tarwch yma i gael mwy o gyngor.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch fynd i’r gwefannau perthnasol am COVID-19 a’r cymorth sydd ar gael drwy’r botwm ‘Canllaw COVID-19’ ar sgrin hafan yr ap.

Efallai y byddwch yn cael hysbysiad pan fydd gwybodaeth genedlaethol yn newid, neu os ydych yn byw mewn ardal lle mae cyfyngiadau newydd, cyfleoedd am brofion, neu ragofalon ychwanegol ar waith. Gallwch ddarllen mwy drwy ddewis yr hysbysiad, neu fynd i sgrin hafan yr ap.

Os oes angen i chi ddangos eich statws brechu (pàs COVID y GIG)

Ni allwch ddefnyddio ap COVID-19 y GIG i ddangos eich statws brechu gan nad yw’n cynnwys yr wybodaeth hon.

Gallwch gael pàs COVID y GIG sy’n dangos eich statws brechu drwy ddefnyddio gwasanaeth pàs COVID y GIG ar-lein.

Yn Lloegr, gallwch hefyd ddefnyddio ap y GIG.

Mae ap y GIG yn ap ar wahân i ap COVID-19 y GIG, sef yr ap swyddogol ar gyfer olrhain cysylltiadau y COVID-19 yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni’n argymell eich bod yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r ddau os ydych chi’n byw yn Lloegr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch: