Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: telerau defnyddio

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app closed down on 27 April 2023, so this content is out of date.

The app was managed by the UK Health Security Agency, which is an executive agency sponsored by the Department of Health and Social Care. From 27 April 2023, the app is no longer available and is no longer collecting data or providing a service to app users. This document broadly reflects the service provided by the app during its later stages.

Your data and privacy now the app has closed down

The data collected by the app, which cannot identify app users, will be held in line with the retention period set out in the Privacy Notice for the NHS COVID-19 app.

Find out why the app has closed down and where to find the latest guidance.


Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023 felly nid yw’r cynnwys hwn bellach yn gyfredol.

Rheolwyd yr ap gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy’n asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  O 27 Ebrill 2023, nid yw yr ap ar gael bellach ac nid yw yn casglu data na yn darparu gwasanaeth i ddefnyddwyr apiau bellach. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’n fras y gwasanaeth a ddarperir gan yr ap yn ystod ei gamau diweddarach.

Eich data a’ch preifatrwydd nawr mae’r ap wedi cau

Bydd y data a gesglir gan yr ap, na all adnabod defnyddwyr yr ap, yn cael ei gadw yn unol â’r cyfnod cadw a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG.

Darganfyddwch pam mae’r ap wedi cau a ble i ddod o hyd i’r canllawiau diweddaraf.

Applies to England and Wales

Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023 felly nid yw'r cynnwys hwn bellach yn gyfredol.

Rheolwyd yr ap gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy'n asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

O 27 Ebrill 2023, nid yw yr ap ar gael bellach ac nid yw yn casglu data na yn darparu gwasanaeth i ddefnyddwyr apiau bellach. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'n fras y gwasanaeth a ddarperir gan yr ap yn ystod ei gamau diweddarach.

Eich data a'ch preifatrwydd nawr mae'r ap wedi cau

Bydd y data a gesglir gan yr ap, na all adnabod defnyddwyr yr ap, yn cael ei gadw yn unol â'r cyfnod cadw a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG.

Darganfyddwch pam mae’r ap wedi cau a ble i ddod o hyd i'r canllawiau diweddaraf.

Trwy edrych ar a defnyddio’r gwasanaeth hwn, rydych yn cytuno i’r Amodau Defnydd hyn.

Cytundeb i amodau

Croeso i ap COVID-19 y GIG (yr ‘ap’) a’r wefan ategol (ar y cyd, y ‘gwasanaeth’), rhaglen iOS ac Android a gwefan. Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (‘UKHSA’, ‘ni’, ‘ein’) yw’r gwneuthurwr cyfreithiol. Rydym yn Asiantaeth Weithredol i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rydyn ni nawr yn gweithio gyda Gwasanaethau Iechyd partner sy’n darparu apiau olrhain cyswllt digidol yn Gibraltar a Jersey. Rydyn ni i gyd yn defnyddio’r swyddogaeth Apple a Google i gefnogi olrhain cyswllt digidol.

Mae’r telerau hyn yn berthnasol i holl gynnwys y gwasanaeth, i unrhyw borthiant gwe a gynhyrchir gan y gwasanaeth, unrhyw ryngweithio sydd gennych â’r gwasanaeth, ac i unrhyw adborth neu gyflwyniadau a ddarperir yn ôl i’r gwasanaeth. Trwy lawrlwytho, edrych ar a / neu ddefnyddio’r gwasanaeth, fe bennir eich bod yn cytuno i’r Amodau Defnydd hyn.

Diben

Mae’r ap wedi’i gynllunio i helpu pobl Cymru a Lloegr (gan gynnwys ymwelwyr) i atal lledaeniad COVID-19. Mae’n gwneud hyn trwy alluogi pobl i hysbysu eraill, y maent wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw, eu bod wedi profi’n bositif.

Mae unrhyw hysbysiadau a ddarperir trwy’r ap yn gynghorol yn unig. Os oes gennych bryderon ynghylch cyngor yr ap fe’ch cynghorir i gysylltu â GIG 111, GIG 119 neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol a fydd yn gallu darparu’r wybodaeth briodol i chi.

Mae canllawiau eraill ar gael am COVID-19 o’r GIG yng Nghymru a Lloegr.

Bydd defnyddwyr yn cefnogi ymateb iechyd y cyhoedd i’r pandemig, yn ogystal â sicrhau bod yr ap yn gweithio yn ôl y disgwyl, trwy rannu gwybodaeth (yn ddienw) â’r UKHSA.

Trwy ddefnyddio’r ap a rhannu’r wybodaeth hon, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig at helpu’ch cymuned i gadw’n iach ac achub bywydau.

Mae’r ap yn cynnwys marc yr UKCA fel dyfais feddygol Dosbarth I yn y Deyrnas Unedig ac fe’i datblygir yn unol â Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 (OS 2002 Rhif 618, fel y’i diwygiwyd).

Mae’r gwasanaeth ar gyfer y dibenion a amlinellir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd yn unig.

Mae eich defnydd o’r ap hwn wedi ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Gweithio gyda Gwasanaethau Iechyd partner

Os byddwch chi’n profi’n bositif am COVID-19 ac yn rhoi caniatâd i rybuddio defnyddwyr ap eraill, byddwn yn gweithio gyda’r gwasanaethau iechyd partner i sicrhau bod pob defnyddiwr ap perthnasol yn derbyn rhybudd.

Trwy ddefnyddio swyddogaeth Apple a Google, rydym yn sicrhau bod eich hunaniaeth yn anhysbys i ddefnyddwyr ap eraill, Gwasanaethau Iechyd partner, a’r llywodraeth.

Ein partneriaid yw:

  • Gibraltar
  • Jersey

Swyddogaethau’r ap

Mae gan yr ap y swyddogaethau canlynol:

  • hysbysiad amlygiad, sy’n gadael i chi wybod a ydych wedi bod yn agos at ddefnyddiwr ap arall sydd yna’n profi’n bositif am COVID-19
  • y gallu i fewnbynnu canlyniad prawf positif COVID-19 preifat neu GIG i’r ap
  • yr opsiwn i rannu gwybodaeth (yn ddienw) am unrhyw ddiagnosis positif COVID-19 y gallech ei dderbyn, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ap eraill wybod eu bod wedi bod yn agos at ddefnyddiwr ap arall sydd yna’n profi’n bositif am COVID-19
  • gwybodaeth amserol am gyngor a risg COVID-19 yn eich ardal leol
  • cyfeirio at wasanaethau a gwybodaeth ar gyfer eich ardal chi. Mae’r gwasanaethau hyn a’r wybodaeth hon y tu allan i gwmpas yr Amodau Defnydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG ac maent yn amodol i’w telerau ac amodau eu hunain.
  • nodwedd gwirio symptomau i weld a allai fod gennych COVID-19 sy’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn unol â’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf
  • dolen sy’n cyfrif i lawr i’ch helpu u ddiogelu eraill naill ai trwy aros gartref neu fod yn ofalus gyda phwy fyddwch chi mewn cysylltiad â nhw
  • rhannu gwybodaeth yn ddienw i helpu rheoli ac ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus
  • y gallu i osod nodiadau atgoffa ar gyfer rhai swyddogaethau ac i ddarparu nodiadau atgoffa ychwanegol, yn yr ap, ar gyfer swyddogaethau allweddol fel olrhain cyswllt

Sylwer: Chi sy’n gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a bydd y cyngor a ddarperir gan yr ap yn cael ei ddiweddaru yn unol â’ch datganiad.

Ni ddylai’r ap effeithio ar weithrediad arferol eich ffôn.

Cyngor

Defnyddiwch y swyddogaeth saib, sy’n seibio wrth olrhain cyswllt:

  • pan fyddwch wedi’ch amddiffyn yn llawn rhag cwsmeriaid a chydweithwyr gan rwystr corfforol, fel sgrin persbecs
  • dylai’r holl weithwyr gofal iechyd seibio’r ap tra’u bod nhw’n gweithio mewn adeiladau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai a meddygfeydd
  • os ydych chi’n weithiwr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwisgo PPE gradd feddygol fel mwgwd llawfeddygol
  • os yw’ch ffôn yn cael ei roi mewn locer neu leoliad cyfatebol

Cofiwch ailddechrau olrhain cyswllt (heb seibio) pan nad yw’r rhain yn berthnasol mwyach. Mae’r ap yn caniatáu ichi osod amserydd a nodyn atgoffa. Bydd yr ap yn darparu nodyn atgoffa ychwanegol y diwrnod canlynol.

Rhybudd

Gall yr ap hwn ymyrryd â dyfeisiau meddygol gyda Bluetooth wedi’i alluogi.

Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu gofynnwch am gyngor gan wneuthurwr eich dyfais i gael mwy o wybodaeth os ydych chi’n poeni am y risg o ymyrraeth â dyfeisiau meddygol gyda Bluetooth wedi’i alluogi.

Gellir gweld manylion fersiwn gyfredol yr ap yn yr adran “Ynghylch yr ap yma” yn yr ap.

Preifatrwydd

Cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r ap yn prosesu data personol ac yn parchu’ch hawliau preifatrwydd a chyfrinachedd o dan ddeddfau diogelu data.

Ymwadiad

Rydym yn gwadu ac yn eithrio pob atebolrwydd i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw hawliad, colled, gorchymyn neu iawndal o unrhyw fath o gwbl (gan gynnwys am ein hesgeulustod) sy’n deillio o, neu mewn cysylltiad â, defnydd o’r gwasanaeth neu’r wybodaeth, cynnwys neu ddeunyddiau sydd wedi’u cynnwys ar y gwasanaeth neu ar unrhyw wefan y mae’r gwasanaeth yn cysylltu iddi. Mae’r wybodaeth a gedwir gan y gwasanaeth yn unol â’r hyn a ddarperir gan y defnyddiwr, ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ei gywirdeb.

Parhad gwasanaeth

Nid ydym yn cynnig unrhyw sicrwydd na sylwadau, yn benodol nac ymhlyg, o ran parhad gwasanaeth ac i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae unrhyw warantau ymhlyg mewn perthynas â’r gwasanaeth yn cael eu heithrio drwy hyn. Rydym yn cadw’r hawl i atal, terfynu neu newid mynediad i rai neu’r cyfan o’r gwasanaethau ar unrhyw adeg a heb rybudd.

Diwygiadau i’r Amodau Defnydd hyn

Efallai y byddwn yn diwygio’r Amodau Defnydd hyn ar unrhyw adeg a bernir bod eich defnydd parhaus o’r gwasanaeth yn dderbyniad o Amodau Defnydd diwygiedig o’r fath.

Nid yw’r broses gofrestru lleoliad, swyddogaethau rhybuddion lleoliad, dolenni i hawlio Taliadau Cymorth Ynysu a’r gallu i archebu profion o’r ap ar gael mwyach.

Daw unrhyw ddiwygiadau o’r fath i rym pan gyhoeddir y dudalen hon.

Diogelwch

Os byddwch chi’n darganfod gwendid diogelwch posib neu’n amau ​​digwyddiad diogelwch sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth hwn, dilynwch y rhaglen datgelu gwendid ar gyfer ap COVID-19 y GIG a’r seilwaith. Gallwch ddarllen ein Polisi Datgelu Gwendid ar HackerOne.

Gallwch wneud adroddiad am wendid yn yr ap, seilwaith ategol neu ar y wefan trwy HackerOne.

Mae’r gwasanaeth wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn destun archwiliadau diogelwch.