Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: gwybodaeth am breifatrwydd i bobl ifanc

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app closed down on 27 April 2023, so this content is out of date.

The app was managed by the UK Health Security Agency, which is an executive agency sponsored by the Department of Health and Social Care. From 27 April 2023, the app is no longer available and is no longer collecting data or providing a service to app users. This document broadly reflects the service provided by the app during its later stages.

Your data and privacy now the app has closed down

The data collected by the app, which cannot identify app users, will be held in line with the retention period set out in the Privacy Notice for the NHS COVID-19 app.

Find out why the app has closed down and where to find the latest guidance.


Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023 felly nid yw’r cynnwys hwn bellach yn gyfredol.

Rheolwyd yr ap gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy’n asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  O 27 Ebrill 2023, nid yw yr ap ar gael bellach ac nid yw yn casglu data na yn darparu gwasanaeth i ddefnyddwyr apiau bellach. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’n fras y gwasanaeth a ddarperir gan yr ap yn ystod ei gamau diweddarach.

Eich data a’ch preifatrwydd nawr mae’r ap wedi cau

Bydd y data a gesglir gan yr ap, na all adnabod defnyddwyr yr ap, yn cael ei gadw yn unol â’r cyfnod cadw a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG.

Darganfyddwch pam mae’r ap wedi cau a ble i ddod o hyd i’r canllawiau diweddaraf.

Applies to England and Wales

Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023 felly nid yw'r cynnwys hwn bellach yn gyfredol.

Rheolwyd yr ap gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy'n asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

O 27 Ebrill 2023, nid yw yr ap ar gael bellach ac nid yw yn casglu data na yn darparu gwasanaeth i ddefnyddwyr apiau bellach. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'n fras y gwasanaeth a ddarperir gan yr ap yn ystod ei gamau diweddarach.

Eich data a'ch preifatrwydd nawr mae'r ap wedi cau

Bydd y data a gesglir gan yr ap, na all adnabod defnyddwyr yr ap, yn cael ei gadw yn unol â'r cyfnod cadw a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ap COVID-19 y GIG.

Darganfyddwch pam mae’r ap wedi cau a ble i ddod o hyd i'r canllawiau diweddaraf.

Mae’r ddogfen gwybodaeth hon am breifatrwydd yn fersiwn gryno o ap COVID-19 y GIG: hysbysiad preifatrwydd.

Ap COVID-19 y GIG

Mae ap COVID-19 y GIG (yr ap) yn helpu i gefnogi’r frwydr yn erbyn coronafeirws. Darperir yr ap gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (y DHSC, neu “ni” yn y ddogfen hon) ac mae ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Drwy ddefnyddio’r ap, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i’ch cymuned drwy helpu i achub bywydau.

Mae rhybuddion yr ap bellach yn gweithio ar draws gwahanol wledydd: Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

I gael rhagor o wybodaeth fanwl, gweler:

Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (a deunyddiau ategol)

Noder: Daeth y drefn o gofrestru mewn lleoliad a rhybuddion lleoliad i ben ym mis Chwefror 2022.

Eich preifatrwydd

Mae’r ap wedi’i gynllunio i barchu a diogelu eich preifatrwydd:

  • fydd y llywodraeth a defnyddwyr apiau eraill byth yn gwybod pwy ydych chi
  • ni fydd angen i chi roi eich enw, oedran na chyfeiriad
  • ni ellir olrhain eich lleoliad
  • ni fyddwch yn cael eich adnabod os byddwch yn profi’n bositif am coronafeirws
  • ni all data a gedwir yn yr ap yn unig gael ei ddefnyddio gennym ni

Ni all yr ap:

  • gael ei ddefnyddio i wirio a ddylech fod yn hunanynysu
  • defnyddio unrhyw ddata arall ar eich ffôn (er enghraifft, eich lluniau neu negeseuon)

Bydd y wybodaeth breifatrwydd hon yn dweud mwy wrthych am sut mae’r ap yn diogelu eich preifatrwydd chi a defnyddwyr ap eraill.

Pa ddata sy’n cael ei gasglu

Mae angen i’r ap ddefnyddio data er mwyn iddo weithio. Dyma sy’n bwysig:

  • y dosbarth cod post rydych chi’n ei ddarparu pan fyddwch chi’n gosod yr ap
  • yr awdurdod lleol rydych chi’n ei ddewis pan fydd yr ap yn gofyn i chi
  • unrhyw godau a gynhyrchir fel rhan o olrhain cysylltiadau digidol;
  • y wybodaeth a ddarperir gennych wrth wirio symptomau neu archebu prawf
  • os oes angen rhoi cyngor i chi, eich oedran fel person ifanc (o dan 18 oed)
    • Gall oedolion dros 18 oed ddewis datgan eu statws brechlyn

Mae’r ap yn casglu gwybodaeth nad yw’n eich adnabod yn awtomatig i wneud yn siŵr bod yr ap yn gweithio ac i helpu i frwydro yn erbyn coronafeirws. Er enghraifft, os oes gennych symptomau coronafeirws a’ch bod yn defnyddio’r gwiriwr symptomau bydd eich ap yn crynhoi’r rhyngweithio hwnnw. Gelwir y data hwn yn set ddata ddadansoddol.

Mae’r wybodaeth ddienw hon yn helpu i lywio a gwella:

  • yr ymchwil a’r cynllunio sydd eu hangen i ymateb i coronafeirws
  • diogelwch ac effeithiolrwydd yr ap
  • cywirdeb cyngor, gwybodaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd

Defnyddir cyfeiriad IP (dynodydd unigryw ar gyfer eich ffôn pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd) yn awtomatig i drosglwyddo gwybodaeth i ni. Nid ydym yn defnyddio’r cyfeiriad IP hwn a chaiff ei ddileu cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd.

Gallwch ddarllen mwy am ba ddata sy’n cael ei gasglu o’ch ffôn a sut mae’n cael ei ddefnyddio.

Eich dewisiadau data

Pan fyddwch chi’n gosod yr ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi:

  • droi’r Bluetooth ymlaen
  • caniatáu hysbysiadau
  • rhoi rhan gyntaf cod post eich cartref cyn y bwlch (er enghraifft, E12) a dewis eich awdurdod lleol

Mae angen y rhain er mwyn i’r ap weithio, ond gallwch eu newid ar unrhyw adeg:

  • dim ond ar eich ffôn y caiff unrhyw ddata a allai eich adnabod ei storio ar eich ffôn
  • fydd yr ap byth yn rhannu’r data hwn gydag unrhyw un arall

Os byddwch yn dewis lawrlwytho a gosod yr ap, gallwch:

  • ddefnyddio rhannau o’r ap heb rannu unrhyw ddata
  • dileu neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu
  • dileu a dadosod yr ap ar unrhyw adeg

Eich dewis chi yw os ydych chi am rannu data amdanoch chi ai peidio. Os byddwch yn penderfynu rhannu’r data, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei ddefnyddio i ddysgu mwy am y feirws.

Mae’r ap yn defnyddio proses awtomataidd i gynnig cyngor. Rydym yn argymell eich bod yn dangos unrhyw rybuddion ap i oedolyn cyfrifol. Os oes gennych bryderon am y cyngor sy’n cael ei gynnig, cysylltwch â GIG 111.

Gwneud cais am Daliadau Cymorth Profi ac Olrhain

Os bydd Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu â chi a’ch bod yn cael gwybod bod angen i chi hunanynysu, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i wneud hynny.

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i chi yn ystod unrhyw gyfnod o hunanynysu. Darllenwch fanylion am sut i wneud cais am gymorth ariannol

Mae ap COVID-19 y GIG yn caniatáu i chi wirio a ydych yn gymwys i gael taliadau cymorth. Bydd botwm ar y sgrin gartref yn rhoi mynediad diogel i chi i wefan ‘Taliad Cymorth Profi ac Olrhain’ (neu Borth ‘Cynllun Cymorth Hunanynysu’ (SISS), os ydych chi yng Nghymru).

Yma gallwch roi eich gwybodaeth i weld os oes cymorth ariannol ar gael i chi.

Sylwer:

  • fod yr ap ond yn darparu mynediad i wefannau talu cymorth
  • mae pob cais am gymorth ariannol yn gwbl breifat a chyfrinachol
  • bydd y rhai sy’n gwneud cais am gymorth ariannol yn parhau o dan y rhwymedigaeth i hunanynysu hyd yn oed os na fyddan nhw’n gymwys i gael y taliad

Ni all yr ap:

  • eich adnabod o’r data hwn
  • gwirio a ydych chi’n hunanynysu
  • monitro a ydych chi’n cadw at amodau’r taliad

Olrhain cysylltiadau digidol

Mae olrhain cysylltiadau yn broses ar gyfer adnabod pobl sydd mewn perygl o gael eu heintio. Yn draddodiadol, mae gweithwyr gofal iechyd wedi defnyddio dulliau llaw i olrhain cysylltiadau drwy ofyn i’r rhai sydd wedi’u heintio:

  • enwi unrhyw un a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â’r sawl sydd wedi’i heintio
  • enwi ardaloedd lle gall yr haint fod yn bresennol (llefydd y maen nhw wedi ymweld â nhw)

Mae olrhain cysylltiadau digidol yn ddull newydd ac effeithiol sy’n defnyddio technoleg ffonau clyfar i gyflymu’r broses.

Mae ap COVID-19 y GIG yn gweithio drwy ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd gan Apple a Google. Gelwir y dechnoleg hon yn ‘System Hysbysiadau Cysylltiadau Google Apple (GAEN). Mae GAEN yn caniatáu i’ch ffôn gynhyrchu a rhannu manylion adnabod dienw gyda ffonau eraill sydd wedi’u galluogi.

Gallwch ddiffodd Hysbysiadau Cysylltiadau yng ngosodiadau eich ffôn ar unrhyw adeg.

Dim ond ar

eich ffôn y caiff y data hwn ei storio ac ni all unrhyw un ei gyrchu oni bai eich bod yn dewis ei rannu. Gofynnir i chi a ydych am rannu’r data dienw hwn os ydych yn profi’n bositif am coronafeirws.

Gallwch ddarllen mwy am GAEN ar wefannau Apple neu Google.

Dysgu am olrhain cysylltiadau digidol, a’i wella

Pan fydd manylion adnabod dienw yn cael eu rhannu, mae’r ddau ffôn yn cofnodi:

  • faint o amser oedd y ffonau’n agos at ei gilydd
  • pa mor gryf oedd signal Bluetooth rhyngddynt (gan nodi pa mor bell oedd y ffonau oddi wrth ei gilydd)
  • y sgôr risg a gynhyrchir o’r mesuriadau hyn

Drwy ddiweddaru eich ffôn i’r feddalwedd ddiweddaraf gan Apple a Google, os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19, gallwch rannu data gyda’r GIG i helpu i:

  • ddarganfod sut mae olrhain cysylltiadau digidol yn gweithio,
  • gwella sut mae’r dechnoleg a’r dadansoddi yn gweithio

Mae hyn yn cynnwys helpu i:

  • asesu a yw’r algorithm risg a ddefnyddir yn gweithio
  • deall a yw’r sgôr risg (a gyfrifir o ryngweithiadau) yn adlewyrchu’n gywir y risg o COVID-19
  • sicrhau bod y trothwy risg yn gweithio yn ôl y bwriad ac wedi’i osod ar lefel briodol
  • bod o fudd i iechyd y cyhoedd drwy wella perfformiad a chyngor gwasanaethau a’r ap

I ddeall sut y gall yr ap eich helpu, gweler yr hysbysiad preifatrwydd.

Y gallu i ryngweithredu (apiau o wahanol wledydd yn gallu gweithio gyda’i gilydd)

Mae’r Gwasanaethau Iechyd yn Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon, a’r Alban yn darparu apiau olrhain cysylltiadau digidol sy’n seiliedig ar yr un dechnoleg Google Apple â’r ap hwn.

Rydym yn sicrhau y gall yr apiau hyn rannu ychydig o ddata â’i gilydd, er mwyn helpu i wneud y broses olrhain cysylltiadau yn fwy effeithiol.

Eisoes, os ydych chi’n profi’n bositif gallwch ddewis rhybuddio’r bobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Nawr byddwch hefyd yn gallu rhybuddio defnyddwyr apiau Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon a’r Alban y gallech fod wedi bod mewn cysylltiad â nhw, yn ogystal â defnyddwyr yr ap hwn.

Ni allwch ddewis rhybuddio defnyddwyr apiau yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ond gallwch ddewis peidio â rhybuddio unrhyw un o gwbl.

Diben gwneud i apiau weithio gyda’i gilydd fel hyn yw gwneud i’r broses olrhain cysylltiadau weithio’n fwy effeithiol. Mae’n arbennig o bwysig i bobl sy’n teithio llawer rhwng ardaloedd lle mae dau ap gwahanol yn gweithio – er enghraifft, Lloegr a’r Alban.

Os byddwch chi’n teithio i Gibraltar, Jersey, Gogledd Iwerddon, neu’r Alban ac yn dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi’i heintio, byddwch yn awr yn cael rhybudd. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy’n byw yn agos at ffin, er enghraifft y ffin rhwng Lloegr a’r Alban.

Yn y dyfodol, efallai y bydd ein ap hefyd yn gallu gweithio gydag apiau gwledydd eraill y tu hwnt i’r DU. Yna bydd gennych swyddogaethau olrhain cysylltiadau’r ap hwn pan fyddwch yn teithio dramor yn ogystal â phan fyddwch gartref yn y DU. Nid yw’r swyddogaeth honno ar waith eto.

Nid oes unrhyw ddata a allai eich adnabod yn cael ei rannu ag unrhyw wlad arall. Ni chaiff unrhyw ddata amdanoch ei gasglu yn unman canolog. Nid oes unrhyw ddata a allai adnabod unrhyw un arall yn cael ei rannu gyda chi.

Am ba hyd y cedwir gwybodaeth

Bydd eich ffôn yn storio data sy’n gysylltiedig â’r ap ar gyfer yr amseroedd canlynol:

  • codau profi sy’n cysylltu â chanlyniad prawf – 24 i 48 awr
  • codau dyddiol a ddefnyddir ar gyfer olrhain cysylltiadau – 14 diwrnod
  • os ydych yn ei ychwanegu, eich oedran - y cyfnod ynysu ynghyd â 14 diwrnod

Cytunwyd ar yr amseroedd storio hyn yn dilyn cyngor gwyddonol a meddygol. Yn y dyfodol, gall yr amseroedd hyn gynyddu neu leihau wrth i’r cyngor newid.

Ni fydd unrhyw wybodaeth a gedwir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn cynnwys unrhyw ddata personol. Cedwir y cofnodion hyn ar gyfer:

  • 8 mlynedd, i sicrhau bod y sefydliad yn cael ei ddal i gyfrif
  • 20 mlynedd, i helpu i barhau i fonitro clefydau (fel coronafeirws)

Rheolir hyn gan God Ymarfer Adran 46, Deddf Cofnodion Cyhoeddus, a dyletswyddau statudol y DHSC.

Darllenwch fwy o wybodaeth am storio eich data

Diogelwch a chydymffurfio

Nid yw’r ap yn casglu nac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod i unrhyw un. Mae hyn yn cynnwys y llywodraeth, awdurdodau, y GIG, pobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r ap, neu unrhyw ddefnyddiwr ap arall.

Mae’r holl fesurau, polisïau a gweithdrefnau diogelwch angenrheidiol ar waith i atal:

  • unrhyw un sy’n cyrchu neu’n datgelu unrhyw ddata a gesglir gan yr ap
  • unrhyw achos o golli neu ddinistrio unrhyw ddata, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol

Mae hyn yn golygu bod yr ap yn:

  • ddiogel i’w defnyddio
  • diogel a chyfrinachol
  • cydymffurfio’n gyfreithiol

Darllenwch fwy am ddiogelwch a chydymffurfio.

Eich hawliau chi

  • gallwch bob amser ddewis lawrlwytho a gosod yr ap
  • gallwch bob amser ddewis dileu’r ap a’ch data ar unrhyw adeg
  • gallwch ddefnyddio’r ap i gael mynediad at y data sydd ganddo amdanoch chi
  • gallwch arfer eich hawliau gyda’ch data yn y dulliau canlynol:

Hawl mynediad a cheisiadau am wybodaeth

Gallwch gael gafael ar wybodaeth allweddol drwy’r ap:

  • ewch i’r sgrin ‘Ynglŷn â’r ap hwn’
  • cliciwch ‘Eich data’
  • cliciwch ‘Rheoli data’

Yr hawl i gael eich anghofio

Gallwch ddewis dileu’r ap a’r data y mae’n ei gynnwys. Does dim modd adfer data ar ôl i’r ap gael ei ddileu.

Yr hawl i wrthwynebu

Gallwch ddewis dileu’r ap neu’r data y mae’n ei gynnwys.

Gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd gan gynnwys proffilio

Os oes gennych bryderon ynghylch argymhellion yr ap, hynny yw, y dylech fynd am brawf neu hunanynysu, ffoniwch 111 (neu 0845 46 47 os ydych yn byw yng Nghymru ac eithrio Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe - gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr)

Mae gwybodaeth am eich hawliau a sut i’w defnyddio ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) sy’n gyfreithiol gyfrifol am benderfynu sut a pham y defnyddir eich data personol. Rydym hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y data’n ddiogel.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn anhapus ynglŷn â sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio yn yr ap, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data DHSC yn data_protection@dhsc.gov.uk.

Tryloywder

Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder, gallwch weld:

Darllenwch fwy am sut rydym yn cadw eich data’n ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am coronafeirws, ewch i gov.uk/coronavirus