Siarter uno busnesau
Published 12 March 2025
Mae’r siarter hon yn nodi egwyddorion clir a disgwyliadau cyffredinol ar gyfer sut y bydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ymgysylltu â busnesau a’u cynghorwyr yn ystod adolygiadau uno busnesau, a’r hyn a ddisgwyliwn gan fusnesau yn gyfnewid am hyn. Mae ymgysylltu adeiladol ac uniongyrchol â busnesau yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn amserol.
Mae’r CMA yn cydnabod bod gweithgarwch uno a chaffael yn strategol bwysig i fusnesau, buddsoddwyr ac economi’r DU. Mae gan y CMA gyfrifoldeb i sicrhau nad yw uno a chaffael yn lleihau cystadleuaeth mewn ffordd sy’n niweidio busnesau a defnyddwyr y DU. Ni fydd llawer o gytundebau’n cael eu hadolygu’n ffurfiol o gwbl gan y CMA ac i’r rhai sy’n cael eu hadolygu, mae’r rhan fwyaf yn gorffen gyda phenderfyniadau clirio neu rwymedïau i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon cystadleuaeth.

Disgrifiad o’r ddelwedd: ein 4 egwyddor yw cyflymder, rhagweladwyedd, cymesuredd a phroses.
Wrth i ni gynnal ein hadolygiadau uno, rydym wedi ymrwymo i 4 egwyddor:
-
cyflymder
-
rhagweladwyedd
-
cymesuredd
-
proses
Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y penderfyniadau cywir cyn gynted â phosibl, gan leihau’r baich ar fusnesau. Mae cyflawni’r nod hwn yn dibynnu ar ymrwymiad y CMA, ac ar barodrwydd busnesau a chynghorwyr i ymgysylltu’n adeiladol ac yn ddidwyll.
Mae’r siarter hon yn ddatganiad o fwriad, a bydd yn cael ei chefnogi gan ragor o ganllawiau, wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer busnesau a buddsoddwyr i esbonio proses adolygu gweithgarwch uno busnesau CMA.
Cyflymder
Mae’r CMA wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau cadarn cyn gynted â phosibl. Mae cydweithrediad busnesau yn rhan hanfodol o’r broses hon.
Er mwyn sicrhau y gall y CMA weithredu ar gyflymder, byddwn yn:
-
cynnal ein hadolygiad mor effeithlon a chyflym â phosibl (o fewn ffiniau’r broses gyfreithiol ofynnol), gan geisio cyrraedd cerrig milltir cyn y terfynau amser statudol lle bo modd, ac yn unol â’n dangosyddion perfformiad allweddol
-
neilltuo amser ac adnoddau priodol i bob achos a adolygwn
-
symleiddio ein hymchwiliadau i ganolbwyntio’n gyflym ar feysydd pwysig sy’n dod i’r amlwg sy’n peri pryder posibl, a rhoi’r gorau i linellau ymholi eraill cyn gynted â phosibl lle nad oes tystiolaeth glir o bryder yn codi
-
cynnal gwaith casglu gwybodaeth wedi’i thargedu, sy’n effeithlon ac yn gymesur, gan ganolbwyntio ar wybodaeth sy’n berthnasol ac yn benodol i feysydd pryder posibl
Er mwyn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n hadolygiadau uno busnesau’n effeithlon ac yn gyflym, disgwylir i fusnesau:
-
wneud pob ymdrech i fynychu cyfarfodydd gyda phersonél busnes priodol ar yr amser gofynnol
-
darparu gwybodaeth a thystiolaeth mewn modd amserol a chyflawn, gan fodloni’r terfynau amser gofynnol
-
symleiddio’r ddarpariaeth o wybodaeth a dadansoddiad, gan sicrhau ymatebion cynhwysfawr i linellau ymholi perthnasol
Rhagweladwyedd
Mae rhagweladwyedd yn bwysig ar gyfer hyder buddsoddwyr a gwneud penderfyniadau busnes. Mae hyn yn cynnwys bod mor glir â phosibl i leihau ansicrwydd ynghylch a fyddwn yn adolygu cytundeb penodol ai peidio.
I sicrhau bod y CMA yn gweithredu gyda rhagweladwyedd, byddwn yn:
-
bod mor glir â phosibl ynghylch ein cylch gwaith awdurdodaethol a defnyddio mecanweithiau (megis canllawiau, sesiynau allgymorth busnes a chynghorwyr, ac esboniadau clir mewn penderfyniadau) a all helpu i roi mwy o sicrwydd i fusnesau
-
annog ymgysylltiad â staff y CMA sy’n olrhain gweithgarwch uno busnesau a defnyddio papurau briffio anffurfiol i geisio sicrwydd ynghylch a yw’r CMA yn debygol o adolygu cytundeb
-
darparu diweddariadau rheolaidd i fusnesau sy’n uno ar statws yr adolygiad uno a’r materion sy’n cael eu hymchwilio
I sicrhau bod y CMA mor rhagweladwy â phosibl, rydym yn disgwyl:
-
ymgysylltiad rhwng gweithredwyr busnes a’r CMA i’w gynnal yn gyflawn a gonest, gan gydnabod manteision ymgysylltu uniongyrchol lle bo modd
-
i fusnesau roi’r diweddaraf i’r CMA a rhannu gwybodaeth berthnasol yn uniongyrchol â’r CMA, yn hytrach na’n bod ni’n dysgu amdani drwy sianeli eraill
Cymesuredd
Mae’r CMA wedi ymrwymo i weithredu’n gymesur wrth gynnal ei adolygiadau uno busnesau. Mae hynny’n cynnwys:
-
penderfyniadau ynghylch pa gynigion i’w galw i mewn i’w hadolygu
-
blaenoriaethu pryderon posibl ar gyfer ymchwiliad
-
cwmpasu a thargedu ceisiadau am wybodaeth, i ystyried faint o wybodaeth sydd ei hangen i ddod i gasgliad cadarn, a chyfrinachedd unrhyw wybodaeth o’r fath, yn unol â rhwymedigaethau cyfreithiol y CMA
-
dylunio rhwymedïau i fynd i’r afael â phryderon a nodwyd
-
lleihau beichiau ar fusnesau wrth gynnal yr adolygiad sy’n angenrheidiol i gyrraedd canlyniad cadarn cyn gynted â phosibl
Er mwyn sicrhau bod y CMA yn gweithredu’n gymesur, rydym yn disgwyl:
-
derbyn gwybodaeth glir, gyflawn a chywir mewn ymateb i geisiadau
-
derbyn cyflwyniadau â chwmpas tynn sy’n canolbwyntio ar y prif faterion o bryder posibl a nodwyd gan y CMA
Proses
Mae’r CMA wedi ymrwymo i ymgysylltu’n uniongyrchol â busnesau yn ystod ei adolygiadau uno busnesau. Mae’n bwysig bod busnesau’n teimlo bod rhywun yno i wrando arnynt; yn deall beth rydym yn ei wneud a pham; ac yn cydnabod ymdeimlad o degwch a thriniaeth gyson. Mae ymgysylltu agored ac adeiladol yn rhan hanfodol o hyn.
Er mwyn sicrhau ymgysylltiad uniongyrchol ac adeiladol â busnesau, bydd y CMA yn:
-
ymgysylltu’n rhagweithiol â meddwl agored, heb ragfarn na thuedd ynghylch canlyniad unrhyw ymchwiliad
-
sicrhau bod ein prosesau’n cael eu deall yn glir ac yn hygyrch a bod gan fusnesau lwybrau i ymgysylltu’n uniongyrchol ar gamau rheolaidd a phriodol
-
sicrhau bod gan fusnesau sy’n uno ddealltwriaeth glir o gynnydd ymchwiliad, amserlenni perthnasol a cherrig milltir sydd ar ddod, a’r materion sy’n parhau i fod yn destun pryder posibl
Er mwyn hwyluso ymgysylltiad adeiladol â’r CMA, rydym yn disgwyl:
-
busnesau (gan gynnwys uwch bersonél busnes) i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r CMA lle bo modd
-
cynghorwyr i ddarparu a hwyluso ymgysylltiad adeiladol ac amserol â’r CMA bob amser