Canllawiau

Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Cod ymarfer sy’n rhoi canllawiau ar benderfyniadau a wneir dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Deddf Gallu Meddyliol Cod Ymarfer

Manylion

Mae’r cod ymarfer yn rhoi canllawiau i bobl sy’n:

  • gweithio gyda phobl sy’n methu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain
  • gofalu am bobl sy’n methu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain

Mae’n nodi’r hyn ddylech ei wneud pan fyddwch yn gweithredu neu’n gwneud penderfyniadau ar ran pobl sy’n methu gweithredu neu wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi bod rhaid i rai pobl benodol ystyried y cod ymarfer pan fyddat yn gweithredu neu’n gwneud penderfyniadau ar ran unigolyn arall. Mae hyn yn cynnwys:

  • atwrnai wedi’i benodi dan bŵer atwrnai arhosol
  • dirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod
  • eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol
  • person yn gwneud gwaith ymchwil wedi’i gymeradwyo yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol
  • person sy’n gweithio mewn rhinwedd broffesiynol â phobl sy’n methu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu mewn perthynas â hynny
  • person sy’n cael ei dalu i weithredu ar ran pobl sy’n methu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu mewn perthynas â hynny

Gallwch archebu copi printiedig o’r Cod Ymarfer o Siop y Llyfrfa, yn ogystal â fformatau amgen megis:

  • braille
  • sain
  • brint bras
Cyhoeddwyd ar 22 July 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 October 2020 + show all updates
  1. Upload an accessible form of the Code of Practice, amend the text to direct customers to The Stationery Shop for accessible formats such as braille

  2. Added Welsh translation

  3. Changed link so it goes directly to Welsh language version

  4. First published.