Collection

Dirprwyon panel: rhestr o bobl broffesiynol cymeradwy gan y llys

Dod o hyd i fanylion cyswllt dirprwyon panel sydd ar gael i roi cymorth i unigolion heb alluedd meddyliol.

Mae rhai dirprwyon proffesiynol yn cael eu galw yn ‘ddirprwyon panel’. Maent yn cael eu penodi gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Mae dirprwyon panel yn rhoi cymorth i unigolion heb alluedd meddyliol drwy eu helpu i wneud penderfyniadau ynghylch eu materion ariannol.

Mae’r Llys Gwarchod yn dewis dirprwyon o’r rhestr hon pan nad oes neb arall yn barod neu’n gallu gweithredu fel dirprwy i unigolyn heb alluedd meddyliol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cylchdeithiau’r Llys Gwarchod

Rhennir Cymru a Lloegr yn ardaloedd, a elwir yn gylchdeithiau, y mae’r Llys yn gweithredu ynddynt.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae’r safonau dirprwyon yn nodi’r hyn a ddisgwylir gan ddirprwyon proffesiynol a benodwyd gan y llys ac maent yn rhan ganolog o ddull OPG o’u goruchwylio.

Rhaid i ddirprwyon y panel fod â digon o wybodaeth am y Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol i gyflawni eu dyletswyddau.

Updates to this page

Published 1 January 2026