Casgliad

Dogfenau Safonau Dirprwy OPG

Safonau’r OPG ar gyfer dirprwyon lleyg, dirprwyon awdurdodau cyhoeddus a dirprwyon proffesiynol a chanllawiau i’w cynghori ar sut y gallant fodloni’r safonau hynny.

Mae ymweliadau sicrwydd a safonau yn rhan bwysig o ddull Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) o gefnogi a goruchwylio dirprwyon awdurdod proffesiynol a chyhoeddus.

Bydd ymwelwyr y Llys Gwarchod sy’n cynnal ymweliadau sicrwydd yn cyfeirio at y safonau a gyhoeddwyd eisoes wrth riportio canfyddiadau ac arsylwadau i’r OPG.

Mae’r dogfennau hyn hefyd ar gael yn Saesneg.

Safonau Dirprwyon

Mae’r safonau yma’n egluro’r hyn a ddisgwylir gan ddirprwyon lleyg, dirprwyon awdurdodau cyhoeddus a dirprwyon proffesiynol a benodwyd gan y llys, ac maen nhw’n rhan ganolog o’r ffordd mae’r OPG yn goruchwylio’r tri math o ddirprwy.

Ddirprwyon Lleyg

Fel arfer, mae dirprwyon lleyg yn ffrindiau neu’n aelodau o deulu’r person sydd heb y galluedd i wneud penderfyniadau drosto’i hun.

Canllawiau i Ddirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus

Os nad oes aelod o’r teulu ar gael, yn fodlon neu’n gallu gweithredu fel dirprwy, gall y llys benodi awdurdod lleol neu gorff iechyd i fod yn ddirprwy, sy’n cael ei alw’n ddirprwy awdurdod cyhoeddus.

Ddirprwyon Proffesiynol

Fel arfer, mae dirprwyon proffesiynol yn cael eu penodi pan nad oes aelod o’r teulu ar gael neu’n fodlon gweithredu fel dirprwy, a phan fydd angen delio â materion mwy cymhleth.

Dogfennau cyfeirio

Cyhoeddwyd ar 13 February 2023