Ffurflen

Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA

I gael gwybod pa wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw amdanoch chi a’ch cerbyd, gallwch wneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR). Y ffordd gyflymaf yw llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno drwy e-bost.

Dogfennau

Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun i DVLA

Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun i DVLA - ffurflen hygyrch

Manylion

Mae gennych hawl i ofyn am ddata personol y mae DVLA yn ei gadw amdanoch chi. Gelwir hon yn hawl am fynediad at ddata gan y testun ac mae’n cael ei rheoli gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).

Bydd angen ichi roi gwybodaeth inni i helpu profi eich hunaniaeth, fel y gallwn ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn gofyn amdani a phrosesu eich cais.

Gallwch ofyn am wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw am:

  • eich cofnod gyrrwr
  • eich cerbyd cyfredol
  • cerbyd a oedd wedi’i gofrestru yn eich enw chi

Nid oes tâl am y wybodaeth hon.

Gwybodaeth am eich cofnod gyrrwr

Bydd angen ichi gynnwys:

  • eich enw llawn
  • dyddiad geni
  • eich cyfeiriad presennol a’r cyfeiriad a ddangosir ar eich trwydded yrru Prydain Fawr (os yw’n wahanol)
  • eich rhif trwydded yrru (16 nod)
  • cymaint o fanylion â phosibl, os hoffech inni adalw gwybodaeth feddygol a gedwir am eich ffitrwydd i yrru

Gallwch weld eich cofnod gyrru am restr o’ch gwaharddiadau gyrru a phwyntiau cosb.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch ofyn i’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau am wybodaeth amdanoch chi ar eich cofnod gyrrwr.

Gwybodaeth am eich cerbyd

Bydd angen ichi gynnwys:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad presennol a’r cyfeiriad ar eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
  • rhif cofrestru’r cerbyd rydych yn gofyn amdano
  • gwneuthuriad a model y cerbyd rydych yn gofyn amdano
  • pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er enghraifft pryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf neu’r dyddiad y’i prynoch

Sut i wneud cais

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • cyflwyno’ch cais drwy ddefnyddio’r ffurflen a’i hatodi i e-bost i’w hanfon i SubjectAccess.Requests@dvla.gov.uk
  • argraffu’r ffurflen, ei llenwi, a’i hanfon i Ymholiadau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR), DVLA, Abertawe, SA99 1BX
  • e-bostio neu bostio llythyr, gan gynnwys y wybodaeth y gofynnwn amdani ar y ffurflen
  • gwneud cais drwy we-sgwrs (Saesneg yn unig) neu dros y ffôn

Peidiwch â defnyddio’r manylion hyn ar gyfer ymholiadau cyffredinol - cysylltwch â DVLA yn lle.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added an additional bullet point under 'Information about your driver record' - you now need to include your driving licence number (16 characters) in your request. Added an additional bullet point under 'Information about your vehicle' - you now need to include the make and model of the vehicle you're asking about.

  2. Updated PDF and accessible ODT.

  3. Updated PDF and accessible form for 'Make a subject access request to DVLA'.

  4. Accessible form added.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon