Canllawiau

Cofrestri partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC)

Diweddarwyd 13 September 2017

1. Cyflwyniad

O 30 Mehefin 2016 ymlaen, gall PAC ddewis anfon gwybodaeth a gedwir fel arfer yn ei holl gofrestri statudol, neu yn rhai ohonynt, at y cofrestrydd cwmnïau i’w chadw ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae’r dewis hwn, yn ddewis amgen yn hytrach na’r rhwymedigaeth i gadw’r holl gofrestri statudol hynny, yn swyddfa gofrestredig y PAC, neu mewn cyfeiriad archwilio amgen unigol.

Y cofrestri yw – Cofrestr aelodau’r PAC, Cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol aelodau’r PAC, Cofrestr pobl â rheolaeth arwyddocaol y PAC.

Os bydd eich PAC yn dewis cadw’r wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau, yn hytrach nag yn ei gofrestri statudol ei hun, yna daw’r wybodaeth o dan sylw yn rhan o’r gofrestr gyhoeddus. Mae’r gofrestr gyhoeddus yn agored i unrhyw un ei harchwilio a chymryd copïau er gwybodaeth.

Yn y canllawiau hyn, byddwn yn cyfeirio at “dewis” wrth gyfeirio at ddewis PAC i anfon gwybodaeth a gedwir fel arfer ar rai cofrestri statudol at y cofrestrydd cwmnïau, a’i chadw ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau. Byddwn ni’n cyfeirio hefyd at “dynnu nôl” pan fydd PAC yn dewis peidio â chadw’r wybodaeth honno ar y gofrestr gyhoeddus mwyach.

Mae’r penodau’n esbonio’r goblygiadau a’r gofynion sydd ynghlwm wrth gadw gwybodaeth ar gyfer pob un o’r cofrestri ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau. Maen nhw’n pennu beth y mae’n rhaid ei gyflwyno, pryd y mae’n rhaid anfon y wybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau, a beth sy’n digwydd os yw’ch PAC yn penderfynu ei bod am gadw ei chofrestri statudol ei hun. Dylech ddarllen y canllawiau hyn ynghyd â’r gyfraith sy’n ymwneud â ‘r Deddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000, Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau PAC PRhA 2016 a Rheoliadau Cwmnïau a PAC (Gofynion Ffeilio) 2016 sydd ar gael i’w harchwilio ar legislation.gov.uk.

2. Y gofrestr o aelodau PAC

Dylech fod yn ymwybodol pan fyddwch chi’n dewis cadw gofrestr eich aelodau ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau, bydd dyddiad geni llawn aelodau’r PAC, ar gael ar y gofrestr gyhoeddus i unrhyw un sydd am eu gweld, neu sydd am wneud copi o’r manylion hynny. Nid yw hynny’n wir am PAC sydd heb wneud dewis, lle bydd diwrnod geni’r aelod yn cael ei atal rhag cael ei archwilio gan y cyhoedd, ac felly dim ond y mis a’r flwyddyn fydd yn gyhoeddus.

2.1 Sut i ddewis cadw gwybodaeth cofrestr eich aelodau PAC ar y gofnod gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau (“dewis”)

Gallwch ddewis p’un ai cadw gwybodaeth aelodau’r PAC naill ai i) wrth gorffori, lle caiff y dewis ei wneud gan yr aelodau arfaethedig sy’n dymuno sefydlu’r PAC gyda’r cais i gorffori (o dan adran 2 o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000), neu ii) gan PAC sydd wedi’i sefydlu a’i chofrestru eisoes.

2.2 Pryd daw’r dewis i rym

Daw’r dewis i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Pan fydd mewn grym, nid oes rhaid i PAC gadw cofrestr o’i haelodau. Bydd yn parhau mewn grym hyd nes i’r PAC benderfynu ei bod eisiau dechrau cadw cofrestr statudol unwaith eto.

2.3 Pan fo dewis mewn grym ar gyfer cofrestr o aelodau PAC

Rhaid i PAC sydd wedi gwneud dewis ar ôl corffori barhau i gadw’r gofrestr yr oedd gofyn iddi ei chadw cyn y dewis (y gofrestr hanesyddol). Nid oes angen iddi diweddaru’r gofrestr hanesyddol yna i adlewyrchu newidiadau sy’n digwydd tra bod y dewis mewn grym. Gall person archwilio’r wybodaeth sydd ar y gofrestr hanesyddol a mynnu copïau ohoni.

Rhaid i PAC osod nodyn ar y gofrestr hanesyddol i ddweud bod dewis mewn grym, pryd digwyddodd y dewis, a bod modd cael gwybodaeth gyfoes am yr aelodau ar y gofrestr gyhoeddus. Os nad yw PAC yn gosod nodyn o’r fath ar y gofrestr hanesyddol, mae hynny’n drosedd. Nid yw’r rhwymedigaethau mewn perthynas â’r gofrestr hanesyddol yn gymwys mewn perthynas a dewis a wnaed gan aelodau arfaethedig PAC.

Rhaid i PAC gyflwyno a chadw gwybodaeth gyfoes am ei PRhA i’r cofrestrydd i’w rhyddhau ar y gofrestr gyhoeddus.

Dyma gwybodaeth PRhA y mae angen ei chyflwyno am bob person cofrestradwy unigol:

  • enw
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau
  • y wlad neu’r wladwriaeth (neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig) lle mae’r unigolyn yn byw fel rheol
  • cenedligrwydd
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad preswyl arferol
  • y dyddiad pan ddaeth yr unigolyn yn berson cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw
  • natur eu rheolaeth dros y PAC honno
  • ac oes yna, mewn perthynas â’r PAC honno, unrhyw gyfyngiadau mewn grym o ran defnyddio neu ddatgelu unrhyw un o fanylion PRhA yr unigolyn.

Dyma’r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno ar gyfer pob endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy:

  • enw corfforaethol neu enw’r busnes
  • y swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa,
  • ffurf gyfreithiol yr endid, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu,
  • os yw’n berthnasol, y gofrestr o gwmnïau y cofrestrwyd y cwmni ynddi (gan gynnwys manylion y wladwriaeth) a’i rif cofrestru ar y gofrestr honno,
  • y dyddiad pan ddaeth yn endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw, a
  • natur ei reolaeth dros y PAC

Ar gyfer person cofrestradwy arall (megis corfforaeth unigol neu awdurdod lleol):

  • ei enw
  • ei brif swyddfa
  • ffurf gyfreithiol y person, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu
  • y dyddiad pan ddaeth yn endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw
  • natur ei reolaeth dros y PAC.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gategorïau o PRhA yng nghanllawiau BEIS.

2.4 Pan fo PAC yn penderfynu ei bod am ddechrau cadw ei chofrestr ei hun o aelodau (“tynnu nôl”)

Rhaid i PAC gyflwyno hysbysiad am dynnu’r dewis yn ôl i’r cofrestrydd. Daw’r tynnu nôl i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Ar ôl tynnu nôl, bydd gofyn i’r PAC gynnal cofrestr o aelodau o’r pwynt hwnnw ymlaen, a hysbysu’r cofrestrydd am unrhyw newid i’r gofrestr honno.

2.5 Gwybodaeth yr aelodau ar ôl tynnu’r dewis nôl

At ôl tynnu dewis yn ôl, rhaid i PAC gofnodi yn y gofrestr aelodau holl wybodaeth yr aelodau sy’n ymwneud â materion sy’n gyfredol ac y mae angen eu cynnwys yn ei chofrestr o aelodau. Nid oes rhaid i’r PAC i nodi gwybodaeth am y cyfnod pan oedd y dewis mewn grym ond nad yw’n gyfredol mwyach (e.e. manylion person a beidiodd â bod yn aelod yn ystod cyfnod pan oedd yr dewis mewn grym).

2.6 Gwybodaeth a ffeiliwyd ar y cofnod cyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau yn ystod y cyfnod pan nad oedd y PAC yn cadw ei chofrestr statudol ei hun

Bydd manylion aelodau’r PAC a gyflwynir i’r cofrestrydd yn ystod y cyfnod pan fo’r dewis mewn grym, gan gynnwys eu dyddiad geni llawn, yn dal i fod ar gael i’r cyhoedd, hyd yn oed os yw’r dewis wedi cael ei dynnu nôl, am fod y wybodaeth hon yn cael ei thrin fel rhan o’r gofrestr gyhoeddus.

2.7 Y gofrestr o gyfeiriadu preswyl arferol aelodau PAC

Sut i ddewis cadw gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol aelodau PAC ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau (“dewis”)

Gallwch ddewis ble i gadw gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol aelodau’r PAC naill ai i) wrth gorffori, lle caiff y dewis ei wneud gan yr aelodau arfaethedig sy’n dymuno sefydlu’r PAC, gyda’r cais i gorffori’r PAC o dan adran 2 o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000). ii) Neu, gan PAC sydd wedi’i sefydlu a’i chofrestru eisoes.

2.8 Pryd daw’r dewis i rym

Daw’r dewis i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Bydd y dewis yn aros mewn grym naill ai nes bod y PAC yn tynnu’r dewis yn ei ôl. Yn ystod y cyfnod pan fo dewis mewn grym, nid oes angen i PAC gadw cofrestr o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau.

2.9 Pan fo dewis mewn grym ar gyfer y gofrestr o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau

Rhaid i’r PAC gyflwyno gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol ei haelodau i’r cofrestrydd yn Nhŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r wybodaeth gofrestredig.

Nid yw’r cyfeiriad preswyl arferol ar gael i’r cyhoedd ei archwilio, yn yr un modd ag nad yw ar gael i’r cyhoedd os yw’r PAC yn cadw ei chofrestr statudol ei hun o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau.

Dyma’r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno:

  • cyfeiriad preswyl arferol pob un o aelodau’r PAC
  • os yw cyfeiriad preswyl arferol PAC yr un fath â’i gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau (fel y’i nodwyd yng nghofrestr aelodau’r PAC) y cyfan sydd angen i’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl arferol ei nodi yw nodyn i ddatgan hynny.

Nid yw hyn yn wir os nodir y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fel “swyddfa gofrestredig y PAC”.

Pan fo PAC yn penderfynu ei fod am ddechrau cadw ei chofrestr ei hun o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau eto (“tynnu nôl”), rhaid i’r PAC gyflwyno hysbysiad am dynnu’r dewis yn ôl i’r cofrestrydd. Daw’r tynnu nôl i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Ar ôl tynnu nôl, bydd rhaid i’r PAC gadw cofrestr o gyfeiriadau preswyl arferol yr aelodau o’r pwynt hwnnw ymlaen, a hysbysu’r cofrestrydd am unrhyw newid iddi.

2.10 Gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol aelodau ar ôl tynnu dewis nôl

Ar ôl tynnu dewis yn ôl, rhaid i PAC gofnodi yn ei gofrestr o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â materion sy’n gyfredol ac y mae angen eu cynnwys yn y gofrestr. Nid oes rhaid i’r PAC nodi gwybodaeth am y cyfnod pan oedd dewis mewn grym os nad yw’n gyfredol mwyach (e.e. manylion cyfeiriad preswyl arferol person a beidiodd â bod yn aelod yn ystod y cyfnod pan oedd yr dewis mewn grym).

2.11 Gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol aelodau a gofrestrwyd pan oedd yr dewis mewn grym

Ni fydd y wybodaeth a gyflwynir i’r cofrestrydd am gyfeiriad preswyl arferol ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gofynion archwilio ar gyfer cofrestri o gyfeiriadau preswyl arferol aelodau a gedwir gan PACau. Bydd y cofrestrydd yn rhyddhau gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl arferol i’r cyrff canlynol: i) asiantaethau gwirio credyd, heblaw mewn achosion lle cyflwynwyd cais llwyddiannus i atal datgelu i asiantaethau gwirio credyd o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006, (fel y’i cymhwysir i PAC), a ii) awdurdodau cyhoeddus penodedig e.e. yr heddlu.

3.  Cofrestr o Bobl â Rheolaeth Arwyddocaol y PAC (PRhA)

Dylech fod yn ymwybodol, pan fydd PAC wedi gwneud dewis i gadw gwybodaeth pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau, yn hytrach nag yng Nghofrestr PRhA y PAC ei hun, bydd dyddiad geni llawn y PRhA i’w gweld ar y gofrestr gyhoeddus Gall unrhyw un sydd am weld y manylion hynny, neu wneud copi ohonynt, wneud hynny. Yn achos PACau sy’n cadw eu cofrestri eu hunain, ni fydd diwrnodau geni eu PRhA ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.

Gellir cael gwybodaeth fanwl am PRhA yng nghanllawiau BEIS.

3.1 Sut i ddewis cadw gwybodaeth PRhA ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau

Gallwch ddewis cadw gwybodaeth PRhA y PAC naill ai i) wrth gorffori, lle caiff y dewis ei wneud gan yr aelodau arfaethedig sy’n dymuno sefydlu’r PAC, gyda’r cais i gorffori’r PAC o dan adran 2 o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000; neu ii) Gall PAC sydd wedi’i sefydlu a’i chofrestru wneud cais hefyd.

Nid oes unrhyw effaith i’r dewis oni bai bod y PAC wedi hysbysu’r bobl gofrestradwy a’r endidau cyfreithiol cofrestradwy perthnasol (ECP) o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y dewis, ac nad oes unrhyw berson neu ECP cofrestradwy wedi gwrthwynebu’r dewis arfaethedig o fewn y cyfnod hwnnw. Rhaid i aelodau arfaethedig a PAC sy’n cyflwyno’r dewis ddarparu datganiad gyda’r dewis sy’n nodi nad oes unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law.

Os cyflwynwch gais ar ôl corffori, rhaid i’ch dewis gynnwys yr holl wybodaeth “gyfredol” sydd yn y gofrestr PRhA. Mae “cyfredol” yn cyfeirio at bersonau sy’n bersonau cofrestradwy neu’n endidau cyfreithiol perthnasol(ECP) ar yr adeg honno neu’r dyddiad hwnnw (yn hytrach na phersonau oedd yn arfer bod yn bersonau cofrestradwy neu’n endidau cyfreithiol perthnasol ac y gallai eu gwybodaeth fod ar y gofrestr o hyd); ac at unrhyw faterion eraill sy’n gyfredol ar yr adeg honno neu’r dyddiad hwnnw.

Rhaid i PAC ddarparu unrhyw wybodaeth sydd wedi ei diweddaru yn achos unrhyw newid i’r manylion yn y gofrestr PRhA rhwng yr amser y cyflwynir yr hysbysiad am y dewis i’r cofrestrydd a’r adeg pan ddaw’r dewis i rym. Os caiff y gofrestr PRhA ei chywiro, rhaid i’r PAC ddiweddaru’r gofrestr gyhoeddus hefyd.

3.2 Pan daw’r dewis i rym

Daw dewis i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Bydd y dewis mewn grym hyd nes i’r PAC benderfynu ei bod eisiau dechrau cadw cofrestr PRhA statudol unwaith eto.

3.3  Beth sy’n digwydd pan fo dewis mewn grym ar gyfer y gofrestr PRhA

Rhaid i PAC sydd wedi gwneud dewis ar ôl corffori barhau i gadw’r gofrestr yr oedd gofyn iddo ei chadw cyn y dewis (“y gofrestr hanesyddol”). Nid oes angen iddo ddiweddaru’r gofrestr hanesyddol yna i adlewyrchu newidiadau sy’n digwydd tra bod y dewis mewn grym. Gall person archwilio’r wybodaeth sydd ar y gofrestr hanesyddol a mynnu copïau ohoni.

Rhaid i PAC osod nodyn ar y gofrestr hanesyddol i ddweud bod dewis mewn grym, pryd digwyddodd y dewis, a bod modd cael gwybodaeth gyfoes am y PRhA ar y gofrestr gyhoeddus. Os nad yw PAC yn gosod nodyn o’r fath ar y gofrestr hanesyddol, mae hynny’n drosedd.

Nid yw’r rhwymedigaethau mewn perthynas â’r gofrestr hanesyddol yn gymwys mewn perthynas ag dewis a wnaed gan aelodau arfaethedig PAC.

Rhaid i PAC gyflwyno gwybodaeth am ei PRhA i’r cofrestrydd i’w rhyddhau ar y gofnod gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau. Rhaid iddi hefyd gyflwyno unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ffeiliwyd eisoes.

Gellir gweld ragor o wybodaeth ynglŷn â rhoi gwybodaeth am PRhA eich PAC i ni yma.

Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch unigolyn sy’n berson cofrestradwy fel a ganlyn:

  • enw
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau
  • y wlad neu’r wladwriaeth (neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig) lle mae’r unigolyn yn byw fel rheol
  • cenedligrwydd
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad preswyl arferiol
  • y dyddiad pan ddaeth yr unigolyn yn berson cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw
  • natur eu rheolaeth dros y PAC
  • ac os, mewn perthynas â’r PAC honno, mae cyfyngiadau ar ddefnyddio neu ddatgelu unrhyw rai o fanylion PRhA yr unigolyn mewn grym

Dyma’r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno ar gyfer pob endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy:

  • enw corfforaethol neu enw’r ffyrm
  • y swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa
  • ffurf gyfreithiol yr endid, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu
  • os yw’n berthnasol, y gofrestr o gwmnïau y cofrestrwyd y cwmni ynddi (gan gynnwys manylion y wladwriaeth) a’i rif corffori ar y gofrestr honno
  • y dyddiad pan ddaeth yn endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw
  • a natur ei reolaeth dros y PAC

Y wybodaeth sydd i’w chyflwyno ar gyfer person cofrestradwy arall (fel unig gorfforaeth neu awdurdod lleol):

  • eu henw
  • eu prif swyddfa
  • ffurf gyfreithiol y person, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu
  • y dyddiad pan ddaethant yn berson cofrestradwy mewn perthynas â’r PAC o dan sylw
  • natur eu rheolaeth dros y PAC

Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gategorïau o PRhA yng nghanllawiau BEIS.

3.4 PACau â PRhA sydd ag amddiffyniad i’w gwybodaeth

Bydd gan rai PACau PRhA sydd ag amddiffyniad i’w gwybodaeth. Gallai hyn olygu naill ai bod cyfeiriad preswyl arferol (CPA) y PRhA yn cael ei amddiffyn fel nad yw’n cael ei ddatgelu i asiantaethau gwirio credyd (AGC), neu bod holl wybodaeth y PRhA yn cael ei hamddiffyn rhag ei datgelu ar y cofnod cyhoeddus, neu’r ddau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth PRhA ar GOV.UK.

Os oes yna PRhA sydd ag amddiffyniad rhag datgelu ei CPA i AGC, yna gall y PAC ffeilio eu holl wybodaeth gyda ni fel arfer, yn ddigidol neu ar bapur. Mae blwch ar y ffurflen gais i gorffori cwmni ac ar ffurflenni perthnasol y PRhA y dylech eu ticio os gwnaed cais am amddiffyniad, neu os caniatawyd cais o’r fath. Mae’r blwch ar y ffurflen yn cyfeirio at eithriad o dan adran 790ZF o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y’i cymhwysir i PAC.

Os oes PRhA sydd wedi gwneud cais am amddiffyniad neu y caniatawyd cais o’r fath mewn perthynas â nhw fel nad oes unrhyw un o’u manylion fel PRhA yn cael eu datgelu ar y gofrestr gyhoeddus, bydd angen i’r PAC y mae’r unigolyn hwnnw’n PRhA arno ffeilio unrhyw wybodaeth am y PRhA hwnnw ar bapur Datblygwyd fersiynau arbennig o’r cais corffori a ffurflenni PRhA unigol at y diben hwn, ac mae’r rhain ar gael gan Dîm Cofrestri Diogel Tŷ’r Cwmnïau yn unig. Gellir gwneud cais am gopi o’r ffurflenni trwy e-bostio’r tîm ar secureforms@companieshouse.gov.uk, neu trwy roi galwad iddynt ar 02920 348354

Diogelu data yw’n prif bryder wrth ffeilio dogfennau a all gynnwys gwybodaeth PRhA a amddiffynnir. Mae yna dîm penodol, a chanddynt y caniatâd diogelwch angenrheidiol i edrych ar y wybodaeth, sy’n ymdrin ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei ffeilio sy’n cynnwys gwybodaeth ddiogel.

3.5 Gwybodaeth am sefyllfa’r gofrestr ganolog

Gall person sy’n archwilio neu’n gofyn am gopi o ddeunydd sydd ar y gofrestr gyhoeddus a fyddai, pe na bai’r dewis mewn grym, ar gael ar gofrestr PRhA y PAC, ofyn i’r PAC gadarnhau a yw wedi rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i’r cofrestrydd. Mae hyn yn cyfateb i hawl y person i archwilio cofrestr PRhA y PAC.

3.6  Pŵer llys i orchymyn i PAC gywiro diffyg neu oedi

Gall person sy’n tybio iddo gael cam neu “unrhyw fuddiolydd arall”, wneud cais i’r llys i gywiro deunydd a gedwir ar y gofrestr ganolog os yw gwybodaeth wedi’i chynnwys neu heb ei chynnwys mewn deunydd a gyflwynwyd i’r cofrestrydd heb achos digonol; neu os oes diffyg neu oedi wrth hysbysu’r cofrestrydd bod person wedi dod yn berson cofrestradwy neu’n ECP, neu wedi peidio â bod yn berson cofrestradwy neu’n ECP.

3.7 Pan fo PAC yn penderfynu ei fod am ddechrau cadw ei chofrestr ei hun o PRhA (“tynnu nôl”)

Rhaid i PAC gyflwyno hysbysiad am dynnu’r dewis yn ôl i’r cofrestrydd. Daw’r tynnu nôl i rym pan fydd y cofrestrydd yn ei gofrestru. Ar ôl tynnu’r dewis yn ôl, bydd angen i’r PAC gadw ei gofrestr PRhA o hynny ymlaen.

Rhaid i’r PAC gofnodi’r holl wybodaeth angenrheidiol sy’n ymwneud â materion cyfredol ar ei chofrestr. Fodd bynnag, nid oes rhaid iddo nodi gwybodaeth hanesyddol o’r cyfnod pan roedd y wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau. (Er enghraifft, manylion person a beidiodd â bod yn PRhA yn ystod y cyfnod pan oedd yr dewis mewn grym.)

Rhaid i’r PAC anodi ei gofrestr PRhA i ddatgan bod yr dewis wedi cael ei dynnu nôl, y dyddiad pan ddaeth y tynnu nôl i rym, a’r ffaith fod gwybodaeth am y cyfnod pan oedd yr dewis mewn grym ar gael ar y gofrestr ganolog.

3.8  Gwybodaeth PRhA sydd ar y gofrestr gyhoeddus pan fo dewis mewn grym

Bydd manylion y PRhA a gyflwynwyd i’r cofrestrydd yn ystod y cyfnod pan oedd yr dewis mewn grym, gan gynnwys ei ddyddiad geni llawn, yn dal i fod ar gael i’r cyhoedd, hyd yn oed os yw’r dewis wedi cael ei dynnu nôl. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei thrin fel rhan o’r gofrestr gyhoeddus ac fe’i cynhelir yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006, fel y’i cymhwysir i PAC. Ni fydd cyfeiriadau preswyl arferol byth yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Hefyd, os oes gan PAC PRhA sydd ag amddiffyniad i’w wybodaeth, ni fydd unrhyw fanylion amdanynt yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus, dim ots a oes dewis mewn grym ai peidio.