Canllawiau

Bywyd cwmni rhan 2: ffeilio yn sgil digwyddiadau

Diweddarwyd 14 January 2019

1. Cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion

1.1 Cyfrifoldebau cyfarwyddwr

Mae’r cyfarwyddwyr o dan gyfrifoldeb i baratoi dogfennau a’u cyflwyno, ar ran y cwmni, i Dŷ’r Cwmnïau yn unol â gofynion y Ddeddf Cwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y datganiad cadarnhau
  • y cyfrifon blynyddol
  • hysbysiad am unrhyw newid yn swyddogion y cwmni neu yn eu manylion personol
  • hysbysiad am newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
  • clustnodi cyfrannau
  • cofrestru arwystlon
  • hysbysiad am unrhyw newid ym manylion PRhA y cwmni neu’r datganiadau gofynnol sy’n gysylltiedi â hwy.

1.2 Gwahaniaethau rhwng y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a’r cyfeiriad preswyl arferol

Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y cyfarwyddwr o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon.

1.3 Gwahaniaethau rhwng y gofrestr cyfarwyddwyr a’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr

Ar gyfer pob cyfarwyddwr sy’n unigolyn, mae’r gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • ei (h)enw ac unrhyw gyn-enw
  • cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau (y gellir cyfeirio ato fel “swyddfa gofrestredig y cwmni”)
  • y wlad neu’r wladwriaeth neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig y mae fel arfer yn preswylio ynddi
  • cenedl, galwedigaeth busnes (os oes un) a dyddiad geni

Ar gyfer cyfarwyddwyr sy’n gwmnïau neu’n ffyrmiau, bydd y gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • yr enw corfforaethol neu enw’r ffyrm
  • y swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa
  • yn achos cwmni o’r AEE, ble y mae wedi’i gofrestru a’i rif cofrestru; fel arall ffurf gyfreithiol y cwmni ac o dan ba gyfraith y mae’n cael ei lywodraethu ac, os yw’n gymwys, ble y mae wedi’i gofrestru a’i rif cofrestru

Mae’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr yn cynnwys cyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr sy’n unigolyn. Ar yr amod nad swyddfa gofrestredig y cwmni yw’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau i’r cyfarwyddwr, yna caiff y cofnod ddweud rhywbeth i’r perwyl bod y cyfeiriad preswyl arferol yr un fath â’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau.

Rhaid i’r gofrestr cyfarwyddwyr gael ei chadw ar gael i’w harchwilio; rhaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar y gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr. Dim ond i gyfathrebu â’r cyfarwyddwr ac i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau i ddiweddaru’r cofnodion sy’n cael eu cadw yno y caiff y cwmni ddefnyddio’r wybodaeth yn y gofrestr hon. Chaiff y cwmni ddim defnyddio’r wybodaeth hon at yr un diben arall oni bai naill ai bod y cyfarwyddwr wedi rhoi ei gydsyniad neu fod y llys yn gofyn.

1.4 Pan fydd cyfeiriad preswyl yn cael ei gyflenwi i Dŷ’r Cwmnïau

Fydd cyfeiriadau preswyl ddim yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus ar yr amod eich bod yn eu darparu yn y rhan gywir o’r ffurflen benodi neu’r ffurflen newid manylion. Yn achos ffurflenni papur, bydd y rhan hon yn dudalen ar wahân, ac wrth ffeilio dogfennau electronig fe fydd meysydd ychwanegol ar gyfer y cyfeiriad. Dim ond i Asiantaethau Cyfeirio Credyd ac Awdurdodau Cyhoeddus Penodedig y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl. Gweler y canllaw ar Cyfyngu datgeliad eich cyfeiriad.

1.5 Rôl ysgrifennydd cwmni

Does dim rhaid i gwmnïau preifat benodi ysgrifennydd oni bai bod eu herthyglau cymdeithasiad yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny.

Rhaid i Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) gael o leiaf un ysgrifennydd. Mae rhagor o fanylion am benodi ysgrifennydd i CCC ar gael yn y canllaw Corffori ac Enwau. Dydy’r ddeddfwriaeth ddim yn nodi rôl ysgrifennydd cwmni. Mae hyn yn cael ei gynnwys fel rheol yn ei gontract cyflogaeth. Er hynny, fel rheol, fe allai ysgrifennydd cwmni ymgymryd â’r canlynol

  • cadw cofrestrau statudol
  • sicrhau bod y cwmni yn ffeilio gwybodaeth statudol yn brydlon
  • rhoi gwybod am gyfarfodydd i’r aelodau a’r cyfarwyddwyr
  • rhoi penderfyniadau ysgrifenedig arfaethedig i’r aelodau a rhoi unrhyw benderfyniadau sydd wedi’u pasio i’r archwilwyr
  • cyflwyno copïau o benderfyniadau a chytundebau i Dŷ’r Cwmnïau
  • rhoi copi o’r cyfrifon i bob aelod o’r cwmni, pob dyledebwr a phawb sydd â hawl i gael gwybod am gyfarfodydd cyffredinol
  • cadw, neu drefnu cadw, copïau o bob penderfyniad gan yr aelodau (sy’n cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol), a chofnodion yr holl drafodion a’r holl gyfarfodydd
  • sicrhau bod y bobl sydd â hawl i wneud hynny yn cael archwilio cofnodion y cwmni
  • cadw a defnyddio sêl y cwmni (os yw’r cwmni’n dewis cael sêl)
  • cyd-lofnodi er mwyn i ddogfen gael ei gweithredu gan gwmni
  • dilysu ffurflenni i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau (chaiff ysgrifennydd cwmni ddim dilysu cyfrifon blynyddol y cwmni)

Mae’r ysgrifennydd yn swyddog i’r cwmni a gall fod yn atebol yn droseddol am ddiffygion y cwmni.

1.6 Hawliau ysgrifennydd cwmni

Mae’n dibynnu ar delerau ei gontract ac mae’n fater mewnol i’r cwmni, rhwng yr ysgrifennydd a’r cwmni. I weld y cymwysterau y mae ar ysgrifennydd cwmni cyhoeddus eu hangen, edrychwch ar y canllaw Corffori ac Enwau.

2. PRhA (pobl â rheolaeth arwyddocaol)

2.1 Diffiniad o PRhA

Person â rheolaeth arwyddocaol(PRhA) yw unrhyw un yn y cwmni sy’n bodloni un neu ragor o’r amodau a restrir yn Rheoliadau Pobl â Rheolaeth Arwyddocaol 2016. Gall cwmni feddu ar fwy nag un PRhA. PRhA yw person sy’n:

  • dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mwy na 25% o’r cyfrannau;
  • dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mwy na 25% o’r hawliau pleidleisio;
  • dal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yr hawl i benodi neu ddiswyddo mwyafrif bwrdd cyfarwyddwyr y cwmni;
  • sydd fel arall â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros y cwmni
  • dal yr hawl i ymarfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros weithgareddau ymddiriedolaeth neu fusnes nad yw’n berson cyfreithiol, y byddai ei ymddiriedolwyr neu ei aelodau yn bodloni unrhyw un o’r pedwar amod uchod

Yn achos y mwyafrif o gwmnïau bach, mae eu PRhA yn debygol o ddisgyn i’r cyntaf neu’r ail o’r categorïau uchod, a’r trydydd o bosibl. Yn nodweddiadol, mae’r pedwerydd a’r pumed categori’n ymwneud â strwythurau corfforaethol mwy cymhleth.

Mae’n rhaid i gwmnïau gyflwyno gwybodaeth inni ynghylch eu PRhA wrth gorffori ac wedyn cadw’r wybodaeth honno’n gyfredol.

2.2 Cofrestr y PRhA

Rhaid i’r holl gwmnïau gadw cofrestr o’u PRhA. Mae hyn yn ogystal â chadw gwybodaeth arall, fel cofrestr o aelodau a chofrestr o gyfarwyddwyr. Mae gofyn i chi bennu pwy sydd â buddiant rheoli yn eich cwmni, a chofnodi’r wybodaeth honno ar eich cofrestr.

Rhaid i gwmnïau beidio â nodi manylion unigolion sy’n PRhA yn eu cofrestr PRhA nes bod yr unigolyn wedi cadarnhau’r manylion hynny. Gellir nodi manylion endidau eraill ar y gofrestr PRhA cyn gynted ag y bo’r manylion hynny ar gael i’ch cwmni.

Mewn sefyllfaoedd lle nad oes PRhA gan y cwmni, neu lle na allant ddarparu manylion eu PRhA wedi eu cadarnhau, rhaid cofnodi un o nifer o ddatganiadau posibl ar y gofrestr PRhA. Os yw’ch cofrestr PRhA yn cynnwys un neu ragor o’r datganiadau hyn, rhaid rhoi’r wybodaeth honno inni cyn pen 14 diwrnod ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud yn y gofrestr PRhA.

Mae’r datganiadau fel a ganlyn:

  • mae’r cwmni’n gwybod, neu mae ganddo achos rhesymol i gredu nad oes unrhyw berson cofrestradwy neu endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r cwmni
  • mae’r cwmni’n gwybod, neu mae ganddo achos rhesymol i gredu bod yna berson cofrestradwy mewn perthynas â’r cwmni, ond nid yw’r cwmni wedi clustnodi’r person cofrestradwy
  • mae’r cwmni wedi clustnodi person cofrestradwy mewn perthynas â’r cwmni, ond nid yw holl fanylion gofynnol y person hwnnw wedi cael eu cadarnhau
  • nid yw’r cwmni wedi gorffen cymryd camau rhesymol i ganfod a oes unrhyw un sy’n berson cofrestradwy neu’n endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy mewn perthynas â’r cwmni hyd yn hyn
  • mae’r cwmni wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 790D o’r Ddeddf, ac ni chydymffurfiwyd ag ef
  • mae’r person a enwir wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd gan y cwmni o dan adran 790E o’r Ddeddf
  • mae’r cwmni wedi anfon hysbysiad cyfyngiadau o dan baragraff 1 o Atodlen 1B i’r Ddeddf. Gofynnir hefyd i gwmnïau nodi yn eu cofrestr PRhA os nad yw’r datganiadau uchod yn berthnasol mwyach, am fod eu hamgylchiadau o ran eu PRhA wedi newid. Rhaid i’r rhain hefyd gael eu hanfon atom ar y ffurflenni priodol. Gweler y canllawiau ar PRhA i gael rhagor o wybodaeth.

2.3 Categorïau o PRhA

Mae 3 math o endid o dan y gyfraith lle rhaid nodi eu manylion ar gofrestr PRhA y cwmni, a rhaid i gwmnïau nodi manylion pa un bynnag sy’n berthnasol iddyn nhw ar y datganiad cadarnhau. Y categorïau yw unigol, endid cyfreithiol perthnasol cofrestradwy (ECP) a pherson cofrestradwy arall. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gategorïau hyn yn y canllawiau ar PRhA. (Saesneg yn unig)

Rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol am bob un:

Am berson unigol â rheolaeth arwyddocaol:

  • y dyddiad pan ddaeth yr unigolyn hwnnw yn berson cofrestradwy
  • enw, gwlad/gwladwriaeth breswyl a chenedligrwydd yr unigolyn
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau’r unigolyn
  • cyfeiriad preswyl arferol yr unigolyn (ni fydd hyn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus)
  • dyddiad geni llawn yr unigolyn (ni fydd hyn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus)
  • natur eu rheolaeth dros y cwmni
  • y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

Am endid cyfreithiol perthnasol (ECP) cofrestradwy (fel cwmni):

  • y dyddiad pan ddaethant yn ECP cofrestradwy
  • eu henw corfforaethol
  • eu cyfeiriad
  • ffurf gyfreithiol y corff corfforaethol
  • y gyfraith llywodraethu y cofrestrwyd yr ECP odano
  • ymhle y cofrestrwyd yr ECP (os yw’n berthnasol)
  • rhif cofrestru’r ECP (os yw’n berthnasol)
  • natur eu rheolaeth dros y cwmni
  • y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

Am berson cofrestradwy arall (PCA) (fel unig gorfforaeth neu awdurdod lleol):

  • eu henw
  • eu prif swyddfa
  • ffurf gyfreithiol y person, a’r gyfraith sy’n ei lywodraethu
  • y dyddiad pan ddaethant yn berson cofrestradwy mewn perthynas â’r cwmni o dan sylw
  • natur eu rheolaeth dros y cwmni
  • y dyddiad y cofnodwyd y wybodaeth ar y gofrestr

2.4 Gwybodaeth am PRhA

Rhaid i gwmnïau anfon y wybodaeth a nodwyd yn eu cofrestr PRhA atom ni. Rhaid ichi gyflwyno’r wybodaeth yn eich cofrestr PRhA cyn pen 14 diwrnod ar ôl y newidiadau yr ydych wedi’u gwneud yn eich cofrestr PRhA gan ddefnyddio’r hysbysiadau canlynol.

Rhestr o ffurflenni sy’n ymwneud â PRhA

Hysbysiad am berson â rheolaeth arwyddocaol unigol PSC01c
Hysbysiad am endid cyfreithiol perthnasol â rheolaeth arwyddocaol PSC02c
Hysbysiad am berson cofrestradwy arall â rheolaeth arwyddocaol PSC03c
Hysbysiad newid manylion person â rheolaeth arwyddocaol PSC04c
Hysbysiad newid manylion endid cyfreithiol perthnasol â rheolaeth arwyddocaol PSC05c
Hysbysiad newid manylion person cofrestradwy arall â rheolaeth arwyddocaol PSC06c
Hysbysiad rhoi’r gorau i fod yn berson unigol, ECP neu PCA â rheolaeth arwyddocaol PSC07c
Hysbysiad datganiadau PRhA PSC08c
Hysbysiad diweddaru datganiadau PRhA PSC09c

Cewch roi gwybod i ni am unrhyw un o’r newidiadau hyn ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software Filing, neu drwy anfon dogfen bapur aton ni drwy’r post.

2.5 Cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth PRhA

Amddiffynnir gwybodaeth PRhA rhai cwmnïau.

Gallai hyn olygu naill ai bod y cyfeiriad preswyl arferol (CPA) yn cael ei amddiffyn fel nad yw’n cael ei ddatgelu i asiantaethau gwirio credyd (AGC) (amddiffyniad a790ZF), bod holl wybodaeth y PRhA yn cael ei hamddiffyn rhag ei datgelu ar y cofnod cyhoeddus (amddiffyniad a790ZG), neu’r ddau. Rhagor o wybodaeth am gyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth PRhA.

Os oes amddiffyniad mewn grym rhag datgelu CPA PRhA eich cwmni i AGC, cewch ffeilio ffurflen berthnasol (PSC01c neu PSC04c) fel arfer, yn ddigidol neu ar bapur Mae blwch ar y ffurflen(ni) y dylech ei dicio os gwnaed cais am amddiffyniad, neu os caniatawyd cais o’r fath. Mae’r blwch ar y ffurflen yn cyfeirio at eithriad o dan adran 790ZF o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Os oes PRhA gennych sydd wedi gwneud cais am amddiffyniad, neu sydd wedi cael amddiffyniad o’r fath, sy’n golygu na ellir datgelu unrhyw fanylion am y PRhA hwnnw ar y gofrestr gyhoeddus (amddiffyniad a790ZG), bydd angen i chi ffeilio’r ffurflen berthnasol (PSC01c,PSC04c,PSC07c,PSC08c or PSC09c) ar bapur. Defnyddir fersiwn wahanol o’r ffurflen berthnasol at y diben hwn, ac mae hon ar gael gan ein tîm cofrestri diogel. Gellir gwneud cais am ffurflen trwy e-bostio’r tîm ar secureforms@companieshouse.gov.uk , neu trwy roi galwad iddynt ar 02920 348354.

2.6 Eithriad rhag ffeilio gwybodaeth PRhA

Mae rhai cwmnïau wedi eu heithrio rhag y gofyniad i gadw cofrestr PRhA ac i ddarparu gwybodaeth PRhA ar ein cyfer. Mae hyn am fod y cwmnïau hyn eisoes yn cyflwyno gwybodaeth i’r gyfnewidfa stoc am bwy sy’n dal buddiant rheoli ynddynt. Bydd y cwmnïau hyn yn unrhyw gwmnïau y mae eu cyfrannau wedi cael eu masnachu ar farchnad reoleiddiedig yn y Deyrnas Unedig neu Ardal Economaidd Ewrop a chwmnïau o unrhyw ddisgrifiad a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol trwy reoliadau.

3. Cofnodion y cwmni

3.1 Cofnodion cwmni y mae angen drefnu eu bod ar gael i’w harchwilio

Yn dibynnu ar y math o gwmni, mae’n bosibl y bydd gan y cwmni rai neu’r cyfan o’r cofnodion canlynol:

  • cofrestr o bobl â rheolaeth arwyddocaol (o 6 Ebrill 2016)
  • cofrestr hanesyddol o bobl â rheolaeth arwyddocaol (o 30 Mehefin 2016 ymlaen)
  • cofrestr aelodau
  • cofrestr hanesyddol o aelodau (o 30 Mehefin 2016 ymlaen)
  • cofrestr cyfarwyddwyr
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol y cyfarwyddwyr
  • contractau gwasanaeth y cyfarwyddwyr
  • indemniadau’r cyfarwyddwyr
  • cofrestr ysgrifenyddion
  • cofnodion o benderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd cyffredinol
  • contractau neu femoranda sy’n ymwneud â phrynu cyfrannau’r cwmni ei hun
  • dogfennau sy’n ymwneud ag adennill neu brynu ei gyfrannau ei hun allan o gyfalaf gan gwmni preifat
  • cofrestr dyledebwyr
  • adroddiad i’r aelodau ar ganlyniad archwiliad gan gwmni cyhoeddus i’r diddordeb yn ei gyfrannau
  • cofrestr o’r diddordeb mewn cyfrannau a ddatgelwyd i gwmni cyhoeddus
  • offerynnau sy’n creu arwystlon a chofrestr o arwystlon

Mae angen ichi gadw’r cofnodion cwmni hyn ar gael i’w harchwilio.

3.2 Lle y gall cofnodion gael eu cadw

Cewch gadw’r cyfan neu unrhyw rai o’r cofnodion hyn yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Caiff y cwmni ddewis lle arall i drefnu bod y cofnodion hyn ar gael i’w harchwilio. Dim ond un lleoliad arall heblaw’r swyddfa gofrestredig a all fod gan y cwmni ar unrhyw adeg benodedig. Rhaid i’r lleoliad hwn fod yn yr un rhan o’r DU â’r swyddfa gofrestredig, er enghraifft gall cwmni sydd wedi’i gofrestru yn Lloegr a Chymru gael lleoliad arall ar gyfer archwilio’r cofnodion yn Lloegr a Chymru, ond nid yn yr Alban na Gogledd Iwerddon. Gall y cwmni ddewis cadw rhai cofnodion yn ei swyddfa gofrestredig a rhai yn ei leoliad archwilio arall ar yr amod bod yr holl gofnodion o’r un math yn cael eu cadw gyda’i gilydd.

3.3 Yr hyn sydd angen i chi anfon atom

Os na fyddwch yn cadw’r cyfan o’ch cofnodion yn swyddfa gofrestredig y cwmni, yna mae angen ichi ddweud wrthyn ni beth yw cyfeiriad eich lleoliad arall ar gyfer archwilio cofnodion a pha gofnodion sydd gennych chi yno, a hynny ar ffurflen AD02c, ac am unrhyw newid yn y cyfeiriad hwnnw ar ffurflen AD03c. Mae angen ichi ddweud wrthon ni hefyd pan fyddwch yn dychwelyd unrhyw gofnodion i’r swyddfa gofrestredig, a hynny ar ffurflen AD04c. Cewch roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software Filing, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post. Dim ond drwy ffeilio ar bapur gall newidiadau mewn lleoliad y gofrestr PRhA cael eu hysbysu.

3.4 Dull amgen o gadw cofnodion

O 30 Mehefin 2016 ymlaen, caiff cwmni ddewis peidio â chadw rhai cofrestri statudol. Gall cwmnïau anfon y wybodaeth sy’n ofynnol yn y cofrestri hynny at y cofrestrydd cwmnïau iddi gael ei gosod ar y cofnod cyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Dyma’r cofrestri mae hyn yn berthnasol iddynt:

  • cofrestr aelodau
  • cofrestr pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • cofrestr cyfarwyddwyr
  • cofrestr cyfeiriadau preswyl arferol y cyfarwyddwyr
  • cofrestr ysgrifenyddion

Yn y canllaw ar y cynllun cofrestri ceir gwybodaeth am yr hyn sy’n ofynnol er mwyn dewis yr opsiwn hwn, sut i gynnal y wybodaeth a gedwir ar y gofrestr gyhoeddus, goblygiadau gwneud hynny a beth sy’n digwydd pan mae cwmni’n dewis tynnu’n ôl o gadw ei gofrestr(i) ar y gofrestr gyhoeddus.

4. Penderfyniadau

4.1 Diffiniad o benderfyniad

Mae penderfyniad yn gytundeb neu’n ddyfarniad sy’n cael ei wneud gan aelodau cwmni, gan ddosbarth o aelodau cwmni, neu gan gyfarwyddwyr cwmni, i gyflawni newidiadau penodol. Gallai hynny gynnwys newid enw’r cwmni, newid ei gyfalaf cyfrannau neu newid ei erthyglau.

4.2 Sut mae cwmnïau’n pasio penderfyniadau

Bydd aelodau’r cwmni’n pleidleisio a ddylid pasio ynteu gwrthod dull gweithredu arfaethedig. Fel arfer bydd pŵer pleidleisio pob aelod yn dibynnu ar faint o gyfrannau sy’n perthyn iddo. Ran amlaf, bydd gan aelod sydd ag un gyfran un bleidlais. Mae’r penderfyniad yn cael ei basio pan fydd y mwyafrif sydd wedi’i bennu ymlaen llaw er mwyn pasio’r penderfyniad yn cael ei gyrraedd (er enghraifft 75% o’r aelodau ar gyfer penderfyniad arbennig i newid enw’r cwmni). Os na chaiff y mwyafrif angenrheidiol ei sicrhau, yna mae’r penderfyniad arfaethedig yn methu.

4.3 Pwy sy’n cael pleidleisio

Mae’n bosibl y bydd erthyglau cymdeithasiad y cwmni’n datgan yr amodau ynglŷn â hawliau pleidleisio’r aelodau, ond yn gyffredinol bydd gan aelod un bleidlais am bob un gyfran sydd ganddo ar benderfyniad ysgrifenedig neu un bleidlais wrth godi dwylo mewn cyfarfod cyffredinol oni bai bod pôl yn cael ei alw. Os bydd rhywun yn galw’n ddilys am bôl mewn cyfarfod cyffredinol, yna bydd gan bob aelod un bleidlais am bob cyfran sydd ganddo.

Os na all aelod fod yn bresennol yn y cyfarfod, caiff benodi dirprwy i bleidleisio drosto. Yn achos cyd-ddeiliaid cyfrannau, pleidlais y deiliad sydd wedi’i enwi gyntaf yn y gofrestr aelodau a gaiff ei chyfrif, oni bai bod erthyglau’r cwmni’n dweud rhywbeth gwahanol.

4.4 Pwy sy’n cael copïau o’r penderfyniad cyn iddo gael ei gymeradwyo ac wedyn

Rhaid i’r cwmni gylchredeg hysbysiad o’r bwriad i gynnig penderfyniad i’w aelodau. Os oes gan gwmni archwilwyr, rhaid iddo anfon copïau atyn nhw neu fel arall roi gwybod iddyn nhw am gynnwys pob penderfyniad arfaethedig. Mae’r Ddeddf Cwmnïau’n ei gwneud yn ofynnol ichi gyflwyno penderfyniad penodol (er enghraifft unrhyw benderfyniad arbennig) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl ei basio.

4.5 Cwmnïau preifat a phasio penderfyniadau

Caiff cwmnïau preifat basio penderfyniadau:

  • drwy benderfyniad ysgrifenedig, y mae’n rhaid iddyn nhw ei gylchredeg i bob aelod cymwys yn electronig neu ar ffurf copi caled
  • drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod o’r aelodau

Un o effeithiau’r Ddeddf Cwmnïau yw nad yw mwyach yn ofynnol i gwmnïau preifat gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB). Mae darpariaethau newydd ynghylch penderfyniadau ysgrifenedig yn galluogi cwmnïau preifat i hepgor cyfarfodydd cyffredinol yn gyfan gwbl, ac eithrio at ddau ddiben cyfyngedig.

4.6 Penderfyniadau ysgrifenedig a chwmnïau preifat

Caiff cwmnïau preifat basio bron pob penderfyniad ar ffurf penderfyniad ysgrifenedig, er enghraifft, un sydd wedi’i gylchredeg, naill ai ar bapur neu’n electronig, i’r aelodau heb fod angen cyfarfod.

Eithriadau i hyn yw:

  • penderfyniad i ddiswyddo cyfarwyddwr
  • penderfyniad i ddiswyddo archwilydd

Mae angen i’r penderfyniadau hyn gael eu pasio mewn cyfarfod cyffredinol.

4.7 Cwmnïau cyhoeddus a phasio penderfyniadau

Mae cwmnïau cyhoeddus yn gorfod cynnal CCB o fewn 6 mis ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol yn ychwanegol at unrhyw gyfarfodydd eraill sy’n cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw. Dim ond drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod o’r aelodau, sef y CCB o bosibl, y caiff cwmni cyhoeddus basio penderfyniad. Nid yw’n cael pasio penderfyniad ysgrifenedig.

4.8 Cofnodion o benderfyniadau a chyfarfodydd y mae’n rhaid i’r cwmni eu cadw

Rhaid i’r cwmni gadw cofnodion o’r holl drafodion mewn cyfarfodydd cyffredinol neu benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan yr unig aelod. Rhaid hefyd iddyn nhw gadw copïau o bob penderfyniad gan aelodau sy’n cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol. Rhaid iddyn nhw gadw’r cofnodion hyn am 10 mlynedd a threfnu eu bod ar gael i’w harchwilio gan yr aelodau os gwnân nhw gais.

4.9 Penderfyniadau a chyfarfodydd

Drwy godi llaw y mae’r bleidlais yn cael ei chynnal ar benderfyniad mewn cyfarfod cyffredinol, oni bai bod yr aelodau’n galw am bôl.  Mae pôl yn bleidlais sydd wedi’i seilio ar nifer y cyfrannau sydd gan bobl yn hytrach nag ar godi llaw. Y cyfan y mae ei eisiau er mwyn i benderfyniad gael ei basio yw datganiad gan y cadeirydd bod y penderfyniad wedi llwyddo drwy godi llaw, ond dydy hyn ddim yn gymwys os bydd yr aelodau’n galw am bôl. Does dim angen ichi gyfrif nifer y pleidleisiau o blaid neu yn erbyn o dan y drefn codi llaw.

Rhaid i gwmni preifat roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad o gyfarfod cyffredinol. Rhaid i gwmni cyhoeddus roi 21 diwrnod o leiaf o hysbysiad o’i CCB, oni bai bod erthyglau’r cwmni’n pennu cyfnod hysbysu hirach. Caiff cwmni alw cyfarfod cyffredinol ar rybudd byrrach, gyda mwyafrif o 90% o’r hawliau pleidleisio yn achos cwmni preifat a 95% yn achos cwmni cyhoeddus. Dydy hyn ddim yn gymwys yn achos CCB cwmni cyhoeddus, lle mae’n rhaid i bob aelod gytuno. Rhaid i rybuddion sy’n rhoi gwybod am CCB cwmnïau cyhoeddus ddatgan mai CCB yw’r cyfarfod.

Caiff cwmnïau roi hysbysiad o gyfarfod:

  • ar ffurf electronig
  • ar ffurf copi caled
  • drwy gyfrwng gwefan
  • drwy gyfuniad o unrhyw rai o’r uchod

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod ac unrhyw benderfyniadau sydd i’w cytuno.

4.10 Rhagor o wybodaeth am benderfyniadau

Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a chyfarfodydd ar gael yn Neddf Cwmnïau 2006 Rhan 13.

5. Newid y cyfansoddiad

5.1 Diwygio amcanion y cwmni

Mae gan gwmnïau sydd wedi’u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 amcanion digyfyngiad. Er hynny, maen nhw’n cael dewis eu cyfyngu yn eu herthyglau drwy basio penderfyniad arbennig a llenwi’r “datganiad amcanion” ar ffurflen CC04 (Saesneg yn unig). Dydy’r diwygiad i’r amcanion ddim yn dod i rym nes bod y ffurflen wedi’i chofrestru gan Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid hefyd i’r cwmni ffeilio copi o’r erthyglau diwygiedig o fewn 15 diwrnod ar ôl dyddiad pasio neu wneud y penderfyniad.

Mae cwmnïau sydd wedi’u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddfau Cwmnïau cyn hynny hefyd yn cael diwygio’u herthyglau er mwyn manteisio ar y darpariaethau hyn. Er bod eu hamcanion wedi’u rhestru yn eu memorandwm, bernir bod y rhain yn ffurfio rhan o’r erthyglau ac mae’n ofynnol iddyn nhw anfon copi o’r penderfyniad a chopi o’r erthyglau diwygiedig (o fewn 15 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud neu gymeradwyo’r penderfyniad) neu o’r memorandwm os yw’r cwmni wedi diwygio’i femorandwm. Rhaid i gwmnïau sy’n diwygio eu herthyglau er mwyn ychwanegu, dileu neu amrywio manylion gyflwyno Ffurflen CC04. Ni ddaw’r diwygiadau i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru’r ffurflen.

5.2 Pryd i ddefnyddio ffurflen CC05 Newid cyfansoddiad drwy ddeddfiad

Gall deddfwriaeth newid cyfansoddiad cwmni. Gall hyn fod yn ddeddfwriaeth gyffredinol, er enghraifft darpariaeth newydd yn y Ddeddf Cwmnïau sy’n diddymu darpariaethau penodol yn erthyglau pob cwmni. Gall Deddf Seneddol breifat hefyd newid y cyfansoddiad drwy ddiwygio erthyglau cwmni a gafodd ei sefydlu gan Ddeddf flaenorol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau a ffeilio’rffurflen (Saesneg) CC05 Newid cyfansoddiad drwy ddeddfiad. Os deddfiad arbennig sy’n peri’r newid, mae’n rhaid i chi anfon copi o’r deddfiad gyda’r ffurflen CC05 Rhaid i’r cwmni ffeilio copi o’r ddogfen ddiwygiedig neu’r dogfennau diwygiedig o fewn 15 diwrnod ar ôl i’r deddfiad ddod i rym dim ond pan fydd erthyglau, penderfyniadau a chytundebau’r cwmni sy’n effeithio ar y cyfansoddiad yn cael eu diwygio o ganlyniad i’r deddfiad hwn.

5.3 Pryd i ddefnyddio ffurflen CC06 Newid cyfansoddiad drwy orchymyn llys neu awdurdod arall

Caiff y Comisiwn Elusennau, er enghraifft, newid cyfansoddiad cwmni drwy orchymyn. Rhaid i gwmnïau roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau a ffeilio ffurflen Saesneg CC06 Newid cyfansoddiad drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, ynghyd â chopi o’r gorchymyn. Rhaid i’r cwmni anfon copi o’r dogfennau diwygiedig dim ond pan fydd y gorchymyn yn newid erthyglau’r cwmni neu benderfyniad neu gytundeb sy’n effeithio ar gyfansoddiad y cwmni. Cewch weld rhagor o wybodaeth am gyfansoddiad cwmni yn Rhan 3 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

6. Cyfalaf cyfrannau

6.1 Cyfalaf cyfrannau

Pan fydd pobl yn ffurfio cwmni, maen nhw’n penderfynu a ddylai atebolrwydd yr aelodau gael ei gyfyngu drwy gyfrannau.

Pan fydd cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau’n cael ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae’n rhaid i’r cyfranddeiliaid gytuno i gymryd rhywfaint, neu’r cyfan, o’r cyfrannau. Rhaid i’r datganiad o’r cyfalaf a’r cyfranddaliadau cychwynnol ddangos enwau a chyfeiriadau’r bobl sydd wedi cytuno i gymryd cyfrannau a faint o gyfrannau y bydd pob un yn eu cymryd. Yr enw ar y bobl hyn yw’r tanysgrifwyr.

6.2 Cyfalaf dosbarthedig

Cyfalaf dosbarthedig yw gwerth y cyfrannau sydd wedi’u dosbarthu i’r cyfranddeiliaid. Mae hyn yn golygu gwerth enwol y cyfrannau yn hytrach na’u gwerth gwirioneddol.

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig drwy glustnodi rhagor o gyfrannau. Rhaid iddo glustnodi o dan awdurdod priodol.

  • Fel rheol, dim ond i’w aelodau, ei staff a’u teuluoedd, i ddyledebwyr neu i bobl eraill drwy drefniant preifat, y caiff cwmni preifat ddosbarthu cyfrannau
  • Caiff CCC gynnig cyfrannau i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn prosbectws neu drwy fanylion rhestru

6.3 Mathau o gyfrannau

Caiff cwmni fod â chynifer o wahanol fathau o gyfrannau ag y mae’n dymuno, a phob math o dan wahanol delerau.

At ei gilydd, mae cyfrannau’n perthyn i’r categorïau canlynol:

  • Cyffredin: Dyma gyfrannau cyffredin y cwmni heb hawliau na chyfyngiadau arbennig. Caiff y cwmni eu rhannu’n ddosbarthiadau o werthoedd gwahanol
  • Blaengyfrannau: Mae’r cyfrannau hyn yn dod â hawl i gael taliad gan y cwmni o unrhyw fuddrannau blynyddol sydd ar gael i’w dosbarthu ar y cyfrannau hyn cyn unrhyw ddosbarthiadau eraill
  • Blaengyfrannau cronnol: Mae’r cyfrannau hyn fel rheol yn dod â hawl i gael cario’r fuddran ymlaen i’r blynyddoedd dilynol, os na all y cwmni ei thalu mewn blwyddyn
  • Adenilladwy: Mae’r cyfrannau hyn yn cael eu dosbarthu gan y cwmni gyda chytundeb y bydd y cwmni’n eu prynu’n ôl, a hynny yn ôl dewis naill ai’r cwmni neu’r cyfranddeiliad ar ôl cyfnod penodol, neu ar ddyddiad penodedig. Ni chaiff cwmni fod â chyfrannau adenilladwy yn unig.

6.4 CCC a’r isafswm awdurdodedig

Ni chaiff CCC gynnal busnes nac arfer pwerau benthyca hyd nes ei fod wedi sicrhau tystysgrif fasnachu gan Dŷ’r Cwmnïau, a fydd Tŷ’r Cwmnïau ddim yn rhoi tystysgrif fasnachu oni bai ei fod wedi’i fodloni bod y cwmni yn bodloni’r gofyniad ynghylch ‘isafswm awdurdodedig’ ar gyfer cyfalaf cyfrannau. Er mwyn bodloni’r gofyniad a sicrhau tystysgrif fasnachu, mae’n rhaid i werth enwol cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni fod yn £50,000 neu €57,100 o leiaf. Ni all y cwmni fodloni’r gofyniad drwy gyfuniad o gyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall. I wneud cais am dystysgrif fasnachu, rhaid i’r cwmni gyflwyno ffurflen SH50(Saesneg) i Dŷ’r Cwmnïau.

Does dim rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o fod yn gwmni preifat i fod yn CCC wneud cais am dystysgrif fasnachu. Er hynny, er mwyn ailgofrestru, rhaid i werth enwol cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni beidio â bod yn llai na’r isafswm awdurdodedig a rhaid bodloni’r gofyniad ynghylch isafswm awdurdodedig naill ai mewn cyfrannau sterling i gyd neu mewn cyfrannau ewro i gyd.

Wrth wneud cais am dystysgrif fasnachu (neu am ailgofrestru), os gallai’r cwmni fodloni’r isafswm awdurdodedig mewn naill ai sterling neu mewn ewros bydd angen ichi ddatgan yn eich cais ai mewn sterling ynteu mewn ewros rydych chi’n bodloni’r gofyniad ynglŷn â’r isafswm awdurdodedig.

6.5 Datganiad Cyfalaf

Drwy’r canllaw hwn i gyd fe welwch gyfeiriadau at y datganiad cyfalaf. Cafodd hyn ei gyflwyno gan Ddeddf Cwmnïau 2006 a hynny ar gyfer pob cwmni gyda chyfalaf cyfrannau. Mae’r datganiad cyfalaf yn cynnig cipolwg ar gyfalaf cyfrannau cwmni cyfyngedig ar adeg benodedig. Rhaid i gwmnïau sy’n corffori gyda chyfalaf cyfranau ar neu ar ôl 1 Hydref 2009 gwblhau datganiad o gyfalaf a chyfranddaliadau cychwynnol fel rhan o’r cais am gorffori.

Rhaid i bob cwmni gyda chyfalaf cyfrannau gwblhau datganiad cyfalaf fel rhan o unrhyw ffurflen flynyddol sy’n cael ei ffeilio hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009. O 30 Mehefin 2016 ymlaen mae’r datganiad cadarnhau’n disodli’r ffurflen flynyddol, mae’n ofynnol i gwmnïau ffeilio copi o’u datganiad cyfalaf diweddaraf ynghyd â’r datganiad cadarnhau os nad yw’r cofrestrydd yn dal y wybodaeth hon eisoes.

Rhaid i gwmnïau gwblhau datganiad cyfalaf gyda ffurflenni penodol sy’n rhoi gwybod am newidiadau cyfalaf, sef:

Ffurflen yn hysbysu am newidiadau yn y cyfalaf

  Dychwelyd cyfrannau a glustnodwyd | SH01c Hysbysiad cyfuno, isrannau neu ail-drosi stoc yn gyfrannau neu adennill cyfrannau adenilladwy (Saesneg) | SH02 Ailddynodi gwerth cyfrannau (Saesneg) | SH14 Lleihau cyfalaf o ganlyniad i ailddynodi gwerth cyfrannau (Saesneg) | SH15 Dileu cyfrannau a adbrynwyd neu, dileu ar unwaith gyfrannau a adbrynwyd i’r drysorfa (Saesneg) | SH06 Dileu yn nes ymlaen gyfrannau sy’n cael eu dal yn y drysorfa (Saesneg) | SH05 Dileu cyfrannau sy’n cael eu dal gan neu ar ran CCC yn unol ag adran 662 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (Saesneg) | SH07

In all the circumstances listed above, the statement of capital will be an integral part of the appropriate form.

Fe fydd adegau pan fydd angen i gwmni cyfyngedig ffeilio datganiad cyfalaf ‘ar ei ben ei hun’, er enghraifft i gyd-fynd â gostyngiad yn y cyfalaf cyfrannau a gymeradwywyd gan y llys neu (yn achos cwmni preifat) gostyngiad a ategir â datganiad solfedd ac (mewn rhai achosion) wrth ailgofrestru o fod yn gwmni digyfyngiad i fod yn gwmni cyfyngedig. Bydd datganiad cyfalaf Ffurflen SH19 (Saesneg) ar gael ar gyfer y dibenion hyn.

Rhaid i’r datganiad cyfalaf ddangos y manylion canlynol ynglŷn â’r cyfalaf:

  • cyfanswm cyfrannau’r cwmni
  • cyfanred gwerth nominal y cyfrannau hynny
  • ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau-
  • manylion rhagnodedig ynglŷn â’r hawliau sydd ynghlwm wrth y cyfrannau
  • cyfanswm nifer y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw
  • cyfanred gwerth nominal y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw
  • faint sydd wedi’i dalu a faint (os oes rhywfaint) sydd heb ei dalu ar bob cyfran (naill ai oherwydd gwerth nominal gyfran neu ar ffurf premiwm)

6.6 Clustnodi cyfrannau

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau drwy glustnodi rhagor o gyfrannau. Mae cyfrannau yn cael eu “dosbarthu” pan gaiff person ei gofrestru fel aelod yng nghofrestr aelodau’r cwmni.

6.7 Awdurdod i glustnodi

‘Clustnodi’ yw’r broses lle bydd person yn sicrhau hawl ddiamod i gael cyfrannau. Bydd cyfarwyddwyr yn clustnodi cyfrannau ar ran y cwmni, ond mae angen i naill ai erthyglau’r cwmni neu benderfyniad gan y cwmni eu hawdurdodi i wneud hynny.

Un eithriad i hyn yw nad oes ar gwmni preifat a gorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ac y bydd ganddo un dosbarth o gyfrannau yn unig ar ôl y clustnodi angen awdurdod ymlaen llaw gan y cwmni i glustnodi cyfrannau oni bai bod yna gyfyngiad penodol yn yr erthyglau. Bydd angen i gwmnïau preifat a gorfforwyd cyn y dyddiad hwnnw basio penderfyniad cyffredin er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn, ar yr amod nad oes cyfyngiad penodol yn eu herthyglau.

6.8 Talu am gyfrannau

Gellir talu am gyfrannau mewn amryw o ffyrdd mewn cwmni preifat, gan gynnwys arian parod, nwyddau, gwasanaethau, eiddo, ewyllys da, gwybodaeth arbenigol neu hyd yn oed cyfrannau mewn cwmni arall.

Yn gyffredinol, caiff pobl dalu am gyfrannau mewn cwmni preifat;

  • yn gyfan gwbl ag arian parod
  • yn rhannol ag arian parod ac yn rhannol â thaliad heblaw arian parod
  • yn gyfan gwbl â thaliad heblaw arian parod

Ran amlaf, mae’n rhaid talu am gyfrannau mewn cwmni cyhoeddus ag arian parod. Er hynny, os caiff cyfrannau mewn cwmni cyhoeddus eu clustnodi am gydnabyddiaeth heblaw arian parod, rhaid i’r gydnabyddiaeth am y cyfrannau gael ei phrisio’n annibynnol ran amlaf. Rhaid ichi anfon copi o’r adroddiad prisio unigol at y sawl y bwriedir clustnodi’r gyfran neu’r cyfrannau iddo ac i Dŷ’r Cwmnïau wrth gofrestru’r ffurflen SH01c.

6.9 Hysbysu clustnodiad

O fewn mis ar ôl clustnodi cyfrannau, mae’n rhaid i gwmni cyfyngedig gyflwyno ffurflen glustnodi, ar ffurflen SH01c, i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid i chi lenwi datganiad cyfalaf fel rhan o’r ffurflen hon.

Os ydych yn gwmni cyfyngedig a bod y person yn talu am y cyfrannau ag arian parod, rhaid ichi gynnwys manylion yr union swm sydd wedi’i dalu neu sydd heb ei dalu yn y ffurflen.

Os bydd y cwmni’n clustnodi cyfrannau yn llawn neu’n rhannol am elfen heblaw arian parod, mae’n rhaid i chi ddangos i ba raddau y mae’r cwmni wedi trin y cyfrannau fel pe baen nhw wedi’u talu ar y ffurflen SH01c ac mae’n rhaid hefyd i chi gynnwys disgrifiad byr o’r taliad heblaw arian parod a roddwyd am y cyfrannau.

Cewch roi gwybod am gyfres o glustnodiadau ar yr un ffurflen SH01c, ond mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen at Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn hwyrach na mis ar ôl dyddiad y clustnodiad cyntaf. Os gwnewch chi hyn, dylai’r datganiad cyfalaf adlewyrchu sefyllfa’r cwmni ar ôl y clustnodiad ‘olaf’.

Rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau bod cyfrannau bonws wedi’u clustnodi ar ffurflen SH01c. Dylai ddangos y swm a dalwyd am bob cyfran fel ‘dim’ neu ‘0.00’ a dangos bod y cyfrannau wedi’u talu ‘mewn modd heblaw arian parod’.

Dim ond os yw’n clustnodi dosbarth newydd o gyfrannau (h.y. dosbarth o gyfrannau sydd â hawliau sy’n wahanol mewn unrhyw fodd i unrhyw gyfrannau a glustnodwyd o’r blaen) y mae angen i gwmni digyfyngiad roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen SH09.

6.10 Ailddynodi gwerth cyfalaf cyfrannau

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 caiff unrhyw gwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau (os nad oes gwaharddiad neu gyfyngiad yn ei erthyglau) ailddynodi gwerth ei gyfalaf cyfrannau, neu unrhyw ddosbarth o’i gyfalaf cyfrannau i mewn i arian treigl arall drwy basio penderfyniad.

Rhaid i’r cwmni ddefnyddio cyfradd gyfnewid benodol briodol ar gyfer yr ailddynodi - a rhaid defnyddio naill ai cyfradd sydd ar gael ar ddiwrnod penodol a bennir yn y penderfyniad neu’r gyfradd ar gyfartaledd wedi’i chymryd o bob diwrnod o’r bron mewn cyfnod a bennir yn y penderfyniad (a rhaid i’r diwrnod neu’r cyfnod a ddewisir fod o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn diweddu ar y diwrnod cyn i’r penderfyniad gael ei basio).

Dylech gymryd tri cham, ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau, i gyfrifo gwerth enwol newydd pob cyfran yn y dosbarth:

  • cymryd cyfanred (cyfanswm) hen werthoedd enwol yr holl gyfrannau yn y dosbarth hwnnw
  • troi’r swm hwnnw i’r arian treigl newydd yn ôl y gyfradd gyfnewid sydd wedi’i phennu yn y penderfyniad
  • rhannu’r swm hwnnw â nifer y cyfrannau yn y dosbarth

O fewn mis ar ôl ailddynodi’r gwerth, rhaid i chi gyflwyno Ffurflen SH14 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau, yn ogystal â chopi o’r penderfyniad.

6.11 Isrannu a chyfuno cyfrannau

Oni bai bod ei erthyglau cymdeithasiad yn gwahardd hynny neu’n cyfyngu ar hynny, caiff cwmni basio penderfyniad cyffredin i wneud y canlynol:

  • isrannu ei gyfrannau, neu unrhyw rai ohonyn nhw, yn gyfrannau o symiau llai, er enghraifft, caiff rannu cyfran £1 yn 10 cyfran o 10c yr un
  • cyfuno a rhannu ei gyfalaf cyfrannau’n gyfrannau o symiau mwy na’i gyfrannau presennol, er enghraifft, caiff gyfuno 200 o gyfrannau o £1 yr un a’u rhannu’n 100 cyfran o £2 yr un
  • ail-drosi unrhyw stoc yn gyfrannau wedi’u talu o unrhyw werth enwol
  • Yn yr achosion uchod, mae cyfanswm y cyfalaf cyfrannau’n parhau yn ddigyfnewid.

Rhaid i’r cwmni roi hysbysiad ynglŷn â’r newid i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH02 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) o fewn mis ar ôl y newid.

6.12 Amrywio hawliau dosbarth

Yn nodweddiadol, mae’r hawliau sydd ynghlwm wrth ddosbarth o gyfrannau (“hawliau dosbarth”) yn ymwneud â materion fel hawliau pleidleisio, hawliau i gael buddrannau a hawliau i gael cyfalaf yn ôl pan gaiff cwmni ei ddirwyn i ben.

Gall yr erthyglau cymdeithasiad nodi hawliau dosbarth a chynnwys darpariaethau ar gyfer newid (“amrywio”) yr hawliau hynny.

Os nad yw’r erthyglau’n cynnwys darpariaethau i amrywio’r hawliau, caiff y cwmni eu hamrywio naill ai drwy sicrhau cydsyniad deiliaid o leiaf tri chwarter y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw yn ôl eu gwerth enwol (heb gynnwys cyfrannau’r drysorfa), neu drwy gael aelodau’r dosbarth hwnnw i basio penderfyniad arbennig mewn cyfarfod cyffredinol ar wahân.

Rhaid i chi gyflwyno copi o’r penderfyniad arbennig i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod. Rhaid hefyd ichi gyflwyno Ffurflen SH10 (hysbysiad manylion amrywiad hawliau) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn mis ar ôl dyddiad yr amrywiad. Mae gan ddeiliaid nid llai na 15% o gyfanswm y cyfrannau wedi’u dosbarthu yn y dosbarth o dan sylw, gan anwybyddu unrhyw gyfrannau trysorfa yn y dosbarth, hawl (os na roesant eu cydsyniad i’r amrywiad) i wneud cais i’r llys am ddileu’r amrywiad. Rhaid iddyn nhw wneud y cais heb fod yn hwyrach nag 21 diwrnod ar ôl i’r cydsyniad gael ei roi neu ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio.

Caiff y llys gadarnhau neu ddileu’r amrywiad a rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn fwy na 15 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

6.13 Enw neu ddynodiad newydd ar ddosbarth o gyfrannau

Caiff cwmni roi enw neu ddynodiad i ddosbarth o gyfrannau (neu enw neu ddynodiad newydd). Rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH08 i Dŷ’r Cwmnïau i roi gwybod am y newid hwn.

6.14 Gostwng cyfalaf

Yn gyffredinol, chaiff cwmni ddim gostwng ei gyfalaf cyfrannau heblaw fel a ganiateir gan y statud ac fel a gadarnheir gan y llys. Er hynny, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, fe gaiff cwmni ostwng ei gyfalaf cyfrannau o dan yr amgylchiadau canlynol:

Gostwng y cyfalaf yn sgil ailddynodi gwerth

Caiff cwmni ostwng ei gyfalaf ar ôl ailddynodi gwerth ei gyfalaf cyfrannau o dan y weithdrefn newydd yn y Ddeddf (gweler uchod), ond dim ond er mwyn sicrhau gwerthoedd enwol mwy addas ar gyfer y cyfrannau yr ailddynodwyd eu gwerth y caniateir gwneud hyn, er enghraifft os yw ailddynodi gwerth y cyfrannau’n arwain at werthoedd enwol nad ydyn nhw’n unedau cyfan yn yr arian newydd.

Rhaid i’r cwmni basio penderfyniad arbennig (o fewn 3 mis ar ôl pasio’r penderfyniad i ailddynodi gwerth y cyfrannau) a, o fewn 15 diwrnod, chyflwyno copi ohono, yn ogystal â ffurflen SH15 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau.

Rhaid hefyd i chi gyflwyno datganiad cyfarwyddwyr sy’n cadarnhau nad yw’r gostyngiad yn fwy na 10% o werth enwol y cyfrannau clustnodedig yn union ar ôl y gostyngiad.

Gostyngiad a ategir â datganiad solfedd

Caiff cwmni cyfyngedig preifat ostwng ei gyfalaf drwy benderfyniad arbennig a ategir â datganiad solfedd (cyhyd ag na fydd y gostyngiad yn arwain at ddal cyfrannau adenilladwy yn unig). Rhaid i chi gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:

  • copi o benderfyniad arbennig sy’n awdurdodi’r gostyngiad yn y cyfalaf
  • copi o’r datganiad solfedd sydd wedi’i wneud yn unol ag adrannau 642(1)(a) a 643 o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • datganiad cyfalaf
  • datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr
  • ffi o £10 am y gwasanaeth safonol neu £50 am y gwasanaeth yr un diwrnod

Rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi’r datganiad solfedd.

Mae datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr yn cadarnhau bod y cwmni wedi trefnu bod copi o’r datganiad solfedd ar gael i bob un o’r aelodau cymwys yn unol â’r gofynion ac na wnaeth y cyfarwyddwyr y datganiad solfedd mwy na 15 diwrnod cyn i aelodau’r cwmni basio’r penderfyniad. Rhaid i bob un o’r cyfarwyddwyr lofnodi’r datganiad cydymffurfio hwn.

Rhaid i’r holl ddogfennau hyn cael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio. Pryd bynnag y bo modd, dylech gyflwyno’r ffurflenni i gyd gyda’i gilydd. Fydd y gostyngiad yn y cyfalaf ddim yn dod i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru copi o’r datganiad solfedd, y penderfyniad a’r datganiad cyfalaf.

Gostyngiad a gadarnheir gan orchymyn llys

Caiff cwmni ostwng ei gyfalaf drwy basio penderfyniad arbennig a sicrhau cadarnhad i’r gostyngiad gan y llys. Rhaid ichi baratoi datganiad cyfalaf hefyd a chael y llys i gymeradwyo hwnnw.

Rhaid wedyn i chi gyflwyno’r copi gwreiddiol a chopi o’r gorchymyn llys i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â’r datganiad cyfalaf a ffi o £10 am y gwasanaeth safonol neu £50 am y gwasanaeth yr un diwrnod. Mewn y mwyaf achos, fydd y gostyngiad ddim yn dod i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru’r copi o’r gorchymyn llys a’r datganiad cyfalaf. Er hynny, mae’r gofyniad ar yr “isafswm awdurdodedig” yn cyfyngu ar gwmnïau cyhoeddus. Os bydd gostyngiad cyfalaf yn dod â gwerth enwol cyfalaf clustnodedig CCC o dan yr isafswm awdurdodedig, yn gyffredinol bydd angen iddo ailgofrestru fel cwmni preifat. Serch hynny, at y diben hwn mae cwmni cyhoeddus yn cael bodloni’r gofyniad ynglŷn â’r isafswm awdurdodedig drwy gyfrwng cyfrannau y mae eu gwerthoedd wedi’u dynodi mewn mwy nag un math o arian treigl.

6.15 Dileu cyfrannau gan CCC ar ôl eu fforffedu neu eu hildio

Os oes cyfrannau mewn ccc wedi’u fforffedu, wedi’u hildio neu wedi’u sicrhau o dan amrywiol amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 662 o Ddeddf Cwmnïau 2006, mae’r cwmni yn gorfod (os na cheir gwared ar y cyfrannau neu ar fuddiant y cwmni ynddyn nhw mewn rhyw fodd arall) ddileu’r cyfrannau hyn, o fewn tair blynedd yn gyffredinol (mewn rhai achosion o fewn blwyddyn), a gostwng ei gyfalaf yn unol â gwerth enwol y cyfrannau sydd wedi’u dileu. Caiff y cyfarwyddwyr ostwng cyfalaf y cwmni heb benderfyniad arbennig a gymeradwywyd gan y llys. O fewn mis ar ôl eu dileu, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen SH07 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau. Os yw’r gostyngiad yn y cyfalaf yn golygu bod gwerth enwol y cyfalaf cyfrannau sydd wedi’i ddosbarthu gan y cwmni’n syrthio o dan yr isafswm awdurdodedig, mae’n rhaid i’r cwmni ailgofrestru fel cwmni preifat. (Mae’r terfyn amser ar gyfer ailgofrestru yr un fath ag ar gyfer dileu’r cyfrannau).

6.16 Adennill cyfrannau

Os yw cwmni preifat neu CCC wedi dosbarthu cyfrannau adenilladwy, caiff adennill y cyfrannau yn unol â’r telerau adennill. Os ydyn nhw wedi’u hawdurdodi gan erthyglau’r cwmni neu gan benderfyniad, caiff y cyfarwyddwyr bennu’r telerau adennill. Fel arall, rhaid i’r telerau gael eu datgan yn erthyglau’r cwmni. Pan fydd cwmni’n adennill cyfrannau mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen SH02 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn mis ar ôl iddyn nhw gael eu hadennill.

6.17 Prynu cyfrannau ei hun

Yn amodol ar unrhyw gyfyngiad neu waharddiad yn yr erthyglau a chymeradwyaeth ei gyfranddalwyr, caiff cwmni brynu ei gyfrannau. Ond nid yw’n cael gwneud hynny os byddai’n golygu mai dim ond cyfrannau adenilladwy a fyddai wedi’u dosbarthu.

Rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am brynu cyfrannau ar Ffurflen SH03 o fewn 28 diwrnod.

Pan fydd cwmni’n prynu ei gyfrannau ei hun, mae’n dileu’r cyfrannau wrth iddyn nhw ddychwelyd. Os bydd yn dileu’r cyfrannau ar unwaith, rhaid iddo gyflwyno Ffurflen SH06 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau. Er hynny, caiff cwmni naill ai dileu’r cyfrannau hynny ar unwaith neu eu cadw ‘yn y drysorfa’ i’w hailwerthu neu i’w trosglwyddo i gynllun cyfrannau gweithwyr yn nes ymlaen (neu caiff eu dileu yn nes ymlaen).

Rhaid i chi roi gwybod bod cyfrannau ‘trysorfa’ wedi’u prynu yn y lle cyntaf i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH03 ac os ydych yn dileu’r cyfrannau trysorfa hynny ar unwaith rhaid i chi ffeilio ffurflen SH06.

Os byddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo’r cyfrannau o’r drysorfa, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH04 ac os byddwch chi wedyn yn dileu’r cyfrannau hynny, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH05 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf).

Gall fod rhaid talu toll stamp wrth brynu cyfrannau’r cwmni ei hun. Os yw’r gydnabyddiaeth am y cyfrannau’n fwy na £1000, mae’n rhaid i’r Ffurflen SH03 gael ei stampio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) cyn iddo gael ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Os yw’r gydnabyddiaeth yn £1000 neu lai, does dim angen ichi anfon y ffurflen i gael ei stampio, ond mae’n rhaid i chi lofnodi’r ardystiad arni.

Cewch ddefnyddio un ffurflen SH03 i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau bod cyfrannau wedi’u prynu ar ddyddiadau gwahanol ac o dan gontractau gwahanol.

6.18 Adennill neu brynu cyfrannau allan o gyfalaf

Yn amodol ar unrhyw gyfyngiad neu waharddiad yn yr erthyglau, caiff cwmni preifat basio penderfyniad arbennig i gyllido prynu neu adennill cyfrannau allan o gyfalaf.

Os yw’r pryniant o gyfalaf yn cael ei wneud at ddibenion cynllun cyfrannau cyflogai, neu’n unol ag ef, gellir ei gymeradwyo trwy benderfyniad arbennig, a’i ategu gan ddatganiad o hydaledd.

Rhaid cyflwyno’r canlynol i Dŷ’r Cwmnïau:

  • copi o’r penderfyniad arbennig sy’n awdurdodi’r gostyngiad mewn cyfalaf
  • copi o’r datganiad hydaledd a wnaed yn unol ag adran 643 o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • datganiad o gyfalaf
  • datganiad cydymffurfio’r cyfarwyddwyr

Mae Adran 643(3) yn datgan bod rhaid i’r ‘datganiad hydaledd’ fod ar y ffurf a bennir a rhaid iddo ddatgan:

  • dyddiad paratoi’r datganiad
  • enwau holl gyfarwyddwyr y cwmni

Disgrifir y ‘ffurf a bennir’ yng Ngorchymyn Cwmnïau (Gostwng Cyfalaf Cyfrannau) 2008, sy’n datgan bod yn rhaid i’r datganiad o hydaledd fod yn ysgrifenedig, rhaid iddo nodi ei fod yn ddatganiad hydaledd at ddibenion adran 642 o’r Ddeddf, a rhaid i bob un o’r cyfarwyddwyr ei lofnodi.

Rhaid i holl gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi copi o’r datganiad hydaledd a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau. Mae datganiad cydymffurfio’r cyfarwyddwyr yn cadarnhau bod y cwmni wedi rhyddhau copi o’r datganiad hydaledd i bob un o’r aelodau cymwys yn ôl y gofyn, ac na wnaeth y cyfarwyddwyr y datganiad hydaledd fwy na 15 diwrnod cyn i aelodau’r cwmni gymeradwyo’r penderfyniad. Rhaid i’r holl gyfarwyddwyr lofnodi’r datganiad cydymffurfio.

Rhaid cyflwyno’r holl ddogfennau hyn i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod ar ôl cymeradwyo’r penderfyniad. Lle bo modd, dylech gyflwyno’r holl ffurflenni yr un pryd. Ni ddaw’r gostyngiad cyfalaf i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru copi o’r datganiad hydaledd, y penderfyniad a’r datganiad o gyfalaf.

Os bydd cwmni preifat yn cyllido prynu drwy daliad allan o’i gyfalaf, ac nad yw’r pryniant at ddibenion cynllun cyfalaf y cyflogai, neu’n unol ag ef, rhaid i’r cyfarwyddwyr wneud datganiad hefyd am solfedd y cwmni ar unwaith ar ôl y prynu ac yn y flwyddyn ganlynol. Rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi’r datganiad solfedd.

Rhaid i chi drefnu bod copi o’r datganiad ac o adroddiad yr archwilydd sy’n cadarnhau barn y cyfarwyddwyr ar gael i’r aelodau wrth gyflwyno’r penderfyniad iddyn nhw neu cyn hynny yn achos penderfyniad ysgrifenedig. Neu, os yw’r penderfyniad i gael ei basio mewn cyfarfod, drwy drefnu bod copi o ddatganiad y cyfarwyddwyr a chopi o adroddiad yr archwilwyr ar gael i’w harchwilio yn y cyfarfod hwnnw. Rhaid hefyd i chi gyflwyno copi o ddatganiad y cyfarwyddwyr ac adroddiad yr archwilydd i Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y byddwch yn cyhoeddi neu yn rhoi hysbysiad o’r taliad arfaethedig allan o gyfalaf, (mae’r gofynion ynglŷn â chyhoeddi a rhoi’r hysbysiad yn cael eu trafod yn adran 719 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Mae unrhyw aelod o’r cwmni na roddodd ei gydsyniad na phleidleisio o blaid y penderfyniad neu unrhyw gredydwr sydd gan y cwmni yn cael gwneud cais i’r llys am ddileu’r penderfyniad, o fewn pum wythnos ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio.

Rhaid i’r ymgeiswyr i’r llys lenwi a chyflwyno ffurflen SH16 i Dŷ’r Cwmnïau ar unwaith.

Pan gaiff cwmni hysbysiad ynglŷn â’r cais i’r llys, rhaid iddo roi gwybod ar unwaith i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH17 ac, o fewn 15 diwrnod ar ôl i orchymyn llys gael ei wneud, rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o’r gorchymyn i Dŷ’r Cwmnïau.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfalaf cyfrannau a sut i’w gynnal, gweler Rhannau 17 a 18 o Ddeddf Cwmnïau 2006. (fel y’i diwygiwyd).

7. Ailgofrestru

Caiff cwmni newid ei statws ac ailgofrestru mewn nifer o ffyrdd

  • o gwmni preifat (wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau neu ddigyfyngiad) i gwmni cyhoeddus
  • o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau
  • o gwmni preifat cyfyngedig i gwmni digyfyngiad
  • o gwmni preifat digyfyngiad i gwmni cyfyngedig
  • o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat digyfyngiad

Wrth i gwmni ailgofrestru, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi tystysgrif gorffori ddiwygiedig i’r cwmni. Bydd y dystysgrif yn cynnwys y newid yn enw a statws y cwmni ynghyd â dyddiad yr ailgofrestru.

7.1 Ailgofrestru o gwmni preifat i gwmni cyhoeddus

Caiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau ailgofrestru fel cwmni cyhoeddus drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny.

Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru fel cwmni cyhoeddus i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR01 (Saesneg), ynghyd â’r canlynol;

  • copi o’r penderfyniad arbennig
  • copi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig
  • copi o’r fantolen berthnasol
  • copi o ddatganiad ysgrifenedig yr archwilydd
  • copi o adroddiad diamod yr archwilydd

Os nad oes gan y cwmni sy’n ailgofrestru ysgrifennydd, dylai’r cais am ailgofrestru gynnwys datganiad ynglŷn â’r ysgrifennydd arfaethedig. Hefyd rhaid iddo gynnwys copi o’r adroddiad prisio os oes cyfrannau wedi’u clustnodi’n ddiweddar am gydnabyddiaeth ar ffurf heblaw arian parod.

7.2 Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat

Mae yna bedair ffordd i gwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat;

  • drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny ac yna gwneud cais yn unol ag adran 100 o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • yn sgil gorchymyn llys i ostwng y cyfalaf
  • yn sgil dileu cyfrannau
  • yn sgil gostyngiad cyfalaf am fod y gwerth y cyfrannau wedi’i ailddynodi

7.3 Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat yn unol ag adran 100 o Ddeddf Cwmnïau 2006

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR02. I gyd-fynd â honno dylid cael copi o’r penderfyniad arbennig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Os bydd digon o aelodau’r cwmni’n gwrthwynebu pasio’r penderfyniad, maen nhw’n cael gwneud cais i’r llys am ddileu’r penderfyniad o fewn 28 diwrnod ar ôl iddo gael ei basio. O godi gwrthwynebiad o’r fath, mae’n rhaid iddyn nhw rhoi gwybod amdano i’r cwmni. Yn ei dro, mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y cais i’r llys ar ffurflen RR03. Caiff y llys naill ai dileu neu gadarnhau’r penderfyniad ar ôl gwrando cais o’r fath. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

7.4 Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat ar ôl gorchymyn llys i ostwng y cyfalaf

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat os bydd y llys yn ei gyfarwyddo i wneud hynny. Pan fo cwmni wedi gwneud cais i’r llys am ostwng ei gyfalaf cyfrannau (yn unol â’r disgrifiad ym mhennod 7) a bod hynny’n golygu bod gwerth enwol ei gyfalaf cyfrannau clustnodedig yn gostwng o dan yr isafswm awdurdodedig i gwmni cyhoeddus, caiff y llys awdurdodi’r cwmni i ailgofrestru fel cwmni preifat heb fod angen pasio penderfyniad. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR08 ynghyd â chopi o’r gorchymyn llys a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

7.5 Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat ar ôl dileu cyfrannau

Rhaid i gwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat ar ôl i gyfrannau yn y cwmni gael eu dileu o dan amgylchiadau penodol. Pan fo dileu’r cyfrannau (yn unol â’r disgrifiad ym mhennod 7) yn golygu bod gwerth enwol cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni’n gostwng o dan yr isafswm awdurdodedig i gwmni cyhoeddus, rhaid i’r cwmni ailgofrestru fel cwmni preifat. Caiff y cyfarwyddwyr basio penderfyniad i ailgofrestru fel cwmni preifat. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR09 ynghyd â chopi o benderfyniad y cyfarwyddwyr a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

7.6 Ailgofrestru o gwmni preifat i gwmni digyfyngiad

Caiff cwmni cyfyngedig preifat ailgofrestru fel cwmni digyfyngiad drwy gyflwyno ffurflen RR05 i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â ffurflen gydsynio ragnodedig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Bwriad y ffurflen gydsynio yw dangos bod yr holl aelodau wedi cytuno i ailgofrestru, ac felly mae’n rhaid iddi gael ei dilysu gan neu ar ran y cyfan o aelodau’r cwmni ac mae wedi’i rhagnodi yn y rheoliadau.

7.7 Ailgofrestru o gwmni digyfyngiad i gwmni preifat

Caiff cwmni digyfyngiad ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant, a hynny drwy basio penderfyniad arbennig. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru fel cwmni preifat i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR06 ynghyd â chopi o’r penderfyniad arbennig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

O dan amgylchiadau penodol, pan fo’r cwmni’n ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, rhaid cael datganiad cyfalaf i gyd-fynd â’r cais. Os yw’r cwmni’n ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy warant, mae’n rhaid i chi lenwi’r datganiad o warant ar ffurflen RR06.

7.8 Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni digyfyngiad preifat

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni digyfyngiad drwy gyflwyno ffurflen RR07 i Dŷ’r Cwmnïau ynghyd â ffurflen gydsynio ragnodedig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Mae’r ffurflen gydsynio wedi’i rhagnodi yn y rheoliadau a’i bwriad yw dangos bod yr holl aelodau wedi cytuno i ailgofrestru, ac felly mae’n rhaid iddi gael ei dilysu gan y cyfan o aelodau’r cwmni.

Mae rhagor o wybodaeth am ailgofrestru i’w gweld yn Rhan 7 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

8. Arwystlon

Ernes y mae cwmni’n ei roi am fenthyciad yw arwystl. Gall y cwmni sy’n creu’r arwystl (neu unrhyw berson â buddiant yn yr arwystl) gyflwyno’r datganiad o fanylion, gyda chopi ardystiedig o offeryn yr arwystl (os oes un) a’r ffi perthnasol, i’r cofrestrydd i’w gofrestru (dylid nodi bod rhaid i gwmnïau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru neu yng Ngogledd Iwerddon gyflwyno’r copi gwreiddiol o’r arwystl yn hytrach na chopi ardystiedig os crëwyd yr arwystl cyn 6 Ebrill 2013).

Os bydd cwmni’n creu arwystl ac nad yw’n cyflwyno’r dogfennau angenrheidiol a’r ffi i’r cofrestrydd i’w cofrestru cyn pen y cyfnod a ganiateir, ac os bydd y cwmni’n methdalu wedyn, caiff yr arwystl ei ddirymu o safbwynt y datodydd neu’r gweinyddydd ac unrhyw un sy’n gredydwr i’r cwmni. Mae hyn yn golygu y bydd y ddyled y rhoddwyd yr arwystl mewn perthynas ag ef yn daladwy o hyd, ond bydd yn ddyled ansicredig. Os na ddaeth arwystl i law Tŷ’r Cwmnïau mewn da bryd, y llys yn unig a gaiff roi estyniad o ran yr amser a ganiateir i’w gofrestru. Caniateir cyfnod o 21 diwrnod i gyflwyno arwystlon – mae’r manylion yn y tabl yng nghwestiwn 1b wrth ymyl y disgrifiad o’r ffurflen.

Un drefn sydd yna ledled y DU i gofrestru arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gwmnïau sy’n gofrestredig yn y DU yn cyflwyno’r un ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau. Yr unig ffurflen sy’n dal i fod yn berthnasol yn benodol yn yr Alban ar gyfer arwystlon a gofrestrwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach yw Ffurflen 466 - Manylion offeryn i ddiwygio arwystl ansefydlog.

8.1 Cofrestru arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n diweddarach

Cofrestru arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n diweddarach y gellir eu cofrestru Gellir cofrestru unrhyw arwystlon, oni bai eu bod wedi cael ei heithrio’n benodol. Dyma’r arwystlon sy’n cael eu heithrio;

  • arwystl er budd landlord ar ernes arian parod a roddwyd fel gwarant wrth brydlesu tir
  • arwystl a grëwyd gan aelod o Lloyd’s (yn ystyr Deddf Lloyd’s 1982) i ddiogelu ei rwymedigaethau mewn perthynas â’i fusnes tanysgrifennu yn Lloyd’s
  • arwystl y mae unrhyw Ddeddf arall yn pennu eithriad penodol rhag ei gofrestru (er enghraifft, Rheoliadau Trefniadau Cyllid a Gwarantau Cyfochrog (Rhif 2) 2003)

Defnyddio’r ffurflen gywir (dim ond yn Saesneg yw’r ffurflenni hyn)

Arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n diweddarach

Teitl y ffurflen Rhif y ffurflen Terfyn amser o 21 diwrnod i gyflwyno’r ffurflen
Manylion arwystl MR01 Ie
Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo neu ymgymeriad mewn cysylltiad ag ef MR02 Na
Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau MR03 Ie
Datganiad bodloni arwystl yn llwyr neu’n rhannol MR04 Na
Datganiad bod rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan wedi cael ei ryddhau o’r arwystl neu nad yw’n eiddo i’r cwmni mwyach MR05 Na
Datganiad bod cwmni’n gweithredu fel ymddiriedolwr MR06 Na
Manylion diwygio arwystl (manylion gwystl negyddol) MR07 Na
Manylion arwystl lle nad oes offeryn MR08 Ie
Datganiad bodloni arwystl yn llwyr neu’n rhannol MR09 Na
Datganiad bod rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan wedi cael ei ryddhau o’r arwystl neu nad yw’n eiddo i’r cwmni mwyach MR10 Ie
Datganiad bod cwmni’n gweithredu fel ymddiriedolwr RM01 Na
Datganiad bod cwmni’n gweithredu fel ymddiriedolwr RM02 Na

Ffeilio electronig

Gellir cyflwyno’r ffurflenni MR01, MR02, MR04 ac MR05 yn electronig gan ddefnyddio WebFiling neu Software Filing. Dyma’r dull cyflymaf, rhataf a mwyaf hwylus i ffeilio dogfennau.

Webfiling

Er mwyn ffeilio trwy WebFiling, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer WebFiling (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) a (ac eithrio lle bo’r cwmni a greodd yr arwystl yn ffeilio’r ddogfen) gwneud cais am God Dilysu Benthyciwr (LAC). Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n creu LAC, ynghyd â chod adnabod a chod dilysu ar gyfer y cyflwynydd.

Gall cwmnïau ffeilio arwystlon eu cwmnïau eu hunain gan ddefnyddio cod dilysu’r cwmni ac ni fydd angen LAC yn hynny o beth.

Software filing

Os ydych chi am ffeilio dogfennau trwy software filing, bydd angen gwneud cais am gyfrif a naill ai defnyddio’ch meddalwedd eich un neu un o’r cyflenwyr meddalwedd canlynol

8.2 Pethau i’w cofio wrth ffeilio ffurflen MR01

Y Ffurflen MR01 yw’r ffurflen arwystlon sy’n cael ei ffeilio amlaf yn Nhŷ’r Cwmnïau. (Rhaid ffeilio ffurflen MR08 yn hytrach os nad oes offeryn.) Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted â phosibl, ac wrth gyflwyno’r dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, cofiwch;

  • llenwi’r ffurflen gywir
  • sicrhau bod y manylion ar y ffurflen yn gywir a’u bod yn gyson â’r wybodaeth a roddir yn yr offeryn
  • cynnwys y ffi cofrestru cywir (£15 yn electronig. £23 ar bapur)
  • cyflwyno’r ffurflen i’r swyddfa gofrestru gywir (wrth ffeilio ar bapur) gan ddilyn unrhyw nodiadau perthnasol ar y ffurflen hefyd
  • cyflwyno’r copi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu’n tystiolaethu’r arwystl gyda’r ffurflen

8.3 Os yw offeryn yr arwystl yn cynnwys gwybodaeth bersonol

Cewch ddileu rhai manylion personol o’r copi ardystiedig o’r offeryn cyn ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Dyma’r wybodaeth y cewch ei dileu:

  • gwybodaeth bersonol am unigolyn (ac eithrio enw’r unigolyn))
  • rhif neu fanylion adnabod cyfrif banc neu gyfrif ernesau’r cwmni neu’r unigolyn
  • y llofnod

Chi sy’n dewis sut i fynd ati i ddileu’r wybodaeth hon.

8.4 Caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl

Os byddwch chi’n caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl, ac nad yw’r arwystl yn un sydd wedi ei eithrio o’r gofynion cofrestru, cewch gofrestru’r arwystl hwnnw. Dylai’r cwmni (neu unrhyw berson sydd â buddiant yn yr arwystl) lenwi ffurflen MR02 a’i chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â chopi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu sy’n tystiolaethu’r arwystl.

Rhaid cyflwyno ffurflen MR09 os nad oes unrhyw offeryn.

8.5 Bodloni Arwystlon

Beth ddylwn i ei wneud os yw’r cwmni wedi bodloni’r ddyled?

Nid oes angen i’r cwmni hysbysu Tŷ’r Cwmnïau ei fod wedi talu’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Fodd bynnag, er budd y cwmni ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol ei fod wedi bodloni’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Os ydych chi’n dymuno hysbysu Tŷ’ Cwmnïau, dylech gyflwyno ffurflen MR04.

Beth os yw’r eiddo sydd o dan arwystl, yn peidio â bod yn destun arwystl neu’n peidio â bod yn eiddo i’r cwmni?

Nid oes unrhyw ofyniad i gwmni hysbysu Tŷ’r Cwmnïau bod eiddo wedi cael ei ryddhau o arwystl neu nad yw’n eiddo i’r cwmni mwyach. Fodd bynnag, er budd y cwmni ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol o hyn. Os ydych am hysbysu Tŷ’r Cwmnïau, dylech gyflwyno ffurflen MR05.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gofrestru Arwystlon yn [Adran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006]( (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Ddeddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Adran 25) 2013 Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gofrestru Arwystlon yn Adran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Ddeddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Adran 25) 2013

8.6 Cofrestru arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013

Arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013 y mae’n rhaid eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau

Dyma’r mathau o arwystlon y mae’n rhaid i gwmnïau a gorfforwyd Lloegr a Chymru, Cymru a Gogledd Iwerddon eu cofrestru:

  • arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant mewn tir, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall a delir am ddyrannu tir
  • arwystl a grëwyd neu a dystiolaethwyd gan offeryn y byddai angen ei gofrestru fel bil gwerthiant pe bai’n cael ei gyflawni gan unigolyn
  • arwystl at ddibenion diogelu unrhyw ddyledebion a ddosberthir
  • arwystl ar gyfalaf cyfrannau’r cwmni sydd heb eu herchi
  • arwystl ar erchiadau a wnaed ond na thalwyd
  • arwystl ar ddyledion llyfr y cwmni
  • arwystl ansefydlog ar eiddo neu ymgymeriadau’r cwmni
  • arwystl ar long neu awyren, neu unrhyw gyfrannau mewn llong
  • arwystl ar ewyllys da neu ar unrhyw eiddo deallusol

Yn achos cwmnïau a gorfforwyd yn yr Alban, dyma’r arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru;

  • arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant yn mewn tir o’r fath, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall sy’n daladwy mewn perthynas â’r tir
  • ernes dros eiddo symudol y gellir ei gorffori yn unrhyw un o’r categorïau canlynol;
  • ewyllys da i
  • patent neu drwydded o dan batent
  • nod masnach
  • hawlfraint neu drwydded o dan hawlfraint
  • dyluniad cofrestredig neu drwydded mewn perthynas â dyluniad o’r fath
  • hawl dylunio neu drwydded o dan hawl dylunio
  • y dyledion llyfr (boed yn ddyledion llyfr y cwmni neu’n rhai a aseiniwyd iddo)
  • cyfalaf cyfrannau cwmni sydd heb ei erchi, neu erchiadau a wnaed ond na thalwyd
  • ernes am long neu awyren neu unrhyw gyfran mewn llong
  • arwystl ansefydlog

Pa ffurflen ddylwn i ei defnyddio ar gyfer arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013?

  • manylion arwystl - MG01 (neu MG01s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban).
  • manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef - MG06 (neu MG06s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)
  • manylion cofrestru arwystl er mwyn diogelu cyfres o ddyledebion - MG07 (neu MG07s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)
  • manylion dosbarthu dyledebion a ddiogelwyd mewn cyfres - MG08 (neu MG08s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban)