Skip to main content
Canllawiau

Cylch Gorchwyl Cyfnod Vanguard Cadw Prydain i Weithio

Cylch Gorchwyl sy'n ymwneud â gweithredu'r adolygiad annibynnol Cadw Prydain i Weithio.

Dogfennau

Manylion

Cyhoeddodd y Llywodraeth yr adroddiad annibynnol Adolygiad Cadw Prydain i Weithio: Adroddiad Terfynol - GOV.UK ar 5 Tachwedd 2025. Mae’r Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau, Busnes a Masnach ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn falch o benodi Syr Charlie Mayfield yn Gyd-gadeirydd y Cyfnod Vanguard.

Bydd Syr Charlie a’r Ysgrifenyddion Gwladol yn cael eu cefnogi gan Grŵp Ymgynghorol o arbenigwyr yn eu meysydd dros gyfnod y Cyfnod Vanguard a fydd yn rhannu adborth ar gyfeiriad y gwaith. Mae’r dudalen hon yn cynnwys y Cylch Gorchwyl ar gyfer y ddau benodiad. I weld y rhestr lawn o aelodau’r Grŵp Ymgynghorol, gweler ein diweddariad ym mis Mawrth yn Adolygiad Cadw Prydain i Weithio– diweddariadau - GOV.UK.

Mae’r grŵp hwn yn wahanol i’r Bwrdd Ymgynghorol gwreiddiol ar gyfer yr adolygiad, sydd ar gael yma: Cadw Prydain i Weithio: Cylch Gorchwyl - GOV.UK.

Sylwch y byddwn yn ychwanegu fersiynau hygyrch o’r dogfennau at y dudalen hon yn fuan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon