Canllawiau

Penderfynwch chi: ymddiriedolwyr elusen a gwneud penderfyniadau (CC27)

Egwyddorion y dylai ymddiriedolwyr elusennau eu dilyn i wneud penderfyniadau cadarn a chyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Wrth wneud penderfyniadau ar gyfer eich elusen, rhaid i chi a’r ymddiriedolwyr eraill:

  • gweithredu o fewn eich pwerau
  • gweithredu’n ddidwyll a dim ond er budd yr elusen
  • gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael digon o wybodaeth
  • ystyried yr holl ffactorau perthnasol
  • anwybyddu unrhyw ffactorau amherthnasol
  • rheoli gwrthdaro buddiannau
  • gwneud penderfyniadau sydd o fewn yr ystod o benderfyniadau y gallai corff ymddiriedolwyr rhesymol eu gwneud

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r egwyddorion hyn yn fwy manwl a sut i’w dilyn, yn enwedig wrth wneud penderfyniadau arwyddocaol neu strategol. Mae hefyd yn esbonio sut i gofnodi’r penderfyniadau a wnewch.

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i ymddiriedolwyr pob elusen yng Nghymru a Lloegr - cofrestredig, anghofrestredig neu eithriedig. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr elusennau corfforaethol.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 June 2023 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. First published.