Dangosyddion perfformiad Siarter CThEF
Diweddarwyd 17 July 2023
Mae perfformiad yn erbyn Siarter CThEF yn cael ei fonitro gan safonau gwasanaeth penodol, arolygon cwsmeriaid a data eraill, sy’n gysylltiedig â mesurau perfformiad CThEF ehangach. Amlinellir y rhain isod yn erbyn pob safon yn y Siarter.
Mae’r holl ystadegau isod eisoes wedi’u cyhoeddi mewn mannau eraill, ac yn cael eu dwyn ynghyd yma o dan y Siarter ar GOV.UK i fod yn fwy tryloyw. Bydd y mesurau’n cael eu diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i Fframwaith Perfformiad CThEF yn y dyfodol.
Profiad cyffredinol cwsmeriaid CThEF
Bob blwyddyn, mae CThEF yn comisiynu arolygon cwsmeriaid annibynnol ar gyfer pum grŵp cwsmeriaid: Unigolion; Busnesau bach; Asiantau; Busnesau o faint canolig; a Busnesau mawr. Mae’r arolygon hyn yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth o ran profiad cwsmeriaid a’u barn am y system gweinyddu trethi.
Dyma ganrannau’r cwsmeriaid a nododd eu bod wedi cael profiad cadarnhaol yn gyffredinol wrth ddelio â CThEF yn ystod 2022:
- 65% o unigolion (62% yn 2021)
- 74% o fusnesau bach (76% yn 2021)
- 52% o fusnesau o faint canolig (57% yn 2021)
- 81% o fusnesau mawr (83% yn 2021)
- 45% o asiantau (48% yn 2021)
1. Safon y Siarter: Cael pethau’n iawn
1.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Mae CThEF yn cael trafodion yn iawn
- 64% o unigolion yn cytuno (61% yn 2021)
- 75% o fusnesau bach yn cytuno (77% yn 2021)
- 57% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (60% yn 2021)
- 53% o asiantau’n cytuno (58% yn 2021)
Mae CThEF yn sicrhau bod pob cwsmer yn talu/cael y symiau cywir
- 41% o unigolion yn cytuno (29% yn 2021)
- 54% o fusnesau bach yn cytuno (52% yn 2021)
- 66% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (69% yn 2021)
- 50% o asiantau’n cytuno (54% yn 2021)
Gwnaeth systemau CThEF atal camgymeriadau rhag digwydd
- 52% o unigolion yn cytuno (48% yn 2021)
- 54% o fusnesau bach yn cytuno (59% yn 2021)
- 43% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (42% yn 2021)
- 36% o asiantau’n cytuno (39% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau o faint canolig] (https://www.gov.uk/government/publications/the-mid-sized-business-customer-survey-2022)
1.2. Diweddariadau perfformiad CThEF
2022 i 2023 | 2021 i 2022 | |
---|---|---|
Boddhad cwsmeriaid â’r gwasanaethau ffôn, sgwrs dros y we, a digidol | 79.2% | 82.0% |
Nifer y cwynion a ddaeth i law | 91,217 | 80,216 |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2022 i 2023
2. Safon y Siarter: Gwneud pethau’n hawdd
2.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Hwylustod wrth ddelio â materion treth
-
57% o unigolion yn cytuno (57% yn 2021)
- 73% o fusnesau bach yn cytuno (73% yn 2021)
- 56% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (58% yn 2021)
- 44% o asiantau’n cytuno (43% yn 2021)
Roedd yn hawdd dod o hyd i wybodaeth
- 57% o unigolion yn cytuno (53% yn 2021)
- 60% o fusnesau bach yn cytuno (64% yn 2021)
- 50% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (49% yn 2021)
- 46% o asiantau’n cytuno (47% yn 2021)
Mae’n rhwydd delio â CThEF
- 69% o fusnesau mawr yn cytuno (74% yn 2021)
Gwnaeth CThEF yn glir pa gamau roedd angen i’ch busnes eu cymryd
- 61% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (66% yn 2021)
- 72% o fusnesau mawr yn cytuno (71% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau o faint canolig] (https://www.gov.uk/government/publications/the-mid-sized-business-customer-survey-2022)
[Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau Mawr] (https://www.gov.uk/government/publications/the-large-business-customer-survey-2022)
2.2. Diweddariadau perfformiad CThEF
Mae CThEF yn gwahodd pob cwsmer sy’n defnyddio teleffoni, gwasanaeth sgwrsio dros y we a gwasanaethau digidol i roi sylwadau ar eu profiad drwy lenwi arolwg o brofiad cwsmeriaid. Fel rhan o’r arolwg hwn, gofynnir ‘Pa mor hawdd oedd hi i wneud yr hyn yr oedd angen i chi ei wneud heddiw?’ Mae ‘Hawster Net’ yn cynrychioli cyfanswm yr ymatebion cadarnhaol (sef ymatebion megis ‘hawdd’ neu ‘hawdd iawn’), llai cyfanswm yr ymatebion negyddol (sef ymatebion megis ‘anodd’ neu ‘anodd iawn’). Mae hyn yn arwain at fynegrif sy’n amrywio o 100 (ymatebion cadarnhaol i gyd) i -100 (ymatebion negyddol i gyd).
2022 i 2023 | 2021 i 2022 | |
---|---|---|
Hawster Net – gwasanaethau ffôn, sgwrs dros y we, a digidol | 59.8 | 65.5 |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2022 i 2023
3. Safon y Siarter: Bod yn ymatebol
3.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Gwnaeth CThEF ddatrys unrhyw ymholiadau neu broblemau
- 63% o unigolion yn cytuno (59% yn 2021)
- 69% o fusnesau bach yn cytuno (71% yn 2021)
- 53% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (56% yn 2021)
- 41% o asiantau’n cytuno (45% yn 2021)
Mae’r amser a gymerir yn dderbyniol
- 62% o unigolion yn cytuno (58% yn 2021)
- 62% o fusnesau bach yn cytuno (67% yn 2021)
- 42% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (44% yn 2021)
- 27% o asiantau’n cytuno (31% yn 2021)
Gwnaeth CThEF ymateb o fewn amser resymol o safbwynt masnachol
- 51% o fusnesau mawr yn cytuno (57% yn 2021)
Gwnaeth eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM) ymateb o fewn yr amserlen a gytunwyd
- 80% o fusnesau mawr yn cytuno (81% yn 2021)
Gwnaeth eich CCM roi gwybod i’ch busnes am y diweddaraf ynglŷn â chynnydd mewnol y materion a godwyd
- 70% o fusnesau mawr yn cytuno (69% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau o faint canolig] (https://www.gov.uk/government/publications/the-mid-sized-business-customer-survey-2022)
[Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau Mawr] (https://www.gov.uk/government/publications/the-large-business-customer-survey-2022)
3.2 Diweddariadau perfformiad CThEF
2022 i 2023 | 2021 i 2022 | |
---|---|---|
Ymgeisiau y deliwyd â nhw gan ymgynghorydd teleffoni | 71.1% | 77.3% |
Ymgeisiau y deliwyd â nhw gan ymgynghorydd drwy sgwrs dros y we | 94.7% | 92.9% |
Gohebiaeth oddi wrth gwsmeriaid (Post ac iFfurflenni) wedi’i chlirio cyn pen 15 diwrnod iddynt ddod i law | 72.7% | 45.5% |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2022 i 2023
4. Safon y Siarter: Eich trin yn deg
4.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Mae CThEF yn trin cwsmeriaid/eich busnes yn deg
- 74% o unigolion yn cytuno (71% yn 2021)
- 84% o fusnesau bach yn cytuno (80% yn 2021)
- 69% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (71% yn 2021)
- 89% o fusnesau mawr yn cytuno (90% yn 2021)
- 68% o asiantau’n cytuno (71% yn 2021)
Mae CThEF yn codi cosbau a sancsiynau’n gyfartal
- 34% o unigolion yn cytuno (41% yn 2021)
- 39% o fusnesau bach yn cytuno (39% yn 2021)
- 49% o asiantau’n cytuno (53% yn 2021)
Mae CThEF yn sefydliad rwyf/mae fy musnes yn ymddiried ynddo
- 54% o unigolion yn cytuno (52% yn 2021)
- 68% o fusnesau bach yn cytuno (70% yn 2021)
- 55% o asiantau’n cytuno (61% yn 2021)
Mae rhyngweithio â CThEF dros y 12 mis diwethaf wedi meithrin ffydd yn CThEF
- 64% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (65% yn 2021)
- 71% o fusnesau mawr yn cytuno (70% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau o faint canolig] (https://www.gov.uk/government/publications/the-mid-sized-business-customer-survey-2022)
[Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau Mawr] (https://www.gov.uk/government/publications/the-large-business-customer-survey-2022)
5. Safon y Siarter: Bod yn ymwybodol o’ch sefyllfa bersonol
5.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Mae CThEF yn groesawgar
- 60% o unigolion yn cytuno (58% yn 2021)
Mae’r wybodaeth a’r gwasanaethau a ddarperir gan CThEF wedi’u teilwra i’ch busnes
- 49% o unigolion yn cytuno (46% yn 2021)
- 55% o fusnesau bach yn cytuno (56% yn 2021)
- 31% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (36% yn 2021)
- 40% o asiantau’n cytuno (42% yn 2021)
Dealltwriaeth eich CCM o’r cyd-destun masnachol mae’ch busnes yn gweithredu ynddo
- 81% o fusnesau mawr yn cytuno (79% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau Mawr] (https://www.gov.uk/government/publications/the-large-business-customer-survey-2022)
5.2. Nifer y trefniadau Amser i Dalu sydd ar waith
- 912,000 yn 2022 i 2023 (843,000 yn 2021 i 2022)
Cyhoeddiad
Data blynyddol yw hyn – gweler adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF i gael y data diweddaraf.
6. Safon y Siarter: Cydnabod y gall rhywun eich cynrychioli
6.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Gwnaeth CThEF ei gwneud yn hawdd i rywun weithredu ar eich rhan
- 68% o unigolion yn cytuno (66% yn 2021)
- 79% o fusnesau bach yn cytuno (77% yn 2021)
Cyhoeddiad
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
7. Safon y Siarter: Cadw’ch data’n ddiogel
7.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2022
Mae CThEF yn sicrhau bod data a gwybodaeth bersonol yn cael eu trin yn gyfrinachol
- 78% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (77% yn 2021)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau
[Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2022 ar gyfer Busnesau o faint canolig] (https://www.gov.uk/government/publications/the-mid-sized-business-customer-survey-2022)
7.2. Nifer yr achosion o ran diogelwch, a gafodd eu rheoli’n ganolog, a wnaeth effeithio ar ddata personol wedi’u diogelu yn CThEF
- 3 yn 2022 i 2023 (5 yn 2021 i 2022)
Cyhoeddiad
Data blynyddol yw hyn – gweler adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF i gael y data diweddaraf.