Adroddiad corfforaethol

Egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Diweddarwyd 17 July 2023

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth wedi’i deilwra cyn gynted â phosibl i gwsmeriaid y gallai fod angen help ychwanegol arnynt. Mae hyn hefyd yn unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er mwyn darparu addasiadau rhesymol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw un o dan anfantais.

Help i gwsmeriaid sy’n cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy’r post

Byddwn yn monitro galwadau a gohebiaeth â CThEF i adnabod cwsmeriaid y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gallai hyn gynnwys anawsterau a achosir gan eu hyder, mynediad, cyflwr emosiynol, iechyd meddwl, gallu, anawsterau o ran deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, ac anabledd. Byddwn hefyd yn gofyn i gwsmeriaid roi gwybod i ni a oes angen cymorth ychwanegol arnynt.

Bydd ein hymgynghorwyr wedyn yn trosglwyddo galwadau i’n Tîm Cymorth Ychwanegol sydd â sgiliau, gwybodaeth ac empathi priodol i roi cymorth ac addasiadau rhesymol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Byddant hefyd yn darparu un man cyswllt i ddatrys ymholiadau anodd.

Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am sefydliadau’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol a all ddarparu cymorth a chyngor arbenigol ar gyfer amrywiaeth o faterion nad ydynt yn ymwneud â threth ac amgylchiadau personol, megis:

  • anawsterau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu
  • incwm isel, cam-drin ariannol neu gam-drin domestig
  • anawsterau sy’n gysylltiedig ag oedran
  • cymorth i fudwyr a gofalwyr

Bydd elusennau treth yn gallu darparu cyngor annibynnol i roi cymorth i gwsmeriaid gyda’u materion treth a budd-daliadau.

Help â gwasanaethau digidol a ffyrdd eraill o ddelio â ni

Bydd CThEF yn datblygu gwasanaethau digidol hygyrch ac yn rhoi cymorth i bob cwsmer sydd angen help i gyfathrebu â ni’n ddigidol. Rydym hefyd am gynnig dewisiadau amgen i bobl na allant gyfathrebu â ni ar-lein, lle bo hynny’n briodol. Mae hyn yn cynnwys:

  • cymorth gan ymgynghorwyr i helpu cwsmeriaid i sefydlu a defnyddio eu cyfrifon digidol, neu helpu i lenwi Ffurflenni Treth ar bapur

  • y gwasanaeth Cynorthwyydd y Gellir Ymddiried Ynddo, sy’n galluogi cwsmeriaid i ofyn i deulu neu ffrindiau eu cynrychioli a siarad â CThEF ar eu rhan

  • cymorth gan elusennau treth

Mae CThEF yn gweithio gyda darparwyr meddalwedd trydydd parti i gefnogi’r gwaith o ddatblygu meddalwedd hygyrch, gan osod amodau ar gyfer ymgysylltu drwy ein platfform digidol, sy’n cynnwys:

  • cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • bodloni canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA

Cydymffurfio, dyled a chymorth tribiwnlys

Rydym yn ymwybodol y gall gwiriadau cydymffurfio ac achosion cyfreithiol achosi straen. Mae hyn yn arbennig o wir i gwsmeriaid o dan amgylchiadau sy’n agored i niwed nad oes ganddynt rywun sy’n gymwys yn eu helpu.

Lle mae anghenion penodol ac mae cwsmeriaid yn ein gwneud yn ymwybodol ohonynt – byddwn yn cyfathrebu â nhw’n empathig ac yn ystyried yr anghenion hynny a’u sefyllfa.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cymorth i bob cwsmer sy’n cael unrhyw anawsterau yn ystod ymchwiliad gan esbonio materion mewn ffordd glir ac empathig a nodi opsiynau ar gyfer y ffordd ymlaen drwy gydol y broses
  • gweithio i ddatrys materion heb fod angen mynd i dribiwnlys
  • rhoi gwybod i gwsmeriaid am gymorth a chyngor annibynnol
  • gweithio’n empathig gydag unrhyw un sy’n wynebu anawsterau ariannol i gytuno ar drefniadau talu fforddiadwy - os bydd amgylchiadau cwsmer yn newid (gan gynnwys ar ôl cytuno ar drefniant talu) rydym bob amser yn barod i weithio gyda nhw a darparu cymorth, gan gydnabod y gall anghenion ychwanegol godi ar unrhyw adeg o’r broses

Darllenwch ragor am sut mae CThEF yn trin cwsmeriaid sydd â dyledion treth.

Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gymorth ychwanegol

Bydd ein harweiniad, ein cyfathrebiadau a’n llythyrau at gwsmeriaid yn cyfeirio at y cymorth ychwanegol y mae CThEF yn ei ddarparu.

Mae gennym arweiniad manwl ar sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch sy’n cwmpasu’r ystod o gymorth y gallwn ei ddarparu os, er enghraifft:

  • mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
  • mae gennych anawsterau symud neu anableddau corfforol
  • mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg, clyw neu leferydd
  • mae gennych gyflyrau iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • rydych yn profi caledi ariannol – er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
  • rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd
  • rydych yn yr ysbyty

Sylwer nad yw’r cymorth sydd ar gael wedi’i gyfyngu i’r enghreifftiau hynny.

Mae’r arweiniad yn ymdrin â’r gwahanol ffyrdd o gysylltu â CThEF os oes angen:

Gallwch hefyd gysylltu â CThEF os oes angen help arnoch gydag ymholiadau penodol.