Adnoddau cyfathrebu CThEM ynghylch Brexit
Adnoddau Cyllid a Thollau EM i helpu i baratoi ar gyfer Brexit.
Dogfennau
Manylion
Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi arweiniad manwl ynghylch paratoi ar gyfer Brexit ar GOV.UK
Maent yn cwmpasu sawl maes ac wedi’u cynllunio er mwyn helpu rhanddeiliaid a chyfryngwyr i gefnogi eu haelodau, cleientiaid a chwsmeriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf wedi i ni adael yr UE.
Chwalu Chwedlau EORI
Mae’r ddogfen Chwalu’r Chwedlau ynghylch rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) yn chwalu camsyniadau cyffredin ynghylch rhifau EORI.
Gallwch wneud cais ar-lein am rif EORI.
Rhestr wirio syml ar gyfer masnachwyr
Mae’r rhestr wirio un dudalen hon yn helpu masnachwyr i baratoi ar gyfer Brexit.
Dogfennau sy’n esbonio sut i fewnforio ac allforio
Amcan y ddwy ddogfen hyn yw helpu masnachwyr i benderfynu pa weithdrefnau i’w defnyddio wrth wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
mewnforio nwyddau o’r UE i’r DU drwy leoliadau gyrru-ymlaen-ac-i-ffwrdd (RoRo) ar ôl Brexit
-
allforio nwyddau i’r UE drwy leoliadau gyrru-ymlaen-ac-i-ffwrdd (RoRo) ar ôl Brexit
Updates to this page
-
Added 'Simple Northern Ireland trader checklist'.
-
Page updated to include two documents: 'How to import goods from the EU into the UK through roll on roll off (RoRo) locations after Brexit' and 'How to export goods into the EU through roll on roll off (RoRo) locations after Brexit'
-
First published.