Canllawiau

OPG2: Rhoi rhoddion i rywun arall (fersiwn y we)

Diweddarwyd 17 January 2017

Applies to England and Wales

1. Rhoi rhoddion gyda hyder

Gall penderfynu rhoi rhodd fod yn rhan bwysig o fod yn ddirprwy neu atwrnai. Mae rhoddion yn helpu i warchod y perthnasoedd gyda theulu a ffrindiau’r unigolyn yr ydych yn helpu i ofalu am ei arian.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o gyfyngiadau llym rhoi rhodd fel dirprwy neu atwrnai. Mae’r rheolau hyn yn helpu i warchod buddiannau gorau’r unigolyn rydych chi’n gwneud penderfyniadau ar ei ran.

Cofiwch nad oes raid i chi roi rhoddion fel dirprwy neu atwrnai (oni bai fod gorchymyn llys neu atwrneiaeth arhosol yn dweud bod hynny’n ofynnol). Ni ddylech adael i eraill roi pwysau arnoch chi i roi rhoddion ar ran yr unigolyn yr ydych yn gofalu am ei faterion ariannol.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi i roi rhoddion oddi mewn i’ch awdurdod fel dirprwy neu atwrnai. Mae hefyd yn edrych ar sut gallwch chi wneud cais am newid y cyfyngiadau sydd wedi’u pennu ar gyfer rhoi rhoddion a beth sy’n digwydd os byddwch yn rhoi rhoddion heb awdurdo.

Yn y canllaw hwn rydym yn siarad am yr ‘unigolyn’ rydych chi’n gwneud penderfyniadau rhoi rhoddion ar ei ran. Y rheswm am hynny yw am fod y rhan fwyaf o’r rheolau’n berthnasol i ddirprwyon ac i atwrneiod. Mewn mannau eraill efallai eich bod wedi gweld yr unigolyn yn cael ei alw’n ‘gleient’ neu’n ‘rhoddwr’.

2. Beth yw rhodd?

Efallai bod yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd yn eich rôl chi fel dirprwy neu atwrnai yn ehangach nag ydych chi wedi arfer ag o. Nid dim ond y canlynol yw rhoi rhodd:

  • defnyddio arian yr unigolyn i brynu rhywbeth i rywun arall (gan eich cynnwys chi) ar ben-blwydd neu ‘achlysur arferol’ arall

  • rhoi arian neu eiddo’r unigolyn i berson arall

Hefyd mae rhoi rhoddion yn yr achos hwn yn cynnwys:

  • rhoddion i elusennau

  • talu ffioedd ysgol neu brifysgol rhywun

  • byw heb dalu rhent neu dalu cyfradd ‘ffrindiau a theulu’ mewn eiddo sy’n perthyn i’r unigolyn

  • gwerthu cartref yr unigolyn i rywun am lai na gwerth y farchnad

  • sefydlu ymddiriedolaeth i rywun o eiddo’r unigolyn

  • rhoi benthyciad di-log i rywun o gronfeydd ariannol yr unigolyn (mae’r llog ‘a gollir’ yn cyfrif fel rhodd)

Dim ond ar gyfer dirprwyon ac atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau ariannol ar ran rhywun arall mae’r canllaw hwn. Ni chaiff dirprwyon ac atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau iechyd a lles roi rhoddion fel rhan o’u rôl.

2.1 Esiampl: Pan mae benthyciad yn cyfrif fel rhodd*

Mae Sanjiv yn 72 oed. Mae ganddo glefyd Alzheimer ac mae’n byw mewn cartref gofal. Ei wyres, Meera, yw ei ddirprwy. Mae Meera eisiau benthyg ychydig filoedd o bunnoedd gan ei thaid i helpu gyda thalu am ei hastudiaethau meddygol.

Mae Meera yn gofyn i gyfreithiwr, sy’n llunio cytundeb benthyg ffurfiol ac yn ei chynghori y dylai gael cymeradwyaeth gan y Llys Gwarchod oherwydd maint a natur y rhodd.

Mae hyn yn creu penbleth i Meera: mae’n dweud ei bod yn bwriadu talu’r arian yn ei ôl ac yn dweud bod ei thaid yn falch o’i chyflawniadau yn yr ysgol ac eisiau iddi fod yn feddyg. Mae hi’n credu bod cytundeb benthyg yn gwarchod buddiannau gorau Sanjiv.

Mae’r cyfreithiwr yn tynnu sylw at y ffaith bod y cytundeb benthyg yn darparu ar gyfer ad-daliadau bychain dros gyfnod hir o amser. Gan nad oes unrhyw log yn cael ei dalu ar y benthyciad, mae’r gyfraith yn trin y mater fel rhodd. Efallai nad yw telerau’r benthyciad o’r budd gorau i Sanjiv.

Dywed y cyfreithiwr, hyd yn oed pe bai’r benthyciad yn cynnwys llog, y byddai’n rhaid i’r Llys Gwarchod ei gymeradwyo gan fod Meera yn ei drefnu ar ei chyfer ei hun - gan olygu bod gwrthdaro rhwng buddiannau posib gyda’i rôl hi fel dirprwy.

Mae Meera yn gwneud cais i’r llys i ofyn am benderfyniad am y benthyciad.

———

* Mae’r esiamplau yn y canllaw hwn yn defnyddio cymeriadau a sefyllfaoedd dychmygol er mwyn eich helpu chi gyda gwneud penderfyniadau fel dirprwy neu atwrnai

3. Pwy sy’n cael rhoi rhoddion?

3.1 Yr unigolyn sy’n penderfynu

Y brif reol yw mai’r unigolyn rydych chi’n gofalu am ei eiddo a’i faterion ariannol ddylai benderfynu ynghylch rhoi rhodd ai peidio - os oes ganddo alluedd meddyliol i wneud hynny.

Ystyr galluedd meddyliol yw gallu gwneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

3.2 Sut mae dweud pan mae gan rywun alluedd meddyliol

Mae’r gyfraith wedi pennu profion galluedd meddyliol y gallwch chi eu defnyddio gyda rhoi rhoddion. Wrth geisio penderfynu a yw’r unigolyn yn deall penderfyniad i roi rhodd, gofynnwch i chi eich hun a yw’n gallu:

  • deall yr holl wybodaeth bwysig am y rhodd (beth ydyw, i bwy mae’n cael ei rhoi, ei gwerth)

  • cadw’r wybodaeth honno’n ddigon hir i wneud penderfyniad

  • pwyso a mesur yr holl wybodaeth sydd ar gael i wneud penderfyniad

  • cyfathrebu ei benderfyniad

Os nad yw’r unigolyn yn gallu gwneud un neu fwy o’r pedwar peth uchod, efallai nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i benderfynu am rodd.

Er hynny, cofiwch nad yw’r ffaith bod rhywun yn gwneud penderfyniad sy’n ymddangos yn annoeth am rodd yn golygu nad oes ganddo alluedd meddyliol. Rydym i gyd yn gwneud penderfyniadau annoeth o dro i dro.

3.3 Ansicr am alluedd meddyliol?

Os ydych chi’n ansicr am alluedd meddyliol unigolyn, ni ddylech roi rhodd i chi eich hun nac i unrhyw un arall ar ei ran nes bod gennych chi well darlun o’i allu i wneud penderfyniadau.

Gallech drefnu asesiad galluedd meddyliol gan feddyg teulu neu seiciatrydd i weld a yw’r unigolyn yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Gall asesiad o’r fath fod yn bwysig iawn wrth benderfynu ynghylch rhoi rhoddion o gryn werth.

Efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn i chi pa gamau wnaethoch chi eu cymryd i ganfod a oedd gan yr unigolyn alluedd meddyliol. Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdod dros ddirprwyon ac atwrneiod ac mae’n gofalu am fuddiannau gorau pobl heb alluedd.

3.4 Helpu rhywun i benderfynu

Os bydd galluedd meddyliol unigolyn yn newid ac os yw’n gallu gwneud penderfyniadau weithiau am bethau fel rhoddion, mae’n rhaid i chi geisio ei gynnwys yn y penderfyniadau am roi rhoddion.

Gall cynnwys yr unigolyn olygu rhoi amser i’w helpu i gyfathrebu. Efallai y bydd rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio iaith arwyddion neu luniau i helpu’r unigolyn i benderfynu pa roddion i’w rhoi ac i bwy i’w rhoi

  • dewis amser o’r dydd pan mae gan yr unigolyn fwy o alluedd meddyliol yn aml - yn y bore, dyweder

  • dewis lleoliad lle mae’r unigolyn yn teimlo’n gyfforddus - gartref o bosib - a gofyn am ei farn am roi rhodd

3.5 Os nad yw’r unigolyn yn gallu penderfynu

Dim ond pan ydych chi’n siŵr nad yw unigolyn yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun am roddion - na helpu gyda hynny - y gallwch chi benderfynu ar ei ran.

Os ydych chi’n credu bod rhoi rhoddion yn sicrhau ei fuddiannau gorau, meddyliwch am y canlynol:

  • dymuniadau, safbwyntiau a gwerthoedd yr unigolyn a sut byddai’r rhain yn effeithio ar beth fyddai’n ei roi

  • beth mae aelodau ei deulu a’i ffrindiau’n ei feddwl fyddai ei ddymuniad

  • a fydd yn adfer galluedd o bosib ac yn gallu gwneud penderfyniadau am roddion wedyn

  • ei anghenion presennol - hyd yn oed os oedd unigolyn yn arfer rhoi rhoddion hael iawn, a yw’n gallu fforddio gwneud hynny nawr?

3.6 Esiampl: Meddwl am fforddiadwyedd

Mae Hannah yn oedrannus ac yn byw mewn cartref gofal. Weithiau mae’n gallu gwneud penderfyniadau ond yn aml mae’n methu. Ei nai, David, yw ei hatwrnai. Mae eisiau rhoi anrheg Barmitzvah i wyres Hannah, Ruth, gan Hannah.

Cyn iddi ddechrau colli ei gallu i wneud penderfyniadau, roedd Hannah yn hael iawn. Fodd bynnag, mae ffioedd ei chartref gofal yn bwyta i mewn i’w chynilion ac mae David yn poeni am sut bydd yn talu’r costau hyn yn y dyfodol.

Er y byddai Hannah wedi hoffi rhoi rhodd hael, mae David yn penderfynu mai rhoi rhywbeth mwy cymedrol sydd o’r budd mwyaf iddi. Trwy hyn, mae Hannah wedi cael helpu i ddathlu seremoni dod i oed ei hwyres, fel y byddai wedi dymuno, ond mae ei harian a’i dyfodol wedi’u diogelu hefyd.

4. I bwy ydych chi’n cael rhoi rhoddion a pha bryd?

Oni bai fod y gorchymyn pŵer atwrnai neu ddirprwy’n dweud fel arall, dim ond ar gyfer y rhain y gellir rhoi rhodd:

*i aelod o’r teulu, ffrind neu gydnabod yr unigolyn ar ‘achlysur arferol’

  • i elusen

Yn y ddau achos, mae’n hanfodol bod y rhodd o werth rhesymol gan ystyried maint ystâd yr unigolyn (yr holl arian a’r eiddo y mae’n berchen arnynt).

4.1 ‘Achlysur arferol’

Ystyr achlysur arferol yw, er enghraifft, genedigaeth, pen-blwydd, priodas neu bartneriaeth sifil neu ben-blwydd priodas.

Mae hefyd yn cynnwys achlysuron ble mae teuluoedd, ffrindiau neu gydnabod yn arfer rhoi rhoddion, fel y Nadolig, Eid, Diwali, Hanukkah neu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd.

4.2 Perthnasau, ffrindiau ac elusennau

Gellir rhoi rhodd i berthynas i’r unigolyn, fel gwraig, brawd neu nith. Hefyd gall fynd i rywun sydd â chysylltiad â’r unigolyn, fel ffrind neu gydweithiwr.

Neu gall y rhodd fynd i elusen y byddai’r unigolyn wedi cyfrannu ati pe bai ganddo alluedd meddyliol.

Ni ellir rhoi’r rhodd i berson neu sefydliad heb gysylltiad â’r sawl sy’n rhoi’r rhodd.

4.3 Gwerth rhesymol

Wrth benderfynu a yw rhodd yn rhesymol, gofynnwch y canlynol i chi eich hun:

  • oedd yr unigolyn yn arfer rhoi rhoddion o’r gwerth yma pan oedd ganddo alluedd meddyliol?

  • a fyddai’r rhodd yn effeithio ar allu’r unigolyn i dalu ei gostau byw, nawr ac yn y dyfodol?

  • beth yw disgwyliad oes yr unigolyn – ac a fydd ganddo ddigon o arian am weddill ei fywyd?

ydi’r rhodd yn adlewyrchu beth mae’r unigolyn wedi’i ddweud mae eisiau ei adael i bobl yn ei ewyllys?

Rhaid i roddion fod yn briodol i’r hyn mae’r unigolyn yn gallu ei fforddio’n gyfforddus bob amser. Mae ‘fforddiadwy’ yn amrywio llawer o un berson i’r llall. Mae rhodd o £200 yn cael mwy o effaith ar rywun sydd â £9,000 na rhywun sydd â £90,000.

Os byddwch yn rhoi rhodd ar ran yr unigolyn ac os nad yw’r rhodd o werth rhesymol, gallech fod yn torri’r gyfraith.

Cadwch gofnod o’r rhoddion rydych yn eu rhoi ar ran yr unigolyn. Fel dirprwy bydd rhaid i chi eu cofnodi yn eich adroddiad blynyddol. Fel atwrnai, efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn i chi ddangos cofnod o’r rhoddion rydych chi wedi’u rhoi.

4.4 ‘Amddifadu o asedau’

Ni chaiff dirprwyon nac atwrneiod rannu eiddo’r unigolyn fel rhoddion, na gwario arian ar roddion, er mwyn osgoi cyfrannu at gostau gofal cartref. Mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘amddifadu o asedau’.

Pan mae awdurdodau lleol yn gwirio asedau unigolyn i weld faint ddylai ei dalu am ofal, efallai y byddant yn cynnwys pethau rydych chi wedi eu rhannu’n fwriadol er mwyn osgoi talu.

Hefyd ni ddylech rannu pethau fel rhoddion i wneud unigolyn yn gymwys am fudd-daliadau neu am gymorth y llywodraeth gyda chostau gofal.

4.5 Esiampl: Penderfynu pryd mae rhodd yn rhesymol

Patrick yw dirprwy Joe. Mae’r dynion yn eu 60au cynnar ac maent wedi bod yn ffrindiau agos er pan oeddent yn blant. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd Joe strôc fawr gan ei adael yn methu gofalu amdano’i hun ac yn methu gwneud penderfyniadau.

Mae Patrick wedi colli ei waith ac mae ganddo anawsterau ariannol. Mae gan Joe ddigon o arian i bara am flynyddoedd lawer.

Mae Patrick eisiau cymryd arian o gynilion Joe i ddatrys ei broblemau ariannol. Mae Joe wedi helpu Patrick fel hyn yn y gorffennol. Hefyd mae Joe yn gadael ei holl arian a’i eiddo bron i Patrick yn ei ewyllys. Mae Patrick yn teimlo’n gryf y byddai Joe, pe bai’n dal i ddeall pethau ac yn dal i allu gwneud penderfyniadau, yn hapus i helpu Patrick nawr.

Mae Patrick yn darllen y gorchymyn llys sy’n ei benodi ef fel dirprwy ac mae’n penderfynu y dylai wirio hyn i ddechrau. Mae’n ffonio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cael gwybod bod ei awdurdod fel dirprwy’n gyfyngedig i wario symiau rhesymol o arian ar achlysurol arferol.

Hefyd ni ddylai dirprwy fanteisio ar ei sefyllfa na chael budd personol ohoni - nac atwrnai chwaith. Os yw Patrick eisiau rhoi swm mawr o arian Joe iddo’i hun, mae’n rhaid iddo ofyn i’r Llys Gwarchod.

Ar ôl meddwl am hyn, mae Patrick yn penderfynu peidio â mynd i’r llys a pheidio â rhoi’r rhodd iddo’i hun.

5. Newid pryd allwch chi roi rhodd

Os ydych chi eisiau newid y cyfyngiadau ar y rhoddion y gallwch eu rhoi fel atwrnai neu ddirprwy, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod.

Mae pobl yn gwneud cais i’r llys am roddion i bobl a sefydliadau nad oes awdurdod ar eu cyfer yn eu gorchymyn pŵer atwrnai neu ddirprwy.

Ni chaiff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymeradwyo rhodd gan atwrnai neu ddirprwy; dim ond y Llys Gwarchod all wneud hynny.

5.1 Benthyciadau

Oni bai fod y gorchymyn dirprwy neu bŵer atwrnai’n nodi fel arall, i wneud benthyciad di-log o gronfeydd ariannol yr unigolyn neu fenthyciad i chi eich hun, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod.

Mae benthyciadau di-log yn cael eu trin fel rhoddion, oherwydd mae’r llog y byddech yn ei dalu fel rheol yn cyfrif fel rhodd. Fel rhoddion eraill, mae’n rhaid iddynt fod yn rhesymol a chael eu rhoi i rywun sydd â chysylltiad â’r unigolyn.

5.2 Felly oes raid i mi wneud cais i’r llys?

Os ydych chi’n gallu ateb ‘Ydi’ i’r tri chwestiwn isod, nid oes arnoch angen caniatâd gan y Llys Gwarchod i roi rhodd:

  1. Ydi’r rhodd i rywun sy’n perthyn i’r unigolyn neu’n gysylltiedig ag o - neu i elusen y byddai’n cyfrannu ati’n arferol o bosib?

  2. Os yw’r rhodd i berson, a yw’n cael ei rhoi ar achlysur arferol?

  3. Ydi’r rhodd o werth rhesymol, o ystyried maint ystâd yr unigolyn a’i anghenion disgwyliedig yn y dyfodol?

6. Os byddwch yn rhoi rhodd sydd y tu hwnt i’ch awdurdod

Os byddwch yn rhoi rhodd sy’n mynd y tu hwnt i’ch pwerau fel dirprwy neu atwrnai, efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud y canlynol:

  • lansio ymchwiliad

  • rhoi rhybudd i chi

  • gofyn i chi dalu arian yn ôl neu ddychwelyd rhoddion

  • dweud wrthych chi am ymgeisio am ‘gymeradwyaeth am yn ôl’ gan y Llys Gwarchod (sy’n golygu eich bod yn gofyn i’r llys gymeradwyo rhodd rydych chi wedi’i rhoi eisoes)

  • yn yr achosion mwyaf difrifol, gwneud cais i’r llys am ddod â’ch cyfnod fel dirprwy neu atwrnai i ben

  • rhoi gwybod i’r heddlu neu i sefydliadau eraill sy’n gofalu am fuddiannau gorau’r unigolyn – gall cam-drin eich cyfrifoldeb fel dirprwy neu atwrnai gyfrif fel twyll

Os ydych chi’n ddirprwy, efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud y canlynol hefyd:

  • cynyddu ei oruchwyliaeth arnoch chi

  • gwneud cais i’r Llys Gwarchod am ‘alw i mewn’ mewn perthynas â’r bond diogelwch (sy’n golygu y bydd rhaid i chi dalu’n ôl i’r cleient o bosib am unrhyw arian neu eiddo mae wedi’u colli)

Cofiwch, mae’r rheolau ar gyfer rhoi rhoddion yn ymwneud â gwarchod buddiannau gorau’r unigolyn. Meddyliwch yn ofalus wrth roi rhoddion - eich rôl chi yw gofalu am fuddiannau ariannol yr unigolyn gyda mwy fyth o ofal na’ch buddiannau ariannol chi eich hun.

7. Cwestiynau?

Cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddechrau, i gael rhagor o wybodaeth am roi rhoddion:

Ffôn: 0300 456 0300

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm; Dydd Mercher 10am tan 5pm

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Holl ganllawiau a ffurflenni Cymraeg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus