Canllawiau

Cael hawliau eiddo deallusol: cam wrth gam

Diweddarwyd 10 Hydref 2025

1. Gwiriwch a yw gwneud cais am eiddo deallusol yn iawn i chi

Beth yw eiddo deallusol
Diogelu eich eiddo deallusol
Dylech gael cyngor cyn i chi benderfynu gwneud cais. Mae llawer o gyngor am ddim ar gael a gallai arbed amser ac arian i chi wrth gyflwyno cofrestriad diystyr.
Cael help i benderfynu a oes angen i chi wneud cais

2. Gwiriwch fod eich eiddo deallusol yn bodloni’r meini prawf

Nodau masnach

Dylech wirio bod eich nod masnach yn bodloni’r rheolau. Bydd eich cais yn cael ei wrthod os nad yw’n gwneud hynny ac ni fyddwch yn derbyn ad-daliad.
Gwiriwch reolau nodau masnach
Gwyliwch fideo byr am nodau masnach (2 funud)

Patentau

Dylech wneud yn siŵr bod eich dyfais yn batentadwy cyn i chi ddechrau. Mae yna rai pethau na allwch gael patent ar eu cyfer.
Gwiriwch reolau patent
Gwyliwch fideo byr am batentau (2 funud)

Dyluniadau

Rhaid i’ch dyluniad fod yn newydd. Dylech wirio’r hyn na allwch ei gofrestru fel dyluniad cyn i chi wneud cais.
Gwirio rheolau dylunio
Gwyliwch fideo byr am ddyluniadau (2 funud)

Hawlfraint

Rydych chi’n cael amddiffyniad hawlfraint yn awtomatig - does dim rhaid i chi wneud cais na thalu ffi. Gallwch wirio beth rydych chi’n cael amddiffyniad hawlfraint yn awtomatig amdano.
Gwirio sut mae hawlfraint yn diogelu eich gwaith
Gwyliwch fideo byr am hawlfraint (2 funud)

3. Gwiriwch a yw patent, nod masnach neu ddyluniad tebyg eisoes yn bodoli

Efallai na fyddwch yn gallu cael eich eiddo deallusol neu efallai y cewch eich herio os byddwch yn gwneud cais am eiddo deallusol sydd eisoes yn bodoli
Chwiliwch am nod masnach
Chwiliwch am batent
Chwiliwch am ddyluniad

4. Paratowch eich cais

Nodau masnach

Mae angen i chi benderfynu pa ddosbarthiadau nodau masnach i wneud cais amdanynt
Penderfynwch pa ddosbarthiadau nodau masnach sydd eu hangen arnoch

Patentau

Rhaid i gais am batent gynnwys disgrifiad, hawliadau a chrynodeb
Paratowch eich cais am batent

Dyluniadau

Rhaid i chi baratoi darluniau manwl o’ch dyluniad
Paratowch eich darluniau dylunio

5. Gwneud cais i amddiffyn eich eiddo deallusol

Gwneud cais am nod masnach - £170 am nod masnach gydag un dosbarth, £50 am bob dosbarth ychwanegol wrth wneud cais ar-lein
Gwneud gais am batent - o leiaf £310 wrth wneud cais ar-lein
Gwneud cais am ddyluniad

Wrth wneud cais ar-lein:

£50 am un dyluniad

£70 ar gyfer hyd at 10 dyluniad

£90 ar gyfer hyd at 20 o ddyluniadau

£110 ar gyfer hyd at 30 o ddyluniadau

£130 ar gyfer hyd at 40 o ddyluniadau

£150 ar gyfer hyd at 50 o ddyluniadau

Rhybudd

Efallai y byddwch yn derbyn anfoneb gamarweiniol gan drydydd parti sy’n gofyn am daliad am wasanaeth sy’n gysylltiedig â nod masnach, dyluniad, neu batent. Peidiwch â’u talu.

Osgoi ceisiadau talu camarweiniol