Osgoi ceisiadau talu camarweiniol
Efallai y byddwch yn derbyn anfoneb camarweiniol sy'n gofyn am daliad am wasanaeth sy'n gysylltiedig â nod masnach, dyluniad, neu batent. Dyma ychydig o wybodaeth a chanllawiau ar beth i'w wneud.
Beth yw anfoneb camarweiniol?
Mae anfoneb camarweiniol yn cyfeirio at bost digymell neu anfonebau twyllodrus. Maent yn cael eu hanfon gan sefydliadau digymell, nad sy’n gysylltiedig â’r Swyddfa Eiddo Deallusol. Gellir derbyn anfonebau camarweiniol ar gyfer pob math o IP ond maent yn bennaf yn targedu cwsmeriaid nodau masnach. Mae’r anfonebau hyn yn cynnig gwasanaethau cost uchel fel:
- gwasanaethau monitro adnewyddu
- “diogelu” neu “gyhoeddi” eich IP mewn cofrestr Ewropeaidd neu ryngwladol
Beth ddylech chi ei wneud?
Peidiwch â’u talu. Mae’n annhebygol iawn y byddwch chi’n cael eich arian yn ôl. Mae’r math hwn o sefydliad yn gweithredu ar draws ffiniau sy’n gwneud gorfodaeth yn anodd iawn. Os nad ydych yn siŵr am rywbeth rydych chi wedi’i dderbyn, gwnewch y canlynol:
- anfonwch gopi at misleadinginvoices@ipo.gov.uk a bydd rhywun o’n tîm yn ymateb i chi
- rhowch wybod am anfonebau camarweiniol i Action Fraud a gwneud Adroddiad Gwybodaeth drwy’r offeryn adrodd ar-lein
- adroddwch i’ch swyddfa Safonau Masnach leol
Enghreifftiau o gwmnïau post camarweiniol neu ddigymell
Gallwch weld rhagor o enghreifftiau o anfonebau sgam wedi’u golygu (ODT, 1.3 MB) y mae cwsmeriaid wedi’u derbyn.
Mae’n gyffredin i’r sefydliadau digymell hyn newid eu henwau. Os nad ydych chi’n adnabod y cwmni neu os nad ydyn nhw wedi’u rhestru isod, anfonwch gopi o’r anfoneb at misleadinginvoices@ipo.gov.uk.
- EIPA
- EUIP
- European Agency Intellectual Property
- European Intellectual Property Agency (EUIPA)
- European Intellectual Property Services (EIPS)
- European Patent and Trademark Agency (EPTA)
- European Union Intellectual Property Directory (EUIPD)
- Intellectual Property Organisation Service (IPOS)
- International Organisation Intellectual Property (IOIP)
- International Patent and Trademark Register (IPTMR)
- International Property Services (IPS)
- International Trademark Register
- INT-Trademarks
- IPRO
- IPR Protection
- TPS – Trademark Publication Service
- Trademarks Worldwide Ltd
- World Intellectual Property Office for Trademarks (WIPOT)
- World Organisation for Trademarks (WOTR)
- World Patent & Trademark Agency
- WTPR
Rhagor o wybodaeth
Os oes angen sicrwydd neu wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â misleadinginvoices@ipo.gov.uk
Updates to this page
-
Added translation
-
Examples of misleading or unsolicited mail companies and the ODT misleading invoices document updated.
-
IPR Protection added.
-
List of misleading mail companies under heading 'Who are these misleading mail companies?' updated.
-
First published.