Chwilio am batent
Dod o hyd i fanylion patentau sydd wedi’u cofrestru yn y DU gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Chwilio am Eiddo Deallusol’.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i chwilio am dystysgrifau diogelu atodol (SPC).
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:
- gwirio a yw patent tebyg i’ch dyfais eisoes yn bodoli yn y DU
- gweld pwy sy’n berchen ar batentau yn y DU
- dod o hyd i batent rhywun arall i’w ddefnyddio
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch hefyd wirio am newidiadau i batentau, gan gynnwys ceisiadau newydd neu newidiadau i geisiadau gan ddefnyddio hysbysydd patentau.
Chwilio am batentau yn Jersey a Guernsey
Defnyddiwch y gofrestr patentau Jersey i chwilio am batentau yn Jersey.
Defnyddiwch y gofrestr patentau Guernsey i chwilio am batentau yn Guernsey.
Chwilio am batentau ledled y byd
Defnyddiwch chwiliad patent Espacenet i wirio am geisiadau patent cyhoeddedig a phatentau cofrestredig.
Mae’r gronfa ddata yn cynnwys patentau ledled y byd a’r DU, a manylion am:
- perchnogion
- dogfennau a ffeiliwyd
- gwledydd lle mae’r patent yn gymwys
Cael cymorth
Cysylltwch â’r IPO am gymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
information@ipo.gov.uk
Rhif ffôn: (0)1633 814000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh (ac eithrio gwyliau banc)
Gwybodaeth am gostau ffonio
Gallwch gael help yn bersonol mewn llyfrgell patent IPO.