Gwiriwch yr hysbysydd patentau

Gwiriwch am newidiadau i batentau yn y DU, gan gynnwys ceisiadau newydd neu newidiadau i geisiadau yn y gwasanaeth ‘Chwilio’r Hysbysydd Eiddo Deallusol’.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio am newidiadau i dystysgrifau diogelu atodol (SPC).

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i weld:

  • ceisiadau patent yn y DU
  • patentau Ewropeaidd sy’n gymwys yn y DU
  • achosion cyfreithiol patentau eraill

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion patent neu SPC. Defnyddiwch y gwasanaeth chwilio am batent yn lle.

Os ffeiliwyd y cais ar neu cyn 21 Ionawr 2025

Ni allwch weld na lawrlwytho hysbysyddion a gyhoeddwyd ar neu cyn 21 Ionawr 2025 gyda’r gwasanaeth hwn.

Os cyhoeddwyd yr hysbysydd rhwng 26 Mawrth 2008 a 22 Ionawr 2025, gallwch lawrlwytho’r data mewn fformat PDF neu XML.

Os cyhoeddwyd yr hysbysydd rhwng 12 Awst 1998 a 26 Mawrth 2008, gallwch ddod o hyd i’r hysbysydd patentau yn yr Archif Genedlaethol.

Chwilio’r hysbysyddion patentau yn Guernsey

Mae’r hysbysydd patentau Guernsey yn cynnwys manylion ceisiadau patent newydd yn Guernsey.