Chwilio am gyngor ar eiddo deallusol
Dod o hyd i'r cyngor a'r cynghorydd cywir yw'r cam cyntaf wrth wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer eich dyfais neu fusnes.
Mynnwch gyngor am ddim gan ganolfannau gwybodaeth yn eich ardal chi
Gallwch gael cyngor a chymorth trwy rwydwaith o 25 o Ganolfannau PatLib (Llyfrgelloedd Patentau) sy’n cwmpasu pob rhanbarth o’r DU. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael fel arfer yn cynnwys:
- busnes 1 awr am ddim ac IP 1:1 (apwyntiad yn unig)
- gweithdai a seminarau
- atgyfeiriadau at atwrneiod IP lleol
Mae Canolfan Busnes ac IP y Llyfrgell Brydeinig ledled y DU yn cefnogi entrepreneuriaid, dyfeiswyr a busnesau bach. Maen nhw’n cynnig cymorth o ysbrydoliaeth gychwynnol i lansio a thyfu busnes yn llwyddiannus.
Archebwch gwrs hyfforddi
Dysgwch gan arbenigwyr y Swyddfa Eiddo Deallusol sy’n cofrestru ac yn rhoi nodau masnach, dyluniadau a phatentau.
Mae amrywiaeth o gyrsiau personol ac ar-lein ar gael. Mae’r rhain yn addas ar gyfer perchnogion busnes, dyfeiswyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn IP.
Mynychu digwyddiad i siarad â’n tîm
Mae ein tîm o gynghorwyr yn teithio ledled y DU ac yn rhoi cyngor mewn digwyddiadau sydd â ffocws ar eiddo deallusol neu fusnes.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad i fynychu, ond mae ein tîm yn darparu seminarau, gweithdai a chyngor 1:1 am ddim ar sut y gall eiddo deallusol helpu busnesau.
Cynghorwyr busnes ac adnoddau cynghori
Rhestr o sefydliadau sy’ncynnig cyngor busnes ac eiddo deallusol i arloeswyr a busnesau.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae’n fan cychwyn da i fusnesau sy’n chwilio am eiddo deallusol a chyngor busnes cyffredinol.
Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid
Mae ein Canolfan Cymorth Cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Bydd ein tîm o gynghorwyr yn gallu darparu cefnogaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gallwch gysylltu â ni ar 0300 300 2000 neu drwy e-bost information@ipo.gov.uk
Adnoddau rhyngweithiol
Gwyliwch fideos ar YouTube i ddysgu am:
- a yw eiddo deallusol yn bwysig i’m busnes?
- a ddylwn i gael nod masnach?
- a ddylwn i gael patent?
- a ddylwn i gael dyluniad cofrestredig?
- a yw hawlfraint yn bwysig i’m busnes?
Gallwch hefyd gael mynediad at offer cymorth ar-lein IPO am ddim a hawdd eu defnyddio a all eich helpu i adnabod eich asedau IP a darparu’r camau nesaf i chi ar sut i’w diogelu.
Atwrneiod patent ac atwrneiod nod masnach cofrestredig
Dim ond cynrychiolwyr rheoledig sy’n cael eu caniatáu i alw eu hunain yn atwrnai patent, asiant patent, atwrnai nod masnach cofrestredig neu asiant nod masnach cofrestredig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n defnyddio’r teitlau hyn fod yn gymwys yn gyfreithiol. Gallant ddarparu’r holl wasanaethau arbenigol angenrheidiol i gael y gorau o’ch IP. Mae’n bosibl trin eich IP heb unrhyw gynrychiolydd cyfreithiol. Fodd bynnag, fe fyddech yn agored i lawer o ddiffygion posibl ac anawsterau cymhleth. Mae cyfraith IP yn gymhleth ac yn gofyn am wybodaeth a sgiliau sylweddol i’w drafod yn dda. Lle mae eich asedau busnes gwerthfawr yn y fantol, nid yw’n werth cymryd risgiau o’r fath.
Rhoddir cyngor gan y cynrychiolwyr rheoledig hyn yn gyfrinachol (yn amodol ar fraint gyfreithiol). Maen nhw’n cael eu rheoleiddio gan gorff rheoleiddio annibynnol, y Bwrdd Rheoleiddio Eiddo Deallusol (IPREG). Mae hyn yn golygu bod IPReg yn gosod y rheolau ar gyfer yr hyn y mae’n rhaid iddyn nhw ei ddilyn, gan gynnwys bod yn rhaid iddynt:
-
basio arholiadau i ddod yn gymwys
-
fod wedi eu hyswirio
-
gynnal hyfforddiant bob blwyddyn
-
ddilyn cod ymddygiad
Os na fyddan nhw’n dilyn y rheolau hyn, gallant fod yn destun camau disgyblu. Mae IPReg yn cyhoeddi rhestr o ganfyddiadau disgyblu. Mae cwynion yn cael eu trin yn annibynnol gan IPReg neu’r Ombwdsmon Cyfreithiol. Mae defnyddio cynrychiolydd rheoledig felly yn golygu bod mesurau diogelu ar waith. Mae’n bosibl defnyddio cynrychiolydd neu gynghorydd heb ei reoleiddio, ond ni fydd gennych y mesurau diogelu hyn. Gallwch wirio a yw rhywun yn cael ei reoleiddio trwy wirio cofrestr IPReg.
Gellir dod o hyd i fanylion am y proffesiynau a sut i ddod o hyd i atwrnai lleol ar y gwefannau canlynol:
- Sefydliad Siartredig Atwrneiod Nodau Masnach (CITMA)
- Sefydliad Siartredig Atwrneiod Patent (CIPA)
- Sefydliad y Cynrychiolwyr Proffesiynol gerbron Swyddfa Patentau Ewrop (EPI)
- Chwilio am Gynrychiolwyr Proffesiynol gerbron Swyddfa Eiddo Deallusol yr Undeb Ewropeaidd (EUIPO) sy’n llywodraethu Nodau Masnach a Dyluniadau Cofrestredig yr Undeb Ewropeaidd
Pam y dylech ddefnyddio atwrnai IP
Mae CIPA a CITMA yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim. Gellir dod o hyd i hyn ar y gwefannau canlynol:
- Cyngor am ddim Sefydliad Siartredig Atwrneiod Nodau Masnach (CITMA)
- Cyngor am ddim Sefydliad Siartredig Atwrneiod Patent (CIPA)
Cyfreithwyr
Mae IP yn faes arbenigol ac mae angen i chi fod yn siŵr bod unrhyw gyfreithwyr rydych chi’n eu defnyddio yn wybodus ac yn fedrus mewn IP. Mae’n annhebygol y bydd gan eich cyfreithiwr arferol sgiliau o’r fath.
Mae cyfreithwyr IP yn arbenigo mewn trafodion sy’n cynnwys IP. Mae hyn yn cynnwys:
- trwyddedu a phrynu a gwerthu busnesau
- datrys anghydfodau IP ac ymgyfreitha
Nid ydynt yn gwneud cais am batentau neu fathau eraill o eiddo deallusol, er bod rhai yn gwneud cais am nodau masnach cofrestredig. Mae rhai cyfreithwyr hefyd yn gymwys fel Atwrnai Nod Masnach.
Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn rheoleiddio cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn rheoleiddio cyfreithwyr cofrestredig Ewropeaidd a thramor. Nhw yw corff rheoleiddio annibynnol Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr.
- Gall Cymdeithas y Gyfraith ddarparu manylion cyfreithwyr addas yn eich ardal chi
Bargyfreithwyr IP
Mae bargyfreithwyr IP yn rhoi cyngor arbenigol mewn materion IP ac yn cynnal achosion mewn llysoedd. Mae’r aelodau mwy profiadol o’r grŵp hwn yn gyffredinol yn gallu darparu rhywfaint o gyngor busnes ynghylch IP hefyd, er nad yw’n arbenigedd fel arfer.
Bydd cyflwyniad i fargyfreithiwr IP fel arfer trwy gyfreithiwr, atwrnai patent, atwrnai nod masnach neu gyfrifydd.
- Cyngor y Bar - gall ddarparu manylion bargyfreithwyr sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
Gofynnwch am gyngor cyn gwneud cais am batent
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gwneud cais am batent gan y gall fod yn broses gymhleth a chostus. Mae manyleb patent yn ddogfen gyfreithiol ac mae angen sgiliau arbenigol i’w ddrafftio’n iawn. Mae eich siawns o gael patent defnyddiol yn llawer mwy os ydych chi’n defnyddio atwrnai.
Ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn prynu cartref heb gymorth proffesiynol, ac eto mae cael patent yn anoddach na hynny. Os ydych chi’n cael eich cais patent yn anghywir o’r dechrau, gall fod yn amhosibl cywiro gwall. Bydd hyn yn arwain at gyfle coll i amddiffyn eich dyfais. Gall olygu na ellir caniatáu i’ch cais, neu fod eich patent a roddwyd yn llai gwerthfawr yn fasnachol nag y gallai fod wedi bod. Fel gyda’r rhan fwyaf o gymorth cyfreithiol, mae atwrneiod patent yn codi tâl am eu gwasanaethau. Fodd bynnag, bydd llawer yn darparu ymgynghoriad byr cychwynnol yn rhoi cyngor sylfaenol am ddim. Gall CIPA eich helpu i ddod o hyd i atwrnai yn eich ardal.
Gall CIPA ddarparu 45 munud o gyngor am ddim gan atwrnai patent cymwys trwy ei wasanaeth Clinigau IP. Gallwch drefnu apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth Clinig IP trwy eu gwefan, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau am ddim a chanllawiau patent, gan gynnwys amcangyfrif o gostau.
Hawliau IP dramor
Mae trefnu ar gyfer ceisiadau patent, dyluniad cofrestredig neu nod masnach i gael eu ffeilio i chi unrhyw le yn y byd yn rhywbeth y gall atwrnai IP sydd wedi’i gysylltu’n dda a phrofiadol ei wneud, gan fod eu sgiliau yn ymestyn y tu hwnt i gyfraith ac ymarfer y DU ac Ewrop. Gall mabwysiadu strategaeth IP ryngwladol briodol fod yn hanfodol i fusnes. Mae gwneud y dewisiadau cywir yn bwysig iawn.
Mae yna lawer o agweddau i’w hystyried. Er enghraifft, gellid ystyried y materion canlynol wrth benderfynu ble i geisio amddiffyniad patent:
- a ddylid cael patentau yn unig mewn gwledydd lle mae gweithgynhyrchu yn debygol o ddigwydd
- a ddylid cael patentau yn lle hynny dim ond mewn gwledydd lle mae’r gwerthiannau mwyaf yn digwydd
- a ddylai patent Ewropeaidd gael ei ymestyn i fod yn orfodadwy ym mhob un o aelod-wladwriaethau y system patentau Ewropeaidd
- neu a fyddai rhai dethol yn ddigonol at ddibenion y cleient
Mae amrywiaeth o lwybrau i gael amddiffyniad IP yn rhyngwladol. Mae yna gonfensiynau a chytundebau IP rhyngwladol y gall atwrnai IP eu defnyddio i’ch mantais wrth geisio hawliau IP ledled y byd.
Cwmnïau hyrwyddo dyfeisiadau
Efallai y bydd rhai cwmnïau hyrwyddo dyfeisiadau yn cynnig gwybodaeth am ddim i chi ar sut i batentu a marchnata eich dyfais.
Mae rhai cwmnïau annibynadwy yn addo gwerthuso’ch dyfais am ffi o ychydig gannoedd o bunnoedd. Yna maen nhw’n dweud wrthych fod gan eich dyfais botensial marchnad mawr. Efallai y byddant yn cynnig hyrwyddo’ch dyfais i wneuthurwyr os ydych chi’n talu ffi o sawl mil o bunnoedd ymlaen llaw. Ar ôl i chi dalu, efallai y byddant yn gwneud ychydig neu ddim i chi o gwbl.
Bydd cwmnïau ag enw da yn cynnal yr ymchwil ac yn darparu gwerthusiad marchnad dilys. Bydd yn rhoi adolygiad gonest i chi o botensial eich dyfais. Nid ydynt yn defnyddio ymchwil ffug ac adroddiadau cadarnhaol a fas-gynhyrchwyd. Nid ydynt yn codi ffioedd ymlaen llaw mawr, fel y mae rhai cwmnïau annibynadwy yn ei wneud. Byddant yn argymell pa ymchwil y dylid ei wneud i werthuso eich dyfais. Os yw’r canlyniad yn gadarnhaol, byddant yn dweud wrthych sut y byddent yn ei farchnata. Byddant yn rhoi dadansoddiad amcangyfrifedig i chi o beth fydd y costau ym mhob cam o’r broses a lefel y risg sy’n gysylltiedig.
Os yw cwmni hyrwyddo dyfeisiadau yn dod atoch chi, cymerwch ofal mawr. Cwestiynwch eu honiadau a’u sicrwydd y bydd eich dyfais yn gwneud arian. Ni all neb warantu llwyddiant eich dyfais.
Nid yw ymrwymo i gontract gydag un o’r cwmnïau hyn yn wahanol i unrhyw drefniant ariannol mawr arall. Gwnewch yn siŵr bod eich contract yn cynnwys yr holl delerau rydych chi wedi cytuno arnynt a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol.
Gwneud cwyn am gynrychiolydd heb ei reoleiddio
Gallwch gwyno wrthym am ymddygiad cynrychiolydd heb ei reoleiddio, er enghraifft os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth maen nhw wedi’i ddarparu. Byddwn yn ystyried y dystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid sancsiynu’r cynrychiolydd. Yr unig sancsiwn y gallwn ei gymhwyso yw atal person rhag gweithredu fel cynrychiolydd o’n blaenau. Dim ond os yw eu hymddygiad yn y fath fodd y byddai eu rheoleiddiwr wedi eu tynnu o’r gofrestr pe baent wedi’u cofrestru.
Ni allwn gyhoeddi dirwyon na dyfarnu iawndal.
Ni allwn ystyried cwynion am atwrneiod nod masnach cofrestredig, atwrneiod patent.
Os oes gennych gŵyn am asiant heb ei reoleiddio, cwblhewch ein ffurflen adborth neu CEUMailbox@ipo.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â ni i gwyno dros y ffôn ar 0300 300 2000 neu drwy’r post.
Uned Profiad y Cwsmer
Swyddfa Eiddo Deallusol
Concept House
Cardiff Rd
Casnewydd
Cymru
NP10 8QQ
Y Deyrnas Unedig
Updates to this page
-
Added translation
-
Section 'Make a complaint about an unregulated representative' added.
-
Video 'IP BASICS: Is Intellectual Property important to my business?' added to the guide.
-
First published.