Canllawiau

Trwydded gyffredinol i symud gwartheg ac anifeiliaid buchol eraill o sioe amaethyddol heb ei heithrio yn yr Ardal Risg Isel, neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr, heb brofion TB ar ôl symud yn y sioe

Diweddarwyd 4 September 2023

Applies to England and Wales

Yn gymwys i Gymru a Lloegr

DEDDF IECHYD ANIFEILIAID 1981

GORCHYMYN TWBERCWLOSIS MEWN ANIFEILIAID (LLOEGR) 2021 O.S. 2021/1001 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN O.S 2023/867

TRWYDDED GYFFREDINOL I SYMUD GWARTHEG AC ANIFEILIAID BUCHOL ERAILL O SIOE AMAETHYDDOL HEB EI HEITHRIO YN YR ARDAL RISG ISEL NEU RANNAU PROFION GWYLIADWRIAETH BLYNYDDOL ARDAL YMYLOL LLOEGR HEB BROFION TWBERCWLOSIS AR ÔL SYMUD.

Yn unol ag erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy hyn yn awdurdodi drwy’r drwydded gyffredinol hon symud gwartheg ac anifeiliaid buchol eraill o sioe amaethyddol heb ei heithrio (i) yn yr Ardal Risg Isel (ii) (fel y’i diffinnir yng Ngorchymyn Twbercwlosis (Lloegr) 2021 neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr (iii) heb fod angen prawf croen ar ôl symud yn y sioe amaethyddol os bodlonir yr amodau canlynol:

1) Mae’r anifail (anifeiliaid) buchol yn dod o fuches a leolir mewn rhan o Loegr lle y cynhelir profion TB bob blwyddyn neu’n amlach neu yng Nghymru ac yn cael ei gadw (eu cadw) dros dro ar y safle lle y lleolir sioe amaethyddol heb ei heithrio yn yr Ardal Risg Isel yn Lloegr neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr.

2) Mae symudiadau a ganiateir o dan y drwydded hon o sioeau amaethyddol heb eu heithrio yn Ardal Risg Isel neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol ardal ymylol Lloegr i’r canlynol:

  • safle a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr y tu allan i rannau brofion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr a’r tu allan i Ardal TB Isel Cymru

  • safle a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr, lle mae’n rhaid i’r anifail buchol gael prawf ar ôl symud wrth gyrraedd, yn unol ag Erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd)

  • safle a leolir yn rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr, lle mae’n rhaid i’r anifail buchol gael prawf ar ôl symud wrth gyrraedd, yn unol ag Erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd) – oni bai ei fod wedi cael ei symud yn wreiddiol o fuchesi sydd wedi eu lleoli yn rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol Ardal Ymylol Lloegr i’r sioe

  • safle a leolir yn Ardal TB Isel Cymru, lle mae’n rhaid i’r anifail buchol gael prawf ar ôl symud wrth gyrraedd, pan fo’n gymwys, yn unol ag Erthygl 13A o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd)). Nid yw’r prawf ar ôl symud yn gymwys os daw’r anifail (anifeiliaid) o fuches a leolir yn Ardal Risg Isel Lloegr neu Ardal TB Isel Cymru.

3) Ni ellir symud unrhyw anifeiliaid buchol ar neu oddi ar y sioe amaethyddol pe byddai symudiadau o’r fath yn groes i unrhyw gyfyngiadau eraill sy’n ymwneud â chlefydau hysbysadwy sydd mewn grym ar adeg y symud arfaethedig.

Ceidwad yr anifail sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn y drwydded hon. Mae methu â chydymffurfio â thelerau’r drwydded hon yn drosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd).

Daw’r drwydded hon i rym am 11 o’r gloch y bore ar 11 Awst 2023.

Llofnodwyd Gan Sergio Thomas

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dyddiedig 11 Awst 2023 10:14

Nodiadau

i) nid oes angen i anifeiliaid buchol sydd wedi symud i sioe amaethyddol gael prawf ar ôl symud yn yr ardaloedd canlynol:

a. Ardal Risg Isel Lloegr, neu anifeiliaid sy’n dychwelyd i Ardal Risg Isel Lloegr o sioe amaethyddol y tu allan i Ardal Risg Isel Lloegr

b. rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol, neu anifeiliaid sy’n dychwelyd i rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol o sioe amaethyddol y tu allan i’r Ardal Risg Isel neu rannau profion gwyliadwriaeth blynyddol yr Ardal Ymylol

Os na ddelir yr anifeiliaid ar faes y sioe am fwy na 24 awr ac nad ydynt yn cael eu cadw dan do ar faes y sioe. Er mwyn i’r eithriad hwn fod yn gymwys, rhaid i’r anifeiliaid buchol gael eu dychwelyd yn uniongyrchol i’r safle gwreiddiol ar ôl y sioe, neu gael eu lladd neu fynd yn uniongyrchol i gael eu lladd ar ôl y sioe. Ceir rhagor o fanylion am eithriadau i’r polisi profion ar ôl symud yn Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd). Ystyrir bod sioe wedi’i heithrio os na fydd unrhyw anifeiliaid buchol yn aros ar faes y sioe am fwy na 24 awr ac os na chaiff unrhyw anifail buchol ei gadw dan do h.y. unrhyw fan dan do ag ochrau.

ii) ystyr “yr Ardal Risg Isel” yw unrhyw un o’r siroedd a restrir yn Atodlen A i Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021: Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Cleveland, Swydd Durham, Cumbria, Essex, Llundain Fwyaf, Manceinion Fwyaf, Swydd Hertford, Glannau Humber, Ynys Wyth, Ynysoedd Sili, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Lincoln, Glannau Mersi, Norfolk, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, De Swydd Efrog, Suffolk, Surrey, Tyne a Wear, Gorllewin Sussex Gorllewin Swydd Efrog

iii) mae rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol o’r Ardal Ymylol yn golygu’r rhai y cyfeirir atynt fel yr ‘ardal benodol’ yn y Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd) a gaiff ei ddiffinio fel ‘unrhyw un o’r siroedd neu blwyfi sifil a restrir yn Atodlen 3’ o’r Gorchymyn

iv) ystyr “Ardal TB Isel Cymru” yw’r holl dir tywyll a nodir fel “TB Isel’’ ar y map a adneuwyd sy’n dwyn y teitl TB Buchol: map achosion

v) o dan erthygl 20 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (fel y’i diwygiwyd), pan symudir anifail buchol i’r ardaloedd canlynol:

a. Ardal Risg Isel o fuches a leolir mewn rhan arall o Loegr, neu yng Nghymru

b. rhannau profion gwyliadwriaeth blynyddol o’r Ardal Ymylol o fuches a leolir mewn rhannau o Gymru neu Lloegr sy’n destun profion gwyliadwriaeth bob chwe mis

Rhaid i’r ceidwad sy’n derbyn yr anifail drefnu i filfeddyg cymeradwy gynnal prawf croen ar ôl symud ar yr anifail o fewn dim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, i’r dyddiad cyrraedd ar y safle derbyn, a thalu am y prawf hwn; ac eithrio o dan amgylchiadau lle y symudir yr anifail:

  • i gael ei ladd o fewn 120 diwrnod
  • i gael triniaeth filfeddygol
  • i sioe amaethyddol wedi’i heithrio
  • yn uniongyrchol i farchnad y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol ohoni i gael ei ladd, i farchnad wedi’i heithrio, i ganolfan gasglu gymeradwy neu i uned besgi drwyddedig

Lle bydd yn ofynnol i anifail gael prawf croen ar ôl symud, ni all unrhyw un symud yr anifail hwnnw o’r safle derbyn nes bod y prawf croen wedi’i gwblhau â chanlyniadau negatif, oni fydd yr anifail yn cael ei symud yn uniongyrchol (neu drwy grynhoad lladd neu farchnad gymeradwy) i’w ladd, yn uniongyrchol i uned besgi drwyddedig neu’n uniongyrchol (neu drwy farchnad wedi’i heithrio) i uned besgi gymeradwy neu uned besgi wedi’i heithrio a wnaed dan awdurdod trwydded wedi’i chyhoeddi gan arolygydd.