Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB
Diweddarwyd 23 Medi 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.
Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.
Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal ar 9 Rhagfyr 2026.
Fideo o gyfarfod diweddaraf Bwrdd yr ASB
Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Abertawe: Medi 2026
Cofrestru ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau cyfarfodydd.
Gallwch wylio’r cyfarfodydd yn bersonol neu ar-lein i glywed trafodaethau’r Bwrdd am ein polisïau
Mae angen i chi gofrestru i wylio ar-lein neu fynd i gyfarfod y Bwrdd yn bersonol.
Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd.
Bydd y ffurflen i gyflwyno cwestiynau ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd ar gael ar y dudalen hon wedi i’r agenda gael ei chyhoeddi. Cewch gyflwyno cwestiynau hyd at 17:00 ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd.
Sylwer – mae gennych uchafswm o 350 gair wrth lenwi’r ffurflen er mwyn sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno ac i’r pwynt fel y gallwn ni ei drafod yn llawn.
Bydd cwestiynau a gyflwynir ar y ffurf hon yn cael eu cyhoeddi’r diwrnod cyn y cyfarfod.
Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch drwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach na’r terfyn geiriau yn y ffurflen, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Sylwch na fydd y cwestiynau hyn na’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.
Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y ffordd
Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.
Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf sydd wedi’u trefnu:
- 9 Rhagfyr 2026 – Norwich
- 17 Mawrth 2027 – lleoliad i’w gadarnhau
- 16 Mehefin 2027 – lleoliad i’w gadarnhau
- 15 Medi 2027 – lleoliad i’w gadarnhau
- 8 Rhagfyr 2027 – lleoliad i’w gadarnhau
Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes
Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu’r cyfarfodydd canlynol ar GOV.UK.
Cyfarfodydd yn 2026:
Cyfarfodydd yn 2025:
Cyfarfodydd yn 2024:
- Rhagfyr 2024 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Medi 2024 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Mehefin 2024 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Mawrth 2024 (Yr Archifau Cenedlaethol)
Cyfarfodydd yn 2023:
- Rhagfyr 2023 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Medi 2023 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Mehefin 2023 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Mawrth 2023 (Yr Archifau Cenedlaethol)
Cyfarfodydd yn 2022:
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Rhagfyr 2022 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Pwyllgor Busnes yr ASB – Medi 2022 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB – Medi 2022 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Mehefin 2022 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Mawrth 2022 (Yr Archifau Cenedlaethol)
Cyfarfodydd yn 2021:
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Rhagfyr 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Medi 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes – Mehefin 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor – Mai 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Pwyllgor Busnes yr ASB – Mawrth 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
- Bwrdd yr ASB – Mawrth 2021 (Yr Archifau Cenedlaethol)
Mae’r Archifau Cenedlaethol hefyd yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd cynharach.
- Cyfarfodydd y Bwrdd yn 2020-2021
- Cyfarfodydd y Bwrdd yn 2017-2019
- Cyfarfodydd y Bwrdd yn 2013-2017
- Cyfarfodydd y Bwrdd yn 2006-2013
Pwyllgorau Bwrdd yr ASB
Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar gyfrifoldebau eraill.
Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu
- Aelodau Bwrdd yr ASB: Gan gynnwys cofnodion o bresenoldeb, ymrwymiadau a threuliau
- Fframwaith Gweithredu’r Bwrdd