Dull yr ASB o ymdrin â thwf
Cyhoeddwyd 4 Awst 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Twf
Ein prif amcan yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Y ffordd bwysicaf rydym yn cefnogi twf economaidd yw drwy gyflawni ein swyddogaethau craidd yn effeithlon ac yn gymesur, gan fod yn dryloyw a chynnal hyder y cyhoedd a phartneriaid masnachu yn y system fwyd.
Bwriad agenda rheoliad llywodraeth y DU ar gyfer twf yw sicrhau bod gwaith rheoleiddio yn cefnogi arloesedd ac yn hybu twf economaidd.
Yr ASB yw un o’r rheoleiddwyr allweddol a nodwyd gan y llywodraeth oherwydd ei photensial i effeithio ar dwf economaidd. Ym mis Mawrth 2025, gwnaethom nifer o addewidion o dan Gynllun Gweithredu Rheoleiddiol y llywodraeth, a dyma’r hyn rydym wedi cyflawni’n llwyddiannus:
- rydym wedi gweithredu dulliau newydd o reoleiddio safonau bwyd (Ebrill 2025) a rheoleiddio hylendid bwyd (Hydref 2025) awdurdodau lleol er mwyn gwneud arolygiadau’n fwy seiliedig ar risg ac yn fwy cymesur
- rydym wedi cael ein dynodi’n ffurfiol yn awdurdod cymwys ar gyfer plastigau wedi’u hailgylchu ym Mhrydain Fawr ac rydym wedi cwblhau’r archwiliadau cyntaf. Mae hyn yn cefnogi allforion drwy helpu busnesau’r DU i fodloni gofynion yr UE ar gyfer plastigau wedi’u hailgylchu o’r safon cywir ar gyfer bwyd
- gwnaethom gefnogi chwe archwiliad masnach fewnol o’r Undeb Ewropeaidd, De Corea ac UDA yn 2025, gan helpu i gefnogi masnach ryngwladol y DU mewn bwyd a diod
- gwnaethom gyhoeddi canllawiau diogelwch cyntaf y DU ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs), a hynny drwy ein rhaglen blwch tywod rheoleiddiol (Rhagfyr 2025), gan gynyddu eglurder rheoleiddiol i arloeswyr a chefnogi buddsoddiad mewn sector a allai gyfrannu hyd at £2.1 biliwn i economi’r DU erbyn 2030.
Nodau twf yr ASB
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi cenhadaeth twf llywodraeth y DU, rydym wedi cytuno ar bum nod twf economaidd â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r nodau hyn yn canolbwyntio ar feysydd o’n gwaith yn Lloegr lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
-
Nod 1: cefnogi’r gwaith o gyflawni cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS) â’r UE i gynnal safonau a diogelwch bwyd a chael gwared ar rwystrau i fasnach
cefnogi uchelgeisiau’r DU ar gyfer masnach bwyd-amaeth drwy roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith ar gyfer cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS) â’r UE yn y dyfodol, a helpu busnesau i ddeall ac addasu i’r gofynion newydd
-
Nod 2: dull cenedlaethol o reoleiddio ar gyfer busnesau bwyd mawr yn Lloegr
cyflawni’r rhaglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd, gan gynnwys datblygu dull cenedlaethol newydd o reoleiddio busnesau bwyd mawr sy’n lleihau beichiau diangen ac yn cynnal hyder y cyhoedd ar yr un pryd, gan chwarae rhan allweddol wrth sicrhau system reoleiddio fwy cymesur ac effeithiol
-
Nod 3: cyflwyno rhaglen blwch tywod rheoleiddiol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
cefnogi arloesedd yn y sector bwyd drwy ddarparul lwybrau cliriach ar gyfer gwaith rheoleiddio i gynhyrchion sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft drwy waith ar fwydydd a wneir drwy feithrin celloedd
-
Nod 4: defnyddio technoleg fodern a deallusrwydd artiffisial
cryfhau’r defnydd o ddata, cudd-wybodaeth a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, er mwyn targedu ymdrech reoleiddio yn fwy effeithiol ac ymateb yn gyflymach i risgiau
-
Nod 5: targedau bwyd iachach a’r trefniadau ar gyfer adrodd amdanynt
cefnogi ymrwymiad Cynllun Iechyd 10 Mlynedd y DHSC i gyflwyno targedau a chyflwyno adroddiadau ar fwyd iachach, yn amodol ar benderfyniadau polisi a chyllido yn y dyfodol
Mae nodau twf economaidd yr ASB yn adlewyrchu ein gwaith i gefnogi twf economaidd, lleihau rhwystrau i fasnach, a galluogi arloesedd yn y system fwyd, wrth gynnal safonau uchel o ran diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr.
Ysgrifennodd Sharon Hodgson AS, cyn Is-ysgrifennydd Seneddol dros Iechyd y Cyhoedd at yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Yn ei llythyr, cadarnhawyd y nodau twf economaidd y cytunodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a’r ASB arnynt.