Skip to main content
Policy paper

Fraud Strategy 2026 to 2029: disrupting crime, supporting economic resilience and delivering justice (Welsh accessible)

Updated 30 April 2026

Llywodraeth EF

STRATEGAETH DWYLL 2026-2029:

Tarfu ar droseddu, cefnogi cadernid economaidd a sicrhau cyfiawnder

Mawrth 2026

CP 1523

Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Y Swyddfa Gartref

Strategaeth Dwyll 2026-2029: Tarfu ar droseddu, cefnogi cadernid economaidd a sicrhau cyfiawnder

Cyflwynwyd gerbron y Senedd

gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ar Orchymyn Ei Fawrhydi

Mawrth 2026

CP 1523

(h) Hawlfraint y Goron 2026

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 oni nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw ddeunydd trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd y deiliad hawlfraint perthnasol.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn i

fraud.strategy@homeoffice.gov.uk

ISBN 978-1-5286-6251-2

E03551200    03/26

Argraffwyd ar bapur sy’n cynnwys o leiaf 40% o ffeibr a ailgylchwyd

Argraffwyd yn y DU gan HH Associates Ltd. ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi.

1. Rhagair gan y Gweinidog

Yn gyson, twyll yw’r drosedd fwyaf cyffredin y rhoddir gwybod amdani yng Nghymru a Lloegr. Mae’n effeithio ar filiynau o unigolion a busnesau diniwed bob blwyddyn, yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yn peri bygythiad cynyddol i’n diogelwch gwladol a’n cadernid economaidd. Roedd graddfa a natur soffistigedig twyll modern yn golygu bod angen ymateb newydd a chyflymach.

Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o droi’r llanw. Mae’r bygythiad wedi parhau i dyfu a datblygu. Mae troseddwyr yn manteisio ar dechnolegau newydd, yn defnyddio ymosodiadau mwyfwy soffistigedig ac yn gweithredu ar draws ffiniau yn gynyddol ddi-gosb. Rhaid i ni fod yr un mor arloesol â nhw, er mwyn diogelu ein pobl ac amddiffyn ein heconomi.

Mae cydweithio cadarn rhwng y Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, diwydiant a chymdeithas sifil yn rhan hollbwysig o’r Strategaeth hon. Fel trosedd sy’n cyffwrdd â phob rhan o’n cymdeithas, mae ond yn iawn bod pob rhan o gymdeithas yn dod ynghyd i frwydro yn erbyn twyll.

Mae hyn yn golygu mwy na gostwng troseddu; mae’n golygu adfer hyder. Mae pob punt a gaiff ei dwyn drwy dwyll yn bunt na chaiff ei buddsoddi yn ein heconomi. Mae pob dioddefwr yn ein hatgoffa pam mae’n rhaid i ni weithredu. Drwy gyflawni’r Strategaeth hon, byddwn yn gwneud y DU yn lle mwy diogel i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo, ac yn anfon neges glir at droseddwyr: nid oes unman i chi guddio.

Y Gwir Anrh. Shabana Mahmood MP Ysgrifennydd Cartref

Y Gwir Anrh. Arglwydd Hanson o’r Fflint Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref

2. Crynodeb Gweithredol

Mae twyll yn erbyn unigolion a busnesau yn datblygu’n gyflym ac yn achosi niwed sylweddol. Mae’n dinistrio bywydau dioddefwyr, yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yn peri bygythiad difrifol i ddiogelwch gwladol ac economaidd y Deyrnas Unedig.

1. Mae’r Llywodraeth wedi gwneud gostwng troseddu a thwf economaidd yn rhan allweddol o’i Maniffesto. Twyll yn erbyn unigolion a busnesau yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yn y DU ac mae wedi costio £14.4 biliwn i’n heconomi yn 2023–2024.[footnote 1][footnote 2],[footnote 3],[footnote 4] Mae trechu twyll yn hanfodol er mwyn gostwng troseddu a gwella cadernid economaidd.

2. Gan gydnabod y cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll, gwerth uchel colledion twyll a niwed yn sgil twyll, roedd Maniffesto’r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad clir i gyflawni Strategaeth Dwyll newydd.

3. Bydd y Llywodraeth yn buddsoddi dros £250 miliwn rhwng 2026 a 2029 i gyflawni’r Strategaeth hon, gyda’r nod o fynd i’r afael â thwyll yn erbyn unigolion a busnesau. Mae’r Strategaeth hon yn cynnwys ffordd newydd o weithredu drwy’r system gyfan sy’n cydnabod ystwythder troseddwyr a’r angen am ymyriadau pellgyrhaeddol. Yr hyn sy’n allweddol i’r ffordd hon o weithredu yw cydweithio agos rhwng y Llywodraeth, rheoleiddwyr, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, asiantaethau diogelwch gwladol, diwydiant a sefydliadau nid-er-elw. Mae tair rhan i’r ffordd hon o weithredu:

4. TARFU (tudalennau 14-31): Mae’r Strategaeth hon yn amlinellu’r ffordd y byddwn yn tarfu ar yr offer, y dulliau, y systemau a’r gwendidau y bydd troseddwyr yn manteisio arnynt, gan ei gwneud yn anos iddynt gyflawni pob math o dwyll. Drwy fuddsoddi mewn ymyriadau cynharach, byddwn yn cynyddu’r tebygolrwydd o atal y twyll cyn iddo ddigwydd. Ymhlith yr ymyriadau mae:

  • Lansio’r Ganolfan Troseddau Ar-lein gyhoeddus-breifat er mwyn rhannu data a chydweithio ar ymyriadau sy’n dileu twyll ar-lein ar raddfa (o Ch2 2026 ymlaen);
  • Noddi’r Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arwain yr ymateb rhyngwladol i dwyll (Ch1 2026);

  • Cydweithio â’r sectorau telathrebu, ar-lein a gwasanaethau ariannol i gyflawni ymyriadau sy’n mynd i’r afael â’r gwendidau sy’n eu gwneud yn agored i gamfanteisio troseddol (o Ch1 2026 ymlaen).

5. DIOGELU (tudalennau 32-41): Bydd troseddwyr yn manteisio fwyfwy ar wendidau sy’n gwneud unigolion, cymdeithas a busnesau’n agored i niwed, a bydd llawer o’r gwendidau hynny’n newid dros amser. Byddwn yn meithrin gwydnwch fel bod modd canfod ac atal twyll cyn i niwed ddigwydd. Ymhlith yr ymyriadau mae:

  • Ehangu ymgyrch Stop! Think Fraud i gynnwys amrywiaeth ehangach o fathau o dwyll, er mwyn gwella gallu unigolion a busnesau i wrthsefyll twyll (o Ch1 2026 ymlaen);
  • Gwella ein hymateb gorfodi’r gyfraith PROTECT drwy gynyddu plismona rhagweithiol a arweinir gan ddata a rhoi cymorth wedi’i dargedu i unigolion sy’n wynebu risg (o Ch1 2026 ymlaen);
  • Cefnogi canolfannau seiberwydnwch arbenigol, er mwyn rhoi cyngor i fusnesau ar sut i wella eu gallu i wrthsefyll twyll (o Ch1 2026 ymlaen).

6. YMATEB (tudalennau 42-53): Wrth i dwyll ddigwydd ar raddfa fwy a mynd yn fwy cymhleth, mae ymateb cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr yn hanfodol. Daw’r conglfaen hwn ag adroddiadau, cymorth i ddioddefwyr, ad-daliadau, a chyfiawnder troseddol a sifil ynghyd. Ymhlith yr ymyriadau mae:

  • Gweithredu Report Fraud, sef y gwasanaeth newydd ac wedi’i symleiddio ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, er mwyn cynnig dull rhoi gwybod cadarn a gwell i ddioddefwyr twyll (o Ch1 2026 ymlaen);
  • Cyflwyno Siarter Dioddefwyr Twyll a fydd yn nodi safon ofal ofynnol ar gyfer yr holl ddarparwyr cymorth, er mwyn sicrhau cymorth cyson i ddioddefwyr (Ch2 2027);
  • Atgyfnerthu cyfiawnder troseddol a sifil, drwy wella proses y llys ac archwilio cosbau cyfraith sifil ychwanegol, er mwyn sicrhau y bydd troseddwyr yn wynebu cyfiawnder (erbyn Ch1 2029).

Ffigur 1

Ffigur 1: Diagram cryno o’r Strategaeth Dwyll

7. Mae’r Strategaeth hon hefyd yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn mesur ac yn goruchwylio’r ffordd y caiff ei chyflawni, gyda chymorth fframwaith llywodraethu wedi’i atgyfnerthu sy’n seiliedig ar arweinyddiaeth ac atebolrwydd ym mhob rhan o’r system gwrth-dwyll. Bydd y Strategaeth Dwyll yn helpu i gyflawni’r ymrwymiad yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio’r Heddlu ynghylch atal troseddau mewn ffordd fwy craff a chadw’r cyhoedd yn ddiogel drwy ei ddull partneriaeth o atal twyll. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer Diwygio’r Heddlu, lle y bydd cyfrifoldeb cyffredinol am Dwyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.[footnote 5] Bydd y Strategaeth hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus sy’n arwain ymateb y Llywodraeth i dwyll yn erbyn y sector cyhoeddus.

3. Bygythiad Twyll

Mae Strategaeth Diogelwch Gwladol 2025 yn nodi mai twyll yw’r bygythiad mwyaf cyffredin a’i fod yn un o’r bygythiadau mwyaf dinistriol sy’n wynebu unigolion a busnesau yn y DU. Mae twyll, fel bygythiad hybrid a gaiff ei hwyluso gan dechnoleg, yn herio diogelwch gwladol, yn rhwystro twf, ac yn effeithio ar gymdeithas ymhell y tu hwnt i’w ddioddefwyr uniongyrchol.[footnote 6] Hefyd, mae twyll yn rhan o rwydwaith ehangach o droseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n cynnwys seiberdroseddu a gwyngalchu arian.

3.1. Graddfa twyll

Mae sawl math o dwyll i’w cael, o’r rhai sy’n targedu cyfrifon banc, cardiau, a dulliau talu newydd, i’r rhai sy’n gweithredu ar lwyfannau siopa ar-lein, ac eraill sy’n dynwared sefydliadau, brandiau ac unigolion y gellir ymddiried ynddynt, a hynny wyneb yn wyneb ac ar-lein.

8. Mae unigolion yn wynebu risg uchel iawn, ac amcangyfrifir bod 4 miliwn o droseddau wedi cael eu cyflawni yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, sef 45% o’r holl droseddau yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Roedd tua 1 o bob 14 o oedolion yn ddioddefwyr twyll yn ystod y cyfnod hwn.[footnote 7] Mae cost economaidd a chymdeithasol twyll yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol, gan gyrraedd o leiaf £14.4 biliwn yn 2023–2024.[footnote 8]

9. Gwelir patrwm tebyg yn yr Alban, lle mae 456,000 o droseddau, neu 38% o’r holl droseddau a amcangyfrifwyd yn Arolwg Troseddu a Chyfiawnder yr Alban 2023/24, sy’n golygu mai twyll yw’r is-fath mwyaf cyffredin o drosedd.[footnote 9] Nid yw’r arolwg cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn rhoi dadansoddiadau penodol ar gyfer twyll.

10. Mae busnesau ac elusennau hefyd yn wynebu risg sylweddol. Yn Arolwg Troseddau Economaidd 2024, gwelwyd bod un o bob pedwar busnes yn y DU sydd â mwy nag un cyflogai wedi cael profiad o dwyll yn ystod y 12 mis blaenorol, sy’n gyfwerth â thua 389,000 o fusnesau a 6.04 miliwn o achosion o dwyll, yn ôl amcangyfrifon.[footnote 10]

11. Er gwaethaf gostyngiad bach iawn mewn twyll rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2023, credir bod twyll wedi cynyddu yn ystod pandemig COVID-19 a’i fod yn tyfu fel cyfran o’r troseddau yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2016, roedd twyll yn cyfrif am 31% o’r troseddau yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, ac yn y data diweddaraf mae’n cyfrif am 45%. Bu cynnydd o 36% mewn twyll cyfrifon banc a chredyd rhwng y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 a mis Medi 2025.[footnote 11]

Fraud incidents, year ending September

Ffigur 2: Achosion blynyddol o dwyll yn erbyn unigolion o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2016 i’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025 Ffynhonnell: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025.[footnote 12]

3.2. Effaith twyll

12. Mae twyll yn peri risgiau sylweddol i unigolion ac i fusnesau. Bydd dioddefwyr yn dioddef colled ariannol a gofid emosiynol, gan wynebu canlyniadau hirdymor yn aml. Bydd busnesau’n colli refeniw, yn dioddef niwed i’w henw da ac yn wynebu costau gweithredol uwch. Yn y tymor hwy, bydd twyll yn erydu ymddiriedaeth, gan ddifrodi ein sefydlogrwydd ariannol a’n twf economaidd cenedlaethol.

13. Bydd twyll yn effeithio ar bobl o bob oed a chefndir. Y gyfran fwyaf o ddioddefwyr twyll yw pobl 45-54 oed a 55-64 oed, ond mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos bod y risg i bobl ifanc yn tyfu’n anghymesur o gymharu â grwpiau oedran hŷn. [footnote 13], [footnote 14]

14. Bydd colledion ariannol yn effeithio ar allu unigolyn i wario a chynilo, gan leihau buddsoddi a chynhyrchiant economaidd. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, roedd 74% o achosion o dwyll yn cynnwys rhywfaint o golled ariannol ac, mewn 3% o’r achosion hynny, collwyd £10,000 neu fwy.[footnote 15] Mae hyn yn gyfwerth â thua 75,000 o achosion â cholledion o £10,000 neu fwy.

15. Fodd bynnag, mae effaith twyll yn ymestyn y tu hwnt i golled ariannol, gan gynnwys niwed seicolegol nad yw bob amser yn cydberthyn i swm yr arian a gollwyd.[footnote 16] Yn ôl arolwg diweddar o ddioddefwyr twyll, profodd 92% symptomau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, profodd 57% symptom iechyd corfforol, a phrofodd 63% newid i ymddygiad.[footnote 17]

16. Bydd busnesau’n colli arian yn uniongyrchol, yn dioddef yn sgil llai o alw gan ddefnyddwyr, ac yn wynebu costau amddiffynnol uwch, gan gyfyngu ar eu gallu i fuddsoddi a thyfu. Yn Arolwg Troseddau Economaidd 2024, rhoddodd 10% o fusnesau sydd â mwy nag un cyflogai ac a brofodd achos o dwyll wybod eu bod wedi colli gwerthiannau neu refeniw, a rhoddodd 2% wybod eu bod wedi colli cyflenwr o ganlyniad i’r twyll.[footnote 18] Yn yr un modd, gall elusennau sydd wedi cael eu twyllo golli ymddiriedaeth y cyhoedd a dioddef lleihad mewn rhoddion.

17. Gall pobl a busnesau sy’n profi twyll hefyd fynd yn fwy gwyliadwrus, gan leihau eu gwariant a chynyddu eu cynilion neu ailgyfeirio refeniw er mwyn eu diogelu eu hunain. Ymhlith busnesau sydd â mwy nag un cyflogai a oedd wedi profi twyll, teimlai 8% fod ganddynt lai o awydd i gynnal y gweithgareddau busnes roeddent wedi bwriadu eu cynnal yn y dyfodol.[footnote 19] Bydd lleihad mewn galw a hyder, a chostau amddiffynnol sylweddol, yn arwain at golli cyfleoedd ar gyfer refeniw ac ailfuddsoddi.[footnote 20], [footnote 21] Yn gynyddol, bydd hyn yn arafu twf economaidd ehangach yn enwedig mewn sectorau sy’n ddibynnol ar wariant yn ôl disgresiwn.

18. Er bod methodolegau troseddol yn datblygu ac yn addasu drwy’r amser, cyhoeddodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol mai twyll cludwyr, twyll buddsoddi, twyll dargyfeirio taliad a thwyll rhamant oedd y mathau o dwyll sy’n achosi’r mwyaf o niwed yn y DU o hyd yn 2025.[footnote 22] Er eu bod yn cyfrif am gyfran gymharol lai o’r holl dwyll sy’n targedu dioddefwyr yn y DU, mae’r effeithiau ariannol, emosiynol a seicolegol ar ddioddefwyr, a’r effeithiau ar yr economi ehangach, yn fawr yn y mathau hyn o dwyll.[footnote 23]

3.3. Ffactorau sy’n ysgogi bygythiad twyll

Mae arloesi technolegol, globaleiddio troseddau cyfundrefnol a datblygiadau mewn tactegau troseddol yn parhau i ysgogi’r twf mewn twyll yn y DU. Gyda chymorth digideiddio, mae camddefnyddio technoleg wedi galluogi troseddwyr i ddatblygu a chynyddu graddfa, cwmpas a chyflymder eu gweithgareddau anghyfreithlon.[footnote 24] Yn benodol, mae twyll seiber a thwyll a gaiff ei hwyluso ar-lein yn droseddau cyfundrefnol trawswladol sy’n tyfu.

19. Caiff grwpiau troseddau cyfundrefnol ac unigolion eu denu at dwyll, gan eu bod yn ei weld fel gweithgarwch risg isel, gwobr uchel. Bydd eu bwriad a’u galluogrwydd yn uchel o hyd, a byddant yn chwilio am ffyrdd o dyfu eu modelau busnes troseddol a’u helw drwy’r amser.[footnote 25]

20. Mae’r grwpiau hyn yn gweithredu o fewn ecosystem droseddol ehangach, gan fanteisio ar sefydliadau sy’n cynnig sgiliau arbenigol megis marchnata anghyfreithlon a gwyngalchu arian. Byddant yn aml yn ailfuddsoddi’r elw a wnânt drwy dwyll er mwyn gwneud eu gweithrediadau’n fwy soffistigedig, ac weithiau’n ariannu mentrau troseddol eraill, gweithgarwch terfysgwyr, neu weithgarwch gwladwriaethau gelyniaethus.[footnote 26]

21. Bydd y mathau o dwyll y bydd y troseddwyr hyn yn eu cyflawni yn ffynnu ar gysylltedd a thechnoleg. Mae dibyniaeth y DU ar lwyfannau ar-lein ar gyfer bancio, siopa a chyfathrebu wedi creu amgylchedd lle y gall troseddwyr daro heb gwrdd â’u dioddefwyr o gwbl. O ganlyniad i hynny, bydd y rhan fwyaf o achosion o dwyll bellach yn cynnwys trafodiadau a gyflawnir gan drydydd partïon, a hynny’n aml heb yn wybod i’r dioddefwr.[footnote 27]

22. Yn yr un modd, mae twyll a seiberdroseddu yn rhyng-gysylltiedig tu hwnt, sy’n chwyddo’r risgiau y tynnir sylw atynt uchod i unigolion, busnesau a’r economi ehangach. Caiff bron hanner yr holl achosion o dwyll a amcangyfrifir eu hwyluso ar-lein.[footnote 28] Bydd troseddwyr yn manteisio ar achosion o dor diogelwch data er mwyn llunio negeseuon e-bost twyllodrus argyhoeddiadol, gan ei gwneud yn anos canfod ac atal twyll.[footnote 29] Yn Arolwg Tor Seiberddiogelwch 2025, amcangyfrifwyd bod 72,000 o achosion a hwyluswyd gan ddulliau seiber wedi cael eu cyflawni yn erbyn busnesau yn y DU yn ystod y 12 mis cyn yr arolwg, a bod y costau’n amrywio o lai na £100 i fwy na £100,000.[footnote 30] Mae’r ffigurau hyn yn dangos posibilrwydd o ddifrod ariannol trychinebus. Bu sawl achos o dor diogelwch data sylweddol yn y DU yn 2025, ac mae’n debygol iawn y byddant yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer twyll. [footnote 31]

23. Mae gwe-rwydo wrth wraidd y bygythiad hwn, ac mae’n debygol mai dyma’r dull ymosod seiber mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan grwpiau troseddau cyfundrefnol i dargedu unigolion a busnesau.[footnote 32] Bydd troseddwyr yn defnyddio pecynnau gwe-rwydo a modelau iaith mawr i lunio negeseuon argyhoeddiadol a chynyddu nifer yr ymosodiadau, gan wreiddio codau QR twyllodrus mewn mannau cyhoeddus, ac anfon negeseuon e-bost gwe-rwydo er mwyn cywain data personol ac ariannol.[footnote 33]

24. Anaml y bydd mesurau amddiffynnol yn atal troseddwyr yn hir. Bydd pob mesur rheoli newydd yn tanio arloesedd, a bydd grwpiau troseddau cyfundrefnol yn parhau i chwilio am ffyrdd o danseilio gwrthfesurau yn y dyfodol. Pan ddaeth proses ddilysu dau ffactor yn rhywbeth a ddefnyddir yn gyffredin, ymatebodd troseddwyr drwy ddefnyddio technegau teilwra cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar ddioddefwyr i ddatgelu codau mynediad untro a thechnegau cyfnewid SIM i herwgipio ffonau symudol. Arweiniodd dyfodiad hidlyddion sbam at newid arall wrth i droseddwyr ailstrwythuro negeseuon SMS a mabwysiadu fformatau testun amgen er mwyn osgoi waliau tân.[footnote 34]

25. Mae technoleg sydd wedi’i hymgorffori mewn bywyd beunyddiol yn cynnig mwy fyth o gyfleoedd i dargedu ar raddfa fwy nag erioed o’r blaen. Erbyn hyn, mae’r cyfryngau cymdeithasol, telathrebu, taliadau digidol a chryptoarian yn rhan o weithgarwch arferol. Mae twyll taliad gwthio awdurdodedig (APP), lle y caiff dioddefwyr eu twyllo i drosglwyddo arian o’u gwirfodd, yn dangos y duedd hon, gan fod 53% o’r achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn 2023 yn ymwneud â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, negeseua a galwadau, 13% yn ymwneud â llwyfannau arwerthu/prynu a rhestru, a 12% yn ymwneud â llwyfannau telathrebu.[footnote 35]

26. Mae troseddwyr yn manteisio ar y llwyfannau a’r rhwydweithiau hyn i gyrraedd eu dioddefwyr yn hawdd gan guddio pwy ydyn nhw. Y tu ôl i’r llenni, mae’r we dywyll a’r we lwyd yn lletya marchnadoedd sy’n gwerthu pecynnau gwe-rwydo ac yn cynnig tanysgrifiadau twyll fel gwasanaeth sy’n targedu gwendidau strwythurol yn y llwyfannau hyn.[footnote 36] Mae’r gwasanaethau hyn yn ei gwneud hi’n haws cael mynediad, yn lleihau costau, ac yn cynnig dulliau soffistigedig a allai ehangu’n gyflym i unrhyw un sy’n fodlon talu.

27. Bydd technolegau newydd yn parhau i lywio bygythiad twyll. Bydd troseddwyr yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol megis ffugiadau dwfn, modelau iaith mawr, a chlonio llais i greu ymosodiadau mwy soffistigedig, credadwy a niferus. Mae’n debygol eu bod yn teilwra’r offer hyn ar gyfer dioddefwyr penodol a mathau penodol o dwyll, gan wneud ymosodiadau’n fwy effeithiol ac yn anos eu canfod.[footnote 37]

28. Nid technoleg yw’r unig faes lle y ceir gwendidau. Bydd troseddwyr hefyd yn manteisio ar wendidau hanesyddol yn system cofrestru corfforaethol y DU i sefydlu cwmnïau ffug, gan wneud i gynlluniau twyllodrus edrych yn ddilys.

29. Yn yr un modd, nid yw twyll yn cadw o fewn ffiniau. Mae elfen ryngwladol i fwy na dwy ran o dair o achosion, sy’n gwneud y broblem yn un fyd-eang sydd â gweithgarwch trawsffiniol sylweddol.[footnote 38], [footnote 39], [footnote 40] Mae cyfoeth y DU a’r defnydd eang a wneir o’r Saesneg ymhlith troseddwyr yn gwneud y DU yn darged deniadol. Fodd bynnag, mae arolygon rhyngwladol yn cadarnhau bod twyll ar gynnydd mewn llawer o wledydd.[footnote 41]

30. Oherwydd natur ar-lein llawer o fathau o dwyll a dulliau gwyngalchu arian, gan gynnwys cryptoarian, byddant yn aml yn rhychwantu mwy nag un awdurdodaeth ac, yn hanesyddol, daw bygythiadau cyson o Orllewin Affrica, Dwyrain Ewrop, India, a Tsieina. Wrth i’r defnydd o’r rhyngrwyd gynyddu yng Ngorllewin a Chanolbarth Affrica a De-ddwyrain Asia, ehangu a wna’r gronfa o droseddwyr a dioddefwyr.[footnote 42] Mae gweithrediadau twyll seiber yn Ne-ddwyrain Asia yn mynd yn gynyddol aml-droseddol, ac wedi’u cyd-blethu â masnachu pobl, gwyngalchu arian, llygredigaeth, a throseddau cyfundrefnol, ac mae’n dal yn hynod hawdd eu haddasu, gan adleoli canolfannau sgamio neu newid awdurdodaethau i osgoi ymdrechion i fynd i’r afael â nhw.[footnote 43] Mae’r model diwydiannol hwn o ganolfannau sgamio yn lledaenu ledled y byd, ac mae gweithrediadau tebyg yn dod i’r amlwg yn Ne America a hyd yn oed Ewrop, er enghraifft ar Ynys Manaw lle y daethpwyd o hyd i ganolfan a oedd yn cynnwys dwsinau o weithwyr.[footnote 44]

31. Mae rhwydweithiau twyll tramor yn hynod drefnus a soffistigedig yn dechnolegol. Bydd troseddwyr yn defnyddio rhwydweithiau preifat rhithwir a phrotocol llais dros y rhyngrwyd (lle y caiff galwadau eu trosglwyddo dros y rhyngrwyd yn lle llinellau ffôn) i guddio lleoliadau a ffugio rhifau yn y DU. Byddant yn defnyddio ffugiadau dwfn deallusrwydd artiffisial i wella eu technegau teilwra cymdeithasol, ac yn hacio cyfrifon e-bost er mwyn dargyfeirio taliadau. Bydd llawer o rwydweithiau twyll rhyngwladol yn gweithredu o ganolfannau galwadau cyfundrefnol neu ganolfannau sgamio diogel, sy’n dangos graddfa ddiwydiannol twyll modern.

4. Conglfaen 1: TARFU

Mae tarfu’n effeithiol yn hanfodol er mwyn trechu twyll. Mae’n gofyn am ddull rhagweithiol, gan weithredu’n gynnar i atal troseddwyr rhag cael mynediad at yr offer, y dulliau a’r systemau y byddant yn eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys cynnal dealltwriaeth fanwl o’r bygythiad ac ymateb i’r ddealltwriaeth honno, cydweithio’n rhyngwladol i dargedu troseddwyr ble bynnag y byddant yn gweithredu, a mynd i’r afael â gwendidau yn seilwaith ac arferion busnes y DU. Mae’r bennod hon yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn atgyfnerthu gallu’r DU i darfu ar droseddwyr a’u gallu i gyflawni twyll.

4.1. Gwella gallu’r DU i darfu

Un o’r heriau mwyaf sylweddol yw datblygiad diddiwedd y dirwedd dwyll. Mae troseddwyr yn parhau i ddatblygu methodolegau a mathau o dwyll sy’n newydd ac yn fwyfwy soffistigedig. Caiff hyn ei ddwysáu gan dirwedd ddata ddarniog. Mae gan bartneriaid ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat eu dealltwriaeth unigryw eu hunain ond, ar hyn o bryd, nid oes darlun cyffredin clir ac amser real o fygythiad twyll, sy’n golygu y bydd gweithgarwch tarfu ar y cyd yn cael ei ohirio neu’n llai effeithiol.

32. Felly, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo £31 miliwn i lansio’r Ganolfan Troseddau Ar-lein, a fydd yn dechrau gweithredu ym mis Ebrill 2026. Dan arweiniad y Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a chan gydweithio’n agos â Heddlu Dinas Llundain, bydd y Ganolfan Troseddau Ar-lein yn uno asiantaethau plismona yn y DU, Cymuned Guddwybodaeth y DU (sy’n cynnwys Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a’r Llu Seiber Cenedlaethol) ochr yn ochr â phartneriaid o’r sector preifat yn y diwydiannau ariannol, telathrebu, technoleg a seiber. [footnote 45]

33. Drwy ddod â data, gwybodaeth ac arbenigedd amrywiol pob partner ynghyd mewn un lle am y tro cyntaf, bwriedir i’r Ganolfan Troseddau Ar-lein gyflymu ymateb y DU i droseddau ar-lein, gan ganolbwyntio ar dwyll a seiberdroseddau niferus i ddechrau. Bydd hyn yn darparu strwythur a thechnoleg er mwyn helpu i rannu data rhwng gwahanol bartneriaid, dadansoddi tueddiadau a chuddwybodaeth, ac yna lywio a chydgysylltu ymyriadau gorfodi’r gyfraith mawr eu heffaith.

34. Bydd y Ganolfan yn cynnwys staff parhaol a phersonél o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a fydd yn gweithio mewn lleoliadau penodol ac yn rhithwir. Lle bo modd, bydd y Ganolfan yn cydleoli â thimau atal twyll economaidd eraill a diwydiant.Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil datblygiad newydd Sgwâr Salisbury. Bydd Sgwâr Salisbury, y disgwylir iddo agor yn 2027, yn cynnwys llysoedd troseddau newydd er mwyn sicrhau canlyniadau cyfiawnder troseddol cyflymach a bod yn gartref i bencadlys nesaf Heddlu Dinas Llundain.

35. Ni fydd cymryd camau gorfodi yn erbyn troseddwyr yn unig yn atal y niwed helaeth a achosir gan dwyll ar-lein a seiberdroseddau niferus. Drwy gydweithio, bydd y Ganolfan yn datblygu darlun cynhwysfawr o’r offer, y methodolegau, y tueddiadau a’r unigolion sy’n cyflawni’r troseddau hyn. Gyda’r ddealltwriaeth hon, bydd y Ganolfan yn rhannu gwybodaeth, yn dod o hyd i atebion gweithredol a thechnegol i liniaru niwed, ac yn cydgysylltu camau ymchwilio a gorfodi’r gyfraith yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar swyddogaethau allweddol:

36. Rhannu Data, Dadansoddi a Thechnoleg

  • Casglu llawer o ddata gan ei phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, eu cyfuno ac yna eu dadansoddi’n gyflym. Bydd hyn yn llywio camau rhagweithiol i fynd i’r afael â bygythiadau twyll ar-lein a seiberdroseddu, ac yn helpu partneriaid yn y sector preifat i wella rheolaethau a gwydnwch mewnol. Bydd yn rhannu gwybodaeth am gamddefnydd troseddol o wefannau, negeseuon e-bost a rhifau ffôn, ynghyd â data ar ymddygiad troseddwyr, er mwyn canfod gweithgareddau anghyfreithlon a tharfu arnynt drwy rwystro galwadau, rhewi cyfrifon, cau gwefannau, a chyfyngu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol;
  • Rhannu gwybodaeth a chuddwybodaeth â’r sectorau digidol a thechnoleg, gan alluogi cwmnïau i ddiogelu eu cwsmeriaid yn well drwy alluoedd ymddiriedaeth a diogelwch eu llwyfannau ar-lein;
  • Gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth Report Fraud newydd a galluogrwydd ‘Share and Defend’ y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i roi system gynhwysfawr ar waith sy’n cyfuno gweithgareddau casglu, dadansoddi a rhannu data wedi’u targedu er mwyn cael cymaint o effaith â phosibl.

37. Lleihau Niwed

  • Defnyddio data i ddylunio atebion technegol sy’n helpu diwydiant i roi rheolaethau a phrosesau ar waith cyn gynted â phosibl, lleihau gwendidau ac atal troseddwyr rhag cael mynediad at ei systemau;
  • Bydd partneriaid gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys Heddlu Dinas Llundain, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a Chymuned Guddwybodaeth y DU, yn defnyddio’r data a’r wybodaeth o’r Ganolfan i danseilio’r dechnoleg hwyluso a’r gwasanaethau a ddefnyddir gan droseddwyr mynych twyll a seiberdroseddau;
  • Gan weithio gyda phartneriaid byd-eang yn y sector preifat a rhwydweithiau plismona rhyngwladol, bydd y Ganolfan yn manteisio ar y partneriaethau hyn i rannu cuddwybodaeth a chydweithio yn erbyn troseddwyr sy’n gweithredu ar draws ffiniau.

38. Diogelu

  • Lleihau niwed, helpu i adfer asedau wedi’u dwyn ac atal erledigaeth fynych. Bydd y ddealltwriaeth a gaiff ei meithrin drwy’r Ganolfan yn hysbysu partneriaid mewn diwydiant am dueddiadau twyll ar-lein, yn arwain camau i atal troseddau, ac yn rhoi cymorth mewn perthynas â diogelu cwsmeriaid.

Astudiaeth Achos: Waledi Digidol

Mae trechu twyll ar-lein a seiberdroseddau niferus yn fater cymhleth. Mae’n gofyn am alluoedd technolegol datblygedig a chydweithio effeithiol rhwng y llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a diwydiant. Er gwaethaf cynnydd mewn cydweithio dros y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg cydgysylltu ac arbenigedd canolog yn aml wedi golygu bod troseddwyr wedi aros ar y blaen i’n hymateb.

Bydd y Ganolfan yn dod â phartneriaid ynghyd i ganfod bygythiadau a darparu’r data a’r amgylchedd i ddatblygu atebion yn gyflym ar y cyd. Er enghraifft, twyll waledi digidol, lle y bydd troseddwyr yn ychwanegu nifer o gardiau at ddyfais ar gyfer trafodiadau twyllodrus. Yma, byddai’r Ganolfan yn gweithredu fel dull rhannu data ac ymgynnull er mwyn dod o hyd i’r gwendidau y bydd troseddwyr yn manteisio arnynt, ac yn dod â phartneriaid a data ynghyd i ddatblygu atebion, eu profi, ac annog eraill i’w mabwysiadu. Ochr yn ochr â hynny, pan fydd y Ganolfan yn darganfod gweithrediadau troseddol penodol, gellir rhoi ymyriadau wedi’u targedu ar waith, er enghraifft rhai yn erbyn gwefannau twyllodrus a ddefnyddir i hysbysebu manylion cardiau wedi’u dwyn, er mwyn tarfu ar grwpiau troseddol ymhellach.

39. Mae sicrhau fframwaith cyfreithiol cadarn ar gyfer rhannu data yn hollbwysig i lwyddiant y Ganolfan a’r cydweithio ehangach yn erbyn twyll. Mae Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 yn sefydlu atal troseddu a thwyll fel sail gyfreithlon dros rannu data, wedi’i hategu gan ganllawiau sydd i ddod gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ond erys ansicrwydd cyfreithiol.[footnote 46] Er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau, gan gynnwys heriau sy’n gysylltiedig â rhannu data ar draws ffiniau ac yn y sector preifat, ochr yn ochr â chyhoeddi’r Strategaeth hon, mae’r Swyddfa Gartref yn lansio galwad am dystiolaeth ynghylch rhannu gwybodaeth am droseddau economaidd.

Astudiaeth Achos: Chwalu Marchnad Genesis

Genesis oedd un o’r marchnadoedd mwyaf yn y byd ar gyfer manylion wedi’u dwyn, gan letya dros 80 miliwn o fanylion ac olion bysedd digidol wedi’u dwyn gan fwy na dwy filiwn o ddioddefwyr. Byddai troseddwyr yn defnyddio’r data hyn i gyflawni twyll, gan gynnwys cael mynediad at gyfrifon bancio ar-lein a gwneud pryniannau heb awdurdod.

Bu Uned Seiberdroseddau Genedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol a phartneriaid ym maes plismona, yn rhannu cuddwybodaeth ledled y wlad. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys 17 o asiantaethau gorfodi’r gyfraith, ac arweiniodd at 120 o arestiadau ledled y byd, gan gynnwys 24 yn y DU. Llwyddodd yr ymgyrch hon i chwalu seilwaith technegol mawr a oedd yn galluogi twyll, gan darfu ar weithgarwch troseddol yn sylweddol.

40. Ar ben hynny, er mwyn gwella ymdrechion tarfu ehangach, bydd y Swyddfa Gartref yn cefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith wrth iddynt ddefnyddio technolegau newydd gan gynnwys treialu offer deallusrwydd artiffisial i ganfod a chau gwefannau twyllodrus. Er enghraifft, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dinas Llundain a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol eleni i dreialu’r broses o ddatblygu offeryn deallusrwydd artiffisial sy’n helpu i ymchwilio i dwyll ar-lein a’i atal.[footnote 47] Bydd yn gwirio dangosyddion twyll allweddol yn awtomataidd er mwyn helpu ymchwilwyr i wybod a yw gwefan yn niweidiol a mynnu ei bod yn cael ei chau. Caiff deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio yn barod gan ddiwydiant i rwystro negeseuon SMS-rwydo, atal trafodiadau twyllodrus, a hyd yn oed ddefnyddio sgwrsfotiau i abwydo sgamwyr. Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda diwydiant a rheoleiddwyr i hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o’r technolegau hyn er mwyn tarfu ar dwyll ar raddfa.

4.2. Trechu twyll yn llygad y ffynnon

Mae’r ffaith bod bygythiad twyll yn globaleiddio yn peri her fawr i’r gallu i darfu arno. Mae rhwydweithiau troseddol a chanolfannau sgamio yn gweithredu ym mhob cwr o’r byd, a hynny’n aml gan dargedu unigolion a busnesau yn y DU o awdurdodaethau y tu hwnt i reoleiddwyr ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith DU. Er mwyn atal y troseddwyr cyfundrefnol trawswladol hyn rhag targedu’r DU, bydd angen cydweithio’n rhyngwladol â gwledydd sy’n profi lefel uchel o dwyll, a’r rhai lle mae’r gangiau hyn yn gweithredu.

42. Er mwyn datrys problem mor soffistigedig â hyn, mae angen arweinyddiaeth fyd-eang, ac mae’r DU yn ailddatgan ei hymrwymiad i gynnig yr arweinyddiaeth hon. Gan adeiladu ar yr Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang gyntaf a gynhaliwyd yn 2024, bydd y Llywodraeth yn noddi’r Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang nesaf yn Fienna ym mis Mawrth 2026 gydag UNODC ac INTERPOL. Bydd y digwyddiad yn gofyn i’r aelod-wladwriaethau a diwydiant ymrwymo i weithredu er mwyn codi statws twyll fel blaenoriaeth wleidyddol a blaenoriaeth i fusnesau, atgyfnerthu camau gorfodi trawsffiniol, a datblygu dulliau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

43. Bydd yr Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang hefyd yn adeiladu ar rôl allweddol y DU o ran sicrhau penderfyniad cyntaf y Cenhedloedd Unedig ar dwyll o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Troseddau Cyfundrefnol Trawswladol ym mis Hydref 2024.[footnote 48] Sefydlodd y penderfyniad hwn safonau byd-eang a thynnu sylw at yr angen am weithredu rhyngwladol cadarn. Y tu hwnt i ymgynnull, mae’r DU yn ymrwymedig i godi safonau byd-eang ac mae wedi ariannu gwaith ymchwil a datblygu sgiliau yn fyd-eang, gan gynnwys asesiad cyntaf INTERPOL o fygythiad twyll ariannol byd-eang, a phecyn cymorth twyll y Cenhedloedd Unedig.

Astudiaeth Achos: Tarfu yn Nigeria

Ym mis Ionawr 2026, helpodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol heddlu Nigeria i gau canolfan sgamio. Gan ddefnyddio cuddwybodaeth gan Meta, daethpwyd o hyd i gyfeiriad ac, o fewn diwrnodau, cynhaliwyd cyrch lle yr arestiwyd sawl unigolyn. Canfu ymchwiliadau’r heddlu fod y ganolfan hon wedi bod yn cynnal amrywiaeth o weithrediadau gan gynnwys twyll buddsoddi, twyll rhamant a chamelwa rhywiol am fantais ariannol a oedd yn targedu’r DU ac UDA.

44. Mae partneriaethau dwyochrog hefyd yn allweddol er mwyn trechu twyll yn llygad y ffynnon. Drwy gytundebau memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Nigeria ym mis Ebrill 2025 a Fietnam ym mis Hydref 2025, mae’r DU wedi nodi cynlluniau gweithredu ar y cyd ar gyfer rhannu cuddwybodaeth, meithrin gallu, a tharfu ar rwydweithiau trawsffiniol. Bydd y Llywodraeth yn mynd ar drywydd rhagor o femoranda cyd-ddealltwriaeth a phartneriaethau dwyochrog â llywodraethau mewn gwledydd blaenoriaeth uchel, gan roi cymorth technegol, hyfforddiant, a chymorth er mwyn atgyfnerthu gweithgarwch gorfodi’r gyfraith lleol a fframweithiau rheoleiddio.

Astudiaeth Achos: Tarfu yn India

Ym mis Gorffennaf 2025, cynhaliodd Biwro Cuddwybodaeth Canolog India (CBI) gyrch ar ganolfan alwadau dwyllodrus yn Uttar Pradesh, gan arwain at arestio sawl unigolyn. Ym mis Gorffennaf 2025, cynhaliodd Biwro Cuddwybodaeth Canolog India (CBI) gyrch ar ganolfan alwadau dwyllodrus yn Uttar Pradesh, gan arwain at arestio sawl unigolyn. Roedd hyn yn dilyn cydweithio a rhannu cuddwybodaeth arloesol rhwng y CBI, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr FBI a Microsoft, a fu’n cydweithio â’i gilydd i ddarganfod y grŵp troseddau cyfundrefnol, datblygu achos a thargedu’r seilwaith TG cymhleth roedd y troseddwyr yn ei ddefnyddio. Roedd y grŵp wedi cysylltu â mwy na 100 o ddioddefwyr yn y DU, gan arwain at golledion gwerth mwy na £390,000.

45. Bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i ddefnyddio sancsiynau i darfu ar ddrwgweithredwyr sy’n gweithredu dramor, eu hatal a’u dwyn i gyfrif, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio llafur dan orfod i gyflawni twyll ar-lein. Bydd y mesurau hyn yn ategu ymdrechion byd-eang i fynd ar ôl troseddwyr a’u hatal rhag camfanteisio ar ddinasyddion y DU.

Astudiaeth Achos: Sancsiynau Prince Group

Ym mis Hydref 2025, gosododd y DU, mewn cydweithrediad â’r Unol Daleithiau, sancsiynau ar rwydwaith Prince Group am ymwneud â chanolfannau sgamio yn Cambodia. Ledled De-ddwyrain Asia, mae’r cyfleusterau hyn yn defnyddio llafur dan orfod, a hynny’n aml gan fygwth arteithio pobl, i gyflawni twyll ar-lein gan gynnwys yn erbyn pobl yn y DU. Ochr yn ochr â hynny, datseliodd Adran Gyfiawnder UDA gyhuddeb droseddol yn erbyn pennaeth Prince Group.

Drwy rewi asedau a gwahardd teithio, a orfodwyd o dan gyfundrefn sancsiynau Hawliau Dynol Byd-eang y DU, mae’r rhwydwaith wedi cael ei gloi allan o system ariannol y DU, mae eiddo yn Llundain sy’n werth mwy na £125 miliwn wedi cael eu rhewi, ac mae gwladolion Prydeinig wedi cael eu diogelu. Yn Ne-ddwyrain Asia, mae camau gweithredu gan y DU ac UDA wedi ysgogi ton o ymchwiliadau, gan orfodi busnesau anghyfreithlon i gau a datgelu’r rhai sy’n gyfrifol. Yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cambodia wedi dwysáu ei hymgyrch ei hun; mae miloedd o wladolion tramor wedi cael eu rhyddhau o ganolfannau sgamio.

4.3. Atal camddefnydd o seilwaith telathrebu’r DU

Er bod seilwaith telathrebu wedi trawsnewid cysylltedd ac ysgogi twf, mae bylchau a gwendidau wedi galluogi troseddwyr i anfon negeseuon testun a galwadau twyllodrus at ddioddefwyr ar raddfa. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r mathau o dwyll sy’n achosi’r niwed mwyaf, sy’n arwain at gyfleoedd proffidiol i droseddwyr. Er mwyn tarfu ar dwyll, rhaid atal troseddwyr rhag cael mynediad at y rhwydwaith telathrebu. I gyflawni hyn, bydd angen cydweithio agos rhwng y Llywodraeth, rheoleiddwyr, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a’r diwydiant telathrebu.

46. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan y sector telathrebu, gan gynnwys ymrwymiadau o dan y Siarter Twyll Telathrebu gyntaf ac atebion waliau tân sydd wedi rhwystro mwy na biliwn o negeseuon testun twyllodrus ers 2022, yn ogystal â chydweithredu ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith i chwalu gweithrediadau twyll mawr megis iSpoof.[footnote 49], [footnote 50] Ym mis Tachwedd 2025, llofnododd cwmnïau blaenllaw yr ail Siarter Twyll Telathrebu, gan ehangu ymrwymiadau i rannu cuddwybodaeth, cynlluniau olrhain, uwchraddio rhwydweithiau, offer deallusrwydd artiffisial, a gwell cymorth i ddioddefwyr.[footnote 51] Bydd y Swyddfa Gartref yn monitro’r ffordd y caiff hyn ei gyflawni ac yn cyflwyno adroddiad i Senedd y DU bob chwe mis tan ddiwedd 2027, ac yn cymryd camau pellach ar y cyd ag Ofcom os bydd cynnydd yn annigonol.

47. Caiff cydweithio effeithiol ei ategu gan reoliadau cadarn a gaiff eu gorfodi gan Ofcom. Mae gan Ofcom bwerau o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 i sicrhau y caiff gwasanaethau telathrebu fel gwasanaethau negeseua symudol eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon ac na chânt eu camddefnyddio, er enghraifft i hwyluso twyll. Ym mis Hydref 2025, atgyfnerthodd Ofcom yr ymdrechion hyn ymhellach drwy lansio ymgynghoriad ar reolau newydd er mwyn helpu darparwyr rhwydweithiau symudol a chydgasglwyr negeseuon busnes i atal troseddwyr rhag anfon negeseuon symudol twyllodrus.

48. Er gwaethaf y mesurau hyn, ceir gwendidau o hyd, gan gynnwys mynediad cymharol hawdd at rifau ffôn yn y DU heb fawr ddim gwirio manylion adnabod. Mae prosesau dilysu gwan a safonau cydymffurfio anghyson yn galluogi drwgweithredwyr i’w cyflwyno eu hunain fel pe baent yn ddilys wrth weithredu’n anhysbys. Er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau hyn, bydd y Swyddfa Gartref, drwy gydweithio ag Ofcom, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, asiantaethau cuddwybodaeth, a diwydiant yn lansio Galwad am Dystiolaeth yn 2026 ynghylch mesurau cymesur i leihau anhysbysrwydd ac atgyfnerthu atebolrwydd yn sector cyfathrebu’r DU.

49. Nod yr Alwad am Dystiolaeth yw asesu graddfa’r her a chasglu safbwyntiau ar amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys yr opsiynau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: cyfundrefnau cofrestru neu drwyddedu ar gyfer endidau sy’n cynnig mynediad at rwydweithiau yn y DU a fydd yn ei gwneud yn ofynnol glynu wrth Amodau Cyffredinol Ofcom a chorffori yn y DU, gwell gofynion Adnabod Eich Cwsmer, cyfyngiadau ar fynediad anhysbys, a gwell prosesau monitro gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Yn amodol ar y dystiolaeth a gyflwynir, bydd y Llywodraeth a/neu Ofcom yn cynnal ymgynghoriad llawn yn nes ymlaen yn 2026 i adeiladu ar y dull rheoleiddio presennol mewn modd haenog a chymesur.

50. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn datblygu opsiynau i greu offeryn digidol diogel ar gyfer rheoli rhifau ffôn yn y DU yn 2026. Y nod yw creu’r gronfa ganolog gyntaf erioed a fydd yn darparu gwybodaeth amser real am statws a pherchnogaeth rhifau. Byddai hyn yn rhoi’r pŵer i gwmnïau telathrebu olrhain tarddiad gweithgarwch amheus a rhwystro galwadau twyllodrus yn fwy effeithiol cyn iddynt gyrraedd y cyhoedd.

51. Gan adeiladu ar yr ymyriadau hyn, bydd tryloywder ynghylch pa mor gyffredin yw twyll ac ymateb y sectorau iddo yn hollbwysig er mwyn ysgogi atebolrwydd. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r sectorau telathrebu, yn ogystal â rheoleiddwyr perthnasol, i ddatblygu setiau data a metrigau, a’u defnyddio’n well, er mwyn tracio perfformiad sectorau o ran trechu twyll. Bydd y setiau data a’r metrigau hyn hefyd yn llywio unrhyw ymyriadau pellach y bydd angen i’r Llywodraeth eu rhoi ar waith. Caiff dull tebyg ei fabwysiadu ar gyfer y sectorau technoleg a gwasanaethau ariannol.

4.4. Atal y camddefnydd o seilwaith ar-lein y DU

Er bod llwyfannau ar-lein wedi ysgogi ein harloesedd a’n heconomi ddigidol, mae gwendidau wedi galluogi troseddwyr i dargedu dioddefwyr ar raddfa frawychus. Bydd rhai o’r mathau mwyaf niferus a niweidiol o dwyll yn digwydd drwy gynnwys twyllodrus, megis rhestriadau mewn marchnadoedd, a thrwy hysbysebion twyllodrus. Er mwyn mynd i’r afael â thwyll yn effeithiol, rhaid atal troseddwyr rhag cael mynediad at y systemau digidol hyn. Mae cyfrifoldeb ar lwyfannau a chwmnïau digidol, gan gydweithio’n agos â’r Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a rheoleiddwyr, i sicrhau na ellir camddefnyddio eu llwyfannau.

52. Mae’r Llywodraeth yn croesawu cynnydd gan y sector technoleg gan gynnwys drwy’r Siarter Twyll Ar-lein, a lofnodwyd yn 2023 ac a ddaeth â llwyfannau mawr ynghyd i atgyfnerthu prosesau yn erbyn cynnwys a hysbysebion twyllodrus a chydweithio’n well ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith.[footnote 52] Ers hynny, mae rhannu data a chydweithio rhwng llwyfannau a sectorau eraill wedi cynyddu, ond mae cynnydd ehangach yn dal yn anwastad ac mae gwendidau sylweddol yn parhau ar rai gwasanaethau a llwyfannau.

53. Mae camddefnydd troseddol o’r diwydiant hysbysebu ar-lein yn peri her fawr i economi ddigidol y DU. Mae marchnad hysbysebu iach yn sbarduno twf i’r DU, ond mae’n mynd yn fwyfwy llygredig gan dwyll a chamwybodaeth, gan danseilio ymddiriedaeth a niweidio cwsmeriaid a busnesau dilys. Gall troseddwyr herwgipio’r ecosystem hysbysebu ar-lein er mwyn mynd ati’n anhysbys i hyrwyddo twyll, dosbarthu maleiswedd a lansio ymosodiadau gwe-rwydo gan osgoi cael eu darganfod. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technolegau soffistigedig i osgoi mesurau diogelwch hysbysebu, megis mantellu, lle y bydd seiberdroseddwyr yn cuddio natur niweidiol neu gyrchfan go iawn hysbyseb/dolen we rhag amgylcheddau sganio ac offer diogelwch. Bydd y dulliau hyn yn hwyluso rhai o’r mathau mwyaf niweidiol o dwyll, gan gynnwys twyll buddsoddi, sy’n gallu arwain at golledion sylweddol i ddioddefwyr a sefydliadau ad-dalu.

54.  Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cyflwynodd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddyletswyddau hysbysebu ar-lein, sy’n gwneud gwasanaethau a ddynodir gan Ofcom yn wasanaethau Categori 1 neu Gategori 2A yn gyfrifol am ddefnyddio systemau a phrosesau cymesur i atal unigolion rhag dod i gysylltiad â hysbysebion twyllodrus y telir amdanynt.[footnote 53] Mae Ofcom yn bwriadu ymgynghori ar fanylion y mesurau hyn tua haf 2026, ac rydym yn disgwyl i’r dyletswyddau hysbysebu twyllodrus ddod i rym yn 2027. Mae gan Ofcom y pŵer i roi dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf) os bydd yn darganfod achosion o beidio â chydymffurfio â dyletswyddau’r Ddeddf. Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, bydd Ofcom yn gallu ceisio gorchymyn llys i roi mesurau ar waith i darfu ar fusnes, a all ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (megis darparwyr gwasanaethau taliadau neu hysbysebu, neu ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd) i ddiddymu mynediad at eu gwasanaethau neu rwystro’r gwasanaeth sy’n peidio â chydymffurfio rhag cael gafael arnynt.

55. Fodd bynnag, ceir gwendidau yn y system hysbysebu raglennol ehangach o hyd, ac maent y tu allan i gwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i raddau helaeth. Mae natur ddatganoledig y system raglennol, gydag arwerthiannau amser real a gwiriadau dilysu neu fesurau tryloywder cyfyngedig ar gyfer hysbysebion ar-lein, yn galluogi troseddwyr soffistigedig i wthio i mewn i sianeli dilys. O ganlyniad i hynny, mae’r Swyddfa Gartref a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi lansio partneriaeth newydd yn y diwydiant â Biwro Hysbysebu Rhyngrwyd y DU, o dan y Tasglu Hysbysebu Ar-lein, i wella tryloywder a mynd i’r afael â hysbysebu maleisus, gan adrodd yn ôl i weinidogion ar ddechrau 2027. Fodd bynnag, os bydd partneriaethau yn y diwydiant a chymhellion i’r farchnad ar eu pen eu hunain yn dal yn annigonol i ysgogi gwelliannau, bydd y Llywodraeth yn cymryd camau deddfwriaethol yn ystod y Senedd hon.

56. Y tu hwnt i hysbysebu, mae cyfathrebu ar-lein, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn cyflwyno cyfleoedd i droseddwyr dargedu’r cyhoedd ar raddfa. Ers mis Mawrth 2025, mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein wedi gosod dyletswyddau ar lwyfannau sydd o fewn y cwmpas i atal, lleihau a dileu cynnwys anghyfreithlon a thwyllodrus a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan ei gwneud yn orfodol cynnig llwybrau i hysbyswyr dibynadwy roi gwybod am gynnwys anghyfreithlon yn uniongyrchol hefyd.[footnote 54] Mae Ofcom wedi ymrwymo i fonitro a gwerthuso effaith y Ddeddf yn gadarn, gan ganolbwyntio ar ddau gwestiwn craidd: yn gyntaf, pa newidiadau y mae gwasanaethau yn eu gwneud er mwyn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf; yn ail, a yw’r newidiadau hyn yn trosi’n fywyd mwy diogel ar-lein i ddefnyddwyr yn y DU. Bydd hyn yn galluogi Ofcom i addasu blaenoriaethau strategol a Chodau Ymarfer yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a ble mae angen cymryd camau pellach. Caiff canfyddiadau Ofcom eu rhannu drwy adroddiadau blynyddol, adroddiadau tryloywder, adroddiadau statudol a phapurau ymchwil.

57. Er eu bod o fewn cwmpas dyletswyddau cynnwys y Ddeddf Diogelwch Ar-lein fel yr esbonnir uchod, mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod troseddwyr yn parhau i gamfanteisio ar farchnadoedd ar-lein yn benodol, yn enwedig y rhai hynny sy’n hwyluso trafodiadau rhwng cymheiriaid. Costiodd twyll APP ar lwyfannau arwerthu a rhestru pryniannau £21.3m i’r cyhoedd yn y DU yn 2023, ac amcangyfrifodd y Rheoleiddiwr Systemau Talu fod bron i 1 o bob 10 o oedolion yn y DU wedi dioddef achos o dwyll prynu.[footnote 55], [footnote 56]

58. Yn ogystal â’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 yn atgyfnerthu amddiffyniadau drwy wahardd adolygiadau ffug a gwella pwerau gorfodi’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.[footnote 57] Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn ceisio trechu twyll mewn marchnadoedd digidol. Drwy drosolwg gweinidogol, bydd y Llywodraeth yn parhau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y rheoliadau a’r pwerau gorfodi presennol o ran mynd i’r afael â niwed mewn marchnadoedd digidol, gan gynnwys twyll. Os penderfynir bod angen mesurau pellach er mwyn diogelu defnyddwyr, bydd y Llywodraeth yn gweithredu.

59. Fel y nodir uchod, yn yr un modd â’r sector telathrebu, bydd y Llywodraeth yn datblygu metrigau a setiau data ac yn eu defnyddio’n well er mwyn ysgogi atebolrwydd yn y diwydiant ar-lein. I’r diwydiant ar-lein, mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd i gyhoeddi adroddiadau tryloywder o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.

60. Fel yn achos llwyfannau a gwasanaethau ar-lein, mae datblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae’r Llywodraeth yn gweithio i wella diogelwch modelau deallusrwydd artiffisial a sicrhau y cânt eu mabwysiadu’n ddiogel er mwyn ysgogi twf. Un bygythiad allweddol yw gallu deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i greu ffugiadau dwfn sy’n dynwared unigolion a sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt. I frwydro yn erbyn hyn, mae’r Swyddfa Gartref yn arwain gwaith gyda’r Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Sefydliad Alan Turing ac adrannau eraill y Llywodraeth i ddylunio fframwaith cadarn ar gyfer darganfod cyfryngau sy’n cynnwys ffugiadau dwfn, gan gynnwys dogfennau twyllodrus a sain synthetig, a’i roi ar waith. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, ym mis Ionawr 2026 cynhaliodd y Llywodraeth Her Canfod Ffugiadau Dwfn 2026, gyda chymorth Microsoft, gan ddod ag arbenigwyr technegol ynghyd i deall bygythiadau’r presennol a’r dyfodol yn well. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i helpu i ddiogelu’r cyhoedd rhag cynnwys niweidiol a thwyllodrus drwy werthuso galluoedd canfod er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol yn erbyn technegau sy’n datblygu.

4.5. Atal camddefnydd o lifoedd ariannol y DU

Mae sectorau gwasanaethau ariannol y DU a thechnolegau talu a chryptoasedau sy’n datblygu wedi ysgogi twf a chreu cyfleoedd busnes. Hefyd, yn aml, nhw fydd yr amddiffyniad olaf wrth atal ymdrechion troseddwyr i gyflawni twyll anawdurdodedig ac awdurdodedig. Er bod y sector wedi buddsoddi’n sylweddol mewn atal twyll, ceir gwendidau o hyd. Er mwyn tarfu ar dwyll a’i atal, rhaid i ni fynd i’r afael â bygythiad cyson twyll anawdurdodedig, rhannu arferion gorau, atgyfnerthu amddiffyniadau i gwsmeriaid, a rhwystro’r cyfleoedd troseddol a gynigir gan gryptoasedau.

61. Mae’r sector gwasanaethau ariannol wedi cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â thwyll, gan gynnwys Siarter Twyll Bancio Manwerthu 2021, cyflwyno mesurau Cadarnhau’r Talai, a’r Protocol Bancio.[footnote 58] Ers mis Hydref 2024, mae wedi bod yn orfodol i fanciau ad-dalu colledion pan gaiff dioddefwyr eu twyllo i drosglwyddo arian o’u gwirfodd (twyll APP). Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, cafodd 88% (£173m) o arian a gollwyd i dwyll APP ei ad-dalu i ddioddefwyr.[footnote 59]

62. Er gwaethaf yr amddiffyniadau cadarn hyn, cafodd o leiaf £629.3 miliwn ei ddwyn yn ystod hanner cyntaf 2025 yn unig.[footnote 60] O’r cyfanswm hwn, roedd y mwyafrif yn cynnwys mathau anawdurdodedig o dwyll a oedd yn cyfrif am £371.8 miliwn. [footnote 61]Cododd twyll cyfrifon banc a chredyd 19% i 2.6 miliwn o achosion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025.[footnote 62]

Astudiaeth Achos: Ad-dalu

Cafodd Yara ei thwyllo wrth geisio rhentu eiddo a oedd yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan gredu bod y sawl a oedd yn esgus bod yn landlord yn un dilys, llofnododd gytundeb isosod wedi’i ddrafftio gan gwmni cyfreithwyr go iawn a thalodd £10,000 mewn blaendaliadau a rhent. Roedd y troseddwr wedi aros yn yr eiddo o’r blaen, wedi dwyn dogfennau’r landlord, ac wedi’u defnyddio i dwyllo’r cwmni cyfreithwyr. Ar ôl darganfod hyn, rhoddodd Yara wybod am y sefyllfa i’w banc, a gadarnhaodd y twyll cyn ad-dalu ei cholledion, llai tâl-dros-ben o £100 am wneud hawliad.

63. Mae lefelau twyll anawdurdodedig wedi aros yn gyson uchel ac maent yn parhau i beri her barhaus i ymdrechion atal twyll, ond mae’r ffactorau sylfaenol sy’n eu hysgogi yn aneglur o hyd. I fynd i’r afael â hyn, bydd y Swyddfa Gartref yn lansio Galwad am Dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar dwyll anawdurdodedig yn 2026. Gan asesu graddfa twyll anawdurdodedig, a’r ffactorau sy’n ei ysgogi a’i alluogi, bydd yn datblygu sylfaen dystiolaeth well a chamau nesaf posibl erbyn diwedd 2026.

64. Hefyd, rhoddir mwy o bwyslais ar osod enghreifftiau clir o arferion da a gwael wrth geisio atal twyll awdurdodedig. Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ystyried enghreifftiau o arferion ar gyfer atal twyll APP a gweithgarwch mulod arian, ac yn rhannu ei hargymhellion â’r sector gwasanaethau ariannol.

65. Mae’r Llywodraeth yn ymwybodol o’r gwendidau sy’n dod i’r amlwg ac sy’n destun pryder yn sgil y defnydd troseddol o dechnolegau a thactegau teilwra cymdeithasol i gael mynediad i gyfrifon defnyddwyr a busnesau, gan gynnwys y defnydd o ffugiadau dwfn. Mae dilysu cwsmeriaid a diogelwch cyfrifon yn gam hanfodol er mwyn atal troseddwyr rhag gallu defnyddio’r dulliau hyn, gan gynnwys defnydd effeithiol o brosesau Adnabod Eich Cwsmer a Diwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid.

66. Fodd bynnag, wrth i droseddwyr addasu, mae’n hanfodol gwella protocolau diogelwch yn barhaus. Er mwyn galluogi hyn, bydd Trysorlys EF yn diddymu safonau technegol presennol y Trefniadau Cadarn ar gyfer Dilysu Cwsmeriaid, gan alluogi’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ymgorffori safonau allweddol yn ei reolau a mabwysiadu dull mwy ystwyth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, cyn gynted ag y bydd amser Seneddol yn caniatáu. Bydd hyn yn helpu i fabwysiadu technolegau newydd, gan alluogi cwmnïau i roi dulliau dilysu arloesol ar waith y gellir eu gwella’n barhaus ac sy’n diogelu taliadau a chyfrifon yn well, gan ddefnyddio mesurau cymesur sy’n seiliedig ar risg ar gyfer trafodiadau risg isel.

67. Er mwyn gwella diogelwch cyfrifon defnyddwyr ymhellach, bydd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn parhau i weithio gyda chyrff safonau, darparwyr technoleg, a phartneriaid mewn diwydiant i fabwysiadu codau mynediad yn gyflymach. Mae codau mynediad yn cynnig dewis amgen mwy diogel a hawdd eu defnyddio yn lle cyfrineiriau traddodiadol a phrosesau dilysu aml-ffactor.[footnote 63] Maent yn unigryw i bob cyfrif, ni ellir eu dyfalu, maent yn gwrthsefyll gwe-rwydo, ac mae’n haws ac yn gyflymach eu defnyddio. Bydd y Llywodraeth hefyd yn hyrwyddo arferion gorau gan ddefnyddio canllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar drefniadau dilysu cadarn, gan gynnwys codau mynediad, a Gwasanaethau Dilysu Digidol o dan Fframwaith Ymddiriedaeth Hunaniaeth a Phriodweddau Digidol y DU. Anogir rheoleiddwyr a sefydliadau ariannol i fabwysiadu’r canllawiau hyn er mwyn atgyfnerthu rheolaethau gwyngalchu arian. Bydd cysoni technoleg ddiogel, safonau clir, ac ymwybyddiaeth y cyhoedd yn creu amgylchedd ariannol digidol mwy diogel.

68. Mae cryptoasedau yn peri risgiau cynyddol, ac mae twyll buddsoddi ymhlith y bygythiadau sy’n tyfu gyflymaf.[footnote 64] Lansiodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ymgyrch genedlaethol yn 2025 er mwyn helpu defnyddwyr i adnabod twyll, ac mae’r Llywodraeth hefyd yn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y Swyddfa Twyll Difrifol, i wella galluoedd ymchwilio ym maes cryptoasedau.

69. Mae’r Llywodraeth yn ymyrryd ymhellach drwy addasu rheoliadau er mwyn datblygu’r un mor gyflym â’r technolegau hyn. Ers 2023, mae wedi bod yn ofynnol i gwmnïau sy’n marchnata cryptoasedau i ddefnyddwyr yn y DU gydymffurfio â Chyfundrefn Hyrwyddo Ariannol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, gan sicrhau bod pob ymgyrch hyrwyddo’n deg ac yn glir ac nad yw’n gamarweiniol. Ym mis Rhagfyr 2025, cyflwynodd Trysorlys EF ddeddfwriaeth sy’n dod â chwmnïau cryptoasedau o dan fframwaith rheoleiddio gwasanaethau ariannol llawn, yn debyg i gwmnïau ariannol traddodiadol.[footnote 65] Pan ddaw’r gyfundrefn i rym ym mis Hydref 2027, bydd angen i gwmnïau cryptoasedau gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a chydymffurfio â’i reolau. Mae’r gyfundrefn newydd yn cwmpasu cryptoasedau ‘cyfnewidadwy a throsglwyddadwy’ ac yn creu gweithgareddau newydd a reoleiddir, megis gweithredu llwyfan masnachu cryptoasedau cymwys a chyflwyno ceiniog sefydlog gymwys yn y DU.

70. Fel y nodir ar gyfer y diwydiant telathrebu ac ar-lein uchod, bydd y Llywodraeth yn defnyddio data a metrigau i dracio perfformiad er mwyn ysgogi atebolrwydd yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, gan adeiladau ar y darlun data cyfoethog presennol.

4.6.  Mynd i’r afael â busnesau ac arferion twyllodrus

Mae arferion busnes twyllodrus yn ysgogi twyll yn y DU mewn modd dichellgar, wrth i droseddwyr fanteisio ar fannau gwan a chreu cwmnïau ffug a dynwared sefydliadau dilys er mwyn twyllo a chamfanteisio. Bydd y gweithredoedd hyn yn arwain at golledion uniongyrchol i fusnesau a defnyddwyr, gan erydu ymddiriedaeth a sefydlogrwydd ym mhob rhan o’r economi ehangach hefyd ar yr un pryd. Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o darfu ar y rhai sy’n camddefnyddio strwythurau corfforaethol er mwyn manteisio’n droseddol.

71. Mae sicrhau bod partneriaid, cyflenwyr a chwsmeriaid yn ddilys yn her graidd i fusnesau ac elusennau, ac mae llawer ohonynt yn dibynnu ar ddata Tŷ’r Cwmnïau. Yn hanesyddol, mae’r gofrestr wedi gweithredu ar sail ymddiriedaeth yn bennaf, gan greu cyfleoedd i droseddwyr gofrestru cwmnïau ffug neu ffugio cyfrifon. Cyflwynodd Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 ddiwygiadau gan gynnwys prosesau gorfodol ar gyfer gwirio manylion adnabod cyfarwyddwyr, personau â rheolaeth sylweddol, a’r rhai sy’n ffeilio gwybodaeth â Thŷ’r Cwmnïau.[footnote 66], [footnote 67] Hefyd, cyflwynodd bwerau cryfach i’r Cofrestrydd wirio, dileu a gwrthod gwybodaeth, rhannu data a chymryd camau gorfodi, a’r awdurdod i’r Cofrestrydd dynnu cwmnïau a sefydlwyd at ddibenion anghyfreithlon oddi ar y gofrestr.[footnote 68] Nod y rhain yw gwneud y gofrestr cwmnïau’n fwy dibynadwy a lleihau camddefnydd o strwythurau corfforaethol y DU.

72. Hefyd, mae camau gorfodi’n cael eu hatgyfnerthu ochr yn ochr â’r diwygiadau hyn. Mae Strategaeth Ymchwilio a Gorfodi newydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn ehangu ei ffocws i gynnwys twyll a gwyngalchu arian a hwylusir drwy gwmnïau, gan ddefnyddio pwerau sifil a throseddol i ymchwilio, dirwyn cwmnïau i ben, anghymhwyso cyfarwyddwyr, a mynd ar drywydd troseddau o dan ddeddfwriaeth berthnasol. Mae CThEF, Tŷ’r Cwmnïau a’r Gwasanaeth Ansolfedd hefyd wedi cytuno ar gynllun gweithredu ar y cyd i gael gwared ar wendidau mewn prosesau cofrestru a diddymu cwmnïau, cynyddu’r effaith ar gydymffurfiaeth a gyflawnir gan CThEF, ac atgyfeirio mwy o achosion o gyfarwyddwyr anaddas ar gyfer ymchwiliad. Caiff cynnydd o ran cyflawni’r cynllun hwn ei gyflwyno mewn adroddiad i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2026. Yn ogystal â hynny, roedd Cyllideb 2025 yn cynnwys cyllid ar gyfer Tasglu Ffenicsio Camdriniol o 2026 ymlaen o fewn y Gwasanaeth Ansolfedd er mwyn ymchwilio i achosion o ffenicsio, lle y bydd unigolion yn defnyddio cwmnïau dro ar ôl tro i osgoi dyledion neu at ddibenion twyllodrus.[footnote 69]

73. Mae dynwared sefydliadau dilys o fewn cadwyn gyflenwi busnes yn fygythiad i gwmnïau. Bydd troseddwyr yn rhyng-gipio negeseuon e-bost dilys ac yn anfon anfonebau ffug gan arwain at golledion sy’n amrywio o gannoedd i filiynau o bunnau.[footnote 70] Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd y Llywodraeth yn gwneud anfonebu electronig yn orfodol ar gyfer pob anfoneb TAW o fis Ebrill 2019 ymlaen, gan gyhoeddi map trywydd fel rhan o Gyllideb 2026. Bydd anfonebu electronig yn galluogi cyflenwyr i lunio ac anfon anfonebau drwy systemau digidol diogel, gan leihau’r risg y cânt eu rhyng-gipio. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried hunaniaethau cwmni digidol fel ffordd o sicrhau hunaniaethau electronig a symleiddio prosesau ar gyfer gwirio manylion sefydlu, trafodiadau a chydymffurfiaeth, gan adeiladu ar y glasbrint a luniwyd gan y Ganolfan Cyllid, Arloesedd a Thechnoleg ac a gefnogir gan Drysorlys EF a ffigurau blaenllaw mewn diwydiant.[footnote 71]

74. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod y gall corfforaethau gyflawni twyll hefyd. Cyflwynodd Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 drosedd gorfforaethol newydd, sef ‘peidio ag atal twyll’, sy’n weithredol ers mis Medi 2025.[footnote 72] Erbyn hyn, rhaid i sefydliadau mawr roi gweithdrefnau ar waith i atal twyll gan bersonau cysylltiedig. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Swyddfa Twyll Difrifol, y Swyddfa Gartref ac awdurdodau yn yr Alban i gefnogi gweithgarwch gorfodi a hunanadrodd.[footnote 73], [footnote 74], [footnote 75]

4.7. Crynodeb o Fesurau Tarfu

75. Gwella gallu’r DU i darfu:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn lansio’r Ganolfan Troseddau Ar-lein newydd (yn 2026);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn lansio ac yn cyhoeddi ymateb i Alwad am Dystiolaeth i ganfod rhwystrau rhag rhannu data’n effeithiol (yn 2026);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn cefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn barhaus er mwyn defnyddio technolegau newydd i fynd i’r afael â thwyll.

76. Trechu twyll yn llygad y ffynnon:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn noddi’r Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang nesaf yn Fienna ym mis Mawrth (yn 2026);
  • Bydd y Llywodraeth yn parhau i fynd ar drywydd memoranda cyd-ddealltwriaeth â gwledydd blaenoriaeth uchel;
  • Bydd y Llywodraeth yn cynyddu ei ddefnydd o sancsiynau er mwyn dwyn drwgweithredwyr sy’n gweithredu dramor i gyfrif.

77. Atal camddefnydd o seilwaith telathrebu’r DU:

  • Bydd y Llywodraeth yn goruchwylio perfformiad llofnodwyr mewn perthynas â’r siarter delathrebu ac yn craffu’n agos ar y perfformiad hwnnw (erbyn 2028);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn lansio Galwad am Dystiolaeth ynghylch mesurau cymesur i leihau anhysbysrwydd ac atgyfnerthu atebolrwydd (yn 2026);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn dechrau datblygu opsiynau i greu offeryn digidol diogel ar gyfer rheoli rhifau ffôn yn y DU (yn 2026);
  • Bydd y Llywodraeth yn datblygu metrigau ar gyfer mesur pa mor gyffredin yw gweithgarwch twyllodrus mewn rhwydweithiau telathrebu, a’u perfformiad o ran cael gwared ar weithgarwch o’r fath a/neu ei rwystro.

78. Atal y camddefnydd o seilwaith ar-lein y DU:

  • Bydd Ofcom yn dod â’r Ddyletswydd Hysbysebu Twyllodrus i rym (yn 2027);
  • Mae’r Swyddfa Gartref a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi lansio partneriaeth newydd mewn diwydiant i fynd i’r afael â hysbysebu twyllodrus, gan adrodd yn ôl, a pharatoi deddfwriaeth yn ystod y senedd hon os bydd angen (yn 2027);
  • Bydd y Llywodraeth yn monitro effeithiolrwydd pwerau rheoleiddio a gorfodi ar farchnadoedd ar-lein yn barhaus;
  • Bydd y Llywodraeth yn datblygu metrigau ar gyfer mesur pa mor gyffredin yw gweithgarwch twyllodrus ar lwyfannau ar-lein, a’u perfformiad o ran cael gwared ar weithgarwch o’r fath a/neu ei rwystro;
  • Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda’r sector technoleg er mwyn cymryd camau i wella diogelwch modelau deallusrwydd artiffisial.

79. Atal camddefnydd o lifoedd ariannol y DU:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn lansio Galwad am Dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y ffactorau sy’n achosi twyll anawdurdodedig (yn 2026);
  • Bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn rhannu argymhellion arferion gorau mewn perthynas â thwyll APP a gwyngalchu arian camfanteisiol;
  • Bydd Trysorlys EF yn diddymu safonau technegol presennol y Trefniadau Cadarn ar gyfer Dilysu Cwsmeriaid, gan alluogi’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ymgorffori safonau allweddol yn ei reolau a mabwysiadu dull mwy ystwyth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau (cyn gynted ag y bydd amser Seneddol yn caniatáu);
  • Bydd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn parhau i weithio gyda chyrff safonau a darparwyr technoleg i fabwysiadu codau mynediad yn gyflymach;
  • Rheoleiddio gweithgareddau ariannol cryptoasedau drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau cryptoasedau gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a chydymffurfio â’i reolau (yn 2027);
  • Bydd y Llywodraeth yn datblygu metrigau ar gyfer mesur pa mor gyffredin yw gweithgarwch twyllodrus mewn gwasanaethau ariannol, a’u perfformiad o ran cael gwared ar weithgarwch o’r fath a/neu ei rwystro.

80. Mynd i’r afael ag arferion busnes twyllodrus:

  • Bydd y Llywodraeth yn sefydlu tasglu newydd o fewn y Gwasanaeth Ansolfedd er mwyn mynd i’r afael â ffenicsio cwmnïau at ddibenion camdriniol, fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb 2025 (o 2026 ymlaen);

  • Bydd y Llywodraeth yn gwneud anfonebu electronig yn orfodol ar gyfer pob anfoneb TAW (o 2029 ymlaen);
  • Bydd y Llywodraeth yn ystyried hunaniaethau cwmni digidol fel ffordd o sicrhau hunaniaethau electronig a symleiddio prosesau gwirio trafodiadau.

5. Conglfaen 2: DIOGELU

Mae natur dreiddiol twyll yn ei gwneud yn debygol y bydd rhywfaint o droseddau’n osgoi ein hymdrechion tarfu, gan olygu y bydd angen ail amddiffyniad sy’n diogelu unigolion a busnesau. Er mwyn diogelu, bydd angen camau rhagweithiol i leihau gwendidau a meithrin gwydnwch, drwy sicrhau na all troseddwyr ddod o hyd i ddioddefwyr posibl, a bod gan unigolion a busnesau y wybodaeth a’r offer i adnabod ac osgoi twyll. Mae’r conglfaen hwn yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn diogelu unigolion a busnesau drwy greu cymdeithas wybodus, rhoi cymorth wedi’i dargedu er mwyn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed, a mynd i’r afael â’r risg o gamfanteisio ariannol.

5.1. Meithrin gwydnwch

Mae cyfathrebu’n effeithiol ac addysgu’r cyhoedd yn hollbwysig er mwyn datblygu cymdeithas sy’n gallu gwrthsefyll twyll. O ystyried y ffaith bod bygythiad twyll yn tyfu ac yn datblygu, ni all hyn aros yn llonydd na chanolbwyntio ar un grŵp demograffig. Yn hytrach na hynny, rhaid iddo ragweld y bygythiad ac ymateb iddo.

81. Menter newid ymddygiad genedlaethol sy’n helpu unigolion a busnesau bach i adnabod ac atal twyll yw ymgyrch Stop! Think Fraud.[footnote 76] O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yr ymgyrch yn ehangu i gynnwys amrywiaeth ehangach o fathau o dwyll gan gynnwys twyll niweidiol iawn, atgyfnerthu ei chyngor i fusnesau bach drwy weithio gyda phartneriaid dibynadwy megis y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac archwilio technoleg i wneud canllawiau’n fwy hygyrch. Uchelgais ehangach Stop! Think Fraud yw parhau i weithio gyda diwydiant, gan gynnwys gwasanaethau ariannol, cwmnïau technoleg a thelathrebu, i annog ffyrdd amddiffynnol o ymddwyn drwy integreiddio negeseuon wrth gyfathrebu â chwsmeriaid a chynnal gweithgarwch ar y cyd.

82. Gall offer sy’n helpu i wybod a yw negeseuon e-bost, negeseuon testun, gwefannau neu godau QR yn rhai dilys hefyd helpu i feithrin gwydnwch yn eang. O 2026 ymlaen, bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o offer sydd eisoes yn bodoli y gall y cyhoedd eu defnyddio er mwyn helpu i ganfod twyll a diogelu rhagddo. Bydd hyn yn helpu unigolion i adnabod a defnyddio’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, y mae rhai ohonynt wedi’u hymgorffori mewn llwyfannau technoleg, telathrebu a bancio, er mwyn helpu i’w diogelu eu hunain yn fwy effeithiol.

Astudiaeth Achos: Cydweithio Rhwng Ymgyrch Stop! Think Fraud a Diwydiant

Bydd twyll tocynnau yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, ond bydd troseddwyr yn manteisio i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr. Mae hyn yn cynnwys dechrau tymor Uwch-gynghrair Lloegr ym mis Awst. Dros y ddau dymor diwethaf, rhoddwyd gwybod i Lloyds am fwy na 2,400 o achosion o dwyll tocynnau pêl-droed, gyda chyfanswm colledion o fwy na £500,000. Gan gydnabod gwerth cydweithio i rybuddio cefnogwyr pêl-droed ar y cyd, bu Lloyds ac ymgyrch Stop! Think Fraud y Llywodraeth yn cydweithio cyn dechrau tymor yr Uwch-gynghrair yn 2025 er mwyn sicrhau bod gan gefnogwyr y wybodaeth a’r adnoddau i ddiogelu eu hunain rhag twyll wrth brynu tocynnau. Cyrhaeddodd y gweithgarwch bobl drwy sianeli newyddion cenedlaethol, rhanbarthol ac ar-lein, ochr yn ochr â dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol.

83. Rhaid i wydnwch effeithiol ddechrau o oedran cynnar. Caiff pobl ifanc eu targedu fwyfwy drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gemau ar-lein. Daeth astudiaeth ddiweddar i’r casgliad bod 96% o bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed yn gwneud trafodiadau ar-lein, a bod 68% yn prynu pethau’n annibynnol. O blith y rhai sy’n gwario arian ar bryniannau ar-lein, mae 14% yn credu eu bod wedi cael eu twyllo rywsut.[footnote 77] Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd yr Adran Addysg yn gwreiddio llythrennedd o ran materion ariannol, y cyfryngau a digidol yn y cwricwlwm diwygiedig a bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gydag Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-orllewin Lloegr (SWROCU) a’r Gymdeithas Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd (ABGI) i wreiddio adnoddau addysgol am ddim sy’n ymwneud â thwyll a gwyngalchu arian camfanteisiol i blant oedran ysgol yn Lloegr o flwyddyn academaidd 2026/27 ymlaen. Bydd y Llywodraeth hefyd yn defnyddio Rhwydwaith Fraud PROTECT (gweler paragraff 89) er mwyn helpu myfyrwyr prifysgol i wrthsefyll twyll a gwyngalchu arian camfanteisiol o 2026 ymlaen drwy roi addysg twyll ar y campws a thrwy gymunedau myfyrwyr.

84. Tra bo angen addysg i atal twyll a gyflawnir gan weithredwyr allanol, mae atal twyll a gyflawnir gan rywun sy’n hysbys i’r dioddefwr yn gofyn am fesurau diogelu dyfnach sydd wedi’u targedu, yn enwedig o ystyried y gorgyffwrdd â cham-drin economaidd. Yn 2026, bydd y Swyddfa Gartref yn arwain gweithgor penodedig sy’n cynnwys cynrychiolwyr o adrannau’r Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, diwydiant, arbenigwyr cyfreithiol a’r trydydd sector er i ddatblygu ymateb system gyfan er mwyn diogelu unigolion sy’n wynebu risg o gamddefnyddio swydd, gan feithrin gwydnwch pobl agored i niwed ac oedrannus sy’n dibynnu ar amddiffyniadau cyfreithiol megis atwrneiaeth.

85. Bydd busnesau’n wynebu risgiau twyll a seiber penodol sy’n golygu bod angen ymyriadau wedi’u targedu a meithrin gwydnwch. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn rhoi cymorth cynhwysfawr, gan gynnwys y Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber, sy’n fan cychwyn i sefydliadau bach ac yn gam tuag at ardystiad Cyber Essentials, sef y safon ofynnol a argymhellir. [footnote 78], [footnote 79] Mae cynlluniau ychwanegol gan y Ganolfan, gan gynnwys Ymarferion Digwyddiadau Seiber ac Ymateb i Ddigwyddiadau Seiber, yn helpu sefydliadau i’w hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau, ymateb iddynt ac ymadfer ar eu hôl. Mae’r Comisiwn Elusennau wedi gweithio gyda’r Ganolfan i ddatblygu canllawiau ar seiber a thwyll yn benodol ar gyfer elusennau.[footnote 80]

86. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn parhau i gefnogi Canolfannau Seiberwydnwch ledled Cymru a Lloegr, dan arweiniad Heddlu Dinas Llundain, gan roi cymorth wedi’i deilwra i fusnesau bach a hyrwyddo cadwyni cyflenwi diogel drwy Gynllun Cyber Essentials a’r Rhaglen Genhadon.[footnote 81] Mae mentrau tebyg ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy Bartneriaeth CyberScotland a Chanolfan Seiberddiogelwch Gogledd Iwerddon.

87. Bydd gangiau troseddau cyfundrefnol hefyd yn sleifio i mewn i fusnesau i gyflawni twyll ariannol ar raddfa fawr. I frwydro yn erbyn hyn, mae’r Sefydliad Cyflogi Gwell, CIFAS a’r Gwiriad Data Graddau Addysg Uwch wedi llunio canllawiau er mwyn helpu busnesau i atgyfnerthu prosesau recriwtio.[footnote 82]

5.2. Lleihau gwendidau

Bydd troseddwyr yn rhagori mewn canfod amgylchiadau sy’n gwneud unigolion neu fusnesau’n fwy agored i dwyll, a gall newid mewn amgylchiadau wneud yr unigolion neu’r busnesau hynny yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr. Felly, yn ogystal â meithrin gwydnwch, rhaid cymryd camau rhagweithiol hefyd er mwyn adnabod y rhai a all fod yn fwy agored i niwed a rhoi cymorth cyn iddynt gael eu targedu.

88. Mae Rhwydwaith PROTECT, sy’n cynnwys swyddogion gorfodi’r gyfraith lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn hollbwysig er mwyn diogelu unigolion rhag twyll a seiberdroseddau. Mae’r Rhwydwaith yn gweithio ledled Cymru a Lloegr i rannu negeseuon cyson ac wedi’u targedu ynghylch twyll mewn cymunedau er mwyn lliniaru bygythiad twyll ac atal pobl rhag cael eu twyllo eto.

89. Mae data gwell yn golygu bod modd rhoi ymyriadau ar waith sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth ac wedi’u targedu’n well er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed. Mae’r Swyddfa Gartref ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn datblygu dulliau seiliedig ar ddata o ganfod mannau problemus o ran twyll a rhoi cyngor wedi’i dargedu ar ei atal. Gan adeiladu ar gynllun peilot Prosiect Aegis ac Ymgyrch Callback (gweler yr astudiaeth achos isod) a defnyddio data mwy cyfoethog gan wasanaeth Report Fraud newydd Heddlu Dinas Llundain, bydd y Llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn cynnal gweithgareddau PROTECT rhagweithiol a arweinir gan guddwybodaeth mewn ardaloedd lleol o 2026 ymlaen. Bydd y rhain yn rhoi cyngor ymarferol wedi’i dargedu er mwyn atal pobl rhag cael eu twyllo.[footnote 83]

Astudiaeth Achos: Prosiect Aegis

Rhwng mis Chwefror a mis Medi 2025, cafodd Prosiect Aegis, sef cynllun peilot gan y Swyddfa Gartref a arweiniwyd ar y cyd â Heddlu Dinas Llundain, ei gynnal ledled Dyffryn Tafwys, Manceinion Fwyaf a De Cymru gyda chymorth heddluoedd lleol a rhanbarthol. Nod y cynllun peilot oedd profi dull rhagweithiol a arweinir gan guddwybodaeth o atal pobl rhag dioddef twyll. Gan ddefnyddio model ‘mannau problemus’, bu swyddogion a gwirfoddolwyr yn ymweld â chymdogaethau risg uchel a gafodd eu hadnabod drwy fodel data gan Ysgol Economeg Llundain sy’n seiliedig ar adroddiadau Action Fraud. Roedd yr ymyriadau’n canolbwyntio ar dwyll siopa ar-lein a thwyll buddsoddi. Roedd dau gam i’r cynllun peilot, ac ymwelwyd â thua 5,600 o eiddo. Bu’r swyddogion yn ymgysylltu â thrigolion drwy sgyrsiau o ddrws i ddrws ac yn dosbarthu deunyddiau er mwyn codi ymwybyddiaeth a magu hyder mewn adnabod twyll.

Astudiaeth Achos: Ymgyrch Callback

O fis Chwefror tan fis Ebrill 2025, cynhaliodd Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd Ymgyrch Callback ledled Llundain, gan ganolbwyntio ar ddioddefwyr yn Bromley, Croydon, a Sutton. Gan ddefnyddio dull mannau problemus, cyfunodd yr ymgyrch gydweithio amlasiantaethol a chyfathrebu wedi’i dargedu er mwyn atal twyll cludwyr.

Ymhlith y camau gweithredu allweddol roedd dosbarthu 115,000 o daflenni atal, cynnal 94 o ymweliadau codi ymwybyddiaeth, rhoi 40 o gyflwyniadau i bron 2,000 o bobl, a gosod 50 o ddyfeisiau rhwystro galwadau. Cyrhaeddwyd banciau, siopau gemwaith, swyddfeydd post, a grwpiau cymunedol. Roedd y gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd yn effeithiol, wrth i gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol gael ei weld 31,000 o weithiau ac wrth i 100% o’r bobl a holwyd ymrwymo i newid ymddygiad. O fewn yr ardal dan sylw, gwelwyd lleihad o 50% mewn troseddau sy’n arwain at golled ariannol, a lleihad o 67% mewn colledion cysylltiedig. Ers hynny, mae Callback 2 wedi cael ei lansio er mwyn cynnal ymdrechion atal a tharfu a’u hatgyfnerthu ymhellach.

90. Er mwyn darparu gwasanaeth cyson ac effeithiol i unigolion agored i niwed, o 2026 ymlaen bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda Heddlu Dinas Llundain i gysoni rhwydweithiau Twyll a Seiber PROTECT gan wella effeithlonrwydd drwy ostwng y lefelau presennol o ddyblygu a gorgyffwrdd, gan gadw sgiliau arbenigol ar yr un pryd. O 2026 ymlaen, bydd Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu hefyd yn cyflawni rôl fwy fel Gwirfoddolwyr Twyll a Seiber, gan adeiladu ar y cyfanswm o 146 o wirfoddolwyr sydd ar waith ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd cymunedau na chânt eu gwasanaethu’n ddigonol. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn cyfrannu arbenigedd gwerthfawr er mwyn cefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith a rhoi cyngor sy’n gyson ledled y wlad, gan roi hwb i gapasiti ym mhob rhan o rwydwaith PROTECT.

91. Gall data sydd gan ddiwydiant ynghylch eu cwsmeriaid a’u defnyddwyr hefyd helpu i wybod pan fydd rhywun yn wynebu risg o bosibl. Felly, bydd y Swyddfa Gartref yn gwella’r ffordd y bydd Rhwydwaith PROTECT yn cael hysbysiadau gan ddiwydiant ac yn ymateb iddynt o 2026 ymlaen. Er enghraifft, caiff llwyfannau technoleg eu hannog i rybuddio Rhwydwaith PROTECT yn rhagweithiol pan fyddant yn amau bod pobl wedi cael eu twyllo, gan alluogi swyddogion i gysylltu â’r unigolion hynny a rhoi cyngor wedi’i deilwra iddynt neu rannu cuddwybodaeth â’u banciau er mwyn rhoi mesurau diogelu ar waith.

92. Ar hyn o bryd, bydd yr ymateb diogelu ariannol yn aml yn anghyson. Felly, byddwn yn parhau i helpu UK Finance i ehangu ei Gynllun Hysbysu Ynghylch Dioddefwyr Agored i Niwed i gynnwys pob heddlu.[footnote 84] Bydd hyn yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i roi gwybod am bryderon ynglŷn â bregusrwydd ariannol unigolyn yn uniongyrchol i’r sector gwasanaethau ariannol, gan olygu y bydd modd rhoi mesurau diogelu wedi’u teilwra ar waith cyn i’r unigolyn hwnnw gael ei dwyllo am y tro cyntaf neu am yr eildro. Wedyn, bydd y Swyddfa Gartref yn lansio hyn fel Cynllun Diogelu Ariannol drwy ganfod cyfleoedd i ehangu’r fenter i gynnwys gweithwyr proffesiynol rheng flaen, gan gynnwys gwasanaethau gofal i ddioddefwyr, a sefydlu llwybrau atgyfeirio clir ar gyfer pobl sy’n wynebu risg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau dull mwy cyson a chysylltiedig o ddiogelu pobl agored i niwed drwy’r system gyfan.

93. Er mwyn helpu i gyflwyno hyn, bydd y Llywodraeth yn rhoi cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol ar gyfer swyddi newydd yn ei Dîm Sgamiau. Bydd y rolau hyn yn cydgysylltu’r dull amlasiantaethol o roi mesurau atal twyll ar waith yn yr holl ardaloedd heddlu, gan gronni data ac adnodau er mwyn sicrhau cysondeb a sicrhau gwell canlyniadau o ran cymorth i ddioddefwyr, ymwybyddiaeth a chyfathrebu.

5.3Mynd i’r afael â chamfanteisio ariannol

Mae camfanteisio ariannol yn dal yn ffactor sylweddol mewn llawer o achosion o dwyll ac felly mae angen dull diogelu unigryw ar ei gyfer. Bydd troseddwyr yn aml yn targedu unigolion sy’n ddibynnol yn emosiynol neu’n ariannol, gan ddefnyddio ymddiriedaeth sydd eisoes wedi’i sefydlu er mwyn dylanwadu ar ddioddefwyr i gael gafael ar arian neu asedau. Bydd dull pwrpasol o fynd i’r afael â chamfanteisio ariannol yn ychwanegu haen arall at yr ymateb diogelu.

94. Bydd troseddwyr yn aml yn gorfodi dioddefwyr i wyngalchu enillion troseddau neu gyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â thwyll. Bydd ‘gwyngalchu arian camfanteisiol’ yn arwain at ganlyniadau difrifol i unigolion agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Hefyd, mae hyn yn rhan hanfodol o fodelau busnes troseddwyr a’u gallu i godi neu ryddhau arian wedi’i ddwyn er mwyn gallu ei ddefnyddio heb gael eu dal. [footnote 85]

95. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Swyddfa Gartref, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi cyhoeddi naw blaenoriaeth ar gyfer troseddau economaidd ar gyfer y DU, gan gynnwys trechu gwyngalchu arian camfanteisiol.[footnote 86] I helpu’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dadansoddi dulliau o ryddhau arian wedi’i ddwyn ac yn rhannu ei ganfyddiadau â diwydiant, gan fynd ati ar yr un pryd i geisio canfod rhwystrau rhag trechu gwyngalchu arian camfanteisiol a datblygu atebion wedi’u targedu. Ochr yn ochr â hynny, mae gwaith ymchwil gan Ipsos a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref wedi archwilio dealltwriaeth unigolion o’r defnydd o fulod arian, sut y bydd unigolion yn mynd yn rhan o hynny, a ffyrdd o roi’r gorau iddi. Disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn 2026.

96. Gan gydnabod y niwed sylweddol y gall camfanteisio ariannol ei achosi, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda Chymdeithas y Plant i ganfod a sefydlu llwybr atgyfeirio clir ar gyfer dioddefwyr camfanteisio ariannol sy’n gysylltiedig â gwyngalchu arian camfanteisiol. Bydd y llwybr hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod plant a phobl ifanc y mae angen cymorth arnynt, a’u cyfeirio at yr ymateb diogelu priodol. Drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau y bydd unigolion agored i niwed yn cael yr amddiffyniad a’r cymorth y bydd eu hangen arnynt.

97. I atgyfnerthu’r mesurau hyn, bydd gweithgarwch cenedlaethol i atal twyll hefyd yn cael ei atgyfnerthu o 2026 ymlaen er mwyn cysoni’n agosach â’r ymateb i seiberdroseddu, gan atgyfnerthu ymdrechion i darfu ar wyngalchu arian camfanteisiol a gwreiddio arferion gorau. Bydd arweinydd atal twyll penodedig o fewn Heddlu Dinas Llundain yn llywio prosesau cydgysylltu strategol rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y Llywodraeth, a phartneriaid. Bydd y rôl hefyd yn cydgysylltu addysg ac ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer unigolion sy’n wynebu risg, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio llwyfannau ar-lein ar gyfer troseddau megis ‘cardio’, sef caffael, masnachu neu ddefnyddio gwybodaeth cardiau credyd heb awdurdod.

Astudiaeth Achos: Camfanteisio ariannol

Pan oedd yn 15 oed, cafodd Ace ei roi mewn gofal ar ôl profi esgeulustod a thrawma. Tra oedd yn byw mewn cartref plant, cafodd ei grŵmio ar-lein a’i orfodi i gyflawni twyll ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian a defnyddio cardiau credyd wedi’u dwyn.

Rhannodd ei ofalwyr bryderon â’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol plant, a gwnaethant ei atgyfeirio at Gymdeithas y Plant.

Llwyddodd Cymdeithas y Plant i ennyn ymddiriedaeth Ace, gan ei adnabod fel dioddefwr camfanteisio ariannol. Dywedodd ei fod yn teimlo cywilydd am fod troseddwyr wedi dylanwadu arno a’i fygwth. Rhoddodd Cymdeithas y Plant gymorth emosiynol, cyngor ar ddiogelwch a strategaethau tarfu iddo, gan eirioli dros gamau diogelu a helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall y ffordd y cafodd Ace ei gam-drin.

Lluniwyd cynllun diogelwch amlasiantaethol er mwyn diogelu Ace ac, ymhen blwyddyn, roedd yn teimlo’n fwy diogel a hyderus ac mewn sefyllfa well i allu adnabod camfanteisio a cheisio cymorth.

5.4. Crynodeb o’r camau Diogelu

98.Meithrin gwydnwch:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn atgyfnerthu ymgyrch Stop! Think Fraud i gynnwys amrywiaeth ehangach o fathau o dwyll (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda’r sector preifat i ddatblygu cyngor diduedd a chynhwysfawr i ddefnyddwyr (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gwreiddio adnoddau addysgol ar gyfer plant oedran ysgol yn Lloegr (o 2026 ymlaen);
  • Bydd rhwydwaith PROTECT yn helpu myfyrwyr prifysgol i wrthsefyll twyll a gwyngalchu arian camfanteisiol (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu ymateb system gyfan er mwyn diogelu unigolion sy’n wynebu risg o gamddefnyddio swydd (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i gefnogi’r Canolfannau Seiberwydnwch rhanbarthol.

99. Lleihau gwendidau:

  • Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn cynnal gweithgareddau PROTECT rhagweithiol a arweinir gan guddwybodaeth mewn ardaloedd lleol (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn helpu i gysoni rhwydwaith Twyll a Seiber PROTECT (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddefnyddio gwirfoddolwyr cymorth yr heddlu (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn gweithio gyda’i gilydd i wella’r ffordd y bydd Rhwydwaith PROTECT yn cael hysbysiadau gan ddiwydiant ac yn ymateb iddynt (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn lansio Cynllun Diogelu Ariannol (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn ariannu tîm sgamiau’r gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol er mwyn cefnogi’r dull amlasiantaethol o atal twyll (o 2026 ymlaen).

100. Mynd i’r afael â chamfanteisio ariannol:

  • Bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cynnal dadansoddiad o arferion rhyddhau arian wedi’i ddwyn ac yn gweithio gyda diwydiant i fynd i’r afael â gwyngalchu arian;
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda Chymdeithas y Plant i ganfod a sefydlu llwybr atgyfeirio clir ar gyfer dioddefwyr camfanteisio ariannol sy’n gysylltiedig â gwyngalchu arian camfanteisiol (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dinas Llundain i atgyfnerthu’r ffordd y caiff gweithgarwch atal twyll ei gydgysylltu’n genedlaethol (o 2026 ymlaen).

6. Conglfaen 3: YMATEB

Dylai ein dull o fynd i’r afael â thwyll ymwneud â mwy nag atal yn unig, a chynnwys ymateb cadarn pan fydd twyll yn digwydd hefyd. Bydd twyll yn achosi colled ariannol a gofid emosiynol i ddioddefwyr, yn ogystal â niweidio busnesau a hyder defnyddwyr. Caiff hyn ei ddwysáu gan gyfraddau ymchwilio ac euogfarnu isel, sy’n tanseilio ymddiriedaeth ymhellach ac yn peri risg o aildroseddu. Mae ymateb cadarn yn cynnwys sicrhau y caiff dioddefwyr eu hadnabod a’u cefnogi, y caiff asiantaethau gorfodi’r gyfraith eu grymuso, a bod dulliau troseddol a chyfiawnder sifil ar waith.

Mae’r conglfaen hwn yn nodi sut y byddwn yn gwella profiad dioddefwyr, yn gwella galluoedd ymchwilio a chydweithio rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn rhyngwladol, ac yn sicrhau canlyniadau cyfiawnder sifil a throseddol.

6.1. Gwella profiad dioddefwyr

Prif ffocws ymateb y Llywodraeth i dwyll yw sicrhau y caiff pob dioddefwr ei glywed a’i gefnogi. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid cael dull cyson a hygyrch o roi gwybod am achosion, yn ogystal â gofal cadarn ac effeithiol i ddioddefwyr.

101. Bydd dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr yn dechrau ag un llwybr hygyrch. Nid oedd y gwasanaeth cenedlaethol blaenorol ar gyfer rhoi gwybod am dwyll (Action Fraud), a gyflwynwyd yn 2013, yn gallu ymdopi â’r lefelau twyll a welir ac y rhoddir gwybod amdanynt heddiw. Mae’r gwasanaeth newydd, sef Report Fraud, sydd ar waith o 2026 ymlaen, yn sicrhau dull effeithlon o roi gwybod sy’n galluogi’r heddlu i ymyrryd yn gyflymach ac sy’n rhoi gwell cymorth i ddioddefwyr.

102. Mae Report Fraud yn defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon, a bydd yn gwella profiad dioddefwyr. Gyda chanolfan alwadau wedi’i huwchraddio a gwefan hawdd ei defnyddio, bydd y gwasanaeth newydd yn symleiddio’r broses o roi gwybod, yn rhoi diweddariadau cliriach, ac yn blaenoriaethu cymorth i ddioddefwyr agored i niwed drwy Wasanaethau Dioddefwyr Report Fraud (yr Uned Gofal Dioddefwyr Troseddau Economaidd Genedlaethol gynt). Mae llwyfan data newydd Report Fraud yn dadansoddi adroddiadau’n well ac yn cyflymu atgyfeiriadau at yr heddlu a phartneriaid eraill er mwyn ymchwilio i droseddwyr a tharfu arnynt, tra bydd prosesau tracio perfformiad gwell yn sicrhau gwelliant parhaus.

Astudiaeth Achos: Report Fraud

Bydd dioddefwyr yn gallu ceisio cyngor drwy we-sgwrs neu sgwrsfot cyn rhoi gwybod am dwyll drwy ganolfan alwadau neu sianel ar-lein. Bydd System Ryngweithiol sy’n Ymateb i Lais yn blaenoriaethu dioddefwyr i giwiau priodol, gan ddilyn proses frysbennu seiliedig ar resymeg er mwyn codio troseddau’n gywir.

Ar ôl iddynt roi gwybod am dwyll, bydd dioddefwyr yn cael cyngor wedi’i deilwra ar ddiogelu eu hunain er mwyn helpu i feithrin gwydnwch a’u hatal rhag cael eu twyllo eto. Bydd yr adroddiadau’n cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cofnodi Troseddau a Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref, gan sicrhau bod modd adnabod ffactorau sy’n gwneud pobl yn agored i niwed, hwyluswyr technegol ar gyfer camau atal/rhwystro, a chyfleoedd i rybuddio sefydliadau ariannol er mwyn gallu ymyrryd bron mewn amser real.

Bydd yr holl adroddiadau yn bwydo i mewn i asesiadau cuddwybodaeth strategol o dan y Model Cuddwybodaeth Cenedlaethol, gan dynnu sylw at fygythiadau, dulliau targedu, a thueddiadau twyll sy’n dod i’r amlwg. Hefyd, caiff data eu lanlwytho i Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a gwelededd ym maes gorfodi’r gyfraith drwyddo draw.

103. Pan fydd dioddefwr yn rhoi gwybod am dwyll, rhaid i ofal a chyngor fod yn gyson, ond mae’r cymorth yn amrywio yn ôl lleoliad a gwasanaeth ar hyn o bryd. I fynd i’r afael â hyn, bydd y Swyddfa Gartref yn cyflwyno Siarter Dioddefwyr Twyll yn 2027. Bydd y Siarter, a fydd wedi cael ei datblygu gyda dioddefwyr, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, sefydliadau cymorth, a diwydiant, yn gosod safonau cenedlaethol ar gyfer lefel y gwasanaeth y dylai pob dioddefwr ei gael, gan gynnwys amseroedd ymateb, safonau gofal gofynnol, a llwybrau cyfathrebu clir. Bydd yn sicrhau cyngor cyson ar ad-dalu, atal, ac adfer, ochr yn ochr â mynediad at gymorth emosiynol ac ymarferol, a hynny i gyd wedi’i ategu gan fesurau atebolrwydd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Drwy sefydlu safonau cenedlaethol eir i’r afael â gwahaniaethau mewn gofal i ddioddefwyr, ac ni fydd cymorth yn dibynnu ar ddaearyddiaeth na threfniadaeth mwyach.

104. Ynghyd â gwella prosesau rhoi gwybod a safonau gofal, rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag effaith ehangach twyll ar ddioddefwyr. Gall canlyniadau ariannol fod yn ddifrifol felly, o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2023, cyflwynodd y Rheoleiddiwr Systemau Talu ad-daliadau gorfodol am dwyll APP o fewn y System Talu Cyflymach o fis Hydref 2024 ymlaen.[footnote 87] Mae’r Llywodraeth yn dal yn ymrwymedig i barhau ag ad-daliadau gorfodol. Bydd y rheoleiddiwr yn adolygu’r cynllun yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn lliniaru niwed ac yn cymell cwmnïau i atal twyll.

Astudiaeth Achos: Cymorth i Ddioddefwr Twyll Rhamant

Cafodd Jake ei adnabod ddwywaith gan Heddlu Essex fel rhywun a allai ddioddef twyll rhamant. Tynnwyd sylw swyddogion ato yn y lle cyntaf ar ôl iddo geisio prynu gwerth £400 o gardiau rhodd, cyn iddynt ddarganfod ei fod eisoes wedi anfon £3,500 dramor. Newidiodd yr heddlu ei osodiadau cyfryngau cymdeithasol, rhoesant gyngor atal iddo, a gwnaethant ei atgyfeirio at wasanaethau cymorth, ond gwrthododd hynny.

Fisoedd yn ddiweddarach, ceisiodd Jake agor cyfrif banc ar gyfer y person roedd yn credu ei fod mewn perthynas ag ef, a datgelodd ei fod wedi anfon £20,000 yn rhagor mewn cardiau rhodd. Helpodd gweithiwr achos Cymorth i Ddioddefwyr ef i sylweddoli mai twyll oedd hyn gan ddefnyddio holiadur, proses wirio dros y ffôn, a chadarnhad drwy alwad fideo. Gwnaeth Jake gydnabod y twyll ac ailgysylltu â’i deulu, a chafodd gymorth parhaus gan y gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr a swyddog Twyll PROTECT er mwyn gwella ei lesiant ac atal niwed pellach.

105. Y tu hwnt i golled ariannol a gofid emosiynol, bydd llawer o ddioddefwyr hefyd yn destun achosion o ddwyn hunaniaeth, a all gael effeithiau seicolegol ac ariannol hirdymor a chreu beichiau pellach i ddatrys problemau y tu hwnt i’w rheolaeth. I fynd i’r afael â hyn, bydd Heddlu Dinas Llundain yn sefydlu llwybrau atgyfeirio at wasanaethau atgyweirio hunaniaeth, a bydd y Swyddfa Gartref yn archwilio cyfleoedd i roi cymorth pellach i ddioddefwyr twyll drwy atebion atgyweirio hunaniaeth, gan weithio’n agos gyda diwydiant, elusennau ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Bydd atebion atgyweirio hunaniaeth yn helpu unigolion y mae eu hunaniaethau wedi cael eu dwyn drwy helpu i’w hadfer ac atal camddefnydd pellach. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu canllawiau, adnoddau a phartneriaethau ychwanegol a all atgyfnerthu gallu dioddefwyr i ymadfer yn gyflym a lleihau’r risg o gael eu niweidio eto.

6.2. Gwella galluoedd ymchwilio asiantaethau gorfodi’r gyfraith

Gan fod twyll yn drosedd gymhleth a ysgogir gan dechnoleg ac sy’n aml yn rhyngwladol ei natur, mae’n cyflwyno her unigryw i asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Er mwyn ymateb i hynny, mae angen dull pwrpasol sy’n sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yr adnoddau, yr hyfforddiant a’r arbenigedd i allu ymchwilio’n llawn i bob trosedd.

106. Mae cydgysylltu cenedlaethol yn hanfodol er mwyn trechu twyll, sy’n drosedd gymhleth ac eang. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr arweinyddiaeth genedlaethol sydd wedi cael ei rhoi hyd yma gan Heddlu Dinas Llundain, gydag arbenigwyr trechu twyll a’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol o fewn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arweinwyr gweithredol i’r system. Fel y nodir yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio’r Heddlu, bydd cyfrifoldeb cyffredinol am Dwyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a’r Gwasanaeth hwn fydd yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y troseddau hyn. Bydd hyn yn sicrhau dull wedi’i symleiddio gyda rolau cliriach a chyfrifoldebau pennu tasgau mwy effeithiol.

107. Rydym yn cydnabod arbenigedd Heddlu Dinas Llundain o ran mynd i’r afael â’r troseddau hyn, gan gynnwys lletya Report Fraud ac unedau a galluoedd arbenigol eraill ar hyn o bryd. Yn amodol ar ganfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Heddluoedd (a amlinellir ym Mhennod Tri y Papur Gwyn ar Ddiwygio’r Heddlu), bydd y Llywodraeth yn asesu p’un a ddylai’r gwasanaethau arbenigol hyn gael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol neu a allent gael eu dirprwyo a pharhau i gael eu darparu gan Heddlu Dinas Llundain dan gyfarwyddyd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol. Tra bydd y newidiadau hyn yn mynd rhagddynt, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda’i holl bartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith i wneud gwelliannau parhaus i’r ymateb gorfodi’r gyfraith mewn perthynas â thwyll ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

108. Mae’r Uned Dwyll Genedlaethol yn dod â swyddogion ynghyd o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Heddlu Dinas Llundain ac Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol i gynnal ymchwiliadau a arweinir gan guddwybodaeth sy’n targedu’r troseddwyr mwyaf difrifol. Gyda chymorth y Ganolfan Troseddau Ar-lein, bydd yr Uned Dwyll Genedlaethol yn cael pecynnau cuddwybodaeth o ansawdd gwell er mwyn mynd ati’n rhagweithiol i darfu ar droseddwyr cyn iddynt gyrraedd dioddefwyr, gan leihau’r baich ar heddluoedd lleol. I atgyfnerthu ei heffaith, bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal gwerthusiad o effaith yr Uned Dwyll Genedlaethol yn 2027 ac yn gwneud gwelliannau i’r ymatebion rhanbarthol a chenedlaethol.

109. Bydd gwell cuddwybodaeth ac adnoddau ar gyfer gorfodi’r gyfraith yn cyflymu ymchwiliadau ac yn arwain at ganlyniadau gwell a chyflymach i ddioddefwyr. Mae’r gwasanaeth Report Fraud newydd yn rhoi cuddwybodaeth llawer cyflymach a mwy cyfoethog i heddluoedd lleol drwy’r System Dadansoddi Troseddau Genedlaethol, gan wella’r ffordd y caiff achosion eu brysbennu, eu trin a’u dosbarthu’n amserol i heddluoedd. Yn yr un modd, mae cydweithio â diwydiant hefyd yn hanfodol ar gyfer gwell cuddwybodaeth ar gyfer gorfodi’r gyfraith. Erbyn dechrau 2028, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gydag Ofcom a diwydiant i ddatblygu Cynllun Olrhain Telathrebu Cenedlaethol a’i roi ar waith, sef proses a fydd yn canfod tarddiad negeseuon amheus neu dwyllodrus dros rwydweithiau rhyng-gysylltiedig. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i olrhain galwadau a negeseuon testun twyllodrus, canfod troseddwyr mynych, a chyflwyno tystiolaeth gadarn ar gyfer erlyniadau ac achosion sifil.

110. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddatblygu offer a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i adennill enillion troseddau, gan gynnwys troseddau twyll, a gwella arferion rhannu cuddwybodaeth. Bydd y galluoedd hyn yn helpu ymchwilwyr ariannol i gwblhau gorchmynion yn fwy effeithlon, cynorthwyo swyddogion sy’n ymateb i geisiadau am guddwybodaeth, a gwella cydweithio o fewn y DU ac â phartneriaid rhyngwladol ym maes gorfodi’r gyfraith. Drwy symleiddio prosesau ymchwilio a rhwymedïau sifil, bydd deallusrwydd artiffisial yn atgyfnerthu ymdrechion i amddifadu troseddwyr o enillion anghyfreithlon.

111. Mae data cywir a metrigau perfformiad yn sail i arwain ac ymateb yn effeithiol. Felly, bydd y Swyddfa Gartref yn adolygu ac yn gwella’r ffordd y caiff troseddau twyll a’u canlyniadau eu cofnodi yn Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref, gan foderneiddio a symleiddio categorïau, a chysoni â setiau data swyddogol eraill. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i heddluoedd reoli achosion, mesur perfformiad a thargedu ymyriadau. Ochr yn ochr â hyn, caiff perfformiad ehangach heddluoedd lleol a rhanbarthol ei adolygu drwy fframwaith arolygu Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu (PEEL) Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), gan wella cysondeb a safonau ymchwiliadau a gofal i ddioddefwyr.

112. Bydd ymateb gorfodi’r gyfraith effeithiol yn dibynnu ar bobl fedrus yn ogystal â strwythurau cadarn. Erbyn 2028, bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi argymhellion o Adolygiad Sgiliau’r Heddlu ar waith gydag Academi Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau Heddlu Dinas Llundain a’r Coleg Plismona. Bydd hyn yn cynnwys fframwaith hyfforddi clir, dadansoddiad o fylchau sgiliau, a chyrsiau newydd er mwyn uwchsgilio swyddogion ym meysydd twyll, seiberdroseddau a throseddau economaidd. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn ymdrin â chymorth i ddioddefwyr ac atal twyll cyhoeddus. Bydd ap Twyll a Throseddau Economaidd yr Academi yn cefnogi’r mentrau hyn drwy gynnig mynediad cyflym at ganllawiau, offer ac adnoddau.

113. Mae cadw arbenigedd yr un mor allweddol. Gan adeiladu ar yr adolygiad sgiliau a Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Troseddau Economaidd, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a diwydiant i ddylunio a chreu ‘proffesiwn’ troseddau economaidd erbyn 2029. Bydd hyn yn sefydlu llwybrau gyrfa a fframweithiau sgiliau er mwyn helpu arbenigwyr i ddatblygu ac aros yn eu rolau, gan gyd-fynd â phroffesiynau atal twyll sydd eisoes yn bodoli megis yr hyn a gynigir gan Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus. Bydd y mesurau hyn yn dyfnhau arbenigedd drwy’r holl asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac yn sicrhau cynnig clir er mwyn cadw staff hyfforddedig a dawnus.

114. Wrth i droseddwyr dargedu busnesau gan ddefnyddio cynlluniau cynyddol soffistigedig, rhaid i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ddatblygu arbenigedd mewn sectorau penodol. Bydd llawer o achosion o dwyll sy’n gysylltiedig â busnesau yn gymhleth ac yn, aml, ni roddir gwybod amdanynt. I fynd i’r afael â hyn, bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu cynigion ar gyfer unedau newydd a ariennir gan fusnesau yn y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, a’r nod yw y bydd yr uned gyntaf yn gwbl weithredol yn 2028/29. Bydd yr unedau hyn yn arbenigo mewn twyll sy’n effeithio ar fusnesau, gan gynnig capasiti ac arbenigedd ychwanegol, a byddant yn adeiladu ar fodelau sydd wedi ennill eu plwyf megis yr Uned Troseddau Cardiau a Thaliadau Benodedig, yr Adran Gorfodi Twyll Yswiriant, ac Uned Troseddau Eiddo Deallusol yr Heddlu. I ddechrau, bydd y ffocws ar y sector manwerthu, sydd wedi dioddef yn arbennig o effeithiau twyll cwsmeriaid a dynwared.

115. Mae angen dull arbenigol ar gyfer twyll sy’n targedu’r bobl fwyaf agored i niwed hefyd. Dywed Safonau Masnach fod unigolion agored i niwed yn cael hyd at chwe gwaith yn fwy o alwadau a negeseuon testun twyllodrus, ac y bydd rhai dioddefwyr a ddogfennir gan droseddwyr yn derbyn hyd at 70 o lythyrau y dydd.[footnote 88] Yn aml, caiff y troseddau hyn eu trefnu o wledydd tramor ond eu hwyluso yn y DU. I fynd i’r afael â hyn, yn 2026 bydd y Llywodraeth yn treialu uned Safonau Masnach a gorfodi’r gyfraith ar y cyd newydd er mwyn manteisio ar bwerau sifil a phwerau defnyddwyr Safonau Masnach i darfu ar dwyll niferus ac adennill asedau gan droseddwyr.

6.3. Cydweithio ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith rhyngwladol

Nid yw twyll yn cadw o fewn ffiniau. Bydd troseddwyr yn manteisio ar rwydweithiau byd-eang, llwyfannau digidol a gwendidau traws-awdurdodaethol i dargedu dinasyddion a busnesau yn y DU o wledydd tramor, a hynny’n aml y tu hwnt i gyrraedd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU. Er mwyn ymateb i’r her hon, bydd angen i asiantaethau gorfodi’r gyfraith gydweithio ar draws ffiniau mewn ffordd sydd mor ystwyth a chydgysylltiedig â’r bygythiad ei hun.

116. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i arwain y frwydr ryngwladol yn erbyn twyll, gan sicrhau y bydd troseddwyr yn wynebu cyfiawnder ble bynnag y byddant yn gweithredu, ac atal troseddau yn y dyfodol. Mae rhwydwaith o bartneriaethau strategol yn rhan ganolog o hyn. Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU yn parhau i weithio’n ddwyochrog ac yn amlochrog â chynghreiriaid, gan ddefnyddio Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol a chydweithio ag INTERPOL ac Europol i rannu cuddwybodaeth a chynnal ymgyrchoedd ar y cyd, a chydgysylltu gweithgarwch tarfu. Mae rhannu data yn effeithiol yn allweddol er mwyn trechu gangiau troseddol cyfundrefnol, a bydd y Swyddfa Gartref a’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol yn gweithio gyda gwledydd partner i adolygu fframweithiau cyfreithiol a chwalu rhwystrau rhag cyfnewid cuddwybodaeth ar draws ffiniau, gan alluogi gwell cysondeb o ran polisi a chydweithredu gweithredol.

Astudiaeth Achos: Ymgyrch SERENGETI 2.0

Ymgyrch a gydgysylltwyd gan INTERPOL ac a gefnogwyd gan y DU oedd ymgyrch Serengeti 2.0, ac arweiniodd at arestio mwy na 1,200 o droseddwyr ledled Affrica, gan dargedu bron i 88,000 o ddioddefwyr ac adennill 97.4 o Ddoleri’r UDA.

Fel rhan o’r ymgyrch, aeth ymchwilwyr o’r DU a 18 o wledydd Affrica i’r afael â throseddau niweidiol iawn a mawr eu heffaith gan gynnwys twyll buddsoddi, peryglu e-bost busnesau a meddalwedd wystlo. Atgyfnerthwyd yr ymgyrch gan bartneriaid o’r sector cyhoeddus a roddodd guddwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant er mwyn helpu’r ymchwilwyr i weithredu mewn ymateb i guddwybodaeth ac adnabod troseddwyr yn effeithiol.

117. Bydd INTERPOL yn parhau i fod yn bartner hanfodol, gan gynnwys drwy ei system ALERT ar gyfer olrhain asedau ac unigolion sy’n gysylltiedig â throseddau. Bydd y DU yn atgyfnerthu ei gweithgarwch ymgysylltu drwy holl raglenni INTERPOL ar gyfer troseddau economaidd a seiberdroseddau ac yn cyfrannu arbenigedd at weithrediadau byd-eang megis Ymgyrch Serengeti. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Europol er mwyn cynyddu cyrhaeddiad y DU cymaint â phosibl, gan gyfnewid cuddwybodaeth yn rhagweithiol drwy SIENA Europol a chymryd rhan mewn mentrau amlddisgyblaethol.

118. Bydd y DU yn cefnogi INTERPOL ymhellach drwy helpu i sefydlu Tasglu Twyll Byd-eang erbyn 2029 i gydgysylltu ymchwiliadau rhyngwladol a chwalu gweithrediadau troseddol gan gynnwys canolfannau sgamio. Bydd y Tasglu’n canolbwyntio ar dri chonglfaen: gorfodi tactegol (arestio, atafaelu asedau), tarfu strategol (sancsiynau, ymyrryd â chadwyni cyflenwi, cyfyngiadau teithio), a phartneriaethau cyhoeddus-preifat er mwyn mynd i’r afael â hwyluswyr mewn diwydiant.

6.4. Sicrhau cyfiawnder drwy ganlyniadau troseddol a sifil

Mae sicrhau cyfiawnder yn hanfodol er mwyn helpu dioddefwyr i ymadfer, lleihau achosion o aildroseddu, a sicrhau y caiff troseddwyr eu cosbi. Mae gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith traddodiadol rôl allweddol i’w chyflawni, yn enwedig o ran ymateb i’r mathau mwyaf niweidiol o dwyll. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, os na fydd digon o dystiolaeth ar gyfer erlyn, bydd achos sifil yn ffordd fwy effeithiol o ymateb yn gyflym i dwyll niferus.

119. Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, dim ond 3,631 o unigolion a gafodd ddedfryd yn y pen draw. Yn wyneb troseddu ar y raddfa hon, mae angen ffordd newydd o weithredu sy’n gwella ein dull o ymdrin â chyfiawnder troseddol ac yn defnyddio cyfiawnder sifil ar gyfer troseddau lefel is.[footnote 89]

Niferoedd Dedfrydau Twyll, y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ym mis Medi

Niferoedd Dedfrydau Twyll, y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ym mis Medi

Ffigur 3: Troseddwyr blynyddol a ddedfrydwyd am dwyll, o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2010 i’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025 (codau NFIB 51, 52, 53.4, 53.6, 53B.1, 53C, 53D, 53E, 53F) Ffynhonnell: Ystadegau

Cyfiawnder Troseddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025.

120. Er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o fygythiad twyll wrth iddo ddatblygu, ac er mwyn sicrhau y bydd ein fframwaith deddfwriaethol yn parhau i fod yn addas at y diben, comisiynodd y Llywodraeth Jonathan Fisher CB i gynnal adolygiad annibynnol o’r rhwystrau rhag canfod twyll, ymchwilio iddo a’i erlyn. A hithau bellach wedi cael yr adroddiad hwn, bydd y Llywodraeth yn mynd ati’n ofalus i ystyried ei ganfyddiadau a’i argymhellion, a fydd yn helpu i lywio ymateb mwy ymaddasol ac ystwyth sydd â mwy o ffocws ar y dyfodol i’r newidiadau i ddulliau a graddfa twyll.

121. Mae sicrhau cyfiawnder mewn achosion o dwyll yn mynd yn fwyfwy heriol, a hynny’n rhannol oherwydd cymhlethdod y dystiolaeth. Er bod cyfran yr erlyniadau sy’n arwain at euogfarnau wedi aros yn sefydlog ar y cyfan, ar gyfartaledd o 82% dros y pum mlynedd diwethaf, mae cyfanswm nifer yr achosion o dwyll a erlynir wedi lleihau 56% ers 2015.[footnote 90] Er mwyn sicrhau penderfyniadau cyflymach ac osgoi oedi cyn dod â throseddwyr difrifol o flaen eu gwell, fel y cyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno treialon barnwr yn unig ar gyfer yr achosion twyll mwyaf cymhleth erbyn diwedd y Senedd hon.[footnote 91]

122. Hefyd, mae cynnydd mewn tystiolaeth ddigidol a hen ddeddfwriaeth yn rhoi mwy o straen ar adnoddau, ac mae achosion twyll bellach yn cymryd dros 626 diwrnod i gyrraedd cyhuddiad o gymharu â chyfartaledd o 80 diwrnod ar gyfer achos yn gyffredinol. [footnote 92], [footnote 93] Felly, mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i foderneiddio’r broses ddatgelu er mwyn iddi fod yn addas at y diben yn yr oes ddigidol, fel y nodwyd yn Natganiad Ysgrifenedig y Gweinidog ar 26 Ionawr 2026, i dorri biwrocratiaeth a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol i symleiddio ymchwiliadau a rhyddhau miliynau o oriau’r heddlu.[footnote 94], [footnote 95]

123. Er mwyn atal troseddwyr difrifol rhag aildroseddu, mae Deddf Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo 2025 yn atgyfnerthu’r gyfundrefn Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol drwy ehangu’r amrywiaeth o gyrff sy’n gallu gwneud cais yn uniongyrchol i’r Uchel Lys (gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, heddluoedd, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn a CThEF), gan gadarnhau pŵer datganedig y llys i orchymyn monitro electronig gyda mesurau diogelu a therfynau amser penodedig, safoni gofynion hysbysu ar gyfer pobl sy’n destun Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol, a grymuso Llys y Goron i wneud Gorchymyn o’r fath yn dilyn rhyddfarn neu apêl.

124. Bydd gorfodi sifil yn ategu sancsiynau troseddol. Mae’r Swyddfa Gartref yn cefnogi cynlluniau peilot gorfodi’r gyfraith sy’n canolbwyntio ar gymryd camau cyfreithiol yn erbyn troseddwyr ac adennill arian dioddefwyr drwy gyfraith sifil erbyn 2028. Fel y nodwyd yn yr ymateb ym mis Gorffennaf 2025 i Bwyllgor Cyswllt Tŷ’r Arglwyddi, bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn parhau i ystyried a fydd cyflwyno cosbau sifil am dwyll a hwyluso gwyngalchu arian yn ddewis amgen effeithiol yn lle cyfraith trosedd.[footnote 96] Gallai hyn fod yn seiliedig ar fodelau megis Deddf Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) 2025, sy’n rhoi pwerau i roi cosbau sifil am dwyll ac ymgeisiau i dwyllo.[footnote 97]

Astudiaeth Achos – Adennill Sifil (cyfathrebu preifat)

Mae un manwerthwr ar-lein wedi gwneud 590 o hawliadau sifil llwyddiannus yn erbyn pobl a oedd wedi cyflawni twyll dychwelyd er mwyn cael nwyddau heb dalu. Mae 438 o’r achosion hyn wedi cael eu penderfynu, ac mae diffynyddion wedi talu cyfanswm o £271,000. Mae’r 154 o achosion llwyddiannus sy’n weddill, sy’n werth cyfanswm o ychydig o dan £100,000, ar gynlluniau talu.

6.5. Crynodeb o’r camau Ymateb

125. Gwella Profiadau Dioddefwyr

  • Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda Heddlu Dinas Llundain i wreiddio a gweithredu’r gwasanaeth Report Fraud newydd (o 2026 ymlaen);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn cyflwyno Siarter Dioddefwyr Twyll (yn 2027);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn archwilio cyfleoedd i gefnogi dioddefwyr twyll ymhellach drwy wasanaethau atgyweirio hunaniaeth.

126. Gwella galluoedd ymchwilio asiantaethau gorfodi’r gyfraith:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gwerthuso effaith yr Uned Dwyll Genedlaethol (yn 2027);
  • bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gydag Ofcom a diwydiant i roi cynllun olrhain telathrebu cenedlaethol ar waith (erbyn dechrau 2028);
  • Bydd y Llywodraeth yn helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddatblygu offer a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i adennill enillion troseddau, gan gynnwys twyll;
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn adolygu ac yn gwella’r ffordd y caiff troseddau twyll a’u canlyniadau eu cofnodi yn Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref (yn 2027);
  • Bydd y Llywodraeth yn adolygu ymateb heddlu lleol drwy fframwaith arolygu PEEL HMICFRS;
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi argymhellion adolygiad sgiliau’r heddlu ar waith (erbyn 2028);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn dylunio ac yn creu ‘proffesiwn’ troseddau economaidd (erbyn 2029);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu cynigion ar gyfer unedau newydd a ariennir gan fusnesau (yn 2028);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn treialu uned Safonau Masnach a gorfodi’r gyfraith ar y cyd newydd (yn 2026).

127. Cydweithio ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith rhyngwladol:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gydag INTERPOL ac Europol i gynnal ymgyrchoedd ar y cyd a rhannu cuddwybodaeth;
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn helpu INTERPOL i sefydlu Tasglu Twyll Byd-eang (erbyn 2029).

128. Sicrhau cyfiawnder drwy ganlyniadau troseddol a sifil:

  • Bydd y Llywodraeth yn ystyried y cynigion o’r Adolygiad Annibynnol o Dwyll;
  • Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno treialon barnwr yn unig ar gyfer yr achosion twyll mwyaf cymhleth (erbyn diwedd y Senedd hon);
  • Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i foderneiddio’r broses ddatgelu er mwyn iddi fod yn addas at y diben yn yr oes ddigidol;
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn cefnogi cynlluniau peilot gorfodi’r gyfraith sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio pwerau sifil i fynd ar ôl troseddwyr ac adennill arian dioddefwyr (erbyn 2028);
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn ystyried cyflwyno cosbau sifil am dwyll a gwyngalchu arian.

7. Llywodraethu ac Atebolrwydd

Mae graddfa a natur soffistigedig twyll, a chymhlethdod y system sy’n ceisio mynd i’r afael ag ef, yn galw am fframwaith llywodraethu cadarn sy’n seiliedig ar atebolrwydd, cydlyniant a dealltwriaeth graff. Drwy strwythur llywodraethu wedi’i gyfoethogi, byddwn yn sicrhau arweinyddiaeth glir i ysgogi’r broses o roi’r Strategaeth Dwyll ar waith, gwerthuso effaith, a dwyn y system atal twyll i gyfrif.

7.1. Arweinyddiaeth a llywodraethu

129.  Mae’r Strategaeth hon yn sefydlu model llywodraethu cyfnerth sy’n rhoi eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau ac yn cynyddu goruchwyliaeth dros waith cyflawni. Bydd y Swyddfa Gartref yn gwreiddio arferion rheoli risg systemig drwy bob rhan o’r system atal twyll a’i threfniadau llywodraethu, gan wella ein gallu i ragweld bygythiadau sy’n datblygu, ymateb iddynt, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a chynnal gwydnwch.

130. Mae trosolwg Gweinidogol cadarn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod twyll yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Yr Ysgrifennydd Cartref sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am drechu twyll yn erbyn unigolion a busnesau, gyda chymorth y Gweinidog yn y Swyddfa Gartref â chyfrifoldeb am drechu twyll, sy’n arwain ar waith cyflawni ac ymgysylltu drwy’r system gyfan o ddydd i ddydd.

131. Bydd y Bwrdd Strategol Troseddau Economaidd yn parhau i fod yn gyfrifol am ymateb y Llywodraeth i droseddau economaidd, gan gynnwys twyll. O dan y Bwrdd Strategol mae’r Tasglu Twyll ar y Cyd a’r Grŵp Atebolrwydd Gweinidogol newydd.

132. Bydd y Tasglu’n parhau i gyfarfod bob chwarter gan ddod â Gweinidogion ynghyd o adrannau perthnasol y Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, rheoleiddwyr a diwydiant i gydgysylltu camau gweithredu a monitro cynnydd. Bydd y Tasglu’n parhau i gynrychioli haen uchaf y bartneriaeth gyhoeddus-breifat o fewn y system atal twyll.

133. Hefyd, bydd y gwaith o gyflawni’r Strategaeth hon yn llwyddiannus yn cynnwys sicrhau goruchwyliaeth gadarn o weithgarwch cyflawni a pherfformiad yr amrywiaeth lawn o sefydliadau yn y sector cyhoeddus sy’n ymwneud â threchu twyll. Felly, rydym yn cyflwyno Grŵp Atebolrwydd Gweinidogol ar Dwyll newydd, a gaiff ei gadeirio gan Weinidog Gwladol y Swyddfa Gartref â chyfrifoldeb am drechu twyll, a fydd yn eistedd ochr yn ochr â’r Tasglu Twyll ar y Cyd i greu un swyddogaeth i’r sector cyhoeddus cyfan ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol ac atebolrwydd ar y lefel uchaf.

134. Hefyd, caiff adroddiad blynyddol ar gynnydd ei gyflwyno i Weinidogion er mwyn sicrhau y caiff cyfeiriad strategol ei adolygu’n rheolaidd ac y caiff y system atal twyll ei dwyn i gyfrif.

Bwrdd Strategol Troseddau Economaidd (cyhoeddus) - Grŵp Atebolrwydd Gweinidogol ar gyfer Twyll (cyhoeddus)

Bwrdd Strategol Troseddau Economaidd (cyhoeddus) - Tasglu Twyll ar y Cyd (cyhoeddus-preifat)

Ffigur 4

Ffigur 4: Strwythur llywodraethu’r Strategaeth Dwyll

7.2. Cydlyniant strategol

135. Nid yw twyll yn rhywbeth sy’n bodoli ar ei ben ei hun. Mae’r Strategaeth Dwyll hon wedi’i gwreiddio o fewn ecosystem ehangach o strategaethau cenedlaethol sy’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer diogelu pobl a busnesau’r DU rhag amrywiaeth o fygythiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch a throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r Swyddfa Gartref wedi gweithio’n agos gyda pherchnogion pob un o’r strategaethau hyn i sicrhau bod y gweithgarwch arfaethedig yn gyson. Mae hyn yn cynnwys Strategaeth Diogelwch Gwladol 2025, Cynllun Troseddau Economaidd 2, y Strategaeth yn erbyn Llygredigaeth, Strategaethau Seiber, Seiberdroseddau ac Atal Gwyngalchu Arian ac Adennill Asedau sydd i ddod, yn ogystal â Strategaeth Swyddogaethol Gwrth-dwyll 2024-2027 sy’n canolbwyntio ar dwyll yn y sector cyhoeddus.

136. Bydd mwy o gysondeb rhwng yr ymdrechion i drechu twyll a’r gwaith i drechu seiberdroseddau. Mae cyflymder newid technolegol a natur hynod soffistigedig troseddoldeb twyll modern yn golygu y caiff llawer o achosion o dwyll eu hwyluso gan seiberdroseddau niferus, os nad pob un ohonynt. Byddwn yn parhau i weithio tuag at sicrhau cysondeb agosach rhwng polisïau, gweithgarwch cyflawni a threfniadau llywodraethu wrth i’r systemau twyll a seiberdroseddau ddatblygu.

137. Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn dal yn weithredol annibynnol ond, mewn system mor gymhleth â hon, mae’n hanfodol bod strategaethau a gweithrediadau’n gyson â’i gilydd. Felly, bydd y model llywodraethu ar ei newydd wedd yn cysoni blaenoriaethau rhwng meysydd bygythiad, gan sicrhau cydlyniant strategol ac atebolrwydd cyson am berfformiad.

7.3. Metrigau

138. Er mwyn parhau i oruchwylio’r Strategaeth, byddwn yn adolygu cyfres estynedig o ddangosyddion (Atodiad B) er mwyn rhoi darlun mwy cynhwysfawr a chraff o effaith y Strategaeth, gan ein galluogi i fesur cynnydd mewn sawl un o ddimensiynau’r dirwedd dwyll. Mae hyn yn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd gan yr Adroddiad ar Gynnydd o ran Canlyniadau Cynllun Troseddau Economaidd 2 a’r Strategaeth Dwyll flaenorol, gan sicrhau parhad gan ymgorffori ffynonellau data a dulliau newydd er mwyn gwella cywirdeb a pherthnasedd ar yr un pryd.[footnote 98], [footnote 99]

139. Caiff ystadegau twyll eu mesur drwy Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer unigolion a’r Arolwg Troseddau Economaidd ar gyfer busnesau sydd â chyflogeion. Mae amcangyfrifon o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, a gaiff eu diweddaru bob chwarter, yn cynnwys achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt ac na roddwyd gwybod amdanynt, ac ni fydd newidiadau mewn ymddygiad o ran rhoi gwybod nac ymwybyddiaeth y cyhoedd yn dylanwadu arnynt. Mae tystiolaeth o Arolwg Troseddau Economaidd 2024 wedi cael ei hychwanegu am ei bod yn rhoi tystiolaeth o nifer yr achosion, a nifer y dioddefwyr twyll sy’n fusnesau. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i gadw golwg ar dueddiadau drwy arolwg o brofiadau busnesau o dwyll. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i weithio gyda phartneriaid cyflawni i atgyfnerthu’r data sydd ar gael a mireinio’r fframwaith hwn ymhellach, gan gynnwys datblygu damcaniaeth newid, symud ymdrechion i wella data yn eu blaen, ac adnabod meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwerthusiadau manwl.

140. Bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi diweddariad a fydd yn amlinellu gwybodaeth allweddol am gynnydd o ran cyflawni, yn ogystal â datblygiadau ym maes data newydd sy’n mynd i’r afael â chyfyngiadau presennol ac yn atgyfnerthu ein gallu i fesur perfformiad yn gynhwysfawr. Bwriedir i hyn gael ei gwblhau unwaith yn ystod cyfnod cyflawni’r Strategaeth, ac unwaith eto ar ôl diwedd y cyfnod hwn. Bydd gweithgarwch i ymgysylltu â phartneriaid cyflawni yn parhau er mwyn atgyfnerthu data a datblygu’r fframwaith canlyniadau a’r metrigau cysylltiedig drwy gydol cyfnod y strategaeth.

7.4. Partneriaid cyflawni

Adrannau a Chyrff Cyhoeddus Anadrannol

Swyddfa’r Cabinet: Swyddfa’r Cabinet sy’n arwain dull trawslywodraethol y DU o atal twyll yn y sector cyhoeddus. Mae’n nodi’r cyfeiriad strategol, yn datblygu safonau gorfodol (megis GovS 013), ac yn goruchwylio Swyddogaeth Atal Twyll y Llywodraeth. Drwy Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, mae’n ysgogi proffesiynoldeb, galluogrwydd ac arloesedd, gan sicrhau bod adrannau a chyrff cyhoeddus yn cydweithio â’i gilydd i atal twyll, ei ganfod ac ymateb iddo. Mae hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cardiau Adnabod Digidol cenedlaethol newydd.

Y Comisiwn Elusennau: Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yw’r rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr. Mae’n adran anweinidogol annibynnol o fewn y Llywodraeth sy’n atebol i Senedd y DU. Fel cofrestrydd, mae’r Comisiwn yn gyfrifol am gynnal cofrestr gywir a chyfredol o elusennau. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw sefydliadau’n rhai elusennol a ddylai fod wedi’u cofrestru. Bydd y Comisiwn hefyd yn dileu elusennau o’r gofrestr os penderfynir nad ydynt yn rhai elusennol, os na fyddant yn bodoli mwyach, neu os na fyddant yn weithredol. Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon yw’r rheoleiddwyr yn eu priod wledydd.

Tŷ’r Cwmnïau: Tŷ’r Cwmnïau yw’r cofrestrydd swyddogol ar gyfer cwmnïau yn y DU. Mae’n gyfrifol am ymgorffori a diddymu cwmnïau, cynnal cofrestr gyfredol o wybodaeth am gwmnïau, a sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith cwmnïau’r DU. Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cynnig mynediad at wybodaeth gyhoeddus am gwmnïau, gan gynnwys cyfeiriadau cofrestredig, manylion cyfarwyddwyr a chyfranddalwyr, a chyfrifon ariannol blynyddol, gan hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd yn economi’r DU. Cyflwynodd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (2023) ddiwygiadau sylweddol i Dŷ’r Cwmnïau er mwyn gwella tryloywder, atgyfnerthu amgylchedd busnes y DU, cefnogi diogelwch gwladol a tharfu ar droseddau economaidd.

Gwasanaeth Erlyn y Goron: Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n gyfrifol am erlyn achosion troseddol, gan gynnwys twyll, y gwnaeth yr heddlu ac asiantaethau eraill yng Nghymru a Lloegr ymchwilio iddynt. Mae’n rhoi cyngor cyfreithiol yn ystod ymchwiliadau, yn gwneud penderfyniadau ynghylch cyhuddo, ac yn cyflwyno achosion yn y llys, gan weithio’n agos gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff rheoleiddio i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.

Yr Adran Busnes a Masnach: Mae’r Adran Busnes a Masnach yn cyflawni rôl allweddol o ran diogelu hygrededd amgylchedd busnes y DU. Mae’n datblygu polisïau a rheoliadau er mwyn atal twyll ym myd busnes, yn helpu cwmnïau i reoli risgiau twyll, ac yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â throseddau economaidd, gan gynnwys twyll sy’n effeithio ar fasnach.

Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am bolisïau sy’n ymwneud â’r cyfryngau a’r diwydiannau creadigol, sy’n cynnwys hysbysebu. Hefyd, dyma’r adran arweiniol ar gyfer y Tasglu Hysbysebu Ar-lein, a gaiff ei gadeirio gan y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol, y Cyfryngau a’r Celfyddydau.

Yr Adran Addysg: Mae’r Adran Addysg yn cyflawni rôl allweddol o ran diogelu plant a phobl ifanc, gan gynnwys helpu ysgolion i addysgu pobl ifanc ynglŷn â llythrennedd yn y cyfryngau, niwed ar-lein ac addysg ariannol.

Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg: Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg sy’n gyfrifol am bolisïau ynghylch yr ecosystem ar-lein, hunaniaeth ddigidol a thelathrebu, yn ogystal ag arwain ar bolisi ynghylch deallusrwydd artiffisial. Mae’n gyfrifol am ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â llwyfannau ar-lein a thelathrebu. Mae’r Swyddfa Hunaniaeth a Phriodweddau Digidol yn rhan o’r Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg. Hefyd, hon yw’r adran noddi sy’n gyfrifol am reoli’r berthynas rhwng y Llywodraeth ac Ofcom, mewn perthynas â swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau Ofcom.

Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol: Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n rheoleiddio cwmnïau a marchnadoedd gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae’n gosod safonau er mwyn atal a chanfod twyll yn y sector ariannol, yn goruchwylio mesurau rheoli gwrth-dwyll cwmnïau, ac yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n cyflawni neu’n hwyluso twyll.

Mae’r Awdurdod hefyd yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a phartneriaid rhyngwladol i darfu ar droseddau ariannol.

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu: Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn arwain gweithgarwch ymgysylltu rhyngwladol y DU ac yn cefnogi galluogrwydd Llywodraeth EF wrth weithio dramor i ymgysylltu â llywodraethau eraill, sefydliadau rhyngwladol, a phartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith er mwyn mynd i’r afael â thwyll trawsffiniol. Y Swyddfa hon sydd hefyd yn gyfrifol am bolisi sancsiynau Llywodraeth EF.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF): GLlTEF sy’n gweinyddu’r system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, gan helpu i erlyn a dyfarnu achosion o dwyll. Mae’n sicrhau bod gan lysoedd a thribiwnlysoedd yr hyn sydd ei angen arnynt i ymdrin â threialon twyll cymhleth ac yn helpu i adennill asedau gan droseddwyr euogfarnedig.

Trysorlys EF: Trysorlys EF sy’n gyfrifol am reoli cyllid cyhoeddus a pholisi gwasanaethau ariannol mewn gwledydd tramor yn gyffredinol.

Y Swyddfa Gartref: Mae’r Swyddfa Gartref yn lleihau risgiau diogelwch cartref i bobl, ffyniant a rhyddid y DU drwy’r Grŵp Diogelwch Cartref. Mae hyn yn cynnwys y risgiau yn sgil twyll a throseddau economaidd ehangach. Mae’n arwain systemau ym mhob rhan o’r Llywodraeth ac yn cynnal mentrau strategol, gan gydweithio’n agos ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, rheoleiddwyr a sefydliadau allanol eraill i ddatblygu polisïau, atgyfnerthu deddfwriaeth a chefnogi gweithgarwch gweithredol er mwyn tarfu ar dwyll, ei atal, a diogelu’r DU. Yr Ysgrifennydd Cartref sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am drechu twyll yn erbyn unigolion a busnesau, a’r Gweinidog penodedig dros Dwyll sy’n arwain ar waith cyflawni o ddydd i ddydd.

Gwasanaeth Ansolfedd: Mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn un o asiantaethau gweithredol yr Adran Busnes a Masnach. Ymhlith ei brif gyfrifoldebau mae gweinyddu methdaliadau a datodiadau cwmnïau, ymchwilio i gamymddwyn ariannol, gorfodi rheoliadau, rhoi gwybodaeth ar brosesau ansolfedd a gweinyddu taliadau dileu swyddi pan fydd cwmnïau’n methdalu. Ers i Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 ddod i rym, mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn ehangu ei rôl orfodi.

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol: Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn helpu awdurdodau lleol i reoli risgiau twyll o fewn gwasanaethau llywodraeth leol.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n goruchwylio polisi mewn perthynas â chyfiawnder troseddol a’r system gyfiawnder, gan gynnwys erlyn a chosbi cyflawnwyr troseddau twyll, yn ogystal â chadw troseddwyr yn y ddalfa a’u hadsefydlu.

Mae’n gweithio gyda GLlTEF, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i sicrhau y caiff achosion o dwyll eu rheoli’n effeithiol drwy’r llysoedd a bod dioddefwyr yn cael cymorth priodol.

Y Swyddfa Gyfathrebiadau (Ofcom): Ofcom sy’n rheoleiddio sectorau cyfathrebu’r DU, gan gynnwys telathrebu a llwyfannau ar-lein fel y cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio. Mae’n gweithio gyda diwydiant i darfu ar dwyll a’i atal, gan gynnwys galwadau ffug a thwyll ar-lein, ac mae’n cefnogi mentrau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn helpu defnyddwyr i’w diogelu eu hunain.

Rheoleiddiwr Systemau Talu: Mae’r Rheoleiddiwr Systemau Talu yn sicrhau bod systemau talu yn deg, yn effeithlon, ac yn ddiogel, gan roi ffocws cadarn ar ddiogelu defnyddwyr rhag twyll. Mae ei rôl yn cynnwys gosod rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau talu roi mesurau atal twyll ac arferion monitro effeithiol ar waith. Un o’i gyfrifoldebau allweddol yw gorfodi gofynion i ad-dalu dioddefwyr mathau penodol o dwyll.

Y Rheoleiddiwr Pensiynau: Y Rheoleiddiwr Pensiynau yw’r corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddiogelu pensiynau’r gweithle yn y DU. Mae’n sicrhau bod cyflogwyr, ymddiriedolwyr ac arbenigwyr pensiynau’n cyflawni eu dyletswyddau i aelodau cynlluniau, ac mae’n nodi canllawiau er mwyn sicrhau bod arian cynilwyr yn ddiogel. Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy’n arwain y Grŵp Gorfodi ar Sgamiau Pensiwn, sef tasglu amlasiantaethol sy’n cynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y Llywodraeth a diwydiant yn cydweithio â’i gilydd i drechu twyll pensiynau.

Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus: Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus yw’r ganolfan arbenigedd ar gyfer atal twyll yn y sector cyhoeddus. Mae’n arwain at strategaeth, meithrin galluogrwydd, ac arloesedd, yn rhoi arweiniad a chymorth i adrannau a chyrff cyhoeddus, ac yn ysgogi’r defnydd o ddata a thechnoleg i ganfod ac atal twyll.

Y Swyddfa Twyll Difrifol: Mae’r Swyddfa Twyll Difrifol yn ymchwilio i achosion difrifol neu gymhleth o dwyll, llwgrwobrwyo, a llygredigaeth ac yn eu herlyn. Mae’n ymdrin ag achosion sydd o bwys cenedlaethol neu sy’n ymwneud â budd sylweddol i’r cyhoedd, gan weithio’n agos gyda phartneriaid domestig a rhyngwladol.

Partneriaid Gorfodi’r Gyfraith a Chuddwybodaeth

Heddlu Dinas Llundain: Mae Heddlu Dinas Llundain yn arbenigo mewn trechu twyll, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, monitro perfformiad, rhannu cuddwybodaeth, hyrwyddo arferion gorau, a rhoi hyfforddiant a chymorth i gymheiriaid. Mae hyn yn cynnwys helpu heddluoedd i roi Strategaeth Blismona Genedlaethol ar gyfer Twyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau 2023-2028 ar waith a rhoi hyfforddiant gweithredol drwy ei Academi Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau. Heddlu Dinas Llundain sy’n rheoli Report Fraud, sef y gwasanaeth cenedlaethol newydd ar gyfer rhoi gwybod am dwyll sy’n dadansoddi adroddiadau ac yn dosbarthu achosion dichonadwy i heddluoedd. Mae hefyd yn rheoli Gwasanaethau Dioddefwyr Report Fraud, a swyddogaeth gydgysylltu genedlaethol Rhwydwaith Cydgysylltwyr Fraud Protect, i rannu negeseuon atal twyll wedi’u targedu er mwyn helpu’r cyhoedd i’w diogelu eu hunain drwy wella eu gallu i wrthsefyll twyll. Yn amodol ar ganfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Heddluoedd, byddwn yn asesu p’un a ddylai gwasanaethau arbenigol Heddlu Dinas Llundain gael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol neu a allent gael eu dirprwyo a pharhau i gael eu darparu gan Heddlu Dinas Llundain dan gyfarwyddyd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol.

Y Coleg Plismona: Mae’r Coleg Plismona yn gosod safonau proffesiynol ac yn rhoi hyfforddiant i swyddogion a staff yr heddlu, gan gynnwys ymchwil i dwyll a’i atal. Mae’n datblygu canllawiau ac yn cefnogi gwelliant parhaus mewn arferion plismona.

Heddluoedd Lleol yng Nghymru a Lloegr: Y 43 o heddluoedd tiriogaethol yng Nghymru a Lloegr sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau twyll a chefnogi dioddefwyr yn eu hardaloedd, gyda chymorth galluoedd cenedlaethol, cydgysylltu ac arweinyddiaeth a gynigir drwy Heddlu Dinas Llundain a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Maent hefyd yn cyflawni rôl allweddol o ran codi ymwybyddiaeth a meithrin y gallu i wrthsefyll twyll yn lleol.

Y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol: Bydd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol yn cynnig un ffynhonnell arweinyddiaeth strategol i wasanaeth yr heddlu, gan ddisodli’r cymysgedd dryslyd o sefydliadau a geir ar hyn o bryd. Bydd yn gosod safonau cenedlaethol mwy cadarn er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cyson i’r cyhoedd ledled y wlad. Bydd hefyd yn darparu gwasanaethau galluogi a chymorth gwell i asiantaethau plismona lleol, megis gwasanaethau TG cenedlaethol, gwasanaethau masnachol cenedlaethol, a gwasanaethau fforensig. Hefyd, bydd y Gwasanaeth yn atgyfnerthu ein gallu i fynd i’r afael â therfysgaeth a throseddau difrifol a chyfundrefnol drwy ddod â’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Plismona Gwrthderfysgaeth, ac Unedau Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ynghyd. Bydd cyfrifoldeb cyffredinol am Dwyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol fydd yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y troseddau hyn. Bydd hyn yn sicrhau dull wedi’i symleiddio gyda rolau cliriach a chyfrifoldebau pennu tasgau mwy effeithiol.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n arwain brwydr y DU yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys twyll cymhleth a gwerth uchel. Mae’n cydgysylltu ymchwiliadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn tarfu ar rwydweithiau troseddol, ac yn gweithio gyda phartneriaid i adennill asedau troseddol. Fel y nodir uchod, bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol.

Y Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol: Mae’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol, a gaiff ei lletya gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yn dod ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, rheoleiddwyr a’r Llywodraeth ynghyd i gydgysylltu ymateb gorfodi’r gyfraith y DU i droseddau economaidd, gan gynnwys twyll. Mae’n pennu blaenoriaethau, yn rhannu cuddwybodaeth, ac yn arwain ymgyrchoedd ar y cyd i fynd i’r afael â’r bygythiadau mwyaf difrifol. Mae’r Ganolfan yn arwain systemau gweithredol ar gyfer ymateb y system atal twyll. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â diwydiant drwy sawl model partneriaeth gyhoeddus-breifat ac â phartneriaid gorfodi’r gyfraith yn rhyngwladol er mwyn diogelu dinasyddion y DU rhag twyll sy’n tarddu o wledydd tramor. Hefyd, mae’n arwain yr Uned Dwyll Genedlaethol (ar y cyd â Heddlu Dinas Llundain) sy’n cynnwys ymchwilwyr twyll arbenigol ac sy’n defnyddio cuddwybodaeth i fynd ati’n rhagweithiol i ganfod y troseddwyr mwyaf difrifol sy’n targedu’r DU a tharfu arnynt.

Safonau Masnach Cenedlaethol: Adrannau o fewn cynghorau lleol yn y DU sy’n gyfrifol am sicrhau masnachu teg, diogelwch i ddefnyddwyr, a chydymffurfiaeth â deddfau sy’n gysylltiedig â diogelwch cynhyrchion ac arferion busnes yw Safonau Masnach Cenedlaethol. Maent yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr ac yn gyfrifol am gasglu cuddwybodaeth bwysig er mwyn mynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus. Mae ganddynt hefyd dimau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thwyll ac e-droseddau ar raddfa fawr ledled Cymru a Lloegr. Safonau Masnach yr Alban a Gwasanaeth Safonau Masnach Gogledd Iwerddon sy’n gweithredu yn eu priod wledydd.

Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol: Mae Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn rhoi cymorth arbenigol i heddluoedd er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys twyll. Maent yn cynnig galluoedd cuddwybodaeth, ymchwilio a tharfu ar lefel ranbarthol, gan gau’r bwlch rhwng ymdrechion lleol a chenedlaethol.

Heddlu’r Alban: Heddlu’r Alban sy’n arwain yr ymateb i dwyll ledled yr Alban, gan ymchwilio i droseddau, cefnogi dioddefwyr, a gweithio gyda phartneriaid i atal niwed. Mae’n cyfrannu at gydgysylltu cenedlaethol drwy ymgysylltu â mentrau ledled y DU ac yn rhannu cuddwybodaeth er mwyn mynd i’r afael â bygythiadau twyll trawsffiniol.

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau twyll yng Ngogledd Iwerddon a chefnogi dioddefwyr yn lleol. Mae’n gweithio’n agos gyda phartneriaid gorfodi’r gyfraith yn y DU i rannu cuddwybodaeth a chydgysylltu ymatebion i dwyll sy’n effeithio ar gymunedau ar draws awdurdodaethau.

Cymuned Guddwybodaeth y DU: Dan arweiniad Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, bydd Cymuned Guddwybodaeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei galluoedd unigryw i ddeall bygythiad twyll wrth iddo ddatblygu, a’i hwyluswyr strategol, er mwyn rhoi cyfleoedd i bartneriaid cyflawni ymyrryd, a thrwy hynny darfu ar y troseddau cyfundrefnol cysylltiedig a diogelu dinasyddion y DU rhag twyll a seiberdroseddau.

Partneriaid yn y Sector Preifat

Y Sector Gwasanaethau Ariannol: Mae’r sector gwasanaethau ariannol yn cyflawni rôl allweddol a hanfodol o ran canfod twyll, tarfu arno a’i atal. Bydd cwmnïau’n gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, rheoleiddwyr a’r Llywodraeth i rannu cuddwybodaeth, gwella amddiffyniadau cwsmeriaid, a rhoi mesurau ar waith i leihau’r risg o dwyll mewn gwasanaethau bancio, taliadau a buddsoddi.

Y Sector Telathrebu: Bydd darparwyr telathrebu’n helpu i atal twyll drwy ddiogelu sianeli cyfathrebu a lleihau cyfleoedd i droseddwyr gamfanteisio ar wasanaethau ffôn a negeseua. Byddant yn cydweithio â’r Llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i rwystro galwadau a negeseuon testun twyllodrus a rhannu data er mwyn dod o hyd i fygythiadau sy’n datblygu.

Y Sector Technoleg: Mae cwmnïau technoleg yn bartneriaid allweddol yn yr ymdrech i drechu twyll ar-lein. Byddant yn gweithio i ddiogelu defnyddwyr drwy wella diogelwch llwyfannau, cael gwared ar gynnwys twyllodrus, a rhannu cuddwybodaeth am weithgarwch troseddol. Bydd cydweithio ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r Llywodraeth yn helpu i sicrhau ymatebion cyflym i ddulliau o gyflawni twyll sy’n newydd ac sy’n datblygu.

Y Cyhoedd, Cymdeithas Sifil, a Sefydliadau Anllywodraethol

Bydd grwpiau cymdeithas sifil, sefydliadau anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn cyfrannu arbenigedd, gwaith ymchwil ac eiriolaeth at ymdrechion y DU i atal twyll. Byddant yn cefnogi dioddefwyr, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac yn craffu’n annibynnol ar weithredoedd y Llywodraeth a diwydiant. Bydd academia hefyd yn ysgogi arloesedd ym maes canfod ac atal twyll drwy waith ymchwil a chydweithio.

8. Atodiadau

Atodiad A: Cynllun cyflawni

TARFU

Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Lansio’r Ganolfan Troseddau Ar-lein Y Swyddfa Gartref, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Heddlu Dinas Llundain Ar-lein, sectorau Telathrebu ac Ariannol Dechrau yn Ch1 2026  
Lansio Galwad am Dystiolaeth er mwyn canfod rhwystrau rhag rhannu data Y Swyddfa Gartref Dechrau yn Ch1 2026  
Helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddefnyddio technolegau newydd Y Swyddfa Gartref
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Parhaus  
Noddi’r Uwchgynhadledd Dwyll Fyd-eang yn Fienna ym mis Mawrth 2026 Y Swyddfa Gartref UNODC INTERPOL
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Cwblhau yn Ch1 2026  
Mynd ar drywydd memoranda cyd-ddealltwriaeth a phartneriaethau dwyochrog â gwledydd blaenoriaeth uchel Y Swyddfa Gartref
Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Parhaus  
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Cyflawni
Parhau i ddefnyddio sancsiynau yn erbyn drwgweithredwyr mewn gwledydd tramor Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Parhaus
Goruchwylio’r broses o roi’r ail Siarter Twyll Telathrebu ar waith Y Swyddfa Gartref Y sector telathrebu Cwblhau yn Ch4 2027
lansio Galwad am Dystiolaeth ar gyfer lleihau anhysbysrwydd ac atgyfnerthu atebolrwydd yn y sector cyfathrebu Y Swyddfa Gartref Ofcom Dechrau yn Ch2 2026
Datblygu opsiynau i greu offeryn digidol diogel ar gyfer rheoli rhifau ffôn yn y DU. Y Swyddfa Gartref Gorffen yn Ch4 2026
Datblygu ffynonellau data a metrigau er mwyn tracio perfformiad diwydiant o ran trechu twyll Y Swyddfa Gartref Y sectorau Ar-lein, Telathrebu a Gwasanaethau Ariannol Parhaus
Cyflwyno’r Ddyletswydd Hysbysebu Twyllodrus Ofcom Cwblhau yn Ch4 2027
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriai d Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Partneriaeth mewn diwydiant sy’n atebol i’r Tasglu Hysbysebu Ar-lein Y Swyddfa Gartref Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Diwydiant Ar-lein Cwblhau yn Ch1 2027
Monitro a gwerthuso rheoliadau a phwerau gorfodi mewn marchnadoedd ar-lein Yr Adran Busnes a Masnach  
Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Ofcom Parhaus  
Gwneud modelau deallusrwydd artiffisial yn fwy diogel Y Swyddfa Gartref Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg Parhaus
Lansio Galwad am Dystiolaeth ynghylch twyll anawdurdodedig Y Swyddfa Gartref Dechrau yn Ch4 2026
Bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn rhannu argymhellion arferion gorau mewn perthynas â thwyll APP a gwyngalchu arian camfanteisiol Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol Parhaus
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneria id Cyflawni Dyddiad Cyflawni
Trysorlys EF yn diddymu safonau technegol presennol y Trefniadau Cadarn ar gyfer Dilysu Cwsmeriaid Trysorlys EF Cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu
Cyflymu’r broses o fabwysiadu codau mynediad Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Parhaus
Rheoleiddio gweithgareddau gwasanaethau ariannol cryptoasedau Trysorlys EF Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol Bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cadarnhau ei reolau’n derfynol yn 2026, cyn i’r gyfundrefn reoleiddio ddod i rym ym mis Hydref 2027
Sefydlu tasglu atal ffenicsio o fewn y Gwasanaeth Ansolfedd er mwyn mynd i’r afael â ffenicsio cwmnïau at ddibenion camdriniol Y Gwasanaeth Ansolfedd Dechrau yn Ch2 2026
Gwneud anfonebu electronig yn orfodol ar gyfer pob anfoneb TAW o fis Ebrill 2029 ymlaen CThEF Map trywydd Ch4 2026
Rhoi ar waith yn Ch2 2029
Ystyried hunaniaethau cwmni digidol fel ffordd o sicrhau hunaniaethau electronig a symleiddio prosesau gwirio trafodiadau Yr Adran Busnes a Masnach Parhaus

DIOGELU

Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Ehangu ymgyrch Stop! Think Fraud Y Swyddfa Gartref Dechrau yn Ch2 2026
Datblygu cyngor diduedd a chynhwysfawr i ddefnyddwyr Y Swyddfa Gartref Cwblhau yn Ch4 2026
Gwreiddio adnoddau addysgol ar gyfer plant ysgol yn Lloegr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-orllewin Lloegr ABGI Dechrau yn Ch4 2026
Gwella’r gallu i wrthsefyll twyll ymhlith myfyrwyr prifysgol Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch3 2026
Datblygu ymateb system gyfan er mwyn diogelu unigolion sy’n wynebu risg o gamddefnyddio swydd Y Swyddfa Gartref Asiantaethau gorfodi’r gyfraith Dechrau yn Ch2 2026
Cymorth i ganolfannau seiberwydnwch Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Parhaus
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Cynyddu gweithgarwch PROTECT a arweinir gan guddwybodaeth mewn ardaloedd lleol Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch3 2026
Cysoni Rhwydwaith Twyll a Seiber PROTECT Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch2 2026
Cam Gweithredu Arweinydd/ Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorf fen Cyflawni
Tyfu’r defnydd o Wirfoddolwyr Rhwydwaith PROTECT Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch2 2026
Gwella’r ffordd y bydd Rhwydwaith PROTECT yn ymateb i hysbysiadau gan ddiwydiant Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch2 2026
Lansio Cynllun Diogelu Ariannol Y Swyddfa Gartref Dechrau yn Ch2 2026
Ariannu tîm sgamiau’r gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol er mwyn cefnogi dull amlasiantaethol o atal twyll Y Swyddfa Gartref Safonau Masnach Cenedlaeth ol Dechrau yn Ch2 2026
Bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cynnal dadansoddiad o arferion rhyddhau arian wedi’i ddwyn ac yn gweithio gyda diwydiant i fynd i’r afael â gwyngalchu arian. Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol Parhaus
Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda Chymdeithas y Plant i ehangu cymorth i blant sy’n wynebu risg o gamfanteisio ariannol Y Swyddfa Gartref Cymdeithas y Plant Dechrau yn Ch3 2026
Cam Gweithredu Arweinydd/ Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorf fen Cyflawni
Atgyfnerthu’r ffordd y caiff gweithgarwch atal twyll ei gydgysylltu’n genedlaethol Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch2 2026

YMATEB

Cam Gweithredu Arweinydd/Partne riaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Gwreiddio a gweithredu gwasanaeth Report Fraud newydd Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Dechrau yn Ch1 2026
Cyflwyno Siarter Dioddefwyr Twyll Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Cwblhau yn Ch4 2027
Archwilio cyfleoedd i gefnogi dioddefwyr twyll ymhellach drwy wasanaethau atgyweirio hunaniaeth Y Swyddfa Gartref Parhaus
Cynnal asesiad o effaith yr Uned Dwyll Genedlaethol Y Swyddfa Gartref Cwblhau yn Ch4 2027
Rhoi Cynllun Olrhain Telathrebu Cenedlaethol ar waith Y Swyddfa Gartref, y sector telathrebu Cwblhau yn Ch2 2028
Helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddatblygu offer a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i adennill enillion troseddau, gan gynnwys twyll Y Swyddfa Gartref Asiantaethau gorfodi’r gyfraith Parhaus
Gwella Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref ar gyfer twyll Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Cwblhau yn Ch4 2027
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Adolygu’r ymateb heddlu lleol drwy fframwaith arolygu PEEL HMICFRS Y Swyddfa Gartref Parhaus
Rhoi argymhellion adolygiad sgiliau’r heddlu ar waith Y Swyddfa Gartref Cwblhau yn Ch4 2027
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorff en Cyflawni
Dylunio a chreu ‘proffesiwn’ troseddau economaidd Y Swyddfa Gartref Cwblhau yn Ch4 2028
Datblygu cynigion ar gyfer unedau sector newydd a ariennir gan fusnesau Y Swyddfa Gartref Sectorau Cwblhau yn Ch3 2028
Treialu uned Safonau Masnach a gorfodi’r gyfraith ar y cyd newydd gan ddefnyddio pwerau sifil Safonau Masnach Cenedlaethol Y Swyddfa Gartref Safonau Masnach Cenedlaethol Dechrau yn Ch2 2026
Cynnal gweithrediadau ar y cyd a rhannu cuddwybodaeth ag INTERPOL ac Europol Y Swyddfa Gartref Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol INTERPOL Europol Parhaus
Helpu INTERPOL i sefydlu Tasglu Byd-eang Y Swyddfa Gartref
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol INTERPOL Europol
Cwblhau yn Ch3 2028
Bydd y Llywodraeth yn ystyried y cynigion o’r Adolygiad Annibynnol o Dwyll Y Swyddfa Gartref Parhaus
Parhau i gefnogi’r cynlluniau peilot gorfodi’r gyfraith sy’n canolbwyntio ar gymryd camau cyfreithiol yn erbyn troseddwyr ac adennill arian dioddefwyr drwy gyfraith sifil Y Swyddfa Gartref Heddlu Dinas Llundain Cwblhau yn Ch4 2027
Cam Gweithredu Arweinydd/Partneriaid Cyflawni Dyddiad Dechrau/Gorffen Cyflawni
Ystyried cyflwyno cosbau sifil am dwyll a hwyluso gwyngalchu arian Y Swyddfa Gartref Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Parhaus

Atodiad B: Metrigau

Prif Fetrigau
Achosion o Dwyll yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr a’r Arolwg Troseddau Economaidd 4.15 miliwn o achosion yn erbyn unigolion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, sef cynnydd o 8% o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 (ddim yn arwyddocaol yn ystadegol).[footnote 100]

Amcangyfrif o 6.04 miliwn o achosion yn erbyn busnes â chyflogeion yn y 12 mis cyn yr arolwg (Arolwg Troseddau Economaidd 2024).[footnote 101], [footnote 102]
Cyfran o’r holl droseddau yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr Mae twyll yn cyfrif am 45% o’r holl droseddau yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, sef cynnydd o 41% o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024.[footnote 103]
Niferoedd Dioddefwyr yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 3.6 miliwn o ddioddefwyr sy’n oedolion (7.3%), sef 1 o bob 14, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, sef cynnydd o 11% o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024.[footnote 104]
Colledion cyfartalog UKFI Colled o £318 ar gyfartaledd yn sgil twyll awdurdodedig ac anawdurdodedig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, sef lleihad o 11% o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024.[footnote 105]
Colledion y rhoddwyd gwybod amdanynt i Report Fraud £3.5 biliwn mewn colledion twyll y rhoddwyd gwybod amdanynt i Action Fraud (blwyddyn a ddaeth i ben ym mis Hydref 2025), sef £10,300 fesul achos ar gyfartaledd. Ni ellir cymharu hyn â blynyddoedd blaenorol ar hyn o bryd.[footnote 106]
Achosion yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr heb golled Ni wnaeth 25% o’r achosion o dwyll arwain at golled ariannol, sef lleihad o 1 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024.[footnote 107]
Achosion o dwyll APP y rhoddwyd gwybod amdanynt i UK Finance 222,000 o achosion o dwyll APP yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, sef lleihad o 6% o gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024.[footnote 108]
Nifer a chyfran yr achosion o fathau niweidiol iawn o dwyll y rhoddwyd gwybod amdanynt i Report Fraud[footnote 109] Roedd 21% o’r holl achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt i Action Fraud yn achosion o dwyll niweidiol iawn (67,000) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025.[footnote 110]
Nifer yr achosion o darfu gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith 2,862 o achosion o darfu drwy’r system gyfan yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024[footnote 111], sef cynnydd o 54% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Atodiad C: Crynodeb o weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid

1. Datblygwyd y Strategaeth Dwyll hon yn seiliedig ar ymgysylltu helaeth â sbectrwm eang o randdeiliaid. Ymhlith y rhain roedd arweinwyr diwydiant, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, arbenigwyr academaidd, a sefydliadau cymdeithas sifil. Sicrhaodd y dull cynhwysol hwn fod y Strategaeth yn adlewyrchu safbwyntiau amrywiol a’i bod yn seiliedig ar brofiadau a dirnadaeth o’r byd go iawn.

2. Arweiniodd y Swyddfa Gartref broses ymgysylltu gynhwysfawr ac iterus, gan gynnwys dros 50 o sesiynau bord gron, cyfarfodydd dwyochrog ac ystafelloedd darllen a chael dros 60 o gyflwyniadau ysgrifenedig manwl a oedd yn cynnwys dros 1,000 o ddarnau unigol o adborth. Roedd yr ymdrech gydweithredol hon yn fodd i randdeiliaid lywio, beirniadu a mireinio elfennau craidd y Strategaeth, gan sicrhau ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth a’i bod wedi sicrhau cefnogaeth eang.

3. Mae’r Llywodraeth yn ddiolchgar i’r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o’u hamser i gyfrannu arbenigedd ac adborth. Mae eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth wedi bod yn allweddol er mwyn llywio Strategaeth gadarn a blaengar er mwyn trechu twyll ar raddfa. Ymhlith y themâu craidd roedd:

Rhannu data a tharfu

4. Darnio data a rhwystrau rhag rhannu: Caiff ymdrechion i drechu twyll eu llesteirio gan dirwedd ddata sydd heb ei safoni, rhannu amser real, yn ogystal â rhwystrau deddfwriaethol, diwylliannol a thechnegol sylweddol rhag cyfnewid data yn effeithiol.

5. Atal yn rhagweithiol ac yn rhagofalus: Er mwyn trechu twyll, mae angen symud tuag at ymyriadau rhagofalus megis canfod amser real a thargedu hwyluswyr twyll yn hytrach na dibynnu ar ymatebion ymatebol.

6. Strategaeth tarfu yn gyntaf: Mae gwydnwch hirdymor yn dibynnu ar flaenoriaethu atal twyll yn hytrach na chyfiawnder troseddol ac adennill ar ôl twyll, gyda ffocws strategol ac adnoddau’n cael eu cyfeirio at atal twyll cyn iddo ddigwydd.

Dioddefwyr a’r hyn sy’n eu gwneud yn agored i niwed

7. Addysg gynnar a chynhwysol ynghylch twyll: Mae brwydro yn erbyn twyll yn golygu gwreiddio ymwybyddiaeth o dwyll a llythrennedd ariannol o oedran cynnar, drwy’r cwricwlwm, hyd at a chan gynnwys pob grŵp oedran a grwpiau a allai fod yn agored i niwed, gyda chymorth negeseuon ac ymyriadau ymddygiad traws-sector unedig.

8. Symleiddio prosesau rhoi gwybod a gofal i ddioddefwyr: Mae hyn yn golygu gwella prosesau rhoi gwybod am dwyll drwy integreiddio diwylliant er mwyn lleihau’r baich ar ddioddefwyr, gan sicrhau cymorth rhagweithiol a chynhwysol ar yr un pryd, ni waeth beth fo’r math o dwyll na’r statws ad-dalu.

9. Ymgysylltu â sectorau ac ysgogi cymunedau: Annog busnesau i roi gwybod am achosion, cynnal ymgyrchoedd wedi’u teilwra ar gyfer sectorau penodol, ac ehangu rhwydweithiau gwirfoddolwyr er mwyn atgyfnerthu ymdrechion atal twyll.

Canlyniadau cyfiawnder

10. Diffyg hyder mewn canlyniadau cyfiawnder: Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn prosesau rhoi gwybod am dwyll a’i blismona yn brin oherwydd erlyniadau cyfyngedig a dulliau atal gwan; dylai’r ffocws symud tuag at sicrhau cyfiawnder ystyrlon y tu hwnt i arestiadau.

11. Gwell galluoedd ymchwilio: Mae angen i ni atgyfnerthu sgiliau ymchwilio digidol a’r defnydd o dechnoleg, a sicrhau ymateb cyson gan yr heddlu i bob math o dwyll.

12. Defnydd ehangach o bwerau sifil: Dylai’r Llywodraeth ehangu’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer trechu twyll drwy ddefnyddio sancsiynau sifil a dulliau gorfodi ochr yn ochr â dulliau cyfiawnder troseddol traddodiadol.

Technoleg

13. Bygythiadau a ysgogir gan ddeallusrwydd artiffisial a bregusrwydd y cyhoedd: Mae’r cynnydd mewn tactegau twyll a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial, gan gynnwys ffugiadau dwfn a ffugio, yn ei gwneud yn anos i’r cyhoedd adnabod twyll, sy’n golygu bod angen cymhellion cryfach ar ddiwydiant i darfu ar y bygythiadau hyn. - 14.   Technoleg a strategaeth diogelu at y dyfodol: Dylai’r Strategaeth Dwyll ystyried technolegau sy’n datblygu, gan gynnwys ceiniogau sefydlog, cadwynau blociau, a dulliau talu newydd. - 15.   Moderneiddio ymchwiliadau gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial: Dylai’r Llywodraeth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a data i wella galluoedd ymchwilio digidol, gan sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith a diwydiant yr hyn sydd ei angen arnynt i ymateb i dechnegau twyll cynyddol soffistigedig.

Cydgysylltu byd-eang

16. Atgyfnerthu cydgysylltu byd-eang: Dylai’r Llywodraeth eirioli dros safonau rhyngwladol gorfodadwy a chydweithio dyfnach drwy gynghreiriau gan gynnwys y Pum Llygad, y Cenhedloedd Unedig, ac INTERPOL i wella arferion gorfodi a rhannu cuddwybodaeth trawsffiniol.

17. Parodrwydd y system a diogelwch drwy fwriad: Mae angen i’r Llywodraeth sicrhau bod systemau’r DU yn gadarn, ac y caiff atal twyll ei ymgorffori mewn seilweithiau talu newydd cyn cydweithio’n rhyngwladol ar raddfa fwy.

18. Cymorth i asiantaethau gorfodi rhyngwladol: Dylai’r Llywodraeth ddarparu adnoddau, hyfforddiant a dulliau gorfodi sifil er mwyn grymuso asiantaethau gorfodi’r gyfraith byd-eang i drechu twyll trawswladol yn effeithiol.

Atodiad D: Cwmpas daearyddol

1.  Mae’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer mynd i’r afael â thwyll yn amrywio rhwng pedair gwlad y DU. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, o dan Ddeddf Twyll 2006 y caiff troseddau twyll eu herlyn yn bennaf. Ar y llaw arall, fel trosedd cyfraith gyffredin y mae’r Alban yn trin twyll yn bennaf. Mae’n bwysig nodi bod plismona a chyfiawnder troseddol yn faterion datganoledig yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sy’n golygu bod gwahaniaethau awdurdodaethol yn y ffyrdd y caiff twyll ei ddiffinio, y ffyrdd yr ymchwilir iddo, a’r ffyrdd y caiff ei erlyn.

2. Bydd cwmpas tiriogaethol y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol yn cynnwys y DU gyfan, ond bydd ei bwerau a’i gylch gwaith yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru a Lloegr, bydd gan y Gwasanaeth bwerau gweithredol llawn a bydd yn gallu cyflawni ei weithgareddau gorfodi’r gyfraith a’i wasanaethau galluogi yn uniongyrchol. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dim ond gyda chytundeb yr awdurdod a ddynodwyd yn gyfreithiol y bydd y Gwasanaeth yn gallu cyflawni gweithrediadau. Mae hyn yn adlewyrchu’r trefniadau presennol ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol a Phlismona Gwrthderfysgaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Penderfynir ar leoliad y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol maes o law. Yn ychwanegol at ei bencadlys cenedlaethol, bydd gan y Gwasanaeth ôl troed rhanbarthol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau ar lefel ranbarthol.

Cymru a Lloegr

3. Heddlu Dinas Llundain yw’r heddlu arweiniol cenedlaethol ar gyfer twyll yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n gyfrifol am gydgysylltu dulliau rhoi gwybod am dwyll, gofal i ddioddefwyr ac ymdrechion ymchwilio.

4. Er bod polisi twyll yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth yng Nghymru, gan fod datganoli’n gyfyngedig yn y maes hwn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan weithredol yn y Tasglu Twyll ar y Cyd er mwyn cefnogi ymdrechion unedig i drechu twyll ledled y DU. Mae’n bwysig nodi bod addysg yn fater datganoledig yng Nghymru, ac mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisïau a chyflawni ym maes addysg. Bydd y gwahaniaeth hwn yn bwysig wrth ystyried mentrau atal twyll a chodi ymwybyddiaeth, y gall fod angen eu teilwra i adlewyrchu cymwyseddau datganoledig a sicrhau cysondeb â fframwaith addysg yng Nghymru.

Gogledd Iwerddon

5. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder wedi’i ddatganoli i’r Adran Gyfiawnder, sy’n goruchwylio polisi cyfiawnder troseddol o dan awdurdod Cynulliad Gogledd Iwerddon. Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn gweithredu fel yr unig heddlu ac mae’n arwain ar fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’n gweithio mewn partneriaeth agos â’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, CThEF, a chyrff perthnasol eraill. Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon yw awdurdod erlyn annibynnol y rhanbarth.

6. Mae’r Tasglu Troseddau Cyfundrefnol yn cyflawni rôl ganolog yn ymateb Gogledd Iwerddon i droseddau cyfundrefnol. Mae’n gweithredu fel fforwm strategol sy’n dod ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, adrannau’r Llywodraeth, a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghyd i gydgysylltu dull cydweithredol ac unedig o fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol mewn meysydd blaenoriaeth uchel, sy’n cynnwys mathau penodol o weithgareddau sy’n gysylltiedig â thwyll.

7. Yng Ngogledd Iwerddon, i Report Fraud y rhoddir gwybod am achosion o dwyll a seiberdroseddau fel arfer, neu’n uniongyrchol i Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon dan amgylchiadau penodol. Mae menter sydd wedi hen ennill ei phlwyf ar waith yno, sef Partneriaeth Scamwise Gogledd Iwerddon, a gaiff ei chadeirio gan Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ac sy’n dod â mwy na 45 o sefydliadau ynghyd sy’n unedig yn eu hymrwymiad i drechu twyll. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, megis sefydliadau ieuenctid, elusennau, adrannau’r Llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a chynrychiolwyr y sector cyhoeddus. Prif ffocws ei gwaith yw cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn addysgu’r cyhoedd am risgiau twyll a mathau o dwyll, ynghyd â rhannu gwybodaeth er mwyn atgyfnerthu ymdrechion atal cyfunol.

8. Mae Canolfan Seiberddiogelwch Gogledd Iwerddon yn rhoi arweiniad a chyngor ar seiberddiogelwch i unigolion a busnesau ac mae gan Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon swyddogion PROTECT sy’n cydweithio’n agos â’r timau a arweinir gan Heddlu Dinas Llundain.

9. Mae Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon yn mynychu’r Tasglu Twyll ar y Cyd.

Yr Alban

10. Yn yr Alban, Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal, sy’n gweithredu o dan awdurdod yr Arglwydd Adfocad, sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau a’u herlyn. Heddlu’r Alban yw’r gwasanaeth heddlu cenedlaethol, gan arwain ar ymchwilio i droseddau economaidd ar y cyd ag asiantaethau fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, CThEF, a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fel arfer, rhoddir gwybod am dwyll yn uniongyrchol i Heddlu’r Alban, sy’n bennaf cyfrifol am reoli ymchwiliadau i dwyll o fewn fframwaith cyfreithiol yr Alban.

11. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban strategaeth ar atal sgamiau, codi ymwybyddiaeth ohonynt a gorfodi’r gyfraith mewn perthynas â nhw, gan roi fframwaith strategol ar gyfer cefnogi ymdrechion diogelu a gorfodi. Nod y strategaeth oedd lleihau gallu troseddwyr i weithredu a lleihau’r effaith ar ddioddefwyr pan fydd twyll yn digwydd. I gefnogi’r gwaith hwn, sefydlodd Llywodraeth yr Alban bartneriaeth strategol yn erbyn sgamiau, a ddaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ynghyd. Roedd y bartneriaeth yn hyrwyddo llais unedig ac eiriolaeth gyfunol ar faterion allweddol sy’n gysylltiedig ag atal twyll, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a chymryd camau gorfodi. Ymhlith ei gweithgareddau roedd ymgyrchoedd addysg i’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth er mwyn atgyfnerthu gallu’r Alban i wrthsefyll twyll yn gyffredinol. Mae’r gwaith ar y strategaeth wedi dod i ben erbyn hyn.

12. Mae sefydlu Consumer Scotland yn 2022 yn golygu bod gan yr Alban bellach gorff cyhoeddus annibynnol sy’n gallu rhoi arweinyddiaeth, cynnig goruchwyliaeth strategol, a chydgysylltu tirwedd ddefnyddwyr ddarniog. Mae Consumer Scotland yn goruchwylio gwaith cynghori ac eirioli’r sefydliadau trydydd sector Citizens Advice Scotland ac Advice Direct Scotland, sydd ill dau’n gwneud gwaith atal twyll a chodi ymwybyddiaeth. Mae Consumer Scotland hefyd wedi rhoi cyllid i Gonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban ar gyfer gwaith ar ymgyrchoedd atal twyll a chodi ymwybyddiaeth ohono. Ers mis Ebrill 2025, Consumer Scotland sydd wedi bod yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol ar gyfer gwaith atal twyll a chodi ymwybyddiaeth ohono ym mhob rhan o’r dirwedd ddefnyddwyr.

13. Ym mis Ebrill 2025, unodd Heddlu’r Alban sawl tîm troseddau digidol, seiberdroseddau a throseddau cyfundrefnol difrifol i greu Uned Seiber a Thwyll a fydd yn cydweithio ag asiantaethau a phartneriaid gorfodi’r gyfraith eraill yn y DU i ddatblygu ymateb effeithiol i’r dirwedd fygythiadau sy’n newid. Bydd yr uned yn datblygu galluoedd newydd i gynnal ymchwiliadau rhagweithiol, atal troseddau, a diogelu dioddefwyr yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Bydd hyn yn cynnwys galluogrwydd ymchwilio, y defnydd o dechnoleg arloesol, hyfforddiant i’r gweithlu a chymorth ac arweiniad.

14. Mae Heddlu’r Alban hefyd yn gweithio’n agos gyda Heddlu Dinas Llundain i osod y sylfeini a fydd yn galluogi Heddlu’r Alban i ymuno â gwasanaeth newydd Report Fraud yn y dyfodol.

15. Mae Partneriaeth CyberScotland yn rhoi cyngor ac arweiniad ar seiberwydnwch i bobl, busnesau a sefydliadau’r Alban ac mae gan Heddlu’r Alban swyddogion PROTECT sy’n cydweithio’n agos â’r timau a arweinir gan Heddlu Dinas Llundain.

16. Mae swyddogion Llywodraeth yr Alban yn mynychu’r Tasglu Twyll ar y Cyd.

Atodiad E: Rhestr termau

Abwydo sgamwyr: Defnyddio tactegau denu i wastraffu amser troseddwyr a tharfu ar weithrediadau twyllodrus.

Adnabod Llinell y Galwr: Nodwedd sy’n dangos rhif ffôn y sawl sy’n galw, a gaiff ei ffugio’n aml gan droseddwyr er mwyn edrych yn ddilys.

Awdurdodaethau risg: Gwledydd neu ranbarthau yr aseswyd bod llawer iawn o dwyll yn cael ei gyflawni o fewn eu ffiniau.

Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: Rheoleiddiwr yn y DU sy’n hyrwyddo cystadleuaeth ac yn diogelu defnyddwyr rhag arferion busnes annheg.

Bygythiad hybrid: Bygythiad sy’n rhychwantu mwy nag un fector, megis seiberdroseddau, bygythiadau gwladwriaethol a thwyll, i gyflawni amcanion troseddol.

Camfanteisio ariannol: Cymryd mantais o’r ffaith bod rhywun yn agored i niwed er budd ariannol personol, a hynny’n aml drwy dwyll.

Canolfannau sgamio: Gweithrediadau troseddol ar raddfa fawr sy’n lletya unigolion a all fod wedi cael eu masnachu a’u gorfodi i gyflawni twyll.

Cardio: Defnydd anghyfreithlon o fanylion cardiau credyd neu ddebyd wedi’u dwyn i wneud trafodiadau twyllodrus.

Clonio llais: Defnyddio deallusrwydd artiffisial i atgynhyrchu llais person er mwyn ei ddynwared.

Codau mynediad: Manylion mewngofnodi cryptograffig a ddefnyddir yn lle cyfrineiriau er mwyn dilysu’n ddiogel.

Codau Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Mae’r Codau Ymarfer yn nodi mesurau y mae Ofcom yn eu hargymell er mwyn i ddarparwyr gwasanaethau gydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch a dyletswyddau eraill a bennir gan y Ddeddf.

Cryptoasedau: Cynrychioliadau digidol o werth neu hawliau, gan gynnwys tocynnau fel Bitcoin neu Ethereum a cheiniogau sefydlog, a ddefnyddir ar gyfer buddsoddiadau neu drafodiadau ar-lein. Maent yn dibynnu ar gryptograffi (ffordd o gadw data’n ddiogel).

Cryptoasedau cyfnewidadwy: Tocynnau digidol lle y bydd pob uned yr un fath a lle y gellir eu cyfnewid â’i gilydd heb ddim gwahaniaeth mewn gwerth. Er enghraifft, mae un Bitcoin yn werth yr un faint ag unrhyw Bitcoin arall.

Cyfnewid SIM: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn dynwared eu dioddefwyr ac yn gofyn am SIM (eSIM fel arfer) newydd gan y gweithredwr rhwydwaith symudol er mwyn rhyng-gipio galwadau a negeseuon a chael mynediad at fanylion mewngofnodi’r dioddefwr ar gyfer cyfrifon bancio ar-lein, e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.

Cynhyrchu arweiniad: Casglu data personol i farchnata neu, yn achos twyll, i dargedu dioddefwyr.

Darparwr Gwasanaethau Talu: Cwmni sy’n galluogi busnesau a defnyddwyr i wneud taliadau electronig.

Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol: Deallusrwydd artiffisial sy’n creu cynnwys (testun, delweddau, sain) newydd yn seiliedig ar batrymau wedi’u dysgu o ddata.

Dilysu cwsmeriaid: Prosesau diogelwch sy’n gwirio manylion adnabod defnyddiwr cyn iddo caniatáu mynediad neu gymeradwyo trafodiadau.

Dwyn hunaniaeth: Defnyddio gwybodaeth bersonol rhywun heb awdurdod i gyflawni twyll neu droseddau eraill.

Ffenicsio cwmnïau: Arfer gamdriniol lle y bydd cyfarwyddwyr yn cau cwmni ac yn ei ailagor dan enw newydd er mwyn osgoi dyledion neu rwymedigaethau.

Ffugiad dwfn: Cyfryngau synthetig a gaiff eu creu gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddynwared pobl go iawn mewn sain, fideo, neu ddelweddau.

Ffugio: Gwneud i rifau ffôn edrych fel pe baent yn perthyn i alwr neu sefydliad dilys.

Gofyniad Plismona Strategol: Fframwaith yn y DU sy’n nodi blaenoriaethau plismona cenedlaethol ar gyfer bygythiadau difrifol.

Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol: Gorchmynion llys sy’n cyfyngu ar weithgareddau unigolion sy’n rhan o droseddau difrifol.

Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol: Rhwydweithiau troseddol strwythuredig sy’n ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys twyll.

Gwasanaethau negeseuon testun torfol: Llwyfannau a ddefnyddir i anfon negeseuon SMS mewn swmp; cânt eu defnyddio ar gyfer gwe-rwydo.

Gwe-rwydo: Ymgeisiau twyllodrus i gael arian neu ddata drwy negeseuon e-bost, negeseuon testun, neu wefannau.

Gwyngalchu arian camfanteisiol: Gorfodi unigolion, a fydd yn aml yn blant a phobl ifanc neu’n bobl sy’n agored i niwed fel arall, i wyngalchu enillion troseddau.

Hidlyddion sbam: Offer sy’n rhwystro negeseuon e-bost neu negeseuon testun digroeso neu faleisus.

Llwybro cyfathrebiadau: Y broses o gyfeirio galwadau neu negeseuon drwy rwydweithiau telathrebu.

Maleiswedd: Meddalwedd faleisus a gaiff ei dylunio i ddifrodi systemau neu ddwyn data.

Mantellu: Techneg a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr sy’n celu natur niweidiol neu gyrchfan go iawn dolen we/hysbyseb rhag amgylcheddau sganio ac offer diogelwch, gan ddatgelu’r cyrchfan niweidiol go iawn i ddarpar ddioddefwyr yn unig. Mae mantellu’n cuddio cyrchfan go iawn safle drwy ddangos gwahanol gynnwys i wahanol gynulleidfaoedd, yn wahanol i system dosbarthu traffig draddodiadol sydd ond yn llwybro defnyddwyr yn seiliedig ar reolau, heb guddio’r cynnwys sylfaenol.

Meddalwedd wystlo: Meddalwedd sy’n amgryptio data ac yn mynnu taliad am ei ryddhau.

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth: Cytundeb ffurfiol rhwng partïon, a allai gynnwys llywodraethau neu sefydliadau eraill, sy’n amlinellu cydweithrediad heb rwymedigaeth gyfreithiol.

Modelau deallusrwydd artiffisial trawsffiniol: Y systemau deallusrwydd artiffisial mwyaf datblygedig sydd â galluoedd y tu hwnt i’r normau presennol, gan beri risgiau newydd os cânt eu camddefnyddio.

Modelau iaith mawr: Systemau deallusrwydd artiffisial a gaiff eu hyfforddi ar setiau data helaeth i gynhyrchu iaith tebyg i iaith bodau dynol.

Olrhain: Proses ar gyfer olrhain tarddiad galwadau twyllodrus drwy rwydweithiau telathrebu.

Peryglu cyfrif e-bost busnes: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn dynwared cyswllt yr ymddiriedir ynddo drwy e-bost i ddargyfeirio taliadau neu ddwyn data sensitif gan fusnesau.

Proses ddilysu dau ffactor: Dull diogelu sy’n gofyn am ddau fath o brawf dilysu er mwyn cael mynediad, gan wrthsefyll twyll yn well.

Protocol Llais dros y Rhyngrwyd: Technoleg sy’n galluogi galwadau llais dros y rhyngrwyd.

Pum Llygad (5EYES): Cynghrair cuddwybodaeth rhwng y DU, UDA, Canada, Awstralia, a Seland Newydd.

Rhwydwaith preifat rhithwir: Offeryn sy’n amgryptio traffig rhyngrwyd ac yn celu lleoliad.

Signalau: Dangosyddion data a ddefnyddir i ganfod twyll neu darfu arno, e.e. cyfeiriadau IP neu rifau ffôn amheus.

SMS-rwydo: Targedu unigolion drwy negeseuon SMS twyllodrus.

Teilwra cymdeithasol: Dylanwadu ar bobl i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu gyflawni gweithredoedd.

Tor diogelwch data: Digwyddiad lle y caiff data sensitif neu bersonol eu cyrchu neu eu datgelu heb awdurdod.

Twyll a gaiff ei hwyluso ar-lein: Twyll a gaiff ei hwyluso neu ei gyflawni drwy’r rhyngrwyd.

Twyll anawdurdodedig: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn cael mynediad i gyfrifon neu’n gwneud taliadau heb yn wybod i ddioddefwyr.

Twyll awdurdodedig / Twyll Taliad Gwthio Awdurdodedig (APP): Lle y caiff dioddefwyr eu twyllo i awdurdodi taliad i gyfrif a gaiff ei reoli gan droseddwyr.

Twyll buddsoddi: Math o dwyll lle y caiff dioddefwyr eu camarwain i fuddsoddi mewn cynlluniau ffug neu risg uchel.

Twyll cludwyr: Lle y caiff dioddefwyr eu twyllo i roi arian parod, cardiau neu bethau gwerthfawr i droseddwr sy’n esgus bod yn gludwr.

Twyll dargyfeirio taliad: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn ailgyfeirio taliadau dilys i’w cyfrifon eu hunain.

Twyll ffi ymlaen llaw: Math o dwyll lle y caiff dioddefwyr eu perswadio i dalu ffioedd ymlaen llaw am nwyddau, gwasanaethau, neu wobrau na fyddant byth yn eu cael.

Twyll gwasanaeth meddalwedd gyfrifiadurol: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn esgus bod yn weithwyr cymorth technegol er mwyn cael mynediad o bell i ddyfeisiau dioddefwyr neu godi tâl am wasanaethau ffug.

Twyll hybrid buddsoddi-rhamant: Math o dwyll sy’n cyfuno dylanwadu’n emosiynol â chyfleoedd buddsoddi ffug.

Twyll niweidiol iawn: Mathau o dwyll sy’n achosi niwed ariannol ac emosiynol difrifol.

Twyll prynu: Lle y bydd dioddefwyr yn talu am nwyddau neu wasanaethau na fyddant byth yn cyrraedd neu nad ydynt yn bodoli.

Twyll rhamant: Math o dwyll lle y bydd troseddwyr yn camfanteisio ar ddioddefwyr drwy esgus bod yn bartner rhamantus er mwyn meithrin ymddiriedaeth cyn dylanwadu arnynt i anfon arian neu ddata personol.

Waliau tân: Systemau diogelwch sy’n monitro ac yn rheoli traffig rhwydwaith er mwyn rhwystro mynediad heb awdurdod.

Y we dywyll: Rhan o’r rhyngrwyd a gaiff ei datgelu’n fwriadol rhag porwyr gwe a pheiriannau chwilio safonol (Google, Bing, Firefox ac ati). Yn lle hynny, dim ond porwyr penodol y we dywyll sy’n gallu cael gafael ar ei chynnwys. Mae’r strwythur hwn yn ceisio sicrhau bod defnyddwyr a gweithredwyr gwefannau’n anhysbys, gan olygu nad oes modd tracio eu hunaniaethau na’u lleoliadau.

Y we lwyd: Mannau ar-lein rhwng y rhyngrwyd a’r we dywyll, lle y darperir nwyddau neu wasanaethau sy’n anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau, ond nid ym mhob un. Gellir mynd iddynt gan ddefnyddio porwyr gwe safonol, ond ni fydd y gwefannau eu hunain wedi’u mynegeio ar beiriannau chwilio, sy’n golygu ei bod yn anodd dod o hyd iddynt heb wybod yr union URL.

Atodiad F: Cyfeiriadau

E03551200 978-1-5286-6251-2

  1. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/latest; Twyll yw’r brif drosedd fwyaf cyffredin sy’n ymddangos yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 

  2. https://www.gov.scot/publications/scottish-crime-and-justice-survey-2023-24-main-findings/; Twyll yw’r is-fath mwyaf cyffredin o drosedd sy’n ymddangos yn Arolwg Troseddu a Chyfiawnder yr Alban 

  3. Nid yw Arolwg Cymunedau Diogel yn ymdrin â thwyll fel trosedd ar wahân ond, o ystyried y niferoedd troseddau llai yng Ngogledd Iwerddon, twyll yw’r math mwyaf cyffredin o drosedd yn y DU 

  4. https://www.gov.uk/government/publications/economic-and-social-cost-of-fraud-2023-to-2024 

  5. Fel rhan o gynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer Diwygio’r Heddlu, bydd cyfrifoldeb cyffredinol am Dwyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol fydd yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y troseddau hyn. Yn amodol ar ganfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Heddluoedd, byddwn yn asesu p’un a ddylai gwasanaethau arbenigol Heddlu Dinas Llundain gael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol neu a allent gael eu dirprwyo a pharhau i gael eu darparu gan Heddlu Dinas Llundain dan gyfarwyddyd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol. 

  6. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/68adce2f2f18566482155855/_25063-Welsh-1-web  E03360428_National_Security_Strategy.pd](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/685ab0da72588f418862075c/E03360428_National_Security_Strategy_Accessible.pdf) 

  7. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/latest 

  8. https://www.gov.uk/government/publications/economic-and-social-cost-of-fraud-2023-to-2024 

  9. https://www.gov.scot/publications/scottish-crime-and-justice-survey-2023-24-main-findings/ 

  10. https://www.gov.uk/government/publications/economic-crime-survey-2024/economic-crime-survey-2024 

  11. Mewn adolygiad diweddar o ystadegau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer Cymru a Lloegr (Adolygiad o ystadegau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer Cymru a Lloegr), tynnwyd sylw at heriau sy’n ymwneud â chydlyniant ffynonellau data ar dwyll, a gwelwyd mai Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yw’r ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy ar gyfer twyll. 

  12. Defnyddiodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fethodoleg wahanol yn ystod pandemig COVID-19 felly nid oes modd cymharu’n uniongyrchol. 

  13. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/natureoffraudandcomputermisuseinenglandandwalesappendixtables (Tabl 7) 

  14. https://www.crestadvisory.com/post/understanding-and-addressing-fraud-against-children-and-young-people-an-action-plan (Adroddiad llawn) 

  15. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/natureoffraudandcomputermisuseinenglandandwalesappendixtables (Tabl 8) 

  16. https://www.gov.uk/government/publications/experiences-of-victims-of-fraud-and-cyber-crime/experiences-of-victims-of-fraud-and-cyber-crime 

  17. https://journals.sagepub.com/doi/10.1177/02697580261417364 

  18. https://www.gov.uk/government/publications/economic-crime-survey-2024/economic-crime-survey-2024 

  19. ibid 

  20. https://www.gov.uk/government/publications/economic-and-social-cost-of-fraud-2023-to-2024 

  21. https://academic.oup.com/ej/article-abstract/104/422/1/5158606 

  22. [Cyhoeddiad i Ddod] Asesiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2025 

  23. Ibid 

  24. https://www.fatf-gafi.org/content/dam/fatf-gafi/reports/Illicit-financial-flows-cyber-enabled-fraud.pdf.coredownload.inline.pdf 

  25. [Cyhoeddiad i Ddod] Asesiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2025 

  26. https://committees.parliament.uk/writtenevidence/125617/pdf/ 

  27. [Cyhoeddiad i Ddod] Asesiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2025 

  28. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/natureofcrimefraudandcomputermisuse 

  29. https://www.ncsc.gov.uk/pdfs/guidance/data-breaches.pdf 

  30. https://www.gov.uk/government/statistics/cyber-security-breaches-survey-2025 

  31. [Cyhoeddiad i Ddod] Asesiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2025 

  32. Ibid 

  33. Ibid 

  34. Ibid 

  35. https://www.psr.org.uk/information-for-consumers/unmasking-how-fraudsters-target-uk-consumers-in-the-digital-age/ 

  36. [Cyhoeddiad i Ddod] Asesiad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2025 

  37. ibid 

  38. Y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol (NFIB) (Chwefror 2022) Troseddau Twyll Rhyngwladol a Gofnodwyd ar Action Fraud: Amcangyfrif proffesiynol o droseddau twyll rhyngwladol 

  39. https://link.springer.com/article/10.1007/s10611-024-10186-2 

  40. https://www.taylorfrancis.com/chapters/edit/10.4324/9781315084572-19/organized-fraud-organizing-frauds-unpacking-research-networks-organization-michael-levi 

  41. https://www.smf.co.uk/publications/international-fraud-comparison/ 

  42. https://www.nationalcrimeagency.gov.uk/images/campaign/NSA/2024/NSA%202025%20Website%20-%20PDF%20Version%20v1.0.pdf 

  43. https://www.aseanact.org/resources/compound-crime-cyber-scam/ 

  44. https://www.bbc.co.uk/news/articles/cz6x1ql1yelo 

  45. Fel rhan o gynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer Diwygio’r Heddlu, bydd cyfrifoldeb cyffredinol am Dwyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol fydd yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y troseddau hyn. Yn amodol ar ganfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Heddluoedd, byddwn yn asesu p’un a ddylai gwasanaethau arbenigol Heddlu Dinas Llundain gael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol neu a allent gael eu dirprwyo a pharhau i gael eu darparu gan Heddlu Dinas Llundain dan gyfarwyddyd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol. 

  46. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2025/18/contents 

  47. Ibid 

  48. https://www.unodc.org/documents/treaties/COP12/Resolutions/E/Resolution_12_2.pdf 

  49. https://www.mobileuk.org/news/uk-mobile-industry-blocks-one-billion-scam-messages 

  50. https://www.met.police.uk/elaborate 

  51. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/690872f5c0dc8f1248417510/UK+Telecomunications+Fraud+Sector+Charter+Proof+v2.0.pdf 

  52. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65688713cc1ec5000d8eef96/Online_Fraud_Charter_2023.pdf 

  53. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2023/50 

  54. ibid 

  55. https://www.psr.org.uk/information-for-consumers/unmasking-how-fraudsters-target-uk-consumers-in-the-digital-age (tudalen 28) 

  56. https://www.psr.org.uk/media/2oflsqit/psr_app-victim-fraud-2025_report_web_version.pdf(tudalen 10) 

  57. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2024/13/contents 

  58. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/6170144f8fa8f529777ffc6f/Retail_Banking_Sector_Charter.pdf 

  59. https://www.psr.org.uk/information-for-consumers/app-scams-reimbursement-dashboard/ 

  60. https://www.ukfinance.org.uk/policy-and-guidance/reports-and-publications/half-year-fraud-report-2025 

  61. https://www.ukfinance.org.uk/policy-and-guidance/reports-and-publications/half-year-fraud-report-2025 

  62. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/latest 

  63. https://fidoalliance.org/wp-content/uploads/2025/10/FIDO-Passkey-Index-October-2025.pdf 

  64. https://www.nationalcrimeagency.gov.uk/news/nca-launch-first-ever-campaign-to-protect-men-against-crypto-investment-fraud 

  65. https://www.gov.uk/government/publications/regulatory-regime-for-cryptoassets-regulated-activities-draft-si-and-policy-note 

  66. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2023/56/contents 

  67. https://www.gov.uk/government/publications/economic-crime-and-corporate-transparency-act-outline-transition-plan-for-companies-house/economic-crime-and-corporate-transparency-act-outline-transition-plan-for-companies-house 

  68. https://www.gov.uk/government/publications/striking-off-or-dissolving-a-limited-company/striking-off-or-dissolving-a-limited-company (adran 2.2) 

  69. https://www.gov.uk/government/news/insolvency-service-welcomes-budget-funding-to-help-tackle-rogue-directors 

  70. Y Biwro Ymchwiliadau Twyll Cenedlaethol (2025), ‘Fraud and Cyber-Crime, Annual Assessment 2024-2025’ 

  71. https://cfit.org.uk/digital-verification-coalition/ 

  72. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2023/56 

  73. https://www.cps.gov.uk/cps/news/organisations-must-prepare-now-new-fraud-prevention-law 

  74. https://www.copfs.gov.uk/about-copfs/news/new-guidance-expands-self-reporting-for-economic-crimes/ 

  75. https://www.gov.uk/government/publications/offence-of-failure-to-prevent-fraud-introduced-by-eccta/economic-crime-and-corporate-transparency-act-2023-guidance-to-organisations-on-the-offence-of-failure-to-prevent-fraud-accessible-version 

  76. https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk/cy/hafan/ 

  77. https://parentzone.org.uk/article/problem-hiding-plain-sight 

  78. https://cybertoolkit.service.ncsc.gov.uk/?utm_source=NCSCResultsBlog&utm_medium=ResultsBlog&utm_campaign=PublicBeta&_gl=11gt5awd_gaMTI0NDAxNzI4NS4xNzYzNDg0MzMy_ga_FMH2FBTCEP*czE3NjM0ODQzMzEkbzEkZzEkdDE3NjM0ODQzMzckajU0JGwwJGg3NDE2ODY1MjA 

  79. https://nationalcrcgroup.co.uk/ 

  80. https://www.gov.uk/government/news/regulator-refreshes-guidance-as-it-reveals-600-cases-related-to-fraud-in-the-last-year 

  81. https://www.ncsc.gov.uk/cyberessentials/overview 

  82. https://www.betterhiringinstitute.co.uk/resources-hub/tackling-hiring-fraud-2-0 

  83. Yn amodol ar ganfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o Strwythurau Heddluoedd, byddwn yn asesu p’un a ddylai gwasanaethau arbenigol Heddlu Dinas Llundain gael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol neu a allent gael eu dirprwyo a pharhau i gael eu darparu gan Heddlu Dinas Llundain dan gyfarwyddyd y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol. 

  84. https://www.ukfinance.org.uk/news-and-insight/blog/vulnerable-victims-notifications-bringing-together-banks-and-law-enforcement 

  85. https://www.nationalcrimeagency.gov.uk/who-we-are/publications/756-nca-system-prioritisation-priorities-2025/file; https://www.rusi.org/explore-our-research/publications/emerging-insights/following-fraud-role-money-mules 

  86. https://www.nationalcrimeagency.gov.uk/who-we-are/publications/756-nca-system-prioritisation-priorities-2025/file 

  87. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2023/29/contents 

  88. https://www.tradingstandards.uk/media/documents/news–policy/impact-of-trading-standards-video-and-content/impact-of-trading-standards-in-statistics.pdf 

  89. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/latest 

  90. https://www.gov.uk/government/statistics/criminal-justice-system-statistics-quarterly-june-2025 (Outcomes by Offence Tool, gan gynnwys troseddau: 51, 52, 53.4, 53.6, 53B.1, 53C, 53D, 53E, 53F, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025) 

  91. https://www.gov.uk/government/news/swift-and-fair-plan-to-get-justice-for-victims 

  92. https://www.gov.uk/government/collections/criminal-court-statistics 

  93. https://www.gov.uk/government/collections/crime-outcomes-in-england-and-wales-statistics 

  94. https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/detail/2026-01-26/hcws1272 

  95. Disclosure in the Digital Age: Independent Review of Disclosure and Fraud Offences 

  96. committees.parliament.uk/publications/50269/documents/271665/default/ 

  97. https://www.gov.uk/government/publications/public-authorities-fraud-error-and-recovery-bill-2025-factsheets/psfa-civil-penalties-powers-in-the-public-authorities-fraud-error-and-recovery-bill-factsheet 

  98. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/646f763424315700136f429f/Fraud_Strategy_Welsh.pdf 

  99. https://www.gov.uk/government/publications/economic-crime-plan-2-outcomes-progress-report/economic-crime-plan-2-outcomes-progress-report#approach-to-the-ecp2-outcomes-framework-and-data-development 

  100. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables (A1) (A1) 

  101. https://www.gov.uk/government/publications/economic-crime-survey-2024/economic-crime-survey-2024 

  102. Datblygu data: Byddai angen gwneud rhagor o waith i fesur twyll yn erbyn busnesau er mwyn tracio newid. 

  103. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables (A1)(A1) 

  104. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables (A4) (A4) 

  105. [https://www.ukfinance.org.uk/policy-and-guidance/reports-and-publications/half-year-fraud-report-2025 (Cyfrifwyd drwy rannu nifer yr achosion yn ôl colled gros ar gyfer achosion o dwyll APP a thwyll anawdurdodedig.) 

  106. https://colp.maps.arcgis.com/apps/dashboards/0334150e430449cf8ac917e347897d46 

  107. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables (C1) (C1) 

  108. https://www.ukfinance.org.uk/policy-and-guidance/reports-and-publications/half-year-fraud-report-2025 

  109. Mae twyll niweidiol iawn yn cynnwys: Cyfrifon siec, cardiau plastig a bancio ar-lein (nid darparwr gwasanaethau talu), twyll mandad, sgamiau caru ar-lein, buddsoddiadau ariannol a thwyll drwy gamddefnyddio swydd 

  110. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/crimeinenglandandwalesappendixtables (C3), Mathau niweidiol iawn o dwyll sydd â’r codau NFIB: Twyll drwy gamddefnyddio swydd NFIB19 Twyll gwerthu cyfranddaliadau/bondiau neu dwyll canolfan alwadau NFIB2A4 Cynlluniau pyramid neu Ponzi NFIB2B Gwarantau banc ffug NFIB2C Twyll cyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau NFIB2D Buddsoddiadau ariannol eraill NFIB2E Sgamiau caru ar-lein NFIB1D Cyfrifon siec, cardiau plastig a bancio ar-lein (nid darparwyr gwasanaethau talu) NFIB5A Twyll mandad NFIB5D 

  111. Economic Crime Plan 2: outcomes progress report - GOV.UK