Ffurflen

Sut i gwblhau’r hysbysiad cais N244

Diweddarwyd 11 Mawrth 2026

Ni all staff llys roi cyngor cyfreithiol.

Gallwch fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. Manylion eich swyddfeydd lleol a rhifau cyswllt.

Talu ffi’r llys

Mae ffi’r llys yn daladwy yn dibynnu ar ba fath o gais yr ydych yn ei wneud. Er enghraifft, i wneud cais:

  • rhoi dyfarniad o’r neilltu
  • amrywio dyfarniad neu ohirio gorfodaeth
  • gwŷs neu orchymyn i dyst fod yn bresennol
  • drwy gydsyniad, neu heb gyflwyno’r hysbysiad cyflwyno cais, am ddyfarniad neu orchymyn.

Does dim ffi i’w thalu ar gyfer gwneud cais drwy gysyniad i ohirio gwrandawiad os yw’r llys yn ei dderbyn o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad.

Os na allwch fforddio’r ffi

Os ydych yn dangos y byddai talu ffi’r llys yn achosi caledi gormodol i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael dileu’r ffi.

Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais am ostyngiad ffi, gweler ffurflen EX160. Mae hon hefyd ar gael mewn unrhyw swyddfa llys sirol, neu gallwch wneud cais am gymorth gyda ffioedd ar-lein.

Llenwi’r ffurflen

Cwestiwn 3

Nodi pa orchymyn rydych yn gwneud cais amdano a pham. Er enghraifft, ‘gohirio’r gwrandawiad oherwydd ….’ neu ‘roi dyfarniad yn fy erbyn o’r neilltu oherwydd….’

Cwestiwn 5

Bydd angen gwrandawiad ar gyfer y rhan fwyaf o’r ceisiadau, a bydd disgwyl i chi fod yn bresennol. Bydd y llys yn dyrannu amser a dyddiad ar gyfer gwrando’r cais. Nodwch mewn llythyr eglurhaol unrhyw ddyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod y 6 wythnos nesaf.

Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y bydd y llys yn delio â’r cais ‘heb wrandawiad’:

  • pan fydd pob parti’n cytuno â thelerau’r gorchymyn y gofynnir amdano
  • pan fydd pob parti’n cytuno y dylai’r llys ddelio â’r cais heb wrandawiad
  • pan nad yw’r llys yn ystyried y byddai gwrandawiad yn addas.

Mae gwrandawiadau o bell ar gael ar gyfer ceisiadau ble mae gan o leiaf un o’r partïon sy’n ymwneud â’r achos gynrychiolaeth gyfreithiol yn unig. Ni fydd gwrandawiad dros y ffôn yn addas ar gyfer pob cais, ac mae’n bosibl y bydd y llys yn gwrthod eich cais.

Cwestiwn 6

Os nad ydych yn gwybod pa mor hir fydd y gwrandawiad, peidiwch â dyfalu, gadewch y blychau hyn yn wag.

Cwestiwn 7

Os oes dyddiad gwrandawiad neu gyfnod treial eisoes wedi’i ddynodi ar gyfer eich achos, nodwch fanylion y dyddiadau hynny yn y blwch.

Cwestiwn 8

Os gwrandewir eich achos yn yr Uchel Lys neu mewn Cofrestrfa Ddosbarth, nodwch ai Meistr, Barnwr Rhanbarth ynteu Farnwr fydd yn delio â’r achos.

Cwestiwn 9

Nodwch yn y blwch a ddarperir at bwy yr ydych eisiau i’r llys anfon copi o’r cais, a chyfeiriad i’w gyflwyno.

Cwestiwn 10

Yn yr adran hon, nodwch yr wybodaeth yr ydych eisiau i’r llys ei hystyried i gefnogi’ch cais.

Os ydych am ddibynnu ar:

  • ddatganiad tyst, ticiwch y blwch cyntaf ac atodi’r datganiad i’r hysbysiad cais.
  • datganiad achos, ticiwch yr ail flwch os ydych yn bwriadu dibynnu ar fanylion eich hawliad neu’ch amddiffyniad i gefnogi’ch cais.
  • tystiolaeth ysgrifenedig ar y ffurflen hon, ticiwch y trydydd blwch a nodi’r manylion yn y bwlch a ddarperir.

Rhaid i chi hefyd lenwi’r datganiad gwirionedd. Efallai y dygir achos o ddirmyg llys yn erbyn rhywun sy’n llofnodi datganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir.

Cwestiwn 11

Rhaid i chi ddweud wrth y llys os ydych yn credu eich bod chi, neu dyst a fydd yn rhoi tystiolaeth ar eich rhan, yn agored i niwed mewn unrhyw ffordd y mae angen i’r llys ei ystyried. Bydd angen i chi esbonio ym mha ffordd yr ydych chi neu’r tyst yn agored i niwed a pha gamau, cymorth neu addasiadau yr hoffech i’r llys a’r barnwr eu hystyried.

Cwestiwn 12

Rhaid i chi lofnodi’r cais a chynnwys manylion eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt presennol. Os ydych chi’n cytuno y gall y llys a’r partïon eraill gyfathrebu â chi drwy Gyfnewid Dogfennau, dros y ffôn, drwy ffacs neu e-bost, llenwch y manylion.

Cyn dychwelyd eich ffurflen i’r llys

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi:

  • llofnodi’r ffurflen ar dudalen 2
  • cynnwys y ffi gywir neu gais i ddileu’r ffi
  • gwneud digon o gopïau o’ch cais a’ch dogfennau ategol a dogfennaeth gefnogol - byddwch angen cyflwyno un copi i bob parti, ac un copi ar gyfer y llys.