Sut i wneud cyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri) am benderfyniad gwasanaethau ariannol
Diweddarwyd 10 Medi 2025
Ynglŷn â’r canllaw hwn
Mae’r canllaw hwn ar gyfer gwneud cyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys am benderfyniad a wnaed gan:
- yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus
- y Rheoleiddiwr Pensiynau
- Banc Lloegr
- prisiwr annibynnol a benodwyd o dan y Ddeddf Bancio (Darpariaethau Arbennig) 2008 neu’r Ddeddf Bancio 2009
Mae gwneud cyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys yn debyg i apelio penderfyniad. Pan fyddwch yn cyfeirio penderfyniad a wnaed gan un o’r cyrff hyn, maent yn ‘atebydd’ i’r cyfeiriad hwnnw.
Gallwch gyfeirio penderfyniad a wnaed gan un o’r sefydliadau a restrwyd yn uniongyrchol i’r Uwch Dribiwnlys - nid ydych angen gofyn am ganiatâd gan y Tribiwnlys Haen-gyntaf. Nid yw’r canllaw hwn yn cynnwys pob sefyllfa, nac yn darparu eglurhad llawn o’r rheolau gweithdrefnol.
Dylech hefyd ddarllen ein prif ganllaw i wneud apêl i’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri).
Ynglŷn â’r tribiwnlys
Mae’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri) yn gwrando cyfeiriadau am benderfyniadau a wnaed a hysbysiadau a gyflwynwyd gan y cyrff sy’n ymatebwyr a restrwyd ar ddechrau’r canllaw hwn. Mae penderfyniadau a hysbysiadau o’r fath yn cynnwys:
- awdurdodiad a chaniatâd i berfformio swyddogaethau mewn perthynas â gweithgareddau a reoleiddir
- cosbau am gamddefnyddio’r farchnad
- mesurau disgyblaeth
- rhestrau swyddogol o gyfranddaliadau
- atal neu wahardd ymddiriedolai pensiwn
- gosod hysbysiad cyfraniad pensiwn
- dirwyn cynllun pensiwn i ben
- rhewi cynllun pensiwn
Mae’r tribiwnlys yn cynnwys barnwyr arbenigol a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor sy’n annibynnol, a heb unrhyw gysylltiad â’r ymatebwyr.
Cefnogir y tribiwnlys gan swyddfa’r tribiwnlys, sy’n paratoi ffeiliau achos ar gyfer barnwyr, trefnu gwrandawiadau a delio gyda gohebiaeth. Lleolir y swyddfa yn Llundain.
Pwy all wneud cyfeiriad
Gallwch wneud cyfeiriad eich hun, neu benodi cynrychiolydd i weithredu ar eich rhan, os:
- oedd y penderfyniad a wnaed gan y corff atebydd wedi’i gyfeirio i chi
- oes hawl o fewn y gyfraith i wneud cyfeiriad
Bydd yr hysbysiad penderfyniad a anfonwyd atoch gan y corff atebydd yn egluro eich hawl i gyfeirio’r penderfyniad.
Mewn rhai achosion, gallwch gyfeirio penderfyniad sydd heb ei gyfeirio i chi ond sy’n effeithio arnoch chi - er enghraifft, os ydych yn bartner busnes, gweithiwr neu’n fuddiolwr pensiwn yr unigolyn a enwyd yn y penderfyniad. Byddwch angen bodloni’r Uwch Dribiwnlys eich bod wedi eich effeithio i raddau sy’n cyfiawnhau eich cyfeiriad.
Penodi cynrychiolydd
Gallwch benodi cynrychiolydd ar gyfer gwneud y canlynol:
- eich helpu i lenwi a chyflwyno eich hysbysiad cyfeirio
- delio gyda llythyrau gan swyddfa’r tribiwnlys
- gwneud ac ymateb i gyflwyniadau
- ymddangos o flaen y barnwr ar eich rhan os oes yna wrandawiad wyneb yn wyneb neu dros fideo
Gallwch benodi cyfreithiwr, cyfrifydd, neu unrhyw un arall (cymwys neu beidio) i weithredu fel eich cynrychiolydd, rhywun fel aelod o’r teulu neu ffrind.
Os oes gennych gynrychiolydd, mae’n rhaid i chi anfon hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa’r tribiwnlys o enw a chyfeiriad eich cynrychiolydd. Gallwch wneud hyn naill ai yn yr hysbysiad cyfeirio neu, os ydych eisoes wedi anfon yr hysbysiad, drwy lythyr, e-bost neu ddefnyddio gwasanaeth E-Ffeilio GLlTEF.
Os ydynt yn rhoi’r gorau i’ch cynrychioli, mae’n rhaid i chi hysbysu swyddfa’r tribiwnlys, fel arall bydd yn tybio eich bod yn parhau i gael eich cynrychioli a bydd yn anfon dogfennau at y cynrychiolydd, nid atoch chi.
Hyd yn oed os nad oes gennych gynrychiolydd i’ch helpu gyda chamau cychwynnol eich achos, gallwch ddod ag unigolyn arall i unrhyw wrandawiad personol neu fideo. Gyda chaniatâd y barnwr, gall yr unigolyn hwnnw weithredu fel eich cynrychiolydd neu eich cynorthwyo i gyflwyno eich achos yn y gwrandawiad.
Help gyda chymorth cyfreithiol
Mae yna gynllun cymorth cyfreithiol ar gyfer apeliadau a chyfeiriadau gan unigolion mewn perthynas â chosbau camddefnyddio’r farchnad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Os byddwch yn credu na allwch fforddio costau cyfreithiol cyfeiriad o’r fath, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth gyda chymorth cyfreithiol. Dylech ddewis yr opsiwn perthnasol yn yr adran ceisiadau ychwanegol o’r ffurflen. Bydd swyddfa’r tribiwnlys yn anfon gwybodaeth bellach atoch.
Os nad ydych yn gymwys, gallwch barhau i geisio cyngor gan gyfreithiwr.
Sut i wneud cyfeiriad
Lawrlwythwch y ffurflen (FTC3) gwneud cyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri)
Cyfeirir at y ffurflen fel yr ‘hysbysiad cyfeirio’ hefyd.
Dylech chi neu gynrychiolydd lenwi a llofnodi’r ffurflen a’i hanfon i swyddfa’r tribiwnlys. Rhaid i chi gynnwys copi o’r penderfyniad rydych yn ei herio.
Neu, gallwch gyflwyno’r ffurflen yn defnyddio gwasanaeth E-Ffeilio GLlTEF. Os ydych wedi penodi cynrychiolydd proffesiynol, rhaid iddynt ddefnyddio E-Ffeilio i gyflwyno’r ffurflen.
Rhaid i chi hefyd anfon copi o’r ffurflen a phenderfyniad at yr atebydd wnaeth y penderfyniad rydych yn dymuno ei gyfeirio.
Rhaid i’r ffurflen gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad ac enw a chyfeiriad eich cynrychiolydd, os oes gennych un. Rhaid i’r cyfeiriad ble rydych yn disgwyl i’ch gohebiaeth gael ei hanfon fod o fewn y DU.
Rhaid i’r tribiwnlys dderbyn y ffurflen dim hwyrach na 28 diwrnod o’r dyddiad wnaethoch dderbyn yr hysbysiad o benderfyniad gan yr atebydd.
Os ydych yn hwyr yn anfon eich ffurflen, dylech ofyn am estyniad amser ac egluro pam na wnaed eich cais mewn pryd. Mae yna le yn y ffurflen i gynnwys hyn. Fodd bynnag, oni bai bod y barnwr yn caniatáu amser ychwanegol i chi, ni dderbynnir eich cais, ac ni fyddwch yn gallu parhau.
Rhesymau dros gyfeirio’r penderfyniad
Dylech gynnwys materion yr ydych yn dymuno i’r tribiwnlys eu hystyried yn y ffurflen ac egluro pam eich bod yn cyfeirio’r penderfyniad i’r Uwch Dribiwnlys.
Dylai hyn gynnwys y rhesymau pam rydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir. Mae enghreifftiau o resymau o’r fath yn cynnwys:
- na wnaeth yr atebydd gymhwyso’r gyfraith gywir neu dehonglodd y gyfraith yn anghywir
- mae’r penderfyniad yn ffeithiol anghywir
- nid oedd gan yr atebydd dystiolaeth, neu ddigon o dystiolaeth, i gefnogi ei benderfyniad
- gwnaeth yr atebydd wall gweithdrefnol – dyma ble mae rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r broses a ddefnyddiwyd gan yr atebydd i wneud y penderfyniad
Rhaid i chi ddarparu’r manylion llawn pam eich bod yn credu bod y rhesymau hyn, neu eraill sydd gennych, i fod yn wir.
Os ydych yn ansicr p’un a oedd y penderfyniad yn anghywir ai peidio, efallai y dymunwch geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol.
Bydd gennych hefyd gyfle yn y ffurflen i wneud cais am gyfarwyddiadau penodol. Mae’r rhain yn gyfarwyddiadau y gall y tribiwnlys eu rhoi i unrhyw barti yn yr achos yn dilyn eu penderfyniad.
Costau
Nid oes yna ffi i wneud cyfeiriad neu apelio i’r tribiwnlys am benderfyniadau gwasanaethau ariannol.
Fodd bynnag, gall y tribiwnlys orchymyn eich bod yn talu costau’r atebydd os yw’n ystyried eich bod chi, neu eich cynrychiolydd wedi gweithredu’n afresymol. Gall y tribiwnlys hefyd orchymyn yr atebydd i dalu eich ffioedd os yw’n ystyried bod yr atebydd wedi gweithredu’n afresymol.
Bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd eich cynrychiolydd proffesiynol, os oes gennych un.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd y tribiwnlys yn adolygu eich hysbysiad cyfeirio i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol a’i fod yn cael ei dderbyn ar amser. Os nad ydych wedi bodloni’r holl ofynion, ni fydd y tribiwnlys yn ei dderbyn.
Os yw’r tribiwnlys wedi derbyn eich cais apelio, bydd y swyddfa yn anfon hysbysiad atoch chi a’r atebydd gyda’r dyddiad derbyn a chyfeirnod. Rhaid i chi ddyfynnu’r cyfeirnod hwn pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â’r tribiwnlys.
Mae gan yr atebydd yna 28 diwrnod i anfon ‘datganiad achos’ atoch chi a’r tribiwnlys, yn egluro’r rhesymau dros y penderfyniad. Dogfen yw hon gyda’r ffeithiau a’r materion yn cefnogi’r penderfyniad. Rhaid iddo gynnwys rhestr o’r dogfennau yr oedd yn dibynnu arnynt ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sydd ganddo. Gallwch ofyn i’r atebydd am gopïau o unrhyw ddogfen.
Mae gennych 28 diwrnod o’r dyddiad wnaethoch dderbyn y datganiad o’r achos i anfon ymateb ysgrifenedig at yr atebydd a’r tribiwnlys. Dylai eich ymateb nodi popeth yn y datganiad o’r achos yr ydych yn anghytuno ag ef a pham. Dylech hefyd anfon rhestr o’r holl ddogfennau rydych yn bwriadu dibynnu arnynt.
Yna bydd y cyfeiriad yn cael ei ystyried gan farnwr, fydd yn penderfynu p’un a ddylid cynnal gwrandawiad rhagarweiniol i benderfynu ar y camau pellach i’w cymryd cyn gwrandawiad y cyfeiriad. Yn yr achosion mwy syml, gall y barnwr benderfynu y dylai’r cyfeiriad fynd yn syth i wrandawiad terfynol. Os ydych yn credu y dylid cynnal gwrandawiad rhagarweiniol, dylech ddweud pam wrth anfon eich ymateb i’r tribiwnlys.
Tynnu cyfeiriad yn ôl
Os ydych eisiau tynnu eich cyfeiriad yn ôl, byddwch angen cytundeb y tribiwnlys. Dylech ysgrifennu at y tribiwnlys drwy’r post neu e-bost yn egluro eich rhesymau pam eich bod eisiau tynnu yn ôl. Os ydych yn tynnu yn ôl, ni fyddwch yn gallu ailddechrau’r achos yn ddiweddarach.
Os wnaeth rhywun arall yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad wneud y cyfeiriad, ni allwch dynnu allan o’r achos. Nid ydych angen cymryd rhan os nad ydych yn dymuno, ond gwneir penderfyniad pa un a ydych yn cymryd rhan ai peidio.
Y gwrandawiad
Bydd y tribiwnlys fel arfer yn penderfynu ar apêl mewn gwrandawiad. Dyma pryd mae’r partïon ac unrhyw gynrychiolwyr yn cwrdd gyda’r tribiwnlys i wrando’r achos. Bydd hyn fel arfer yn digwydd wyneb yn wyneb yn yr Adeilad Rolls, Fetter Lane, Llundain. Cynhelir weithiau mewn canolfannau llys eraill neu drwy fideo os oes unrhyw barti yn methu teithio.
Gallwch ofyn am benderfyniad i’ch apêl heb wrandawiad - dyma pryd mae’r barnwr yn ystyried y dogfennau a ddarparwyd gan y partïon yn unig. Bydd barnwr yn penderfynu p’un a ddylid penderfynu ar apêl heb wrandawiad ar ôl cymryd barn yr atebydd a budd cyfiawnder i ystyriaeth.
Yn y gwrandawiad
Bydd swyddfa’r tribiwnlys yn ceisio trefnu dyddiad gwrandawiad sy’n gyfleus i chi a’r atebydd. Unwaith y trefnwyd dyddiad ar gyfer gwrandawiad, bydd yn anfon llythyr atoch gyda manylion y dyddiad, amser a lleoliad. Byddwch yn derbyn o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad gwrandawiad, oni bai eich bod chi a’r atebydd wedi cytuno ar hysbysiad byrrach.
Mae gwrandawiadau fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus oni bai bod y barnwr yn rhoi cyfarwyddyd i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat. Os hoffech i’ch gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat, dylech egluro pam yn y ffurflen - bydd y barnwr yn gwneud y penderfyniad. Bydd yn rhaid i chi roi rheswm da, fel angen dilys i warchod eich hunaniaeth, neu os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif. Nid yw’r ffaith y trafodir eich sefyllfa bersonol yn ddigon fel arfer.
Bydd gan yr atebydd a’ch cynrychiolydd, os oes gennych un, hefyd hawl i fynychu’r gwrandawiad.
Mae gwrandawiadau fel arfer gyda barnwr a hyd at 2 aelod nad ydynt yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol o’r Uwch Dribiwnlys. Mewn rhai achosion, gall y barnwr wrando’r achos heb aelod nad yw’n gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol. Gall 2 neu 3 barnwr wrando achosion prin sy’n codi pwynt arbennig o bwysig neu anodd o’r gyfraith.
Ni fydd y barnwr fel arfer yn rhoi penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad. Bydd y swyddfa yn ei anfon atoch chi a phob parti arall ar ôl i’r gwrandawiad gael ei gynnal. Hyd yn oed os ydych wedi cael gwybod y penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y swyddfa yn anfon penderfyniad ysgrifenedig.
Os na allwch fynychu’r gwrandawiad
Os nad ydych yn gallu mynychu gwrandawiad a drefnwyd, hysbyswch swyddfa’r tribiwnlys cyn gynted â phosibl drwy e-bost neu ddefnyddio gwasanaeth E-Ffeilio GLlTEF. Dylech hefyd hysbysu’r atebydd a bod yn barod i gytuno ar ddyddiad gwrandawiad arall.
Os ydych eisiau gohirio’r gwrandawiad, eglurwch pam pan fyddwch yn cysylltu â’r swyddfa - bydd y barnwr yn penderfynu beth ddylai ddigwydd. Ni ddylech gymryd y caiff gwrandawiad ei ganslo oherwydd eich bod wedi gofyn - unwaith y trefnwyd, bydd gwrandawiad yn parhau oni bai bod y tribiwnlys yn dweud ei fod wedi’i ganslo. Gall y barnwr benderfynu mynd ymlaen â’r gwrandawiad hebddoch chi.
Os na fyddwch yn mynychu’r gwrandawiad, bydd y barnwr yn penderfynu pa un ai i barhau hebddoch chi. Os byddwch yn rhedeg yn hwyr ar eich ffordd i’r gwrandawiad, dylech wneud pob ymdrech i gysylltu â’r swyddfa i adael iddynt wybod ar unwaith.
Penderfyniad y tribiwnlys
Bydd swyddfa’r tribiwnlys yn anfon copi o’r penderfyniad atoch, neu eich cynrychiolydd os oes gennych un, a’r partïon eraill.
Bydd y barnwr yn rhoi rhesymau dros ganiatáu neu wrthod y cyfeiriad - oni bai y rhoddwyd y rhesymau yn y gwrandawiad a bod pob parti wedi cytuno nad oes eu hangen yn y penderfyniad ysgrifenedig.
Os bydd y tribiwnlys yn gwrthod eich cyfeiriad, neu os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad, mae gennych yr hawl i apelio. Bydd yr wybodaeth am eich hawl i apelio yn cael ei chynnwys gyda’r penderfyniad.
Os bydd y tribiwnlys yn caniatáu eich cyfeiriad neu’n gwrthod achos parti arall, mae’n bosibl y bydd y parti hwnnw’n dymuno apelio.
Herio penderfyniad y tribiwnlys
Os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad, gallwch:
- wneud cais i’r tribiwnlys i benderfyniad gael ei ‘roi o’r neilltu’ – mae hyn yn golygu naill ai newid y gorchymyn neu ei ganslo’n gyfan gwbl
- apelio i’r Llys Apêl neu Lys y Sesiwn yn erbyn y penderfyniad – byddwch angen caniatâd i wneud hyn
Mae gan unrhyw barti arall yr un hawliau i wneud cais i’r penderfyniad gael ei roi o’r neilltu neu apelio fel sydd gennych chi.
Gwneud cais i’r penderfyniad gael ei newid neu ganslo (rhoi o’r neilltu)
Gall y tribiwnlys ganslo penderfyniad, neu ran o benderfyniad a’i ailwneud. Bydd ond yn gwneud hyn os bu camgymeriad neu flerwch yn yr achos a bod y barnwr yn ystyried ei fod er budd cyfiawnder i ailystyried y penderfyniad.
Er enghraifft, os bydd dogfen sy’n ymwneud â’r achos wedi mynd ar goll neu os nad oedd parti, neu eu cynrychiolydd yn y gwrandawiad.
Dylech ymgeisio yn ysgrifenedig i’r tribiwnlys drwy e-bost, post neu wasanaeth E-Ffeilio GLlTEF gyda’ch rhesymau o fewn mis o dderbyn y penderfyniad.
Apelio i’r Llys Apêl neu Lys y Sesiwn
Gallwch ond apelio penderfyniad y tribiwnlys os ydych yn credu ei fod wedi gwneud gwall cyfreithiol. Ni allwch apelio yn seiliedig ar ganfyddiad ffeithiol.
I’ch helpu i ddeall os oes gennych hawl i apelio, ac oherwydd y gallwch fod yn atebol am gostau cyfreithiol os ydych, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cael cyngor cyfreithiol.
Os ydych yn credu, neu wedi derbyn cyngor cyfreithiol, bod gennych hawl i apelio, yn gyntaf mae’n rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i apelio gan yr Uchel Lys. Dylai’r tribiwnlys dderbyn eich apêl o fewn 14 diwrnod i chi dderbyn y mwyaf diweddar neu berthnasol o’r canlynol:
- hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad a anfonir atoch
- rhesymau a ddiweddarwyd ar gyfer y penderfyniad, neu gywiriad ohono, yn dilyn adolygiad y tribiwnlys
- cadarnhad nad yw eich cais i ganslo neu newid y penderfyniad wedi bod yn llwyddiannus
Gall barnwr y tribiwnlys ymestyn eich terfyn amser i ymateb os ydynt yn fodlon bod yna reswm da am estyniad, fel profedigaeth neu salwch difrifol wedi gohirio eich apêl.
Dylech wneud eich cais yn ysgrifenedig drwy’r post, e-bost neu wasanaeth E-Ffeilio GLlTEF. Mae’n rhaid i hyn nodi ble rydych yn meddwl mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriadau cyfreithiol. Dylech hefyd gynnwys y canlyniad yr ydych yn gofyn amdano - er enghraifft, efallai y byddwch eisiau:
- i’r penderfyniad gael ei newid neu ei ganslo (rhoi o’r neilltu) a gwneud penderfyniad newydd
- gofyn am wrandawiad newydd
Sut mae’r tribiwnlys yn ystyried eich cais am ganiatâd i apelio
Pan mae’r tribiwnlys yn derbyn eich cais am ganiatâd i apelio, caiff ei ystyried gan farnwr. Gallant benderfynu adolygu’r penderfyniad a gallent ei ganslo, newid y rhesymau neu ei gywiro os:
- wrth wneud eu penderfyniad, bod y barnwr wedi archwilio penderfyniad y llys o achos blaenorol oedd yn gosod cynsail cyfreithiol y mae rhaid ei ddilyn
- mae llys uwch eisoes wedi gwneud penderfyniad arall a allai fod wedi effeithio ar benderfyniad y tribiwnlys os gwnaed yn gynt
Bydd y tribiwnlys yn hysbysu’r partïon yn ysgrifenedig am ganlyniad unrhyw adolygiad.
Os nad yw’r tribiwnlys yn adolygu neu newid y penderfyniad, dylai benderfynu pa un ai i roi caniatâd i chi apelio i’r Llys Apêl (yng Nghymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon) neu Lys y Sesiwn (yn yr Alban). Bydd yn cofnodi’r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig ac os yw’n gwrthod caniatâd yn llawn neu’n rhannol, bydd yn rhoi rhesymau dros wrthod.
Sut i apelio neu ymgeisio i’r Llys Apêl neu Lys y Sesiwn
Os bydd y tribiwnlys yn rhoi caniatâd i chi, yna gallwch apelio i’r Llys Apêl neu Lys y Sesiwn.
Os yw’r tribiwnlys yn gwrthod caniatâd i apelio, yna gallwch ymgeisio am ganiatâd yn uniongyrchol i’r Llys Apêl neu Lys y Sesiwn.
Mae terfynau amser y Llys Apêl a Llys y Sesiwn yn fyr, felly os ydych yn dymuno apelio iddynt am ganiatâd i apelio, dylech gysylltu â nhw gynted â phosibl.
Ymgeisio neu apelio i’r:
Cymorth ac arweiniad pellach
Rhagor o wybodaeth am apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri).
Cysylltu â’r tribiwnlys
Uwch Dribiwnlys (Siambr Treth a Siawnsri)
5ed Llawr
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
DX: 160042 Strand 4
Rhif ffôn: 020 7612 9730
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ebost: uttc@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb i negeseuon e-bost o fewn 5 diwrnod.
Ni all y tribiwnlys na swyddfa’r tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol. Efallai y byddwch yn dymuno siarad gyda chynghorydd cyfreithiol.
Deddfwriaeth
Mae’r gyfraith sy’n llywodraethu ceisiadau ac apeliadau i’r Uwch Dribiwnlys yn cynnwys:
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Uwch Dribiwnlys) 2008
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio) 2009
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio Rhif 2) 2009
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio) 2010
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio Rhif 2) 2010
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio Rhif 3) 2010
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Uwch Dribiwnlys) (Diwygio) 2010
- Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Diwygio Rhif 2) 2013