Canllawiau

Gwybodaeth am faint fydd yn rhaid i chi dalu tuag at ffi llys neu dribiwnlys: EX160C

Defnyddiwch y gyfrifiannell dileu ffioedd i weithio allan faint o arian fydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at ffi llys neu dribiwnlys ac os ydych yn gymwys am help i dalu’r ffi. Dylech hefyd ddarllen y canllaw ‘Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd (EX160A).

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Cyfrifiannell dileu ffioedd: EX160C – ar gyfer Microsoft Excel

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cyfrifiannell dileu ffioedd: EX160C – fformat safonau agored

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch wneud cais am help i dalu ffi llys neu dribiwnlys: 

Defnyddiwch y gyfrifiannell i weithio allan a ydych yn gymwys am help i dalu ffioedd yn seiliedig ar eich:   

  • incwm – faint o arian rydych yn ei ennill drwy waith am dâl ac yn ei dderbyn drwy ffynonellau eraill
  • cyfalaf gwario – cyfanswm gwerth eich asedau (yr arian, eiddo a’r stociau neu gyfranddaliadau sydd gennych) llai lwfansau penodol neu bethau a ddiystyrir

Darllenwch Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd:(EX160A) am ganllawiau llawn ar gymhwysedd, gan gynnwys beth sy’n cyfrif tuag at eich cyfalaf gwario ac incwm. 

Cyfrifo incwm 

Os ydych yn cyfrifo ar incwm, byddwch yn rhoi eich gwybodaeth chi ac (os yn briodol) eich partner. Yna, bydd yn dangos eich ‘cyfraniad uchaf’.  

Y cyfraniad uchaf yw faint o arian y byddech wedi’i dalu tuag at unrhyw ffi yn seiliedig ar eich incwm. Er enghraifft, am ffi o £100 byddai uchafswm cyfraniad o £80 yn golygu y disgwylir i chi dalu £80 yn unig - byddai’r £20 sy’n weddill yn cael ei ‘ddileu’ (wedi’i dynnu oddi ar yr hyn rydych angen ei dalu). 

Cyfrif cyfalaf gwario 

Os ydych yn cyfrif ar gyfalaf gwario, byddwch yn rhoi eich gwybodaeth chi ac (os yn briodol) eich partner, a gwerth y ffi. Yna dangosir pa un a ydych yn gymwys.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2026

Argraffu'r dudalen hon