Canllawiau

Taflen wybodaeth – Ymateb Llawn y Llywodraeth ynghylch Niweidiau Ar-lein

We've announced new rules for tech firms around online harms — below are answers to questions surrounding the Full Government Response.

Dogfennau

Fact Sheet — Online Harms Full Government Response

Manylion

Beth yr ydym yn mynd i’w wneud?

Mae ymateb y llywodraeth yn amlinellu cynlluniau ar gyfer deddfau newydd i wneud y DU yn lle mwy diogel i fod ar-lein, wrth sicrhau mesurau diogelwch cryf ar gyfer rhyddid barn. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn barod y flwyddyn nesaf.

Beth mae hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr?

Bydd ein deddfau diogelwch ar-lein newydd yn gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i bawb yn y DU, yn enwedig plant, wrth sicrhau bod pawb yn gallu arfer eu hawl i ryddid barn ar-lein.

  • Plant: I blant, bydd y deddfau newydd hyn yn golygu bod yn rhaid i bob cwmni sydd o fewn y cwmpas weithredu i fynd i’r afael â gweithgaredd anghyfreithlon sy’n bygwth diogelwch plant. Yn ogystal, bydd angen i blatfformau y mae plant yn debygol o’u defnyddio:
  • atal mynediad at ddeunydd sy’n amhriodol i blant, megis pornograffi
  • sicrhau bod amddiffyniadau cryf rhag cynnwys sy’n niweidiol i blant, megis bwlio
  • Oedolion:
  • Dylai fod yn llawer llai tebygol y dewch ar draws deunydd anghyfreithlon ar-lein. Os byddwch yn gweld y fath ddeunydd, bydd yn hawdd rhoi gwybod i’r cwmni, a fydd yn gorfod gweithredu’n gyflym a’i ddileu.
  • Byddwch yn glir pa gynnwys cyfreithlon sy’n dderbyniol ar blatfformau prif ddarparwyr gwasanaethau, a sut i gwyno pan â phethau o chwith. Byddwch yn gallu postio a chael mynediad at gynnwys cyfreithlon a allai beri tramgwydd neu ofid i rai ond, yn y dyfodol, byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am y gwasanaethau ar-lein rydych yn eu defnyddio a byddwch hefyd yn gallu ymddiried y bydd y platfformau’n cadw’r addewidion y maent yn eu gwneud yn eu telerau ac amodau.

Ar ba gwmnïau y bydd ein deddfau newydd yn effeithio?

Bydd y deddfau’n berthnasol i gwmnïau sy’n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr megis delweddau, fideos a sylwadau, neu sy’n caniatáu i ddefnyddwyr y DU siarad â phobl eraill ar-lein drwy negeseuon, sylwadau a fforymau. Byddant hefyd yn berthnasol i beiriannau chwilio oherwydd eu bod yn chwarae rhan sylweddol wrth alluogi unigolion i gael mynediad at gynnwys niweidiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys y platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf o ran maint a phoblogrwydd megis Facebook, Instagram a Twitter. Mae hefyd yn cynnwys ystod eang o wefannau, megis gwefannau hapchwarae, fforymau ac apiau negeseuon, a gwefannau pornograffi masnachol.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau diogelwch ar gyfer rhyddid barn a phlwraliaeth ar-lein – gan ddiogelu hawliau pobl i gymryd rhan yn y gymdeithas a chymryd rhan mewn dadl gadarn. Ni fydd y deddfau’n effeithio ar yr erthyglau a’r adrannau sylwadau ar wefannau newyddion.

Pa fathau o gynnwys niweidiol fydd yn y cwmpas?

Bydd y deddfau newydd yn berthnasol i gynnwys y mae’r risg o effaith gorfforol neu seicolegol niweidiol sylweddol ar unigolion yn rhesymol ragweladwy. Bydd y ddeddfwriaeth yn amlinellu categorïau blaenoriaeth ar gyfer cynnwys niweidiol, ac yn benodol bydd yn egluro pa gynnwys y mae’n rhaid amddiffyn plant rhagddo. Bydd rhai categorïau o gynnwys niweidiol yn cael eu heithrio’n benodol, er mwyn osgoi dyblygu rheoliadol. Bydd hyn yn darparu sicrwydd cyfreithiol i gwmnïau a defnyddwyr, ac yn blaenoriaethu camau gweithredu ar y bygythiadau mwyaf o niwed.

Beth fydd yn rhaid i gwmnïau ei wneud?

Bydd angen i bob cwmni o fewn y cwmpas fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon ar eu gwasanaethau a diogelu plant rhag cynnwys niweidiol ac amhriodol, megis cynnwys pornograffig neu dreisgar. Bydd gan y rheoleiddiwr bwerau ychwanegol i sicrhau bod cwmnïau’n cymryd camau arbennig o gadarn i fynd i’r afael â gweithgaredd terfysgol ac achosion o gamfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein.

Bydd angen i nifer fach o’r cwmnïau mwyaf nodi hefyd pa fath o gynnwys cyfreithlon sy’n dderbyniol i oedolion gael mynediad ato ar eu gwefannau yn eu telerau ac amodau. Bydd y deddfau newydd yn sicrhau bod eu telerau ac amodau yn gynhwysfawr, yn glir ac yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr. Bydd angen i’r cwmnïau hyn orfodi eu telerau ac amodau yn dryloyw, yn gyson ac yn effeithiol. Bydd y dull hwn yn sicrhau camau gweithredu mwy effeithiol i fynd i’r afael â chynnwys a waherddir gan gwmnïau ac i sicrhau nad yw cwmnïau’n dileu safbwyntiau dadleuol yn fympwyol.

Bydd y gofynion yn gymesur, gan adlewyrchu gwahanol faint, adnoddau a phroffil risg y cwmnïau sydd o fewn y cwmpas. Bydd ein deddfau newydd yn mynnu gwelliannau o ran sut mae cwmnïau’n ymateb i gŵynion, drwy osod disgwyliadau y mae’n rhaid i’r mecanweithiau hynny eu bodloni. Bydd angen i bob cwmni fod â ffyrdd clir a hygyrch i ddefnyddwyr, gan gynnwys plant, roi gwybod am gynnwys niweidiol neu apelio yn erbyn cynnwys a gaiff ei ddileu ar gam.

Sut y bydd hyn yn newid yr hyn y mae cwmnïau’n ei wneud ar hyn o bryd?

Mae gan lawer o gwmnïau fesurau eisoes i fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon ac i ddiogelu plant ar eu gwasanaethau. Mae gan rai cwmnïau hefyd eu telerau ac amodau eu hunain neu ‘ganllawiau cymunedol’ ar gyfer y math o gynnwys ac ymddygiad y byddant yn ei dynnu o’u gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae diffyg cyfatebiaeth rhwng y polisïau hyn a phrofiadau defnyddwyr o gynnwys niweidiol ar-lein. Bydd angen i gwmnïau ystyried y risgiau a achosir gan eu gwasanaethau a sicrhau eu bod yn cymryd camau synhwyrol i ddiogelu eu defnyddwyr. Bydd angen i gwmnïau hefyd sicrhau bod ganddynt systemau da ar waith i ymateb i gŵynion gan ddefnyddwyr.

Pwy fydd yn goruchwylio ac yn gorfodi’r fframwaith?

Bydd Ofcom, y rheoleiddiwr cyfathrebu, yn cael ei benodi’n rheoleiddiwr newydd ar gyfer niweidiau ar-lein.

Bydd Ofcom yn helpu cwmnïau i gydymffurfio â’r deddfau newydd drwy gyhoeddi codau ymarfer. Bydd y codau ymarfer yn amlinellu’r camau y dylai cwmni eu cymryd i gydymffurfio â’r gyfraith. Bydd Ofcom hefyd yn gorfodi’r rheolau gyda phwerau llym i weithredu yn erbyn cwmnïau drygionus. Os nad yw cwmnïau’n cyflawni eu cyfrifoldebau, bydd Ofcom yn gallu rhoi dirwyon o hyd at £18m neu 10% o gyfanswm eu trosiant blynyddol, pa un bynnag yw’r uchaf, neu atal gwasanaethau rhag gweithredu.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gosod sancsiynau troseddol ar uwch-reolwyr sy’n methu â chydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth gan y rheoleiddiwr. Fodd bynnag, ni fydd y llywodraeth yn cyflwyno’r pwerau hyn oni bai bod cwmnïau’n methu â chymryd y rheolau newydd o ddifrif.

Pa gwmnïau fydd yn cael eu heithrio o’r deddfau newydd hyn?

Mae cymesuredd yn rhan allweddol o’n fframwaith rheoleiddio, ac felly byddwn yn eithrio nifer o wasanaethau o’r deddfau newydd hyn. Mae hyn yn cynnwys y busnesau hynny yr ydym yn asesu eu bod yn rhai ‘risg isel’, megis adolygiadau a sylwadau ar gynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan gwmni, yn ogystal â sylwadau ‘islaw’r llinell’ ar erthyglau a blogiau. Bydd eithriadau ychwanegol ar waith ar gyfer:

  • gwasanaethau e-bost, galwadau llais, a negeseuon testun SMS/MMS
  • gwasanaethau ar-lein a reolir gan sefydliadau addysgol, gan fod y rhain eisoes yn ddarostyngedig i reoliadau ar wahân
  • gwasanaethau a ddefnyddir gan sefydliadau ar gyfer busnes mewnol, megis platfformau cydweithio tîm a storfeydd mentrau

Sut y bydd y deddfau newydd yn mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth?

Bydd y ddyletswydd gofal yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau fynd i’r afael â niweidiau sy’n digwydd ar eu platfformau, megis camwybodaeth a thwyllwybodaeth ynghylch brechlynnau.

Bydd gan y deddfau newydd fesurau cadarn a chymesur i ddelio â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth a allai beri niwed corfforol neu seicolegol sylweddol i unigolyn. Bydd angen i wasanaethau y mae plant yn eu defnyddio ddiogelu defnyddwyr dan oed rhag twyllwybodaeth niweidiol. Bydd yn ofynnol i’r gwasanaethau sydd â’r cynulleidfaoedd mwyaf ac ystod o nodweddion risg uchel amlinellu polisïau clir ar dwyllwybodaeth niweidiol y caiff oedolion fynediad ati.

Bydd angen i’r cwmnïau hyn nodi pa gynnwys sy’n dderbyniol ac sy’n annerbyniol yn eu telerau ac amodau. Gall y cynnwys hwnnw gynnwys sawl math o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, megis cynnwys gwrth-frechu ac anwireddau am COVID-19. Bydd angen i gwmnïau orfodi hyn yn effeithiol. Os nad yw’r hyn sy’n ymddangos ar eu platfformau yn cyd-fynd â’r addewidion a wnaed i ddefnyddwyr, bydd Ofcom yn gallu cymryd camau gorfodi. Yn barod, mae disgwyl i gwmnïau gael gwared ar dwyllwybodaeth anghyfreithlon, er enghraifft pan mae hyn yn cynnwys anogaeth uniongyrchol i drais.

Bydd y fframwaith rheoleiddio hefyd yn cynnwys mesurau ychwanegol i fynd i’r afael â thwyllwybodaeth, gan gynnwys: * gweithgor arbenigol * gofynion o ran tryloywder wrth adrodd * darpariaethau i hybu gwydnwch cynulleidfaoedd drwy lythrennedd cyfryngau * cefnogi ymchwil i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth

Sut y byddwch yn diogelu rhyddid i lefaru ar-lein?

Bydd ein dull yn diogelu rhyddid barn a phlwraliaeth ar-lein, gan amddiffyn hawliau pobl i gymryd rhan yn y gymdeithas a chymryd rhan mewn dadl gadarn ar-lein. Nid yw’r deddfau hyn yn ymwneud â gorfodi rheoliadau gormodol neu ddileu cynnwys gan y wladwriaeth; yn hytrach, diben y deddfau yw sicrhau bod gan gwmnïau y systemau a’r prosesau ar waith i sicrhau diogelwch defnyddwyr.

Byddwn yn diogelu rhyddid barn ar-lein drwy sicrhau bod y fframwaith yn seiliedig ar risg ac yn canolbwyntio ar systemau a phrosesau. Rydym yn cydnabod bod gan oedolion yr hawl i gael mynediad at gynnwys a allai beri tramgwydd a gofid i rai ac, o’r herwydd, ni fydd y rheoliad hwn yn atal oedolion rhag postio neu gael mynediad at gynnwys cyfreithlon, nac yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau gael gwared ar ddarnau penodol o gynnwys cyfreithlon.

A fydd platfformau negeseuon preifat o fewn y cwmpas?

Mae cyfran sylweddol o’r achosion mwyaf ffiaidd ac anghyfreithlon o gamfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol yn digwydd ar sianeli preifat, megis negeseuon uniongyrchol a grwpiau caeedig yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyd yn oed gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at blant ifanc yn cynnwys swyddogaethau negeseua uniongyrchol.

Bydd angen i blatfformau gymryd mesurau i wneud eu sianeli preifat yn fwy diogel hefyd. Y rheoleiddiwr, Ofcom, fydd yn penderfynu ar y mesurau hyn, ond gallent gynnwys gwneud y sianeli hyn yn fwy diogel drwy ddylunio pwrpasol, megis cyfyngu ar y gallu i oedolion anhysbys gysylltu â phlant.

Yn y pen eithaf, bydd Ofcom yn gallu ei gwneud yn ofynnol i blatfform ddefnyddio technoleg dra chywir i sganio sianeli cyhoeddus a phreifat ar gyfer deunydd sy’n cynnwys enghreifftiau o gam-drin plant yn rhywiol. Mae’r pŵer hwn yn angenrheidiol i fynd i’r afael â chamfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein, ond bydd yn destun mesurau diogelwch llym i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr. Bydd defnyddio offer tra chywir yn sicrhau nad effeithir ar gynnwys cyfreithlon. Er mwyn defnyddio’r pŵer hwn, bydd yn rhaid i Ofcom fod yn sicr na fyddai unrhyw fesurau eraill yr un mor effeithiol a bod tystiolaeth o broblem eang ar wasanaeth.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2020