Canllawiau

Taliadau ex gratia gan elusennau (CC7)

Yr hyn y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ei wneud os ydynt am wneud taliad ex gratia o gronfeydd elusen.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Gallai fod eisiau gwneud taliad nad yw’n cefnogi ei nodau ar elusen, ond sy’n foesol gywir yn eu barn nhw. Gelwir hyn yn daliad ‘ex gratia’. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr benderfynu os oes rhwymedigaeth foesol glir i wneud y taliad, ac yna gwneud cais am ganiatâd gan y Comisiwn Elusennau.

Er enghraifft, gall ewyllys rhywun adael arian i’w rannu rhwng perthnasau ac elusen. Os yw’r unigolyn wedyn yn drafftio ewyllys i gynnwys ŵyr/wyres newydd, ond yn marw cyn gallu gweithredu’r ewyllys, gall yr elusen deimlo rheidrwydd moesol i roi rhywfaint o’i chyfran i’r ŵyr/wyres.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r drefn y mae angen i ymddiriedolwyr ddilyn. Unwaith y bydd yr ymddiriedolwyr wedi penderfynu eu bod am wneud taliad moesol, gallant wneud cais ar-lein am gymeradwyaeth gan y comisiwn.

Cyhoeddwyd ar 1 May 2014