Canllawiau

Deddf Cydraddoldeb: canllaw i elusennau

Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r rheol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n caniatáu i elusen wahaniaethu drwy gyfyngu ar y grŵp o bobl y mae'n ei helpu.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail nodwedd warchodedig mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Mae rhai eithriadau i hyn, ac un ohonynt yw’r eithriad i elusennau. Mae’r canllaw hwn yn esbonio:

  • beth mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei warchod
  • sut mae’r eithriad i elusennau yn gweithio yn ymarferol
  • beth mae’n rhaid i elusennau ei wneud i gydymffurfio â’r Ddeddf
  • eithriadau eraill o waharddiadau’r Ddeddf ar wahaniaethu a allai fod yn berthnasol i elusennau
Cyhoeddwyd ar 22 February 2013