Canllawiau

Deddf Cydraddoldeb canllaw i elusennau

Cyhoeddwyd 22 February 2013

Applies to England and Wales

1. Am beth mae’r canllaw hwn?

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r rheol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy’n caniatáu i elusen wahaniaethu drwy gyfyngu ar y grŵp o bobl y mae’n ei helpu.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn galw hwn yr eithriad i elusennau.

Mae’r canllaw hwn hefyd yn crynhoi (yn adran 8) nifer o eithriadau eraill yn y Ddeddf sy’n caniatáu i elusen gyfyngu’r grŵp o bobl y mae’n ei helpu neu dargedu buddion at grwpiau arbennig.

2. Sut mae’r canllaw hwn wedi newid?

Mae’r canllaw hwn yn fersiwn estynedig o’r crynodeb a gynhyrchodd y comisiwn ym Medi 2010.

Mae’n cynnwys:

  • rhagor o wybodaeth ynghylch sut y mae’r eithriad i elusennau yn gymwys mewn amgylchiadau gwahanol
  • enghreifftiau esboniadol
  • rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae eithriadau eraill y Ddeddf yn gymwys i rai elusennau

Mae’r comisiwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr eithriad i elusennau a’r prif faterion sy’n codi ar gyfer elusennau oherwydd nid oes canllawiau manwl am yr eithriad i elusennau ar gael o ffynonellau eraill.

Mae’n bosib y bydd angen cyngor arbenigol ar elusennau sydd ag ymholiadau cymhleth ynghylch sut mae eithriadau’r Ddeddf yn berthnasol iddyn nhw.

3. Am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf)

3.1 Beth yw effaith gyffredinol y Ddeddf?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail nodwedd warchodedig mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Mae rhai eithriadau i hyn, gan gynnwys yr eithriad i elusennau.

3.2 Beth yw nodweddion gwarchodedig?

Mae’r canlynol yn nodweddion gwarchodedig:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhywedd
  • cyfeiriadedd rhywiol

Cewch ragor o wybodaeth am ystyr nodweddion gwarchodedig ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn y canllaw hwn, pan fydd y comisiwn yn cyfeirio at bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, mae’n cynnwys grwpiau o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig.

3.3 Ydy pob rhan o’r Ddeddf wedi cael ei gweithredu?

Ydyn. Daeth y rhan fwyaf o’r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010, gan gynnwys darpariaethau sy’n berthnasol i eithriad elusennau. Daeth amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i rym ym mis Hydref 2012.

3.4 Ble alla i gael canllawiau pellach?

Mae Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO) a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hwaliau Dynol (EHRC) wedi cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau ymarferol i’r Ddeddf. Mae dolenni i’r canllawiau wedi’u rhestru yn adran 9.

4. Am yr eithriad i elusennau

4.1 Beth yw’r eithriad i elusennau?

Mae’r eithriad i elusennau yn caniatáu i elusen gyfyngu ei buddion i bobl sydd â nodwedd warchodedig. Er y gall hyn eithrio (ac felly gwahaniaethu yn erbyn) pobl â nodweddion gwarchodedig eraill, fe’i caniateir:

  • os yw dogfen lywodraethol yr elusen dim ond yn caniatáu i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig i gael budd, ac
  • os oes modd cyfiawnhau’r cyfyngiad drwy ddefnyddio un o’r profion a ddisgrifir isod

Y profion sy’n gymwys yw:

Prawf A Mynd i’r afael ag anfantais. Mae’r prawf hwn wedi’i fodloni os mai nod elusen yw rhoi sylw i anfantais arbennig a wynebir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig.

Prawf B Cyflawni nod cyfreithlon. Mae Prawf B yn gymwys pan nad yw elusen yn rhoi sylw i anfantais arbennig ond yn ceisio cyflawni rhyw nod cyfreithlon arall mewn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (‘cymesur’).

Mae Adran 5 isod yn esbonio sut mae’r profion yn gymwys.

4.2 Pa elusennau sy’n cael eu heffeithio gan yr eithriad i elusennau?

Mae’r eithriad i elusennau yn effeithio ar sefydliadau sy’n gwneud cais i gofrestru fel elusennau yn ogystal ag elusennau sy’n bod fel a ganlyn:

  • Sefydliadau sy’n ceisio cofrestru fel elusennau sydd am gyfyngu buddion i bobl sydd â nodwedd warchodedig. Gall y comisiwn gofrestru’r sefydliadau hyn fel elusennau dim ond os yw’r cyfyngiad wedi’i awdurdodi’n benodol gan y ddogfen lywodraethol ac wedi’i gyfiawnhau gan un o’r profion a ddisgrifir uchod. Os nad yw’r meini prawf hyn wedi’u bodloni mae’n bosib na fydd y comisiwn gofrestru’r sefydliad oherwydd nid yw’n debygol o allu dangos ei fod er budd y cyhoedd.
  • Bydd rhaid i elusennau sy’n bod gwirio unrhyw gyfyngiadau o’r fath hefyd yn eu dogfen lywodraethol. Bydd rhaid iddynt wirio a yw un o’r ddau brawf a ddisgrifir uchod yn gymwys. Os na, bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr newid dibenion yr elusen.

Er mwyn gwirio a yw’r eithriad i elusennau yn gymwys, dilynwch y camau yn adran 6.

Mae eithriadau eraill yn y Ddeddf sy’n caniatáu i elusen dargedu buddion neu wasanaethau at grwpiau arbennig. Mae Adran 8 yn crynhoi’r eithriadau allweddol eraill yn y Ddeddf sy’n berthnasol i elusennau.

4.3 Pa elusennau sydd heb eu heffeithio gan yr eithriad i elusennau?

Nid yw elusennau wedi’u heffeithio gan yr eithriad i elusennau yn yr amgylchiadau canlynol.

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all gael budd

Enghraifft: dim cyfyngiad ar bwy all gael budd

Nid oes unrhyw gyfyngiad gan elusen tai yn ei dogfen lywodraethol ar bwy y gall ei helpu. Nid yw wedi’i heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd mae’r eithriad yn gymwys dim ond os yw buddion wedi’u cyfyngu.

Mae cyfyngiad ar bwy all gael budd, ond nid yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig.

Enghraifft: cyfyngiad heb ei seilio ar nodwedd warchodedig

Mae elusen tai yn darparu gwasanaethau i bobl sy’n byw mewn tref arbennig. Dim ond trigolion lleol all ddefnyddio gwasanaethau’r elusen. Nid yw’r elusen wedi’i heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd nid yw lle preswylio yn nodwedd warchodedig.

Os oes cyfyngiad ar y sawl a all gael budd nad yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig, gallai hyn arwain at yr hyn a elwir yn wahaniaethu anuniongyrchol. Mae Adran 7.5 yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut i osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol yn yr amgylchiadau hyn.

Gall cyfyngiad gael ei gyfiawnhau drwy ddefnyddio darpariaethau eraill yn y Ddeddf.

Mae darpariaethau eraill yn y Ddeddf sy’n caniatáu i sefydliadau, gan gynnwys elusennau, gyfyngu neu dargedu darparu eu gwasanaethau neu fuddion heb ddibynnu ar yr eithriad i elusennau.

Enghraifft: darpariaethau gweithredu cadarnhaol

Nid oes gan elusen rhoi grantiau unrhyw gyfyngiad ar bwy y gall ei helpu. Gofynnir i’r ymddiriedolwyr roi grant i sefydliad sy’n cefnogi menywod digartref ag anghenion cymhleth. Ni fyddent yn gallu dibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhau rhoi grant i fenywod yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr eithriad i elusennau yn gymwys dim ond os oes cyfyngiad yn y ddogfen lywodraethol ac nid yw dogfen lywodraethol yr elusen hon yn cyfyngu ar bwy all gael budd. Ond mae’n bosib y gall yr ymddiriedolwyr ddibynnu ar y darpariaethau gweithredu cadarnhaol (gweler Adran 8).

Mae Adran 8 yn crynhoi’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol a’r eithriadau allweddol eraill sy’n berthnasol i elusennau.

Mae’r elusen er budd pobl anabl yn gyffredinol

Enghreifftiau: elusennau gyda chyfyngiadau sy’n ymwneud ag anabledd

Enghraifft 1: Buddion wedi’u cyfyngu i bobl anabl yn gyffredinol

Mae elusen wedi’i sefydlu i ddarparu gwasanaeth cynghori i bobl anabl. Ni fyddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ddibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhau’r cyfyngiad i’r grŵp hwn. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n gyfreithiol i drin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl nad ydynt yn anabl. Nid yw hyn wedi newid o dan y Ddeddf.

Enghraifft 2: Buddion wedi’u cyfyngu i bobl sydd â’r un anabledd

Mewn cyferbyniad, mae elusen wedi’i sefydlu i ddarparu gwasanaeth cynghori i bobl â nam ar y clyw. Mae dogfen lywodraethol yr elusen yn cyfyngu buddion i bobl sydd â’r anabledd arbennig hwn. Mae’r eithriad i elusennau yn gymwys oherwydd mae’r gwasanaethau wedi’u cyfyngu i bobl sydd ag anabledd arbennig (nam ar y clyw) ac nid yw pobl anabl eraill yn gallu cael budd. Ni fyddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr gyfiawnhau’r cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf A neu Brawf B.

4.4 Sut mae hyn yn wahanol i’r hyn a aeth o’r blaen?

Y prif wahaniaeth yw bod y Ddeddf newydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i elusennau gyfiawnhau’n benodol unrhyw gyfyngiad, yn seiliedig ar nodwedd warchodedig, ynghylch pwy all gael budd o’r elusen. Mae’n rhaid i’r cyfyngiad gael ei gyfiawnhau drwy ddefnyddio un o’r ddau brawf uchod, neu eithriad arall wedi’i ganiatáu gan y Ddeddf.

4.5 Mae’r eithriad i elusennau yn cyfeirio at offeryn elusennol. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn golygu dogfen gyfreithiol sy’n amlinellu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, cynllun y comisiwn neu’n ddogfen ffurfiol arall sy’n pennu’r dibenion y mae’n rhaid defnyddio’r arian ar eu cyfer. Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at y ddogfen hon fel y ddogfen lywodraethol.

5. Sut mae’r eithriad i elusennau yn gweithio

Ar gyfer elusen (neu elusen arfaethedig) gyda dogfen lywodraethol sy’n cyfyngu ei buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, mae dau brawf posibl y gellir eu defnyddio i ddangos bod hyn wedi’i ganiatáu gan yr eithriad i elusennau. Dim ond un o’r profion hyn sy’n rhaid bod yn gymwys. Mae’r comisiwn yn disgrifio isod sut y gallai pob un fod yn gymwys.

5.1 Prawf A - Mynd i’r afael ag anfantais

Gall Prawf A gael ei fodloni:

  • os yw’r ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig; ac
  • os yw’r buddion wedi’u darparu er mwyn mynd i’r afael ag anfantais neu angen arbennig sydd wedi’i gysylltu â’r nodwedd warchodedig honno.

Enghraifft 1: mynd i’r afael ag anfantais

Mae elusen a sefydlwyd i bobl â nam ar y golwg yn darparu meddalwedd wedi’i addasu i anghenion y grŵp hwn. Byddai hyn o fewn yr eithriad i elusennau oherwydd mae dogfen lywodraethol yr elusen yn cyfyngu buddion i bobl â’r un anabledd. Mae’r meddalwedd yn gwneud iawn am unrhyw anfanteision y gall pobl â nam ar y golwg ei gael wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.

Enghraifft 2: mynd i’r afael ag anfantais

Mae elusen wedi’i sefydlu i helpu pobl ddi-waith o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Mae’r nodwedd warchodedig o hil yn cynnwys grŵp o bobl wedi’i ddiffinio gan cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) tras ethnig neu genedlaethol). Gall yr elusen ddilyn y cyfyngiad i bobl o dras genedlaethol neu ethnig arbennig dim ond os yw diweithdra yn arbennig o uchel ar gyfer y grŵp hwn. Er mwyn bodloni elfen anfantais yr eithriad i elusennau, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain fod y diweithdra yn uwch ar gyfer y grŵp y mae’n gweithio ag ef nag i’r boblogaeth gyffredinol.

5.2 All y prawf anfantais (A) gael ei ddefnyddio gan elusennau sydd â dibenion cyffredinol?

Na all. Ym marn y comisiwn ni ellid bodloni prawf A

  • os oes rhyddid gan yr elusen i ddewis unrhyw ddiben elusennol; ac
  • os yw’r elusen yn cyfyngu ei buddion i grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig.

Mae hyn oherwydd ei fod yn annhebygol o fod yn glir pa fantais arbennig sy’n cael sylw.

Enghraifft: cyfyngiad amhriodol

Ni fyddai modd ffurfio sefydliad sydd â dibenion elusennol cyffredinol er budd menywod neu bobl â nam ar y golwg yn unig. Byddai’n anodd defnyddio Prawf A i gyfiawnhau sefydlu elusen sydd â’r dibenion hyn oherwydd nid yw menywod neu bobl â nam ar y golwg yn debygol o wynebu mwy o anfantais mewn perthynas â phob diben elusennol posibl.

Er y bydd elusen â dibenion elusennol cyffredinol yn ei chael hi’n anodd i ddefnyddio Prawf A i gyfiawnhau’r math hwn o gyfyngiad yn ei dogfen lywodraethol, gall fod yn fater o bolisi i dargedu rhai o’i buddion neu ei gwasanaethau at grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig os yw hynny o fewn yr eithriad gweithredu cadarnhaol neu eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf.

5.3 Prawf B - Cyflawni nod cyfreithlon

Os na ellir defnyddio Prawf A, mae Prawf B yn darparu cyfiawnhad arall i elusen wahaniaethu. Gall Prawf B gael ei fodloni:

  • os yw’r ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig; ac
  • os yw’r cyfyngiad yn gallu cael ei gyfiawnhau fel ffordd deg, gytbwys a rhesymol o gyflawni nod cyfreithlon, gan gofio’r gwahaniaethu sydd dan sylw.

Mae’r comisiwn yn esbonio isod sut y gellid defnyddio’r prawf hwn.

5.4 Beth yw ystyr ‘nod cyfreithlon’?

Nod cyfreithlon yw un sy’n debygol o gynnwys y nodweddion canlynol:

  • Mae ganddo amcan polisi cymdeithasol rhesymol - mae enghreifftiau’n cynnwys gwella iechyd neu ddiogelu plant.
  • Mae’n cyfateb â chyflawni’n gyfreithlon ddiben datganedig yr elusen er budd y cyhoedd. Nid oes rhaid i hyn fod yn union yr un fath â’r diben elusennol. Er enghraifft, gall fod diben o leddfu tlodi a salwch gan elusen. Gallai hyn fod yn nod cyfreithlon. Os oedd nod atodol gan yr elusen o helpu plant i drechu tlodi gallai hyn fod yn nod gyfreithlon hefyd.
  • Nid yw’n wahaniaethol ynddo’i hun.

5.5 Pryd mae hi’n gyfreithlon i wahaniaethu er mwyn cyflawni nod cyfreithlon?

Mae cyfyngu’r buddion i’r rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn gyfreithlon o dan Brawf B dim ond os oes cyfiawnhad cryf sy’n dangos bod y cyfyngiad yn briodol ac yn angenrheidiol i gyflawni’r nod. I gyfiawnhau gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr allu dangos bod cymhwyso’r cyfyngiad:

  • Wedi’i gyfiawnhau er ei fod yn eithrio pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig eraill. Os yw’r elusen yn cyfyngu ei buddion i grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig megis hil, cyfeiriadedd rhywiol neu ryw, ac nid yw’r cyfyngiad wedi’i gyfiawnhau ar sail anfantais neu angen (gweler Prawf A), gellir cyfiawnhau hyn dim ond drwy resymau darbwyllol a grymus. Mewn rhai amgylchiadau gall ystyriaethau cyllido fod yn berthnasol. Bydd rhaid i elusennau sy’n ceisio defnyddio Prawf B geisio cyngor ynghylch y gwahaniaethu a gynigir ac yw hynny yn y categori sy’n gofyn am gyfiawnhad darbwyllol a grymus.

  • Dyma’r unig ffordd effeithiol o gyflawni’r nod. Rhaid i’r ymddiriedolwyr allu dangos eu bod nhw wedi ystyried a oes modd cyflawni’r nod trwy ddulliau llai gwahaniaethol ac, os felly, pam na ellir dilyn y rhain yn lle hynny.

Enghraifft 1: Gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B

Mae elusen wedi’i sefydlu i ddarparu tai i ddynion sydd wedi gweithio yn yr heddlu ac sydd mewn angen ariannol. Drwy gyfyngu’r buddiolwyr i ddynion, mae’r elusen yn helpu pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn unig (rhyw) ac mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried a yw eithriad i elusennau yn gymwys.

Nid yw Prawf A yn debygol o allu cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau’r cyfyngiad oni bai bod tystiolaeth, er enghraifft, ar gyfer dynion sydd wedi gweithio yn yr heddlu yn debygol o wynebu tlodi neu ddigartrefedd i unrhyw raddfa fwy na menywod sydd wedi gweithio yn yr heddlu. Er mwyn cyfiawnhau’r cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf B, felly, byddai’n rhaid i’r elusen adnabod y nod cyfreithlon y maent yn ceisio ei gyflawni a dangos bod rhoi budd i ddynion yn unig yn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (‘cymesur’) o’i gyflawni.

Enghraifft 2: Gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B

Mae elusen newydd yn cael ei sefydlu i fynd i’r afael â thlodi mewn rhan o’r byd a effeithir gan brinder bwyd a newyn. Mae’r ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i fenywod sy’n ffermio. Byddai’r elusen yn helpu pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig (rhyw) ac felly mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried a yw’r eithriad i elusennau yn gymwys. Gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio Prawf A i gyfiawnhau’r cyfyngiad os oes tystiolaeth bod menywod yn y gymuned lle mae’r elusen yn gweithio yn fwy tebygol o wynebu tlodi neu newyn. Os nad oes tystiolaeth o fwy o anfantais, gallai’r ymddiriedolwyr ystyried cyfiawnhad prawf B. Mae’n bosib y bydd tystiolaeth i ddangos, er bod pobl o’r ddau ryw wedi’u heffeithio gan newyn, mae canolbwyntio buddion fel cyllid ar gyfer busnesau cychwynnol ar fenywod yn lleihau tlodi i’w teuluoedd a’r gymuned ehangach. Byddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr adnabod y nod cyfreithlon roeddent yn ceisio ei gyflawni a dangos bod darparu cyllid i fenywod yn unig yn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (‘cymesur’) o’i gyflawni.

6. Cydymffurfio â’r Ddeddf

6.1 Beth sy’n rhaid i elusennau presennol ei wneud i gydymffurfio â’r Ddeddf?

Mae dyletswydd gyfreithiol gan elusennau i gydymffurfio â’r Ddeddf. Mae’n debygol y bydd nifer o elusennau sy’n cyfyngu neu’n targedu eu buddion yn gallu dibynnu ar yr eithriad i elusennau, neu eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf. Mae’r comisiwn yn argymell bod pob elusen yn gwirio eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Gellir gwneud hyn fel rhan o unrhyw adolygiad arferol o weithrediadau’r elusen a byddai’r comisiwn yn argymell y dull gweithredu canlynol:

  • Adolygu dogfen lywodraethol yr elusen. Ydy hi’n cyfyngu ar bwy all gael budd ar sail nodwedd warchodedig?
  • Os mai ‘ydy’ yw’r ateb i’r cwestiwn, dylid ystyried a oes modd cyfiawnhau’r cyfyngiad drwy naill ai:

    • Prawf A neu Brawf B yn yr eithriad i elusennau, neu
    • eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf.

Os oes modd gwneud hynny, nid oes angen gweithredu ymhellach.

  • Os yw’n anodd cymhwyso naill ai Prawf A neu Brawf B, ac nid yw unrhyw eithriad arall yn gymwys, mae’n bosib na fydd dibenion yr elusen yn gallu cael eu cyflawni mwyach er budd y cyhoedd. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i elusen newid ei dibenion. Mae’r comisiwn yn esbonio pryd a sut y gellir gwneud hyn Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36)

6.2 Beth os yw amgylchiadau’r elusen yn newid?

Weithiau mae’r cysylltiad rhwng nod elusen a’r grŵp y mae wedi’i sefydlu i’w helpu yn newid.

Enghraifft: amgylchiadau newydd

Mae dogfen lywodraethol elusen yn amlinellu nod i leddfu tlodi trwy wella’r rhagolygon cyflogaeth i bobl o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Nodwedd warchodedig - hil). Gall yr ymddiriedolwyr barhau i gyfyngu eu gwaith i’r grŵp hwn dim os yw diweithdra yn parhau’n uwch ar gyfer y grŵp hwn, neu os yw’r anfanteision yn ymwneud â diweithdra yn parhau’n fwy difrifol i’r grŵp hwnnw. Os yw amgylchiadau’n newid ac nid yw’r anfantais yn bodoli mwyach, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried newid dibenion yr elusen.

Byddai’n rhaid newid dibenion yr elusen os nad yw’r eithriad i elusennau, neu eithriadau eraill y Ddeddf eraill, yn bodoli mwyach.

6.3 Beth os yw elusen yn gweithredu mewn ffordd a waherddir gan y Ddeddf?

Mae’r comisiwn yn disgwyl i ymddiriedolwyr redeg eu helusen yn unol â’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n berthnasol yn eu hamgylchiadau nhw. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau uniongyrchol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon rhag parhau.

7. Cwestiynau eraill am yr eithriad i elusennau

7.1 All elusen gyfyngu ar y grŵp o bobl y mae’n ei helpu trwy gyfeirio at liw croen?

Na all. Os yw’r ddogfen lywodraethol yn cynnwys cyfyngiad i bobl o liw croen arbennig fel ‘croenddu’ neu ‘croenwyn’, caiff ei ddarllen fel pe na bai’r cyfyngiad hwnnw yn bodoli.

7.2 Su mae’r eithriad i elusennau yn cyd-fynd â’r gofynion budd cyhoeddus?

Mae’n rhaid i bob elusen gael nod er budd y cyhoedd (y gofyniad budd cyhoeddus).

Mae ein canllaw budd cyhoeddus yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.

Sefydliad sydd:

  • yn cyfyngu ei fuddiolwyr i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig, ond
  • ni all gyfiawnhau’r cyfyngiad o dan yr un o’r ddau brawf yn yr eithriad i elusennau

ni fydd yn gallu dangos ei fod er budd y cyhoedd ac felly ni all fod yn elusen.

7.3 Sut mae’r eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig?

Mae’r eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig yn yr un ffordd ag y mae’n gymwys i elusennau eraill.

Mae cronfeydd cyfyngedig yn gronfeydd a reolir gan elusennau sydd wedi cael neu wedi codi arian ar gyfer dibenion penodol.

Fel arfer mae’r cronfeydd hyn yn cael eu rheoli gan ymddiriedolwyr y brif elusen ac mae eu dogfen lywodraethol eu hunain ganddynt yn aml.

Enghraifft: beth yw cronfa gyfyngedig?

Mae arian yn cael ei roi i elusen brifysgol neu ysgol. Mae’r arian yn cael ei roi gan y rhoddwr i sefydlu ysgoloriaeth ar gyfer dibenion penodol. Gall yr ymddiriedolwyr wario’r arian yn y ffordd a nodir yn unig. Cronfa gyfyngedig yw hon. Yn yr un modd, mae arian a godir gan elusen ryngwladol i’w ddefnyddio mewn rhan arbennig o’r byd yn unig yn gronfa gyfyngedig.

Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio’r eithriad i elusennau i ddilyn gofynion y rhoddwyr bod buddion yn cael eu cyfyngu i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig:

  • os yw’r cyfyngiad wedi’i gynnwys yn y ddogfen lywodraethol; ac
  • os oes modd cyfiawnhau cymhwyso’r cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf A neu Brawf B.

Enghraifft: sut mae’r eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig

Mae dogfen lywodraethol gan elusen ysgoloriaeth sy’n cyfyngu buddion i fyfyrwyr-beirianwyr o dras genedlaethol neu ethnig arbennig, neu ar gyfer myfyrwyr peirianneg yn gyffredinol ond yn ffafrio peirianwyr o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Nodwedd warchodedig - hil). Er mwyn gallu cymhwyso’r cyfyngiad, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod naill ai Prawf A neu Brawf B yn yr eithriad i elusennau yn gymwys.

7.4 A yw rhoi grantiau yn wasanaeth o fewn ystyr y Ddeddf?

Ydy. Barn y comisiwn yw bod rhoi grantiau i hyrwyddo nod elusen yn fath o ddarparu gwasanaeth.

7.5 Sut mae elusennau gyda chyfyngiad preswylio neu ddaearyddol yn osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol?

Gall gwahaniaethu anuniongyrchol godi os oes cyfyngiad ar y sawl a all gael budd nad yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig, ac effaith y cyfyngiad yw:

  • mae pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais gan y cyfyngiad o’i gymharu ag eraill nad ydynt yn rhannu’r nodwedd; ac
  • nid yw’r cyfyngiad yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon

Er enghraifft, bydd nifer o elusennau yn cyfyngu eu grwpiau buddiolwyr i drigolion lleol ardal arbennig. Mae darparu buddion elusennol yn debygol o fod yn nod gyfreithlon a gall gwneud hynny mewn ardal arbennig fod yn ffordd gymesur o’i gyflawni.

Enghraifft: osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae elusen wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â thlodi ymysg trigolion bwrdeistref. Mae’r bwrdeistref yn digwydd bod yn un lle mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig heb eu cynrychioli’n llawn. Dim ond trigolion lleol all ddefnyddio gwasanaethau’r elusen. Nid yw’r elusen wedi’i heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd nid yw lle preswylio yn nodwedd warchodedig. Nid yw gwahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn debygol o godi os yw’r elusen yn gallu dangos bod:

  • cysylltiad rhesymol rhwng y diben o fynd i’r afael â thlodi a’r cyfyngiad i drigolion yr ardal hon; a
  • gall trigolion o unrhyw gefndir ethnig, neu gydag unrhyw nodwedd warchodedig arall, gael budd o wasanaethau’r elusen.

8. Eithriadau eraill sy’n berthnasol i elusennau

Mae’r Ddeddf yn cynnwys rhai eithriadau eraill o’i gwaharddiadau ar wahaniaethu. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain i’w gweld yn y canllawiau a ddarparwyd gan Swyddog Cydraddoldebau’r Llywodraeth a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’r comisiwn yn argymell y dylai elusennau a effeithir gan yr eithriadau eraill hyn ddarllen y canllawiau hyn. Mae’r rhestr ganlynol yn disgrifio’n fyr y prif eithriadau a all fod yn gymwys i elusennau.

8.1 Aelodaeth o sefydliadau

Cyfyngu aelodaeth o sefydliadau

Mae sefydliad yn unrhyw grŵp:

  • gyda 25 neu ragor o aelodau
  • sydd â rheolau i reoli sut mae rhywun yn dod yn aelod

Gall cymdeithasau, gan gynnwys cymdeithasau elusennol, gyfyngu aelodaeth a buddion i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig ar yr amod nad yw aelodaeth yn seiliedig ar liw croen rhywun.

Enghraifft: cyfyngu aelodaeth o gymdeithas

Mae cymdeithas wedi’i sefydlu i helpu menywod â chanser y fron. Mae aelodaeth yn agored i fenywod yn unig. Mae 30 o aelodau gan y gymdeithas. Rhaid i aelodau newydd gael eu cymeradwyo gan y pwyllgor. Mae hon yn gymdeithas a gwmpesir gan y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i gymdeithasau gyfyngu eu haelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig. Mae’r gymdeithas hon wedi’i chaniatáu i gyfyngu ei haelodaeth i fenywod.

Cyfyngu pwy all gael budd gan gymdeithasau

Er bod y Ddeddf yn caniatáu i gymdeithasau gyfyngu aelodaeth a buddion yn y ffordd a amlinellir uchod, mae’n rhaid i gymdeithasau elusennol fodloni’r prawf budd cyhoeddus hefyd. Mae hyn yn golygu er y gall yr aelodaeth gael ei chyfyngu yn y ffordd a ddisgrifir uchod, rhaid i unrhyw gyfyngiad ar bwy all gael budd o’r elusen fod er budd y cyhoedd. Rhaid cael cysylltiad rhesymol rhwng pwy all gael budd a’r diben elusennol.

Enghraifft: Cymdeithasau elusennol

Mae cymdeithas wedi’i sefydlu i ddarparu lle addoli mewn ardal arbennig. Mae’r aelodaeth wedi’i chyfyngu i grŵp ethnig arbennig gan ddibynnu ar yr eithriad i gymdeithasau. Mae’r gymdeithas hefyd am gyfyngu’r defnydd o’r lle addoli ar yr un sail. Er nad yw hyn yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, ni all y gymdeithas fod yn elusen. Mae hyn oherwydd bod y comisiwn o’r farn nad yw cyfyngiad o’r fath er budd y cyhoedd a dylai’r lle addoli fod ar gael i’r aelodau hynny o’r gymuned leol sydd am addoli yno.

8.2 Codi arian i ddynion neu fenywod yn unig

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau i gefnogi neu hyrwyddo elusennau gael ei gyfyngu i un rhyw yn unig. Er enghraifft, mae Race for Life yn ddigwyddiad i fenywod yn unig sy’n codi arian ar gyfer Cancer Research UK.

8.3 Aelodaeth yn seiliedig ar gred grefyddol

Mae gan rai elusennau, sydd heb ei sefydlu at ddibenion crefyddol, ofynion aelodaeth sy’n seiliedig ar gred grefyddol.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r elusennau hyn barhau i fynnu bod aelodau neu ddarpar aelodau yn gwneud datganiad sy’n haeru neu’n awgrymu aelodaeth o grefydd neu gred, neu ei derbyn.

Mae hyn wedi’i ganiatáu dim ond os yw’r math hwn o ofyniad aelodaeth wedi bod yn ei le yn barhaus o ddyddiad cyn 18 Mai 2005.

Gall elusennau gyfyngu mynediad i fuddion i’r aelodau hynny sy’n gwneud datganiad o’r fath.

8.4 Gweithredu cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaeth

Beth yw gweithredu cadarnhaol?

Mae gweithredu cadarnhaol yn ddull y gall darparwyr gwasanaeth ei ddefnyddio i helpu pobl sydd o dan anfantais neu heb gynrychiolaeth ddigonol i gael yr un cyfleoedd â phawb arall. Rhaid i’r gweithredu cadarnhaol fod yn gymesur.

Gall gweithredu cadarnhaol gynnwys darparu gwasanaethau ychwanegol neu bwrpasol, cyfleusterau ar wahân, mynediad cyflym at wasanaethau, targedu adnoddau neu ymsefydlu neu gyfleoedd hyfforddi i roi budd i grŵp difreintiedig arbennig.

Pryd all gweithredu cadarnhaol gael ei ddefnyddio?

Gall darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys elusennau, gymryd camau cadarnhaol pan fydd pob un o’r amodau canlynol 1-3 wedi’u bodloni:

Amod 1. Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth lunio barn resymol bod grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig ac sy’n defnyddio, neu y gallent fod yn defnyddio’r gwasanaeth:

  • yn dioddef anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno; neu
  • â lefel anghymesur o isel o gyfranogiad yn y math hwn o wasanaeth neu weithgareddau; neu
  • angen pethau gwahanol o’r gwasanaeth hwn o’u cymharu â grwpiau eraill

Sylwer: Mae barn resymol yn golygu y gall y darparwr weld yr anfantais, lefel isel o gyfranogiad neu anghenion gwahanol, ond nid oes rhaid i’r darparwr ddangos unrhyw dystiolaeth ystadegol fanwl neu dystiolaeth arall. Er mwyn sefydlu a oes anfantais arbennig gall elusen gyfeirio at y boblogaeth y mae’n gweithio â hi fel arfer.

Amod 2. Mae’r camau y mae’r darparwr yn eu cymryd yn bwriadu:

  • galluogi neu annog y grŵp i oresgyn yr anfantais neu gadw’r anfantais i’r lleiaf posibl; neu
  • alluogi neu annog y grŵp i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwnnw; neu
  • ateb anghenion gwahanol y grŵp.

Amod 3. Mae’r camau y mae’r darparwr yn eu cymryd yn ffordd gymesur o gynyddu cyfranogiad, ateb anghenion gwahanol neu oresgyn anfantais. Mae hyn yn golygu bod y gweithredu yn briodol i’r nod hwnnw ac y byddai’r gweithredu arall yn llai effeithiol o ran cyflawni’r nod hwn neu’n debygol o achosi mwy o anfantais i grwpiau eraill.

Gweithgareddau a ganiateir heb eu dosbarthu fel gweithredu cadarnhaol

Gall darparwr gwasanaeth weithredu i roi budd i’r rhai o un grŵp gwarchodedig arbennig nad yw’n cynnwys triniaeth lai ffafriol o’r rhai o grŵp gwarchodedig arall. Er na fyddai hyn wedi’i ddosbarthu fel gweithredu cadarnhaol, byddai’n cael ei ganiatáu.

Enghraifft: gweithgareddau a ganiateir heb eu dosbarthu fel gweithredu cadarnhaol

Mae elusen canolfan ieuenctid, wedi’i gyfyngu i weithio mewn ardal lle mae poblogaeth sylweddol o Dsieineaid, yn darganfod nad yw llawer o Dsieineaid yn defnyddio ei gwasanaethau. Gallai’r ymddiriedolwyr gymryd camau penodol i dargedu ei hysbysiadau ac esboniadau o’i gwasanaeth i Dsieineaid sy’n byw yn yr ardal. Gallai’r ymddiriedolwyr roi rhagor o wybodaeth i’r grŵp hwn am y gwasanaeth. Gan na fyddai’r ymagwedd hon yn golygu rhoi triniaeth lai ffafriol i eraill, ni fyddai’n cael ei ystyried yn weithredu cadarnhaol.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol a ganiateir

Yn yr enghraifft uchod, gallai’r ganolfan ieuenctid ystyried ildio neu leihau ei ffi am gyfnod byr i bobl Deuseiniaid fel ffordd o gynyddu eu cyfranogiad. Mae’r gweithredu yn cynnwys rhywfaint o driniaeth llai ffafriol o bobl eraill o wahanol gefndiroedd cenedlaethol neu ethnig. Mae modd cyfiawnhau’r driniaeth llai ffafriol hon oherwydd byddai’n driniaeth fyrdymor ac nid yw’n debygol o effeithio ar y defnydd o’r gwasanaeth gan bobl o gefndiroedd eraill. Byddai’r budd o gael aelodaeth ehangach yn fwy na’r driniaeth llai ffafriol hon. Byddai’r ymagwedd hon o fewn y darpariaethau gweithredu cadarnhaol.

Enghraifft: ymagwedd anghymesur - heb ei ganiatáu o fewn darpariaethau gweithredu cadarnhaol

Yn yr enghraifft uchod, mae’n bosibl na fydd penderfyniad i ildio ffi flynyddol ar gyfer y grŵp o Dsieineaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn weithredu cadarnhaol cyfreithlon. Byddai gweithredu o’r fath yn golygu triniaeth llai ffafriol yn y tymor hwy o ddefnyddwyr eraill sydd efallai am ymuno â’r clwb ond sy’n rhaid talu ffioedd. Mae hyn yn golygu na fydd yn ffordd gymesur efallai o roi sylw i’r cyfranogiad is ac felly gallai fod yn anghyfreithlon.

Mae’n anghyfreithlon i drin aelodau o grŵp difreintiedig neu grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol yn fwy ffafriol na grwpiau eraill os nad yw’r tri amod uchod yn gymwys neu heb eu bodloni.

Anabledd - nid yw cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol yn ofynnol bob amser

Yn yr un modd â mathau eraill o wahaniaethu a gwmpesir gan y Ddeddf, mae’n bwysig nodi ei bod hi’n gyfreithlon i drin rhywun anabl yn fwy ffafriol na rhywun nad yw’n anabl.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol i bobl anabl yn gyffredinol

Yn yr enghraifft uchod, mae’r ganolfan ieuenctid yn darparu mynediad â disgownt i bobl anabl. Mae hyn wedi’i ganiatáu oherwydd ei bod hi’n gyfreithiol i drin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl nad ydynt yn anabl. Nid oes rhaid cael cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol ar gyfer yr ymagwedd hon.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol i bobl sydd â’r un anabledd

Mewn cyferbyniad, os yw’r ganolfan ieuenctid am gymryd camau tebyg i gynyddu cyfranogiad pobl ag anabledd arbennig, fel anabledd dysgu, byddai cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol yn ofynnol. Mae hyn oherwydd bod y budd o gael mynediad â disgownt i’w dargedu at bobl sydd ag anabledd arbennig ac ni fydd pobl anabl eraill yn cael budd o’r targedu hwnnw.

8.5 Sefydliadau crefyddol neu gred

Pa gyfyngiadau all sefydliadau crefyddol neu gred eu gosod?

Mewn rhai amgylchiadau gall sefydliadau crefyddol neu gred, gan gynnwys elusennau sydd wedi’u cynnwys yn y categori hwn, gyfyngu, oherwydd crefydd neu gred rhywun neu ei gyfeiriadedd rhywiol:

  • aelodaeth
  • cyfranogiad yn eu gweithgareddau
  • y gwasanaethau a ddarparant
  • y defnydd o’u heiddo

Enghraifft: cyfyngiad oherwydd crefydd neu gred rhywun

Gall sefydliad crefyddol neu gred, fel y diffinnir yn isod gyfyngu aelodaeth i bobl sy’n dilyn ei gredoau.

Yn wahanol i fathau eraill o elusen, nid oes rhaid i elusennau crefyddol a chred gael cyfyngiad yn eu dogfen lywodraethol er mwyn gallu gwneud hyn.

Nid oes rhaid i sefydliadau sy’n bodloni meini prawf yr eithriad crefydd a chred gyfiawnhau cyfyngu buddion trwy gyfeirio at y meini prawf yn yr eithriad i elusennau.

Pa amodau sy’n rhaid eu bodloni cyn bod y cyfyngiad yn cael ei osod?

A. Cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred

Gall cyfyngiad gael ei wneud ar sail crefydd neu gred dim ond:

  • oherwydd diben y sefydliad; neu
  • i osgoi achosi tramgwydd i ddilynwyr y grefydd neu’r gred y mae’r sefydliad wedi’i seilio arni

B. Cyfyngiadau ar sail cyfeiriadedd rhywiol

Gall sefydliadau crefyddol a chred wneud cyfyngiadau oherwydd cyfeiriadedd rhywun dim ond os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn:

  • cydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad
  • osgoi gwrthdaro ag argyhoeddiadau crefyddol neu seiliedig ar gred nifer o ddilynwyr y grefydd neu’r gred y mae’r sefydliad wedi’i seilio arni.

Cyfyngiadau eraill ar ddefnyddio’r eithriad ar gyfer crefydd a chred

Hyd yn oed os yw’r profion a ddisgrifir uchod wedi’u bodloni, mae cyfyngiadau pellach:

  • Nid yw’r eithriad ar gyfer sefydliadau crefyddol a chred yn gymwys i sefydliadau sy’n fasnachol yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Os gall elusennau ymgymryd â rhai mathau o fasnachu, nid ydynt yn fasnachol oherwydd ni allant gael y nod pennaf o wneud elw. Ni fyddai’r eithriad i sefydliadau crefyddol a chred yn gymwys i gwmnïau y mae’r elusen yn berchen arnynt i ymgymryd â masnachu anelusennol.
  • Ni all sefydliadau crefyddol a chred wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol os ydynt yn darparu gwasanaeth ar ran awdurdod cyhoeddus o dan gontract gyda’r awdurdod cyhoeddus hwnnw.

Beth yw sefydliad crefyddol neu gred?

Mae’r Ddeddf yn diffinio sefydliad crefyddol neu gred fel un sydd â’r diben canlynol:

a) arfer, hyrwyddo neu addysgu crefydd neu gred; neu

b) galluogi pobl o grefydd neu gred i gael unrhyw fudd, neu gyflawni unrhyw weithgaredd, o fewn fframwaith y grefydd neu’r gred honno; neu

c) meithrin neu gynnal perthnasoedd da rhwng pobl o wahanol grefyddau neu gredoau

Nid yw’r ffaith bod sefydliad yn bodloni’r diffiniad uchod yn golygu o reidrwydd y gall gyfyngu ei fuddion i bobl o’r grefydd neu’r gred honno. Mae cyfyngiad sy’n ymwneud â chrefydd neu gred wedi’i ganiatáu ar gyfer elusen dim ond:

  • os yw’r amodau canlynol wedi cael eu bodloni:
    • cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred
    • cyfyngiadau eraill ar ddefnyddio’r eithriad ar gyfer crefydd a chred; ac
  • mae’r diben er budd y cyhoedd.

Rhaid cael cysylltiad rhesymol rhwng pwy all gael budd a’r diben elusennol.

Enghraifft: cyfyngu buddion i bobl o’r un grefydd neu gred

Diben elusen yw darparu gofal cartref i bobl o grefydd arbennig, gan gynnwys darparu cyfleusterau mewn amgylchedd sy’n arddel yr athrawiaethau a’r arferion crefyddol arbennig. Mae’r comisiwn wedi derbyn bod diben i ddarparu gwasanaethau o’r fath yn gallu bod er budd y cyhoedd. Mae’r cartref gofal yn gymwys fel sefydliad crefyddol pan fydd yn galluogi pobl o grefydd neu gred i gael unrhyw fudd, neu ymwneud ag unrhyw weithgaredd, o fewn fframwaith y grefydd neu’r gred honno, ac mae’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred
  • cyfyngiadau eraill ar ddefnyddio’r eithriad ar gyfer crefydd a chred

Gall ymddiriedolwyr gyfyngu eu gwasanaethau i bobl o’r grefydd honno. Oherwydd bod eu gweithgaredd o fewn amodau’r eithriad hwn, nid oes rhaid i’r ymddiriedolwyr ddibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhau cyfyngu eu gwasanaeth.

8.6 Mynediad i addysg

Sefydliadau un rhyw

Caniateir i ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch dderbyn myfyrwyr ar sail rhyw os yw’n ysgol neu’n sefydliad un rhyw.

Sefydliadau o natur grefyddol

Gall ysgolion sydd o natur grefyddol gael meini prawf derbyn sy’n ffafrio aelodau o grefydd arbennig. Gall ysgol a gynhelir o natur grefyddol gymhwyso meini prawf o’r fath dim ond i benderfynu pwy sy’n cael ei dderbyn os oes mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

Gall sefydliad addysg bellach neu uwch sydd wedi’i ddynodi fel un ag ethos crefyddol dderbyn myfyrwyr sy’n rhannu ei gred neu ei grefydd dros y rhai nad ydynt yn ei rhannu mewn rhai amgylchiadau.

8.7 Chwaraeon

Mewn rhai amgylchiadau mae’n gyfreithlon i sefydliadau chwaraeon (gan gynnwys elusennau) wahaniaethu ar sail rhyw neu ailbennu rhyw.

9. Gwybodaeth bellach

Mae Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO) wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau cyflym ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau llawnach y mae modd eu gweld ar www.equalityhumanrights.com/ea2010. Mae’r rhain yn rhoi cyngor ar yr hyn y mae’n rhaid i sefydliadau ei wneud i fodloni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf. Mae’r rhain yn esbonio’r rhwymedigaethau hynny yn llawn a sut y maent yn effeithio ar wahanol fathau o sefydliadau a gweithgareddau. Mae’r canllawiau yn tynnu sylw at yr hyn sydd wedi cael ei newid gan y gyfraith newydd. Mae’r amrywiaeth o ganllawiau arbenigol yn cynnwys:

EHRC

Beth mae’r gyfraith cydraddoldeb yn ei olygu ar gyfer:

  • eich sefydliad, clwb neu gymdeithas
  • eich sefydliad sector gwirfoddol a chymunedol (gan gynnwys elusennau a sefydliadau crefyddol neu gred
  • chi fel darparwr addysg - addysg bellach ac uwch
  • chi fel darparwr addysg - ysgolion

9.1 GEO

Canllaw cyflym:

  • ar weithredu cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaeth i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
  • ar wahaniaethu crefyddol a chred wrth ddarparu gwasanaeth