Canllawiau

Egwyddorion arweiniol ar gyfer cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff

Diweddarwyd 26 August 2022

Applies to England and Wales

1. Crynodeb gweithredol

Mae'r ddogfen hon ynglŷn ag egwyddorion arweiniol yn nodi blaenoriaethau a disgwyliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddwyr amgylcheddol ac economaidd (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat) ar gyfer Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMPs).

Mae'r cynlluniau hyn ar hyn o bryd yn eu cylch 5-mlynedd cyntaf ac maent yn cael eu llunio ar sail anstatudol ar gyfer dechrau 2023 yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r ddogfen hon hefyd:

  • yn cydategu fframwaith Water UK ar gyfer llunio Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff y mae'r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn ei ddefnyddio i ddatblygu eu cynlluniau
  • yn ceisio darparu rhestr wirio gyffredinol i'r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, Awdurdodau Rheoli Perygl (RMAs) [footnote 1] eraill a pherchnogion a rheolwyr, a honno'n eu helpu drwy nodi'r hyn y mae'r ddwy lywodraeth a'r rheoleiddwyr yn disgwyl ei weld yn cael ei gynnwys yn y cynlluniau
  • yn nodi gweledigaeth o ddisgwyliadau er mwyn i'r cynlluniau gyflawni eu potensial llawn a'r gwersi sydd wedi'u dysgu o'r Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr (WRMPs) a'u cylchoedd cynllunio dilynol

Rydym yn gofyn i bawb sy'n cymryd rhan yn y broses gynllunio, gan gynnwys cwmnïau, awdurdodau lleol (mae hyn yn cynnwys eu hadran gynllunio, eu hadran briffyrdd a phob adran berthnasol arall), RMAs eraill a pherchnogion a rheolwyr asedau draenio, gymryd rhan lawn i sicrhau llwyddiant cylchoedd cyntaf y cynlluniau, a'r cylchoedd dilynol,.

Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod bod cyfnodau allweddol y cylch cyntaf o gynlluniau wedi cyd-daro â phandemig COVID-19 ac wedi codi rhai heriau, megis argaeledd y cyfranogwyr i ymwneud â'r broses.

Er hynny, mae'r cylch cyntaf hwn o gynlluniau'n dal yn offeryn cynllunio hanfodol i lywio Adolygiad Prisiau 2024 (PR24), felly er y gallai cyfleoedd ar gyfer camau megis ymgysylltu a chyd-greu fod wedi bod yn gyfyngedig yn 2020, gofynnwn i'r diwydiant ystyried ffyrdd arloesol o ymgysylltu â chyfranogwyr a phartneriaid o'r fath er mwyn sicrhau rhywfaint o gyd-greu.

Gall y ddogfen hon helpu hefyd i roi trosolwg lefel uchel o ddisgwyliadau'r ddwy lywodraeth a'r rheoleiddwyr i fyrddau gweithredol cwmnïau dŵr a charthffosiaeth gael asesu'r cynlluniau yn eu herbyn fel rhan o'u prosesau cymeradwyo ffurfiol.

Bydd cynnwys y broses gynllunio hon yn Neddf yr Amgylchedd yn ei gwneud yn statudol [footnote 2] yng Nghymru a Lloegr ac yn tanlinellu'r pwysigrwydd y mae'r ddwy lywodraeth yn ei roi iddi fel dull ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer polisïau ynglŷn â rheoli draenio a dŵr gwastraff.

Mae'r llywodraethau a'r rheoleiddwyr yn croesawu cydweithio cynnar y cwmnïau â nhw wrth i'w cynlluniau ddatblygu.

I gwmnïau Cymru [footnote 3],mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i'r cwmnïau hyn ddangos sut maen nhw wedi datblygu eu cynlluniau yn unol â'r ymddygiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a sut y byddan nhw'n cyfrannu at y canlyniadau llesiant, a'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Ein hegwyddorion arweiniol allweddol

Rydym yn disgwyl i'r Cynlluniau fodloni'r 6 egwyddor allweddol hyn:

  1. Bod yn gynhwysfawr, wedi'u seilio ar dystiolaeth ac yn dryloyw wrth asesu, cyn belled ag y bo modd, y capasiti presennol a'r camau y mae angen eu cymryd mewn cyfnodau o 5, 10 ac isafswm o 25 mlynedd, gan ystyried risgiau a materion fel newid yn yr hinsawdd. Dylai'r cynlluniau gyd-fynd hefyd, cyn belled ag y bo modd, â dulliau eraill o gynllunio strategaethau a pholisïau.

  2. Ymdrechu i ddarparu systemau gwydn – a fydd yn bodloni pwysau gweithredol a phwysau eraill ac yn lleihau methiannau mewn systemau.

  3. Ystyried effaith systemau draenio ar ganlyniadau amgylcheddol uniongyrchol a chanlyniadau ehangach gan gynnwys cynefinoedd ac wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer gwaith lliniaru i gynnwys ystyried cynnydd a gwelliannau net amgylcheddol

  4. Bod yn gydweithredol – gan gydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng sectorau i ystyried risgiau ac anghenion y presennol a'r dyfodol ac i ddarparu atebion effeithiol, gan nodi sut y byddan nhw'n gwneud hyn, sut maen nhw wedi ymgysylltu â'r rhanddeiliaid ac wedi ymateb iddyn nhw.

  5. Dangos arweinyddiaeth – wrth ystyried y darlun mawr ar gyfer capasiti gweithredol sefydliad i ddatblygu a chyflawni'r cynllun, ac ystyried cysylltiadau â fframweithiau cynllunio strategol eraill.

  6. Gwella'r canlyniadau i gwsmeriaid ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid a sicrhau bod atebion a chamau yn rhoi gwerth am arian ac yn ystyried manteision i'r gymdeithas

Yn achos cwmnïau Cymru, dylai'r cynlluniau ddangos hefyd sut y cawson nhw eu datblygu yn unol â'r ymddygiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a sut y byddan nhw'n cyfrannu at y deilliannau llesiant.

Dylai'r cynlluniau nodi hefyd sut y byddan nhw'n helpu'r cwmnïau dŵr a'u rhanddeiliaid i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2.1 Egwyddor 1: Cynhwysfawr, wedi'u seilio ar dystiolaeth a thryloyw

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau gyhoeddi cynlluniau cynhwysfawr, wedi'u seilio ar dystiolaeth, a thryloyw ar gyfer adolygiad prisiau 2024.

Dylai'r cynlluniau ddefnyddio'r canllawiau yn Fframwaith Water UK ar gyfer llunio Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff, a ddatblygwyd gan Water UK mewn cydweithrediad â Defra, Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat), Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCWater), Cymdeithas Cyfarwyddwyr yr Amgylchedd, yr Economi, Cynllunio a Thrafnidiaeth (ADEPT) a Blueprint for Water.

Dylai cynlluniau cwmnïau Lloegr fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r disgwyliadau fel y'u nodir mewn canllawiau gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, megis:

Dylai cynlluniau cwmnïau Cymru fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r disgwyliadau fel y'u nodir yn y dogfennau hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru:

Cynhwysfawr ac wedi'u seilio ar dystiolaeth

Wrth lunio'u cynlluniau, rydym yn disgwyl i bob cwmni:

  • cwblhau'r cyfnodau fel y'u nodir ar dudalen 14 i 15 o Fframwaith Water UK ar gyfer llunio Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff. Dylid defnyddio'r fframwaith i sicrhau cysondeb (o ran y cymhwyso technegol a'r adroddiadau) ac ar yr un pryd cynnal rhywfaint o hyblygrwydd i hwyluso arloesedd ac ymgysylltu allanol â rhanddeiliaid.
  • adeiladu ar y dulliau presennol ar gyfer cynlluniau carthffosiaeth a gyflawnir gan y diwydiant. Yn achos cwmnïau Lloegr, dylai hyn atgyfnerthu egwyddorion Fframwaith Strategaeth Draenio 2013 (dogfen ar y cyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat).
  • dangos cysylltiadau â chwmnïau, cynlluniau a rhaglenni eraill a allai ategu'r Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff megis y strategaeth genedlaethol ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordiroedd, Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (RBMPs), Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd (FRMPs), Rhaglen Amgylcheddol Genedlaethol y Diwydiant Dŵr (WINEP), yr NEP yng Nghymru a chynlluniau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol (er enghraifft, strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol, cynlluniau datblygu lleol) er mwyn mireinio Fframwaith Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff a datblygu ffyrdd cyffredin o weithio ac effeithlonrwydd a rhannu'r arferion gorau.
  • darparu dull cynllunio clir a chyson, gyda digon o ystwythder a hyblygrwydd i ymateb i sbardunau hirdymor ar gyfer gwasanaethau draenio a dŵr gwastraff.
  • dangos cysylltiadau â chynlluniau busnes y cwmnïau ar gyfer yr Adolygiad Prisiau a fydd yn mynd i'r afael â chostau sylfaenol cynnal a chadw asedau, iechyd a gwytnwch. Gall y cynlluniau dynnu sylw hefyd at y ffaith y bernir bod angen newid dull blaenorol er mwyn mynd i'r afael â pherfformiad.
  • ystyried, disgrifio a mesur unrhyw bwysau yn y dalgylch a fydd yn effeithio ar y broses o gyflawni canlyniadau fel newid yn y boblogaeth, blaenoriaethau defnyddwyr, ymgripiad trefol, datblygiadau newydd, newid yn yr hinsawdd, defnyddio dŵr a chydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. Bydd nodi a meintioli'r pwysau hyn yn datblygu dros gylchoedd olynol y cynlluniau. Ar gyfer y cylch cyntaf hwn o gynlluniau, rydym o leiaf yn disgwyl i'r ffocws fod ar dwf, newid yn yr hinsawdd ac ymgripiad trefol, gan adlewyrchu aeddfedrwydd y rhagolygon hirdymor ar gyfer y paramedrau hyn.
  • dangos sut mae'r cynlluniau hirdymor yn hwyluso twf economaidd, cymunedau gwydn a sut maen nhw'n diogelu ac yn gwella'r amgylchedd, gan ddarparu mwy o wytnwch amgylcheddol a chynaliadwyedd hirdymor.
  • hwyluso arloesedd (a sbardunir drwy nodi heriau yn y dyfodol y bydd angen dulliau newydd ar eu cyfer) a datblygu cynlluniau buddsoddi fforddiadwy a chynaliadwy. Fel y Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr, rhaid i gylch cyntaf y cynlluniau hyn gael ei seilio ar y technolegau cyfredol. Dylid defnyddio dull llwybrau addasol i nodi sut y gallai'r cynlluniau hynny newid gyda datblygiadau mewn technoleg a ffynonellau eraill o ansicrwydd.
  • dylai'r cynlluniau gael eu ffurfio drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarn, boed honno'n arolwg pwrpasol, yn fodelu neu, er enghraifft, monitro hyd digwyddiadau (EDM) o orlifoedd yn sgil stormydd.
  • dylai'r cynlluniau ganolbwyntio ar asedau'r cwmnïau gan gynnwys carthffosydd budr, carthffosydd cyfun a charthffosydd dŵr wyneb, carthffosydd atodol a chyfleusterau gweithfeydd trin carthion. Er hynny, lle mae ymyriadau ar draws cronfa asedau aml-berchennog yn sicrhau manteision lluosog mewn modd cost-effeithlon, gallant dynnu sylw at hyn drwy'r cyfraniadau gan RMAs eraill, a chyd-greu gyda nhw.
  • dylid defnyddio cynlluniau i lywio trafodaethau i lunio cynlluniau busnes cwmnïau, yn ogystal â dylanwadu ar gynlluniau eraill a thrwy gysylltiadau â strategaethau cyfathrebu, ymddygiad cwsmeriaid a gweithgynhyrchwyr cynnyrch a manwerthwyr, lle gallai'r rhain effeithio ar berfformiad draenio a rheoli dŵr gwastraff.
  • chwilio am gyfleoedd i wella'r amgylchedd, yr economi a'r lles lleol, er enghraifft drwy weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu cynlluniau draenio cynaliadwy newydd ac wedi'u hôl-ffitio yn hytrach na seilwaith traddodiadol, lle bo hynny'n briodol a chan gymryd amcanion amgylcheddol lleol i ystyriaeth.

2.2 Tryloyw

Bydd cynlluniau tryloyw yn helpu i sicrhau'r ddwy lywodraeth, y rheoleiddwyr a'r rhanddeiliaid sydd â buddiant yn hyn o beth eu bod yn gadarn ac i sicrhau eu bod yn addas i'w diben. Yr elfennau y byddem yn disgwyl eu gweld yn dangos tryloywder, fel y nodir yn y fframwaith, yw:

  • asesiad o'r capasiti hirdymor ar gyfer draenio a dŵr gwastraff a nodi'r sbardunau, y risgiau a'r senarios y cynllunnir ar eu cyfer yn glir, gan gynnwys effeithiau ar ansawdd dŵr
  • dull strwythuredig a sicr o adnabod a datblygu opsiynau a chyflwyno cynllun buddsoddi cadarn
  • cyflwyno'r data mewn modd cyson er mwyn caniatáu dealltwriaeth genedlaethol o'r risg.
  • dadl wybodus ynglŷn â pha mor dderbyniol yw gwahanol lefelau risg
  • rhoi mwy o hyder i gwsmeriaid, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid yn y strategaethau lliniaru risg a nodir, ac yn y cynlluniau sy'n deillio o hyn
  • darparu'r sail ar gyfer ymgysylltu'n effeithiol â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ynghylch lefelau gwasanaeth, perfformiad amgylcheddol a gwytnwch, nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac ynghylch y dewisiadau a'r costau i gwsmeriaid wrth ddarparu'r gwasanaeth hwnnw

Pan nad yw Ofwat wedi cael sicrwydd bod cwmnïau'n cynllunio ac yn buddsoddi'n briodol fel rhan o'u strategaeth i sicrhau gwytnwch gweithredol hirdymor, bydd Ofwat yn herio'r cwmnïau i sicrhau y bydd anghenion cwsmeriaid y presennol a'r dyfodol yn cael eu diwallu'n effeithlon.

3. Egwyddor 2: Gwydn

Mae adroddiad Defra Enabling resilience in the water sector yn dweud bod rhaid i gwmnïau, RMAs eraill a pherchnogion asedau draenio weithio gyda'i gilydd a chyda'r llywodraethau a'r rheoleiddwyr i arwain y ffordd o ran gweithredu i sicrhau y gallant fodloni pwysau ac anghenion poblogaeth ac economi sy'n tyfu, gan werthfawrogi'r amgylchedd yr un pryd a bodloni heriau newid hinsawdd.

Mae'r map gwytnwch yn yr adroddiad hefyd yn nodi cynlluniau i gwmnïau Lloegr helpu i sicrhau gwytnwch hirdymor y sector dŵr a gwella gwytnwch y rhwydwaith carthffosiaeth.

Yng Nghymru, mae Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi'i chychwyn a dylai cwmnïau Cymru fynd ati i weithio gyda'r RMAs a pherchnogion asedau draenio i hwyluso'r broses o'i rhoi ar waith yn effeithiol.

3.1 Adnabod ac asesu risgiau

Dylai cynlluniau fesur a chyflwyno'n glir (gan gynnwys yn weledol) drwy fapio, risgiau cyfredol a risgiau'r dyfodol sy'n deillio o'r canlynol:

  • o asedau carthffosiaeth i'r amgylchedd
  • perygl llifogydd posibl i asedau carthffosiaeth yn sgil newid hinsawdd, ymgripiad trefol a thwf yn y boblogaeth

Rydym yn disgwyl gweld risgiau'n cael eu cyflwyno mewn ffordd gyson ar draws cynlluniau i ganiatáu dealltwriaeth genedlaethol o risg i gwmnïau Cymru sy'n ymwneud â risgiau yng Nghymru a chwmnïau Lloegr sy'n ymwneud â risgiau yn Lloegr.

Byddem hefyd yn cynnig y dylai'r cwmnïau'n ystyried Asesiad Annibynnol Risg Hinsawdd y DU (CCRA3), a sut y gall y cynllun helpu i sicrhau bod systemau draenio a dŵr gwastraff yn dal yn wydn ac yn gallu ymdopi â'r hinsawdd sy'n newid.

3.2 Amserlenni a thueddiadau'r dyfodol

Lle bo'n ymarferol, ac i helpu i flaenoriaethu penderfyniadau ar fuddsoddi, dylid asesu cyfnodau o 5 a 10 mlynedd yn ogystal â'r cyfnod o 25 mlynedd o leiaf.

Rydym yn cydnabod y bydd cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei gyflawni yn y cylch cyntaf o gynlluniau, ond disgwylir y bydd pob cwmni, o leiaf yn cynnal asesiadau sylfaenol ac asesiadau 25 mlynedd o leiaf, gydag asesiadau 5 mlynedd a 10 mlynedd yn cael eu cynnal os yw lefel y newid yn gwarantu hynny mewn dalgylchoedd penodol.

Dylai effeithiau'r amserlenni cynnal-a-chadw a buddsoddi presennol, yn ogystal â newid ymddygiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid hefyd gael eu hasesu'n ansoddol, lle nad yw'n bosibl eu mesur.

Wrth gynllunio ar gyfer amserlen o 25 mlynedd o leiaf, rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ystyried holl dueddiadau'r presennol a'r dyfodol. Er bod heriau fel twf yn y boblogaeth yn sicr yn sbardunau allweddol, mae'n bwysig peidio ag anwybyddu tueddiadau eraill a allai gael effaith arwyddocaol ar waith cynllunio.

Efallai mai hinsawdd sy'n newid yw'r mwyaf o'r tueddiadau neu'r ffactorau eraill hyn. Ond, dylai'r cwmnïau nid yn unig ystyried newid hinsawdd mewn perthynas â dwysedd cynyddol glawiad, ond hefyd wneud gwaith ymchwil, gan weithio gyda rhanddeiliaid lle bo'n briodol, fel bod modd ystyried materion fel:

  • sut y gallai tymheredd uwch effeithio ar sut mae gweithfeydd trin yn gweithredu
  • y potensial i hafau sych leihau llif sylfaenol afonydd, gyda glawiad dwys achlysurol, gan arwain at fwy o risg o effaith ar yr amgylchedd

Dylai cwmnïau ystyried hefyd effaith newid ymddygiad cwsmeriaid wrth baratoi eu cynlluniau, megis a allai annog cwsmeriaid i ddefnyddio llai o ddŵr effeithio ar y llif. Yn yr un modd, gallai draenio mwy cynaliadwy mewn datblygiadau newydd gael effaith debyg. Gan hynny, gallai'r cyfundrefnau llif newid mewn ffyrdd gwahanol mewn lleoliadau gwahanol.

3.3 Peryglon posibl a bygythiadau i asedau carthffosiaeth

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau, fel yn achos yr RMAs eraill, asesu gwytnwch eu systemau carthffosiaeth a'u seilwaith yn erbyn yr ystod lawn o beryglon a bygythiadau posibl, gan gynnwys risgiau sy'n gysylltiedig â rhwystrau sy'n deillio o gamddefnyddio carthffosydd a chyflwr carthffosydd neu risgiau megis ymdreiddiad, a chymryd camau cymesur i wella'r gwytnwch gweithredol lle bo angen hynny.

Dylai hyn gynnwys hefyd lifogydd o seilwaith dŵr a dŵr gwastraff, prif gyflenwadau dŵr wedi'u byrstio neu fethiannau eraill yn y seilwaith, a lleihau'r cyfraniad at lygredd gwasgaredig trefol o gamgysylltiadau.

Yn achos cwmnïau Lloegr, dylid dilyn y mesurau perthnasol a nodir yn y Strategaeth Reoli Genedlaethol ar gyfer Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordiroedd, ac yn achos cwmnïau Cymru dylid dilyn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau wneud cysylltiadau â'u cynlluniau presennol ar gyfer gwytnwch yn erbyn llifogydd i asesu i ba raddau y mae eu gweithfeydd trin carthion yn wydn yn erbyn llifogydd eithafol (fel y'u disgrifir yn yr Adolygiad Cenedlaethol o Wytnwch yn erbyn Llifogydd) a chynnwys darpariaeth ar gyfer gwytnwch ychwanegol lle bo'i angen.

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ystyried seilwaith gwyrdd, atebion sy'n seiliedig ar natur ac atebion carbon isel i liniaru risg, megis systemau draenio cynaliadwy, lle bo modd, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd i leihau'r gwaith o bwmpio dŵr gwastraff o amgylch y system ddraenio.

Blaenoriaethu uwchraddio cydnerthedd i asedau

Dylai'r cwmnïau roi blaenoriaeth i uwchraddio gwytnwch yn seiliedig ar risg, gan gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i safleoedd risg uchel yn gyntaf. Mae canllawiau Ofwat ar adroddiadau blynyddol yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r hyn a ganiateir o dan wariant gwella ar gyfer gwytnwch o'i gyferbynnu â gweithgareddau wedi'u seilio ar y costau sylfaenol.

Dylai'r cynlluniau ddweud ble y gall cwmnïau wneud mwy o ddefnydd o'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd megis, er enghraifft, rheoli mewn amser real i wneud y defnydd gorau posibl o'r capasiti storio o fewn y rhwydweithiau a rhoi rhybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau a allai fod yn niweidiol. Fel hyn, gall camau atal cynnar gael eu cymryd, gan wneud systemau'n fwy gwydn yn erbyn y pwysau sydd arnynt a darparu gwell diogelwch i'r amgylchedd.

Dylai'r cwmnïau ystyried hefyd ble y gellid gwella'r amgylchedd neu wella perfformiad ym maes perygl llifogydd drwy newid y gweithgareddau cynnal-a-chadw asedau sy'n bodoli eisoes. Dylid ystyried yr holl wybodaeth hon yn y cynlluniau busnes ar gyfer yr Adolygiad Prisiau.

3.4 Egwyddor 3: yr amgylchedd

Mae'r 25 Year Environment Plan for England a luniwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Strategaeth Ddŵr Cymru 2015 gan Lywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddŵr glân a digonol ac i leihau'r risg o niwed o du peryglon amgylcheddol. Yr uchelgais yw i'r amgylchedd dŵr fod yn lanach ac yn iachach a chael ei reoli mewn ffordd sy'n fwy gwydn yn erbyn llifogydd a sychder er mwyn cefnogi pobl, bioamrywiaeth a'r economi.

Yn Lloegr, mae'r Cynllun 25 Mlynedd yn dangos sut rydym yn bwriadu gwella'n hamgylchedd, ac mae cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff yn cyfeirio'n glir at sut y byddwn yn gwneud hyn. Felly, mae'n bwysig bod y cynlluniau'n asesu'n glir effeithiau ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau neu wella'r rhain dros y cyfnod o 25 mlynedd.

Dylai cynlluniau cwmnïau Lloegr ystyried hefyd ddogfen gyfredol Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England Water Industry Strategic Environment Requirements a diweddariadau iddi yn y dyfodol.

Yng Nghymru, mae Strategaeth Ddŵr 2015 yn nodi'n glir y camau i wneud systemau carthffosiaeth a draenio yn addas i'r diben ar gyfer yr 21ain ganrif ac wedyn. Dylid cyfeirio hefyd at Bolisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar wella Adnoddau Naturiol.

Mae cynnwys y broses o gynllunio sut i reoli draenio a dŵr gwastraff yn Neddf yr Amgylchedd, sy'n gwneud y broses yn statudol [footnote 4] ar gyfer yr ail gylch yng Nghymru a Lloegr, yn tanlinellu mor bwysig yw'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff yn marn y ddwy lywodraeth fel offeryn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer polisïau rheoli draenio a dŵr gwastraff.

Diogelu a gwella'r amgylchedd

Dylai'r camau sy'n deillio o'r cynlluniau wneud cyfraniad arwyddocaol at sicrhau amgylchedd dŵr iachach, a diogelu iechyd y cyhoedd a bywyd gwyllt drwy leihau achosion o lygredd, a rheoli cyfraniad y diwydiant dŵr at leihau llygredd gwasgaredig trefol.

Er enghraifft, rhaid mynd i'r afael ag arferion gweithredol sy'n effeithio ar ansawdd dŵr, ac rydym yn disgwyl y dylai'r cynlluniau wneud cyfraniad cadarnhaol yn hyn o beth. Gall cwmnïau hefyd ddefnyddio data ac ymgysylltu ynglŷn â'r gorwel cynllunio 25-mlynedd er mwyn ystyried y pwysau a ddaw drwy ddatblygu tai yn y dyfodol, megis yr effaith ar faetholion mewn dŵr gwastraff.

Bydd cwmnïau Lloegr yn ymwybodol bod llywodraeth y Deyrnas Unedig, ym mis Ionawr 2021, wedi cyhoeddi bod Tasglu Gorlifoedd Storm Lloegr, sy'n cynnwys Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Ofwat, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Blueprint for Water a Water UK wedi cytuno i osod nod hirdymor o ddileu niwed o orlifoedd stormydd.

Rydym yn disgwyl i gynlluniau cwmnïau Lloegr nodi sut y bydd y cwmnïau'n sicrhau gostyngiadau arwyddocaol yn amlder a maint y gollyngiadau carthion yn sgil gorlifoedd storm, fel mai yn anaml yn unig y byddan nhw'n gweithredu a dim ond mewn achosion o law anarferol o drwm fel y sonnir yn Neddf yr Amgylchedd 2021 a Datganiad Polisi Strategol Defra i Ofwat cyn Adolygiad Prisiau 2024.

Rydym yn disgwyl i'r flaenoriaeth gyntaf gael ei rhoi i orlifoedd sy'n creu'r niwed neu'r effaith fwyaf ar y safleoedd mwyaf sensitif a gorau eu hamwynder.

Mae niwed yn cynnwys lle gallai ddigwydd i bobl (er enghraifft, mewn dyfroedd hamdden) a'r amgylchedd. Gellir ystyried trin gollyngiadau carthion o orlifoedd storm hefyd.

Mae'r Tasglu Gorlifoedd Storm yn ystyried amryw o ffactorau i gyflawni'r nod hwn, gan gynnwys rôl materion draenio mewn gorlifoedd storm, a chamau posibl i leihau neu arafu dŵr wyneb sy'n dod i mewn i'r system garthffosiaeth.

Gan hynny, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhag-weld y bydd yn cyhoeddi canllawiau atodol i gwmnïau Lloegr erbyn mis Ionawr 2022 ar yr uchelgais ar gyfer gorlifoedd storm, i gyd-fynd â'r ddogfen hon ynglŷn ag egwyddorion arweiniol.

Dylai'r canllawiau atodol hyn gael eu hystyried mewn pryd ar gyfer y cynlluniau drafft y bydd cwmnïau'n ymgynghori arnynt yn ystod haf 2022, a chael eu cymryd i ystyriaeth yn llawn ar gyfer eu cynlluniau terfynol ym mis Mawrth 2023.

Os bydd cwmnïau Lloegr yn cymhwyso egwyddorion arweiniol y ddogfen hon nawr cyn 2022, megis ceisio ymgysylltu a chydweithio â sefydliadau eraill, dylai fod ganddynt ddealltwriaeth dda o'r pwysau sy'n cael eu rhoi ar eu rhwydweithiau gan eraill, yr heriau o ran gwytnwch ac effeithiau gorlifoedd ar yr amgylchedd, gan ymgysylltu hefyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dylai hyn roi'r cwmnïau ar dir i ymateb i uchelgais y llywodraeth ar orlifoedd storm.

Dylai cynlluniau cwmnïau Cymru hefyd nodi cynlluniau hirdymor a byrdymor i leihau'r gollyngiadau o orlifoedd storm ac unrhyw niwed amgylcheddol yn eu sgil. Dylai hyn gynnwys gwella triniaeth carthion, gwella capasiti storio a ffyrdd naturiol, ecogyfeillgar o leihau faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i'r system garthffosiaeth.

Atebion wedi'u seilo ar natur

Wrth helpu i ddiogelu a gwella'r amgylchedd, rydym yn disgwyl i'r cynlluniau ystyried defnyddio atebion wedi'u seilio ar natur, lle bo'n ymarferol, fel rhan o'u gwaith o ddatblygu ac asesu opsiynau.

Er enghraifft, mae systemau draenio cynaliadwy amlswyddogaeth yn creu cyfleoedd a allai, ar y cyd a phartneriaeth â'r rhanddeiliaid, gyfrannu at greu cynefinoedd newydd, yn ogystal â chyfrannu at ymateb y diwydiant i liniaru newid hinsawdd ac addasu ato.

Rydym yn disgwyl i'r camau sy'n deillio o'r cynlluniau atal dirywiad amgylcheddol, galluogi datblygu cynaliadwy a chwilio am gyfleoedd i wella'r amgylchedd lle bo modd. Dylai'r cynlluniau fynd i'r afael â heriau diogelu'r amgylchedd, cefnogi twf economaidd, a delio â phwysau datblygiadau newydd, newid hinsawdd a thwf yn y boblogaeth, a'r pwysau ar seilwaith sy'n deillio o hynny.

Gwireddu potensial llawn y cynlluniau

Rydym yn cydnabod na fydd ein huchelgais ar gyfer manteision amgylcheddol y cynlluniau'n cael eu gwireddu'n llawn os na fydd yr holl RMAs a pherchnogion asedau draenio yn chwarae eu rhan i'w cyd-greu a'u cyd-ariannu.

Bydd hyn yn galluogi'r cynlluniau i ystyried canlyniadau amgylcheddol lleol, lle bo'n berthnasol, ac o bosibl yn dod o hyd i atebion sydd â nifer o fanteision. Rydym yn disgwyl gweld cydweithio ac ymgysylltu gan bob parti.

3.5 Egwyddor 4: Cydweithio

Mae cydweithio â sefydliadau a rhanddeiliaid eraill yn allweddol er mwyn datblygu cynlluniau cynhwysfawr. Gan hynny, dylai'r cwmnïau wneud popeth o fewn eu gallu i feithrin cydweithio.

Pwysigrwydd cydweithio

Er mai'r cwmnïau sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyhoeddi'r cynlluniau, allan nhw ddim datblygu cynlluniau sy'n cyflawni eu potensial llawn heb fewnbwn rhanddeiliaid eraill o fewn ac o amgylch meysydd gweithredu'r cwmnïau.

Mae angen i'r cynlluniau gael eu datblygu a'u cyd-greu yn agos â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am elfennau eraill ar ddraenio. Gall awdurdodau lleol a'r rheoleiddwyr amgylcheddol fod yn gyfrifol am agweddau ar ddraenio dŵr wyneb a rheoli peryglon llifogydd, ac asedau draenio eraill sy'n bwydo i mewn i rwydweithiau'r cwmnïau.

Cafodd strategaeth FCERM newydd Lloegr ei mabwysiadu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 25 Medi 2020 ac mae'n darparu'r fframwaith i'r holl RMAs wella gwytnwch Lloegr yn erbyn perygl llifogydd a newid ar yr arfordir.

Mae'n nodi'r amcanion cyflawni hirdymor y dylai Lloegr eu cymryd dros y 10 i 30 mlynedd nesaf yn ogystal â mesurau ymarferol tymor byrrach y dylai'r awdurdodau rheoli risg eu cymryd nawr, gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau.

Cafodd strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer Lloegr ei chyhoeddi ar GOV.UK ym mis Mai 2021, ynghylch sut y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd a rhanddeiliaid cenedlaethol yn bwrw ymlaen â'r mesurau yn y strategaeth. Pwysleisiodd y strategaeth bwysigrwydd cydweithio ar gynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff ac ymgysylltu'n gynnar â'r buddiolwyr i helpu i ddatgloi cyfleoedd cyd-ariannu.

Un o'r camau allweddol yw: 'The Environment Agency will work with Water UK and Ofwat to assess the degree to which all relevant RMAs are actively contributing to the production of Drainage and Wastewater Management Plans by May 2022'.

Gallai rhanddeiliaid eraill, fel Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs) amgylcheddol hefyd fod â diddordeb, er enghraifft, mewn cynefin sy'n agos at un o asedau cwmni, a gallant rannu eu gwybodaeth am ofynion y cynefin a sut y gellid atal unrhyw risgiau posibl iddo neu fynd i'r afael â nhw.

Fframwaith ar gyfer cydweithio

Fe ddylai'r cynlluniau:

  • bod yn gydweithredol, dangos y cydweithio hwnnw, ac ymdrechu i wireddu'r nifer fawr o fanteision sy'n deillio o sicrhau'r gwerth gorau i'r economi, y gymdeithas a'r amgylchedd dros y tymor hir. Mae hyn felly yn cyd-fynd â'r Cynllun Amgylcheddol 25 Mlynedd yn Lloegr (gweler tudalen 96) a'r Strategaeth Ddŵr yng Nghymru
  • darparu fframwaith clir ac ymarferol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori â'r rhanddeiliaid allweddol
  • helpu i fynegi sut y bydd cyflawni'r cynlluniau hirdymor yn dod â manteision clir i'r rhanddeiliaid, y cwsmeriaid a'r amgylchedd

Ein disgwyliadau ynglŷn â chydweithio a'i heriau

Rydym yn disgwyl gweld cydweithio'n arwain at gyd-greu a chyd-ariannu atebion a all hybu'r gwaith o gyflawni'r cynllun tra hefyd, lle bo modd, yn darparu atebion integredig, i ddatrys materion fel perygl llifogydd dŵr wyneb neu wella cynefin naturiol.

Fel yn achos arweinyddiaeth, rydym yn disgwyl i'r holl bartneriaid sy'n cydweithredu ym mhroses y cynlluniau ymgyfarwyddo â chwaer-ddogfen Water UK ynglŷn â chynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff, Working together to improve drainage and environmental water quality.

Mae'r ddogfen honno'n esbonio proses y cynlluniau ac yn nodi sut y gall sefydliadau sydd â buddiannau neu gyfrifoldebau sy'n ymwneud â draenio, llifogydd a diogelu'r amgylchedd wneud gwelliannau drwy gydweithio i greu cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff.

3.6 Egwyddor 5: Arweinyddiaeth

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau arwain ar ddatblygu'r cynlluniau ac ymgysylltu ag eraill, gan adeiladu ar yr arweinyddiaeth y maent eisoes wedi'i dangos yng Ngrŵp Llywio DWMP, Grŵp Gweithredu DWMP, a'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen sy'n ategu'r gwaith hwn.

Dylai'r cwmnïau roi sylw hefyd i'w dyletswyddau statudol ar reoli draenio a pherygl llifogydd.

Rydyn ni hefyd yn disgwyl i fyrddau'r cwmnïau:

  • sicrhau bod y cynlluniau'n derbyn digon o adnoddau i gael eu datblygu
  • rhoi arwydd clir i'w timau cynllun a'u timau rheoleiddio ynglŷn â disgwyliadau'r bwrdd ar gyfer y cynlluniau
  • cymryd diddordeb gweithredol yn natblygiad eu cynllun, gan herio'r hyn sy'n cael ei wneud ac ystyried sut y gall y cynlluniau wella gweithrediadau ac atebolrwydd y cwmnïau
  • bod yn esiamplau ar gyfer hybu ymgysylltu aml-sector ynglŷn â'r cynlluniau a'u hybu o fewn y cwmni a'r tu allan iddo

Gan y gall draenio effeithiol wneud cyfraniad arwyddocaol at reoli perygl llifogydd dŵr wyneb, rydym yn disgwyl i'r RMAs perthnasol ddangos arweinyddiaeth briodol wrth gyflawni eu rhwymedigaethau ym maes rheoli perygl llifogydd drwy sicrhau bod eu sefydliadau'n mynd ati i ymwneud â phroses y cynlluniau.

3.7 Egwyddor 6: Cwsmeriaid

Ymgysylltwch â'ch cwsmeriaid

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ymgysylltu'n ystyrlon ac yn effeithiol â'u cwsmeriaid wrth ddatblygu eu cynlluniau drafft, a thrwy hyn gallu dangos bod eu cynlluniau terfynol yn dderbyniol i'r cwsmeriaid yn gyffredinol.

Fel gyda phrosesau cynllunio cymhleth eraill fel WRMP ac RBMP, disgwylir i aeddfedrwydd ac effeithiolrwydd y broses ymgynghori ddatblygu dros amser wrth i bob parti ddod yn fwy cyfarwydd â fframwaith y cynlluniau.

Er hynny, i geisio sicrhau'r ymgysylltiad a'r effeithiolrwydd mwyaf posibl yn y cylch cyntaf hwn dylai'r cwmnïau ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â chwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys pob grŵp o gwsmeriaid cyn belled ag y bo modd. Gan hynny, byddai'n ddymunol defnyddio amryw o ddulliau ymgysylltu, yn hytrach na dull ar-lein yn unig.

Os yw'r cwmnïau'n gwybod nad oes gan gyfran fawr o gwsmeriaid gyfrifon ar-lein a'u bod yn derbyn biliau papur yn unig, rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn anodd ar gyfer y cylch cyntaf o gynlluniau, o gofio effaith barhaus COVID-19.

Fe allai fod yn ddefnyddiol hefyd i'r cwmnïau ystyried, lle bo'n briodol, sut y gallai ymgysylltu ynglŷn â'r cynlluniau gyd-fynd ag ymgysylltiadau eraill megis ar Gynlluniau Reoli Adnoddau Dŵr. Gallai ymgysylltu o'r fath roi gwell dealltwriaeth i'r cwsmeriaid o'r cylch dŵr, a meithrin newidiadau yn ymddygiad y cwsmeriaid a allai arwain at ostyngiad yn nifer y carthffosydd sy'n cael eu blocio.

Esboniwch yn glir i'ch cwsmeriaid

Fe ddylai'r cynlluniau:

  • rhoi hyder i'r cwsmeriaid fod y lefelau gwasanaeth presennol i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid y dyfodol yn cael eu cynnal yn wyneb poblogaeth gynyddol, twf economaidd, newid yn yr hinsawdd, tynhau safonau amgylcheddol a disgwyliadau cynyddol y cwsmeriaid
  • dangos yn glir y gwelliannau gofynnol lle nad yw'r lefelau gwasanaeth yn ddigon da ar hyn o bryd (megis lle nad ydynt yn bodloni disgwyliadau rhesymol y cwsmeriaid)
  • disgrifio'n glir ble mae risgiau i wytnwch hirdymor yn parhau i'r cwsmeriaid a sicrhau bod y rhain yn dderbyniol i'r cwsmeriaid, cyn belled ag y bo modd
  • esbonio'r risgiau posibl y gall y cwsmeriaid eu creu megis effaith gwaredu eitemau untro yn anghywir, megis weips gwlyb, cewynnau a chynhyrchion mislif

Dangoswch werth am arian a manteision ehangach

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ddewis opsiynau gyda'r bwriad o sicrhau'r gwerth gorau am arian dros y tymor hir, gan ystyried y costau a'r manteision ehangach i'r economi, y gymdeithas a'r amgylchedd.

Rydym yn disgwyl i'r cynlluniau gynnig y gwerth gorau a bod yn fforddiadwy tra'n dangos eu bod yn ddilys drwy roi ystyriaeth briodol i flaenoriaethau'r cwsmeriaid a'u hawydd am risg.

Dylai cynlluniau hefyd amlygu unrhyw wrthdaro rhwng fforddiadwyedd a'r amcanion uchod a nodi'n glir sut y caiff gwrthdaro o'r fath ei reoli, a sut y caiff y risgiau eu lliniaru.

O ran cost, mae partneriaeth yn allweddol fel bod dull integredig o reoli draenio gyda dosraniad teg o faich buddsoddi rhwng y rhai sy'n talu biliau dŵr, trethdalwyr (lleol a chanolog), defnyddwyr priffyrdd, perchnogion glannau afonydd ac unrhyw randdeiliaid perthnasol eraill.

Cwmnïau Cymru

Dylai cwmnïau Cymru nodi sut y bydd eu cynlluniau'n cynnig manteision ehangach i'r gymuned, yr amgylchedd a'r economi. Gan hynny, bydd angen i'r cynlluniau ddangos tystiolaeth eu bod yn gyson ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Un o themâu allweddol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae polisi adnoddau naturiol Llywodraeth Cymru yn argymell dull seiliedig ar le er mwyn cyflawni rheolaeth gynaliadwy dros adnoddau naturiol ac felly dylai cynlluniau'r cwmnïau dŵr fod yn gyson â gwaith ar Ddatganiadau Ardal sy'n seiliedig ar le.

Dylai'r cynlluniau nodi hefyd sut y byddan nhw'n cyfrannu at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr yn unol â Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017.

Gallai hyn gynnwys hybu, mabwysiadu, cynnal neu weithio gyda phartneriaid i ddarparu systemau draenio cynaliadwy wedi'u hôl-ffitio neu gyd-fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd, gweithio'n greadigol gyda phartneriaid 'i fyny'r afon' fel ffordd o ddraenio'u hardal yn effeithiol a sicrhau manteision lluosog lle bo hynny'n bosibl.

4. Casgliad

Mae'r egwyddorion arweiniol hyn yn cael eu cyhoeddi ar ôl i'r cwmnïau gwblhau cyfnod yr Asesiad Sgrinio Dalgylchoedd, Risg Sylfaenol a Gwendidau seiliedig ar Risg (BRAVA) a'r cyfnod nodweddu problemau wrth ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y cylch cynllunio cyntaf hwn.

Gan ein bod ni erbyn hyn yn y cyfnod Datblygu ac Arfarnu Opsiynau, bydd 2021 i 2022 yn gweld y ffocws yn blwmp ac yn blaen ar ddatblygu opsiynau posibl ar gyfer lliniaru'r hyn sydd wedi'i nodi a blaenoriaethu'r camau sydd i'w cymryd.

Gan hynny, rydym o'r farn y bydd yr egwyddorion arweiniol hyn yn helpu i roi nodyn atgoffa amserol o ddisgwyliadau'r ddwy Lywodraeth a'r rheoleiddwyr ynglŷn â'ch cynlluniau drafft a'ch cynlluniau terfynol ar gyfer y cylch cyntaf hwn.

Rhaid i'n huchelgais ar gyfer rheoli'n hasedau a'n rhwydweithiau draenio a dŵr gwastraff fod yn uchel. Fel y gwyddom i gyd, mae'r asedau critigol hyn yn wynebu heriau cynyddol wrth inni brofi hinsawdd sy'n newid a thwf yn y boblogaeth. Rhaid inni gael cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau hyn, gan gynnwys materion gweithredol fel gorlifoedd storm.

Mae'r diwydiant dŵr wedi dangos arweiniad pwysig wrth gydweithio ar ddatblygu'r broses gynllunio hon, ac rydym i gyd am i'r cydweithio hwnnw barhau ac esblygu. Mae'r ddwy Lywodraeth a'r rheoleiddwyr yn croesawu cydweithio cynnar y cwmnïau â nhw wrth i'r cynlluniau ddatblygu.

Rhaid i'r cynlluniau hyn greu newid drwyddi draw ar gyfer rheoli draenio a charthffosiaeth, gan gynnwys dŵr gwastraff, nawr ac i'r dyfodol.

Fel Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr, bydd yr egwyddorion arweiniol hyn yn datblygu dros amser, yn enwedig wrth i'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff bontio i fod yn broses gynllunio statudol ar gyfer yr ail gylch.

Gyda hynny mewn golwg, mae Defra, Llywodraeth Cymru ac Ofwat yn croesawu unrhyw adborth ar y ddogfen hon a sut mae'n eich helpu wrth ichi symud ymlaen drwy'r cyfnod datblygu ac arfarnu opsiynau ac wrth ichi ddatblygu'ch cynlluniau drafft a therfynol.

  1. Mae adran 6(13) i (15) yn diffinio Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd fel a ganlyn: (13) ‘Risk management authority’ means (a) the Environment Agency, (aa) the Natural Resources Body for Wales, (b) a lead local flood authority, (c) a district council for an area for which there is no unitary authority, (d) an internal drainage board, (e) a water company, and (f) a highway authority.

    (14) ‘English risk management authority’ means (a) the Environment Agency, (b) a risk management authority within subsection (13)(b), (c) or (f) for an area that is wholly in England, (c) an internal drainage board for an internal drainage district that is wholly or mainly in England, and (d) a water company that exercises functions in relation to an area in England.

    (15) ‘Welsh risk management authority’ means (a) the Natural Resources Body for Wales, (b) a risk management authority within subsection (13)(b), (c) or (f) for an area that is wholly in Wales, (c) an internal drainage board for an internal drainage district that is wholly or mainly in Wales, and (d) a water company that exercises functions in relation to an area in Wales.’ 

  2. Y term statudol fydd ‘Cynllun Rheoli Draenio a Charthffosiaeth’ (DSMP), er y disgwylir i’r term a ddefnyddir ar hyn o bryd yn y fframwaith anstatudol (Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP)) barhau i gael ei ddefnyddio’n eang yn y diwydiant. Ar gyfer y canllawiau hyn rydym yn defnyddio’r term ‘Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff’ (cynllun). 

  3. Drwy’r canllawiau hyn i gyd, mae ‘cwmnïau Cymru’ yn cyfeirio at ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth y mae eu hardaloedd penodi yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru (Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru Welsh Water), ac mae ‘cwmnïau Lloegr’ yn cyfeirio at ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth y mae eu hardaloedd penodi yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr. 

  4. Y term statudol fydd ‘Cynllun Rheoli Draenio a Charthffosiaeth’ (DSMP), er y disgwylir i’r term a ddefnyddir ar hyn o bryd yn y fframwaith anstatudol (Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP)) barhau i gael ei ddefnyddio’n eang yn y diwydiant. Ar gyfer y canllawiau hyn rydym yn defnyddio’r term ‘Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff’ (cynllun).