Canllawiau

Cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff: Egwyddorion Arweiniol i’r diwydiant dŵr

Mae'r diwydiant dŵr wrthi’n llunio cynlluniau strategol ynglŷn â draenio a dŵr gwastraff er mwyn cynnal, gwella ac ymestyn systemau cadarn a gwydn ar gyfer draenio a dŵr gwastraff.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn llunio Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff er mwyn datblygu cynlluniau strategol a hirdymor (o leiaf 25 mlynedd) sy’n edrych ar y capasiti, y pwysau a’r risgiau i’w rhwydweithiau yn y presennol a’r dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd a thwf yn y boblogaeth.

Mae’r cynlluniau’n manylu ar sut y bydd y cwmnïau’n rheoli’r pwysau a’r risgiau hyn drwy eu cynlluniau busnes a thrwy gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Risg eraill neu berchnogion asedau draenio eraill.

Mae Defra wedi llunio’r Egwyddorion Arweiniol hyn mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat. Maen nhw’n nodi’r blaenoriaethau a’r disgwyliadau y bydd y Llywodraethau a’r rheoleiddwyr yn asesu’r cynlluniau yn eu herbyn. Bydd y cwmnïau’n llunio cynlluniau drafft at ddibenion ymgynghori yn 2022 a’r cynlluniau terfynol yn 2023.

Bydd y broses o lunio’r cynlluniau yn cael ei throi’n broses statudol drwy gyfrwng Deddf yr Amgylchedd.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 August 2022 + show all updates
  1. Added 'Supplementary guidance: drainage and wastewater management plans for storm overflows'.

  2. Added translation