Adroddiad corfforaethol

Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch

Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch yn nodi dull gweithredu strategol newydd ar gyfer sectorau diwydiannol amddiffyn a diogelwch y DU.

Dogfennau

Defence and Security Industrial Strategy

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch ddc-modinternet@mod.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Defence and Security Industrial Strategy (accessible version)

Manylion

Gan adeiladu ar ganlyniadau’r Adolygiad Integredig a’r Papur Gorchymyn Amddiffyn mewn oes gystadleuol, mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch (DSIS) yn rhoi’r fframwaith i lywodraeth weithio gyda diwydiant i gyflawni’r dyheadau hynny; gwthio arloesedd a gwelliannau mewn cynhyrchiant i sicrhau bod y DU yn parhau i gael diwydiannau amddiffyn a diogelwch cystadleuol, arloesol ac o’r radd flaenaf sy’n sail i’n diogelwch cenedlaethol ac yn sbarduno ffyniant a thwf ledled y DU.

Mae’r strategaeth newydd hon yn deillio o adolygiad traws-Lywodraethol, dan arweiniad y Weinyddiaeth Amddiffyn ond gyda mewnbwn ac arbenigedd gan adrannau eraill y llywodraeth. Mae’n nodi pecyn o newidiadau polisi, prosesau a deddfwriaethol ar draws meysydd caffael, cynhyrchiant a gwytnwch, technoleg ac arloesi, a chydweithredu rhyngwladol, allforio a buddsoddiad tramor. Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch yn gosod diwydiannau amddiffyn a diogelwch y DU fel galluoedd strategol yn eu rhinwedd eu hunain, ac yn nodi dulliau gweithredu penodol ar gyfer y segmentau gallu a thechnoleg penodol sydd bwysicaf i ddiogelwch cenedlaethol y DU.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 March 2021 + show all updates
  1. Added a Welsh translation of the Defence and Security Industrial Strategy executive summary.

  2. First published.