Canllawiau

Ymateb i COVID-19: Haf 2021

Diweddarwyd 27 August 2021

Applies to England

Drwy gydol pandemig COVID-19, amcan y Llywodraeth yw diogelu bywydau a bywiolaethau ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth wrth i’r DU lacio cyfyngiadau.

Mae’r DU wedi gwneud cynnydd sylweddol eleni. Mae caffael brechlynnau gan y Tasglu Brechlynnau a dyrannu brechlynnau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi sicrhau sefyllfa gref i’r DU. Mae’r DU wedi brechu mwy o’i phoblogaeth nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac eithrio Malta, ac wedi dosbarthu mwy o ddosau fesul pen o’r boblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y G7.[footnote 1] Gyda diolch i lwyddiant y rhaglen frechu, mae’r Llywodraeth a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi gallu llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae brechlynnau yn lleihau’n sylweddol y cyswllt rhwng achosion o’r haint ac afiechyd difrifol a marwolaeth.[footnote 2] Fel y nodwyd yn wreiddiol yn yr Ymateb i COVID-19 - Gwanwyn 2021 (‘y map trywydd’), gyda chyfran digon uchel o’r boblogaeth wedi’i brechu, gall y wlad ddysgu i fyw gyda COVID-19 heb fod angen y cyfyngiadau economaidd a chymdeithasol llym sydd wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2020.

Nid yw’r pandemig ar ben. Mae niferoedd yr achosion yn cynyddu ar hyn o bryd, yn yr un modd â’r nifer o bobl yn mynd i’r ysbyty. Bydd niferoedd yr achosion, y bobl sy’n mynd i’r ysbyty ac yn anffodus, marwolaethau, yn cynyddu ymhellach wrth i gymdeithas a’r economi ailagor. Rhaid parhau i fod yn wyliadwrus a gofynnir i bobl wneud penderfyniadau dysgedig ac ymddwyn yn ofalus a chyfatebol, er mwyn rheoli’r risgiau iddynt hwy eu hunain ac eraill. Mae lledaeniad diweddar yr amrywiolyn Delta, sef y prif amrywiolyn bellach ac yr amcangyfrifir i fod 40-80% yn fwy trosglwyddadwy na’r prif amrywiolyn Alffa blaenorol,[footnote 3] yn dangos pa mor gyflym all y sefyllfa newid. Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu y disgwylir i’r nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty gynyddu’n arafach na’r cynnydd a welwyd yn nhonnau blaenorol er bod cyfradd y twf a hyd y don yn parhau i fod yn ansicr. Bydd y data yn cael ei gadw dan adolygiad rheolaidd. Bydd lefelau’r haint a’r salwch yn parhau i fod yn uchel ac felly bydd yn amharu ar fywydau, yr economi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y penderfyniad ynghylch symud i gam 4 ar 19 Gorffennaf yn seiliedig ar asesiad o’r pedwar prawf, gan gynnwys yr effaith ar y GIG, ar 12 Gorffennaf.

Y risg mwyaf i gynnydd y mae’r wlad wedi’i wneud yw Amrywiolyn sy’n Peri Pryder yn dianc rhag imiwnedd yn llawn neu’n rhannol. Mae tystiolaeth y gall y brechlynnau fod yn llai effeithiol yn erbyn rhai amrywiolion, megis yr amrywiolyn Beta,[footnote 4] ac nid yw’r Llywodraeth yn gwybod pa amrywiolion newydd a fydd yn amlygu dros y misoedd a blynyddoedd nesaf. Hyd yn oed heb yr amrywiolyn newydd, gallai gaeaf nesaf gyflwyno ymchwydd pellach yn achosion COVID-19, a fyddai’n debygol o gael eu cymhlethu gan afiechydon resbiradol tymhorol, megis y ffliw.[footnote 5]

Felly, pan mae Lloegr yn symud i gam 4 y map trywydd, bydd y Llywodraeth yn parhau i reoli’r risg o salwch difrifol yn sgil lledaeniad y feirws. Bydd hyn yn nodi cam newydd yn ymateb y Llywodraeth i’r pandemig, gan symud oddi wrth gyfyngiadau llym ar fywydau bob dydd pawb, tuag at gynghori pobl sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, ochr yn ochr ag ymyriadau targedig i leihau risg. Er mwyn gwneud hyn, bydd y Llywodraeth yn:

  1. Atgyfnerthu amddiffyniad y wlad drwy frechlynnau gyda brechlynnau atgyfnerthu a chynyddu’r nifer o bobl sy’n cael eu brechu.
  2. Galluogi’r cyhoedd i wneud penderfyniadau dysgedig drwy ganllawiau, yn hytrach na deddfau.
  3. Cynnal cynlluniau Profi, Olrhain ac Ynysu cymesur yn unol â chymaryddion rhyngwladol.
  4. Rheoli risgiau ar y ffin a chefnogi ymateb byd-eang i leihau’r risg o amrywiolion yn amlygu yn fyd-eang a chyrraedd y DU.
  5. Cynnal mesurau wrth gefn i ymateb i ddisgwyliadau annisgwyl, gan dderbyn y bydd rhagor o achosion, pobl yn mynd i’r ysbyty a marwolaethau yn digwydd wrth i’r wlad ddysgu i fyw gyda COVID-19.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn Lloegr. Mae’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn sefydlu cynlluniau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

1. Atgyfnerthu amddiffyniad y wlad drwy frechlynnau

Ar 2 Gorffennaf, roedd oddeutu 38 miliwn o bobl yn Lloegr wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn ac oddeutu 28 miliwn wedi cael eu hail ddos.[footnote 6] Erbyn 19 Gorffennaf, mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd pob oedolyn wedi cael cyfle i gael dos cyntaf o’r brechlyn, ac y bydd dau draean o oedolion wedi cael eu hail ddos. I gyflymu’r cynllun brechu ymhellach, bydd y Llywodraeth yn gwahodd pobl i gael eu hail ddos wyth wythnos ar ôl y dos cyntaf i’r rheiny dan 40 oed, gan leihau’r cyfnod rhwng y dosau i wyth wythnos i bob grŵp. Yn amodol ar y cyflenwad yn parhau i fod yn sefydlog, golyga hyn y bydd yr holl oedolion wedi cael cyfle i gael cwrs llawn o’r brechlyn erbyn canol mis Medi. Mae’r Cyd-bwyllgor Brechlynnau ac Imiwneiddio (JCVI) annibynnol wedi cynghori y dylid cynnal o leiaf cyfnod o 8 wythnos rhwng y dosau gan fod tystiolaeth yn dangos bod y cyfnod hirach rhwng y dosau yn arwain at amddiffyniad hirdymor gwell, ac eithrio dan rai amgylchiadau prin.[footnote 7]

Mae dadansoddiad gan Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn awgrymu bod un dos o naill ai’r brechlyn Oxford/AstraZeneca neu Pfizer/BioNTech yn lleihau’r risg o glefyd symptomatig gyda’r amrywiolyn Delta o ~35%, a nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty o ~80%. Mae ail ddos yn cynyddu’r amddiffyniad i ~79% yn erbyn clefyd symptomatig a ~96% yn erbyn y nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty.[footnote 8]

Cyngor dros dro y JCVI, yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, yw cynnig brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 i’r rhai mwyaf bregus, gan ddechrau o fis Medi 2021.[footnote 9] Byddai’r rhaglen atgyfnerthu yn anelu at roi rhagor o wytnwch yn erbyn amrywiolion, ac uchafu amddiffyniad ymhlith y rhai sydd fwyaf bregus i afiechyd difrifol gan COVID-19 cyn misoedd y gaeaf, pan mae mwy o bwysau ar y GIG gyda’r galw o ran argyfyngau heb fod yn rhai COVID-19 ar ei hwyaf.

Byddai dos atgyfnerthu yn cael ei gynnig i grwpiau mewn dau gam ac, os yn bosibl, eu darparu ochr yn ochr â’r brechlyn ffliw blynyddol. Yn y cam cyntaf, byddai dos atgyfnerthu yn cael ei gynnig i oedolion 16 oed a hŷn sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin; y rheiny sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion hŷn; pob oedolyn 70 oed a hŷn; oedolion dros 16 oed a hŷn sy’n cael eu hystyried yn hynod fregus yn glinigol; a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen. Cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl y cam cyntaf, byddai’r ail gam yn ymwneud â chynnig dos atgyfnerthu i bob oedolyn 50 oed a hŷn; oedolion 16–49 oed sydd mewn grŵp mewn risg o’r ffliw neu COVID-19;[footnote 10] ac oedolion sy’n gysylltiedig ag aelwydydd unigolion sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin. Gall siâp argymelledig yr ymgyrch atgyfnerthu - gan gynnwys pryd, i bwy a pha frechlyn(nau) y byddai’n cael ei/eu (d)defnyddio - newid wrth i ragor o dystiolaeth ddod i’r amlwg.

Mae’r Llywodraeth wedi gofyn i’r JCVI roi cyngor ar frechu plant. Pan fydd y cyngor hwnnw wedi dod i law y Llywodraeth, caiff ei ystyried yn ofalus, a rhoddir diweddariad ynghylch sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu.

Yn ogystal, mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i ddiogelu’r bobl fwyaf bregus drwy wneud brechlyn COVID-19 yn amod i gyflogi staff ac eraill sy’n gweithio mewn cartrefi gofal. Mae’r Llywodraeth hefyd yn lansio ymgynghoriaeth maes o law ynghylch p’un ai a ddylid ymestyn yr amod hwn i ofal iechyd a rhagor o leoliadau gofal cymdeithasol, megis gofal cartref.

Dros y tymor hirach, mae’n debyg y bydd brechlynnau atgyfnerthu yn dod yn rhan reolaidd o reoli COVID-19, ynghyd ag ymyriadau fferyllol eraill gan gynnwys gwrthfeirysau a therapiwteg. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog sefydlu’r Tasglu Gwrthfeirysau.[footnote 11] Mae’r Tasglu yn arwain y gwaith o ddatblygu gwrthfeirysau a, os cânt eu profi’n ddiogel ac effeithiol, gallant helpu i atal lledaeniad, lleihau’r nifer o gleifion sy’n mynd i’r ysbyty a chyflymu’r cyfnod adfer. Bydd y Llywodraeth yn parhau i adnabod a rhoi triniaethau eraill, ochr yn ochr â’r rhaglen frechu, er mwyn galluogi rheolaeth hirdymor o COVID-19 a’i effeithiau clinigol. Bydd hyn yn sicrhau y gellir rheoli’r feirws ochr yn ochr ag afiechydon resbiradol tymhorol a bod y DU wedi paratoi am unrhyw bandemig arall dros y tymor hir.

2. Galluogi’r cyhoedd i wneud penderfyniadau dysgedig

Mae’r map trywydd yn nodi pedwar cam allan o’r cyfnod clo yn Lloegr.[footnote 12] Ar 14 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog oedi o bedair wythnos ar gam 3, o ganlyniad i’r risg ychwanegol a’r ansicrwydd a achoswyd gan ledaeniad yr amrywiolyn Delta sy’n fwy trosglwyddadwy. Bydd y Llywodraeth yn asesu’r pedwar prawf eto ar 12 Gorffennaf i benderfynu p’un ai a ddylid parhau i gam 4 ar 19 Gorffennaf.

Mae’r diweddariad hwn yn sefydlu’r rheolau a’r canllawiau a fydd ar waith yng ngham 4, er mwyn i fusnesau ac unigolion gael cyfle i baratoi. Mae’r dull gweithredu wedi’i seilio ar adolygiadau’r map trywydd o bellter cymdeithasol, ardystio a’r Rhaglen Ymchwil i Ddigwyddiadau. Cyhoeddwyd canfyddiadau cam cyntaf y Rhaglen Ymchwil i Ddigwyddiadau ar 25 Mehefin,[footnote 13] ac mae canfyddiadau’r adolygiadau o bellter cymdeithasol ac ardystio ar gael ochr yn ochr â’r ddogfen hon.

Yng ngham 4, bydd y Llywodraeth yn diddymu’r cyfyngiadau cyfreithiol sy’n parhau i fod ar waith o ran cyswllt cymdeithasol, digwyddiadau mewn bywyd, ac yn agor y lleoliadau sy’n parhau i fod wedi cau. Yn hytrach, bydd y Llywodraeth yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau dysgedig ynghylch sut i reoli’r risg iddynt hwy eu hunain ac eraill. Bydd y Llywodraeth yn rhoi canllawiau i’r cyhoedd a busnesau ynghylch sut allant helpu i leihau lledaeniad COVID-19 a lliniaru’r risg o ymchwydd arall sy’n rhoi’r GIG dan bwysau anghynaladwy.

Golyga hyn pan fydd cam 4 yn dod i rym:

  • Bydd y cyfyngiadau sy’n parhau i fod ar waith ar gyswllt cymdeithasol (ar hyn o bryd, 6 unigolyn neu 2 aelwyd dan do, neu 30 unigolyn yn yr awyr agored) yn cael eu diddymu ac ni fydd rhagor o gyfyngiadau ar y nifer o bobl a all gwrdd mewn unrhyw leoliad, dan do neu yn yr awyr agored.
  • Caniateir i bob lleoliad ailagor, gan gynnwys clybiau nos. Gall digwyddiadau mawr megis cyngherddau cerddoriaeth a digwyddiadau chwaraeon ailddechrau heb unrhyw gyfyngiadau ar y nifer sy’n cael mynychu neu ofynion pellter cymdeithasol.
  • Bydd yr holl gyfyngiadau ar ddigwyddiadau bywyd megis priodasau, angladdau, bar/bat mitzvahs a bedyddiadau yn cael eu diddymu, gan gynnwys y cyfyngiadau sy’n parhau ar y nifer a gaiff fynychu. Ni fydd darparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn ofynnol mewn digwyddiadau bywyd, na chyfyngiadau ar ganu neu ddawnsio.
  • Ni fydd ardystiad statws-COVID yn ofynnol drwy’r gyfraith fel amod i ymwelwyr gael mynediad i unrhyw leoliad. Gall sefydliadau ofyn eisoes i ymwelwyr am brawf o’u statws-COVID, cyn belled â’u bod yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys dan y gyfraith cydraddoldeb. Mae’r Llywodraeth yn darparu ffordd i unigolion ddangos eu statws-COVID yn rhwydd. Gellir cyflawni hyn drwy gwblhau cwrs brechlyn llawn, prawf negatif diweddar, neu brawf imiwnedd naturiol - drwy Bàs COVID y GIG ar ap y GIG.
  • Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddiddymu ym mhob lleoliad. Er mwyn helpu i leihau’r lledaeniad o COVID-19, bydd canllawiau a gyhoeddir yn cynghori y bydd gwisgo gorchudd wyneb yn lleihau eich risg a’r risg i eraill, pan ydych yn dod i gyswllt â phobl nad ydych fel arfer yn cwrdd â nhw mewn mannau caeëdig a phoblog.
  • Bydd rheolau cadw pellter cymdeithasol (2 fetr neu 1 metr gyda rhagofalon ychwanegol) yn cael eu diddymu. Dylech barhau i ystyried y risgiau sydd ynghlwm â chyswllt agos ag eraill, yn enwedig os ydych yn hynod fregus yn glinigol neu heb gael eich brechu’n llawn. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn ofynnol dan amgylchiadau prin yn unig: pyrth mynediad i deithwyr rhwng dadlwytho a rheoli ffiniau er mwyn rheoli’r risg o Amrywiolion sy’n Peri Pryder yn lledaenu rhwng unigolion; a dylai pobl sy’n hunanynysu barhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill, yn enwedig pan maent wedi cael prawf positif. Bydd lleoliadau iechyd a gofal yn parhau i gynnal prosesau atal a rheoli heintiau priodol yn ôl yr angen a bydd hyn dan adolygiad parhaus. Bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru yn seiliedig ar y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf yr haf hwn.
  • Ar gyfer lleoliadau unigol lle mae’r risgiau o ledaeniad cyflym yn arbennig o ddifrifol, bydd Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, mewn ymgynghoriad â gweithredwyr lleoliadau ac adrannau perthnasol, yn gallu cynghori y dylid rhoi rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith os ydynt yn angenrheidiol i reoli brigiadau o achosion. Dylai hyn fod yn dargedig, wedi’i gyfyngu o ran amser, ac yn berthnasol i leoliadau sy’n cynnwys cymunedau caeëdig a bregus, megis carchardai, canolfannau gwaredu mewnfudo a llochesi i’r digartref.
  • Nid yw’n angenrheidiol bellach i’r Llywodraeth gyfarwyddo pobl i weithio gartref. Gall cyflogwyr ddechrau cynllunio i ddychwelyd i weithleoedd.
  • Bydd rheoliadau sy’n gosod gofynion diogel o ran COVID ar fusnesau, gan gynnwys darparu gwasanaeth wrth y bwrdd, a chadw pellter rhwng byrddau, yn cael eu diddymu. Bydd y canllawiau ‘Gweithio’n Ddiogel’ yn cael eu diweddaru i roi enghreifftiau o ragofalon synhwyrol y gall cyflogwyr eu rhoi ar waith i leihau’r risg yn eu gweithleoedd. Dylai cyflogwyr ystyried y canllawiau hyn wrth baratoi’r asesiadau risg y mae eisoes yn ofynnol iddynt eu cwblhau dan reolau iechyd a diogelwch cyn y pandemig.
  • Ni chaniateir i fusnesau ei gwneud yn ofynnol i weithiwr sy’n hunanynysu ddod i’r gwaith, a dylent sicrhau nad yw gweithwyr a chwsmeriaid sâl yn mynychu’r lleoliad.
  • Bydd busnesau yn cael eu hannog i ofyn i staff a chwsmeriaid olchi eu dwylo’n rheolaidd a glanhau arwynebau y mae pobl yn eu cyffwrdd yn rheolaidd. Bydd y Llywodraeth yn darparu canllawiau ynghylch sut all busnesau leihau cysylltiadau di-angen yn y gweithle, pryd bynnag mae hynny’n ymarferol. Bydd gweithredwyr yn parhau i gael eu hannog i ddefnyddio mannau awyr agored pryd bynnag sy’n ymarferol, ac ystyried y cyflenwad o awyr iach mewn mannau dan do. Gellid defnyddio monitorau carbon deuocsid (CO2) i helpu i adnabod ardaloedd sydd â chyflenwad gwael o awyr iach ac anogir busnesau i gymryd camau i wella’r cyflenwad o awyr iach os yw darlleniadau CO2 yn uchel yn gyson.
  • Anogir busnesau i ddangos codau QR ar gyfer cwsmeriaid sy’n dymuno cofrestru yno gan ddefnyddio ap COVID-19 y GIG, er mwyn cefnogi gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG, ond nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol bellach.
  • Bydd y Llywodraeth yn newid y rheolyddion sy’n berthnasol yn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch i gynnal cyfuniad sylfaenol o fesurau diogelu gan uchafu presenoldeb a lleihau ymyrraeth i addysg plant a phobl ifanc. Bwriad y Llywodraeth o gam 4 yw na fydd angen i blant fod mewn grwpiau cyson bellach (‘swigod’), ac ni fydd angen i leoliadau’r blynyddoedd cynnar, ysgolion na cholegau gynnal prosesau olrhain cysylltiadau yn rheolaidd, a fydd yn helpu i leihau’r nifer o blant sy’n hunanynysu. Byddai prosesau olrhain cysylltiadau mewn lleoliadau addysgol penodol yn cael eu hysgogi os credir bod hynny’n angenrheidiol er mwyn ymateb i frigiad o achosion yn lleol.
  • Yn ogystal, bwriad y Llywodraeth yw eithrio unigolion dan 18 oed sydd wedi bod mewn cyswllt agos ag achos positif rhag y gofyniad i hunanynysu, yn unol â’r dull gweithredu i’r rheiny sydd wedi’u brechu’n llawn (fel y nodir isod). Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law ac mae’n debygol y bydd y newidiadau yn dod i rym yn hwyrach yn yr haf. Ni fydd cyfyngiadau ar addysgu a dysgu wyneb yn wyneb mewn prifysgolion.
  • Maes o law, bydd yr Adran Addysg yn rhoi rhagor o fanylion ac yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y trefniadau mewn lleoliadau addysg o gam 4, a fydd yn berthnasol i gyfnod yr haf a’r tymor canlynol.
  • Mewn cartrefi gofal, bydd y Llywodraeth yn diddymu cyfyngiadau sy’n cyfyngu pob preswyliwr i bum ymwelydd penodol. Bydd canllawiau penodol yn rhoi cyngor ar sut ddylid cynnal ymweliadau er mwyn cadw cartrefi gofal yn ddiogel gan geisio cadw ymweliadau mor agos â phosibl i’r hen drefn. Bydd angen i gartrefi gofal gynnal y mesurau atal a rheoli heintiau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu preswylwyr rhag y risg o gael eu heintio.

Nid yw llacio cyfyngiadau yn golygu bod y risgiau sydd ynghlwm â COVID-19 wedi diflannu. Yn hytrach, mae’n nodi cam newydd yn ymateb y Llywodraeth i’r pandemig pan fydd angen i bobl reoli’r risgiau iddynt hwy eu hunain ac eraill wrth i’r wlad ddysgu i fyw â’r feirws. Gan adeiladu ar y canllawiau wedi’u diweddaru ynghylch cwrdd â ffrindiau a theulu, a gyhoeddwyd fel rhan o gam 3, bydd y Llywodraeth yn darparu canllawiau ymgynghorol ar sut all bobl reoli’r risgiau iddynt hwy eu hunain ac i eraill. Byddant yn nodi sut mae’r ymddygiadau canlynol yn fuddiol:

  1. Cwrdd mewn mannau sydd â chyflenwad da o awyr iach pryd bynnag sy’n bosibl, megis yn yr awyr agored neu dan do gyda ffenestri’n agored.
  2. Gwisgo gorchudd wyneb pan ydych yn dod i gyswllt â phobl nad ydych fel arfer yn cwrdd â nhw mewn mannau caeëdig a phoblog.
  3. Golchi eich dwylo â sebon a dŵr neu ddefnyddio diheintydd dwylo yn rheolaidd drwy gydol y dydd.
  4. Gorchuddio eich trwyn a cheg wrth i chi besychu a thisian.
  5. Aros gartref os ydych yn sâl, er mwyn lleihau’r risg o ledaenu salwch arall i ffrindiau, teulu, cydweithwyr, ac eraill yn eich cymuned.
  6. Ystyried risgiau unigol, megis bregusrwydd clinigol a statws brechu.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i annog pobl i gael eu brechu, a hunanynysu a chael prawf os oes ganddynt symptomau. Bydd yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i bobl hunanynysu os ydynt yn cael prawf positif neu os gofynnir iddynt wneud hynny gan wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG. Bydd y cyhoedd yn parhau i gael eu hannog i lawrlwytho a defnyddio fersiwn ddiweddaraf ap COVID-19 y GIG er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.

Gall unigolion ddewis cyfyngu’r cysylltiadau agos a gânt gyda’r rheiny nad ydynt fel arfer yn byw gyda nhw er mwyn lleihau’r risg o gael eu heintio â COVID-19 neu ei ledaenu, yn enwedig os ydynt yn hynod fregus yn glinigol. Mae’n bwysig parchu a bod yn ystyriol o’r rheiny sydd efallai yn dymuno ymgymryd ag agwedd fwy gofalus wrth i’r cyfyngiadau lacio.

3. Cynnal cynlluniau Profi, Olrhain ac Ynysu cymesur

Mae gan y gwasanaeth Profi, Olrhain ac Ynysu rôl gyfredol bwysig yn rheoli’r feirws a lleihau’r risg o amrywiolion a all fod yn beryglus rhag lledaenu. Disgwyliad y Llywodraeth yw y bydd y system Profi, Olrhain ac Ynysu yn parhau i fod yn angenrheidiol drwy gydol yr hydref a’r gaeaf.

Mae parhau i gydymffurfio yn hanfodol i gefnogi’r wlad i fyw gyda’r feirws drwy gydol yr hydref a’r gaeaf.

Bydd profion i unigolion symptomatig yn parhau i fod ar gael. Bydd olrhain ac ynysu yn parhau i fod yn allweddol i fonitro a chyfyngu lledaeniad y feirws, yn ychwanegol at ddefnyddio ap COVID-19 y GIG (er y bydd cofrestru neu ddarparu manylion cyswllt i leoliadau yn wirfoddol bellach).

Bydd profion rheolaidd i bobl asymptomatig yn parhau i helpu i ganfod achosion ac atal lledaeniad. Bydd yn helpu i bontio gan fod pobl yn rheoli eu risg personol, gan ddiogelu eraill hefyd. Bydd wedi’u hanelu’n benodol at y rheiny nad ydynt wedi’u brechu’n llawn, y rheiny mewn addysg, a’r rheiny mewn lleoliadau risg uwch megis y GIG, gofal cymdeithasol a charchardai. Gall pobl hefyd ddefnyddio profion cyflym rheolaidd i helpu i reoli cyfnodau o risg, megis dychwelyd i’r gweithle, ar ôl cael cyswllt agos mewn amgylchedd risg uwch neu wrth dreulio cryn dipyn o amser ag unigolyn mwy bregus. Bydd profi yn y gymuned yn cefnogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar grwpiau sydd wedi’u heffeithio’n anghymesur a grwpiau risg uwch eraill.

Bwriad y Llywodraeth yw eithrio’r rheiny sydd wedi’u brechu’n llawn rhag y gofyniad i hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cyswllt ag achos positif, gydag eithriad cyffelyb i unigolion dan 18 oed (fel yr uchod). Bydd angen i unrhyw un sy’n cael prawf positif hunanynysu, waeth beth fo’i statws brechu. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law ac mae’n debygol y bydd y newidiadau yn dod i rym yn hwyrach yn yr haf.

Hyd at o leiaf diwedd mis Medi, bydd yr orfodaeth i hunanynysu a’r gefnogaeth yn parhau fel y mae nawr. Gall achosion positif a chysylltiadau agos na allant weithio gartref ac a fyddai’n profi caledi ariannol oherwydd eu bod yn hunanynysu fod yn gymwys am y Taliad Cymorth Profi ac Olrhain o £500 neu gefnogaeth ariannol gan eu hawdurdod lleol. Bydd cefnogaeth ymarferol ar gyfer hunanynysu hefyd yn parhau, gan gynnwys gwasanaeth danfon moddion a chymorth gan awdurdodau lleol.

4. Rheoli risgiau ar y ffin a chefnogi ymateb byd-eang

Amrywiolion sy’n Peri Pryder yw’r bygythiad mwyaf i’r cynnydd y mae’r wlad wedi’i wneud o ran llacio cyfyngiadau drwy’r map trywydd. Bydd amrywiolion yn parhau i amlygu’n fyd-eang dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, ac mae’n bosibl y bydd amrywiolion sy’n osgoi ymatebion gan y system imiwnedd, gan wanhau’r diogelwch a roddir gan frechlynnau. I reoli ac ymateb i’r risg a gyflwynir gan amrywiolion, bydd y Llywodraeth yn cynnal cyfuniad cadarn o fesurau, gan gynnwys ei mesurau iechyd ar y ffin.

Mae’r Llywodraeth wedi mewnosod ei system goleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol, a sefydlwyd gan y Tasglu Teithio Rhyngwladol, sy’n nodi’r mesurau sy’n berthnasol i bobl sy’n cyrraedd y wlad o wledydd ar y rhestri Coch, Oren a Gwyrdd.[footnote 14] Mae sgoriau’r risgiau yn cael eu cadw dan adolygiad parhaus, eu diweddaru bob tair wythnos, neu’n fwy brys os yw’r tirlun iechyd yn galw am hynny. Mae’n bwysig bod pobl yn parhau i lynu wrth y rheolau sy’n berthnasol i’r wlad maent wedi teithio ohoni.

Mae’r Tasglu Teithio Rhyngwladol hefyd wedi sefydlu tri chyfnod pan fyddai’r Llywodraeth yn adolygu’r mesurau sy’n berthnasol i bob haen risg, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur. Yn yr adolygiad cyntaf ar 28 Mehefin, cadarnhaodd y Llywodraeth y byddai’r rhan fwyaf o’r mesurau yn parhau i fod ar waith, gan nodi ei bwriad na fyddai angen i bobl sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr oren[footnote 15] hunanynysu os ydynt wedi cael eu brechu’n llawn, gan ddechrau ddiwedd yr haf. Bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn darparu rhagor o fanylion maes o law.

Yn ogystal, mae parhau i ddiogelu’r DU yn golygu rheoli lledaeniad byd-eang er mwyn cadw pobl yn ddiogel ym mhob man, ac atal Amrywiolion sy’n Peri Pryder rhag cael eu hamlygu’n barhaus. Bydd cyfyngiadau ar deithio yn parhau i fod yn rhan o hynny. I ddangos eu cefnogaeth, cytunodd y G7 i ddwysáu trafodaethau i ailddechrau teithio rhyngwladol yn ddiogel a chynaliadwy. Mae’r Llywodraeth yn ymroddedig i gyflawni’r agenda hon gyda’r G7, a thrwy drafodaethau â’r UDA a’r UE.

Dan Lywyddiaeth y DU, mae arweinwyr y G7 wedi cytuno ar gynllun i gyflymu’r cynllun brechu byd-eang, gan flaenoriaethu mynediad at frechlynnau mewn gwledydd sy’n datblygu. Ochr yn ochr â gwneud addewid i ddarparu 1 biliwn o ddosau drwy gyllid a rhannu dosau dros y flwyddyn nesaf (gan gynnwys 100 miliwn o ddosau gan y DU), bydd y G7 yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol eraill i gynyddu cyflenwad a chefnogi rhaglenni dosbarthu a brechu. Y DU yw un o’r cyfrannwyr mwyaf i’r Cyflymydd Mynediad at Offer COVID-19 (ACT-A), y mae eu cyfleuster COVAX hyd yn hyn wedi darparu dros 95 miliwn o ddosau i 134 o wledydd.[footnote 16] Roedd dros 90% o’r rhain yn frechlynnau’r Oxford-AstraZeneca, a gafodd eu datblygu gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU.

Yn ogystal, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau am rwydwaith cadw gwyliadwraeth ar bathogenau byd-eang (‘Radar Pandemig Byd-eang’) ym mis Mai.[footnote 17] Mae’r DU yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd ac eraill i roi’r Radar ar waith er mwyn i’r byd allu canfod ac ymateb yn well i Amrywiolion sy’n Peri Pryder a gwella’r parodrwydd i atal pandemig arall yn y dyfodol, ac ymateb iddo. Bydd gallu dilyniant genomig blaenllaw y DU yn gwneud cyfraniad allweddol i ganfod amrywiolion ac ymateb iddynt, ac mae’r DU eisoes yn cefnogi India, Nigeria a Brasil i wella eu galluoedd yn y maes hwn.

5. Cynnal cynlluniau wrth gefn

Hyd yn oed ar ôl y map trywydd, bydd risgiau sylweddol yn parhau i fodoli, yn enwedig mewn perthynas ag Amrywiolion sy’n Peri Pryder a allai wrthsefyll y brechlyn. Bydd y feirws yn parhau i gylchredeg yn y wlad hon a thramor, a gallai COVID-19 dros y gaeaf hwn, ynghyd ag ymchwydd o’r ffliw ac afiechydon resbiradol eraill, achosi straen ychwanegol i bwysau arferol y gaeaf yn y GIG. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Llywodraeth gymryd mesurau i helpu i reoli’r feirws yn ystod cyfnodau o risg uchel, megis y gaeaf, ond cyn belled ag sy’n bosibl, bydd yn blaenoriaethu canllawiau atgyfnerthiedig a cheisio ag osgoi cyfyngiadau mawr sy’n achosi costau economaidd, cymdeithasol ac o ran iechyd hefyd.

Ochr yn ochr â rheolyddion ar y ffin, mae gan y Llywodraeth amrywiaeth o adnoddau i reoli’r risg o amrywiolion ac i ymateb iddynt, gan gynnwys gwyliadwraeth, dilyniant genomig, rheoli brigiadau o achosion ac ymyriadau fferyllol (gan gynnwys ail-frechu). Bydd y Llywodraeth yn cynnal cynlluniau wrth gefn ar gyfer ailosod cyfyngiadau economaidd a chymdeithasol ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol os yw tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn angenrheidiol i atal neu reoli amrywiolyn peryglus. Byddai mesurau o’r fath yn cael eu hail-gyflwyno dim ond os nad oes dewis arall i atal pwysau anghynaladwy ar y GIG. Bydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal y rheoliadau cyfredol hyd at 28 Medi sy’n galluogi awdurdodau lleol i ymateb i fygythiadau difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd. Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi fframwaith rheoli brigiadau o achosion COVID-19 wedi’i ddiweddaru ar gyfer ardaloedd lleol maes o law.

Casglwyd fel rhan o adolygiad o ardystiad statws-COVID na fydd y defnydd o ardystiad yn ofynnol drwy’r gyfraith fel amod i ymwelwyr gael mynediad i unrhyw leoliad ar hyn o bryd. Mae’r adolygiad yn cydnabod y pryderon a gafodd eu mynegi mewn perthynas ag ardystiad, gan gynnwys y baich a fyddai’n ei roi ar fusnesau. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai ardystio ddarparu ffordd o sicrhau bod digwyddiadau yn mynd yn eu blaen a busnesau yn parhau i fod yn agored, os yw’r wlad yn wynebu sefyllfa anodd dros yr hydref neu aeaf. Byddai unrhyw weithrediad yn y dyfodol yn cynnwys ymgynghoriad ac archwiliad seneddol priodol.

6. Monitro data ac adolygu mesurau

Bydd y Llywodraeth yn parhau i fonitro’r data yn rheolaidd i sicrhau nad oes perygl i’r GIG wynebu pwysau anghynaladwy.

Yn hwyrach yn y flwyddyn, bydd y Llywodraeth yn asesu parodrwydd y wlad ar gyfer yr hydref a’r gaeaf. Bydd y Llywodraeth yn adolygu Deddf y Coronafeirws a’r rheoliadau sy’n parhau yn gynnar yn yr hydref i ystyried pa ofynion y mae angen parhau â nhw drwy gydol y gaeaf.

  1. https://ourworldindata.org/covid-vaccinations 

  2. https://www.gov.uk/government/publications/phe-monitoring-of-the-effectiveness-of-covid-19-vaccination 

  3. SAGE, ninety-second meeting on COVID-19, 9 Mehefin 2021 https://www.gov.uk/government/publications/sage-92-minutes-coronavirus-covid-19-response-9-june-2021 

  4. https://www.who.int/publications/m/item/weekly-epidemiological-update-on-covid-19—25-may-2021 

  5. https://www.gov.uk/government/publications/jcvi-interim-advice-on-a-potential-coronavirus-covid-19-booster-vaccine-programme-for-winter-2021-to-2022/jcvi-interim-advice-potential-covid-19-booster-vaccine-programme-winter-2021-to-2022#fnref:5 

  6. https://coronavirus.data.gov.uk/details/vaccinations 

  7. https://www.gov.uk/government/news/jcvi-advice-to-mitigate-impact-of-b1-617-2-variant 

  8. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/998411/Vaccine_surveillance_report_-_week_26.pdf 

  9. https://www.gov.uk/government/publications/jcvi-interim-advice-on-a-potential-coronavirus-covid-19-booster-vaccine-programme-for-winter-2021-to-2022 

  10. Mae Llyfr Gwyrdd Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn sefydlu’r grwpiau mewn risg o COVID: https://www.gov.uk/government/collections/immunisation-against-infectious-disease-the-green-book 

  11. https://www.gov.uk/government/news/government-launches-covid-19-antivirals-taskforce-to-roll-out-innovative-home-treatments-this-autumn 

  12. https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-response-spring-2021 

  13. https://www.gov.uk/government/publications/events-research-programme-phase-i-findings 

  14. https://www.gov.uk/government/publications/global-travel-taskforce-safe-return-of-international-travel 

  15. Brechiad llawn: 14 diwrnod ar ôl cwblhau cwrs llawn y brechlynnau, boed hynny’n gofyn dau ddos neu un dos (yn ôl amserlen awdurdodedig yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) 

  16. https://www.gavi.org/covax-vaccine-roll-out 

  17. https://www.gov.uk/government/news/pm-announces-plan-for-global-pandemic-radar