Canllawiau

Ffioedd y Llys Gwarchod (COP44)

Diweddarwyd 1 May 2024

Ffioedd

Math o ffi Ffi
Ffi gwneud cais – yn daladwy wrth wneud cais i gychwyn achos llys neu wrth wneud cais am ganiatâd i gychwyn achos £408
Ffi apelio – yn daladwy wrth ffeilio hysbysiad apelydd yn apelio yn erbyn penderfyniad llys neu’n ceisio caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniad llys £257
Ffi gwrandawiad – yn daladwy pan fo’r llys wedi cynnal gwrandawiad i benderfynu ar y cais ac wedi gwneud gorchymyn, datganiad neu benderfyniad terfynol £494
Ffi am gopi o ddogfen – yn daladwy wrth ofyn am gopi o ddogfen a ffeiliwyd yn ystod achos llys £5

Ni fydd ffi am geisiadau a gwrandawiadau sy’n ymwneud â gwrthwynebiadau i gofrestru atwrneiaeth barhaus (EPA) ac atwrneiaeth arhosol (LPA) os yw’r ceisydd yn atwrnai, neu’n unigolyn sydd â hawl i gael hysbysiad o’r cais i gofrestru. Os ydych yn unigolyn sydd â hawl i dderbyn hysbysiad, byddwch wedi derbyn naill ai hysbysiad LP3 neu hysbysiad EP1PG (EPA).

Cyfrifoldeb ar gyfer talu ffioedd

Ffi gwneud cais, ffi apelio a ffi gwrandawiad

Y sawl sy’n gwneud y cais neu’r apêl sy’n gyfrifol am dalu’r ffi. Oni bai eich bod yn gwneud cais am esemptiad rhag talu ffi neu ddileu ffi, rhaid i chi anfon y ffi gyda’r cais, hyd yn oed os ydych yn bwriadu adennill y ffi gan yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Ffi am gopi o’r ddogfen

Y sawl sy’n gofyn am gopi o’r ddogfen sy’n gyfrifol am dalu’r ffi.

Sut i dalu

Dylid talu ffioedd â siec, yn daladwy i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Dylech hefyd gynnwys llythyr gyda rhif eich achos (os yw’n hysbys) a’ch manylion cyswllt.

Adennill ffioedd

Mae p’un a allwch adennill y ffi yn dibynnu ar y math o gais.

Os yw’ch cais yn ymwneud ag eiddo a materion personol unigolyn, yna gallwch adennill y ffi gan yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Os yw eich cais yn ymwneud â mater lles personol, yna mae’n rhaid i chi dalu’r ffi eich hun. Fodd bynnag, os mai chi yw dirprwy neu atwrnai’r unigolyn eisoes, gallwch adennill unrhyw dreuliau a dynnwyd o gyflawni eich dyletswyddau, sy’n cynnwys ffioedd llys, hyd yn oed os yw eich cais yn ymwneud â mater lles personol.

Gall y llys benderfynu peidio â chaniatáu i’r ceisydd adennill y ffi a’r costau gan yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu gall benderfynu y dylai parti arall i’r cais llys dalu’r ffioedd a’r costau. Os oes angen i’r llys wneud penderfyniad ynghylch talu ffioedd neu gostau, dylech ofyn amdano yn eich cais.

Os bydd yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn marw

Ffi gwneud cais a ffi apelio

Os bydd yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn marw o fewn pum niwrnod i gyflwyno’r cais neu’r apêl, ad-delir y ffi.

Ffi gwrandawiad

Os bydd yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn marw, ni fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal ac nid oes ffi yn daladwy.

Help i dalu

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai y cewch ostyngiad:

  • os nad oes gennych fawr ddim cynilion a buddsoddiadau, neu ddim o gwbl
  • os rydych yn cael budd-daliadau penodol
  • os yw eich incwm yn isel

Darganfyddwch os ydych yn gymwys a sut i wneud cais am help i dalu ffioedd

Cysylltiadau defnyddiol

Y Llys Gwarchod

Rhif ffôn: 0300 456 4600

Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi

Cyngor ar Bopeth

Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar symud i ac aros yn y DU, gan gynnwys delio â fisas.

Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr.

Cysylltu â gwasanaeth llys neu dribiwnlys

Gall staff y llys eich helpu gyda gweithdrefnau’r llys a’ch helpu i lenwi’r ffurflen, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi na dweud wrthych chi beth i’w ysgrifennu.