Diweddariad ar adferiad y llysoedd a’r tribiwnlysoedd mewn ymateb i’r coronafeirws
Trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan GLlTEM yn y tymor byr a’r tymor canolig mewn ymateb i’r Coronafeirws (Covid-19).
Dogfennau
Manylion
Ymgynghoriad o ran Oriau Gweithredu yn ystod COVID
Yn dilyn cyhoeddi ein cynlluniau adfer, bu inni ymgynghori ar Oriau Gweithredu yn ystod COVID. Daeth yr ymgynghoriad i ben am 11.45pm ar 14 Rhagfyr 2020.
Ers mis Mawrth 2020, blaenoriaeth y Llywodraeth, gan weithio’n agos â’r farnwriaeth ac eraill, oedd sicrhau bod y system gyfiawnder yn parhau i gyflawni ei rôl hanfodol ar yr un pryd â chadw defnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn ddiogel, yn unol â chanllawiau iechyd y cyhoedd. I gyflawni hyn, mae GLlTEM wedi ymestyn ei ddefnydd o dechnoleg yn gyflym i alluogi cynnal gwrandawiadau dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. Bu i GLlTEM gau oddeutu hanner ei adeiladau dros dro, mewn ymdrech i ganolbwyntio ei ymdrechion a’i adnoddau mewn ffordd fwy effeithiol. Mae’r achosion brys wedi cael eu blaenoriaethu gan y farnwriaeth i sicrhau diogelwch y cyhoedd, amddiffyn y sawl sy’n agored i niwed, a diogelu plant.
Ar ôl ymateb yn effeithiol i’r argyfwng uniongyrchol, mae GLlTEM nawr yn canolbwyntio’n llawn ar adfer ei weithrediad a chynyddu capasiti’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i ddelio â’r baich gwaith arferol ar draws awdurdodaethau ynghyd ag achosion sydd dal heb eu penderfynu. Mae’r heriau mae hyn yn eu cyflwyno yr un mor anodd, yn enwedig oherwydd y cyfyngiadau a orfodir gan drefniadau cadw pellter cymdeithasol, ond mae’n hanfodol ar gyfer sicrhau bod y system gyfiawnder yn gwasanaethu’r rhai hynny sy’n ei defnyddio.
Mae GLlTEM wedi cyhoeddi’r diweddariad hwn ar gynnydd ei gynlluniau adfer, sy’n pennu’r gwaith a wneir yn y tymor byr a’r tymor canolig.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 July 2021 + show all updates
-
Page amended as full details of consultation now published separately.
-
Welsh CFT recovery plan updated.
-
COVID Operating Hours consultation closing date updated.
-
7 December presentation and speaking notes added.
-
Overview of HMCTS recovery for civil and family courts and tribunals published.
-
COVID-19: Update on the HMCTS response for criminal courts in England and Wales added.
-
First published.